Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

- JACK Y LLOiNGWK

News
Cite
Share

JACK Y LLOiNGWK Eto rhaid i mi gyfadda a deyd fod mwy o lwythi neu o crdors yn cael 'u cynyg i mi nag a fedra'i storio yn "Y Werin" ar un- waith. Mae'r trad wedi cynyddu yn ofnat- san iawn. Wrth fy ngweiad i mor brysur mae rhai pobl yn methu a gwbod sut na faswn i yn gneyd fy ffortiwn. Pobol llygad y geiniog fydda'i yn galw y sort hyny. Gneyd pres ydi bob peth genyn nhw, ac nid bod o wasanaeth a mwytihad a daioni i'r byd. Deydir hefyd gan yr un giang fod yn rhaid fy mod i yn cael He da,—hyny ydi, yn cael gryb extra o dda. Welsoch i 'rioed gan lleied o fwyd a diod neiff fy nhro i. 'Does arna'i ddim isio pobol stecio llawar e: fy mwyn i. Nid dwad i'r byd yma i fyta a marw ddarumi: y dosbarth y nesaf atom ni o anifeiliaid dybir fydd yn gneyd peth felly. Ymborth syml fydd gen i, er na fydda'i ddim, fel Catherine Jones, Llan- bedrog, yn sticio i'r un bara ac i'r un men- yn Ni fyn Catherine Jones ond menyn Hen Dy a bara John Lewis. Petasach'i yn taenu y bara pan wedi 'i dori ag ymenyn o aur (maddeuwch y gymysgta) tasa ni ddim yn 'i fwyta os na fasa fo yn fara John Lewis; a fasa hi ddim yn bwyta Imenyn nob ond mi yr Hen Dy petasai hi TO g°rf^ heb yr un. Rhaid i mi fyta bara calad weithia, a bara meddal dro arall; menyn pot weithiau a 'menyn ffres dro arall. MORFA NEFYN. Fedrwn i ddim cael lie i gael tamaid o fwyd yma yr wsnos ddweutha, gym'int o bobol ddiath oedd yma. Clywais ddau fon- eddwr pwysig iawn yn cael sport fawr am .ben y ffaith nad oedd eu henwa' nhw ddim yn Est y Esltors. "Os ydvch chwi yn wr mawr yn Bethesda, ac yn ddyn pwyslg yu y cymydogaethau yno, ac os ydwyf nnau yn un o brii ddynion Birmingham, er y cwbwl oil nid ydym yn ddigon pwysig i'n henwau ni fod i lawr yn list fisitors y lie hu-n," medda un gwr boneddig yr wsnos ddweutha. Chwara teg i list y fisitors. Nid ar y list yr oedd y bai, ond ar y sawl a esgeulusodd anfon enwau y ddau foneddwr parchus i miawn. Mae fy hen gyfaill E. Thomas yn dal i ganu o hyd, ac yn rhoddi plesar i'r fisitors trwy ganu iddyn nhw. Mae yma Saesneg ofnadwy y dyddia hyn. Mae rhai personau mewn penbleth sut a pha beth i siarad. Deydir am fachgen o brentis ei fod o bron a dyrysu rhwng y ddwy iaith. Gofynwyd i mi a wyddwn i ddim am rhyw fachgan smart hefo beiseicl faisa'n myn'd yn gwmni i rhyw ferch ifand. Llawenhau rydw'i wrth welad y tshap ifanc hwnw o Llithfaen wedi cael golwg ar 'i gamsyniad, a'i fod yn myn'd a'i ben i ben yr Eifl i ga&il gwynt, yn lie boddro hefo merched dibrofiad tuag yma. NEr iN. Dylaswn fod wedi gwneyd sylw am farw- olaeth fy hen gyfaill hoff a ffyddlawn, John Elias. Nid oedd gen i well cyfaill nag ef Y tro dweutha bron y gwelais i o derbyniais wahoddiad gynd fo i fyn'd i aros hefo fo am ychydig yn y man. Ond dadfeiliodd