Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
Helynt y Person a'r Clwrad.
Helynt y Person a'r Clwrad. Y mae yr ynadon yn Mhontardawe wedi penderfynu y rhaid i'r cweryl rbwng v rheithior a'r ciwrad yn yr Alltvren fyned ir brawdlye i gael ei wastadhaH. Cyhudda y rbeithior y ciwrad o wneyd ymosodiad arno, trwy ei at&l a'i rwystro i gyflnwni gwas«in- neth ci*fyddol yn yr eglwys ar adeg neill- duol; a'r oanlyniad yw fod yn rhaid oael barn rheithwyr yn vr achos. Yr ydym yn 04tlgla oddiwrth non y fainc fod tebygol- rw) dd mai y rheithior ydd yn eefyll ar y tir cadaruaf.
[No title]
Dyddiau Gwener a Sadwrn, cynhaliwyd ar- holiadau am ysgoloriaethau i fyned i mewn i'r ysgolion sirol yn sir Ddinbych. Bu ym- geiswyr yn eistedd yn yr ysgolion sirol yn Ngwrecsam,Ilhiwabon, Llangollen,Rhuthyn, Dinbych, Abergele, Llaiirwst, Cerrigy- druidion, a Llansilin. Y mae cyfanswm gwerth yr ysgoloriaethau tua 400p. Yr ar- holwr ydyv,- Mr L. J. Roberts, arolygwr ys- golion, Rhyl.
[No title]
At groen teneu.—Eillier gyda Sebou Cuticura, a cliyii i ohwi clchi y gwyneb rhwbiwch yn ysgafn vehydig o enaint gyda Cuticura dros y rhan a eilliwyd. Ym- olcher yr oil gyda Scbon Cuticura a dwfr poeth. Gwnaiff v driniaeth syml hon eillio yn bleser, a phrofa yn gysur mawr i'r rhai sydd a chroen teneu, ac hawdd ei dori, a rhwy.stra y clwy a geir yn ami mewn siopau eillwyr a lluaws o wahanol ffurfi&u 0 ecsema.
---!II.--"t-JTtYFHEWCH Y CYFANSODDIAD.
-II. -t- JTtYFHEWCH Y CYFANSODDIAD. Mae pawb yn barod i werthfawrogi a chroesawu yr awelon tyner a balmaidd ddis- gwyliwn yn naturiol eu mwynhau yr wyth- nosau dyfodol, ar ol lleithder ac afiachus- rwydd y tymhor sydd wedi myned heibio. n ystod misoedd diweddaf mae lluaws wedi bod yn dyoddef dan yr anwydwst ac anhwvlderau ereill, ac eto yn diboeni mewn gwendid a llesgedd tra yn ymdrechu adenill y nerth a'r iechyd a. gollwyd. I alluogi y cyfryw i gael adferiad i'w hiechyd cynefin ac i fwjnihau iechyd da y tymhor dyfodol, dy- lent gymeryd rhyw feddyginiaeth adgryfhaol a symuda ymaith efFeithiau niweidiol yr afiechyd ac a. sryfha y cyfanseddiad i wrth- sefyll yn llwyddianus ymosodiadau dyfodol. Meddyglyn o'r fath, a'r goreu sydd eto wedi ei ddarganfod, yw Bitters Gwilym Evans. Gwelir hyn ar unwaith os ystyriwn am foment yr efFeithiau y mae yn gael ar y cyfansoddiitd. Dyma rai o honynt:—Mae Bitters Gwilym Evans yn cynorthwyo, a hwylusu gweithrediadau natur, trwy gyn- orthwyo bwyd dreuliad, a chryfhau v cyfan- soddiad a thrwy hyn wella a hwylusu cvlch- rediad y gwaed, &-e. Mae v Quiuinc" Bitters hyn hefyd yn cryfhau y (riau a'r cyhyrau, yn puro a ffrwythloni v gAraed, yn bywiocau yr ysbryd, yn adloni y meddwl, ac yn symud ymaith rwystrau ac atalfeydd yn yr ermigau bywydol. rawf o effeithiolrwydd BitteTs Gwilvro Evans yw fod pawb sydd wedi ei ddefnyddic unwaith yn ci gymeradwyo i'w cyfeillion. fel y mae yr alwad am dano yn cynyddv o flwyddyn i flwyddyn, a lluaws o efelychiadau gwael o hono yn cael eu cynyg i'r cyhoedd. Gocheler y rhai hyn trwy edrych fod enw Gwilym Evans ar y label, y stamp, a'r botel. Pris Poteli, 2s 9c a 4s 6c yr un. I'w cael <ran TTchol, oddiwrth y perchenogion —Quin- ine Bitters Manufacturing Co., L:mit1, LL&nelley, South Walep
HfN A'R LtALL.
HfN A'R LtALL. Rhoddwyd dinasfraint Newcastle i Ar- glwydd Woiseley ddydd Sadwrn. Y mae dwy fil o filwyr Americanaidd clwyfedig a chlaf yn gorwedd yn Manila. Bu farw Duces Rutland nos Fawrth yn Homburg. Y mae dros ddeng mil ar hugain o Gym- ry yn Scranton, America. Y mae Mr J. Wynford Phillips, A.S., ar daith yn Neheudir America. Chwi a dorwch fy nghalon," fel y dy- wedodd y dderwen wrtn y fwyell. Mewn arwerthiant ar wyn yn Sutton, fe geid 5p 15s y pen am danynt. Cyfrifir fod pump ar hugain o bersonau wedi marw yn New York yn ystod y pym- thengnos hyn drwy lock-jaw. Nid yw Arglwydd Salisbury yn credu y dylai gwasanaethwyr mewn siopau gael eis- tedd. Rhoddodd Syr Weetman a'r Arglwyddes Pearson "wledd gardd" i aelodau y blaid Ryddfrydig prydnawn Sadwrn. Syrthiodd dyn ieuanc o gwch yn Hampton Reach ddydd Sadwrn, a bu foddi yn ngwyddfod canoedd o edrychwvr. Gomeddodd v Llys A pel, ddydd Sadwrn. a chlaiiiatau i Arglwydd Francis Hope weitnu y Diamwnt Glas. Dywedir fod Defodaeth' Babyddol yn dra blodeuog mewn pedair ar bymtheg o eg- Ivvysi yn Nghaerdydd. Fe ddirwywyd dynes a'i henw Elizabeth Jones, Abertilleri, ddau gant o weithiau am feddwi a chamymddwyn. Cafwyd wyth gini ar hugain am faneg oe-- wedi cael ei gwisgogan Nelson mewn arwerthiant yn Llundain. Y mae yn yr India Ddwyreiniol gopynau (spiders) mor fawr fel mai adar bychain ydyw eu hysglyfaeth mwyaf dewisol. Nid yw carcharor ar fin cael ei ddien- yddio yn Ffrainc yn gwybod y dydd. Hys- bysir ef union chwarter awr cyn bod y fwyell yn syrthio. Etholwyd Mr Archibald Hood yn olyn- ydd i Syr W. T. Lewis fel cadeirydd Cym- deithas Meistradoedd Glowyr Deheudir Cymru. Y mae mwy o newyddiaduron yn cael eu hargraffu yn yr Unol Dalaethau nag sydd yn iloegr, Ffrainc, a Germani wedi eu huno yn nghyd. Mwynha llawer grefydd fel y mwynhant bibell, gwydrajd o ddiod neu foddhad un- rhyw flys arall, ond gwerth gwir grefydd yw y ileshad wna nid y mwyniant rydd. Dydd Sadwrn, yn Eglwys St. Paul, Knightsbridge, cymerodd priodas le rhwng ladl Shaftesbury a'r Arglwyddes Constance Grosvenor, wyres Due Westminster. Yn Eglwys Gadeiriol Canterbury, ddydd Sul, bu y Deon Farrar yn pregethu ar y, deurodur. Yr achlysur oedd ymweliad' 750 o farchogion y deurodwyr a'r gwasan- a,ith *i; i Am yr ail flwyddyn mae Mr George Cad- bury wedi cyfranu 25p tuagat gronfa Eg- lwysi Anghydffurfiol Gogledd Cymru. Hefyd rhoddodd Mr Samuel Smith, A.S., bum' punt, yr un fath a'r llynedd. Barna un bardd Cymreig mai Cymraeg a siaredir yn y nefoedd. Dyma fel y dy- wed: Os yn y nef y cartrefwn—'n iaitb anwyl Ac yno Cymraeg ganwn, Fyth yno siaradwn; Ac yntau Sais yn gwneyd swn. Dydd Iau, yn Mrawdlys Kent, dedfryd- wyd George Eddowes, yr hwn yn 1893 a ddiangodd o garchar Caernarfon tra yn aros ei brawf am ladrad yn Nghaergybi, i butn* frnlynedd o. benyd wasanaetii am dori i lythyrdy a lladrata llythyrau yn eyawys arian, &c. Dywedwyd fod ei "eis- ieu" hefyd am ladrad yn Ninbych ac yn Nghaernarfon.
