Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

-----EISTEDDFOD LLWYNRHYDOWEN

News
Cite
Share

EISTEDDFOD LLWYNRHYDOWEN (Chwef. 1-jfed, 188!)). BEIRNIADABTH Ylt WYTH PENNILL ER COF AI Y DIWBDDAR MR D. THOMAS, RHYDOWEN SHOP. Mae 12 wedi canu ar y testyn hwn- Pererin, Wylofus, Prudd, Islwyn yn ei Alar, Aradog, Cyfaill, Un a gara Ddyn Geirwir, Llwch y Glyn, Hen Gyfaill, Hen Gyfaill yn ei gotio, Mab y Saer, a Deigryn. Mae llawer iawn o ffuga thwyll ac anwiredd yn nglyn a marwnadau a phennillion er cof am wahanol bersonau. Mae beirdd i'w cacl a fedrant dywallt dagrau yn ddeheuig, fel bo'r aclios yn gofyn. Maent mor barod i alarnadu ag yw yr undertaker i ymgymraeryd a gweith- rediadau a darpanadau claddedigaeth, a'r un mor ddefosiynol a gwynebdrist. Ond er cael yno yr elorgerbyd, a'r gweision, a'r meirch a'r teulu, a'r oil yn eu du, eto nis gallwn lai na theimlo nad seremoni wag a dideimlad ydyw. Felly llawer o'n gatarnadau eisteddfodol. Ffugia ein beirdd alar mewn mydr ac odl. Tywalltant ddagrau a dyrchafant ocheneidiau wrth ben becld dyn na welsant erioed mo bono, ac na wyddant ond ychydig am dano. Nid yw hyn ddim yn amgen na tliwyll a rhagrith, ac anwiredd ac anonestrwydd llen- yddol. Yn ddiweddar, mewn cymhariaeth yn ein hanes, y cododd y drwg hwn yn ein plith, a'r ysfa sydd ynom i ymenwogi mewn cystad- leuaeth sydd wrtli ei wraidd. Yr oedd yr hen farwnad Gymreig—os yn gyffredin a diawen, ac yn fynych yn anghelfydd, yn wir- ionedd, yn gyfansoddiad didwyll a dihoced—yn adlewyrchu adnabyddiaeth personol ac yn gynnyrch teimlad o hiraeth, ac yn adsain o galonau cyfeillion yr ymadawedig. Yn y gystadleuaeth lion mae lie i gredu fod rhai wedi canu yn unig er rowyn enuil y wobr; o'r ochr aral), mae lie mor gryf i gredu i amryw ganu o barch i goffadwriaeth y diweddar Mr D. Thomas, ac nad oedd yr eisteddfod ddim yn amgen na chyfleustra i'w teimlad i fynegu ei hun ar gan. Yr oedd ei gyfeillion a'i edmyg- wyr yn lluosog, ac yn ddiau yn eu plith fe gafwyd amryw a'u hawen yn barod i blethu melus gainc er cof am dano. Ar y cyfan mae y gystadleuaeth yn bur dda. Nid ydys yn y fan hon yn rhestru yr ymgeiswyr yn nhrefn teilyngdod. 1. Pererin.—Canodd ef yn y mesur a gyssegrwyd gan Datis Castell Hywel yn ei Fyfyrdod mewn Monwent))-a mesnr cym- hwys iawn ydyw i ganu ar destynau fel hyn. Dechreua ei gun yn yr hen ffordd sathredig :.— "0 mor greulon yw ergydion Angau creulon yn ein plith," &c. bryd bellach, wedi yn agos canrif o ymgystadlu eisteddfodol, ac oes o ysgolion dyddiol a darllen, hyd yn nod i'n beirdd mwyaf ceidwadol eu harferion a'u chwacth, i ymgodi uwch law yr ystrydebaeth yma, a symmud gam yn mlaen gyda'r oes. Cytfyrdda yr awdwr yn ysgafn ag amryw o nodweddion Mr Thomas, ond nid ydys yn teimlo gwres a bywyd yn ei gan. Ni fynwn ddigaloni neb, eto angenraid yw dweyd y gwir. 2. Wylofus.—Anfedrus ac annhrefnus ydyw fel cyfallsoddwr. Wedi tynu allan y mesur a'i odl o'i benillion, ychydig a fydd ynVeddill. Neidia yn ddireol o'r naill tifigwr i'r llall. Yn y pedwarydd pennill gwel yr ymadawedig wedi gwisgo megys gwron drosto holl arfog- aeth Duw yn y llinellau dilynol cenfydd ef yn "hau llu o hadau rhinwedd," y rhai a dyfant yn oes oesoedd ar lechweddau arall fyd." Rhy anhawdd cael ncmawr i'w ganmawl yn y gan. 3. Prudd.