Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
1 TRYCHINEB ALAETHUS YN MHWLLHELI.
1 TRYCHINEB ALAETHUS YN MHWLLHELI. 12 WEDI BODDI 7 TRiMOLIAB YN CAEL EI OHIRIO AM BYTHEFNOS. UN AR DDEG o GYRPH WEDI EU CAEL AGOR CRONFA I GYNORTHWYO'R TEULUOEDD. Dydd Llun, o flaen y trengholydd, Dr Hunter Hugnes, cynhaliwyd y trengholiad yn Morannedd, Pwllheli. Y rheithwyr oedd- ynt -Cadben George (blaenor), Cadben- iaid Richards, Humphreys, Willoughby, Griffiths, Mri W. H. Thomas, R. Morris, H. P. Hughes, James Williams, O. Owen, W. Edwards, W. Owen, ac Ensor. Yr oedd y Parch James Salt, Glandinorwig, yn bre- senol. Yr oedd Mr E. R. Davies yn cynorth- wyo'r trengholydd i gymeryd tystiolaeth. Dywedodd y trengholydd eu bod i gyd yn CYDYMDEIMLO YN DDWYS A'R PERTHYNASAU ae yn gofidio fod y fath beth wedi digwydd. Ni byudai iddo ond cymeryd tystiolaeth ffurliot heddyw, a gomrio y trengholiad am bymthegnos. Owen Parry oedd y tyst cyntaf. Dywed- ai ei fod yn I>Yw yn Caellwyngrydd, Llan- Ilechid, ac yr oedd yn dad i Ellen Thomas. Yr oedd hi yn wraig Owen Thomas, chwar- elwr, Tynyfawnog, Oii-iorwig; ac yr oedd yn 27 mlwydd oed. Adnabu William Ed- ward Williams, mab i Ellen Thomas o wr blaenorol. Yr oedd yr ymadawedig yn chwe mlwydd oed. Ad'nabyddai heiyd yr eneth Ellen Thomas, deng mlwydd oed, plentyn Owen Thomas o wraig o'r blaen. i mae Owen Thomas ar goll, a mab arall o'r enw Owen Parry Thomas. Yr adeg yma daeth y newydd fod corph arall wedi ei gael, a gofynodd y trengholydd i'r tyst fyned i edrych y corph. William Thomas Hughes a ddywediodd ei fod yn byw yn Nhanybwlch, Dinorwig. Yr oedd yn adnabod corph Ellen Hughes, chwe mlwydd oed, merch John Hughes, over- looker yn chwarel Llanberis. Y mae yntau ar goll. Adnabu y tyst y tri chorph arall. Nid oedd gyda'r gwibdeithwyr ddydd Sa- dwrn. Yr oedd yn adnabod hefyd gorph Richard Hughes, 15 mlwydd oed, mab Tho- mas William Hughes, chwarelwr. Daeth y trancedig gyda'r excursion o Lanberis ddydd Sadwrn. Nis gallai Richard Hughes nofio. Ni wyddai neb oedd yn y cwch pa fodd i drin y cwch, ac nis gallent nofio. Ond ni wnai ddweyd i sicrwydd nas gallai y dyn- ion nofio.-Y Crwner: A oedd efe yn gallu nofio?—Y Tyst: Nac oedd.-Allasai un o honynt nofio, neu a wyddent rywbeth am gychod ?—Na wyddent, ac nis gallent nofio.- Y Parch. James Salt: A ellwch chwi dyngu nas gallai John Hughes ac Owen Thomas nofio?—Y Tyst: Nis gallaf dyngu am danynt hwy.—Y Crwner: Ond ni wyddent ddim am gychod ?—Y Tyst: Nid wyf y{i credu eu bod, oherwydd chwarelwyr oeddynt.—Y Parch. James Salt: Y mae amryw chwarelwyr, Mr. Trengholydd, allant nofio yn dda,Y Tyst: Nid wyf fi yn gallu dweyd fod un o'r rhai oedd yn y cwch yn gallu nofio, ac nis gallaf dyngu na wyddent rywbeth am gychod. CAEL CORPH ARALL. Fel yr oedd y trengholiad yn myned yn mlaen, daeth cenad i ddyweyd fod corph arall wedi ei gael. Deuwyd ag ef i'r ty, a gwelwyd mai corph Owen Thomas ydoedd. Griffith Robert Thomas, Lhdiart-y-Glo, Dinorwic, a dystiodd ei fod wedi gweled y corph ddygwyd i mewn ychydig fynydau yn flaenorol. Owen Thomas, brawd y tyst,oedd, 33 mlwydd oed. Efe oedd gwr Ellen Thomas, a gweithiai fel chwarelwr. Yr oedd yn hollol iacb yn gadael cartref boreu Sadwrn. Ni ddaeth y tyst gyda'r bleserdaith. Ni wyddai y tranceqig ddim am gychod, a chredai y tyst na fu erioed ar y mor o'r blaen, ac nis gallai nofio.-Y Crwner: A oes genych rywbeth aral I i'w ddweyd-P-Y Tyst: Nae oes; dim ond fy mod yn teimlo yn ddiolchgar iawn i bawb aID-, yna torodd y tyst allan i wylo yn hidl. Dywedodd y trengholydd nad oedd angen myned yn m.,bellach gyda'r ymehwiliad ar hyn a bryd. Byddai iddo yn awr ohino y trengholiad am bythefnos, ac yn y cyf- amser caent ddigon o amser i adferyd y cyrph ereill, os deuid o hyd iddynt yn yr ardal yma. Os darganfyddid rhai, cymerai arno ei hun i'w gweled yn mhresenoldeb dau neu dri o reithwyr, a phan adnabyddid hwy, rhoddiai archeb i'w claddu. Gallesid yn y trengholiad gohiriedig gael tystiolaeth yn nghylch C, Y CWCH A'R MOR; yn y cyfamser efallai yr ymwelai y rheithwyr a'r fan lie yr aeth y cwch allan, ac yr aent i weled y cwch yn mha un y dygwyd y truein- iaid allan, gweled ei hyd a'i led, ac felly yn mlaen, ac ystyried a oedd vn cwch diogel i'w gymeryd allan ar ddiwrnod fel dydd Sadwrn. Caent dvstiolaeth hefyd yn nghylch cyflwr y mor a'r llanw, yn nghylch y dyn oedd yn go- falu am y cwbl, ac os gallai y dynion oedd yn y cwch ei gynorthwyo i reoli y ewch. Safai y trengholiad yn awr yn ohiriedig hyd foreu dydd Llun, Gorphenaf ,17eg, am un ar ddeg o'r gloch, yn yr orsaf heddgeidwadol. DAU GORFF ARALL WEDI EU CAEI. Rhwng deuddeg ac un o'r gloch deuwyd a dau gorph eto i'r lan, sef cyrph Owen Parry Thomas, tua chwech oed, a Thomas Hughes, sef brawd i'r un gaed y boreu. Y PYSGOTWYR YN GWEITHIO YN GALED. Yn ystod prydnawn ddoe gweithiwyd yn galed gan y pysgotwyr yn y bau; a bu eu hymdrechion yn llwyddianus dros ben. Ym- gasglodd tyrfa fawr o bobl ar y traeth i wvl- io y gwaith. Erbyn tri o'r gyoch y prydnawn, yr oedd chwech o gyrph wedi eu codi yn y drefn ganlynol: —Richard Hughes, Owen Thomas, T. Hughes, O. P. Thomas, Charles Davies, a John Hughes. Nid oedd felly vr adeg hono ond dau gorph ar ol yn y mor, sef, Cassie Hughes a John R. Hughes, plant byehain John Hughes. GKOLYGFAl GALONRWYGOL. Fel y dygid corph ar ol corph i'r lan. ac y ffurfid gorymdaith ar ol gorymdaith o'r traeth i'r ty lie y gorweddai y cyrph. gall- esid gweled gwragedd a phlant yn