yr hen gorph yn sydyn, a'r bedd ddilynodd. Teith- iaist lawar rhwng Nefyn a Phwlllieli. Daethost i'r daith olaf, ac yn awr gorphwysi oddiwrth dy holl oil deithiau. Buost ffydd- lawn i'th brorFes a'th alwedigaeth hyd dy fedd,—hyd ddyddia methiantwch a llesgedd. Pan y mae llysiau a blodeu y ddaear yn myn'd yn hen, y maent toe yn meirw yn niwedd tymhor eu bywyd, mewn gobaith adgyfodiad y tymhor newydd y flwyddyn ddyfodol. Felly am John Elias: aeth yn hen yn niwedd ei dymhor. Bu farw. Daw tymhor arall yn y man, a chwyd John Elias ar ei newydd wedd, ac ynddo elfenau tra- gwyddol ieuengrwydd. Cwsg, fy hen gyf- aill, cwsg! Dwn i idim pa sawl foyads fach raid i mi fyn'd cyn myned y foyads fawr. Derfydd fy holl foyadsus a fy holl drampio ai ina yn y man, a gallaf ddeyd, fy nghyfaill, fy mod yn barotach i fvn'd v foyads fawr nag y buom i 'riced. 'Does dim byd gweil i ddyn ar y ddaear hon na gneyd pob peth yn ngoleuni cariad at Iesu Grist a Dydd y Fern. EDEYRN. Helo, dyma un o frid y mor, mi wn ar 'i gyt o. Ail fedra'i ddeya pwy sy'n ilongwr pctaswn mewn milltir iddo fo. Mae yn tiawdd deyd oddiwrth 'i rig o. Mae gan y chwarelwr hoffder at ddillad crand, digon o liwia, ac o'r ffasiwn ddiweddaraf yn mysg y byd chwarelyddcl, ac y mae ganddo ei ddull ei hun o gerddad. Perthyna i longwr ei nodweddion hefyd, fel y deydais i o'r blaen. Llongwr ydi'r brawd yma sy'n 'i sgwario hi at yma. "'Smac 0 Hoi! 0 Hoi!" ebrai rhywun. "Lle'r ych'i yn rhwym?" Startiais y foment y clywaia I waeddi fel hyn. 'Rc,edd o mor debyg i'r dull y bydd llongwrs yn gwaeddi ar 'u gilydd ar y mor. Wel, dyma'r brawd along seid i mi, ac wedi tipyn o glirio'r dec a rhwbath felly, dyma fi yn cosi fy nghopa a cheisio cofio pwy oedd y bycq. Dyma Morgans, y person, yn pasio gan sychu chwys mawr, trwy fod y tywydd mor ddifrifol o boeth. 0 flipyn i fwy dyma fi yn cofio'r boy oedd along seid a mi. Cad- ben. Hughes, Ty Capal, Edeym, oedd o, a'i wynab o fel afal wedi cochi yn brydfarth yn yr haul. Rhai iawn ydi hen salt jinks am gael lleoedd da ar y lan. Y rheswm ydi mai hen foys iawn ydyn nhw. Fe ddylai Cadben Hughes fod yn dduwinydd mawr, ac i fyny yn hofi aaflgashion Hen Gorphyddiaeth, tcwy mai fo sydd yn. cadw ty'r capal yn Bdeyrn. Lawar gwaith y bucrnn i yn meddwl mor ddyddorql fasa Ilyfr wedi sgfenu gan "Gwr Ty'r Capal." Miloedd o straeon doniol a geid ynddo. Dwn i ddim llawar am dy oapal Edeyrn, ond mi wn am dai capeli mewn lleoedd ereill. Mae 'geth- wrs fel rhwydi yn myned ar hyd a thraws y wlad, gan gasglu llawar o straeon a hanes- ion, a chan ychwanegu lot atyn nhw, ac yna eu gosod gerbron yn v ty capal! Mae amball i gethwr yn fwy doniol yn y ty capal nag ydio yn y pwlpud. Wedi i Cadben Hughes sefclo am ychydig along seid, dyma ni yn dechra son am betha ac am bobol, fel bydd morwrs. "Lie mae Cadben Williams fyddai yn gwisgo