Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

26 articles on this Page

MEYFUS

NEWYDDION DIWEDDARAF.

Damwain Angeuol yn Connah'sI…

Y Cynghor Plwyf a Mesur y…

Lladd Gyriedydd.

"Llaw Dyn yn Llyw Danl." p.…

Yr lanci yn Llefam. »

46 yn Cael eu Lladd.

Anghoflo'l Enw. --

III AC ACW.

News
Cite
Share

III AC ACW. Rhoddodd y diweddar Mr Robert Bonner, New York, dros 200,000,) tuag at achosion crefyddol ac eraill. Wrth gmfod fod neb yn deilwng ar y gadair yn Nghaerdydd, fel hyn yr ymfflam- ychodd Watcyn Wyn :— Cadair wag Wel, ewch a hi Oddiar y ffordd, gael lie i ni Gael Highland jig yn iach am dro, Can's rhywbeth felly wna y tro. Myned yn waeth-waeth y mae y rhag- olwg wleidyddol yn Bulgaria o ddydd i ddydd. Nid ydyw sefyllfa arianol y dy- wysogaeth o lawer yr hyn y dylai fod. Y mae swyddogion y Llywodraeth heb eu eyflogau er's dan fis, yr hyn na ddigwydd- odd yno erioed o'r blaen. Dywedir fod dau o aelodau y Senedd Brydeinig a dau feddyg anifeiliaid ar fedr myned yn ddioed i Moscow, er mwyn gwneyd ymchwiliad yno, ac mewn rhanau eraill o Rwsia, ar yr amgylchiadau o dan ba rai yr anfonir gwartheg o'r wlad hono i'r marchnadoedd Prydeinig. Trwy yr oil o dywysogaeth Bulgaria, achwynir yn dost o herwydd prinder arian, Yn y newyddiaduron gwrthwynebol i'w wladweiniaeth, condemnir y Tywysog Fer- dinand yn dost am ei fod, trwy ddiffyg doethineb ynddo ef a'i Lywodraeth, wedi gadael i'r wlad syrthio i'r fath gyflwr tru- anaidd. Yn Berlin, decbreuir edrych gyda chryn lawer o ffafr ar y drycbfeddwl o exodns Iuddewon yr Almaen a Rwsia i Thys Cyprus. Byddent yno dan reolaeth Bryd- ain. Y cwestiwn ag y teimlir mwyaf o anhawsder pa fodd i'w ateb ydyw :-0 ba ley ceir arian i dalu traul eu cludiad. Allan o rhyw gant o olygwyr newyddiad- uron ag yr anfon wyd atynt i ofyn a oedd- ynt hwy yn bleidiol i sicrhau hawlysgrif (copyright) mewn newyddion, ni atebwyd yn gadarnhaol ond gan un ar hugain, tra yr oedd yr oil o'r pedwar ar bymtheg a thri- uain gweddill yn wrthwyneb -1. Y dydd o'r blaen lladratawyl gwerth wyth mil o bunau o ysgrifrwymau oddi ar un o gwsmeriaid Atiaridy Parr yn Llun- dain. Rhybuddir pob banc trwy y deyrnas am y Iladrad, gan ddisgwyl y daw y lleidr i ryw un o honynt i geisio agor cyfrif gyda'r ysgrifrwymau ysbeiliedig, ac felly y delir :eft E! Er mwyn eangu a cliynyddu masnach y sugr yn Ffrainc, bwriada Llywodraeth y Weriniaeth roddi arbridau uwch nag arferol i'r masnaehwyr i'w diogelu rhag colledion. Dyma ffrwythau naturiol d nyndoUiaeth. 0 fewn y dyddiau diweddaf, y mae amryw ymwelwyr Prydeinig & Belgium wedi eu hysbeilio gan bigwyr llogellau. Oddi ar un lladratawyd 45p; oddi ar un arall 85p ac amryw eraill a ysgafnhawyd o symiau Uai. Beth a wna heddgeidwaid Belgaidd r Rhoddwyd gwledd longyfarch i weinidog t,ramor Ffrainc yn St. Petersburgh, y dydd o'r blaen, gan Ganghellydd Llywodraeth Kwsia. Yn yr areithiau a draddodwyd ar yr acblysur, yr unig beth y gosodid arbenig- rwydd arno oedd, fod yr ymwelydd weli gallu gwneyd y daith rhwng Paris a St Petersburgh mewn amser mor fyi. Chwilio am leidr penffordd y mae hedd- weieion Hoylake yn y dyddiau hyn. Dis- gynasai dyn ieuanc nos Lun oddi ar ei fisycl i oleuo ei lamp. Clywodd rywun yn dyfod