wylo, a chlywed dynion yn ocheneidio mewn cydym- deimlad. Yr oedd yr olygfa yn dorcalonus i'r eithaf. CLUDO'R CYRFF GARTREF. Oddieutu tri o'r gloch yn y prydnawn, daeth oerbyd i'r lie o Ebenezer i gludo y purn' corph cyntaf a gafwyd i'w .cartrefi. Amgylchynwyd cerbyd gan y dorf, a chlud- wyd yr eirch iddi. Yr oedd trimminsrs duon gyda'r goirinu "Tragwvddoldeb" "3 "A rlfar- weldeb" ar eirch y rhai mewn oed, a thrim- mings gwynion ar eirch y plant. Aeth rhai <j berthynasan y rhai a foddwyd gyda'r cer- byd. Yr oedd Mr Salt eisoes wedi cychwyn am Lanberis, gyda rhai ereill o'r perthyn- asau, i baratoi ar gyfer eu derbyniad. Oddeutu wyth o'r gloch nos Lun, cafwyd 'hyd i GORPH ARALL, sef Cassie Hughes (Catherine Ann' merch fechan John Hughes. CYDYMDEIMLAD YN MHWLLHELI. Cychwynodd y cerbyd yn cynwys y cyrff o lan y mor, ac ar gais yr Arolygydd Jones, ffurfiodd y cannoedd pobl oedd yn bresenol yn orymdaith, a gosgorddasallt y cyrph drwy heolvdd y dref. Yn eu plith gwelsom Mr E. R. Davies (y clerc trefol) ac amryw wyr cyhoeddus. Dangoswyd y parch a'r cydym- deimlad mwyaf gan drigolion Pwllheli, a gor- chuddiwyd ffenestri amryw o'r siopau, sef- ydliadau cyhoeddus, a'r tai yn yr ystryd- oedd trwv ba rai yr aeth yr orymdaith. Y RHAI GAWSANT Y CYRPH. Yn canlyn y mae enwau y rhai a fuont yn chwilio am y cyrph Richard Roberts a gaf- ddau gorph, Charlie Smith un corph, Benjamin Jones ddau gorph, Ellis Wright un corph, Edward Jones un corph, Owen Jones tri chorph, a William Jones Roberts un corph. CHWILIO AM Y COLLEDIG. Bu wyth o gychod wrthi a'u holl egni ddydd Mawrth eto, gyda lines hirion am oriau lawer, yn ceisio dod o hyd i'r corph diweddaf-sef un Johnnie Hughes, mab John Hughes, Dinorwig, corph yr hwn a ddygwyd i'r lan ddydd Llun. Y CYCHWR YN DECHREU GWELLA. Yr oedd yr holl gyrphyn agos i'w gilydd. Yr oedd Robert Thomas, y cychwr, wedi gwella digon i fyned i lan y mor ddydd Mawrth i weled y cychod allan yn chwilio am y corph colledig. Cafodd Mr. R. Davies, tad Charles Dav- ies, ymddiddan hefo Robert Thomas yn nghylch y ddamwain, a dywedodd sut y dig- wyddodd. Siaradodd ereill hefyd gydag ef, Yr oedd Owen Jones, yr hwn a fu o'r fath wasanaeth ddydd Sadwrn, a'r hwn a fu yn wlyb am oriau ddydd Mawrth, yn bur wael a gwan. EGLURHAD Y CYCHWYR. Gan fod adroddiad wedi cael ei gyhoeddi a thuedd ynddo i wneyd niwaid i enw da y cychwyr ac ereill, dymunir arnom gyhoeddi y mynegiad canlynol a wnaed gan William Jones Roberts. Dywedodd ei fod yn sefyll ar lan y mor tua chanol dydd, ddydd Sad- wrn, yn agos i beiriant ymdrochi. Yr oedd bachgen John Hughes yn ymdrochi ar y pryd. Daeth John Hughes yno, a phan yn pasio Roberts gofynodd yr olaf iddo a oedd arno eisieu cwch. Atebodd Hughes nad oedd. Yr oedd cwch perthynol i'r Cadben Rees Williams ar yr ochr arall i'r peiriant ymdrochi. Yr oedd Robert Thomas yn y cwch ar y pryd. Clywodd Roberts Robert Owen, yr hwn oedd yn gofalu am y cychod perthynol i'r Cadben Williams, yn gofyn i Mrs Thomas pa faint oedd yno ohonynt. Dywedodd Mrs Thomas mai tri mewn oed a chwe phlentyn. Yna dodwyd y plant i fewn. Gadawodd Mrs. Thomas, Owen Tho- mas, a John Hughes, y cwch, ac aethant at eneth fechan ar lan y mor oedd yn crio ac yn gwrthod myned i'r cwch. Darfu i Hughes ei chario i'r cwch. Fe aeth wedyn i nol dau fachgen bychan, y rhai hefyd a wrthwynebasant fyned i'r cwch, ac fe'u car- iodd hwy iddo, ac allan a'r cwch i'r mor. Pan tua haner milltir o lan y mor cafwyd awel wrthwynebus o wynt a chawod drom o wlaw, nes cynhyrfu y mor. Yr oedd Roberts allan erbyn hyn mewn canoe, a gwelodd W. Peters yn sefyll ar ei draed mewn cwch. Gan dybio fod rhywbeth allan o'i le cych- wynodd Roberts at y lan. Yr oedd Johnie Jones a Robert Owen yn union ar yr adeg yna yn gwthio cwch i'r dwfr. Gofynodd Roberts beth oedd yn bod, a'r atebiad oedd fod, cwch pobl yr excursion wedi troi. Cy- merodd Roberts gwch arall ar unwaith, ac allan ag ef. Pasiodd Peters ef ary ffordd yn brysio at y lan hefo dau deithiwr a Robert Thomas, v cychwr,yr hwn a achubasid gan Peters. Gofynodd Roberts beth oedd yn bod; a gwaeddodd Robert Thomas, yr hwn oedd wedi cyffroi'n ddirfawr, ac yn afreolus yn y cwch, fod ei gwch wedi troi. Yna darfu i Roberts, ar ol iddo gyrhaedd y lie y digwyddodd y ddamwain, ganfod clust- ogau, rhwyfau, hetiau, &c., yn nofio ar y wyneb, Yr oedd Owen Jones hefyd yno. Cymerodd afael mewn tri chorph. Gwel- sant fachgenyn yn dyfod tuag atynt yn y dwfr, a gafaelodd Jones ynddo gan ei dynu i fewn. Yna daeth tri o gyrph ereill i fyny. Cymerodd Roberts afael yn Mrs Thomas, yr hon oedd WEDI BODDI. Gwnaed pob ymdrech i'w chodi i'r cweh, ond methodd Roberts a gwneyd hyn hyd nes y daeth Robert Owen yno, pryd y llwyddasant i gael y corph i mewn. Cymerwyd y ecrph i'r lan gan Roberts, a, dodwyd ef yn ngofal Mr Hughes, Manor, a, Mr Thomas Thomas, Anchorage. Gadawyd) Robert Owen ar ol i chwilio am y cyrph eraill. Erbyn hyn yr oedd cwch Roberts wedi Ilenwi a dwfr. Ar ol cael help i'w waghau, aeth allan drachefn, a chydag ef Capten Rees Williams, per- cheuog y cwch a ddym:|hwelodd. Buont yn chwilio am hir amser, ond ni welsant yr un corph. Gwelodd O. Jones rai. Canfu Roberts a Williams y cwch a drodd yn drifftio yn nghyfeiriad Careg yr Imbill; a chan dyb- ied y gallasai un o'r cyrph fod dano, aethant yno gydag eraill i chwilio, ond ni welsant ddim. Bu Aubrey Davies, Owen Hughes, Johnnie Wright, a Willie Wright wrthi eu goreu yn chwilio am y cyrph. Nid ydyw