spectols stalwm ?" gofynais i. "0, mae Cad- ben Williams wedi cael turn out gwell na ni ein dau, fachgaD). Mae o yn byw mewn hotel, a fina me'wn ty capal." Atebais ina pan glywais hyn, "A fina yn rhwla He y digwyddith fy angor i ddropio am y noson." "Ond does dim llawar o wahaniaeth yn y gwaith a neir fan Cadben Williams a chenyf fi," ebrai Cadben Hughes, "mae o yn lodgio pawb yn ofalus, a fina yn lodgio gethwrs a neb arall." Gofynais iddo fo a fyddai dim ogla Lladin a Groeg, a Duwinyddiaeth a Hanesiaeth Eg- lwysig, ac Esboniadaeth, ar y gwely, gan foa cym'int o bobol busnes y materion hyny yn cysgu ynddo fo? "Na. wir," meddai y Cadben, "chaiff nac ogla Dysgeidiaeth, na chwarian, na dim croes i iechyd, i gomffordd- usrwydd a hapusrwydd v sawl fyddo yn cysgu yn y gwely, aros yno, trwy fod Mrs Hughes yn un ofnatsan am ddwr a sebon a haul." "Felly 'roedd hi 'rioed. Cha'i chwanan ddim llonydd i gael 'i gwynt, unwait4 y gwelai Mrs Hughes hi," meddwn na. Rhaid oedd i mi fyn'd hefo'r Cadben i ben y byd o Mrs Hughes, a hyny am y ben y byd Mrs Hughes, a bvwiy am y rhesymau gora. 'Does yno ddim Ilawar felly o honi hi, ond bed jingo, y mae hyny sy' vno yn werthfawr iawn, nO yn unig gan y Cadben ond gan y gymydogaeth hefyd. Petaswn yn siwr syrtan o wraig fel gwraig Cødb-m iffughme, buaswn yn dropio, twls hen-Iancyddiaeth yn bang, a myn'd i miawn am wraig,—wirionadd i mi faswn. Fasa odsi yn y byd gen i faint fasa hen lanciau. yn Splltio arna'i. Wel, dyma fi i Shop y Groesffordd, a dyma Mrs Hughes yn gwenu ac yn gofyn i mi "Sutach'i hedd- yw," a nna'n deyd, tra yr oedd y Cadben yn prysur dcied a chadair i mi gael ista arm iu—"Dynacii'i gadair lie y bu llawar o gethwrs enwog yn ista ynddi. Istwch chitha ynddi, i ni gael deyd fod dyn enwog arall wedi bod yn ista ynddi hi, Ac yn wir cyn i mi gael gorphen sychu fy chwys, ac edrych o fy ngliwmpas, ayma fa yn ista yn y gadair, a dyma spred awe ar y owrdd, hc:o gym'int a goryn sut yr o'n i tua'r howld. Un o frid Liainnir ydi Mrs Hughes, a bu agos iddi gael ifit pan glywodd hi mai cyw or un brio. o'n ina. Rwy'n cofio Hugh Ro- l>srt», Newcastle, yn iawn. Mae o yn perthyn i mi. Rwy n cofio yr Elizabeth iieck, y Miss Beck, a llonga erill y bu boys Llainhir hefo nhw. Ond ychydig iawn wyr Hugh Roberts am dana'i. Hwyrach nad ydi o yn hidio mewn rhyw hen longwrs papyr newydd. Ond mi wn i yn iawn am dano to, a llawar stori dda sy' gen i am dano fo hefyd. Ni cheis i ddim byd eriot'd gyno fo, ac felly nid ydw'i wedi cael fy llygru mewn unrhyw ffordd i sgfnu petha aa am dano fo. Mae o wedi dangos ei hoffder at ei hen ben- tra genedigol, trwy roddi canoedd o bunau at y capal newydd sy' gan y M.C. yma. Caf ddeyd lot am dan Hugh Roberts eto. 