Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

.-

Advertising

MANCHESTER AND LIVERPOOL.…

SOUTH WALES.

GWRTHWYNEBU TRWYDDEDAU. -

News
Cite
Share

GWRTHWYNEBU TRWYDDEDAU. Dylid parotoi ar gyfer hyn ar hyd y flwyddyn, a chasglu defnyddiau. Bydd y llysoedd trwyddedan yn eistedd yn fuan ar ol y 15fed o Awst. Os bydd trwydded new- ydd yn cael apelio am dani, gall unrhyw un godi i fyny i wrthwynebu ar yr adeg, heb roddi rhybudd blaenorol. Os bydd trwvdded yn cael ei throsglwyddo, gall unrhyw berson wrthWvnebu hyny heb roi rhybudd blaen- orol. Ond os adnewyddu trwydded fydd, rhaid rhoi saith diwrnod olir o rybudd i'r person trwyddedig, a nodi yn y rhybudd y rheswm am ba un y gwrthwynebir. Gallai hyny fod yn un o'r pethau canlynol: 1. Nad yw y person trwyddedig o gymeriad da. Y mae hwn yn fater lied anh'awdd ei drin, a thipyn o berygl ynddo, ond weithiau gellir profi fod y tafarnwr, dyweder, yn arfer a bod yn feddw. 2. Fod y ty wedi bod yn afreolus. Rhaid i bob tystiolaeth ar fater fel hyn fod ar lw. Os bydd cyhuddiadau wedi bod yn erbyn y lie, gellir dwyn hyny gerbron. 3. Nad oes angen am y lie. Dyma'r rheswm ar ba un y dibynir yn fwyaf cyffredin. Am y tai oedd mewn bod cyn 1869 nis gellir eu gwrthwynebu hwy ond ar un neu ychVaneg o'r pedwar peth canlyn- ol 1. Nad yw y trwyddedig o gymeriad da. 2. Fod y ty yn anrhefnus. 3. Fod yr ym- geisydd trwy gamymddygiad wecli^ fforffetio ei hawl i daal trwydded. 4. Nad yw y lie yn gym wys yn ol y gyfraith. Nis gellir gwrthwynebu trwydded newydd! i werthu I allan (megis y grocer's license) ond ar un i neu ychwaneg o'r pedwar peth uchod. Gell- ir gael cyfarwyddiadau pellach gan Ysgrif- enydd Cymanfa Ddirwestol Gwynedd neu ysgrifenyddion y Cymanfaoedd Dirwestol Sirol. Os na bydd rhybudd wedi ei roi, gellir ar yr un pryd godi gwrthwynebiad i adnewyddu trwydded a gofyn i'r ynadon ohirio yr achos er mwyn cael rhoi rhybudd. Fel rheol, y mae yn well fod cyfreithiwr yn cymeryd y mater mewn llaw. Buasai yn dda iawn pe buasai ynadon Cymru yn darllen Adroddiad y Ddirprwyaeth Frenhinol ar Drwyddedu cyn yr adeg i drwyddedu. Y mae yr adtroddiad hwnw yn condemnio yr ynadon yn Ilym am na baent. yn gwneyd y defnydd priodol o'r gallu Bydd yn eu dwy- law, ac yn dangos yn amlwg y dylent wrth ( adnewyddu pob trwydded ystyried yn bwyll- og a oes angen am dani, ac os barnent nad oes, fod ganddynt berffaith hawl i'w hatal, er na byddo neb yn ei gwrthwynebu, nac unrhyw achos wedi ei gael yn ei herbyn. Profir yn amlwg hefyd, oddiwrth ddyfarn- iadau barnwyr penaf y deyrnas, nid yn unig fod ganddynt berffaith hawl i wneyd hyn, ond ei bod yn ddyledswydd arnynt i ystyr- ied pob achos bob tro fel pe buasai yn achos newydd. Hefyd y mae achos Dover wedi profi mai nid Llys Trwyddedu yw yr eistedd- iad ond Cyfarfod Trwyddedu, ac o ganlyn- iad ei fod yn berffaith rydd fel cyfarfod unrhyw bwyllgor arall, ond yn unig y gofyn- ir fed unrhyw dystiolaethau ar ffeithiau yn cael eu rhoddi ar lw. Profwyd hefyd nad I yw neb fydd yn gwrthwynebu yn gosod ei hun yn agored i unrhyw gostau, ond y cost- au y byddo yn myned iddynt yn ei ochr ei aun. Y mae llawer wedi ei wneyd yn y gyfeiriad hwn, ond y mae eto lawer mwy 3lhr ei wneyd ond cael ynadon a chyhoedd )ffro a chydwybodol. )

Advertising

"Y GENINEN EISTEDDFODOL" -

Irojldartha yn yr Eglwys.

256 o Filwyr wedi eu LIadd.

Advertising

----. At Welthwyr Cymru.

Gychwynydd y Darlienladal.…

Y Pla yn India.'

CAMBRIAN RAILWAYS.

Advertising

----......-."--Crealont'e…

TV ^ FIENDS OLD AND NEW

[No title]