yn wir i rai wrthod rhoddi help, ond gwnaeth pawb ei oreu1. Fe wneir y datganiad yma mewn trefn i WRTHBROFI Y CYHUDDIAD ddarfod i rai pobl ar y lan wrthod rhoddi cynorthwy. I'r gwrthwyneb, fe wnaeth pob un y cwbl oedd yn ei allu i estyn help. Ys- grifenwyd y mynegiad yma, gan ein gclheb- ydd, a darllenwyd ef drosedd ganddo i Ro- berts, yn nghlyw amryw gychwyr a pherson- au eraill ar y lan ddydd Mawrhh. Y TEIMLAD YN DINORWIG. Byth er nos Sadwrn y mae trigolion y lie hwn wedi eu syfrdanu gan y newydd calon- rwygol a thrychinebus, a siarad am y newydd pruddaidd a glywir ar bob llaw, a gwelw v wynebau a welir yn myned a dyfod drwy y fro, a gellir dweyd mai trom yw calon y cymydogion. Amlvgir y cydym- deimlad dyfnaf a'r teuluoedd galarus yn yr amgylchiad sydd wedi gordoi yr ardal a chy- ,imv mylau o dristwch. AGOR CRONFA GYNORTHWYOL. Y mae y Maer (Mr Anthony) wedi asor cronf i gasglu arian er cynorthwyo teulu- oedd y rhai a gollasant eu bywydau. YR AIL DRENGHOLIAD. Cvnhaliwyd yr ail drengholiad boreu ddvdd Mawrth, o flae'n Dr Hunter Hughes, Ni chvnierwyd ond tystiolaeth ffurfiol o adnabyddiaeth o gyrff John Hughes, Hughes, Cassie Hushes, a Charles Davies. Richard Davies, Bron Elidir, Dinorwig, a ddvwedodd ei fod yn adnibcd corff ei fab. Charlie Davies, yr hwn oedd yn 13 mlwydd cted. Gadawodd y bachge'n bach eartref am haner awr wedi chwech boreu Sadwrn, i fyned gyda'r bleseTdaith. Dvwedodd y Crwner wrth Mr Davies fod y trengholiad yn cael ei ohirio am bythef- nos. Mr Davies a atebo^ fed vna rai pethau y CARAI EU GWYBOD. Mr Humphrey Evans, ysgolfeistr. Tyn- vtrpdivs, Dinorwie;, a ddywedodd nad" cedd gyda'r bleserdaith, ond yr oedd yn adwaen cyrff. John Hughes a'i ferch, CassieHughefe. YTr oedfl John Hughes yn 36 mlwydd eèd. Yr oedd hefyd yn max^iine ins, yn Chwarelau Dinorwig. Un miwydd ar ddeg oed oedd Cassie Hughes. Adnabyddai y tyst y cyrff ereill a ddangoswyd iddo, sef Owen Thomas, Owen Parry Thomas (ei fab) Thomas Hughes (mab Thomas Hughes,Tan- ybwlch), a Charles Davies. Gwelodd yr oil o'r plant ddydd Gwener yn yr ysgol. EU "CLADDU YN YR UN MYNWENT. Dywedodd Mr Davies wrth ein gc- hebydd y dygid y cyrff mewn cerbydau i Dinorwig, ac y cleddid hwy yn yr un fyn- went. TEIMLAD 0 DDIGLLONEDD. Ffyna teimlad o ddigllonedd yn mysg y bobl yn Mhwllheli oherwydd yr hyn a ddy- wedodd William Peters, yr hwn a achubodd y cychwr. Dywedodd Peters i'r perwyl pan ddaeth i'r lan nas gallai gael neb i fyn- ed allan gydag ef i achub y truein- iaid. Y ffaith am dani yw ddarfodi bob un a glybu am y trychineb wneyd ei oreu yn mhob modd i estyn gwaredigaeth i rai oedd mewn ymdrechfa am fywyd yn y ton- au. TEIMLO YN DDIOLCHGAR. Dywedodd Mr Davies fod y cydymdeim- lad dyfnaf wedi cael ei arddangos trwy y dref ac yn y capelau a'r eglwysi tuag at y teuluoedd trallodus, a theimlant yn hynod ddiolchgar am y teimladau Crisjtionogol hyn. CYDNABOD EU GWASANAETH. Y mae Mr Fred. E. Young yn trefnu i gynal cyngherdd i gydnabod gwasanaeth y pysgotwyr ac ereill fu yn chwilio am y cyrff CVnhelir y cynglit-rdd yn Neuadd Gynullol yn y Wc!st End. nos Iau. (ncs yfory). Gwas- anaethir ynddo gan y minstrel troupe a'r seindorf linyn, yr hyn yn garedig a ganiateir iddynt gan y Mcistri Solomon Andrews a'i Feibion. Rhwng 7 ac 8 o'r gloch nos Fawrth cymer- wyd chwech o eirch o weithdy Mrs Roberts, High street, mewn lurry, i Moranedd, gan gael eu dilyn gan luaws o bobl. Dechreu- wyd ar y gwaith o rodui y chwefch corff yn yr eirch, gan Mr R. Roberts, foreman Mrs Roberts, ac ereill. Yr cedd tyrfa o bobl y tu allan i'r adeilad. Darfu i'r heddgeidwaid gasglu yr holl ddmadau a ddarganfyddwyd, a'u rhoddi mewn box mawr, a'u hanfon i Dinorwig. Ar ol i'r cychod hwyliau (trawlers) fod wrthi o yn gynar boreu ddydd Mawrth hyd yn hwyr, dechreuodd cychod rhwyfau chwilio am yr unig gorph oedd heb ei ddar- ganfod, sef un Johnnie Hughes. Yr oedd y gwynt wedi codi erbyn hyn, ond yr oedd y tywydd yn sych. Gdlir dyweyd fed amryw o'r cychod yn South Beach wedi cael eu niweidio yn fawr trwy gael eu defnyddio i chwilio hefo grap- pling irons am y cyrph. Rhoddodd y Doctoriaid Rees, Griffith a Jones bob help i adferu y rhai ymadawedig. Yr oedd naw o'r rhai ymadawedig yn blant dan 15 oed. DERBYNIAD Y NEWYDD YN NGHAERNARFON. Gan mai tref farchnad Dinorwig ydyw Caernarfon ac mai yma yr ymdyra, gwroniaid pybyr y chwareiau ar y Sadyr- nau a dyddiau gwyl, tarawyd y dref a dychryn pan ddedbyniwyd y newydd nos Sadwrn. Eisteddai braw ar wynebau y trigolion, a holai pawb, "Gawson nhw y cyrff ?" Nid oedd odid i gape'l yn y sir ddydd Sul naddyrchefid eirchion tyner at y Nef ar ran y teuluoedd suddwyd i'r fath brofedigaeth ofnadwy. Dydd Llun. rhedid am y newyddiaduron; ond y mae yn debyg fod mwy o ofyn am y "Genedl Gymreig" nag am yr un. Cynwysai adroddiad man- wl a helaeth. (GAN EIN GOHEBYDD 0 LANBERIS). Dydd Mawrth aethum i fyny i Dinorwig, ac yn wir y mae yno le prudd a digalon. Y mae pawb yno wedi eu meddianu a'r difrif- wch mwyaf. Y mae yr ysgol ddyddiol wedi ei chau i fyny oherwydd yr amgylchiad. Ni chynhaliwyd unrhyw wasanaeth yn yr Eg- lwys ddydd Sul, a theneu iawn oedd y cynulliad yn y capelau. Yr oedd pawb wedi eu syfrdanu gan y newydd trwm. Cef- ais ar ddeall fod un dosbarth bychan o Ys- gol Sul yr Eglwys wedi ei chwalu gan y ddamwain alaethus. Un yn unig o'r dos- barth sydd wedi ei adael i gofio am ei gyd- ddisgyblion. Aethum i'r Clogwyn Gwyn, a chefais ymddiddan a Mrs Hughes, gwr yr hon yn nghyda