'Does gan Cadben Hughes a'i anwyl briod ddim plant, fel v mae y mwya' piti, ond y mae gynyn nhw neicd. Mae'r neicd yn byw yn ymyl. Ifan yw enw un, ac er na fuOlU i yn hir yn y ty, m,i fuo Ifan yno bedair gwaith igael siai o'r mintcec oedd yno, a chafodd un bob tro, ac elai allan gau falched a phetasai o wedi cael ystad iladfVn yn eiddo iddo fo. Pan o'a i ar gael sgwrs iawn hefo Cadben HuShes, dyma rhywun i nol o i fyn'd i'r gwaith brics sy' gyno fo, ac wefdi cael pob croeso gan Mrs Hughes, yr hon sydd gan sionced a wiwer a chan graffed a'r barcud, dyma fi yn troi i'r pentra, gan roi tanciw mawr iawn i Mrs Hughes am 'i lletygarwch. "Brysiwch yma eto, cofiwch ch'i ddwad, 'rwan," meddai hi. Aethum at rhyw stabla, a gwelais anifeiliaid graenus a da dan ofal hen gono reit atdyniadol. Pan welodd o fi edrychodd yn gilwgus dan gantal 'i het, ond ddeydodd o ddim byd wrtha'i. Tynais yn nes at y stabl, a broliais y cefFylau. "Mae nhw cystal a rhai Thomas Morris, Monach- dy; neu rai Griffith Jones, Nyffryn; neu rai David Roberts, Cingeran," meddwn i yn lied uchel. Gwenodd y cono pan glyw- odd o y sylwada' hyn, a dyma fo yn deyd fod pwysa y owbl arno fo, ac nad oedd 'i feistar o, pwy bynag cedd o, ddim yn gofalu dim am dan y ceffyla. "Does dim isio," meddwn inau, "mat'"r ceffylau yn ardderch- og." Gyda hyn dyma swn peroriaclth yn dwad o rhwla. "0 b'le mae hwna yn dwad ?" gofynais i. "O'r fan yna," meddai y cyfaill wrtha'i. Edrychais a deallais mai o'r capal y deuai y swn. "Does yna ddim cyfarfod yrwan, ai oes?" gofynais. "Cyfarfod! cyf- arfod! nac oes yna yr un yrwan. Ond y petha yna sy'n chwara'r organ yna o hyd. Mae'r ceffyla yma bron a dyrysu, a'r gwartll- eg hefyd. Mae nhw yn methu yn lan a gwneyd allan bodir swn yma. Hae nhw yn jdkillt swn canu y 'gynu,lleidfa yn iawn. Ond am hwn,—wyddan nhw ddim byd." TENANTIAID YN CODI AR EU GILYDD. Ro'n i yn y sel ar dir rlian o stad Cefn Amwlch, ac mi sylwais i ar ddau ddyn—dau denant—un yn ilaenor a'r Hall yn fiaenor y gan—yn codi ar denant ag oedd yn ymladd am ei gartra. Basa'r lie wedi mynad yn is o lawar oni buasai i'r ddau fiaenor fiaenori mewn codi ar v tenant druan. LLANAELHAL4RN. Llawar trie sy' gan yr Eglwyswyr i ddang- os ffafra' i Eglwyswyr, pa un ai byw ai marw fyddai nhw. Does dim gwell am ddangos pa beth a wnai Eglwyswyr unwaith y caent hwy vr uchafiaeth yn ein plith ni, na'r mandriciau hyln. Dqyclweh chi fy mod i wedi plwyfo yn Llanaetlaiarn, ac fod y doctor yn methu a chadw fy mheiriant i i fyn'd yn mlaen, oherwydd Ilesgedd a hen- aint, ac fy mod yn chwvthu fy mhlwc; deydwch chi mai Anghydffurfiwr ydw'i, ond fod fy nghladdfa i yn mynwent y plwy'. Dacw ddiwrnod cynhebrwng yr hen Jack y Llongwr wedi dwad. Dacw nhw yn cario yr arch i'r eglwys, ac yn ei roi o i lawr y tu allan i'r gangell. Mae'r gwasanaeth yn myn'd yn mlaen ac yn darfod, ac mae corph yr hen Jacko druan yn cael ei ollwng i howld y ddaear, hyd nes y gcrphena y ddaear ei foyads