Agor Siopau ar y Sul yn y…
Agor Siopau ar y Sul yn y Rhyl Dydd Mawrth cyhuddwyd Henry Kirk a Simon Eisiski, gwerthwr tybaco, Rhyl, o gadw eu masnachdai yn agored ar y Sul. Cyfaddefodd Kirk ei drosedd, a dirwywyd ef i Is a'r costao. Dros Eisiski, dadleuid gan mai luddtew ydoedd fod gandldo berffaith hawl i gadw ei siop yn agor, a'i fod yn rhydd o unrhyw gosp am wneyd hyn. Ymgymerodd y diffynydd bcidio agor eto ar y Sul, a dirwywyd ef i Is a'r costau. i
Un gwahanglwyfus.
Un gwahanglwyfus. Dydd Sadwrn, yn Mhont Wolseley, cyn- haliwyd trengholiad ar gorph William Ben- nett, llafurwr, yr hwn a ymgrogodd mewn adeilad ddydd Iau. Yr oedd y dyn a'r gwahanglwyf arno, er na wyddid pa fodd ei cafodd. Rhoddodd derfyn ar ei einioes yn yr ofn y cludid ef ymaith.
Y Gymraeg yn y Senedd.
Y Gymraeg yn y Senedd. Ai tybed y bydd yr aelodau Cymreig yn siarad Cymraeg gyda'u gilydd yn y Sen- edd? Pan yn crwydro'r lobby, a fydd iaith y bryniau ar eu gwefusau ? Caiff y sawl sy'n gwybod ateb. Ond Mabon, hyd yn hyn, yw yr unig un ddaeth a Chymraeg i'w araeth yno. Bu yn dweyd ei "bader" yn Gymraeg yno dro yn ol a'r wythnoaddi- weddaf, yn v ddadl ar Fesur Trethiant y Degwm, rhoddodd i'r Ty ddyfyniad yn y Gymraeg.
TALYSARN.
TALYSARN. Dydd Sadwrn diweddaf, yn 58 mlwydd oed, bu farw Mrs Catherine Hughes, hn- wyl briod Mr John Hughes (Alaw Llyfnwy), Bryndyffryn, Talysarn. Dymunir hysbysu y bydd y gladdedigaeth yn cymeryd lie prydnawn ddydd Iau yn mynwent Mac- phlelah, Penygroes, ac nid yn Llanbeblig, fel y cyhoeddwyd yn y "Genedl Gymreig."
YR EISTEDDFOD MKDLlETHOL
YR EISTEDDFOD MKDLlETHOL YR WYL ELENI YN NGHAER- DYDD YMWELWYR CELTIG. BRWDFRYDEDD MAWR. Ar ol llawer o barotoi a llafurio—ar ran pobl dda Caerdydd, ac ar ran yr ymgeiswyr am wobrau,—agorodd Eisteddfod Geneul- aethol Caerdydd ei chyfarfod cyntaf ddydd Mawrth. Anmhosibl cael tywydd dymunol- ach, a mawr hyderir y pery hyd ddiwedd y eyfarfodydd dd'ydd .8adWTIlI. Pa Gymro sydd nad yw ei galon ar dan, ddyddiau gwyl yr Eisteddfod Genedlaethol, gan wladgar- wch, cenedlgarwch, ac iaithgarweh ? Pa ryfedd i'r bardd Celtig ofyn "Breathes there a man with soul so dead Who never to himself has said, This is my own my native land ?" Nid oes Gymro diffuant nad yw yn ymfawr- hau yn iaith, defodau, a sefydliadau ei wlad. Od oes un yn ein plith yn wahanol o ran gwrthrychau ei serch a'i barch a'i anwyldeb, gellir yn ddibetrus ddweyd, o SAFBWYNT GENEDLAETHOL CYM- REIG y bydd i'r cyfryw un lithro oddiar chwareu- fwrdd heb na chan nac anrhydedd na deigi yn ar ei ol— "Unsung, tinhonoured, and unwept." Saif pabell yr Eisteddfod yn Mharc Cathays. Yr oedd y draul o'i hadeiladu yn 2500p. Y mae ynddi le i ddeng mil eistedd, a gall pum' mil arall sefyll ynddi. Medda ar dair oriel, a bydd yr holl gynulleidfa yn agos at y llwyfan. Yr oedd yn hysbys er's peth amser y byddai i dramcrwyr dysgedig ymweled a'r wyl. YR YMWELWYR CELTI(I. Cvnrychiolid y gwahanol ganghenau o'r cyff Celtig gan y dysgedigion canlynol: Cynrychiolwyr o Lydaw: M. Jan ar Fu- tek, (Paris "Figaro"), M. Jaffrennon, M. de Jubainville, M. Riou, M. Degoul, M. Buleon, M. Vallee, M. Corfac, M. Cloaree, M. Caval- ier, M. Ducontray, M. Gaidoz, 31. D. l'Estourbeillon, M. Tiercelin, M. a Madame le Goffee, M. Radiguet, M. Rene Guivart, a M. Anatole le Bray. Cynrychiolwyr Gwyddelig: Pan-Celtic Society, Lord Castletown a Mr Fournier d'Albe; Feis Ceoil, Mr H. Macaulay Fitz- gibbon, Mr Brendon Rogers, a Mr Walter Bapty Gaelic League, Mr P. H. Pearse; Cymdeithas Cadwraeth yr iaith Wyddelig, Count Plunkett. Cynrychiolwyr Gaelig Highland Mod, Mr J. A. Stewart, Mr D. A. S. Mackintosh, Mr A. S. Macbride, Mr a Mrs Martin, a Mr John Mackay. Cynrychiolwyr o Ynys Manaw: Manx Society, Llefarydd Ty yr Agoriadau, Mr C. O. Quayle. Yr oedd y Llydaw-wyr wedi jmwisgo yn I ngwisg eu gwlad, ac yr oedd golwg daraw- iadol arnynt. Derbyniwyd' hwy ddydd Llun, ar eu cyrhaeddiad i Gaerdydd, gan yr Henadur D. D. Jones (cadeirydd y pWyllgor gweithiol), y CynghorwT Edward Thomas, Y.H., ac aelodau ereill o'r pwyllgor gweith- iol. Croesawyd y cynryehiolwyr mewn gwledd, pryd yr yfwyd iechyd da'r Fren- hines, Arlywydd Ffrainc, y Cenedloedd) Celtig, Cymru, &c. Traddodwyd anerch- iadau yn yr holl ieithoedd Celtig, ac yna aed yn orymdaith i'r orsaf i gyfarfod Llefarydd Senedd Ynys Manaw a lluaws o ymwelwyr ereill. GWLEDD Y MAER. Rhoes Syr Thomas Morel, y maer, groesaw i tuag wyth gant o ymwelwyr yn y Llyfrgell Rydd yn yr hwyr. Siaradodd Mr Birgin, Cork, yn y Wyddelaeg; Mr T. Napier, Ed- inburgh, yn y Gaelaeg; Mr Moor (Llefar- ydd Senedd Manaw), yn y Fanawaeg; a M. Vallee, yn y Llydawaeg. Caed anerchiadau Cymraeg, hefyd, a chaneuon yn yr holl ieith- oedd. Atebodd Arglwydd Windsor y llon- gyfarchiadau i'r Eisteddfod. Canodd Cor v Merched Cymreig amryw ddarnau, ac yna taflwyd y llyfrgell a'r greirfa yn agored i'r ymwelwyr. Y CWERYL GYDA LERPWL. Bu pwyllgor yr Orsedd yn cynhal cyfar- fod nos Lun, o dan lywyddiaeth" yr Arch- dderwydd. Y mater fu dan sylw oedd yr ohebiaeth fu rhwng Pwyllgor Eisteddfod Lerpwl a Chofiadur yr Orsedd parthed rheolau yr Orsedd yn nglyn a mesurau testyn y Gadair. Pasiwyd amryw ben- derfyniadau ar y mater, ac yn eu plith un yn eymeradwyo y cwrs a gymerwyd gan y Cofiadur i amddiffyn rheolau yr Orsedd. Ystyrid fod Pwyllgor Lerpwl wedi tori yr amod a roddasant yn FfestiniogT CY.l< ÁAü,'ODYDD YR EISTEDDFOD. Gwelir isod adroddiad o weithrcdiadau dydd Mawrth.