Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
I wUectJlctd all 11 LUr. ,"-...,-,,,..........".....,.,-"J'----...............".v'--'"""""''--"---------------
I wUectJlctd all 11 LUr. J' v Undeb geidw y deymas hon rhag diddym- iad.PITT. Mewn undeb mae nerth."
TREM AR BYNCIAU'R DYDD.
TREM AR BYNCIAU'R DYDD. DEON GWLADOL CAERFYRDDIN (UCHAF). Y mae yn llawenydd genym gael ar ddeall fod y Parch. Samuel Jones, Ficer ptit-chtis a phrofiadol Llangunnor, wedi ei benodi gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi yn Ddeon Gwladol yn lie Esgob newydd Llanelwy. Gan fod y Deon Gwladol yn b iblogaidd a chymmeradwy fel Ficer ffyddlawn a chydwybodol, a chymydog carcdig ac heddychlawn, y mae ei ddyrchafiad i'r swydd newydd wedi rhod,li boddlonrwydd cyffredinol. Nid oes rhaid iddo wrth lytliyrau pan moliaeth oddi wrthym, gan fod "gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun olid wrth derfynu, dymunwn iddo bJb llwydd- iant'a ben lith yn ei faes newydd, a nerth yn 01 y dydd i gyflawnn ei dllyledswyddau er adeiladaeth ei gyd-offeiriaid yn y ddeoniaeth a gogoniant y Pen-Bugail mawr. BETH FYDD TYNGED ULSTER ? — RHYBUDD GOODWIN SMITH. Ysgrifena Proffeswr Goldwin Smith i'r Times, o New York, fel y canlyn:—"Osydym am weled y canlyniadau-a ddeilliai i'r Ymher- odraeth Brydeinig, pe byddai yn caniatau senedd wahanol i'r Iwerddon, yn ol dymuniad yr Home Rulers, edrychwn am foment ar y cysylltial sydd yn bodoli rhwng mwyafrif y Roman Catholics a lleiafrif y Protestaniaid, o dan ddeddfwriaeth daleithiol Quebec. Beth wna mwyafrif yr Eglwys Wyddeligyu Quebec t3 Z3 yn bresenol 1 0 dan y rhith-esgus o ddych- welyd i'r Jesuits yr eiddo a ddelid gandlynt cyn gorchfygiad Prydeinig Canada, gorfodant i'r lleiafrif Protestanaidd i dalu or trethi cyhoeddus er gwaddoli cymdeithas perthynol i lwys Rhufain, i'r dyben i ddifodi Protestan- iaid a dymchweliad llywodraeth Brotestanaidd. Os gwnaiff beth mor tileinig, beth na wna ? A pheth na wnai yr Eglwys Rufeinig a'r luwyafrif gwrth-Brydeinig yn yr Iwerddon? A fyddai yr ychydig awdurdod gwaharddol (veto) a gedwid gan y Llywodraeth Ymherodrol i amddiffyn y lleiafrif yn y Werddon ? A yw y veto a gedwir gan llywodraeth gyfawodol Canada yn amddiffyn y lleiafrif yn Quebec 1 Yn awr, dywedir wrthym nad oes gan lywod- raeth gyfamodol Canada dim mwy o hawl i ymyryd er amddiffyn y lleiafrif yn erbyn gorthrwm deddfwriaethol yn INhalaeth Quebec nad oes gin Dalaeth New York. Yr un dynged yn gywir fuasai yn aros Ileiaf t-if teyi-n- garol Ulster pe rhoddid Home Rule a senedd wahanol i'r I werddon ni allasai na chyfrarth na threfn wrthsefyll tide mawr gorthrwm a chreulondeb y mwyafrif. Cymerai ymosodiad didrugaredd le ar iawnderau addysg y lleiafrif Protestanaidd yn Quebec; yn wir, y mae yr ymosodiad wedi dechreu eisoes i raddau. Cedwir y lluaws yn Quebec mewn ystad o an- wybodaeth caddugol gan yr Eglwys Rufeinig n m Z5 ac heb fod yn hir, diddyniid cyfundrefn genedlaethol addysg yn yr Ynys Weidd yn y t, gyfangwbl. Mewn gair, y mae tynged y lleiafrif Protestanaidd yn Que >ec yn ddarlun cywir o'r hyn fyddai y lleiafrif Protestanaidd yn yr Iwerddon. Byddai Home Rule yn felldith yn yr olaf fel yn y blaenaf. Felly dysger y wers bwysig mewn pryd, cyn iddi ne fyned yn rhy ddiweddar." !■<! -.1
MR. GLADSTONE A'l DDEILIAID.
MR. GLADSTONE A'l DDEILIAID. PA LE MAE EI RYDDFRYDIAETH 1 Mr. William Speed, Clayhill, sir Fflint, a ddanfOhcdJ y llythyr canlynol i'r Liverpool Courier— "Gan fod lianes I troad allan ar ystad Hawarden' wedi yuoddangos yn eich newydd- iadut, pa un a ystvrid fel 'anwiredd hollol,' ef allai mai nid anfuddiol gan y cyhoedd fydd yr hanes ychwanegol at ganlyn :-Pan y cefais fy ngwerthu i fyny, o herwydd fy analluog-. rwydd i dalu y rheat-ol-ddyledion, pryuodd agent Mr. Gladstone fy ngheffyl a'm cert i toewn i mi, iL pba rai yr ennillwn fy mywol- iaeth. Dywedodd Mr. Mayhew wrthyf y diwrnod hwnw fod y cert a'r ceffyl i gael eu prynu i mewn i mi ar y telerau canlynol:— Sef fy mod i ad-dalu Mr. Gladstone trwy fan- daliadau. Yn fuan iawn cyhoeddwyd yn y newyddiaduron Radicalaidd fod y cert a'r ceffyl wedi eu rhoddi i mi yn ol yti rhodd ac yn rhad, a chanmolwyd baelfrydedd (?) Mr. Gladstone. Pa fodd bynag, ychydig ddyddiau 0 t5 yn 01, galwodd dyn o'r enw Scott am y cert, gan ddyweyd fod (tgent Mr. Gladstone wedi ei awdurdodi i'w fenthyca am dri diwrnod. ^ydunais a'i gais, wrth reswm. Ym mben y P«xhverydd dydd, gofynais am danynt yn ol; °ud dywedwyd wrthyf am fytied at un o'r gweithwyr ar yr ystad o'r enw R. Durham, yr liwn a wrtliododd ddychwelyd y cert hyd nes y cawsai orchymmyn oddi wrth Mr. Mayhew. Aethym wed'yn at Mr. Mayhew, yr hwn a ddywedodd nad oedd y cert wedi ei brynu i Wiewn i mi. Mewn atebiad, dywedais y cytnmeraswn y cert; dywedodd yntau, Na feiddiwch gyffwrdd ag ef.' "Fel hyn y daeth rhodd y cert' i ben, er fod y papyrau Glad- stonaidd yn dyweyd fod y I ceffyl a'r cert wedi eu hanrbegu i mi.' Yn wir, ni chaniateir i ini gael y cert ar yr "instalment system.' Barnaf y dylai'r ffaith hon gael ei gwneyd yn hysbys, er mwyn dangos pa faint o wirionedd sydd yn y Liberal press. Yr wyf yn awr wedi fy amddifadu o foddion fy mywoliaetii. Y mae fy nirawd wedi rhoddi benthyg ei gert i mi yn bresennol, ond beth wnaf pan y bydd ei eisieu yn ol'? Dyma hanes cywir o'r 'cert byd-enwog. Dyma Kyddfrydiaetli yn ci grytn, onide? !\Iae Mr. Gladstone am fod yn had ar bwrs y wlad," ond rhwyma ei bwrs ei hun i fyny yn ofalus. Hawddach dy weyd gwneyd. Practise what you preach, Mr. Gladstone.