yn yr eangdera', ac y dad- lwythir hi "Y Dydd Hwnw." Ond tybiwch chi fod rhyw gono o Eglwyswr yn colli'i wynt. Dacw'r cynhebrwng yn myn'd at yr Eglwys, i'r Eglwys, ac i fewn i'r gangell yn yr Eglwys. Yna, ar ol y gwasanaeth, cludir ef oddiyno ac i howld yr un ddaear r.g yntaut. I'r un ddaear, i'r un siwrnai, i'r un llygrdigaeth, ac i'r un byd yr anghaf, y cludwyd yr Anghydffurfiwr a'r Cydffurfiwr; ond ceisid, tra yn yr Eglwys, daflu anmharch ar y naill a pharch ar y Hall, trwy beidio myn'd a'r oorph i'r ganghell, yn y naill achos, a thrwy gymeryd y corph i'r gangell yn yr achos arall. Rhyw fan gastiau fed hyn fydd yn setlo pobol yn fy meddwl i bob amser. Nid eu geiria' nhw, nid 'u proffes nhw sy'n penderfynu bedi pobol, ond yr hyn ydyn nhw mewn petha bach,— petha ag y maent hwy yn berffaith feistriaid araynt. Rhajd i'r sefctaman hwnw ofalu cymryd ffon hefo fo y tro nesa' y bydd o yn mynd i gyfeiriad Llangybi. Mae'n hw 'n deyd mai lie peryglus iawn sy' tua Phant Glas- fryn Fawr, pan fydd yn nos yno. Aeth chwech o ferchad ifano i ben yr Eifl i hel llua ddoe. Gwisgai tair o honyn hw fels, dwy, esgidia melynion, ac un, glocsia. Pwy all ddeyd oedd wedi blino fwya' ?—Mi wn i yn iawn bedi diodda oddiwrth forwyn- ion yn esgeuluso neu anghofio gneyd 'u gwaith. Rhyw humbug fel yma fydd, yn wir, yn fy ngneyd i yn sbwnd fel hen lane. 'Doedd ryfadd yn y byd gen i glywad fod tempar drwg ar gyfaill yn ardal Llwyndyrus, trwy fod 'i forwyn o wedi mynd i bremin Llanllyfni. 'Roedd hi wedi addaw anfon 'i chwaer i fwydo y mochyn a rhoi llith i'r Ho, ac hefyd i roi help hefo'r gwair. Ond ddaeth y chwaer ddim yno, na neb arall i roi bwyd i'r llo. Deydir fod y forwyn a'r ohwaer wedi taro ar loiau deudroed tua'r premin yn Llanllyfni, ac yn lie fod y forwyn a'i chwaer yn bwydo lloiau mewn ffermydd, yr oedd lloiau deudroed yn 'u porthi nhw yn Llanllyfni. FFOLINEB YSGRIFENWYR. Mwya' bydd dyn fyw, mwya a wel a mwya glyw, medda'r hen bobol. Digon gwir. Mae rhai pobol yn sgfnu ata'i ac yn peidio rhoddi enw y lleoedd y mae'n hw yn byw ynddyn hw nac enw neb na dim arall. Ond dywedant yn 'u llythyra', fod y peth hwn a'r peth arall wedi digwydd yma neithiwr fod son am gael festri neillduol i bobol pen ucha' y dref hon, ao fod consart wedi cael 'i gynh'al yn y pentra hwn neithiwr." Medd- yliwch am bobol yn sgfnu peth mor ffol a hyn. Sut y galla'i w'bod am y dre', y pentra, ao yma," a'r lie hwn," os na cha'i enwau y cwbl ? Welis i rioed y fath ddall- ineb mewn sgfnwyr. Pam na ddeydwch chi enwau y lleoedd yr ydach chi yn byw ynddyn hw? PENYFFYNONWEN. Newydd ddarganfod yr ardal yma yr ydwi ar fy nhtamp. 