Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
34 articles on this Page
I;-1 9%.0, DREYFUS AR EI AIL…
I; 1 9% .0, DREYFUS AR EI AIL BRAWF. Y CYHUDDEDIG YN GAEL EI HOLl. AC YN DAL I DDYWEYD EI JbuD YN DDIEUOG. GWADU YR HOLL GYHUDDIADAU. CYFIEITHIAD O'R "BORDEREAU." HANES YR HELYNT. Y mae llygaid a chlustiau y byd yn canol- bwyntio y dyddiau hyn ar brawf Cadben Dreyfus, yn Rennes. Dechreuodd y prawf am chwech o'r gloch boreu dydd Llun. Daeth llu o gadfridogion byddin Ffrainc yn nghyd. Y mae teimlad y rhai hyn yn ofn- adwy—yn gynddeiriog yn erbyn Dreyfus. Amddiffynir ef gan Maitre Demange a Maitre Labori. Y mae y ddau fargyfreith- iwr dysgedig a galluog hyn yn credu yn angherddol yn niniweidrwydd Dreyfus. Er- lynir ar ran y Llywodraeth gan Major Car- riere. Llywydd y Llys yw y Milwriad Jouaust, o'r Peirianwyr; dyn yn ymddangos uwchlaw dealltwriaeth gyffredm ei gyd- swyddogion. Nid oedd Esterhazy yn bre- senol; y mae ar hyn o bryd yn Llundain. HANES YR ACHOS. Yn y Ïlwyddyn 1895--ar y 5ed o Iol-awr- gwyd ar Cadben Alfred Dreyfus, swyddog yn nghatrawd y magnelwyr, i fyned dan gosbedigaeth gwaeth, yn ngolwg mififr, na marwolaeth. Cyhuddwyd ef o fod wwfradffr i'w wlad, tynwyd ei wisg filwrol oddiam dano, o flaen torf wedi ymgynddeiriogi, torwyd ei gleddyf yn ei haner, ac alltudiwyd ef i Ynys y Diafol. Saif y lie hwnw yn Cayenne, yn ngogleddi America Ddieheuol, ar lan Cyfanfor Gogledd y Werydd. Iuddew oedd Dreyfus, a chodtdd hyny ddygasedd y Ffrancod ato fel swyddog yn y fyddin. Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd datguddio a bradychu dirgel- ion milwrol i Allu tramor. Bu ei brawf yn un dirgel, a honai y Ilys ei fod yn euog, ac alltudiwyd ef. I ychwanegu at ei gosb, trodd ceidwaid ei garchar ato gyda'r creu- londer mwyaf. Dirdynasant ei GNAWD GYDA HAIARN. Cauasant y carcharor druan ac unig mewn cell lie nas gwelsai na mor nac awvr. l mae y creuIonderau a ddangcswyd tuagato yn anhygoel. Ond drwy'r holl amser tyst- ici ei fod yn ddieuog. Credai'r byd hefyd ei fod yn ddiniwed. Ac mor w:r yw geir- iau'r bardd,— "Though the mills of God grind slowly, Yet they grind exceeding small." (Melinau Duw sy'n malu n nr, Malu wnant er hyny'n fan). Daliodd y Milwriad Picquart, er gwg a charchar i ddatgan yn groew fod Dreyfus yn ddiniwed. O'r ochr arall, chwareuodd Es- terhazy a'r Milwriad lienry ran anfadwyr. Ond yr oedd y gwirionedd a chyfiawnder yn mynu ymwthio i'r golwg, ar waethaf pawb a phobpeth. Daeth Zola, y nofeiydd Ffrengig, ar y chwareufwrdd: cynhyrfwyd y byd, gorchfygwyd Ffrainc nes rhoddi cyfle i'r carcharor o Ynys y Diafol i brofi mai nid efe, eithr rhywun arall oedd awdwr y brad. Y rhywun hwnw, yn dcrau, oedd y Milwriad Henry, y twyllwr, yr hwn a gaed wedi TORI EI WDDF yn nghell y carchar. Ac yn awr yn ystod y prawf sydd yn myned yn mlaen, gellir dis- gwyl y dadleniadau mwyaf cyffrous Yr oedd y llys, ddydd Lun, yn nodedig yn yr achos yma. Wedi i'r Llywydd ddatgan fod y Ilys wedi ei agor, dygwyd Dreyfus yn miaen. Cerddai yn syth ac fel milwr. Yr oedd ei wallt bron yn wyn, a'i gorff i raddau wedi curio. Gofynodd y Llywydd, "Beth yw eich enw P"—"Alfred Dreyfus." "Beth yw eich oedran?'—"Deugain mlwydd." "Lie ganed chwi ?"—"Yn Mulhouse." "Beth yw eich gwaith 'Swyddo, gyda'r gwirfoddo!w^r. Yna galwodd y Llywydd ar Dreyfus i sefyll i fyny, yr hyn a wnaeth ar unwaith. Ebai y Llywydd,— *'Yr ydych yn cael eich cyhuddo o roddi, i swyddog Gallu tramor, bipyrau yn cynwys dirgelion a enwir yn genadwri, gan anog y Gallu hwn i gychwyn rhyfel yn erbyn Ffrainc." Y Carcharcr: Yr wyf yn ateb, Xaddo, fy milwriad. Yr wyf YN DDIEUOG, ac ni pheidiais a chyhoeddi hyny am bedair blynedd. Er mwyn fy mhlant, er mwyn an- rhydedd fy enw, yr wyf yn ddiniwed, ty mil- wriad. (Dywedodd hyn a chryndod yn ei lais). Y Llywydd: Felly yr ydych n gwadu y cy- huddiad P Y Carcharor 0! ydwyf, yn wir, fy milwr- iad. Gofynwyd iddo gwestiynau ereill gan y Llywydd, a chroesholwy9; ef gan Major Car- riere. Daliai Dreyfus i wadu yn bendant bob cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn. Gyda golwg ar bersonau sydd wedi ymddangosi yn bur gyhoeddus yn y cliwareuad" yma, lei ei gelwir, fe ofynwyd y cwestiynau canlynol: A oeddych yn adnabod Commandant du Paty de Clam ?—Nac oeddwn. A oeddych yn adnabod Commandant Heniy P—N ac oeddwn. A oeddych yn adnabod yr Is-filwriad Pic- quart ?-Nac oeddwn. A oeddych yn adnabod Commandant Es- terhazy?-—Nac ceddwn. Ai ni ddarfu i chwi ysarifenu ato ?—Naddo erioed. 0 Dywedodd Commandant du Paty de Clam fod eich llawysgrifen pan ar "dictation" yn llai sefydlog na chynt pan y rhoes chwi ar brawf y diwrnod y eymcrvvyd chwi i fy;ly Nid oedd yna fawr o wahaniaeth. Yr ydych wedi cyfaddef i Commandant du Paty de Clam?'