—Dydd Mercher, nodid i lywyddu Mr J. M. Maclean, a'r Gwir An- rhydedduis Arglwydd Castletown. Hwn fydd dydd y Goron, ar y testyn, "YDyddan- ydd Arall," gwobr 21p a choron gwerth lOp. Cystadleuaeth corau merched, ac y mae enw Cor Merched Dyffryn Nantlle yn y gystadleuaetlt.—Dydd Iau, llywyddir gan Syr Thomas 3IorcM, ttiaer CStertfydd, a Dr Isambard Owen. Y prif beth heddyw fydd y cadeirio. Y testyn yw "William Ewart Gladstone." Saith o ymgeiswyr.— Dydd Gwener y cyffler cystadleuaeth meib- ion le.Y,prif b-etli, ddydd Sadwrxi fydd cys- j tadleuaeth v seindyrf. Yn mhlith yr wyth seindyrf ag y mae eu henwau i lawr y mae Seindorf Bres Llan Ffestiniog a Seindorf Arian Dyffryn Nantlle. YR ARWEINWYR. Arweinir holl gyfarfodydd yr Eisteddfod gan y Dr T. Cynonfardd Edwards, America, a Dr William Edwards o Gaerdydd., YR ORSEDD. Dywedir fod Gorsedd Caerdydd y fwyaf a'r berffeithiaf yn y dyddiau diweddaf. Y mae y maen-llog o gareg Radvr, yn meddu arwynebedd o chwe troediiedd wrth ddeg troedfedd, ac yn pwyso oddeutu wyth dun- ell. Y mae iddi ddau gylch. NOS LUN. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Cynlmrod- orion yn y Neuadd Drefol, o daii lywydd- iaeth y Maer (Syr Thomas Morel). Dar- llenwyd papyrau bychain ar addysg gelfydd- ydol, gan Mr W. Edwards, arolygydd ys- golion; Mr R. E. Hughes, eto a Mr W. Lewis, Llanelli. DYDD MAWRTH. Boreu heddyw agorwyd cyfarfod cyntaf yr Eisteddfod. Yn flaenorol i hyny cyn- haliwyd yr Orsedd yn Mharc Cathays am haner awr wedi wyth, o dan lywyddiaeth yr Archdderwydd. Tybir fod yn bresenol tua 15,000 o bersonau. Gosgorddwyd y beirdd o neuadd y dref i'r Orsedd gan orymdaith odidog. Gwisgai y derwyddon cin gynau gwynion, y beirdd eu gynau gleision, a'r ofyddion I,eu gynau gwyrddion. Cludid baner yr Orsedd gan ddwy foneddiges ieu- anc wedi ymwisgo mewn gynau Gorseddol, a'u henwau oeddynt Miss A. P. Caleidfryn, Llandrindod, a Mi&t Griffiths^ Casnewydd. j Wedi myned trwy'r ffurtiau agoriadol, a dadweinio a gweinio y cledd, cyfiwynwyd y Corn Hirlas gan Arglwydd Tredegar, gan yr hwn y cafwyd anerchiad. j Yn y cyfwng yma, clywyd sain nodau cerdd, a. gwelwyd seindorf o Lydawiaid gyda'u hotttr chwibanogl yn arwain gwyr j ijiydaw, Ysgotland, Iwerddon, ac Ynys Manaw i dalu gwarogaeth i'r Orsedd. Rhoddwyd iddynt dderbyniad brwdfrydig, a mawr fwynheid yr alawon a chwareu y seindorf. Yna aed yn mlaen i gyflwyno y gwahanol j ddirprwyaethau i'r Archdderwydd. Argl- wydd Castletown a ddarllenodd anerch- lad yn y Gaelic ar ran y Gwyddelod a'r Ysgotiaid. Daeth y ddirprwyaeth o Lydaw yn nesaf, yn cael ei chyflwyno gan M. Jaffrennon, a siaradodd yn Gymraeg. Yna gwelwyd yr Uchehvvr o Ysgotland yn dyfod, o dan arweiniad seindorf o chwech o chwib- anoglwyr, a'r oil yn ngwisg eu gwlad. Ac yn canlyn wyr o Ynys Manaw a Chernyw. Rhoddwyd urddau i Arglwydd Windsor ("Ifor Bach"), Syr Alma Tadema ("Tad- ema"), Mrs Herkomer ("Cymraes"), Argl- wydd CastletowTi ("Arweinydd Celtia"), 'I Count Plunkett ("Killee'n"), ac eraill. Dygodd hyn y gweithrediadau i derfyn- iad, ac ail-ffurfiwyd yr orymdaith i fyned i j babell yr Eisteddfod. j YR EISTEDDFOD. Dechreuwyd y gweithrediadau trwy i Mr John Williams, Caernarfon, roddi unawd ar yr organ. Amcangyfrifid fod yn bresenol y I' pryd hyn oddeutu 3000. Wedi i Mr Trevor Evans ganu can yr Eisteddfod cafwyd ber- awdl gan yr Archdderwydd. Yna galwodd yr arweinydd (y Prifathraw Edwards) ar Arglwydd Windsor i draddodi ei anerchiad o'r gidair. Derbyniwvd y boneddwr hwnw gyda brwdfrydedd, a thraddododd anerchiad byr ac i bwrpas. Dywedodd fod yn perthyn 1 Eisteddfod Caerdydd neillduolrwydd ar gyfrif y ffaith fod ynddi gynrychiolwyr o'r pum' cenedl Geltaidd. Ar amgylchiad o'r fath fe roddid o'r neilldu wahaniaethau ccnedlaethol a pholiticaidd ac fe ddygid yn rymus o flaen eu meddwl fod y foment hono gynrychiolwyr oddiwrth genedloedd Ew- ropeaidd yn cydgyfarfod i'r amcan o geisio ly cael allan foddion heddychol i ddadrys cwabaniaethau cenedlaethol vn lie y dull honafol ond anwaraidd o rvfel (cymerad- wyaeth). Y DYFARNIADAU. Yna aethpwyd yn mben gyda'r dyfarn- iadau. Am ganu yr unawd soprano "Here ye Israel" dyfarnodd Mr Ben Davies eneth bymtheng mlwydd oed. Miss Evans, yn oreu. Prophwydai iddi ddyfodol