'Doedd hi ddim ar fy chart i tan yn ddiweddar. Dda gen 'i mo'r merchad fydd yn defnyddio geiriau drwg. Bydda'i yn ystyried dynes fel siwgr y grea- digaeth. Ond os clywaf fi ferch yn defn- yddio geiria' hyllion, byddaf yn teimlo fel petasai y siwgr wedi myned yn assaffeta! Os bydd merch ifanc yn hoff o lib-labio hefo'i thafod, mae gen 'i frwshiad o bidsh i 'neyd 'i thafod hi yn stiff reit handi, ar fwrdd y Werin yma. Bydd perthynas i'r bosun yn aros yma am fis, ac yn mynd o gwmpas y lie a'r gym'dogaeth. Os oes ar bobol ofn cael eu dangos allan fel pobol yn gwneyd pethau ffol, peidier a gwneyd pethau ffol, a dyna ben ar y cwbl. Cofion gora at Samuel Roberts, un o'r hen gymeriada' puraf a'r noblaf, ac un o'r goreuon am stori i blesio rhywun fel fie Sut mae John Thomas, Gogerddan, a John: Ty Lodgin ? Gofala'i fod Henry 0. Roberts yn caol y Werin." Mae ynta fel fina' yn credu nad oes dim byd gwell yn bod na'r Werin," yn y ffordd y bvdd iii yn hwylio. TtALYSARN. Tr<i y bydd rhywun ar dramp yn y byd ym:a, 'does dim mwy hyfryd na cbaei tyst- lolaeth eich bod yn gneyd rhyw ddaioni. Heddyw, tra yn y lie hwn, deallais yn eglur fod yr hyn a fydd1 yn cael 'i ddeyd gen 'i, er yn ddigon carbwl a bier, yn cael mwy o ddylanwad na chynghorion seiad ac J),fi phre- getha'. "Pan y llefara ereill yn erbyn drygedd ac arferion ammheus y lie yma," ebrai dyn o brofiad a doethineb, jiid oes mwy o enaith yn dilyn nag sy'n dyrod oddi- wrth swn cerig yn rhedag mewn toman chwaral; ond pan y bydd Jack y Llongwr yn llofaru ceir diwygiad uniongyrchol. Ffordd Jack o gael gwelllltd ydi'r ffordd ora o ddigoa. Gan hyny, yr ydw'i yn credu ynddo fel moddion moesol rhagorol. 'Dwn i am ddim tebyg iddo yn y wasg Gymreig. Y mae ei ddylanwad yn anghyffredin, a hyderaf na wneiff o ddim ei gamddefnyddio. Cofied fod ei gyfrifoldeb yn fawr." Wrth welad Price Griffith yn sialyl hefo Thomas Jones, gofynais i Biia beth allsai fod testyn y sgwrs. "Mi fetia i mai siarad am ferchad ifainc neu am y Band y mae'n hw," meddai Bila. Mae genyn hw fwy o gred yn y Band nag sy' gynyu hw mewn merchad," ycliwanegodd Bila. 'Roedd Bila, fel hen longwr, wedi gwelad aTwyddicn newid tywydd mewn rhyw hanar milltir o'r fan yr oeddan ni yn sefyll. "Cei glywad a gwelad ystorm ofnadwy yn y fan acw gyda hyn," meddai Bila, ac yn wir daeth yno storm felly. 'Roedd hi fel yr eur- oclydon. Ddychmygais i 'rioed y gallai y fath beW ddlgWydd. Ond fel yna y mae hi: mi rydach'i yn gwelad pob sort o betha' wrth fynd o gwmpas y byd. CARMEL A'R GROESLON. Wrth fynad ar hyd ac ar draws y wlad bydd yn hawdd gen i godi darna o bapura' oddiar y ffyrdd. Bydd y gwynt yn 'u chwythu nhw o bob cyfeiriad. Yn yr ardal hon y diwrnod o'r blaen gwelais ddarna' o bapur, fel y gloewod byw, yn chwara yn y gwynt am ychydig reit o fy mlaen. Pan ddaru iddyn hw ddisgyn, aethum i'w casglu, a gwelais yn y fan mai darnau o lythyr ac enfilop oeddan hw. 