MARWOLAETH MR. WM. SPURRELL,…
MARWOLAETH MR. WM. SPURRELL, ARGRAFFYDD, CAERFYRDDIN. Ar ol hir gystudd, bu farw Mr. Spurrell Prydnawn dydd Llun diweddaf (Ebrill 22ain), yo 75 oed. Yr oedd yr ymadawedig yn ys- gl,lhaig aeddfed a gwych, ac yn awdwr amrai t, y yfrau. Yn ei swyddfa yr argraflid Yr Haul r Cyfaill Eglwysig. Mewn gwleidyddiaeth, yr oedd yn Geidwadwr selog a chysson. Cym- erai ddyddovd^b mawr yn yr achos dirwestol; c yr oedd yn Ynad Heddwch dros y dref er ys blynyddau. Heddwch i'w lweh,
BYD AC EGLWYS.
BYD AC EGLWYS. (GAN HUGAN HIR). Y GYMRAEG YN YR YSGOLION DYDDIOL. Peth digon dymunol yw clywed yr lien iaith yn cael ei siarad, yn neillduol felly ei siarad yn gywir; ac y mae yr un mor ddymunol i'r llygad eilwaith ei gweled mewn ai-graff gywit- ae arddull brydfertli. Ond nid wyf wedi fy llwyr argyhoeddi hyd eto bod y cam y mae y gymdeitlias er defnyddio yr iaith Gymraeg wedi gymmeryd yn myned i'r iawn gyfeiriad. Ar ol peth profiad personol o'r anhawsderau lluosog sydd ar ffordd y Cymro i gyrhaedd gwybodaeth o'r Saesoneg, fel ag i'w alluogi i'w defnyddio yn rhwydd a pharod a chywir ar dafod ac mewn ysgrifen, rhaid yw tystiolaethu na chefais y Gymraeg yn un help at hyny. O'r ochr arall yr wyf wedi arfer meddwl mai ciotfrwym ydyw. Ac nis gallaf lai na chredu y teimlir hi yn fwy o gloffrwym wedi ei dwyn f I yma yn nes attorn, fel y dywedir, nag oedd o'r blaen. Yr wyf yn cydweled a'r cyfryw a fynant gael gwybodaeth am Gymru yn yr 0 ysgolion—yn ddaearyddol, hanesiol a gwleid- yddol-ond onid doethach, a llawer mwy y marferol, fuasai cael hyny yn yr iaith Seisneg 1 Nis gallwu ni mewn congl mor fechan o'r byd a Chymru fyw arnom ein hunain. Rhaid i ni ymddibynu i fesur pell iawn ar Loegr, ac yiii,, nnefiiio a'i harferion, a deall a siarad ny iaith y Sais. Gan hyny, onid g-well fuasai i ni wneyd hyny yn y ffordd oreu ac esiuwythaf i bob un or ddwy ochi-I Cyn belled ag yr el fy mhrofiad am rai blynyddau yng Nghymru a Lloegr, ac wedi ymwneyd rhywfaint a phlant uniaith ym mhob un o'r ddwy wlad, nid wyf yn galln gweled fod y Gymraeg yn fwy o nvystr ar ffordd y Cymro nag yw ei dafod- iaith lygredig a lleol ar ffordd y Sais. Y mae yti rliaid dyi-chtfu y naill a'r llall o honynt uwch law yr iaith. yr ymarferir a hi ar yr aelwyd. Ond ni ddaeth i ben neb yn Lloegr hyd eto i ddysgu grammadeg Seisneg a gwyb- t5 ZD 0 odaeth Seisnig, drwy ddefnyddio, dyweder, tafodiaith Cernyw, neu sir Efrog, yn gyfrwng at hyny. Y mddeugys yr amcana y gYlll- deithas er defnyddio yr iaith Gymraeg wneyd rhyw beth yn debyg yng Nghymru. Ni a 0 n gawn weled pa fath gynnydd a wneir o dan y diefn newydd y rhoddir sel ac awdurdod cyfraith iddi eleni. Mae lie i ofni fod a fyno mympwy pleidiol gymmaint a hi pg sydd gan argyhoeddiad goleuedig o'i gwir L., r alwad sydd am dani. Y PARCH. J. R. KILSBY JONES. Y mae y rhan fwyaf o wythnosolion Cymru y dyddiau diweddaf wedi bod yn rhoddi am- linelliad o fywyd a gwaith a hynodion Mr Kilsby Jones. Gan fod cymmaint wedi ym- ddangos eisoes am dano diangenrbaid yw ail-ddweyd yr hyn a ddywedwyd gan ereill. Ag eithrio yr hynodion a ymwthient i sylw yn ei arddull, yr oeddyn ysgrifenwr rhagorol. Cyn helled ag yr elai yr hynodion hyny yr oeddent yn anurddo yn bytrach nag yn addurno ei ysgiifeniadau. Yr oedd yn ysgrifenwr clir, yu feddyliwr crvf, ac yn meddu ar doraetij o eiriau. Yr oedd yn hoff o osgoi y llwybr coch mewn ymadrodd ac arddull, ac felly yn dwyu llawer o eiriau newydd-greedig i mewn i'w weithiau. Hyd yr wyf yn cofio, ystyriai ef yr iaith Gymraeg yn rhwystr ar ffordd llwyddiaut a dyrchaliad y Cymro, a phrophwydai ei thranc. Yr oedd ef ei hun j gystal Sais ag oedd o Gyniro, a medrai amlygu ei hun gyda -cliymmaint o rwyddineb, min, a meddwl yn Gymraeg ac yn Saesneg. 