Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

[ At Ein Gohebwyr.

PAHAM Y TERFYSGA'R CENHEDLOEDD…

News
Cite
Share

PAHAM Y TERFYSGA'R CENHEDL- OEDD P Troer i unrhyw gwr o'r byd, o'r bron, a cheir y cenhedloedd yn terfysgu. Mae swn anesmwythyd i'w glywed ar bob llaw, a chenedlcedd y ddaear ben-ben a'u gilydd. Tra y line Cymru Ian lonydd yn mwynhau ei phrif wyliau crefyddol, a hyny mewn tywydd braidd yn drofanol, a hiyny hefyd heb swn terfysg yn ein heolydd, y mae cenhedloedd ereill mewn berw. Edrvcher ar Ffrainc yn yr argyfwng y mae ynddo yn awr. Beth yw ei sefyllfa ? Onid ydys yn disgwyl clywed bob dydd fod chwyldroad wedi tori allan yno? Er maint yr ymffrost a wnaed ac a wneir o'r Ffrancod fel cenedl o ddiwyll- iant ac o urddas, nid yw yr amgylchiadau y mae ynddynt yn awr yn un clod iddi. Y mae Gwasg pob gwlad watreiddiedig yn estyn bys at ei Byddin. Honant fod y pydredd mwyaf ynddi. Ni phetrusir galw ei chadfridogion yn ddynion dibarch i gyf- iawnder a gwirionedd—yn wir, ni phetrusa I Gwasg Prydain Fawr, yn anad; un wlad, a ) datgan yn ddifloesgni y dylasai pob un o'r swyddogion,milwrol fu yn rhoddi tystio- laeth yn erbyn Dreyfus, sydd yii awr" ar ei brawf yn Rennes, gael eu dwyn gerbron brawdle cyfiawnder eu hunain. Am y llys barn,—neu ynte y llys milwrol, fel ei gelwir, -y mae y byd yn edrych gyda llygad am- heus arno, ac yn dirgel, os nad yn gyhoedd- us, gredu na weinyddir cyfiawnder yno. Pwy wad nad yw amgylchiadau o'r fath yn ddigon i derfygu unrhyw geuedl ? Ac at hyn eto, edrycher at y terfysgoedd a fu yno y dydd- iau diweddaf hyn yn nglyn a'r Orleaniaid. Gwyddys mai pleidwyr yxnherodraeth ydynt. Carasant weled un o wehelyth Napoleon ar yr orsedd eto. Yn y fan hyn cyfyd y gofyniad, pa un ai bendith ai ynte melldith fu yr hil Napoleonaidd—o Napoleon I., haul dydd yr hwn a. faohludodd ar faes brwydr Waterleo, hyd Napoleon y III., a orchuddiwyd a gwarthrudd yn y rhyfel rhwng Ffrainc a'r Almaen-i genedl y Ffrancod. Ar y pwnc hwn y mae beirniaid hanesyddol yn gwahaniaethu yn ddirfawr. Fodd bynag am hyn, dengys hanes y genedl Ffrengig mai un o nodweddion amlycaf ei chymeriad yw ansefydlogrwydd—rhuthra o derfysg i gyflafan, ac o ymherodraeth i wer- i iniaethl; ac o weriniaeth i beth tybed ? Onid gwir y geiriau, Ansafadwy oeddit fel dwfr ni ragori di ?" Y mae ei hansefydl- ogrwydd yn achos o'i therfysgoedd. Edrycher adref eto. Y mae helynt y Transvaal yr peri blinder i Loegr hefyd. Hieddyw cyhoedda y newyddiaduron fod cymylau ystorm rhyfel i'w canfod; yfory datgenir fod y cymylau wedi eu gwasgar. Cyn yr hwyr, drachefn, mynegir fod y r cwmwl rhyfel yn ganfyddadwy etc. Effaith hyn yw peri i Saeson Lloegr a Boeriaid y i Transvaal ymderfysgu. A phaham yr ym- derfysgir? Beth sydd wrth wraidd hyn oil ? Dywed Mr Chamberlain, ar un Haw, fod gan yr Estroniaid-Prydeinwyr, gan mwyaf-sydd yn y Transvaal gwynion sydd yn seiliedig ar gyfiawnder; ac oherwydd na symudir hwy, dadleua Ysgrifenydd y Tref- edigaethau ac ereill heb fod o'r un ffydd wleidyddol ag ef, ei bod yn iawn i'r genedl Seisnig ymderfysgu. O'r ochr arall, dy- wed y Boeriaid nad oes sail o gwbl i'r cwyn- ion. Dyna hefyd yw barn Mr Bryn Ro- berts, A.S. dros Eifion, yn ol fel y datgaii- odd hi yn Nhy'r Cyffredin beth amser yn ol. Beth bynag am anghyfiawnder neu gyfiawn- der y cwynion, parodd i genhedloedd ym- derfysgu. Trown ein llygaid ar gyrau ereill o'r byd, a cheir fod Thyw achosion neu gilydd yn eu cynhyrfu. Y mae lefain terfysg neu an- esmwythdra yn dirgel weithio yn Rwsia, America, Spaen, yr Almaen, Awstria, China, Japan, a bron y gweddill o wledydd y ddaear; ond os mai dirgel yw yn awr, y mae yn sicr o ddyfod i'r golwg yn hwyr neu hwyrach. Paham y terfysga'r cenhedl- oedd?" Yr unig atebiad yw, nid yw cyf- iawnder a gwirionedd yn ffynu ar wyneb y ddaear megis ag y dylasent.

Y GENINEN EIST £ DDF0D0L'

Advertising