'Roedd y sgrifan mewn inc glas ac hefyd mewn blac led. Rhoddais y darna' hefo'r inc glas wrth'u gilydd, ac yn wir i ch'i beth geis i ond gwynab enfilop, ac arno adres merch ifanc yn ymyl y Groeslon. Padshiais y darna' ereill hefo'u gilydd, ond y cwbl a fedrais 'neyd allan oedd Groeslon, I gariad Mary J. ma fi yn anfon yn iach Fedraf fi yn wir dowch i mi gael eich gwelad Ydwyf Pwy bynag dorodd y llythyr hwn i fyny, ccfied, pan y bydd o neu hi am dori love letter eto, ei faiu yn fanach o lawar. 'Dwn i ddim yn iawn beth i 'neyd hefo'r craswr hwnw. Rhyw ddychryn pobol, merchad a phlant y mae o ar y ffordd, pan allan hefo'i feiseicl. Mae'r Saesnes hono tua Chnarfon wedi cael rhyw ddylanwad rhyfadd arno. Bydd yn siarad Saesneg mawr yn uch'el yn 'i gwsg, ac yn deyd y petha' rhyfedda! Wrth fynd ar hyd y ffordd rhwng Pisgah a Charmel, mi fydda'i yn ami yn methu gw'bod pa un ai wedi ffraeo hefo'u dodrefn ynte ar streic fydd y merchad fydda'i yn welad yn sefyll yn mhena'r drysa', dim ond cabaladsh'io a specian pwy fydd yn pasio. Dyma'r merchad sydd a chof drwg iawn gynyn' hw. Bob dydd Sul y byddan hw yn cofio fod isio cario dwr i'w tai. Mae'u meddylia' nhw mor 11awn o fusnas pobol ereill, am chwe' diwrnod allan o saith, fel nad oes dim modd iddyn hw. gofio am y dw r. CILGWYN. Llawar iawn o gyfnewidiadau sy' yma. Mae cyfnewidiadau i'w gwelad yn fwy os y byddweh heb fod mewn ardal yn hir. Yn yr hen amser, yn nhy Shion a Shian Wmffra y cynhelid Ysgol Sul. Byddai Shian yn cadw shiop fechan ac yn gwerthu amryw betha'. Byddai yn dwad a basgedaid o afala' i'r Ysgol Sul, a phrynid rhai ganddi hi. In yr amser gynt yr oedd hyn, oofier. Dyna'r tal am gael cynhiil yr ysgol yno. 'Roedd Shian yn ddiniweid iawn. Byddai un dosbarth yn y siambar, ao yn ista ar erchwyn y gwely, a hen gasgan o'r tu ol. Casgan Merica fyddid yn ei galw hi. Os cam-bi-hafiai rhai o'r beohgyn-ae mi 'roedd y pechod gwreiddiol yn y beohgyn y pryd hyny fel y mae heddyw—y gosb fyddai euro 'u pena' nhw yn erbyn yr hen gasgan. Cofia yr hen gyfaill G. Roberts, Fronola, am yr hanas yn dda. Mae yn yr hen ardal anwyl hon adgofion melus am ddynion rhagorol fel Hugh Davies, y gof, ac Ellis Jones, Gate- house (Blaencae). Halen ysbrydol cccld- ynt. Pereiddiasant fywydau laweroedd. Ond y mae pethau y byd yn mynd a serch- iadau rhai pobol yr oes hon. 'Roedd dwy ferch ifanc yn dysgu cwcio y dydd Sul o'r blaen. Disgwylient ddau lane i fyny o'r Groeslon, a mawr oedd y parotoi ar gyfer y cariadon. Yr oedd y cwcio a'r parotoi o fwy pwys na dim oedd yn mynd yn mlaen yn y capel. Gresyn fod un o'r merched wedi deifio un o'r teisenau. Fe ddeifir ych- waneg ar betha yn y man. Ffordd y tan yw ffordd fel hon. Bu yn ofynol i'r bechgyn gael pilot i ddwad trwy Gors Caeforgan. Gofalodd y Biwtis am bilot iddyn hw. Gall- ai ddeyd lawar o storis wrthyn hw. Yn yr hwyr trodd y giang eu hwynebau am y capal. Fe ddywedir fod awdwr pwysig yn ista ddydd Sul, ar ben toman y Cilgwyn, i sgfnu sboniad