0 ddeutu 25 mlynedd yn ol fe gyhoeddodd lyfryn o dan yr enw Cytiimliortli i Gymro i gyrhaedd gwybodaeth ymarferol o'r iaith Saesneg "—un o'i llyfrynau mwyaf defnyddiol yn ei ffordd a ymddaugosodd erioed. Yr oedd yn cyffwrdd a phethau nad yw llyfrynau o'r fath ag "English and Welsh Vocabularies" na geir- lyfrau, yn son dim am danynt. Carwn gael golwg ar y lly fry n eto. Yr wyf yn deall ei f id allan o brint erys blynyddau. Byddai yn burion peth i'n Byrddau Ysgol ac ereill yn dal perthynas ag addysg, ei fabwysiadu yn un o'u llawlyfrau mewn ysgolion dyddiol. Nis gwn iam nn yu fwy defnyddiol yn y ffordd o dros- ,Iwyddo'r ystyr yn gywir ac i'r pwynt mewn degau o ymadroddion, o'r Gymraeg i'r Saesneg. n Z5 Ysgrifenodd Ki'sby lawer o bob peth. Nid oedd euw a pherson neb, ef allai, yn fwy ad- nabyddus trwy Gymru a rhanau o Loegr nag ef. Z5 Y "CELT" AR "BWFFYDDIAETH." Y mae erthygl ar y testyn gwyntog uchod yn y Celt am Ebrill 19eg, yr hon a derfyna yn y geiriau hyn :—" Medr y peiriant hwn wthio dyn i gadair archesgob i'r hwn y buasai dwy lathen o gordyn lawer yn fwy cymhwys, ac un arttll i'r senedd y byddai y carchar yn fwy cymhesur a'i yniarweddiad. Mae yn sicr nad oes dim yn well nn'r puffing-machine i lanw llogell y bobl." Fe ddywedir llawer o wir- ionedd yn yr erthygl dan sylw. Y mae ei baich, fe ellid meddwl, yn cyfeirio at y rhai sydd wedi 11 gwrtligilio "Yll yr enwad, megys y Doctoriaid Thomas a Herber Evans, ac ereill. Ar bwffyddiaeth," i raddau pell, y mae Ym- neillduaeth wedi ei hadeiladu. Cyfundrefn yw sydd wedi arfer byw ar lytliyrau o gym- meradwyaeth. Fel y patent medicines yma I sydd yn gwthio eu hunain i'r golwg ym mhob y Z5 newyddiadur, y mae hithau, ac y mae wedi gwneyd o ddeutu yr un faint o ddaioni a hwythau i'r wlad. Nid oes nemawr o ddynion deallus yn ymwneyd llawer a gwyr y paterd medicines. Fe wyr y deallus na chant nemawr am eu harian ond twyll a siomedigaeth. Mae yr un sylw yn briodol at gyflwr pethau mewn rhan fawr o'r byd Ymneillduol. A'i barnu wrth safon ddynol a bydol, y mae wedi bod yn llwyddiannus; ond a'i barnu wrth safon gwirionedd a moesoldeb uchel, y mae ym In mhell o fod felly. Ac heb law hyn, a'i barnu oddi wrth safon crefyddoldcr yspryd a'r parch a'r gostyngciddrwydd hwnw a ddylai dyn goleddu at Dduw a'i betliau, ammheuwn fod Ymneillduaeth yn bendith. Mae lie cryf i gredu y bydd i ddylanwad addysg a n gwrteithiad meddyliol, pan ddelont yn gyffre- dinol, i wrteithio y culni a'r rhagfarn a'r dallineb moesol sydd ar hyn o bryd a'u gafael yn ddwfn ar Gymru. Buasai cystal i'r awdwr (Momus) beidio terfynu gyda brath i'r Eglwys yn ei erthygl ar "Bwffyddiaeth." Ychydig sydd i'w gael o hono yn yr Hen Fam. Y mae, o'i chymharu ag Ymneillduaeth, ym mhell, bell, ar ol yn hyn. Ond er colli am dymhor, y mae yn sicr o gyfodi eto. Fel y dywed Pope "Foi rising merit will buoy up at last. GWEINIDOGION A. GWLEIDYDDIAETH. Ymddengys llythyr yn Seren Cymru organ y Bedyddwyr-ar y testyn hwn am Lbrill 12fed. Mae yn brawf nad yw yr hen yspryd crefyddol gynt wedi darfod yn llwyr o'r enwad n hwnw. Nid yw yr awdwr -Awstiii--yii foddion gweled gweinidogion yr Efengyl, y n 113 y rhai a dybir eu bod yn ymwneyd a phethau sanctaidd, yn diwyno eu dwylaw wrth gydio mewn pethau bryntion fel Sunday Closing," I- Ifoitio a phethau cyffelyb. Mae synwyr cyffredin, a hyny o chwaeth sydd gan ddyn yn ei dueddu i ddiolch i'r golygydd am osod y llythyr i fewn yn y Seren, ac am agor ei golofnau i drafod y pwnc; ond y mae synwyr a chwaeth yr un mor gryf yr ochr arall, yn erbyn yr erthygl ddienaid sydd yn y golofn nesaf ar "Gynhwrf Degymol." Mae 1-11 yn syn genyf (o herwydd yr wyf yn adnabod y golygydd) pa fodd y gollyngwyd y fath ffiloreg baldorddus i fewn. Dyniaengraifft:— "Eu yn lied frwd ym mhlwyf Penbryn. Dywedir fod yr heddgeidwaid wedi bod yn yfed yn Gogerddan wrth fyned i fyny, nes bod yn hanner meddw, nid rhyft eld gan hynny fod ychydig o anghydfod wedi cyfodi rhyngddynt a'r gwrth-ddegymwyr." Nid oes dosparth yn y wlad yn teilyngu mwy o gydymdeimlad o'n tn na'n beddgeidwaid ar hyn o bryd. Y mae anhawrsderau mawrion ar eu ffordd i gyflawnu en dyledswyddau pwysig. ond y anient yn eu cyll iwnu, a'u cyllawnti i foddlonrwydd pawb 8ydd a. chariad yn ei galon at gyfraith, at ryddid, ac at ei wlad. Ni d laeth neb o dan yr erlidigaeth etholiadol ddiweddar yn fwy na'r liedd-eid waid, ac nid oedd neb o'nswvdd- ogion yn teilyngu llai o'u herlid. Ond y gwir am dani yw, y mae haid i'w cael yn cyfodi i fyny, ac yn chwennych awdurdod yn awr, sydd a'u bryd ar lwyr ddyfetha pob math 0 drefn a sefydliad yn ein plith, yn enwedig os bydd a (VIlO gwr boueddig neu swyddog n ZD 0 cyhoeddus ddim ag ef. Er gwaeddi Llywod- raeth Gartrefol, am Aflywodraeth y dyheant. Yn yr un erthygl fe geir y gosoliad canlynol Cofio i mi ddartten fod rhyw esgob wedi cael £ 110,000 wrth gael ei droi allan o'i