—Ni chyffesais ddim erioed i Commandant de Clam. Mi ddywedais, "Y mae yn anghyfiawn ynoch i gondemnio dyn dieuog." Ni chyffesais ddim. Yna gosodwyd y "bordereau," sef yr ys- grifau drwy yr hwn, fel yr honir y bradych- odd Dreyfus Ffrainc, o fiaeii ei lygaid a gofynodd y Llywydd a oedd yn ei hadwaen fel ei lawysgrif ef ei hun. Yntau y car- charor, gydag egni, a WADODD MAI EFE OEDD EI HAWDWR. Yn y cyfwng yma, gofynodd yr Erlynydd ar i gynwys y "secret dossier" (wrth yr hyn y meddylir, casgliad mwy neu lai o ysgrifen- iadau personol yn dal cvsylltiad a'r mater, ac nid oes ond un ohonynt, os nad yw Swydd- I fa RhyfeI wedi gwneyd rhai ereill twyllod- rus, yn enwi Dreyfus yn ol ei enw, ac y mae hyn yn hollol gyffredin a diniwed) gael ei drafod gyda'r drysau yn nghauad. Caniata- odd y llys hyn. Am hyny bydd y llys cy- hoeddus yn cael ei olurio am bedwar niwrnod. Yn ystod y prawf, fe gyfeirir yn fynych at son yma y golygir Commandant Paty de "y foneddiges mewn gorchudd," wrth y per- Clam. Wrth y "bordereau" y golygir dalen o bapyr, wedi ei dori yn bedwar darn, y rhai y dywedir a gaed yn mysg papyrau wast yn y Llysgenad-dy Germanaidd gan yspiwyr o Swyddfa Rhyfel Ffrainc. Prynodd yr yspi- wyr y papyrau o dan y cochi mai masnach- wvr mewn cadachau oeddynt. Dyma fel yr oedd CYNWYS Y PAPYR: — "Er nad oes genyf yr un newydd yn nghylch fy hun ag y carech fy ngweled, yr wyf, er hyny, syr, yn anfon rhai pethau o ddyddordeb i chwi: 1. Nodyn ar y 'brake hydraulic' 120, a'r modd yr oeddynt yn gweithio pan wnaed yr arbrawfiadau. 2. Nodyn ar y galluoedd i orchuddio (g-.velir rhai cyfnewidiadau yn y daear- leni newydd). 3. Nodyn ar welliantau yn ffurfiadau y magnelwyr. 4. Nodyn yn nghylch Madagascar. 5. Cynllun o lawlyfr ymarferiadau i faccnelwyr y maes. "Y mae yn anhawdd iawn cael y llawlyfr yma, ac ni fydd yn fy meddiant ond am ychydig ddyddiau. Y mae y Gweinidog Rhyfel wedi anfon nifer penodol ohonynt i'r gatrawd, a'r gatrawd hon sydd yn gyfrifol am danynt; y mae pob swyddog i anfon ei un yn ol ar ol yr ymarferiadau. Felly, os dymunwch gymervd ohono beth fydd yn ddy- ddorol i chwi, a'i gadw i mi ar ol hyny, mi a'i cymeraf os na fuasech yn dewis ei gael wedi ei gopio yn llawn, a dim ond anfon oopi ohono i chwi. "Yr wyf ar fyned allan i'r ymarferiadau." Y mae yr oil o'r gwyr cyfarwydd mewn olrhain llaw^grifen ag y mae pwys yn eu barn yn credu nad Dreyfus a ysgrifenodd y llythyr uchod ac y mae y mwyafrif ohonynt yn credu mai Esterhazy a wnaeth. Cyfaddefai Dreyfus ei fod yn adnabod DYNES YN AWSTRIA; oi rl nid ymddygodd yn annoeth. Ni ddywed- odd fod gwyr Alsace (y wlad a gymerwyd oddiar Ffrainc gan Germani adeg y rhyfel rhwng y ddwy wladl yn 1870) yn hapusach fel Germanwyr nag fel Ffrancod. 11 "Ond cadfridog o'r fyddin," ebai'r Llyw- ydd, "sydd yn eich cyhuddo. I beth yr ydych chwi yn priodoli ei deimlad drwg tuag atoch ?-"Fe'i clybuwyd yn dweyd nad oedd arno eisieu Iuddewon yn mysg y swyddog- iOll." "Sut y gwyddoch ?"—"Mi glywais hyny." "Ac yr ydych yn priodoli ei deimlad drwg oherwydd eich crefydd ?"—"Yn sicr felly, fy milwriad." Fe 'd^ywedir fod atebion Dreyfus wedi peri i lais y Llywydd, otidkl ar y dechreu yn arw, leddfu cryn lawer at y diwedd. Y mae nifer luosog o dystion i'w holi ar ran at erlyniad.
Y Lleygwyr ar yr an tir a'r…
Y Lleygwyr ar yr an tir a'r Gweinidog Mae cyfarfod y Gynhadledd Wesleyaidd yn Llundain yn myned yn mlaen, a liawer owaith yn cael ei wneyd. Yr wythnos gyntaf llwyddwyd i gario penderfyniadau y pwyll- gor yn Idwyn i mewn gyfnewidiadau pwysig ar drefn y "Sessions," broil yn unfrydol. Yn ol y cynllun newydd bydd y lleygwyr yn cael yr un nifer a'r gweinidogion yn y Sessiwn gynrychioladol. Bydd yn awr i gynwys tri chant o bob un, ac i eistedd yn gj-ntaf, ac nid fel o'r blaen rhwng dwy Sesiwn -fugeiliol. Mae Mr Hugh Price Hughes wedi gweithio yn egniol i ddwyn hyn oddiamgylch, ac wrth egluro y cynygion cyn eu rhoi i bleidlais, dywedai ei fod yn disgwyl y byddai i'r cyf- newidiad fod fel tywyniad heulwen i'r Cyfun. deb. Yr oedd un o arlveinwyr y gwrthwyn- ebiad yn y gorphenol-Dr R.gg—yn cefnogi eu derbyniad yn awr, ac nid oedd or.d saith yn gwrthod rhoi eu pleidlais yn ffafr y newidiad.
Y Gwrthryfel yn Sisrra jLeane
Y Gwrthryfel yn Sisrra jLeane Cyhoeddwyd Llyfr Glas ddydd Mercher yn cynwys adroddiad Syr David Chalmers, y Dirprwywr benodwyd i wneyd ymchwiliad i achos y cynwrf a'r gwrthryfol yn Sierre Leone. Yn y llyfr ceir hefyd atebiad y Llywodraethwr i'r adroddiad, a barn Mr Chamberlain ar y naill a'r Hall. Yn ei ad- roddiad condemnia y Dirprwywr Lolisi Llyw- odraeth y wlad yn ddiaroect,-Polisi sydd wedi ei gario allan dan nawdd y swyddfa drefedigaethol. Dechreuodd y cynwrf yn gynar y llyncdd, a llofruddiwyd amryw gen- hadon a masnachwyr gaiiy cynhyrfwyr. At- aliwyd masnach yn y wlad, ac ni lwyddwyd i roi y cymvrf i lawr hyd y gauaf. Am achos y gwrthrySel nid oedd s.crwydd, ond sicrhai 'rhai o'r masnachwyr codd mewn mantais i farnu mai gosod treth—yr "hut, tax"—a'i gwthio yn llym ar y broclorion yn 1897, oedd wedi ei achosi. Yn ei adroddiad mae y Dir- prwywr yn cadarnhau mai y dreth oedd y prif aehos, ond y gwvtliyd Mr Chamberlain yr adroddiad yn gvfangwbl, adewisa gredu y swyddodon. Bydd y dreth yn cael ei pharhau.
