Skip to main content
Hide Articles List

18 articles on this Page

Hanesyn Mam Ienanc.

Lladd ei dau blentyn

GWYLIAU HAF.

Undeb y Brythonlaid,

DRYFHEWCH Y CYFANSODDIAD.

JDros Donnau'r Werydd ]

BUDD.UGOLIAETH GWYLFA YN CAERDYDD.

Y DEIYN GYMREIG

News
Cite
Share

Y DEIYN GYMREIG Syr,—-Bum yn darllen gyda boddhad yr adroddiadau am weithrediadau yr Eistedd- fod yn Nghaerdydd. Ar amryw ystyr- iaethau yr oedd Gwyl Genedlaethol Caer- dydd yn meddu arbenigrwydd neillduol. Yr oedd' yno gydgyfarfyddiad o wahanol lwythau Celtaidd. Bu awdurdodau'r Eis- teddfod yn ddigon rhyddfrydig pa un a oeddynt yn iawn ai peidio sydd gwestiwn arall-i groesawu offerynau cerdd cenedl- aethol y Llydawiaid a'r Ysgotiaid. Mwy na hyny, pan wnawd yn hysbys fod cyn- yrchion awen y beirdd gystadleucnt am lawryf yr wyl yn syrthio yn fyr o gyrhaedd safon y beirniaid, wele ganiatad yn cael ei roddi i'r Ysgotiaid ddangos os nad allai'r beirdd Cymreig gynyrchu barddoniaeth ddigon da gyda'u penau y gallai yr Ysgot- iaid gyda'u traed beri dyddordeb i'r dorf siomedig. Rhodde'r y cwbl at eu gilydd a gofynwch i cliwi eich hunain, "Lie mae'r delyn Gym- reig?" Gwlad y delyn y gelwir Cymru, ac y mae yr enw a'r offeryn yn meddu swyn neillduol i ni, genedl y Cymry. Mwy na hyny, credaf fod absenoldeb telynor neu delynores gothedig i'r Eisteddfod wedi peri siomialit nid ychydig i'r Eisteddfod- wyr. Gwn fod telyn yin yr orsedd-ond nid oedd yr un yn pgw eithrediadau yr wyl ei hun. Awdurdodau'r Orsedd sydd i'w canmol am ymorol am delyn i wasanaethu yn eu cyfarfodydd hwy. Ond am gomiti'r Eisteddfod ni welsant hwy yn dda roi lie i brif offeryn cerdd yr hen Gymry yn eu testynau nag yn eu program. Beth ylw'r rheswm am hyny? Myn'd yn rhy hen ffasiwn y mae ? Beth am y rhai sydd wedi gwario mawr arian i ddysgu chwareu'r delyn yn dda, ac yn parotoi i ddysgu eraill os na roi'r cyfle iddynt i gael engagement ddydd yr Wyl Fawr-yr unig wyl yn y flwyddyn bron y gallent gael un, a beth hefyd am y disgyblion? Onid ydyw yn ddyl- edswydd arnom i symbylu yr ieuenctyd i ddysgu chware'u'r delyn drwy gynyg gwobr- au am hyny. Y diwedd fydd gweled yr hen delyn wedi ei rhoddi i grogi ar yr helyg a'l rhestru yn mhlith y pethau a fu. Hyd- eraf y bydd i Bwvllgor Lerpwl edrych ati fod y delyn yn cael ei lie priodol yn Eistedd- y fod fawr 1900.-Yr eiddoch, &c., IFOR.

Meddwyn drud.

Advertising

Lladd ei Fertii.

_..--..... JACK 1 LLOMxWE'

Neidio o'r Gerbydres.

MARWOLAETH Y "MIS PUMP."

At Weision Ffarmwrs Mon.

Colli ei Fawd: lawn o 40p.

- Dlenyddlo Mary Ansell.

Arbrawf ar Wrtaffiflo Pytatws…