thri o'r plant sydd wedi boddi. Wrth siarad am yr amgylchiad dywedodd Mrs Hughes:—Yr oeddwn wedi clywed sibrwd fod rhai o'r ardal wedi boddi cyn i mi glywed fod fy nheulu yn eu plith; a meddyliais, ai tybed foo fy mhlant bach i wedi boddi P Yn mhen peth amser, dyma gnoe ar y drws, a daeth Mr Richards, y Curate, i mewn. Cyn iddo ddweyd dim, go- fynais iddo a oedd wedi dyfod i ddweyd newydd drwg wrtha i. Fe wyddWn mai dyna oedd ei neges; yr oeddwn yn clywed <swn cyn- hyrfus yn y gnoc ar y drws. Dywedodd: Mr Richards fod yn ddrwg iawn ganddo mai newydd felly oedd ganddo. Dywedodd fod teulu Ty'nyfawnog i gyd wedi boddi, ac fod ei phriod a'i thri plentyn bach hithau. O! meddwn, nid! damwain ydyw %yn, ond trefn ryfedd yr Arglwydd. Dyma fel yr oedd ef wedi trefnu eu diwedd', ond y mae trwy hyn wedi ysgubo fy nhy fi bron yn lan/Yr oedd Mrs Hughes dan deimlad dwys, ac yn wylo yn barhaus, opd y mae yn amlwg fed yr Ar- glwydd yn rhoddi nerth anghyffredin iddi i ddal yn y fath brofedigaeth. Yr oedd corph eu geneth fach Nellie, saith oed, wedi cyr- haedd yno nos Lun, ac aethum i'w gweled yn ei harch. Yr oedd yn edrych mor anwyl ag erioed; ei gwallt melyn prydferth fel mod- rwyau aur o amgylch ei gwyneb tlws. Y tro diweddaf y gwelais hi yn fyw yr oedd mor lion, ac ni allwn lai nag wylo wrth weled y fechan yn fud. Teimlir gofid mawr drwy y fro am nad ydiynt eto wedi cael corph ei hrawd. Yr oedd cannoedd hyd y ffordd nos Lun pan ddaeth y pum mrph yno. Golygfa dorcalonus oedd eu gweled yn myned a chorff Mrs Thomas, a dau o'r plant, i Ty'nyfawnog, yna myned ag un corph i Tanybwlch, wed'yn myned ag un arall i'r Clogwyn Gwyn. Yr oedd amryw hefyd ar y ffordd yn hwyr nos Fawrth, ond deallwyd nad oeddynt yn cy- chwyn a'r gweddill o'r cyrph o Bwllheli hyd ddau o'r gloch foreu Mercher. Drwg iawn oedd genyf ddeall fod chwaer i'r betfhgyn fu foddi o Tanybwlch mewn cyflwr pur ddifrifol. Y mae yr amgylchiad wedi effeithio yn fawr ami, ac y mae yn barhaus vn myned i ed- rych ar gorff ei brawd sydd wedi dyfod i'r ty. Yr oeddwn yn dtall ei bod yn llawer iawn gwell dydd Mawrth nag, mae wedi bod. Teimlai Mr Richard Davies, Elidir View, yn bur anesmwyth ar ol i'w fachgen bach gychwyn o'r ty i fyned gyda'r wib- daith. Daeth Charlie, sef ei fachgen at ei wely i ddyweyd ei fod yn barod i gychwyn. Dywedodd yntnu fod yn well iddo beidio myned, ac yn ddilynol dywedodd wrtho am gofio cymeryd gofal ohono ei hun, a gwylied y bicycles a'r cerbydiau, Ac. Ni feddyliodd unwaith am y mor. Yna aeth y bychan, a disgwyliai ei dad ei weled yn pasio y ffen- estr, gan mai heibio y ffenestr hono y bydd ent yn arfer myned at y ffordd, ond ni welodd ef. Yna cododd yn svdyn ac aeth i'r vegin, P, gofynodd i Mrs Davies a oedd Charlie wedi myu':¡., a pha ffordd yr aeth? Ydyw, meddai hithau, agcrais ddrws y ffrynt iddo. Dywedodd Mr Davies et f6d i codi i'w feddwl ofyn iddo a fuasai yn dyfod gydag ef i Landudno yn lie myned i BVjlheii. Fel yna, yr. oedd rhyw a<nes- mwythdra wedi meddianu Mr Davies o'r boreu cyntaf. ( Wedi gwneyd ymholiad yn nghylch y claddedigaethau cefais y manylion canlyn- ol :—Dydd Iau y bydd y cynhebryngau. Fe gynhelir gwasanaeth wrth y pedwar ty, am ddau o'r gloch, ac yna unir yn un or- ymdaith i lawr drwy Allt y Foel, i fynwent Llandinorwig. Gwasanaethir ar yr ach- lysur gan y Parchn J. Salt (y ficer), W. Richands (curad), Davies; laandd-einiolen, I a Jones, Porthdinorwig. Bu y ddau olaf yn gwasanaethu eglwys Dinorwig cyn dyfod- iad y y Parchn J. Salt a W. Richards. Y mae yr oil o'r beddau wedi eu trefnu yn agos i'w gilydd yn mynwetnt Llandinorwig.. Y mae yn ddiameu y bydd yr angladd mwyaf a welwyd erioed yn yr ardal. Oddeutu chwech o'r gloch boreu heddyw (ddydd Mercher) cyrhaeddodd y oerbyd gyda chwech ereill o'r cyrff. Yr unig un sydd ar ol yn awr ydyw eiddo Johnnie bach Clogwyn Gwyn. Aed ag un o'r cyrff i Tan- ybwlch, a dau i Ty'nyfawnog, yna dau i'r Clogwyn Gwyn, ac un draohefn i Elidir View. Yr oedd eu gweled yn dyfod fel hyn heb y bychan arall yn olygfa drist i'r eithaf
Gwrthdarawlai ar y Rhellffordd
Gwrthdarawlai ar y Rhellffordd Digwyddodd damwain ryfedd ar y rheil- ffordd yn Winsford, sir Gaer, nos Sadwrn. Yr oedd cerbydres nwyddau ar linell mewn cysylltiad a gweithiau Verdin, pan y rhodd- wyd arwydd yn cael ei fwriadu i gerbydres nwyddau o Garlisle oedd ar y brif linell, ond fe gymerodd gyriedydd y gerbydres leol mai iddo ef yr oedd yr arwydd. Y canlyniad fu i dair cerbydres daro yn erbyn eu gilydd, a pheryglwyd bywydau canoedd o deitbwyr. Aeth y gerbydres leol yn gyntaf oil, i wrthdarawiad yn erbyn pont. Treiglodd y wageni drosodd, gan gwympo ar y rheiliau. Daeth y gerbydres o Carlisle yn eu herbyn gyda chyflymdra.. Yr oedd yn amser i gerbydres pleserdaith i ddych- welyd i Lerpwl o Ddehudir Cymru. Rhodd- wyd rhybudd i'r gyriedydd, ac arafodd hwnw ei dren, ond methodd a'i atal, ac aeth yn erbyn y oerbydau drylliedig. Niweia- iwyd amryw bersonau, ond nid yn ddifrifol. Cymerwyd pedwar neu pump o'r rhai a an- afwyd fwyaf i Crewe i gael trin eu briwiau, ac aeth y gweddill yn mlaen ar ydaith.
Lladd^yr Armenlaid.
Lladd^yr Armenlaid. DIFROD MAWR AR FYWYDAU. Yn ol y newyddion a dderbyniwyd yn y wlad hon, y mae pump o bcnt-refi yn Kaza- bulinik wedi eu hanrheithio. Poblogid hwy yn benaf gan Armeniaid. Cymerwyd holl eiddo y trigoiion. Lli-.ddwyd *cant a hane'r o Armeniaid, ac y mae ugain o wragedd ar goll. Digartref a thruenus arnynt yw yr Armeniaid a ddiangasant.