Advertising
CADBTJRY'S COCOA, on the testimony of the "Lancet," "represents the standard of highest purity. "It is entirely free from all foreign substances, such as kola, malt, hop, &e.. nor is nlbli used to darken the colour (and so deceive the eyej. jJl
BAHWEIKIAD OFNADNY YN AMERICA
BAHWEIKIAD OFNADNY YN AMERICA Haner Cant o Fywydaa Wedi Colli Boreu dydd Lun dychrynwyd y wlad gan adroddiadau am ddwy ddamwain ofnadwy a gymerasant le, pryd y collodd ugain o bersonau eu bywydiau mewn un ddamwain, a thua deg ar hugain mewn damwain arall. Digwyddodd y trychinebau hyn yn Nhal- aethau Maine a Connecticut, yn yr America. Yma yr oedd caerfa gref Piwritaniaeth, a chedwid y Sabboth yn ofalus yno. Ond tyfodd syniadau eangach yn y blynyddoedd diweddaf; a cheir pleserdeithwyr yn myned AR Y SABBOTH gyda'r cledrffyrdd a'r cychod, tra v mae nifer mawr o bobl yn myned am y dydd gyda'r gerbydau trydanol, ac y mae llinell- au y cerbydau hyn yn myned yn mhell ar hyd rhanau prydferth o'r wlad. Yr oedd Rheilffordd Ganolog Maine yn rhedeg pleserdeithiau ar ddydd Sul i Borthiadd Bar, lie pur boblogaidd yn yr haf. Aeth cerbydres fawr, deuddeg o gerbydau, o orsaf Bangor, ac ynddi yr* oedd canoedd o bobl o Mount Desert Ferry, lie y cyfnew- idir y gerbydres i fyned mewn cwch am wyth milldir i Borthiadd Bar. Yr oedd y dyrfa yn ymwthio ar eu ffordd o'r berth i'r agerlong, ac yr oeddynt i gerdded ar hyd plane coed, deugain troedtedd o hyd, a troedfedd o led. Yn sydyn rhoddodd y planc ffordd yn ei ganol, a thaflwyd UGEINIAU 0 BOBL I'R DWFR. Gan fod y lie rhwng y berth a'r agerlong yn fychau, yr oedd y gwaith o waredu y bobl yn anhawdd. Neidiodd rhai dynion i'r dwfr, ond gwaith anhawdd a pheryglus ydoedd, gan fod y rhai oeddynt ar foddi yn yn gafael a'u holi nerth ynddynt. O'r di- wedd, llwyddodd dau ddyn cymhwys i drefnu nifer o ddynion ereill: gollyngasant ysgolion a rhaifau, a thynwyd i fyny nifer o'r rhai oedd yn ymdrechu yn y dwfr. Dal- iai dau ddyn ysgol, ac i fyny ar hyd hon y dringodd triugain o bersonau. Mor fawr oeou y draul ar gyrph y ddau fel y maent yn gorwedd. A-uroddir am lawer hanesyn gwrol. Llwyddodd bachgen o'r enw Mat- tox i hudo bachgen mud a byddar o'r Gillie, i ddyfod gyda'r bleserdaith, heb yn wybod i'w fam. Suddodd y mud a'r byddar druan, ond gwaredwyd Mattox. Brathwyd ef yn ei gydwybod am hyd-ddenu y bachgen, a neidiodd Mattox i'r dwfr; ac wedi ymdrech galed dygwyd Gillie i'r Ian. p dawelodd1 pethau ychydig, cafwyd fod ugain o bersonau wedi colli eu bywydau. Yr oedd MWY 0 GOLLI BYWYD yn nhrychineb Connecticut. Yr oedd llinell newydd o "trolley cars" yn cael ei hagor yr wythnos ddiweddaf rhwng Dinas Bridgeport a thref Shelton, rai milldiroedd i'r gogledd. Dydd Sul oedd y Sabboth cyntaf iddi redeg, ac aeth llawer o bobl gyda hi ar bleserdaith. Cynwysai y cerbyd o'r ddinas oddeutu deugain o deithwyr, ac aeth oddiar y rheiliau ar lyn melin, oedd yn wag, gan syrthio pymtheg ar hugain o droed- fedcli i'r dwfr, a. throi drosodd wrth ddymch- v. rl. Darfu i'r tryciau trymion a'r motor, yu pwyso rhai tunelli, wthio gwaelod y cer- byd tt yn erbyn y top, gan wasgu y bobl cyd- rhy iigddyub. Digwyddodd y ddamwain mor gyflym fel na allodd ond tri neu bedwar o bobl neidio allan. Diangodd un o'r rhai hyn heb niweidiau drwy neidio i'r mwd. Lladdwyd ereill yn y fan neu cawsant eu hanafu yn dost. Y mae nifer y rhai a ladd- wyd yn naw ar hugain. Adroddir am lawer digwyddiad teimladol. Deuwyd o hyd i gorph difywyd baban yn mreichiau dyn, yr hwn oedd yntau yn farw. Canfyddwyd dynes o dan y sedd, a baban yn ei mynwes. Cymerwyd y baban ymaith yn fyw, ond erbyn dyfod yn ol yr oedd y fam wedi marw. Bydd i'r teimlad cyhoeddus fynu YMCHWILIAD LLAWN i'r trychinebau hyn,. Yn ol yr adroddiad cyntaf, digwyddasant drwy ddiofalwch an- esgusodol, gan nad oedd y plane coed wedi ei brpfi cyn rhoddi llwyth trwm arno; ac hefyd drwy redeg y cerbyd yn rhy gyflym yn namwain Connecticut. Gellid bod yn sicr y bydd i rai selog dros gadwraeth y Sabboth edrych ar hyn fel bys Rhaglun- iaeth," yn arwyddo anghymeradwyaeth y Nefoedd o waith pobl yn ymbleseru ar y Dydd Sanctaidd.
II Chymer el Ghwipio Iwy.…
II Chymer el Ghwipio Iwy. Ymddengys fod Mr Carson, Q.C.. A.S., yn wr o farn annibynol er mai Tori ydyw. Anfonodd i hysbyeu Chwip y Llywodraeth Doriaidd i ddweyd nad oedd eisieu anfon iddo ef mwy Chwip y blaid. Nicl yw y bargyfreithiwr eawog yn cael ei foddloni ar y modd yr ymddyga y Llywodraeth tuagat fIlèdiannau y Rhyddfrydwyr Undebol, yn r eillduol eu safiad gyda golwg ar Fesur Corphorb eth Dublin.
Rhagolygon Difrifol;'l n yr…
Rhagolygon Difrifol;'l n yr India. Y mae y newyddion diweddaraf o'r India yn rhagargoeli fod dyddiau tywyll o ftaen trigolion rhanau o'r wlad hono. Bygythir hWYlit a newyn a phla, ac ofnir yr schosa hyn mfer mawr o farwolaethau. Y mae nifer y marwolaethau eisoes yn haner cant y cant. Gwna y pla ddifrod mawr mewn rha.i parthau.
Dau Ldarlnn: Sant a !