ato. Cododd ei ben. Yr un foment, cafodd ddyrnod nes oedd efe yn ddideimlad. Pan ddadebrodd, yr oedd ei fisycl, 6p a rhai sylltau yn ngboll. Caed y bicycl ychydig latheni draw. Cael y lleidr yw y pwnc yn awr. Nid oss gan fwrdeisiaid y Transvaal eisiau rhyfel a Phrydain. Gobeithio nad oes gan Brydain eisieu rhyfel a'r Transvaal. Ofnwn nas gellir sicrhau hyn am bawb sydd yn meddu rhan yn nygiad y wlad- weiniaeth Brydeinig yn mlaen. Carem weled mwy o wyliadwriaeth ar eiriau, er mwyn baddianau goreu y ddwy blaid. Y mae hanes llosgiad y llong hyffordd- iadol Clarence" yn hysbys i'n darlienwyr. Nid yw yr achos o'r goelcerth yn wybyddus i neb, modd bynag. Gwneir ymchwil swyddol i'r peth yn y dyddiau hyn. Bwr- iada y Llywodraeth ddwyn y bechgyn i adeilad mawr sydd wedi ei gymeryd yn agos i dref y Wyddgrug ar eu cyfer. Am dori amod priodas & hi, M am ei darostwng, cafodd Jesse Mather, o Pad- gate, yn "1g08 i Warrington, gant a haner o bunau gan un Maurice Royston, o'r un gymydogaeth, o dan ddyfarniad y barnwr a'r rheithwyr yn mrawdlys ddiweddaf Lerpwl. Y Barnwr Bigham a eisteddai ar y fainc. -t Ceidw Mr Bryn Reberts ei lygad yn fanwl ar bob peth a wneir gan Ysgrifenydd y Trefedigaethau ynglyn k Deheubarth Affrica. Erbyn hyn, mae Mr Chamberlain yn gwybod yn a y gofynir cwestiwn gan yr aelod dros Eifionydd pa bryd bynag y gwneir dim yn amheus ganddo ef. Anhawdd yw gwybod pa un ai difrif ai digrif ydyw Mr William Legge, y garddwr yn Ottawa, Canada, pan yn dyweyd mai efe ydyw y gwir Iarll Dartmouth. Rhag i'r hwn a adweinir yn awr wrth yr enw hwnw gyffroi dim, efe a ddywed ei fod ef yn rhy hoff o fywyd yn Canada i ddyfed drosodd i geisio yr iarilaeth. O'r diwedd mae gweithiau barctdonol My- fyr Emlyn wedi eu cyhoeddi. Efe oedd awdwr y gan watwarus, Y D.D." Yn Llandudno, yn swyno gwyr glan y mor yr oedd Tom ThoL-as, y tenorydd, yr wythnos a basiodd. Beth mae'r aelodau Cymreig yn fwriadu ei wneyd yn ystod gwyliau yr haf ? Nid ydynt wedi gor-weithio eu hunain yn ystod y tymhof hwn, a gallant yn hawdd dreulio peth amser yn eu hetholaethau. Bydd Mr James Sauvage y cantor yn dy- chwelyd i'r America ymhen pythefnos. Fel y gwyddis, y mae Mr Sauvage yn fab-yn- nghyfi aith i'r hyglod Llew Llwyfo. Y rheswm paham foclayr aelodau Cymreig yn rhai mor rhagorol am roddi cwestiynau yn Nhy y Cyffredin yw eu bod wedi cael y fath ymarferiad inewn boli yr Ysgolion Sul. Bwriada Mr Balfour roddi tro i'r Cyfandir yn ystod y gwyliau, a chaiff pob helyntion gwleidyddol lonydd ganddo am dipyn, beth bynag. Bwriada sir Fon gael digon o ddwfr pur yn y man. Y mae cyullun ar droed i groni dwfr yn rhai o gymoedd yr Wyddfa, a'i gludo mewn pibelli o dan y Fenai i Fon. .{,æ P'un yw'r pechod mwyaf, canu caneuon maswedd a dawnsio, neu ynte bregetbu yr efengyl ? Ored pobl Llandudno mai yr olaf, ac am hyny gwnant eu goreu i atal y Parch J. Wood. Gadewir y bobl eraill yn llonydd Cynhaliodd y Coedwigwyr en Huchel Lys yn Nghaerdydd ddydd Llun, a bu yno or- ymdaith fawr o aelodau y Gymdeithas ddyngarol hon. Bu amryw o bobl blaen- llaw y De yn siarad yno. Yn ol Dob tebyg, bu raid i bobl Llan- dudno beidio a bod mor gul eu daliadau drwy wrthod i bregethau gael eu traddodi ar y traeth. Mae amryw o ddynion