Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

Helynt y Person a'r Clwrad.

[No title]

[No title]

---!II.--"t-JTtYFHEWCH Y CYFANSODDIAD.

HfN A'R LtALL.

News
Cite
Share

HfN A'R LtALL. Rhoddwyd dinasfraint Newcastle i Ar- glwydd Woiseley ddydd Sadwrn. Y mae dwy fil o filwyr Americanaidd clwyfedig a chlaf yn gorwedd yn Manila. Bu farw Duces Rutland nos Fawrth yn Homburg. Y mae dros ddeng mil ar hugain o Gym- ry yn Scranton, America. Y mae Mr J. Wynford Phillips, A.S., ar daith yn Neheudir America. Chwi a dorwch fy nghalon," fel y dy- wedodd y dderwen wrtn y fwyell. Mewn arwerthiant ar wyn yn Sutton, fe geid 5p 15s y pen am danynt. Cyfrifir fod pump ar hugain o bersonau wedi marw yn New York yn ystod y pym- thengnos hyn drwy lock-jaw. Nid yw Arglwydd Salisbury yn credu y dylai gwasanaethwyr mewn siopau gael eis- tedd. Rhoddodd Syr Weetman a'r Arglwyddes Pearson "wledd gardd" i aelodau y blaid Ryddfrydig prydnawn Sadwrn. Syrthiodd dyn ieuanc o gwch yn Hampton Reach ddydd Sadwrn, a bu foddi yn ngwyddfod canoedd o edrychwvr. Gomeddodd v Llys A pel, ddydd Sadwrn. a chlaiiiatau i Arglwydd Francis Hope weitnu y Diamwnt Glas. Dywedir fod Defodaeth' Babyddol yn dra blodeuog mewn pedair ar bymtheg o eg- Ivvysi yn Nghaerdydd. Fe ddirwywyd dynes a'i henw Elizabeth Jones, Abertilleri, ddau gant o weithiau am feddwi a chamymddwyn. Cafwyd wyth gini ar hugain am faneg oe-- wedi cael ei gwisgogan Nelson mewn arwerthiant yn Llundain. Y mae yn yr India Ddwyreiniol gopynau (spiders) mor fawr fel mai adar bychain ydyw eu hysglyfaeth mwyaf dewisol. Nid yw carcharor ar fin cael ei ddien- yddio yn Ffrainc yn gwybod y dydd. Hys- bysir ef union chwarter awr cyn bod y fwyell yn syrthio. Etholwyd Mr Archibald Hood yn olyn- ydd i Syr W. T. Lewis fel cadeirydd Cym- deithas Meistradoedd Glowyr Deheudir Cymru. Y mae mwy o newyddiaduron yn cael eu hargraffu yn yr Unol Dalaethau nag sydd yn iloegr, Ffrainc, a Germani wedi eu huno yn nghyd. Mwynha llawer grefydd fel y mwynhant bibell, gwydrajd o ddiod neu foddhad un- rhyw flys arall, ond gwerth gwir grefydd yw y ileshad wna nid y mwyniant rydd. Dydd Sadwrn, yn Eglwys St. Paul, Knightsbridge, cymerodd priodas le rhwng ladl Shaftesbury a'r Arglwyddes Constance Grosvenor, wyres Due Westminster. Yn Eglwys Gadeiriol Canterbury, ddydd Sul, bu y Deon Farrar yn pregethu ar y, deurodur. Yr achlysur oedd ymweliad' 750 o farchogion y deurodwyr a'r gwasan- a,ith *i; i Am yr ail flwyddyn mae Mr George Cad- bury wedi cyfranu 25p tuagat gronfa Eg- lwysi Anghydffurfiol Gogledd Cymru. Hefyd rhoddodd Mr Samuel Smith, A.S., bum' punt, yr un fath a'r llynedd. Barna un bardd Cymreig mai Cymraeg a siaredir yn y nefoedd. Dyma fel y dy- wed: Os yn y nef y cartrefwn—'n iaitb anwyl Ac yno Cymraeg ganwn, Fyth yno siaradwn; Ac yntau Sais yn gwneyd swn. Dydd Iau, yn Mrawdlys Kent, dedfryd- wyd George Eddowes, yr hwn yn 1893 a ddiangodd o garchar Caernarfon tra yn aros ei brawf am ladrad yn Nghaergybi, i butn* frnlynedd o. benyd wasanaetii am dori i lythyrdy a lladrata llythyrau yn eyawys arian, &c. Dywedwyd fod ei "eis- ieu" hefyd am ladrad yn Ninbych ac yn Nghaernarfon.

Agor Siopau ar y Sul yn y…

Un gwahanglwyfus.

Y Gymraeg yn y Senedd.

TALYSARN.

YR EISTEDDFOD MKDLlETHOL

IY CYNGHERDD.

Michael y Gyrwr. ,

Ofni'r Person a'r Meistr Tir.

Y Ddamwain Alaethus yn Mhwllheli.

fsmaldod y Beirdd.

FRIENDS OLD AND NEW.

[No title]

" Heiglad y moroedd bysgod."

MANION O'R EISTEDDFOD.

Pethau Rhyfedd.