Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

Hanesyn Mam Ienanc.

News
Cite
Share

Hanesyn Mam Ienanc. Gwrthrych yr hanesyn canlynol ydyw Mrs Rose Bull, 18, William terrace, Windsor Street, Beeston, yr hon mewn ymddiddan a gohebydd y "West Nottinghamshire Obser- ver" a wnaeth yr adroddiad rhyfeddol a gan- lyn "Ar ol genedigaeth fy machgen bychan, yr hwn sy'n awr yn bedwar mis oed, aethum yn wael iawn yn dra sydyn, ac ni feddyliais y buaswn byth yn gadael y ty drachefn, ond i'r daith ddiweddaf. "Beth oeddych yn ddioddef oddiwrtho P" "Camdreuliad poenus. Yn wir nis gallaf ddweyd beth arall ydoedd. Yr oeddwn yn hollol analluog i gymeryd unrhyw fath o fwyd, hyd yn oed owpanaid o de biff, heb orfod ddoddef poenau mawr. Mewn canlyn- iad i hyny, yr oeddwn mor wan fel nas gall- wn gerdded ar draws yr ystafell heb gym- horth." "Os oeddych mor ddrwg mor ddiweddar, nis gallaf ddeall pa fodd yr ydych yn edryoh mor iach a llawen yn awr." "Wel, un noswaith yr oedd fy nhad yn darllen papyr newydd, ac edrychodd i fyny a dywedodd, "Dyma hanes am achos yr un fath a chwi, wedi cael ei adferyd gan Dr Williams' Pink Pills for Pale People. Paham na roddweh dreial arnynt P" Yr oedd yr hanes wedi rhoddi y fath argraph ar fy nhad fel y perswadiodd fi i brynu rhai." "Pa hyd y buoch cyn teimlo eu bod yn effeithio arnooh P" "Ar ol dau neu dri o ddognau. Ie, gell- wch weau, ond y mae yn berffaith wir. Ar y trydydd dydd, teimlwn yn Ilawer gwell, ac yr oeddwn yn alluog i ddychwelyd at fy ngwr." "Beth ddywedodd y meddygon am dan- och ?" "Ni ddywedais wrthynt fy mod yn cymer- yd Dr Williams' Pink Pills, ac mae yn sicr genyf nas gallent ddyfalu pa fodd y oefais droi ar wella mor fuan. Yr oedd fy ngwr yn falch iawn, ac wedi synu fy ngweled o gwmpas, ac nis gallai fy nghymydogion gredu y peth. Cymerais ddau o flycheidiau yn ychwa-neg, yn gwneyd pedwar o gwbl, ac yr wyf yn awr mor gryf ac iach ag erioed." Gwneir yn ysgafn o'r afiechyd hwn yn ami, ond mae yn anhawdd iawn ei adfer. Y feddyginiaeth sydd i'w chymeryd ydyw rhywbeth a alluoga y cyfansoddiad i dreulio a chael y maeth priodol oddiwrth y bwyd a gymerir, a dyma lie mae Dr Williams' Pink Pills yn gweithredu yn effeithiol. Mae tymor yr haf yn ami yn dechreu camdreul- iad; pan y teimlir ei effeithiau yn dechreu, na chymerweh gyffyriau rhyddhaol, y rhai ar y goreu a roddant ond esmwythad am dymor, ond cymerwch Dr Williams' Pink Pills, a chanlyn y cyfarwyddiadau yn ofalus. Maent wedi adferyd lluaws o afiechydbn eleill-gwaed drwg, gwendid, St. Vitus' dance, darfodedigaeth, crydcymalau, &c. Pan y bydd unrhyw anhawsder i gael y pel- enau hyn, cofiwch fod enw llawn Dr Wil- liams' Pink Pills for Pale People i fod ar y blwch, a gellir eu cael am 2s 9c y blwch, neu chwe blwch am 13s 9c oddiwrth Dr Williams' Medicine Company, Holborn Viaduct, Lon- don.

Lladd ei dau blentyn

GWYLIAU HAF.

Undeb y Brythonlaid,

DRYFHEWCH Y CYFANSODDIAD.

JDros Donnau'r Werydd ]

BUDD.UGOLIAETH GWYLFA YN CAERDYDD.

Y DEIYN GYMREIG

Meddwyn drud.

Advertising

Lladd ei Fertii.

_..--..... JACK 1 LLOMxWE'

Neidio o'r Gerbydres.

MARWOLAETH Y "MIS PUMP."

At Weision Ffarmwrs Mon.

Colli ei Fawd: lawn o 40p.

- Dlenyddlo Mary Ansell.

Arbrawf ar Wrtaffiflo Pytatws…