Dau Ldarlnn: Sant a Y mae James Colquhoun, Ll.D., diweddar drysorydd dinas Glasgow, mewn dalfa ar y cyhuddiad o ladrata swm mawr o arian- tua dau gan' mil o bunau. Yr oedd yn churchwarden yr Eglwys Rydd, yr hynaf o'r ynadon, yn alwydd y pwyllgor arianol, yn Arglwydd Faer, yn LtD. o'r Brif Ysgol, a r twrne yr .ymddiriedwyd fwyaf iddo yn v ddinas. Dyna un darlun o'i fywyd: dyma un arall. yr oedd yn hapchwareuwr heb ei feth, mynychiei gwelid wrth y bwrddau din- ystriol yn Monaco ac Ostend, gan ladratt oddiar y weddw a'r amddifad drwy gymeryd eu harian. Y ww trigolion Glasgow wedi eu parlysu gan gwymp erchyll ei heilun.
Rhyfel Newjdd America. i
Rhyfel Newjdd America. i Dywed gohebydd i newyddiadur yn New York iddo gael ymddiddan gydag Admiral Dewey, yr hwn, os gwir a gyhoeddir am dano, a ddywedodd rhai pethau rhyfedd. "Yr ydym," meddai, "mewn angen llyng. gref er cyfarfod ag unrhyw allu arall. Y mae Lloegr, yn naturiol ddigon, gyda ni. Nid yw anhawsderciu megis ffin Venezuela yn ymyraethdim a'r Bferthynas gyfeillgar fodola rhwng y ddwy wlad. Ein rhyfel nesaf fydd a Germani." Yn ddiweddarach, cafodd gohebydd arall ymgom a'r Llangesydd Dewey, yr hwn a ddywedodd wrtho nad oedd ganddo ef amser nac amynedd i wadu na chadarnhau y soth- ach a gyhoeddid am dano er pan y cyr- haeddodd Trieste.
Merched fel Meddygon.
Merched fel Meddygon. Mewn cyhoeddiad o'r enw "Young Woman" am y mis hwn, ceir erthygl ar y testyn uchod. Dyvedir nad oes lai na 37 o sefydliaWau yn y wlad hon a merched yn eu goruwchreoli; a bod yma agos i ddau gant o ferched graddcdig fel meddygon. Miss Louisa Aldrich Blake, o'r Ysbytty Newydd i Ferched, oedd y ferch gyntaf i en ill y teitl o Feistr mewn Llawfeddygiaeth 3Tii Mhrif ysgol Llundain; a'r deintydd menywaidd cyntaf cyflawn raddedig yn Llundain yd- oedd Miss Halliday. Ond y mae merched yn llawer iawn pell- kich yn mlaen yn hyn nag ydynt yn Mhryd- Ain. Chwarter canrif yn oi yr oedd yno vUÙ o ferched yn feddygon; heddyw rhifant 4500- un ar gyfer pob 15,000 o'r trigolion. Boneddiges o'r Amerig oedd y feddyges radd- edig gyntaf yn y byd—Miss Elizabeth Black- well, yr hon a ddodwyd ar Restr y feddygon Ionawr laf, 1859.
Dirywiad Gwybailasth am Lysiau
Dirywiad Gwybailasth am Lysiau Y mae traws-symudiad y rhywiau vn y byd meadygol yn rhyfe ld. Hyd yn mhell i'r gan- rif jddiweddaf, cyn dadblygiad meddygaeth fel gwyddor, yr oedd merched fel myd- faethod a llysiau-wragedd yn llawer lluosoc- ach na'r dynion. Bendith fawr i'r wlad, ar lawer ystyr, fyddai i'n merched cyfoethog a thlawd feddu mwy o wybodaeth yn y llysiau amrywiol sy'n tyfu yn eu hymyl, ac am eu rhinweddau. Y mae hi'n wybodaeth hefyd mor ddyddorol a defnyddiol a hawdd ei chyrhaedid i bawb sydd yn byw yn y wlad, fel mai gresyn ydyw ei hesgeuluso. Dylai Clwb Llysiau bertliyu i bob capel ac egIwys wledig.
Dynes o Fanyor mewn Helbul
Dynes o Fanyor mewn Helbul Yn llys yr yna don, Banszor, ddydd Mawrth cyln.d:h'yd "Elizabatli Williams, Tanybryn terrace,. Bangor, o briodi yr ail waith tra yr oedd ei gwr cyntnf vn fYíV. Priodwvd hi y waith gyiitaf yn swyddfa'r cofrestrvdd yn Nbaernarfon, yn 1887, a Richard Williams, Ty'nrhos. Wedi hyny pricdcdd ar y 6ed o Orphenaf, y flwvddyn hon, a John Griffith Jones, yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Pan gymerwyd y gyhuddedig i fyny, dywedodd nad oedd yn meddwl fod unrhyw ddrwg mewn ail-briodi, gan nad cedd wedi clywed oddi wrth ei gwr ers blynycidau. Traddod- wyd y gyhuddedig i sefyll ei phrawf yn y frawdlys, ond caiiiatawyd meichiafon.
Damwain AngauoI yn Ngorsaf…
Damwain AngauoI yn Ngorsaf Prescot. Cyfarfu cerbydivr o'r enw Travis, yn byw yn Prescot, a damwain angeuol, nos Lun, tra yn gadael tren pan yn symud. Daeth y trancedig gyda'r tren o Lerpwl i Prescot, a phan gyrhaeddodd yr orsaf, neidiodd y dyn truan cyn i'r gerbydres sefyll. Tynwyd ef rhwng y gerbydres a'r pren troed, ac aeth yr olwynion dros ei goesau, gan eu tori. Dygwyd y corph adref gan heddgeidwaid.
Darlun y Frenhines.
Darlun y Frenhines. Y mae ein Grasusaf Frenhines, drwy Is- iarll Peel, cadeirydd Bwrdd Ymddiriedol- wyr yr Oriel Genedlaethol o Ddarluniau, wedi hysbysu ei bod yn dymuno gyflwyno i'r oriel ddarlun choni ei hunan wedi ei gwisgo yn ngynau ei choroniad. Y mae y darlun yn awr yn Mhalas Kensington. Gwnaed ef gan Syr George Hayter.
G WYLIAU HAF,
G WYLIAU HAF, "I lan y mor yr awn ar hynt, J gw nmi'r gwynt a'r tonau; Ao yno yn ei ddyfrcedd glan Y dyddan nofiwn ninnau." Ymwelir a glaiiau y mor, ac a'r ffynonau a manau ereill gan filoedd o'n cenedl yn ystod misoedd yr haf. Mae llawer yn myn'd i geiiio pleser ac adioniant yn unig yn ystod eu gwyliau, ond mae y mwyafrif mawr yn myned er mwyn cael adfywiad ys- bryd ac adferiad iechyd a nerth, y rhai sydd wedi eu hamharu gan lafur, gofalon a phryder, yn cael eu hachosi gan helbulon bywyd neu gan ystormydd y tymhorau blaenorol. Nid oes amlieuaeth nad un o'r moddion goreu i gyrhaedd eu hamcan i sicrhau adfer- iad iechyd a nerth yw newid awyr a golyg- feydd a chwmpeini, ymdrcchi yn y mor/ac yfed dyfroedd meddygol y ifyncnau, gan fod y pethau fcvn oil yn eifeithio yn llesol ar y cyfansoddiad. Ond mewn trefn i sicrhau y daioni a'r lies mwyaf oddiwrth y cyfnewid- iad, dylai yr ymwelwyr a'r glanau, ac a'r riynonau wneyd defnydd o feddygjyn ad- gryfhaol ac effeithiol fel Quinine Bitters GwiJym Evans,-v nieddvglyn enwocaf a mwyaf effeithiol er cydweithio a newid awyr er cynorthwyo natur i ymryddhau oddiwrth nycbdod, ac i nerthu y cylla, cryfhau y gewvnau a'r holl gyfanscddiad, a bwrw allan bob amhuredd o'r cyfansoddiad. Dyblir y lies a geir o'r gwyliau os gwneir defnydd pnodol ers Gwilym Evans pan vn uewid Gwerthir yn fferyllwyr yn mhob man mewi, noteh £ s 9c a 4s 6c yr un, neu anfonir ef drv. v v post am y prisiau hyn yn unio- gyrchol .i Jdiwrth y perchenogion: Quinine Bittern Afnnnf"ctnring Co. Limited, Llaa- elly, South Wailes.