egwydd- orol a chrefyddol yn y Senedd yn gwllio eu gwaith y dyddiau hyn. Bn yr Henadur Roberts o Fanceinion ar daith o amgylch y byd yn ddiweddar, a'r wythnos ddiweddaf dychwelodd i'w gartref wedi cael llawer o leshad o'i seibiant. O'r diwedd y mae'r Seceddwyr yn cael gwyliau. Y maent yn ei haeddu hefyd, oherwydd ni weithiodd neb erioed yn fwy caled dros eu ffryndiau na'r llywodraeth hon. Buasai yn amheuthyn o beth i glywed fod Joe Chamberlain yn bwriadu myned i roddi tro am Kruger yn awr, pan nad yw'r Senedd yn eistedd. Gallasent yn hawdd setlo'r helynt cyn pen deuddydd. Am ddwyn cyhuddiadau gwaitbus yn erbyn un c'i morwynion, gorfu i Mrs Jones, Maesgwyn, Glyn Nedd, dalu can' punt o ia wn yn llys Abertawe dydd Mawrth. Yn Nghorwen, medd Mr O. M. Edwards' y oynullodd y fyddin Gymreig fwyaf a welwyd erioed. Yr oedd hyn yn adeg Glyndwr, a chredir mai yn mynwent Corwen y claddwyd yr hen arwr Uymreig. Mae si ar led yn y cylchoedd urddasol fod gweddw y diweddar Arglwydd Randolph Churchill yn mynd i ymbrio ii a mab Mr Coruwallis West. Yn Nghorwen ddydd yr Eisteddfod ddi- weddaf gofynodd bacbgen oedd yn gwerthu programmes ar yr heel i ddyn a elai heibio, "Programme, syr ?" "Nag oes; Eghvys- wr ydwyf fi; nid wyf yn mynd i'r Eistedd- fod." Yn ychwanegol at y pedwar plentyn sydd wedi eu gyru i Paris o ardal Pontardulais y mae cHwech arall wedi eu brathu gan y ci a ddinystriwyd, a gyrir y rhain eto i gael yr un driuiaeth yn ysbytty Pasteur. Hysbysir fod Syr John Bridge wedi ym- ddiswyddo o fod yn brif ynad Llundain. Efe draddododd Dr. Jim i sefyll ei brawf am y rhuthr yn y Transvaal. Yr ydym ni yn son am ein pleserdeithiau, end 'does genym yr un gair am picnic. Er hyny, y mae Eluned Morgan, golygyddes y "Dravod," wedi cael gafael ar air newydd— U gwigwyl'—i gyfateb a'r achos, ac nid oes eisieu ei well i ddynodi gwyl yn y wig. Yn wir, y mae yn rhaid i rhywun edrych ar ol y Parch J. Myfenydd Morgan. Yr wythnos ddiweddaf bu yn Liandrindocl, ac nid oedd yno yr un ferch gwerth wincio ami, meddai'r offeiriad a'r bardd-gweddw hwn. L n o ganlyniadau ymweliad y dieithriaid a'r Eisteddfod eleni yn Nghaerdydd ydyw y bwriad o gynhal gwyl gyffelyb yn nglyn ag Arddangosfa Fawr Paris yn 1900. Bydd yr arddangosfa hono yn debyg i Ffair y Byd a enwogAvyd gan Gomer Lewis-a. diau na fydd gwyl o'r fath yn gyflawn hyd nes cael Eisteddfod yn nglyn a hi. Fel y gwyddis, bydd adran yn yr wyl hon yn nglyn ag addysg Cymru. Yr wythnos hon bu farw Dr Davies, Johnston-proffeswr mewn addysg Feibl- aidd yn Mhfifysgol Aberdeen. Nid oedd ond wedi cyrhaedd ei 64 mlwydd oed, eto cred- ai awdurdodau y coleg flynyddau yn ol nad oedd yn abl i gyflawni y swydd a ddaliai. Ceisiwyd ganddo ymddiswyddo ond gwrth- ododd, a pharhaodd hyd y diwedd i hawlio ei gyflog er fod ei ran o'r gwaith yn cael ei ddwyn yn mlaen gan arall.

Gwlaw a Chenllysg.

A Geir Amgueddfa 1 Gymru ?

CRYFBAIR LLYSIETJOL GWERTHFAWR.

Diangfa o'r Grogbren

Eisteddfod Ceerdjdd.

Hela Byfrgwn yn Lleyn.

Deddf newydd Prlodl.

Ergydio ar y Babaeth.

Y TRANSVAAL

[No title]

Dinystrio Pymtheg o Longau.

IGorsedd Rwsla. -

Rbellffordd Ysgafn i Ebenezer.…

Claddedigaeth yr Henadur 0…

Rhyw Helynt hefo'r Eglwys…

Beth sydd ar Bersanlald Sir…