ar bobol y capal. Cofiad yr hen gono y gall pobol erill 'neyd sboniad hefyd. CHWARELWYR BETHESDA. Fedra'i ddim gwella yn hyn a geis i oddi- wrth fy hen gyfaill o Bethesda, ac o gan- lyniad rhoddaf y cwbwl i lawr fel y ceis i o: Apeliaf at eich rhyddfryèigrwydd, Mr. Golygydd, i ganiatau i mi gael trafod yeli- ydig yn eich papur chwi, i'r hwn y mae cylchrediad helaeth yma ers blynyddoedd. Trosglwyddwch fy ysgrif i'r cyfaill doniol, Jack y Llongwr. Mae meibion Llafur Chwarel Cae Braich-y-Cafn y dyddiau hyn yn cael eu cyffelybu i genedl Israel yn yr Aifft. Nid oedd ond gorthrwm yn teyrnasu yr adeg hbno fel ag y gwelir sydd yma yn awr. Yr wyf yn apelio yn enw y Nefoedd, at y chwarelwyr, i gryfhau yr Undeb, a bydd yn llesiant personol i chwi eich hun- ain. Nac anghofiwch y geiriau adnabydd- us hyny, Mewn undeb y mae nerth." Nac ymgrymwch yn wasaidd i neb. Gwnewch eich dyledswyddau yn d'eg a chyfiawn, a mynwch eich iawnderau, magwch asgwrn cefn, a chadweh fradwyr allan o'ch rhenga'. LLITHFAEN. Wrth fynd o Lithfaen i Lanaelhaiarn mi holais lie yr oedd y Cynghorwr Hugh Wil- liams, trwy fy mod wedi methu 'i welad o -A-o- -J yn Mhwllheli dydd Merchar. Cefais glywad 'i fod o wedi cael presant gan bobol Trefor o dorth frith ardderchog. Tarewais ar Richard Jones yn ista ar wal y Ion, yn cael mygyn. Yn sir Feirionydd y gwelais i o yn cael smoc ddweutha. Wedi bod yn cau cae tatws yr oedd o. Nid oedd arno isio mynad iddo fo tan amsar tynu. Gof- ynais iddo fo onid oedd yn well iddo ofyn bendith ar y cae tatws ? "0, na," ebrai ynta, mae'r Hollalluog yn gwbod yn iawn am dana 'i." Rhaid oedd i mi fynd hefo Richard Jones i gael cwpanad o de hefo Mrs Jones. Mae son am Mrs Jones am neyd cwpanad o de da. Hoblaw hyny, pwy well na hi am fara ceirch tena. Bydd yn nef- oedd ar fy stumog i pan yn caei yfad te a bwyta bara ceirch oddiar fwrdd Mrs Jones. Chwaer i'r Parch Thomas Ellis, Llaaystum- dwy, ydi hi. Gan fy mod i wedi clywad son am y 'deryn bach h'wnw yn nythu yn entrans Uwchlaw'rffynon, mi eis at yno. Pan gyr- haeddais i yno, deydwyd wrtha.'i fod yr wya' wedi ehedag ymth. Os gwel rhywun gywion adar o gwmpas yr ardaloedd hyn, mae'n debyg y bydd cywion adar Uwohlaw'r- ffynon yn 'u canol nhw. 'Roedd pobol Uwchlaw'rffynon yn gweithio yn brysur yn y caeau. Wel, mi gefais fynd i lawr trwy y llwybr yr oedd y Doctor wedi bod yn ym- ladd o'i blegid. Gwelais Jack y Ffarmwr cyn cyrhaedd y pentra, a dyma hi yn how- dw-iw-dw fawr. Rhaid oedd i mi fynd hefo fo P-r mwyn clywed y llond sach oedd gyno fo o betha' i ddeyd wrtha 'i.

.. Gynllun Htfldgeiflwad Dirgoiaidd…

[No title]

Dal Morfil yn Nghaerdydd.

Potio Ymenyn.

Arfer Gwlad gyda Thail wrth…

Blwydd-dal 1 Hen Bobl -

Dawnsio a Ciiiccslan.]

Beth am Addysg CJmrl?

PA FODD Y TREIJLIWN EIN GWYLIAU.

Advertising

Regatta a Mabolgampau Crlccleth

Advertising