Lnnchio mewn Camsynied.
Lnnchio mewn Camsynied. Yr oedd "mob" yn Lindsay, Louisiana, ar ymchwil am negro er mwyn ei lynchio. Yr oedd wedi gwneyd ymosodiad ar ddynes wen. Daliwyd negro, a buan crogwyd ef. Ond, ar ol holi, cafwyd allan fod yr hwn a grogwyd yn ddieuog ac heb fod yn ei iawn bwyll.
Mam Greulon.
Mam Greulon. Yn llys ynadon Abertawe, dydd Mawrth, anfonwyd un Catherine Hillman, Hafod, i garchar am un niwrnod ar hugain am esgeu- luso ei phlentyn caith oed. Dywedir fod y truan bach, tra yn dicddef oddiwrth diph- theria, yn gorfod aros allan wrth ddrws y ty hyd haner nos, tra y byddai ei fam yn diota.
Dynes Gyfrwys
Dynes Gyfrwys 0 bryd i bryd y mae margarine wedi ar- wam ami i fasnachwr i helbul a chost, ond nid oes un esiampl a ddaw i fyny a hwn. Safodd Emily Stallard o flaen ynadon Bryste i ateb drosti ei hun o barthed i werthiad margarine. Yr oedd Emily wedi prynu stoc o 200 pwys yn ystod mis; rhan- odd y stoc i pats, a gosododd argraff o fesea arnynt. Yn nesaf gwisgodd fel amaeth- wraig, ac ymaith a hi gan werthu yl mar- garine fel ymenyn ffres o'r wlad. Costiodd y trie ugain punt iddi.
.Cael Corph Dyn mewn Pwll.
Cael Corph Dyn mewn Pwll. Fel yr oedd dwy foneddiges yn crwydro drwy'r caeau yn Wrenbury, Nantwich, nos Iau., gwelsant rywbeth tebyg i "fwgan brain" yn eu bryd hwy, yn nofio mewn pwlL Tynasant ef at yr ochr, a gwelsant mai corff dyn ydoedd. Dychrynodd y boneddigesau nes y cawsant wasgfa- Yr oedd y corff wedi llygru yn ddirfawr. Tybiai yr hedd- geidwaid mai gweddillion dyn o Nantwich ydynt.
Y Gynddaredd.
Y Gynddaredd. Y mae geneth ieuanc, o wasanaethyddes, wedi bod drwy brofiad hynod am fyr amser, Yn Stockton-on-Tees y mae ei thrigfan, a bu i'r awdurdodau lleol yru y rhybudd gofytaol i Fwrdd Amaethyddiaeth yn ei hys- bysu o gynddaredd. Yn ystod ei chystudd byr o Sadwrn i'r Sul, arddangosodd holl arwyddion "hydrophobia," ond dywedir ei bod cyn yr ymosodiad wedi yfed swm go lew o frandi, a phan mewn pangfa daliwyd hi yn ceisio gosod ei phen mewn casgen o ddwfr. Wedi hyn yr oedd yn cyfarth ac yn cnoi, fel ci, a chafodd pedwar dyn lawn waith ei dal i lawr. Erbyn y Sul yr oedd wedi cael adferiad, braidd gyda bod rhybudd y meddyg wedi cyrhaedd y swyddfa.
--Lladron Sardinia.
Lladron Sardinia. Gwlad, y brigands ydyw Ynys Sardinia, ac er fod y llywodraeth wedi bod wrthi yn ddy- fal yn c-eisio eu llwyr ddifa, y maent hyd yn hyn yn achosi dychryn i'r trigolion. Yn ddiweddar aeth cwmni o filwyr mewn ym- chwil am rai o'r giwaid yspeilgar, a llwydd- asant i ladd neu iddal pedwar ugain ohon- ynt. Y mae, y prif leidr er hyny yn rhydd, Moni yw ei enw, ac y mae yn gyfrifol am 31 o lofruddiaethau. Credwyd unwaith fod Moni yn y ddalfa, amgylchynwyd coedwig, gweithiwyd i fewn yn raddol, ond nid oedd yr arch leidr Moni yno. Dangosodd cyn hir ei fod yn fyw hefyd, canys cafwyd cyhoeddiad o'i eiddo wedi ei hoelio ar ddrws Eglwys Sassari yn dyweyd ei fod yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn ei holl elynion. Y mae gwobr o 20,000 livres am ddal Moni.
Jabez Balfour yn Cann yn y…
Jabez Balfour yn Cann yn y Carchar. Bydd yn ddyddorol gwybod mai un o'r can- torion goreu yn ngharchar Parkhurst ar hyn o bryd yw Jabez Balfour. Nid yw yr arian a gollodd wedi blino dim ar allu Jabez i ganu, a thra wrth ei waith yn gwnio bagiau i'r llythyrdy, bydd Balfour yn taro tone ar diwn nes gwvno llawer ar ei gyd-garcharorion. Efe, hefyd, yw y canwr goreu yn yr oedfa ddydd Sul, a idiau pan ddaw yr adeg iddo gael dod allan i'r byd eto, yr aiff i ymuno a rhyw gapel gwledig, lie y gall swyno cynull- iadau lawer. Mae Jabez druan yn llawer mwy hapus ei fyd na'r ugeiniau a wnaed yn dlodion drwy ei dwyll. Nid oes oud nifer fechan o'r rhai hyny yn abl i ganu yn llawen, y mae eu caledi yn rhy ddygn o lawer.
Y Glowyr.
Y Glowyr. Dangosodd archwiliad ddydd Sadwrn fod safle masnach yn caniatau codiad o 1-41 y cant i lowyr y Deheudir. Nid yw y dyfarniad wedi creu b-odidhad, a chymeryd sefyllfa pethau yn gyffredinol hynod derfysglyd ydynt. Y mae y 'llyfr newydd" yn parhau yn asgwrn y gynen, ac y mae y gweithwyr wedi myned mor bell a chynghori pob aelod i wrthod yr holwyddoreg pan yn ceisio gor- chwyl mewn glofa. DangosoddJ y meistri hefyd eu bod llawn mor syth eu cefn, canys er na orfodir y gweithwyr i arwyddo y "llyfr newydd," mynegwyd v byddai y cwestiynau bwriadedig yn cael eu cyfeirio. I gyfarfod a hyn, awdurdodir aelodau y ffederasiwn i roddi mis o rybudd. Nid oes fawr gobaith am i heddwch lifo fel yr afon tra y bydd y Ilyfr hwn mewn bod. Bygythir cload allan yn ardaloedd Abertawe ac os na ddeuir i ddealltwriaeth cyn hir, bydd i wyth mil o weithwyr gael eu troi allan.