Drejfus wedi Gianio.
Drejfus wedi Gianio. (jianiwjd y Capten Dreyfus yn Quin- benom boreu Sadwrn. Dygwyd ef oddi- yno i Rennes yn ystod yr un boreu,, a dygwyd ef rhag blaen i'r carchar. Anfon- wyd milwr i hysbysu Madame Dreyfus fod ei gwr wedi cyrhaedd. Wedi cael can- iatad i'w weled, cymerodd golygfa doddedig le pan gyfarfyddodd y gwr a'r wraig. Cymer y prawf le yn Rennes, Llydaw.
Tmlli y slpslwn ymaith.
Tmlli y slpslwn ymaith. Nos Wener aeth trigolion Llanddulas, rhwng Colwyn Bay a'r Rhyl, yn fintai ar gomin Rhydyfoel, yn agos i'r pentref, lie yr oedd bagad o sipsiwn wedi gwer- syllu ers wythnosau y rhai a greuasant gynhwrf. RhoddwydJ rhybudd iddynt i ymadael ymhen amser penodol. Gan nad oeddynt am symud, darfu i'r dyrfa, gyda ffyn yn eu dwylaw, eu gyru ymaith. Yn ofni rhag eu niweidio, dychrynodd y sip- siwn, a galwasant; yV heddgeidwaid. Yr oedd y gwlaw yn ymdywallt, ond cerddai y pentrefwyr ar hyd y ffordd gan ganu a chwifio eu ffyn.
Cael el Laddyn y Transvaal
Cael el Laddyn y Transvaal Yr wythnos ddiweaaf daeth y newydd i'r Waenfawr fod Mr Humphrey Jones, Pant y Ceryg, wedi cael ei ladd yn y Trans- vaal, trwy i dwll danio arno. Nid oedd ond oddeutu tri mis er pan gychwynodd yno. Yn chwarel Glynrhonwy, Llanberis, -yr oedd yn gweithio pan oedd gartref, ac y mae brawd iddo yno ar hyn o bryd. Cyd- ymdeimlir yn fawr a'i deulu trallodus.
Troi Dwfr at Weithio Chwarel…
Troi Dwfr at Weithio Chwarel yn Llanllyfnl. Y PWNC DAN SYLW CYFLAFAREDD- WR. • Ddyddian Gwener a Sadwrn diweddaf, bu Mr W. E. Jones, Graig, Llanfair P.G., yn eistedd fel cyflafareddwr, mewn achos a ddygid; gan Mrs Ann Williams, Ty Mawr, Clynnogj yn erbyn Thomas Thomas, Phil- lip Thomas,, ac Edward Williams, y rhai sydd yn gweithio chwarel yGelli, yn mhiwyf Llanllyfni.—Hawliai Mrs Williams iawn am y golled a gawsai drwy i'r diffynyddion droi dwfr a redai am lawer o flynyddoedd i ddyfrhan fferm o'r enw Coed Caedu at weithio y chwarel.—Ymddangosai Mr Bryn Roberts, A.S. (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr Richard Roberts, Caernarfon), ar ran yr hawlyddes; a Mr Montgomery (yn cael ei gyfarwyddo gan y Mri Carter, Vincent a'u Cyf.), dros y diffynyddion.—Wedi gwrandaw tystiolaethau oddeutu 40 o ber- sonau ar y ddwy ochr, dywedoda y cyflaf- areddwr y rhoddai ei ddyfarniad mor fuan ag y byddai modd. CYNGHOR I PWYP Mae'n wir fod ambell eneth hardd Yn denu'r bardd i ganu, Ond gwylia ar dy droed, fy ffrynd, Wrth ddechreu myn'd i garu Os ydvw'r ferch a'r "dannedd man" Yn lan, ac wedi'th swyno, Efallai, frawd. mai hono fydd Rhyw ddydd yn dy alltudio. Os vdrw'r ferch a'r gruddiau lion Yn toddi'th fron a'i thremiad, i Ac eto'n fun o wrthrych llawn Yn swynol iawn ei. siarad, Ond cofia nad yw geiriau merch I Dan donau serch i'w coelio,— i Efallai, frawd, mai hono fydd Rhyw ddydd yn dy alltjudio. Os oedd llawenydd yn dy fron Pan welaist hon yn gwenu, A chariad twym yn chwareu'r tant Nes enyn chwant priodi; Gofala nad oes bradus wen Un hoeden wedi'th hudo, Rhag ofn, frawd, mai hono fydd Ryw ddydd yn dy alltudio. y HEJT LANC.
Liong o, Giernarfon wedi Colli…
Liong o, Giernarfon wedi Colli <l- Prydnawn ddydd Llun, aeth yr ysgwner "Catherine," perthynol i Mr John B. Prit- chard, Caernarfon, yn ddrylliau ar greigiau Porthnant, gerllaw Nefyn. Trodd y gwynt yn sydyn a hyrddiwn hi ar y graig, ond achubwyd yr holl ddwylaw:. John Hurst, Caernarfon, oedd y capten.
Dal Ty Sorwr yn Mhorthmadog
Dal Ty Sorwr yn Mhorthmadog Prydnawn ddydd Llun, gerbron Mr J. R. Pritchard, dygwyd Caradoc Williams yn mlaen ar y cyhuddiad o dori i mewn i'r Glandwyfach Inn, boreu dydd Sadwrn. Daliwyd ef yn y ty gan y gwr, yr hwn a'i rhoddodd drosodd.-ir heddgeidwaid. Tra- ddodwyd ef i sefyll ei brawf yn y frawdlys.
Ystori Rhyfedd!
Ystori Rhyfedd! Yn nghyfarfod Bwrdd Gwarcheidwaid Treffynon adroddwyd ystori rhyfedd gan Mr Parry Williams, Nercwys, yr hwn a ddygodd ei dad-yn-nghyfraith o flaen y bwrdd. Bu Mr Griffiths yn ffermwr yn Undeb Tlodion Rhuthyn, ond yn bresenol yn yr oedran o 84 mwydd, yn fethiantus, ac ers tro yn ymddibynu ar ereill am ei gyn- haliaeth. Gwnaeth Mr Williams gais am gymhorth i'r hen wr. Yr oedd wedi gofyn am gael myned i'r tlotty. Yr oedd ganddo chwech o feibion, y rhai oedd wedi ei adael. Yn 1897 rhoddodd i fyny ei fferm, gwerth- odd y stoc, a diangodd ei fab ieuengaf gyda'r arian, sef y swm o 214p, gan adael 50p yn nwylaw arwerthwr yn y Wyddgrug, yr hwn oedd yn analluog i'w talu drosodd i'r tad. Hysbyswyd fod y mab ieuengaf wedi cael gan ei dad arwyddo papyr yn trosglwyddo yr arian iddo ef. Awgrymwyd nas gallai Gwarcheidwaid Treffynon ond yn unig gan- iatau iddo docyn i fyned i mewn a chael ei symud i Rhuthyn, ac y buasai y Gwarch- eidwaid yno yn gofalu fod y meibion yn talu at ei gynhal. Mabwysiadwyd yr awgrym- iad, a gadawyd yr hen wr yn nhlotty Tre- ffynon nes y gellir gael y papyrau allan i'w symud i Ruthyn.
Gwrthod Addysg i Blant Tlodion.