esgobaeth." Mi a fynwn, tuag at foddio cyw- reinrwydd, wybod enw ac esgobaeth yr esgob hwn. A byddai yn burion peth gwybod ym y I mha oes a rhan o'r byd yr oedd yn byw. Nid oes neb yn ail i rai gwleidyddwyr Radi- calaidd am wneyd gosodiadau, ond wedi eu gyru i gongl, ceir bod eu cannoedd hwy fel yn chwedl y cathod, yn darfod mcwn rhyw gath Iteb ein oath ni, beth bynag." COMMISSIYNAU BREINIOL. Yn ddiweddar yr ydym wedi cael lluaws o gommissiynau, amcan y rhai oedd chwilio i fewn i weithradiadau rliyw ddeddf seneddol, neu sefyllfa pethau yng nglyn ag addysg, neu ryw amgylchiadau cymdeithasol ereill. Ar y cyfan maent yn cyliawnu en gwaith yn lied dda. Maent yn foddion i ddwyn lluaws o ffeithiau dvddorol i'r golwg, a chrynhoi swm mawr o ystadegau a gwybodaeth fuddiol ac ymarferol. Y mae o leiaf ddau gommissiwn ar gychwyn i'w gwaith yn awr—un i wneyd y n ymchwil i weithrediadau y Ddeddf Can ar y Sul, a'r llall i weithrediadau y gyfraith sydd yn gorfodi pobl i roddi brech y fuwch i'w plant. Yn gymmaint an bod wedi pender- iynn gwneyd ymchwiliad i'r mater olaf hwn, fe ddylid ei wneyd mor drwyadl ag sydd yn bossibl, fel y bo i teddwl y wlad ga^l ei dawelu ar y pwnc, gan y dichon i sefyllfa gynliyrfus, fel yr un yr ydym ynddi yn awr, broti yn beryglus. Os ydyw brech y fuwch yn dda, a phe bai ymosodiad cyffredinol oddi wrth y frech wen ym cymmeryd lie, a miloedd yn neu wedi esgeuluso buchfrechu eu plant, gallai y canlyniadau fod yn drychinebus. Mae yr anghydwelediad yn nglyn a buchfrechu yn frwydr rhwng gwyddoniaeth a rhagfarn neu anwybodaeth. Ond ef allai nas gallesid gwueyd yn well na chwilio i mewn i'r pwnc, a gobeithio y penderfynir ef unwaith am byth. WESTMINSTER ABBEY A JOHN BRIGHT. Er y dydd y bu John Bright farw, y mae ei enw wedi ei gyssylltu lawer gwaith a. Mynach- log Westminster. Teimlai llawer y dylid ei gladdu yn yr hen Eglwys ardderchog bono. Ond nid oedd un awydd ar John Bright ei hun 0 1 gael yr anrhydedd hwnw. Pan ddeallwyd :iiad oedd wedi ei fedyddio, gwelodd rhywun y gallasai anliawsder fod ar ftordd eigladdu yn yr Abbey, am, meddynt, fod un o reolau y He yn rhwymo bod yr ymadawedig wedi ei fed- yddio. Meddyliodd ereill ygallent ergydio ar yr lglwys drwy gyfraith gaethiwns felly; a dyma hi yn ysgiifenu gwyllt mewn rhai swydd- fevdd. Holwyd i mewn i'r peth yn y senedd, a bu yr Ysgrifenydd Cartrefol yn ddigon call i beidio rhoddi atebiad pendant i'r hwn oedd yn holi—un Mr Sumners. Yn y Law Times, mae paragraph byr ar y pwnc i'r perwyl hyn Ymddengys i ni ei bed yn gyfreithlon i gladdu rhai heb eu bedyddio yn Westminster Abbey, ond cael caniatad y Deon a'r Siapter. Ond y cwestiwn vw, a ellir claddu rhai heb eu bedyddio yno, yn ol trefn EgJwys Loegr i gladdu, hyny yw, a defnyddio ei Gwasanaeth claddu hi 1 Nid yw y gwasanaeth hwnw i'w ddefnyddio ond pan fo'r ymadawedig wedi ei fedyddio ond y mae darpariaeth yn Neddf lJSSO i'r perwyl yma, sef y gall unrliy w wein- idog mewn urddau, mewn unrhyw achos, He nad yw yn gyfreithlon i ddefnyddio y Gwas- anaeth Claddu yn y Llyfr Gweddi, ddefnyddio unrhyw wasanaeth claddu arall a fo wedi ei gymmeradwyo gan yr esgob." Y mae Eglwys my tn 1-1) 0 Westminster Abbey, gyda golwg ar y gyfraith claddu, yn sefyll ar yr un tir a rhyw Eglwys Z5 arall. Yr un gyfraith i'r uchel a'r isel sydd yn yr Eglwys. Fel y mae yr un gyfraith yn cy cyffwrdd a'r hen fynachlog ardderchog yn Westminster, a'r adeilad llwyd ei wedd yng nghesail y mynydd yn sir Aberteifi neu sir Gaer felly hefyd y mae yr un ddarpariaeth grefyddol ar gyfer y frenines a'r fegeres, fel dwy gares o'r un gran," yn yr Eglwys Genedlaethol. ETHOLIAD CYFFREDINOL. Ym Mawr Sadwrn, Ebrill 20ain, mac "Un yn dyheu a llith ganddo ar y pwnc hwn; ond ni waeth iddo pa faint o ddyheu a wna. Tra byddo yr U ndebwyr a'r Ceidwad A-yr yn cydio yn nwylaw eu gilydd tra pery masnach amrywiol y wlad hon i fod yn llwyddiannus, fel y mae yn awr tra byddo y Prif-weinidog yn benderfynol i wneyd ei waith tra byddo Mr Balfour yn teimlo bod cyflawnu dyled- swydd yn rheitiach na gwrandaw ar gleber ddiystyr, y mae etholiad cyffredinol yn debyg o gadw mor bell draw ag sydd yn bosibl iddo. Nid oes un ddichell nac ystryw ar gael na ddefnyddiwyd hi i geisio dymehwelyd y Wein- yddiaeth, ondy mae yn awr mor gadarn ag yr oedd yn y dechreu. MARCHNAD LLAFUR. Fe ddengys