Athrontaeth Llythrenau."
Athrontaeth Llythrenau." Addewir dadblygiad rhyfeddol yn y gel- fyddid o argraffu. Rhoddir ar Jdeall y bydis yn gallu gwneyd i ffwrdd yn gyfangwbl ag inc, ac a phob offer, megis rholwyr, sydd yn anhebgorol angenrheidiol yn awr. Y mae y broblem o argraphu heb inc yn cael ei ddadleu er's peth amser. Ceisiwyd ei ateb S ddechreu trwy gymhwyso arluniaeth ati. Ond aflwv dclianus a fu hyny. Erbyn heddyw y mae y trydan wedi ei rwymo wrth y cer- byd, a chymdeithas anturiaethus yn barod i honi ei bod hi yn abl i arpraphu pob math ar lyfrau, newyddiaduron, cofnodolion, &c., yn unig trwy gyfrwng y mellt. Ac er fod y chwyldroad yn y gelfyddyd yn un mawr, bychan, mewn cymhariaeth, fydd y draul, medd y gymdeithas newyddanedig hon. Yr ydym eisoes wedi gweled engreifftiau o'r gwaith, ac wedi ein synu at ei deleidrwydd. Ond, daw chwaneg, yn ddiau, i'w fynegi am y ddyfais hynodol hon. Nid ydyyvbi yn awr ond megis yn yr esgoreddfa.
[No title]
Darfu i ddau ddyn yn Rotherham, ddydd Llun, gytuno i nofio yn y gamlas am beint o gwrw. Gcrchymynodd heddgeidwad hwy i IJdvfod allan. Atebodd un ohonynt, Joseph Neyland, "Os oes arnoch fy eisieu, Thaid i chwi ddyfod i'm nol." Yn bur fuan wedyn suddodd Neyland, a boddodd. Rhoddodd y swyddog ei "tunic" i'w ddal i rai oedd yn sefyll gerllaw, neidiodd i'r dwfr ond methodd a chanfod y corph. Pan ddaeth yr heddcTeidwf d i'r lan cafodd fod ei criawr wedi ei lladrata.
Al Armagedon?
Al Armagedon? Ddechreu yr wythnos taenid y gair ein bod ar fin brwydr lawr Armagedoo. Y mse y cenhedloedd yn. terfysgu yn nghyd, ac yn erbyn Lloegr ac America. Hysbysid )n y newyddiaduron fod cytundeb dirgel rhwng gwahanol AUuoedd Ewrop i ymuno i wneyd ymosodiad ar America a Lluegr. Y mae pobl yn tybio fod a wnelo ymweliad M. Delcasec, Gweinidog Tramor Ffrainc, a'r Czar yn bt. fetersburg, Rwsia, a'r sibrydiad yma.
Eglwys Gyfoethog Dlawd (?)
Eglwys Gyfoethog Dlawd (?) Y mae yn perthyn i Eglwys Loegr yn y deyrnas bymtheg ar hugain o Arglwyddi ysbrydol, ac y mae cydswm eu derbyniadau (cydrhyngddynt) yn gant a thriugain a deg o filoedd, a naw; cant o bunoedd, yn y flwyddyn! Ond y mae yr Eglwys mor dlawd nes y mae y Llywodraeth yn gorfod cardota drosti bedwar cant a saith o filoedd gan Dy y Cyffredin allan o bwrs y wlad i helpu perchenogion y degwm i dalu y trethi!
Tan mewn Glofa yn Abercanaid.
Tan mewn Glofa yn Abercanaid. Nos Sul, yn nglofa'r Gethin, Abercanaid (perthynol i'r Mri Crawshay), cymerodd tan le yn ystablau y lofa, pryd y llosgodd 21 o geffylau gwerthfawr, yn nghyd a thri ebol, i farwolaeth. Bernir i wreichionen o lusern yr ostler fyned am draws y gwair yn yr ystabl, ac achosi yr anffawd. Fe wnaeth y goruchwyliwr, Mr R. Howells, yn nghyd a Morgan Thomas, Thomas Lewis, J. Webber, G. Parker, a D. Lewis, ymdrechion, teilwng i osod y fflamiau allan. Yr oedd yr anifeil- iaid yn werth 650p.
Yr Oracl a Lefarws.
Yr Oracl a Lefarws. Ia,e'r ddedfryd wedi ei rhoddi, a beviach ni ddylai yr un Cymro gefnogi yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr awdurdod ar hyn ydyw Gwilym CowlycL, prif fardd pendant Prydain. Ac yn ol ei farn ef nid oedd y cynulliad yn Nghaerdydd ond gwegi a ffug. Yr unig Or- sded iawn, wirioneddol, a chywir, yw ei eiddo ef yr hon a ptnhelir ar lan llyn Geir- ionydd. Druan o Gwilym! Mae mab Plenydd wedi marw yn fachgen ieuanc 29 mlwydd oed. Aeth allan dro yn 01 i Affrica i geisio cael adferiad iechyd, ond cafodd anwyd wrth ddod yn ol, a bu farw yn mhen ychydig ddyddiau. Ceisia Mr William Jones, A.S., gael barn- wr newydd i'r fainc fyddo yn deall y Gym- raeg fel ag i drin yr achosion Cymreig. Saethodd Mr J. Edward Geen, masnachwr parchus o Abertawe ei hun yn mvnweat Eg- lwys Gadeiriol Llandaf dydd Mawrth di- weddaf. Bernir oddiwrth y papyrau oedd arno ei fod wedi colli ei synwyrau. Onid prawf o'r hen wireb, "There is but one step from the sublime to the ridiculous" oedd y ffaith yn nglyn ag Eisteddfod Caer- dydd ? pan y cafwyd yn lie prif waith y dydd mawr, sef cadeirio y prif fardd am 1899, yr "Highland fling" a'r "bagpipes" ar Iwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol Gymreig Ai gorfoleddu yr oeddynt am fethiant y beirdd i ganu clod yr arwr bydenwog Gladstone ?
[No title]
Yn lied foreu dydd Mawrth cafwyd h,11 i foneddiges oedd ar vmweliad wedi marw yn ei llety yn Heol Clwyd, y Rhyl. Nos Lun yr oedd yn iach, ac allan yn cerdded ar y rhodfa; ond pan ddeffroes y ferch cafodd ei mam wedi marw. Tybir mai gwraig i Gyng. horwr Trefol yn Birmingham ydyw.