dysglaer. Yn y gystadleuaeth ganigol i gorau yn rhifo o 25 i 30 dyfarnwyd Cor Mid-Rhondda yn oreu, a chor Ebenezer (Abertawe) yn ail Y darnau oeddynt "O snatch me swift" (Calcott) a dernyn a ddetholid ar y pryd gan y beiruiaid i'w ganu ar yr olwg gyntaf. Cy&tadicuaeth baritone, "Oh Star of Eve" (Tannhauser), Mr G. T. Llewellyn, Porth Talbot. Casgliad o Lysiau, Mr D. Morgan, Ysgol y Bwrdd, Llandeilo. Casgliad o Fossils yn Nghymru, Mr D. Roberts, Llangollen. Hanesiaetli Naturiol, Mr J. A. W. Churchill, Victoria street, Blaenau. Unawd ar v berdoneg, i rai dan 12 oed, Miss Marian Draper, Penarth. Can ddesgrifiadol, "Brwvdr St. Ffagan," r Dr J. Mullins, Y.H., Caerdydd. Tuchangerdd, "Y cystadieuydd siomedig." Rhanwyd y wobr rhwng y Parch Dennis Jones, Llanllechid, a "Horace Gymro." [ Unawd arvcrwth, i rai dan 16 oed, Miss Pauline Marian Draper, Penarth, a rhodd- wyd gwobr hefyd i Robert Evans, Abertil- lery, gan yr Anrh. Mrs Herbert. Yn y gystadleuaeth i bedwarawd linynol ni ddaeth ond un parti yn mlaen, sef pedair o foneddigesau ieuainc o Casnewydd, a dy- farnwyd iddynt y wobr. Traethawd Hanesyddol (a) "Deheudir Cymru yn amser y Stuartiaid a Chromwell," neu (b) "Cymru o dan y Normaniaid." Y Parch E. J. Newell, Porthcawl. Adroddiad, "Ystorom Fellt (Islwyn), David Samuel, Abergele, deuddeng mlwydd oed. Traethawd ar "Fywyd Gwledig Cymreig," Mr D. R. Jones, Blaenau Ffestiniog. Unawd y Flute, Mr C. Bielski, Caerdydd. Triawd Linynol, Mri Phillips, Miss W. Ingram, a Mr Willey. Cynlluniau o Dai Gweithwyr, Mr Evan Roberts, Oldham. Cvnlluniau Aneddau i'r Dosbarth Canol, Mr Reginald Longden, Burslem. Cynlluniau o Hen Adeilad, Miss C. B. Fcwler, Caerdydd. Deuawd (soprano a tenor), Miss M. C. Evans a, Gutyn Eifion, a Miss Bell, Caer- dydd, a Mr E. Probert, Rhondda. Canu Penillion gvda'r delyn, yn ol dull v Gogledd, Mr Richard Roberts, Bryn Ogwen. Bethesda. I Water Colour Painting, 1 Mr S. Towers, Llnndudno. 2 Mr Georere Cochrane, Mon. Cliwe' golvefa ya Nghymru, 2 Mr W. Stephenson, Conwy. Y PRIF DRAETHAWD. Cynvtrid gwobr 120p am v "Cyfansoddiad gwreiddiol, yn "rnraeg neu Saesneg. mewn I I unrhyw gargm o hanes neu lenyddiaeth CS-mru, y rh-in svntaf (heb fod yn llai nag un ran o bed air o'r ewaith), gyda amlinell- iad cyfiawn o'r g wed dill, i'w anfon i'r gj-s- tedleuaeih> .i'r awdwr buddngol ym- evmervd a chwb\han v gwaith o fewn tair blynedd o ddyddiad vr Eisteddfod. Telir un ran o bedair o'r wobr yn yr Eisteddfod, chyflwynir y gweddill i ymtldiiied6livyr i'w dalu i'r awdwr pan y rhoddir-tystysgrif £ ran v beirniaid fod v swaitli wedi ei gwbl- hau i'w boddlonrwydd hwy. Gan bwvllgor vr Eisteddfod v bydd yr iiniq hawl i gy- hoeddi v gwaith, ond os na chylioeddir ef o fewn dwy flynedd i ddyddiad tystystjrif derfynol v beirniaid, trosglwyddir yr hawl i'r awdwr." 11 I Yr oedd chwech o ymgeiswvr ar v testvn. Darllenwyd v feirniadaeth gan v Proffeswr J. E. Llovd, Baueor. Dywedodd nad oedd- ynt, fel beirniaid wedi eu boddloni gyda golwg ar roddi v wobr. Yr oedd v traeth- awd a an^onwyd ffan "R.bv, Gruffvdd" yn sefyll ar dir ffwflha-iol i'r lleill, ac nid oedd yn svrthio mor fyr a'r pump vmgeisvdd arall. Y BRIF GYSTAL LEU AETH GORAWL. Cynygid gwobr o 150p, a gwerth pum' punt o gerddoriaeth i'r arweinydd, i'r cor buddugol; ail wobr o 50p; a phum' gini i arweinydd pob cor na fu yn fuddugol. Y darnau y dadyenid anlynt oeddynt "Blest pair of Sirens" (Syr Hubert Parry), a "Why rage fiercely the heathen" (Mendel- ssohn). Y beirniaid oeddynt Syr J. Fredk. Bridge, Dr. Joseph Parry, Dr. Roland Rogers, Mr T. E. Aylward, a Mr Emlyn Evans. Yr oedd pump o gorau wedi anfon eu henwau i'r gystadleuaeth, ond tynodd Cor Abersychan a Phontypwl yn ol. Y .P corau a ddaethant yn mlaen oeddynt. Newport Choral Union (Mr F. Jones), Car- mart,hen Choral Society (Mr A. J. Silver, F.R.C.O.), Cardiff Choral Society (Mr D. C. Davies), a'r Pontypridd United Choir. Rhoddwyd y dyfarniad gan Syr J. Freder- ick Bridge, ac aeth y wobr gyntaf i Gor Caerdydd, a'r ail wobr i Gor Caerfyrddin. Hywyddid cyfarfod y pryiuavra gan Ar- glwydd Tredegar.
IY CYNGHERDD.
I Y CYNGHERDD. Cynhaliwyd cynghcrdd vn yr hwyr o nod- wedd hollol Gymreig. t cadeirydd oedd Mr O. M. Edwards, A.S. Dadganwyd gan Miss Gertrude Drinkwater, Miss Hannah Jones, Mr Ben Davies, Mr W. Trevor Evans, Mr Daniel Price, seindorf o delyn- orion, dan arweiniad Miss Annie Jones, a Chor Brenhinol y Boneddigesau Cymreig, o dan arweiniad Madame Clara Novello Da- vies. Cyfeilid gan Mr John Williams, Caernarfon. Yr oedd yna gynulliad Ilu- osog.
Michael y Gyrwr. ,
Michael y Gyrwr. mite Jimmy Michael, diweddaT o Aber- hman, yr hwn a wnaeth enw iddo ei hun fel olwynegwr cyflym, yn awr weoi gadael yr (lwyrjeg, gtn gymeryd at farcbogaeth' ceffylav. Emllodd ddwy ymgyich yn New YOlk dydd Mercher.
Ofni'r Person a'r Meistr Tir.