cyfrifon y prif swyddfedd sydd yn cynnrychioli llafur, am y mis hwn, fod pob cangcn yn blodeuo ar hyn o bryd. Y mae y gnlwad am lafur gymmaint ag yr oedd y mis o'r blaen yng ngwaith llongau a pheiriauwaith, gweithiau glo a llaw-weithfaoedd haiarn ac y mae y tywydd wedi effeithio er gwell ar weithiau yn yr a wyr agored; tra y mae canghenau y gwehyddion a'r teilwriaid hwyjthau yn dechreu teimlo effeithiau y byw- iogrM'ydd a welir ar bob llaw. Y mae cyfrifon cymdeithasau adeiladu wedi cynnyddu yn fwy y cant nag eiddo nn gangen arall yn ystod y mis diweddaf. BONEDDIGESAU VR CYNGHORAU SIROL. Y mae Arglwyddes Sandhurst wedi colli ei Z5 sedd ar Gynghor Sirol Llundain. Datganodd z;1 y Barn wyr Stephen a Huddleston eu hopin- iwn nad oedd menywod yn gymhwys i'w hethol yn elodau o Gynghor Sirol. Nid yw y ewes- 4 6 tiwn, pa fodd bynag, wedi ei benderfynu yn hollol eto, gan i'r llys roddi caniatad i appelio yn fcrbyn y dyfarniad am wythnos. Mae llawer i'w ddweyd dros ac yn ferbyn i fenywod eistoo"- i" y èynghoral1; Qw1 gwell fuasii i'r senedd yfi gyntaf roddi y caniatad gofynol, yn hvtrach; nag i'r pwnc gael ei benderfynu mewn llys cyfreithiol fel hyn. Wrth reswm, fe effeithia dyfarniad y ddau farnwr yn achos Arglwyddes Sandhurst ar achosion bonedd- igesau ereill a etholwyd ar wahanal gynghorau. 9 t, Y DDEDDF LLYWODRAETH LEOL YN GYMRAEG. Un parod gyda'i gwestiynau yn y senedd yw yr aelod anrhydeddus dros Feirionydd (Mr T. E. Ellis). Er ys ychydig aniser yn ol gwnaed cais at y Ilywodr.,t eth i ddwyn allan argr&ftiad Cyniraeg o DJeddf Llywodraeth Leol, Ar ol ystyried y pwnc yn ddyladwy, caniatawyd y cais, a gwnaeth y Llywodraeth y parotoadau angenrheidiol i'w gwblhau. Yr wvthnos ddiweddaf gofynwyd i Lywydd y Bwrdd Llywodraeth Leol beth oedd yn achosi fod yr argraffiad Cymraeg mor hir yn dyfod o'r wasg. Atebwyd ei fod eisoes yn y wasg, ac y bydd allan cyn gynted ag y gellir. Ym- duengys i r cyfieithydd broli crYIl anliawsder with gyflawnu ei waith. Mae yn Gymro rhagorol, mae yn debyg, ond ofer dysgwyl iddo gvflawnu gwyrth. Mae yn annichon byth trosglwyddo cynnwys yr Act i'r iaith Gym- raeg, yn herwydd nad yw yn meddu yr ym- adroddion a'r geiriau priodol at, hyny. Yn ddiau fe fydd y llyfryn o gryn werth fel dernyn o lenyddiaeth Gymraeg yn y bedwar- edd ganiif ar bymtheg; ond fel llawlyfr o worth, hwylusdod na defnydd yn ein Cynghor- an Sirol, ni wneir dim ag ef. Nid ydys yn prophwydo ond ar y tir mai cytieithiad ac nid arall-eiriad yw. Os yr olaf, ni bydd o'r un pwvs a gwerth a'r Act yn Seisneg, ac ni wna ar y goreu ond cyfleu rhyw ddrychfeddwl cyffredinol am dani. MR. BOWEN ROWLANDS A'R COMMISSIWN i I Fel y gwyr y wInd, y mae ymch wiliad i gael ei wneuthur i'r gyfraith sydd yn gorfodi cadw y tafarndai yng ngliau ar y Sul yng Nghymru. Gofyjnodd yr aelod dros sir Aberteifi i'r Ys- grifehydd CartrefoJ, a roddai efe ei air y ceid mi o leiaf o'r boneddigion a appwynlid ar y uommissiwn yn deall Cymraeg. Ni roddes Mr. Matthews addewid bendant y gwneid, ac ychwanegodd y gallai gwybodaeth o'r Gym- raeg fod yn ddymunol, ond nad oedd hyny yn beth hanfodol. CretIn yr ydys fod Mr. Mat- thews yn ei le, ac ym mhellach fod yr hobbi Gymraeg yma sydd yn gyru hyd a lied y wlad yn awr wedi ei gyru eisoes lawer yn rhy bell genyrii. ACHOSION 0 GABLDRAETH. Nid yw 'y gyfraith yn foddhaol o gwbl ar bwnc cabldraeth, ac y mae eisieu trefnu rhyw fesurau i'w gwella, a chael mwy o sicrwydd yng nglyn ag achosion. Gwir iawn y dylai persoiwu gael eu hamddiffyn ym mhob ystyr, er hyny y niae yn ofynol, tuag at gyfeirio, a ffurfio opiniwn cyhoeddus, i'r wasg gael pob clnvttreu teg i ddweyd ei barn yn onest, ond iddi wneyd hyny heb ymddarostwng at enllib a difrin-eth bersonol. Y mae amryw o achosion o gabldraeth wedi bod o iflaen sylw y wlad yn ddiweddar; ac yr ydys yn credu y dylai rhai o newyddiaduron Cymru fod yn fwy goehelgar Z5 na,g ydynt. Nid oes agos cymmaint o ddifri- aeth iselwael yn y wasg Seisnig—hyd yn nod yn Rey)tolds, a'r Star—ag sydd yn rhai o'n newyddiaduron Cymraeg. Y mae hyny yn drueni) gAn fod dylanwad pob newyddiadur yn fawr, ac yn tueddn bob amser naill ai at iselu neu ddyrchafu chwaeth ei ddarllenwyr. N ewyddiaduron yw yr nnig bethan addarllena rhai, a dylent fod yn weddus eu hiaith, heb son aua ddim arall.
DADL FFERMWYR MYRDDIN A¡ PENFRO.