Gwrthod Addysg i Blant Tlodion. Nid oes pen draw ar y gofid a geir gan archwilwyr y Llywodraeth Daw pob ar- chwilydd a rhyw syniad newydd i mewn sydd yn gwyrdroi holl arfer gwlad a thref. Dyna ymddygiad yr archwiiydd yn nglyn a'r streio ddiweddaf yn y Deheudir; nid oes un rheswm ceisio peri i'r Gwarcheidwaid dalu o'u,llogellau eu hunain yr arian war- iwyd i gynorthwyo rhai mewn angen. Ac yn awr, y mae'r archwilydd wedi gwrthod pasio yr arian oedd yn cael eu gwario gan Fwrdd Ysgol Llundain ar ysgol gwyddor. Y mae ei ymddygiad wedi syrthio ar y Byrddau Ysgol fel bollt allan o'r awyr las. Gwyddai y Llywodraeth fod y cyfryw ysgol- ion yn nglyn a phrif fyrddau y deyrnas; yn wir, yr oedd y rhai hyn cael eu cynorth- wyo yn helaeth allad, o'r cyllid ymherodrol; ac nid oes synwyr mewn cynorthwyo ar y naill law a dirwyo ar y llall arall. Y mae hwn yn bwysicach pwnc nag a ymddengys ar yr olwg gyntaf. Y mae yn gyfystyr, os cadarnheir gwaith yr archwilydd, a gwrthod rhoddi addysg mewn celf a gwyddor i blant tlodion. Nis geill y rhai hyny, lawer o honynt, fyned i'r ysgolion sir; y maent ) n rhy dlawd i gyfarfod a'r tal; ond byddai o werth' anrhaethol iddynt, tuag at lwydd- iant yn nyfodol bywyd, i gael rhyw gym- aint o addysg mewn gwyddor yn ysgolion y bwrdd. Nis gallwn ddirnad pa resw.ii fill fod yn erbyn hyn. Credwn yr yinluida Bwrdd Ysgol Llundain y frwydr allan hyd y pen.
Gorthrymu Glowyr y De. -
Gorthrymu Glowyr y De. Cred y glowyr yn y De »n gyv. Ir nen yn anghywir, fod y perch vi jgion vn t:c tio dwyn i mewn eto No-lyn Fhyddh. 1 mewn ffurf arall. Gofynir iddynt arwyddo rhyw lyfr cyn y cant wsith. iJ ydym yn gwy- bod yn hollol beth sydd yn y llyfr, na pha- ham y gofynir i'r glowyr osod eiiheavau arno. Ac felly, nid ydym am ddatgan barn hyd nes y byddom yn deall y mater yn drwyadl. Ond os yw y meistri am ad- gyfodi y nodyn, y maent yn gwneyd cam- gynuriad difrifol. Y mae y glowyr wedi hen wneyd eu meddwl i fyny na fynant mo hono. Gwell ganddynt fyddai cychwyn ar streic eto, er caleted fyddai hyny, yn hytrach na phlygu i'r fath orthrwm. Ac yr ydym yn credu eu bod yn iawn.
Treuliau Byrddau Ysgol.
Treuliau Byrddau Ysgol. Nis gall y sylwgar beidio gweled fod cyn- ydd difrifol yn cymeryd lie yn nhraul y Byrddau Ysgol dros y wlad. Galwai amryw syiw at hyn yn nghyfarfod diweddaf Bwrdd Ysgol Merthyr. Y prif reswm dros hyny yw, fod adranau newyddion yn cael eu dwyn i mewn yn barhaus i addysg yr ysgolion el- fenol. Jiewn amryw ysgolion ceir addysg- ia.eth mewn coginio, ac hyd yn oed mewn golchi; trefnir moddion er cryfhau a dad- blygu aelodau y corff, a sefydlir ysgol ar ei phfen ei hun er addysgu y pupil teachers. Nis gellir gwneyd y pethau hyn heb draul; traul mewn adciladau pwrpasol, a thraul hefyd mewn dwyn yn mlaen y gwaith. Ac o'n rhan ni, nid ydym yn cwyno am draul yr hyn sydd yn wir addysg; y peth sydd yn bwysig yw, fod yr addysg yn effeithiol, ac mor rhad ag y gellir ei gael, a bod ar yr un pryd yn dda. Ond nid ydym heb ofni fod llawer o arian yn cael eu treulio ar fads. Y gwaethaf yn yr ystyr hwn yw Bwrdd Ysgol Llundain; y mae ei fads yn ddirifedi, a cheir llawer oFyrddau yn y talaethau yn canlyn ei esiampl hyd byth y gallont. Nid ydym yn ddiberygl, wrth geisio addysgu pobpeth, o fethu dysgu dim yn drwyadl. Ac yn sicr daw rhyw derfyn i wasgu ar y trethdalwyr. Y mae eu beichiau yn bresenol agos bod yn llethol. Gwario yw nodwedd y dydd, o'r Llywodr- aeth i lawr hyd y gorfforaeth drefol leiaf. Os eir yn mlaen fel hyn, nis gwyr neb beth fydd y canlyniadau.
[No title]
Bu Dr Simes Woodhead yn dxisoddi y gwenwyn a arferir gan anwariaid i wlychu blaen y bicell neu saeth. Dyben hyn ydoedd dyfod o hyd i feddyginiaeth wrth-wenwynol. Strychnine ydyw hono. Dywed Mr H. M. Stanley, A.S., mai o ddail y stropanthus y ceir y gwenwyn mwyaf anq;euol, fod 7-400 ran o ronyn yn ddigon cryf i ladd dyn. Ystor- fa gwenwyn arall ydyw nadroedd ac hefyd wrth bwnio eanoedd o forgrug coch.
Advertising
CADBURY'S Cocoa, on tne testimony of the LLancet "represents the 'standard of nighest purity." It is entirely free from all foreign substances, sue as kola, malt, hops, &c., nor is alkali used to darken the colour (and so deceive the1 eve). Dr Andrew Wil- son, in a recent article in the "Illustrated London News," writes: "Cocoa is in itself a perfect food, and requires no addition of drugs whatever." CADBURY'S Cocoa is absolutley pure, and should be taken by old and young, at all times and in all seasons; for children it is an uleal beverage, promot- ing healthy growth and developments in a remarkable degree. Insist on havings CAD- GRY'S as other Cocoas are often substi- tuted for the sake of extra profit. Sold only Ha Packet& Aad Tims.