Ofni'r Person a'r Meistr Tir. Credir gan lawer fod gwasti Idiwch tuag at dirfe.Mianwyr a chlerigwyr Eglwys L' egrwedi d, rfoi o'r wlad ond, ysywaeth, prin y gellir dyweyd fod hyn yn ffaitb. Daeth et gr aipbt neilldnolo wltseiddiwch i fy sylw y dydd o'r biaeu, tia yr oeddwB yn teithid ar y rheilffordd yn Ynys Mon- Yr oedd dtu ffermw r cefnog a chyfritol-rhai ag y ilae eu hamgylchiadau by dol yn gyf- ryw ag na raid iddynt dalu gwarogaeth i neb-yn m3 led i lawr o'r gerbydres yn un o'r gorsbifoedd, ac hefyd diseynai paiiglor plwyf cyfagos yn yr un ors&f. Er fy syn- dod'gwelwn y ddau ftenuwr yn tynu ea betiau yn wylaidd i'r pariglor. Yr hyn araw odd i fy meddwl ar unwaith ydoedd y cwestiwn a gaulyn Pe bu-isai un o weim- < ogicu blsenaf yr enwad parchus ag y perthyna y ffermwyr iddo yn digwydd bod yno, a fiu seiit yn tynu eu hetiau iddo ef Credaf na buaselit, er y gallasai y gweinidog fod yn fep^iaunol ar ailuoedd ac addysg cyfartal a'r periglor. Oud beth ynts sydd yn cyfrif rii1. 7 gwaliauiaeth yn eu hym- ddygiad hwy ? Nid oedd eu gwaith yn cyf- arch y le: igior parchus yn y eyfry- folcl yn ddim amgen nag olion o'r gwaseiddiwch a arferai ffynu yn y wlad flyryddau yn ol, pan yr oedd ar y bobl gyffredin ofn cysgod y tirfeddianwr, a chymaint a hyny hefyd o ofn tiamgwydc o y clerigwyr a'r ceidwaid rig belwrieetb, rhag i'r rhai yny roddi gair drwg iddyLt with y mtistr tir. Credaf ei bod yu hen. bryd i ffwlbii o'r fath ddarfod o'r tir, ac i ddynion t archus ddysgu dal eu penau i fyny yn mlnesenaldeb clerigwyr jfglwys Loegr yr un modd ag y gwnarit gyda gweinidogion Ymn^i'lduol ein fewlad.
Y Ddamwain Alaethus yn Mhwllheli.
Y Ddamwain Alaethus yn Mhwllheli. Y TRENGHOLIAD. DYFARNIAD Y RHEITHWYR. Yn ngorsaf heddgeidwadol Pwllheli, ddydd Llun, ymgynullodd y lheithwyr can- lynol, a Dt T. Hunter Hughes, i gynhal trengholiad ar gyrph Owen, Ellen, Nellie, ac Owen Parry Tiiomas, Wm. Edward Wil- liams, John, John Rowland, Cassie a Nellie Hughes, a Charles Davies, pa rai a gollasant eu bywydau yn y bau, ar laf cyf- isol: --C-adben Griffith, Mri W. H. Thomas, J. Humphreys, Thomas Owen, — Ensor, R. C. Morris, Wm. Edwards, Williams, West End; H. T. Hughes, Wm. Owen, Ro- berts, Lleyn street; Cadben Hugh Prit- ch'ard, a Cadben George. Y Crwner wedi iddo egluro nodwedd yr ymchwiliad difrifol, a ddywedodd y cai efe gynorthwy gwerthfawr Mr E. R. Davies, y Clerc TrefoIL yr hwn a ymddangosai dros bersonau neillduol. Cymerid y cofnodion -gan Mr David Roberts, o swyddfa Mri Arthen Owen. Yr Arolygydd Jones a ddywedodd: Yr oeddwn yn fy swyddfa ar y laf cyfisol pan y daeth dyn ieuanc i mewn, ac a'm hysbysodd i fod damwain wedi digwydd yn nglan y mor, ac fod deg o bobl wedi boddi. Aethum yno yn y fan, ac anfonais fy mh'lant i chwil- io i'r dref am yr heddgeidwaid ereill. Pan gyrhaeddais South Beach gwelais yno gan- oedd o bobl wedi ymgasglu, mewn cyffro mawr. Yr oedd pedwar o gyrph yn cael eu dwyn i'r lan y foment hono, ac yn eu mysg yr oedd Nellie Thomas. Yr oedd Dr itees, Dr Samuel Griffith, a Dr Wm. Thomas, Nefyn, yno. Gwnaethom ein goreu i adfywio y pedwar, am tuag awr, ond ofer fu y cwbl. Yr oedd corph Nellie Thomas yn gyne-s. Yr oedd lluaws o ddieithriaid wedi dyfod i'r dref y diwrnod hwnw. Bu i ddeuddeg foddi. Rhoddodd eu henwau a'u hoedran.—Yna dywedodd Darfum i a fy nghydswyddogion chwilio y cyrph, a chael hyd i amryw o bethau arnynt. Yr ydym wedi rhoddi y cwblyn ol i'r perth- ynasau, ac wedi cael dangosiad am hyny. Ni chlywais i unrhyw gwyn yn nghylch y mater o gwbl. Cymerwyd y rhai cyntaf a ddarganfyddwyd o'r cyrph i Moranedd, South Beach. Nis gwn gan bwy. Yno y gwelais i hwynt. Nid oedd neb yn byw yn y ty, ond yr oedd rhyw ddynes yn byw yn y cefn. Nid oes corph-dy yn y dref. Yr oedd teimlad yn erbyn cymeryd y cyrph i Moranedd, ond ymddygwyd yn dra pharch- us er hyny. Yr oedd Cadben Rees Wil- liams, Mr W. Jones Roberts, Mr Solomon Andrews, a Mr Owen Jones yn cadw cychod yn y South Beach. Nid yw y cychod dan unrhyw reolau lleol. Y mae yr heddgeid- waid yn hollol diawdtirdod yn nglyn a'r cychod hyn, oddigerth pe y gwelent rhyw- beth tra anghyffredin. Darfu i drigolion South Beach ddiangos pob caredigrwydd a phob parodrwydd i helpu, trwy ddytod a photeli poethionj, plancedi, &-c. at gyn- orthwyo adferiad y trueiniaid oedd wedi cael eu darganfod. Hefyd darfu i'r wyr roddi pob cynorthwy a f-dceat. Gan Mr E. R. Davies: Ar y cyntaf dy- wedai y cychwr mai 13 oedd yn y cwcii, ond wedyn mai 17. Yr oedd yn eglur wedi dyrysu ac yn analluog i fod yn sicr o'r rhif. Gan y Crwner: Clywais mai saith ac hcVyd mai naw oedd yn y cwch. Naw cedd y rhif a ddywedid amlaf. Mr E. R. Davies, clerc trefol, a dystiodd: Y mae genyin ddeddfau lleol tretol, oud nid oes dim ynddynt hwy yn rheoli pleser- fadau mewn unrhyw ffordd. Y mae gan ] gynghorau hawl i drwyddedu cychwyr a pherchenogion cychod, ond nid oes gan- ddynt hlawl i gofrestru cychod. Y mae genyf yn awr adysgrif o Reolau Lleol j Bwrdd y Llywodraeth Leol,-yr unig reol- ( au lleol a fabwysiada y Bwrdd hwnw. Y ] mae ynddynt adran yn hollol adael yn nwy- law perchenog cwch neu gychwr pa nifer a adawa efe o bobl fyned i'r cwch, a phryd i roddi benthyg y cwch. Nis gellir gorfodi neb i gymeryd trwydded cwch. Y cwbl a wneir ydyw aalluogi awdurdod lleol i roddi trwyddedau, os y gofynir am rai. Ond nis gellir gorfodi neb godi trwydded cyn y gall efe gadw cwch, ac nis gellir rhwystro neb gadw cwch os heb drwydded. Diau y gallai y cyhoedd hoffi myned mewn cwch trwyddedig yn hytrach nag mewn un heb drwydded. Darfu i'r Cynghor Trefol geis- io yn 1897 awdurdod Seneddol i orfodi pob cychwr a phob perchenog cwch i godi trwydded, ond fe ddifodwyd yr adran o Fesur Gwelliantaui Corphora-eth Pwllheli gan bwyllgor Ty'r Arglwyddi. Yr