Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

TREM AR BYNCIAU'R DYDD.

News
Cite
Share

TREM AR BYNCIAU'R DYDD. Y MAE y newydd yn cael ei sibrwd fod yr hir- gofiadwy Khartoum, lie y gwaedodd calon ddewr y Cadfridog Gordon i farwolaeth, wrth ddysgwyl yn ofer am gymhorth milwrol oddi ZIY wrth y weinyddiaeth Gladstonaidd, wedi syrthio i ddwylaw y Senoussistiaid. Trueni fod dinas beddrod" diaddurn y swyddog enwog ac hunan-ymwadol yn myned yn sarn o I dan draed estroniaid banner-barbaraidd Nis gall Mr Gladstone, er ei holl wrhydri ymddang- osiadol, roddi iawn digonol am y camwedd hwn, sydd wedi gwarthruddo Prydain Fawr yn ngolwg holl deyrnasoedd y byd adnabyddus. Er holl grochfloeddio Cymru Fydd am rin- weddau dychymygol y gwron o Benarlag, y mae wedi ei bwyso yn y cloriannau, a'i gael yn brin." Caed ef yn brin, fel tirfeddiannydd, gan William Speed, o sir Fflint, yr hwn, yn nghyd a'i deulu, sydd yn wylo'r dagrau yn hidl" ar ol cael ea hamddifadu o ffon eu bara a chyfrwng eu bywoliaeth. Pwy dosturi all fod yn mynwes dyn o'r fath at ddeiliaid yr Ynys Werdd ? Caed ef yn brin mewn cyfiawnder ymarferol (gan nad beth am gyfiawnder gwreiddiol) pan y rhoddodd filoedd lawer o eiddo yr Eglwys Sefydledig yn yr Iwerddon i waddoli Maynooth College, er codi fyny Babyddion, a meithrin Pabyddiaeth yn y wlad. Caed ef yn brin yn ei weinyddiaeth dramor, pan y trodd y glust-fyddar hollol i oclieneidiau yr anwyl Gordon am gymhorth yn ei gyfyngder, wrth amddiffyn (cotier) buddiannau Pryd- einig. Hefyd, dangosodd wendid ac ysgafnder nieddwl a barn wrth roddi gorchymyn i bom- bardio Alexandria, gogoniant yr Aipht; a thrwy hyny ddinystrio meddiannau acannedd- dai dynion diniwed. Pa fodd y bu gyda'r Loeriaid ? Ateb hanesyddiaeth, "Ichabod." Caed ef yn llai na phwysau yn ei weinydd- iaeth artrefol, mewn llawer dull a llawer niodd. Amser a balla i ni fynegu'r degfed ran o'i ddiffygion gwladweinyddol. Condemnia ereill am yr hyn y mae yn euog ei hun gwelir hyn yn ei areithiau GwyddeJig, a'i ymddygiad at ei ddeiliaid ei hun. Ychydig fisoedd yn ol, baich mawr y newyddiaduron Radicalaidd oedd gorthrwm Mesur Gorfodol Arglwydd Salisbury ac eto y mae yn ffaith fod Mesur Gorfodol Mr Gladstone yn ddiarebol am ei greulondeb. Yn wir, yr oedd dynion wrth y cannoedd yn cael eu carcharu heb un prawf o gwbl--dim ond drwgdybiaeth yn unig, tra y r5 rhoddir pob uhwareu teg iddynt i amddiffyn t5 eu hun o dan y Mesur presenol. HOBBY-HORSE MR DILLWYN, A.S. Y mae yn amser enbyd ar Mr Dillwyn y dyddiau hyn; a chwareu teg iddo, nid heb achos y mae yn achwyn. Nid dyma'r seithfed tro i'r aelod anrhydeddus ei rido allan o flaen Sant'Stephan, Athen dinas Llundain ac nid oes amser gan neb i edrych arno, mae'n debyg. Dim lie i'r ceffyl pren Hawyr bach! beth sydd ar em seneddwyr ?■ Dylent ystyried fod Abertawe yn dief fawr iawn, ac ni ddylasent ar un cyfrif ddiystyru dim sydd yn gysylltiedig Z5 a hi. Rhai od iawn yw gwyr Llundain; Live and let live" yw eu harwyddair, yn annibynol ar urddas Mr Dillwyn ei hun. Mae yn edrych yn dywyll iawn wir ar y Liberation- ists, yn mysg pa rai y cawn y Doctoriaid mawr Pan a Michael!

GLADSTONE WEDI LLYNCU POLYN.

LLANWNEN.I

LLANPUMSAINT.

ABERGORLECII.

[No title]

BYD AC EGLWYS.

YR EGLWYS A'R WLADWRIAETH.

ER COF ANWYL

DYSGYBLAETH GLERIGOL.