DADL FFERMWYR MYRDDIN A PENFRO. lfor- Y l' wyf wedi clywed fod rhai o'r Toriaid yn gormesu y dyddiau hyn. Cad^gan—Paid euro pant a thalar; gad i ni gael gwybod pwy sydd yn gormesu. Nid yw.vn ddigon i ti na neb arall i gyhuddo y Ceidwadwyr fel plaid o ormesu. Gad i ni gael itif esampl o'n gormes. Jfor—Darllenais yn mhapyr Caerdydd fod Mr Llewelyn, o Benllergaer, wedi gosod gor- fodjieth ar waith i beri i'w ddeiliaid danYRgrifio at y rhoddion oedd i gael en cyflwyno i'w fab ar pi ddyfodiad i'w oed. Grvjjydd-Nid oes goesaugangelwydd; niall sefyll dim mwy na chwd gwag; a chelwydd a gyhoeddwyd fod Mr Llewelyn yn rhoddi goiv y t5 fodaeth ar neb. Nid oedd eisieu rhoddi gor- fodaeth ar y deiliaid; yi- oeddynt oil yn ddigon parod i danysgriflo. Gyda hwy, a hwy yn unig, y dechreuodd y symmudiad, ac nid gyda Mr Llewelyn. Nid yw yn bosibl cael gwell boneddwr mae ei law a'i logell yn wastad yn agored at bob achos da. Nid oes un boneddiges chwaith mor haelionus ac mor garedig a Mrs Llewelyn i'r tylawd a'r angenus. Ifyiod- -Mae yn gywilyddns lllcddw1 fod dynion i'w cael mor iselwael a tliaenu anwir- eddau inaleisus fel hyn am foneddwr mor uchel ei gymmeriad a Mr Llewelyn. Mae y Radicaliaid fel y wiber yn y chwedl, maent yn barod i frathu durlif os na allant gael dim arall; os na allant gael gwirionedd, dyfeisiant anwireddau; duant a chamddarluniant ber- sonau. Nid oes dim gwahaniaeth pa mor dda, pa mor ddefnyddiol ydynt, os nad ydynt yn perthyn i'w plaid hwy. Gwilym-Mae teulu Penllergaer wedi bod, o dad i fab, yn ddiarebol fel meistri tiroedd da; ac nis gwyr neb yn well na'r deiliaid. Yr oedd y cannoe id oedd yn Benllergaer ychydig ddyddiau yn ol yn barod i dystio geir,irecld yr hyn yr wyf yn ddywedyd. Hir oes i'r etifedd, a bydded iddo efelychu ei dad ym mhob peth. Morus—Yr wyt ti, Gwilym, yn wastad yn canmol y Tot laid, nid yn ami yr wyt ti yn canmol y Rhyddfrydwyr. Gwilym- Y r wyf yn wastad yn barod i dalu teyrnged o barch i'r sawl y mae parch yn ddyledus, bydded ef Geidwadwr neu Rydd- frydwr ond y mae hyn yn groes i anian y Radicaliaid. Mae rhyw 11 liyiii a "ha" genych yn wastad pan ydych yn siarad am Geidwadwr neu Undebwr. Gwelais un papyr yr wythnos yma yn siarad yn fychanus am fab y diweddar Mr John Bright. Dewi-Fe drodd John Bright ei gefn ar Mr Gladstone pan ddygodd yr olaf fesur Home Rule i fewn. Nid wyf yn hofii gwammalwvr sydd yn troi o amgylch. Cadwgctn-Lle bu y fath wammalwr a Mr Gladstone? Yr wyf yn ei gofio yn Dori; trodd oddi wrth ei blaid, a daeth allan fel Peelite, canlynwr Syr Robert Peel, yr hwn a ddysgodd wleidyddiaeth iddo; wedi hyny cyfnewidiodd ei liw, a throdd yn Whig ac o fod yn Whig, fo aeth yn Radical gwyllt. Yr wyf yn cofio ei areithiau o blaid yr Eglwys wedi hyny, yr y'm yn cael yr un gwr yn ei dinystrio, a'i galw yn bren UpCtS, er mwyn heddychu y Gwyddelod, pa rai, yn lie gweUa aethant o ddrwg i waeth, a tywalltasant waed y gwirion fel dwr. Dafydd—Is id bai Mr Gladstone oedd hyny. Pa ham y rhoddir y bai arno ef 1 Cadiogan—Ei bolisi ef wnaeth y drwg. Carcharodd gannoedd o bobl heb un treial, ac wedi hyny gwnaeth gytundeb gwarthus a charcharorion Kilmainham. Yn ISSG, yr y'm yn ei gael yn ysgraglywiawdwr mewn Uawn bluf yn ymgyfeillachu ac yn ymgwplysu yn nghyd a'r personau oedd ef yn gondemnio. n Z5 Ciniawa gyda'r personau a garcharodd. Yr oedd Mr Bright yn hollol wahanol. Prydeiniwr yn gy ntaf, a'i blaid yn nesaf, oedd ei arwyddair ef. Ond nid oedd gyrfa Mr Gladstone ond gyrfa wammal ac ansefydlog; troi heddvw, troi y fory, troi drenydd. Yroedd Mr Bright n am gadw yr Undeb yn gyfan, a Mr Gladstone am ei dori yn yfflon. ifo)--A wyt ti yn gwadu nad yw Mr Gladstone yn ddyn mawr, yn gyllidwr heb ei ail ? Gntlydd-Ni chlywais neb yn animheu am ei alluoedd ond y mae yn ffaith ddiymwad mai Syr Robert Peel, Ceidwadwr, a'i gwnaeth ef yn gyllidiwr. Nid ani ei alluoedd yr y'm yn siarad, ond am ci ansefydlogrwydd, gwleidyddol. ])ewi—-Mae pobl Caerdydd yn myned i roddi dinasfraint y dref iddo mewn blwch gwerth tri chan gini. Gwilym,—Camsynied yw meddwl fod bwr- deisdref Caerdydd yn myned i roddi y ddinas- fraint i'r boneddwr anrhydeddus. Nid y mwyafrif o Radicaliaid sydd yn y Cynghor yw pobl Caerdydd dim o'r fath beth; ond ef allai fod y Radicaliaid, fel teilwriaid anfarwol heol Tooley, yn meddwl mai hwy yw y bobl.
LLANYBYTHER.