oeddwn i yn y pwyllgor ar y pryd, fel cynrychiol- ydd y dref. Dywedais ar y pryd fod gen- ym lawer o gychod yn ein dosbarth, ac y cynyddent ond barnai y pwyllgor nad oedd yr amgylchiadau ddim yn cyfiawnhau rhoddi y fath awdurdod i'r Cynghor. Der- byniais lythyr boreu heddyw oddiwrth F'wrdd y Llywodraeth Leol yn dweyd eu bod hwy yn gwybod fod adran yn Mesur Gwelliantau Corphoraeth Pwllheli, 1897, yn darparu ar gyfer trwyddedu a rheoli pleser- fadau a'r perchenogion a'r cychwyr, ac fod yr adran hono wedi cael ei chroesi allan o'r mesur gan bwyllgor Ty'r Arglwyddi. Cyf- addefai y llythyv yn mhellach nad oedd Ad- ran 172 o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus, 1875, yn cyrhaedd at drwyddedu cychod. Olier- wydd fod y Cynghor yn gwybod nas gellid cario allan Ddeddfau Lleol Bwrdd Llundain, y ceisiwyd rhoddi yn y mesur a ddygwyd o fiaen y Senedd yn 1897 yr adran dan sylw. Y mae Bwrdd Llundain wedigwrthod ddwy- waith gais oddiwrth Gynghor Trefol Llan- dudno am awdurdod i reoli cychwyr a chych- od yno. Barn Bwrdd Llundain yw y dylid gadael pcnderfynu y rhif i fyned i gwcTi i'r cychwr ei hun. Pe y ceisid rhoddi ad- ran yn y gyfraith yn gorfodi nad oedd ond hyn-a-hyn i fyned i gwch, dichon y gwrth- wynebid gan y cychwyr. Cadben Rees Williams a ddywedodd fod ganddo ef luaws o gychod. Yr oedd y cwch dan sylw yn un mawr, cryf a newydd. Yr oedd ganddo ef ddyn yn ei helpu ef (Ro- bert Owen). Efe fyddai yn edrych ar ol y cychod pan fyddai y tyst oddicartref. Nid oedd ganddo ef unrhyw reol yn nglyn a'r rhif oedd i fyned i'r cwch,—dim ond dyfn- der y ewch a doethineb y cychwr. Bydd rhai ymwelwyr yn gofalu am ycychod eu hunain. Nid oedd efe yn y lie yr amser y digwyddodd y ddamwaiin, ond yr oedd ganddo ef Robert Owen a Robert Thomas yn gofalu am ei gychod y diwrnod hwnw. Yr oedd Robert Thomas wedi cael blynydd- oedd o brofiad hefo cychod a llongau, er nad oedd efe ond 19 oed. Yr oedd yn ddyn cymhwys iawn i ofalu am gwch. Mesurai cwch Thomas 16 trcedfedd 6 modfedd y tu mewn, o hyd, a 4 troedfedd a 4 modfedd o led. Ei djdyfnder oedd 18 modfedd oddifewn, a 20k modfedd oddiallan. Cym- erasai y cwch allan yn ddiweddar wyth o bobl mewn oed a'r tyst. Ar ddiwrnod braf gallai y cwch gymeryd deg o bobl mewn oed yn hawdd. Nid oedd y rhif a aeth i'r cwch y tro hwn yn ormod, a chau allan ddamwain. Nid oeddynt yn agos mor drwm a'r rhif a gymerodd y tyst allan. Prysur- odd y tyst yno y foment y clywodd am y ddamwain. Nid oedd efe wedi cael dam- wain erioed o'r blaen. Gan Mr E. R.Davies Gwnawd y cwch yn neillduol i mi yn Awst diweddaf. Nid cwch afon oedd efe. Fel prawf o'i ddi- ogelwch fel cwch mor, gallaf ddweyd iddo fc> -gael ei rwvfo o Borthmadog i Bwllheli. "X* oedd y gwynt o'r gorllewin. Robert Owen Yr wyf yn byw yn Cardiff j road. Yr oeddwu ar y lan y laf cyfisol, 1 yn edrych ar ol y cychod a'r tai ymdrochi. Daeth Mrs Thomas ataf yn agos i dy ym- droehi a gofynodd am gwch ac am y teler- au. Dywedais inau mai 6e yr awr a godid am bob un. Dywedodd hithau fed hyny yn rliy uchel, gan mai yr un teulu oedd- ynt hwy brcii i gyd. Gofynais faint oedd yno o honynt, ac atebodd hithau tri o rai mewn oed a chwech o blant. Nid oedd y plant yna y foment hono. Cydsyniais iddi gael y cwch am 3s am awr. Yr oedd un o r dynion ynymdrochi. Aethant i'r cweh, yr hwn oedd newydd ddychwelyd hefo ilwyth arall. Cyn i mi crphen cytuno hefo hs Thomas acth rhjai o honynt i'r cwch. Pobl mewn oed oedd y rhai oedd newydd fod yn y cwch. Yr oedd ychydig o donau ar y lan, ond vn mhellach' i'r mor yr oedd yn hoilof ionydd. Yr oedd Mrs Thomas yu y cwch. Deallais i nad oedd onci na w yn y cwch, yn unol a'r cytundeb. Tybiais rhywsut fod rhywbeth wedi digwydd ac yn y fan cymerais gwch ac aethum allan i gyfeiriad y fan lie y gwelais i y cwch olaf. Az- yr un adeg yr oedd W. Jones Roberts allan mewn cwrwgl. Dywedais wrtho fy mod yn credu .fod y cwch wedi dymchwelyd. Aethum yn mlaen a gwelsom gwch a'i waelod i fyny, tua haner milltir oddiwrth y lau. Llefodd Roberts allan am help. Yr oedd wedi cael gafael mewn dynes. Aethum ato a rhoddais help i godi Mrs Thomas i fy nghwch i. William Jones Roberts, Cader View, South Beach Yr oeddwn i dan yr argraff mai naw oedd wedi myned yn y ewch. Cudwai R. Thomas ben y cwch i'r tonau cyn cychwyn. Gofynais i i R. Thomas a fuayai efe yn myned allan hefo fy nghwch i a dau o bobl ddieithr, ond gwrth'ododd, a dywedodd fod ganddo ef lwyth i'w gwch ei hun. Defnyddiai John Hughes rwyf i wthio y cwch i'r dyfn. Ymddangosai i mi fel un cyfarwydd a chychod. Eisteddai John Hughes a Mrs Thomas a'i phlant yn agos at eu gilydd. Cynorthwyodd Robert Owen a John Jones i wthio y cwch allan. Yr oedd braidd yn drwm yn y stern. Gan Mr Davies: Bu y cwch allan am tuag awr, a rhaid ei fod yn gwch cymhwys. Aethum i allan hefo wyth o bobl yn y boreu, ac ni ddigwyddodd dim byd. Owen Jones, Aberkin House: Cychwyn- odd y cwch yn iawn, gan belled ag y gall- wn i weled. Y peth nesaf glywn i oedd bachgen Y11 gwaeddi ar fy 01 i fod y cwch wedi troi. Gwnaetlilum am gwch yn y fan, ac allan a fi. Pasiais W. Peters a gofynais beth oedd wedi digwydd. Atebodd yntau fod y cwch wedi dymchwel. Gwelaiv, gape yn nofio, yna fachgen bach, ac yna wedyn ddwy lodes fechan. Codais hwynt i'r cwch. Gwaeddodd W. Jones Roberts allan ei fod yn methu codi Mrs Thomas i'r cwch. Cym- erais y cyrph i'r Ian. Owen Jones: Ni ddarfu Peters ddweyd wrthyf fi ei fod wedi methu cael help. Clywais nas gellid cael cynorthwy, ond ni ddywedodd Peters wrthyf fi. Pan y daethum i i'r lan hefo'r cyrph yr oedd yno gyflawnder o bobl yn barc-I i wneyd un- rhvw beth. Robert Thomas, Greenfield, a dystiodd7 Byddaf yn 19 oed y mis nesaf. Pysgotwr ydyw fy nhad, ac yr ydwyf fmau wedi bod yn pysgota neu yn morio am rai