Y TRANSVAAL .-
Y TRANSVAAL Yn ol yr arwyddion presenol, digon prin y geltir eadw y Prydeihiaid heb "dalu yr hen chwech" i'r Boers yn y Transvaal. Y mae y wlad hono wedi bod yn asgwrn y gynen rhwng Prydain Fawr a'r brodorion er pan y dargan- fyddwyd diamwnd ac aur yn ngwely yr afon Vaal yn 1871. Cyn hyny, nid oedd neb ond y boneddigion hyny yn myned ar draws y byd i hela creaduriaid gwylltion, yn gwybod ne- mawr ddim am y wlad, nac ya hidio sut yr oedd y brodorion yn byw ac yn bod. Ond wedi darganfod fod y wlad yn gyfoethog mewn mwnau gwerthfawr, daeth y Transvaal yn gyrchfan pobloedd o bob cwr o'r byd. Yr oedd v Boers yn enwog fel ffermwyr ac helwyr, ond nid oeddynt wedi bod yn ddigon llygadog i ganfod y cyfoeth diderfyn oedd yn guckliedig o dan eu traed. Rhaid addef fod y Boers yn ddynion hirben, ac mai gwaith anhawdd yw eu dal yn hepian. Buont megys ar eu penau eu hunain yn mhlith preswylwyr Affrig am fyw yn unol a deddfau gwareidd- iad. Nid oes gan Brydain Fawr beddyw ne- mawr i'w ddysgu iddynt am wleidyddiaeth gartrefol, mor belled ag y mae a fyno hyny a'u manteision eu hunain. Digon tebyg na fuasai Prydain wedi gosod bys yn mhastai v wlad hono oni bai am y ffaith fod NEWYN AM AURA DIAMWND ar breswylwyr y wlad. Dechreuodd ein hym- yraeth a'r Transvaal wrth fyned i geisio ei hamddiffyn yn erbyn ymosodiad y Zulus. Yr oedd y Boers wedi myned dipyn yn rhy ormesol i foddloni deiliaid Cetewayo. Gwel- odd Syr Theophilus Shepstone, ein cynrych- iolydd ni yn y Transvaal, fod y Boers mewn perygl o gael eu gorchfvn-u, a cheisiodd hedd- ychu y pleidiau. Gwelai fed gormod o fro- dorion Affrig a'u bysedd yn llygaid y Boers, ac mai dim ond dinystr oedd yn eu haros os torai y rhyfel allan. Yr oedd y boneddwr hwnw wedi deall fod v Transvaal yn wlad rhy werthfawr i'w gadael i fvned yn ysglyfaeth rhwng llwythau anwaraidd, ac felly, llwydd- odd i gael gan Brydain Fawr i daflu eu ham- ddiffyniad am dani. Yr oedd y Boers yn ym- wybodol o'u perygl y pryd hwnw, a dyna yr achos iddynt ymostwng o dan amddiffyniad Prydain. Gwnaed y Transvaal yn drefedig- aeth Brydeinig vn Ebrill, 1877.. Gwr o'r enw Burgess oedd llywydd y Weriniaeth y pryd hwnw, ac fe ddywedir mai o dan chwyrnu y llawnododd y cytundeb i chwyfio baner Victoria ar fryniau a thyrau ei wlad. Wedi i'r perygl oedd yn amgylchynu y Transvaal fyned heibio, gwelwyd Y BOERS YN DECHREU GWINGO o dan awd'urdod Prydain, ac yn niwedd y flwyddyn 1880 cawn y genhedlaetl-i yn taflu iau Prydain oddiar eu hysgwyddau yn ddi- gon diseremoni. Pretorius, Joubert, a Kruger oedd y trindod blaenllaw i ddwyn y Weriniaeth i fodolaeth annibynol am un- waith eto. Y blaenaf o'r tri oedd yn llanw y swydd sydd' yn eiddo yr olaf yn awr, a Jou- bert yw pen cadlywydd y wlad o hyny hyd yn awr. Nid oedd Prydain yn breuddwydio fod y Boers yn rhai mor dwyllodrus, ac nid oedd ein gallu yn v wlad yn ddigon i rwvstro y gwrthryfel i ymledu, a bu cryn ddifrod ar yr ychydig filwyr oedd gan y wlad hon yn gofalu am drefn a dosbarth yno. Yn nechreu 1881, yr oedd y Boers wedi ymhyfhau, ac wedi croesi y terfyndir i Natal. Ac ar y 26ain o Chwefror y bu Y FRWYDR ERCHYLL rhwng milwyr Lloegr, o dan lywyddiaeth Syr George Colley, a hwythau ar Majuba. Hill, pan y saethwyd agos yr oil o'r swyddogion Prydeinig a Syr George yn eu plith. Ni fu y milwyr Prydeinig mewn lie mor boeth ag ochr y bryn hwnw. Llechai y Boers o'r tu 01 i'r llwyni a'r ceryg, gan bigo allan y swyddog- ion Prydeinig o un i un hyd nes oedd yr holl fyddin megys wedi dyrysu. Disgynodd yr ar- weinyddiaeth ar Syr Evelyn Wood, wedi i Syr George Colley gael ei ladd, a gwelodd hwnw mai ynfydrwydd oedd dwyn y rhyfel yn mlaen o dan yr amgylchiadau, a gofynodd am gadoediad am wyth diwrnod, a chafwyd hyny yn ddiwrthwynebiad gan y Boers budd- ugoliaethus. Yn y cyfamser, yr oedd yr awdurdodau milwrol yn y wlad hon o ddifrif yn cyfeirio adgyfnerthion tua gororau y Transvaal, er mwyn dangos i'r Boers nad oeddynt i gael chwareu a Phrydain Fawr. Ond rhywfodd neu gilyddl-nid yw yn eglur sut y btl-codlodd Mr Gladstone ei law yn er- byn dwyn y rhyfel yri mlaen yn mhellach ac nid yw y blaid filwrol yn y wlad hon wedi gadael ei felldithio am hyny hyd y dydd hedd- yw. Mae llawer heblaw Ceidwadwyr yn credu mai dyna y camsyniad tramor mwyaf a wnaeth Mr Gladstone yn ystod ei oes hir- bith. Modd bynag, ar yr 21ain o Fawrfh-mis wedi brwydr Majuba—llawnod'wyd cytundeb rhwng cvnrychiolwyr Prydain a'r Boers. Yr oedd y Transvaal i fod YN WERINIAETH ANNIBYNOL ar Brydain mewn pobpeth perthynol i fater- ion mewnol y wlad, tra yr oedd Prydain i drafod pob busnes dramor drosti, yn nghyd a'i hamddiffyn rhag gelynion, os byddai galwad am hyny. Dyna fel y bu pethau am dymhor, a dyna fel y mae pethau yn awr hefyd, yn ol y cytundeb a wnawd ddeunaw mlynedd yn ol. Fel y nodwyd ar ddechreu y llWi hen, bu darganfyddiad y mwijau gwerthfawr yn y wlad yn foddion i chwyldroi pohpeth-yn ddaearyddbl a Qhymdeithasol. Llifai pob- loedd i'r wlad o bob cyfeiri d. Neidiai trefyddi'i fodolaeth mewn ychydig ddyddiau. Yr oedd KRUGER wedi ei wneyd yn Llywydd y Weriniaeth er- byn hyn, ac ni bu gwr mwy cyfrwys a llygad- og na'r hen frawd hwnw.Gwelodd fod ei wlad yn myned i gyfoethogi y byd, a. barnodd y dvlasai ei ddeiliaid gael cyfran helaeth o gyf- oeth y bryniau a'r gwastadeddau. Tzfloddei ddeddfau megys rhwyd am y newydd ddyfod- iaid, fel nas gallent s'mud llaw na throed heb daflu cyfran helaeth o'u llwvddiant i goffrau y Weriniaeth yn Pretoria. Yr oedd aelodau ei Senedd yn codi ei lewys yn hyn o beth, wrth gwrs. Rhoddid treth uchel ar bob math o bylor ac angenrheidiau gofynol i ddadbrchuddio yr aur a'r diamwnt. Talai y bobloedd oedd yn ymawyddu am ddyfod fil- iwnwyr y trethi ar y cyntaf, ond daeth ag- wedd arall ar bethau wedi i'r bobl ddechreu dyfod i'w synwyrau wedi y "dwymyn felen." Lluosogodd yr estroniaid yn y wlad hyd nes y maent yn awr yn fwy na theirgwaith nifer y brodorion. Er hyn, mae Kruger a'i swydd- ogion yn dal ei afael yn y ffrwyn lywodr- aethol, ac ni cha un estren lais yn nedaiwrfa y wlad heb ei fod wedi pre o pedair blv- nedd ar ddeg yn y Weriniae V fe wedi profi ei hun yn ufudd a theyrnca: 1 i'w deddfau. Gorchwyl lied ddiflas, yn ol ein syniad ni yn y wlad lion, fTddai gorfod talu trethi uchel, ta Jieb gael llais i ethol aslod seneddol, nac aelod o unrhyw fwrdd Ileol. Mae Kruger a'i gyfeillion yn cadw yn rhy gyndyn at eu hawl- iau. Rhaid cyfaddef fed ganddynt yr hawl, ond digon prin v gellir honi y dylent arfer yr hawl hono. Yr estroniaid aethant i'r Trans-vaal heb neb yii eu awahocid; ond dylasai Kruger a'i swydclogion eu natal i sef- ydlu yno. neu ynte roddi iddynt hawliau dinxsyddion. Mae wedi mvnpd vn rhy ddi- weddar o'r dydd i gadw y bolil allan o hawl- iau dinasvddion, a goreu po gyntpd y daw Kruger i gydnabod hynv. Mae wedi myned yn rhv ddiweddar iddo yru y tramoriaid allan o'r eyffininu-mie yn fwy nag y gall ef a'i arfogion gyflawni yn gyfleus. Cvdna- ,bydda fod y newydd ddyfodiaid yn deilwng o ddyfod i hawliau dinasyddion, end nid yw yn foddion ymddibynu arnynt heb gael digon t-I o brawf o'u teyrngarwch i'r' llywcdrr.eth. Pethau fel hyn achosodd i DR JIM A'I WYR ddyfod i helbul. Mae y wlad yn yr un berw eto. Mae Kruger yn dechreu dyfod yn hawddach i'w drafod. Bu eiri eynrychiolydd ni mewn ymgem ag ef y dy-dd o'r blaen ar y pwne sydd yn aflonyddu y wlad. Daeth yr hen Lywydd haner tforuu i gyfarfod hawliau yr Uitlanders, trwy foddloni gostwng amser y brentisiaeth i lawr i saith mlynedd, yn nghyd ag addaw rhai diwygiadau ereill. Ond troi yn aflwyddianus wnaeth y gyahadledd, a throdd Syr Alfred Milner a Kruger bob un i'w ffordd heb ddyfod i ddealldwriaeth ar ddim o bwys. Beth fydd y canlyniad, nid oes dewin a wyr. Mae y boblogaeth newydd yn y Transvaal fel crochan berwedig, ac nid oes neb a wyr pa bryd y berwa dros yr ym- ylon. Mae Chamberlain yn ddigon parod i ollwng y milwyr yn rhyddion i ddwyn Kruger i ufuddhau i reswm a chwareu teg. Mae "hen grachen" rhwng y ddau er's cryn dipyn, a gwell i Kruger gymeryd gofal rhag i'r gwr o Birmingham droi yn rhy gyflym iddo allu ei ddilyn. Rhaid i Kruger roi ffordd. Nid oes synwyr mewn cadw dynion bedair blynedd ar ddeg cyn dyfod i hawl dinasyddion, heb son am eu trethu i farwol- aeth cyn cydnabod eu hawliau. Rhaid i ddeiliaid Prydeinig gael eu hawliau mewn gwlad estronol. Onite!