LLANYBYTHER. BRAIDD cyn y mae trwst etholiad y Bwrdd Sirol oddi ar dabwrdd ein clustiau, gwelwn y muriau a'r coedydd ym mhob cyfeiriad trwy'r plwyf, yr wythnos hon eto, wedi eu brithio gyda hysbysleni, yn galw sylw y plwyfolion at etholiad tair-blynyddol y Bwrdd Ysgol. Bobl! ai tybed y bydd plwyfolion Llan- ybyther, sydd yn proffesu cynnildeb i'r pen eithaf, mor anghysson ag i achosi treuiia.dan etholiadol y waith hon Buwyd yn bur ddoeth dair blynedd yn ol. Os ydym yn cofio, penderfynwyd niewn cyfarfod cyhoeddus ar bump o bersonau, allan o'r dwsin oeddynt wedi eu henwi yn barod. Gwnaed hyny yn unfrydol, er esgoi costau afraid etholiad cyffre- dinol. Hyderwn mai tebyg y try allan y tro hwn. Clywn fod parotoadau ar droed yn y pen dehenol o'r plwyf gyda'r amcan o attal pob ofer-draul ac anghydfod. Boed i'r un teimlad gael ei gario allan drwy'r oil o'r rhan- bartli. Os gwneir hyn, arbedir tretiliau di- angenrhaid, a chynnelir i fyny freichiau hedd- weh a chysur y gymmydogaeth. Hyfrydwch ydyw genym allu hysbysu darllenwyr lluosog y JOURNAL fod pob doethineb wedi cael ystyr- iaeth mewn perthynas i'r gwarcheidwaid eleni. Etliolwyd yn nnfrydol y ddau foneddwr oedd- ynt i mewn yn flaenorol. Pa ham nas gellir gwneyd yr un modd gydag aelodau y Bwrdd Ysgol ? Cyfaddefir yn gyffredinol fod yr hen aelodau wedi gwasanaethu eu tymhor yn hedd- ychlawn, gonest, ac ymdrechgar. Beth, yn enw pob rheswm, a ofynir yn ychwaneg oddi ar ddwylaw swydd wyr o'r fath 1 Hefyd, dylasem grybwyll ddarfod i'r hen Fwrdd gychwyn eu gyrfa lywodraethol o dan luaws o anfanteision. Ym mlilith ercill, gallwn nodi nad oedd yr un o honynt yn aelod o'r Bwrdd yn flaenorol, ac iddynt fod mor an- ffodus a cholli'r ysgrifenydd gyda'r cychwyn- iad. Felly, gwelir mai dwylaw newyddiou a dyfeithr i gyd oedd ar y llestr pan ei gwthiwyd i'r dyfnder. Ond yng ngwyneb y cyfan. buont mor unfrydol, gwyliadwrus, a modrus fel ag i hwylio'r Hong yn ddiogel am dair blynedd, trwy bob ystorom ac anliawsder a ddaeth i'w cyfarfod. 0 ganlyniad, onid per- sonau fel y boneddigion hyn ydynt y mwyaf cymhwys i ymgymmeryd at y Uyw yn y dy. ny fodol1 Os oes rhyw un o'r hen Fwrdd yn teimlo awydd rhoddi i fyny ei swydd, gadawer iddo wneyd hyny, a dewiser un cymhwys arall yn ei le. Os dygwydd fod ychwaneg nag un o'r teimlad a nodwyd, gwneler yr un peth. Wrth ymddwyn yn y modd hyn, y mae i ni ddysgwyl mwynhau cysuron cymmydogaeth dda. Terfynwn hyn o lith, gyda gobaith y gwna rhywun neu rhyw rai gymmeryd y pwnc i ystyriaeth o ddifrif yn ddioed.—Yr eiddoch yn gywir, TRETHDALWR.
AT Y PARCH. EBENEZER JONES,…
AT Y PARCH. EBENEZER JONES, FICER GELLI AUR. BARCIIEDIG SYR,-A fyddwch chwi gystal ag anrhegu darllenwyr Cymreig y JOURNAL a, chrynodeb o'ch daith gyda mab Arglwydd Emlyn yn ddiweddar 1 Rliydd hyn bleser mawr i ugeiniau i ddarllen heb law i MYRDDINFAB.
[No title]
TORI EI WDDF.—Cafodd dyn ei grogi am lofruddiaeth, a thorwyd y newydd i berth- ynas y dyn a grogwyd yn y modd a ganlyn Yr oedd eich brawd wedi bod yn cyfarch torf o hobl oddi ar esgynlawr, pa rai oeddynt yn gwrando yn astiid ond yn ddisymwth, gan nad oedd y platform yn gadarn, torodd dano, a chwympodd eich brawd i lawr yn syth, trwy yr hyn y torodd ei wddf
(liohcbiacth.
(liohcbiacth. POLITICS A'R PULPIT. At y Golygydd Cymreig. SYR,Y mae y paragraph a ymddangosodd dan y penawd uchod yn Y JOURNAL am y 12fed cyfisol, yn deilwng o sylw ac ystyriaeth pobl gwlad Efengyl, yn Eglwyswyr ac Ym- neillduwyr. Credaf ei bod yn ddyledswydd arbenig ar bob dyn a dynes oleuedig a chref- yddol i wrthsefyll mewn modd penderfynol ysbryd a thuedd anmhriodol llawer o Ymneill- duwyryr oes, i ddwyn tandyeithr"—gwleid- yddiaeth- i gynteddau Ty Dduw, yr hwn a ehvir yn Dy Gweddi" a mawl i'r holl bobl. Pa le y mae y bai 1 Wel, rhaid ateb mai ar yr arweinwyr, sef y pregethwyr Ymneillduol, i raddau helaeth, llawer o ba rai (mae rhai eithriadau da) sydd yn cyfleu o flaen eu cyn- nulleidfaoedd, hyd yn nod yn yr addoldai, bynciau gwleidyddol y dydd. Ni ddylai y pethau hyn fod felly; o herwydd yn y modd hyn yr hauir y gwynt," a cheir medi y corwynt yn lied fuan mewn yspryd anffyddol. Y mae rhyw hiraeth arnom ar ol yr hen efengyl wyr oeddynt wedi ymgysegru, gorpli ac enaid, i efengyleiddio'r byd. Hedd well a. chariad brawdol oedd eu harwyddeiriau bob amser; parchent bawb, a derbyniant barch gan bawb. Ond erbyn hyn, y mae Sosialistiaeth a Chommunistiaeth yn ymwthio i mewn i fynwesau, ac yn dangos eu hun yn rnywyd ac ymarweddiad proffeswyr crefydd Mewn difrif, mae eisieu diwygiad buan. L. I .—-—
PENCADER. t