—Mae yn gwybod rhywbeth am gyfansoddi, digon o leiaf i'w rwystro i don y deddfau cyntaf a symlaf, oddi eithr y dengys beth anghysondeb yn y drydydd a'r chwechfed pennill. Yn y naill dywed y rhoddai yr ymadawedig gynghor cr lleshad mewn dwys ivyleidd-dra;" yn y Hall dywed "yn hyf fe roddai'n llawn glir ymresymiad." Nid yw hyfdra a gwyleidd-dra yn cydredeg fel rheol. Mae grammadeg yn dyoddef peth yn dros byth breswylio," ac yn ond heddyw nid yw gael." Diflyg newydd-deb yw'r gwendid amlycaf yn ei gan. Nid yw yn ffortunus yn ei fesur chwaith. 4. Islwyn yn el alar.—Saif hwn dipyn yn uwch na rhai sydd yma. Mae ganddo amryw feddyliau newyddion, ac y mae ei iaith ar y cyfan yn chwaethus. Mae yn fyr iawn o gynllun. Hefyd ymdry yn ormodol yn y fynwent. Nid cymmeradwy iawn yr ymad- rodd yn ffroenau'r oesau ddelo," yn yr wytb- fed pennill. 5. Aradog.—Galareb o'r hen tfasiwn sydd ganddo, ond y mae gystal a degau a argraffwyd cyn hyn. Dywed pwy a pheth oedd yr ymadawedignoda ei arferion a'i rinweddau fel dyn, masnachwr, a Christion dywed am ei garedigrwydd, ei sirioldeb a'i grefyddoldeb, ond gwna hyny heb fymryn o wres na bywyd. Ymdroi yn mhlith yr esgyrn sychion yr ydys hyd yn hyn. 6. Cyfaill—Mae yr hyn a ddywed ef yn wirionedd am yr ymadawedig, a gellid meddwl fod graddau o biraeth yn ei feddianu. Nid yw yn mhob man yn rhydd oddi wrth fan ddiffygion, megys am fod Duw yn ei gym- meryd "—yr amser yn ammhriodol ac Nid ymhoffodd unrhyw wagedd." Mae "ymhofli" yn gofyn arddodiad ar ei hol-yn lieu mewn. Defnyddia y gair cyfnos" yn anghywir i osod allan ei feddwl yn y geiriau Gorphwys wnelo drwy y cyfnos Nes agorir dorau'r bedd." Ystyr cyfnos yw gyda"Î< uos, tel cyfddydd, gyda'r dydd. Mae llawer o'i ymadroddion yn rhai ystrydebol. 7. Un ? gara ddyn geirwir.—Mae cymmaint i'w ddweyd dros y mesur ar ba un y canodd, a dim a berthyn i'w gan—mesur 12 + 11. Ymddengys yn un cymhwys iawn i ganu ar destynau o'r fath yma. Dengys yr awdwr ei fod yn gyfarwydd a Mr Thomas, ac wedi yin- wneyd ag ef ar wahanol lwybrau bywyd, ac wedi dal arno fel dyn, cymydog, a swyddog mewn eymdeithas. Dymunol yw cyfarfod a'r ysbryd tyner sydd yn rhedeg drwy y pennill- ion. Gallasai adael rhai pethau heb eu cry- bwyll. Nid ysgrifenu bywgraffiad yr oedd. bardd i fod yn rhywbeth heb law ac uwchlaw croniclydd ffeithiau. Y pwynt ucbaf a gyrhaeddodd ei awen yw hwn :— Bu'n addfwyn, bu'n ufadd dan amgylchiadau, Difalcbdcr, diymffrost, er cymmaint ei stor; Parhaodd yn Uristion yn ngwyneb pob rhwystrau Gan adael y cyfan i 'wyllya ei I. r. Dylid cotio fod "pob" yn y rhif unigol i'w ddilyn, megys "pob dyn" nid "pob dynion." Mae teimladau tyner a brawdol a charedig i'w cael yn y gan. 8. Llwch y glyn.—Dyma bellach enghraifft o'r farwnad ffnsiynol. Cynnwysa feddyliau digon teilwng mewn iaith nas gellir condemnio llawer arni. Ymddengys yr awdwr fel mewn ymdrech yn gosod allan ei feddwl; fel yn gwthio ei hun i dcimlad hiracthus, yn by trach nag ymollwng yn rhwydd a naturiol gyda'i deimlad. Cytfyrdda a phrif liuellau bywyd a chymmeriad y gwrthddrych. Annaturioldeb I ydyw bai inwyaf ei gan. Mae yr awdwr fel pe mewn cyflwr o drawsfudiad—rhywle rhwng byd y ffeithiau sychion a'r byd o farddoniaeth, a harddwch a fodola uwchlaw iddo. Mae: llawer i'w gymnieradwyo yn yr wyth pennill. 