0 BEN Y TWR.
0 BEN Y TWR. PAWB EI DREN EI HUN. Y mae y rhedegfa lwyddiannus o am- gylch Ffrainc-nel1 o Baris i St. Malo, yn Llydaw, pellder o 226 milldir-yn mynd yn bell i broti y bydd miloedd o bobl cyn pen deng mlynedd yn gwibio ar hyd prif ffyrdd pob gwlad yn eu tren eu hunain. Cystadleu- aeth modyr-gerbydau gyda thren yr express oedd yno. Yr oedd agos i gant o bob math o gerbydau ae olwynion yn yr ymdrechfa. Gorchfygwyd yr express gan fodyr-gerbyd o nerth un march ar bymtheg. Gelwir y peiriact yn Paubard-Levassor enwru y gwneuthurwyr. Ni chafodd M. de Knyff achos i sefyll munud ar y ffordd; cyflawn- odd y cerbyd ei waith yn ysblenydd. Gwnaed y daith mewn saith awr a haner. Sylwyd hefyd fod cyfartaledd teithio M. Renan ar ei eri-gylch uwchlaw nn milldir ar ddeg ar hugain yr awr. Y mae Pwyllgor Clwb Woduriaid Ffrainc yn trefnu cystad- leuaeth redeg o Baris i St. Petersburg yr haf nesaf. banol yr wythnos gwnaed ar- brawnon cyhoeddus ar foduriaid trwm- lwythag o Liverpool i Warrington. Yr oedd y pellder yn 35 milldir a'r baich yn 6! tunell. Gwnaed y daith yn ol cyfartaledd o ell\e' milldir yr awr. Cerbyd neu beir- iant y Thorueycrofts ac eiddo Leyland fu y trechaf yn yr ymdrechfa. CorfEoriaethau dinesig sydd yn cymeryd y dyddordeb penaf yn nadblygiad y ddyfais. Daethai cynrych iolwyr Corfforiaethau Leeds, Glasgow, Bradford, Manchester, Birkenhead, ac eraill l weled yr arbrawf. Rhagwelir eisoes y bydd moduriaid cryflon at wasanaeth trefol yn nodedig o radlawn o'u cymharu a thraul y meirch porthianus. Crea y peirianau byn ddiwydwaith newydd. Hyd yma buont yn eithriadol o lwyddianus. AMERICA DWRN Y PAB. Y mae gan Babyddion y Byd Newydd syniadau am reol a tbrefn o'r eiddyut eu hunain. Mewn gair, y msellt yn llawn o'r ysbryd "mynd" a'r weledigaetbal1 i e- wyddion sydd yn rh ddi arbenigrwydd ar yr Ianci. Y Tad Hecker oedd "tad" ) r Ameiicanyddiaeth a ddygwyd i ruewn i Bubyddiaeth. Wrth gwrs. yr oedd y cyfryw ddyheidau rbyddfrydig mewn cydgordilld a dyheadau corff Pabyddion y Talaethau. Oalwyd rhai o esgobion yr America i Rufuin i roddi cyfrif i'r awduraodau am oddef y fath ysbryd anaddas. Arswydai Ewrob Babaidd a cheidwadol rhag dwyn dim chwa o awyr groew i'r Eglwys. Gwedi blynydd- oedd o frwydro rhwng yr awdurdodau Rhcfeinig a'r esgobion edrydd gwffrebau o E-hufain, yr wythnos hor, fod y Pab wedi fadarnhau dyfarniad Cyngor yr Esgobion— byny yw, fed penierfyriiaoati Cyngor Trent a dedfrydau y Fatican gwedi hyny yu med iu ar rym cyfrnith ddisyfi yn America. Pab- yddiaeth Lladinaidd fydd yo awdurdodedig ) n y Talaethau bellitch. Ergydanisgwyliad- wy iGatboligaethRyddfrydig yw hyn. Ond a fydd i'r Americaniaid blygusydd gwestiwt onid yw neillduolion cymdeithasol y wlad rn wrthwynebol i gadwynau hen cleiigwyr Cymanfa Trent ? CYNHAUAF SEISNIG Y BABAETH. Dymunol yw gweled pa le yr ydym yn sefyll. Ychydig wythnosau yn ol ymffrost- iai y Cardinal Vaughan mai offeiriaid De- fodol Eglwys Loegr oedd y personaucymwys i droi Lloegr yn ol i fynwes y fam eglwys. A chwareu teg iddyut, gwnant eu goreu; ac yn bendifaddeu nid yehydig lwyddiant fu ar eu llafur. Yn dra amserol, ymgymerodd Mr Gordon-Gorman a chyboeddi y pedwer- ydd argrdffiad o'i waith ar "Converts to Aome." Dygir y cronicl i lawr o ddechren- ad y Mudiad Tractaraidd hyd ddiwedd Mai, 1899. Yr ydym mewn mantais, yn ngwyneb ffeithiau cynwysfawr Mr Gorman, i weled fod peth sail i ymffrost y Cardinal. Heb ddadl, bu llafur y clerigwyr anheyrngar yn dra effeithiol ceir yn y gwaith enwau am- ryw tiloedd-merehed yn benaf-o'r troed- igion. Parhau i chwyddo y mae'r llanw; allan o 446 o droedigion clerigol, aeth agos i drugain drosodd yn ystod y deng mJynedd diweddaf. Cadarnha y rhestr y syniad mai yr Eglwysi Defedol bron yn gwbl yw maes- ydd y cynhauaf Pobaidd. Ar yr un pryd, byfryd yw gweled, gan nad pa nifer o Eglwyswyr penboeth a dall sydd yn myned i'r Eglwys Babaidd, y mae tyrfa llawer mwy ) n gadael yr Eglwys hono. Breuddwydion sydd yn tynu y naill; profiad siom sydd yn gyru y lleill al!an. Y CYFANDIR PENSIWN HENAINT. Cyn dechreu ystyried y pwnc o lunio cyf- undrefn o beosiwn dyddiau henamt, ym- gymeroJd y Llywodraeth a gwneyd ym- chwiliad i'r modd y gweithreda teyrnasoedd eraill yn y mater. Yn ystod yr wythnos cyhoeddwyd Llyfr Glas yn cynwys adroid- iadau dyddorol am ddulliau un ar ddeg o deyrnaseedd. Dwy wlad yn unig—Germani de, a Denmarc—sydd yn meddu ar gyfundrefuau cyffredinol. Hyd yma yr Ellmyn sydd wedi dadblygn [a pherffeithio'r drychfeddwl. Cyfundrefn orfodol yw yr eiddynt hwy. Angenrhaid yw ar bob person i yswirio ar gyfer anallu henaint. Yn 1897 cvfranogodd 400,000 o flwydd-daliadau yn cyraedd y swm o ddwy filiwn a saith gant a haner o filoedd (2,750,531p). Nid oedd rhodd y Llywodraeth i'r gronfa yn ddim llai na 1,073,823p. Y mae cyfraith Denmarc yn hollol wabanol i'r eiddo Germani. Nid oes ynddi hi ond darpariaeth ar gyfer gwedd neillduol ar henaint, a rhaid i'r derbynwyr fod yn bersonau o gymeriad da. Nid yw y derbjnwyr ychwaith yn cyfranu at y gronfa yn uniongyrchol; ni phenodir yn y gyfraith swm neiliduol ychwaith i'r derbynydd eto gofelir ar iddo fod yn