Yr Haf a'i Beryglon.
Yr Haf a'i Beryglon. Mae gwres yr haf, a'r hin dymlr ac an- sefydlog yn ami yn fwy peryglus i blant a phobl mewn oed nag a feddylir. Mai1 gor- chwysu Q, chymeryd diodvdd oerion yn gwanhau y gwaed, ac mae y dioddafydd fel pe bae yn newynu. Os bydd gwendid naturiol yn bodoli, fe fydd i'r cyfansoddiad dori ilawr yn y cyfwng hwn, a'r iechyd yn ymddangos fel wedi llwyr dori i lawr. Adroddodd Mrs Christopher, Salford HOUfe, Hitchin Hili,. Hitchin, yr yst>H ganlynol wrth ohebydd a alwodd gyda hi y dydd o'r blaen. Pwnc yr ymddiddan yd- I MABEL CHRISTOPHER (Oddiwrth cldarlun). oedd ei mherch, Mabel Christopher, naw oed. I fyny i'r haf diweouaf, presenolodd yr eneth fach hon ei hun yn yr vsgol yn rheolaidd, ondlaua Gorphenaf y flwyddyn ddiweddaf, collodd y nerth o'i haelodau, ac un diwrnod syrthiodd i lawr yn yr heol. Aethpwyd a hi i'w gwely, ac yno y bu am amrywwythnosau gan ei bod wedi colli, defnydd o'i haelodau yn gwbl. Aeth yn raddol yn deneu a gwelw, ac yr oedd wedi ( phajrHy&u drosodd., Darllenodd ei mham fodd bynag yn y z: newyddiaduron am y daioni a wnaed gan Dr Williams' pink pills ior pale people mewn. achosion o'r parlys a phenderfynodd eu treio. Yr oedd Mabel yn parhau i waethygu yr adeg y dechretowyd rhoddi y pelenau iddi. Cyn ei bod wedi cymetryd y blwJ}h cyntaf-parhaodd blwch am hir amser-oherwydd mai haner pelen a gym- erai ar y tro -yr oedd wedi myned; dros y gwaethaf, a dechreuodd yn raddol, ond yn sier wella. Cymerodd dri neu bedwar o flychau o gwbl, ac yn mis Tachwedd y de- chreuodd yr eneth fach fyned allan gyntaf ar ol ei hir gystudd. "Meddyliai pawb na buasai byth yn gwella" meddai Mrs Christopher. Nis gall- ai gadwci haelodau yn union, a meddyliais ar y dechreu- mad crvdiqymalau ydoedd. Yr oedd ei gwaed hefyd wedi myned allan o drefn. Ni chymerodd yr un feddygin- iaeth ond y pelenau hyn, ac yn awr y mae mor iach ac erioed, ac yn myned i'r ysgol fel arfer; ac nid ydyw yn edrych fd yr un eneth." Dyma engraifft o afiechyd wedi ei achosi gan wres yr haf: mewn achosion eraill, fel y dywedwyd gall mai gw.Elndid cyffredinol ac arwyddion o'r iechyd wedi tori i lawr a fydd. Ceir meddyginiaeth sicr yn Dr Wil- liams' pink pills for pale, people—y pelenau ag enw Dr Williams ar yr amlen-nid rhai ffugfiol-a chymeradwyir yr un feddygin- iaeth at wendid gwaed, gwendid, St. Vitus Dance, Crydcymalau, parlys,a Darfodedig- aeth. Os cynvgir rhai ffugiol, ceir y pEll- enau gwirioneddol oddiwrth y Dr Williams Medicine Company, Holborn lladuct, Lon- don—ani ddau swilt a naw ctmiog weii tolu y cludiad.
"GWEDDI BAPYR."
"GWEDDI BAPYR." Gymru anwyl, gwlad y breintiau, Rured Duw dy hen syniadau Cnawdol, marwol, gwae ac adfyd, Sydd yn difa nerth dy fywyd; Dyro heibio dy ddefodau Geir yn pylu dy rinweddau- Gwlad a'i bywyd heb un ystyr Sydd yn byw ar "Weddi Bapyr." Paid a dilyn gwyr y rhagfarn— Gwyr y gloch a'r croesbawl haiarn— Gwyr y ffug a'r crysau gwynion Wedi'u rhoi am grysau duon; Golcli dy enaid yn ngoleuni Ysbrydoliaeth Duw mewn gweddi, Paid a myn'd i'r Farn heb fyfyr Ar adenydd "Gweddi Bapyr." Barna'r weddi wyt yn glywed, Barna bobpeth wyt yn weled, Barna bechod, barna rinwedd. Paid ymddiried mewn un ffoledd Paid a derbyn unrhyw gredo Heb wirionedd dwyfol i-ild-do,- Nid oes gair o'r hen Y 8ythyr Dros ddefnyddio "Gweddi Bapyr." Byth nis gall yr un aderyn Hedeg ar fenthyciol edyn, Rhaid i bob aderyn bychan Dyfu edyn iddo'i hunan, Nid oes dim ond dyn yn ceisio Rhoddi edyn benthyg dano,— Mae pob'bywyd vn rhy bybyr I'w rhoi byth ar edyn "Papyr." Cyfrol gweddi pcb gwir Gristion Yw difrifweh byw ei galon, A lief calon yn ei chyni Mewn cyfyngder ydyw rgweddi; Ac nis medra ei darllen Mewn addoliad end ei pherchen,— Mewn gwatwaredd yn yr awyr Ydyw swn v "Weddi Bapyr." Gweddi enaid heb ddarlleniad Ydoedd gweddi Crist y Ceidwad— Gweddi ysbryd yn ymruddfan Augen ei anianawd allan Ac Efe, 'r .gweddiwr ffyddlon, A gymerwn byth yn safon,— Defod Babaidd heb un echyr, Onid ffug yw "Gweddi Bapyr." CREIDIOG.