blynydd- oedd. Dyma oedd y tro cyntaf i mi fod hefo Cadben Williams y tynilibr hwn. Ni welais i unrhyw reolau y flwyddyn hon jiac o'r blaen yn nglyn a llywodraethiad cychod. Pan ddaeth cwch Mr Peters yno, rhoddodd efe un droed yn ei gwch ei hun a'r Hall yn y cwch arall. Dcngys hyn yna nad oedd y tywydd ddim yn ddrwg. i mi fyned i'r ail gwch yr oedd Mrs Thomas ac ereill ynddo eisoes. Cadwa^s y cwch a'i ben i'r mor. Daeth 11awer mwy i'r cwch, ond nxs gallaf ddweyd faint. Fy ngwaith i oedd rhwyfo y cwch o gwmpas. Cynorthwyodd y dynion fi i gael y cwch allan. Helpodd John TTn orhfic fo Vn r» -11-1111-11.1 I --h'vUO O-XXCS XilUUUUUQ ei dreed ar y footboard a thynodd hefo'r un rhwyf ag y tynwn inau. Nid oedd y tywydd yn arw o gwbl, ac ni ddaeth dwfr i mewn. Ar ol i ni gael i'r dyfn aeth John Hughes yn mlan, ac eisteddodd ar ben blaen y ewch, gan adael ei freichiau dros ochrau y cwch. Aethom allan yn iawn am tua haner milldir. Cododd y gwynt yn sydyn, a daeth y mor yn donog ar un- waith. Yr oedd bob peth yn iawn hyd nes y cododd y mor. Pan welais i yr awel yn codi gwnaethum am y lan. Pan yn troi y cwch daeth ychydig o ddwfr i mewn, a gwaeddodd bachgen bach John jdughes, "Tada, mae dwfr yn dyfod i'r cwch." Deci- reuodd John Hughes symud, a dywedais inau wrtho ef "Yn enw Duw, peidiw?h a symud o'r fan lie yr ydych." Gafaelodd yn fy ysgwydd i a neidiodd yn hollol dros- wyf ac i ganol y cwch, llamodd dros yr eisteddle nesaf ac aeth i eistedd yn y lie yn hollol yn y stern, yn ymyl ei fachgen. Pan ddaeth y don nesaf nis gallai y cwch fyned drosti, a llallwodd a dwfr. Rhuthrwyd i un ochr i'r cweh. Gwaeddodd Owen Tho- mas a John Hughes allan. Dymchwelodd y cwch. Gallais gael yn rhydd oddiwrth y cwch, a nofiais wedyn ato, a llwyddais i'w droi Y11 ol. Yr oeddynt oil yn y cwch y pryd hyuy, ond syrthiasant ymaith. Ys- gubwyd y cwch ymaith oddiwrthyf. Gaf- aelodd lodes fechan yn fy mraich, a cheisiais wneyd fy ngoreu iddi, ond methwn a chadw fy hun i fyny, ac felly gorfodwyd fi i ollwng fy ngafael o'r lodes fach. ofiais ar ol y cwch. Pan gyrhaeddais ef eto, daeth' W. Peters yno a chododd fi. Nis gallaf ddweyd pa beth a ddigwyddodd wedyn. Gan y Rheithwyr: Pe buasai John Hughes wedi aros fel yr oedd buasai y cwch wedi dyfod yn ol yn ddibgel. Fo aeth i'r stern pan oeddym ni yn troi yn ol. John Hughes, Manor House, a dystiodd mai anwiredd oedd yr hyn a gyhoeddwyd na. roddwyd cynorthwy ar y lan. William Peters, commercial traveller, a ddywedodd iddo achub y cychwr. Yr oedd pobl ar y lan. Gofyncdd a oedd rhywun yn barod i ddyfod allan gydag ef. Y Crwner: Pa un ai i Icrched ai i blant y gofynasoch?—Y Tyst: Nid wyf yn cofio beth oeddynt. Nid wyf yn cofio a ddarfu i'r tyst diweddaf ofyn iddo beth oedd wedi digwydd. Mr E. R. Davies, ar ran Cadben Wil- liams, a ddatganodd ofid oherwydd yr hyn a gymerodd Ie. Dadleuai fod v dystiol- aeth yn dangos fod digon o le yn y cwch i'r deuddeg o bersonau a fuont foddi. Ni bu un difFyg ar ran yr awdurdodau Ileol i gael llywodraeth ar v cychod. Y Trengholydd, wrth anerch y rheithwyr, ar y tystiolaethau, a gyfeiriodd at Cadben Williams fel dyn prcfiadol, a'i gwch' yn un cymhwys, tra yr oedJ Robert Thomas yn un gymhwys i gymeryd gofal y cwch. Nid oedd dadl pe buasai John Hughes wedi aros lie yr oedd na ddigwyddasai y ddamwain, ac yr oedd yn rhyfedd na buasai mwy o ddamweiniau tebyg yn digwydd. Gyda golwg ar yr hyn a ddywedodd William Peters na ddaeth' neb yn mlaen ar ei alwad i roddi help, yr oedd y rheithwyr i ben- derfynu rhyngddo a'r tyst John Hughes, yr hwn yn ddiau oedd y mwyaf rhesymol o'r ddau pan ddaeth Peters i'r lan. Dichon y gallai Peters waeddi ar y merched a'r plant, ond peth gwirionffol ydoedd. Nid oedd ganddo neb i ategu ei gyhuddiadau. Cafwyd tystiolaoth lawer nad oedd dynion ar y lan ar y pryd. Yr oedd dynion Pwll- heli bob amser yn ddynion parod i wneyd eu dyledswydd (uchel gymeradwyaeth). Cwynai am nad oedd ganddynt reolau gor- fodol, a gobeithiai y byddiai i aelodau Sen- eddol y sir wneyd ymdrech yn y cyfeiriad yma. Hefyd galwodd sylw at yr angen- rheidrwydd o gael adeilad pwrpasol i gadw cyrph y meirwon (clywch, clywch). Wedi ychydig ystyriaeth o'r neilldu, caf- odd y rheithwyr fod y rhai trancedig wedi cyfarfod a damwain trwy droad sydyn y gwynt, yr hyn a gynyrchodd for tonog, fel y troai y cwch am y lan, yn cael ei achosi drwy i John Hughos symud o'r pen blaen i'r pen ol, yn erbyn gorchymyn y cychwr. Gwnaed ychwanegiad i'r perwyl mai da fyddai cyfrif personau cyn gadael y lan, a bod yn sicr na orlenwid y cychod; a bod i'r Gorphoracth fyned at aelodau y sir i geisio gadael allan yr adran yn y ddeddf r, a gefuogid yu 1897; a vod adeilad i gadw cyrph i gael ei godi yn y dref.
fsmaldod y Beirdd.
fsmaldod y Beirdd. Ers taim byddai'r hen feirdd yn arfer ys- malio hefo'u gilydd drwy gynghane-ad. Yruddengys nad yw yr arferiad wedi darfod yn y dyddiau hyn chwaith. Addawodd Eifionydd gyfarfod a Phedrog a Chadfan ar y tfordd i Gaerdydd. Ond yn y dref hono y cyfarfyddasant a'u gilydd; a, chan gymeryd arno nad oedd yn gwcled y Cof- jadur, ebai C.dfan:- Eifionydd a fu unwaith-yn ein mysg Yn un mwyn diweniaith; Odi! sydyn derfyn ei daith Yn ddim ehedodd ymaith! Aurliydedd Gorsedd gai arswyd,—myn- Ithwng ei meiiii gafwyd, Y rbyfedd gledd a gladdwyd- Ni gawn y lle'n ddigon llwyd! Ae meddai Eifionydd ar darawia(i Wyr Catlfan ddim am dani—'rwy' i'n fyw R un fath i farddom; Byw g.'r Orsedd—a'm gweddi Fytli yn gylch o'i hamgyich hi! A chynhyrfodd hyn awon Pedrog, nes y dywedold:- JEbrwj 1 i i'r udaear obry—ai y brawd 0 brydydd; er hyny I'r Eisteddfod yn hynod hy' ddaw Eifionydd i fyny! Daw ailuniad i lawenydd—o wel'd Lion wedd y Cofnodydd Heddyw swyn drwy'r Orsedd sydd, Oedfa enaid Eifionydd I
FRIENDS OLD AND NEW.