9 Hen ^Gyfaill.—Wyth pennill syml a dirodros sydd ganddo cf. Mae yr arddull yn rhyddiaethoL Nid yr un yw safon pawbo honom i farnu barddoniaeth wrthl, ond y mae rliywbetli hefyd y cytunwn oil ei fod yn fardd- oniaeth, ac y mae y rhywbeth hwnw ar goll yn mhenillion "Hen Gyfaill." Nid wyf yn gweled dim y gellir ei gondemnio ynddynt. 5 Macnt yn benillion llithrig, yr ieithwedd yn g) wir, a'r ffigyrau yn briodol, naturiol, a rl,eolaidd. 10. Ken Gyfaill y?t ei gofio.-Dynia bennill- ion a rhywbeth ynddynt in denu i'w darllen yr ailwaith—pennillion yn y rhai y ceir cryn brydferthwch partlied arddul!, chwaeth, ac awen, mewn mesur tarawiadol, ar odl yn hyfryd i'r glust, a gweddol berffaith. Dygir yr ymadawedig ger ein bron fel yr oedd, a chrybwyllir yr hyn a wnaeth heb orliwio dim dtsgrifir ei ddylanwad ar ei gylch gyda chywirdeb, a chofieir gyda theimlad hiraeth- lawn y golled a gafwyd ar ei ol yn y gwahanol g} Ichoedd y troai ynddynt. Agwneir hyn oil heb blygu at safon y cofrestrydd cyffredin. Gcilw y pennillion yr ymadawedig yn ol; ad- nabyddwn ef wrth y darlun, a theimlwn yn fo Idus i weled ei wedd unwaith yn rhagor. LI. Hab y 8(ter.- --Peiini Ilion gwych yw y rhai hyn hefyd ar fesur lOau. Rhoddant ddesgrifjad or hyn oedd yr ymadawedig ynddo ei hun, yn fwy nag or olvg allanol awelid arno. Cyffwnld a'i ddyn oddi mewn yn fwy nag a'i nodweddion allanol a wnant. Traidd yr awdwr o dan yr wyneb at ansawdd ac elfenau, yn fwy na chymmeryd golwg ar ag.veddau. Diwedda yn hapus fel hyn:- Dyledawydd, Rhyddid a Iawnderau dyn A fyddant fyth a'i enw øf yn nglyn A'i gof i'r oesau ddel a gaiff ei ddwyn, A gwyrddlas fydd tra maen ar faen o'r Llwyn. 12. Deigi-y)t.-Dyma wyth pennill da eto, yn y rhai y cawn gyfuniad o'r bardd a'r attironydd. Gafaela yr awdwr yn yr egwydd- ori in hyny oeddent yn seilian i'r cymmeriad hwnw a adeiladodd ac a gadarnhaodd, ac a sefydlodd Mr David Thomas flynyddoedd Jawer yn ol; ac yn y bywyd gwirioneddol hwnw a brofai ynddo ei hun, y bywyd o'r hwn nid oedd ei fywyd masnachol a'i holl ymwneyd a'i gyd-ddynion, ond arwyddion allanol a gweledig. Mae Deigryn yn feddyliwr ae yn medru rhoddi ei feddwl allan mewn geiriau cyiiimeradwy. Dymunol fyddai iddo dalu petli mwy o sylw i'w odlau. (Aedu yr ydwyf y rheda y tri diweddaf a enwyd—" Hen Gyfaill yn ei gofio," "Mab y Sat-r," a Deigryn/'—-ochr yn ochr a'u gilydd ac er mai peth annymunol i'r beirniad yn ogystal ag i'r cystadleuwr yw rhanu gwobr, eto ctedaf y dylid gwneyd hyny ar yr achlysur hwn. Ymdrechais mewn dychymyg gyd- givuhoi gwahanol farnau-barn cyfeillion yr ymadawedig—barn ei gydnabod, barn y dar- llenydd cyfiredin, barn y darllenydd ar gyfar- taK dd, a barn y darllenydcl uwchraddol, a chawn yr ochrai rhai gyda Hen gyfaill yn ei gofio,' y tueddai ereill at 11 Mab y Saer," ac y gogwyddai ei-eill drachefn at "Deigryn." l\hc'l' tri yn ymddangos ochr yn ochr, gan hyny rhaner y wobr rhyngddynt. EILIR.

i CARMARTHEN POST OFFICE.

_------STOCK AND SHARE LIST.

[No title]

------------.------.------...,"…

!---I CARDIGANSHIRE YE-ELECTIOS.

[No title]

Advertising