PENCADER. t At y Golygydd Cymreig. SYR,—Yn eich newyddiadur am Ebrill 19eg, y mae un a eilw ei hun yn "Un o'r Nant yn rhoddi hanes araeth ddirwestol a draddodwyd yn y lie uchod gan y Parch. J. Griffiths, New Inn. Y mae yn ccisio ysgrifenu mewn dull barddonol a chlasurol; ond nid oes eisieu dar- llen ei ysgrif ragor nac unwaith drosodd er gweled fod y gwr galluog dipyn yn anffafriol i Mr Griffiths, ac i ddirwest hefyd. A yn mlaen gan ddyweyd, A chan fod cymmaint o'i bobl ei hun wedi ymgynnull, yr oedd yr addoldy yn llawn o wrandaw-yr," Da iawn, yn wir capel yn cynwys eistedrlleoedd i bedwar neu buiup cant yn llawn. Oddi wrth hyn-yna, gallwn gasglu fod preswylwyr cymydogaeth Pencader yn bur ffafriol i'r gymdeithas ddir- westol. Ond yr ydym yn cael ar ddeall gan eich gohebydd fod llawer o'i bobl ei hun wedi ymgunull," set rhai o gynulleidfa y Methodistiaid Calfinaidd yn New Iun; ac wrth hyny, gwelwn fod yn New Inn gynull- eidfa luosog, o blegid dywed llawer." Llongyfarchwn Mr Griffiths am y Ihvyddiant sydd ar yr achos yn y lie dan ei ofal. Pan ddaeth, erys ychydig flynyddau yn ol yn fugail i New Inn, yr oedd y praidd yn fechan mewn rhif, ond erbyn hyn gwelwn eu bod yn lluosog, ac fod ganddynt hefyd barch mawr i ddirwest ac i'w bugail, drwy ei ddilyn i gapel Annibynol Pencader. Wrth fyned yn y blaen, dywed fod yr areithiwr wedi adrodd alluyw chwedlau difyrus ac adeiladol. Oni bai ein bod wedi clywed y darlithydd, buasem yn casglu mai chwedlau oedd ei araeth oil. Ond chwareu teg i'ch gohebydd, ni fedr ambell i dderyn bigo i fyny ond us efe a adawa y grawn ar ol. Dywed yn mhellach fod y darlithydd "yn teimlo yn bur siomedig o herwydd absenoldeb gweinidog y lie ac ofteiriad y plwyf, ac i fod hyn yn ein tueddu (Mr Gohebydd a'i frodyr gwrth-ddirwestol, a allwn gasglu) i feddwl fod ganddo gryn olwg ar ei araeth ei hun," Yn. mha Ie y cafodd y drychfeddwl yna, tyhed A oes rhywbeth a fyno yr hen ddywediad isod a'r peth, Fel ei hun tebyga arall." Diamlieu fod Mr Griffiths yn teimlo yn siomedig na fuasai y brodyr uchod yn bresenol, pa rai sydd wrth yr un gwaith da ag yntau, yn ceisio moesoli a chrefyddoli'r byd. Y mae dyn da yn hoff o gwmpeini dynion da ereill, ac nid fel y goludog hwnw, pa un a erfyniai ar Abraham am ddanfon rhywun i dy ei dad i rybuddio ei frodyr rhag dyfod o honynt i'r lie poenus hwn. Y mae genyf bob parch i ofteiriad y plwyf a gweinidog y lie, a gallaf eich sicrhau, Mr Gol., os nad ydyw ofteiriad parchus y plwyf yn ddirwestwr protiesedig, ei fod yn bleidiol i ddirwest, o blegid bum yn llygad-dyst o bono yn llanw y gadair lywyddol mewn cyfarfod pa un a gynhelid dan nawdd y gymdeithas ddir- my westol. Ac am weinidog y He, os nad ydyw yntau yn aelod dirwestol, er hyny y mae ar ei oreu yn ceisio dysgu moesoldeb a rlunwedd; ac os yn bleidiol i rinwedd, nis gall fod yn wrth- m ddirwestwr, neu ynte fe wadai'r Beibl, o ba un y mae yn pregethu mor effeithiol. Diauiheu y dywed eich gohebydd galluog nad oes yn y Beibl yr un gorchymyn pendant yn dyweyd am lwyr ymwrthod a'r ddiod feddwol. Os felly, dymunaf adgofio eich gohebydd niai llyfr 1 egwyddorion ydyw y Beibl, ac nid yn benaf gorchymynion pendant, a bod y Beibl, o ddechreu Genesis hyd ddiwedd Datguddiad, yn dysgu yr egwyddor o lwyrymwrthod a phob drwg, ie, a phob peth sydd yn arwain i ddrwg, a phwy a all ddarlunio pa faint o ddrwg a wna y ddiod feddwol ? Dywed y bydd Thomas Evans, Ysgubor Newydd, a John Jones, Glandywelyfacli, yn enwog am eu hoes am eu hareithyddiaeth." Byddant, gyfaill anwyl, ar ol hyny hefyd, chwi ellwch gredu bydd yr hyn a geisiant ddyweyd wrth eu cyd-ddynion am ddaioni dirwest a drwg meddwdod, yn aros yn annileadwy ar eu hol; ac y mae yn ddiaxnheu genyf y bydd plant i blant presenol Pencader yn eu canmol maes o law am geisio moesoli a sobri preswylwyr y He. Da genym fod eich gohebydd wedi cyfaddef mai enwogi ac nid hynodi eu hunain y mae y brodyr uchod gwnaeth yr arch-dwyllwf Pigott hynodi ei hun, ond rhaid gwneyd daioni cyn enwogi. Dy- Z, y wcdaf wrth y ddau frawd, Ewell rhagoch mown daioni. Dywcd eich gohebydd, Oud y mac blaenor y fyddin wedi dystewi." Pwy a feddylia, tybed ? Dywed yn mhellach, Fod cegau gwyr y seindorf wedi sychedu o eisieu L brasder." Yn wir, Mr Gol., oes y dargan- fyddiadau ydyw yr oes bresenol, ac yr oeddwn yn credu mai yr hyn a drefnodd Rhagluniaeth ddoeth i ddisychedu Adda oedd dwfr, ond dyma ddarganfyddiad newydd gan eich goheb- ydd, sef brasder." Cynghoraf y Llywodraeth i roddi patent iddo ami. Ond credaf y buasai yn well gan eich gohebydd galluog, os yn sychedig, i dori ei syched a dwfr, llaeth, neu ddiod, nag a brasder. Bydded i bleidwyr dirwest yn y lie i fyned yn y blaen; na fydded iddynt i wangaloni, yw dymuniad GWLADUI; u GLAN TALOG.