FRIENDS OLD AND NEW. Brown & Poison's "Patent" Corn irlour, an old friend of forty years' standing, is unequalled for light and delicate puddings blanc-manges, custards, jellies, sponges, and a host of other tempting and delicious dishes. But if the best results are to be obtained, every precaution must be taken to ensure that only B. & P.'s is delivered- or osmething vastly inferior may be sent instead. Brown & Poison's Paisley Flour, is a new friend of equal pro- mise. By its aid dainty and temp- ting tea cakes and scones are easily made, and the elights of the tea-table thus gratly increased. Not only are all kinds of home-baking assisted and simplified, but everything is made light and digestable. "Even a tyro need never fail in baking if Paisley Flour is used." Sole Makers— Brown & Poison.
[No title]
CADBURY'S Cocoa, on tne testimony of nighest purity." It is entirely free from all roreign substances, sue as kola, malt, hops, &-c., nor is alkali used to darken the colour (and so deceive the, eve). Dr Andrew Wil- son, in a recent article in the "Illustrated London News," writes "Cocoa is in itaelf a perfect food, and requires no addition of drugs whatever." CADBURY'S Coooa is absolutley pure, and should be taken by old and young, at all times and in all seasons; for ehildren it is an Seal beverage, promot- ing hetalthy growth and developments in a remarkable degree. Insist on having CAD- •. K¥'S as other Cocoas are often substi- tuted for the sake of extra profit. Sold only \.n Packets and T-ins.
" Heiglad y moroedd bysgod."
Heiglad y moroedd bysgod." Fe welwyd golygfa rhyfedd ar lan y mor yn Dover nos Sul. Gwelwyd heidiau ar heidiau o macrel yn myned drwy y bau yn agos i'r lan. Bernir fod yno filiynau o honynt, ac erlidient bysg llai, ac fe gaed ugeiniau o honynt ar y tywod. Bu y macrel am oddeutu awr o amser yn myned drwy y bau, er mawr foddhad i'r miloedd o bobl oeddynt yn edrych ar bysgotwyr oeddynt yn eu dal.
MANION O'R EISTEDDFOD.
MANION O'R EISTEDDFOD. Dydd Llun cyflwynwyd Cleddyf yr Orsedd gan y Prcrfeswr Herkomer i'r Archdder- wydd Hvfp,, Mon, fel cynrycliiolydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Fel hyn yr eng- lynodd yr Archdderwydd ar yr achlysur:- Cymwys rho'i i Herkomer-yma glod Am gledd Uawn ysblander; Y cledd glain a'i dynwain der Yw gemwaith dwylaw Gomer. Gwel di greadur rhyfelog-yn awr Dan wen yr haul tesog, Yma yn llys y Maen Llog Ogoniant cleddyf gweiniog. A dilynwyd ef gan Eifionydd:- 0 un galon a'n gilydd—i'r mawr wr Am ei rodd ysblenydd, Eiliwn fawl ein hefelydd, Herkomer fawr Cymru Fydd. Doniol ydoedd gwrando ar y ddau Lyd- awr, M. Jaffrennon a M. Corfec, yn canu yr alaw Gymreig "Ymgyrch Cadben Mor- gan" yn yr iaith Lydawaeg. Siaradwyd yn ngwledd y Maer mewn pump o ieithoedd Celtig. Pwy wad bell- ach nad yw y Celt yn ymddeffro i fyny ei le priodol yn hanes ieithoedd y byd ? Rhifa y Llydawiaid sydd yn yr Eistedd- fod ddeunaw o bersonau. Maent wedi ymwisgo yn niwyg eu gwlad. Tynant sylw mawr. Dywedai y Proffeswr Herkomer ei fod yn awr yn myned yn rhy hen, a'i iechyd yn pallu, iddo allu dwyn yn mlaen y eyn- llun o addysg i Gymru oedd ganddo mewn golwg. Arholw yr yr Orsedd am y fhvyddvn nesaf fyddant-Am urdd bardd: Watcyn Wyn, Elphin, ac Elvet, urdd ofydd Gwynfe, Dyfed, ac Alafon. Fel hyn yr ymfflamychws un o'r poetau i geisio desgrifio: rhai o'i gydfrodyr awen- yddol: Ymwynai Twm mewn tymer, A Mabon wgai'n eger A phcerws Eifionydd ar ben ei fys, A thorchws ei lewys lawer. Bydd yn ddrwg gan y genedl nad yw iechyd yr Archdderwydd Hwfa Mon yn dda iawn. Megis o wely cystudd y daeth Madam Clara Novello Davies hefyd i'r Eisteddfod. Dyddorol oedd gweled y Corn Hirlas yn llawn diod medd yn yr Orsedd ddydd Mawrth. Cipiwyd gwobrau gan y Parch T. Den- nis Jones, Llanllechid Mr Richard Ro- berts, Bryn Ogwen, Bethesda; Mr D. R. Jones, BIaenau Ffestiniog; ac ereill o'r Gogledd.
Pethau Rhyfedd.
Pethau Rhyfedd. Peth rhyfedd meddwl fod dyn yn cael ei garcharu am bedair blyne3d a haner, ac yna yn cael ei ddwyn i'r llyB i gael ail brawf ar gyfrif y ffaith fod y cyhuddiad a ddygid yn ei erbyn yn rbanol, os nid yn hollol, ddisail. Dyna yw profiad y truan Cadben Dreyfus, y swyddog milwrol Ffrengig. Peth rhyfedd gweled dau aelod Seneddol dros fwrdfcisdrefi neillduol yn cadw ymaith am un dydd a blwyddyn heb anerch eu betholwyr. Ni ellir disgwyl i'n haelodau gyflawoi eu dyledswyddau hyd nes y pasir aeddf i'w talu am eia cynrycbioli. P eth ihyfedd fod heddgeidwad yn un rhano Gymru yn euro ac yn ymdd wyn yn greulawn tuagat ei briod. Ai teilwng hwu o'r enw heddgeidwad ? Peth rhyfedd yw fod ugeiniau, os nad cannoedd, o bobl mewn tref borthladdol yn Ngbymru yn troi allan ar y Sabboth yn unig er mwyn teitbio pedair milldir gyda'r gerbydres i fan y t. allott mel eyflawnder o wirodydd a diodydd meddwol. Peth ihyfedd gweled gwraig ieuanc yn thodio'r platform mewn goisaf neillduol bob dydd. Ai fel hyny y map aitudio dedwyddwch ei phriod a'i chaitief ? Peth rbyfedd fod yr heddgeidwaid yn ffafrio rhai tafarnwyryn M-- yn fwy na. u gilydd drwy gailiatau iddynt gadw eu gwes- tydai yn agored ar oriau g wahardde dig. Cysondeb, os cwelwch yn dda. J s TRAFAELIWR.