ddigonol er cyfateb i bngen hynafgwr a'i deulu. Rhyw 216,317p ranwyd cynrhwng 36,246 yn Denmarc. Mae yn amlwg nad yw y gyfundrefn eto ond yn ti babandod. DIWYGIO'R EISTEDDFOD. Y newydd goreu a gaed o Gaerdydd oedd yr addewid amserol yn nghylch diwyg o'r Eisteddfod. Penodwyd pwyllgor i'r pwrpas. Yr oedd sain parodrwycid i udiwygiad eymed- rcl yn lleferydd ceidwaid yr Orsedd. Eang- wyd maes yr ymchwiiiad nid barddas yn unig sydd mewn aLgen am ad.iewyddiad. Daw cyfansoddiad ac arfer yr Eisteddfod o dan sylw y pwyllgor ymchwiliadol. Ac w,,di dechreu ar y gorchwyl o ddiirif, prin y gall yr ymchwihvyr lai nag argymhell cyulam lied eang o gyfnewidiadau. Er fod yr Eis- teddfod yn tyfu mewn poblogrwydd a dy- lanwad, peth o'r tu allan iddi hi ei hun yw efe. Nofio y mae ar donau grymus y deif- road addysgol a Cheltaidd.—Pery llenorion beunydd i gyfeirio at "Literature cf the Kymry" fel prif gynyrch yr Eistaddfod o'i dechreuad, er fod dros ddeugain mlynEdd cr pan yr ysgrifenwyd liwaw. Yn tfedus, y mae yn mysg y eyfansoddiadau di'.veddar un traethawd sydd erbyn hyn, os nad ydym yn famgymervd, yn ffuxfio 'cnewVllyn cyfrol Seisnig o enwogrwydd n:d bychan. Yr ydym yn cyfeirio at "The Ascent through Christ: A study of the doctrine of Redemp- tion in the light of the theory of Evolution," gan y Parch E. Griffith Jones, M.A., Bal- liam, Llundain. Traethawd Eisteddfodol ar "Berthynas Dadblygiad a Dinvinvddiaetii' yw rhuddyn gwaith meistrolgrr Mr GriffitTi Jones. Diau fod traethodau ereill o fawr werth wedi eu cyhoeddi mewn blynyddoeud diweddar yn nghyfrolau blvnyddol yr Eis- teddfod, ac fel arall eto y maent yn amddi- fad o rabenigrwydd sii-ld yn gwneyd llyfr yn z- awdurdod, ac yn ei gadw beunydd yn y golwg. Dylai yr Eisteddfod ddwyn ambell i gyfrol feUy i'r golwg eto.
Advertising
r AH Y FFORDD I I RUFAIN. NEU PABYDDIAETH EGLWYS LOEGR. Dymunir hysbysu y ceir yn y "GENEDL"' yr wythnos nesaf yr erthygl gyntaf o gyfres o ysgrifau arbenig a dyddorol ar 0 Defodaeth A Phabyddiaeth YR EGLWYS YN NGHYMRU —ITrwyth ymchwil manwl, personol, a swyddogol. Cynwysa yr erthyglau fanyl- ion am y CYMDEITHASAD CYFRIN (Secret Societies) yn yr Eglwys, eu daliadau a'u hamcanion, gyda RIIESTR O'R OFFEIRIAID CYHREI6 sy'n aelodau o'r Cymdeithasau hyny. Ceir hefyd fanylion am Arferion a Seremonian Defodol yr Eglwys, ystyr yr arferion a dysgeidiaeth y eeiemoniau, yn nghyda Rhestr o'r Eglwysi Cymrell lie y ceir rhai o'r arferion hyn. Ni chyoeddwyd dim cpjfetyb yn yr laitli Gfy mraeg ei-ioed
Sheidoniaeth1 m --
Sheidoniaeth1 m Wrth y gair uchod y gelwir y mcdd yr addysgir egwydidorion Cristicnogaeth yn nghynvrchion llenyddol Charles M. Shel- don, awdwr "Yn Ei Gamrau Ef." Nid yw y ffordd hon yn wreiddiol i Mr Sheldon, gan i lyhau ereill, cyn hyn, ddefnydkiio y ffordd i raddau mwy neu la.. Awgrymir y ffordd hon gan lyfr Mr Stead, "Pe y Delai Crist i Chicago," a gwnai rhai o hen hregethwyr Cymru ddefnydd ohoni yn achlysurol. Trwythir "Yn Ei Gamrau Ef' gan ysbryd yr ymlioliad, Beth wnai Crist pe yn y fath am- gylchiad neu yn y fath le. Er uad hawdd yw dychymygu beth a wnai Efe dan bob am- gylchiad yu nhrefn eymdeithas y dyddiau presenol, eto mae yn ddigon naturiol ym- ofyn ond gwneyd hyny gyda gofal a pharch dyledus. Y mae ei fywyd, ei ymddygiad, a'i egwyddorion yn dra hysbys i ni yn ol i y pedair Efengyl. Gan rai newyddiaduron a chyhoeddiadau crefyddol, ni ystyrir y dull Sheldonaidd hwn o ddeffroi meuayliau Cristionogion at wirionedd eu crefydd yn nemawr gwell na rhyfyg. Gwneir cynifer o bethau anrasol gan rai yn proffesu dilyn yr Iesu fel y cyfritir con- demniad ohonynt yn rhyfyg. Gwna yr eg- Iwysi yn fynych bethau na wnai y Meistr, fel y gellir casglu yn ddigamsyniol oddiwrth ei ymddygiad a'i eiriau; a gwnai Efe lawer o bethau na wneir byth gan yr eglwysi a chan aelodau ohonynt. Ymswynir wrth ymofynia'dau y llyfr, megis eiddo golygydd llewyùdiadu Amer- icanaidd (un o cynrychiolwyr y Gristionog- aeth Sheldonaidd). A osdJai Crist dair colafn o hanes paffio yn ei gyhoeddiad pe vn olvgydd? Cyfrifir ymolyniadau o'r fath yn iselwael a rhyfygus. Y rheswm y'u gofynir, yn ddiau, ydyw fod pobl grefyddol bro'ffccedig vn gwneyd y fath ffolineb. Os ydynt yn dilyn Crist, rhaid y gwnai Efe yr un model. Ymddengys yr ymafyniad yn ddigon tea; ac, yn sicr. y mae mewn ffcrdd yn dra effeithiol i ddwyn pcbl anystyriol ac anghofus o ras yr efengyl i anigyffred eu dy- ledswvdd. Ceir engreifftiau o Gristionogion vn eistedd yn ddefosiynol iawn dan y bregeth ar y Sabboth, er pi derbyn dw oddiwrth drefniadan sydd yn halogiad i'r Sabboth ac yn llygriad i gymdeithas, ac yn ormes ani- oddefol ar eu cyd,greaduriaid. Ychydig ofvnir bellach gan Gristionogion beth a wnai v Meistr, eithr beth a oddefir iddynt gan eu gilydd ac y mae anghyfiawnder yn r<ddefol.
[No title]
Boreu dydd LInn. ymosodwvd yn far- baraidd gan geffvl gwedd ar William Da- t, vids, gwerthwr glo, PenybaH, Treffynon. Yr oedd Davies yn marchogaeth yr anifail, ond taflwvd ef ar lawr, a dcchreuodd y ceffyl ei gicio a'i frathu yn ffyrnig. Derbjniiodd niweidiau trymion. Llwyddwyd i yru y march yniaith, a dygwyd Davies i Dreffynon.