Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
iei : rahra. aidd, Fc # raeleithdy,…
iei rahra. aidd, Fc # raeleithdy, 'r AUsIlAn, gosslydrau ,o Fooh m&n )d jdolygu Maffrydio ch or coed- Fo<n fawr t J*r oedd efi 4-pob Os chudd- vy lmidd. cut ei hys- mafy fath Y fanwth, rgwawodd i'od Yna has ami mewn Io(i crwydcl ihOlmheu- od ;thu fel aith gwaJt ivb dros yr deh, wedi )d ychai yr v mary laf oedd y d yychodd i livefusau dchunydd, odndrych- .0 an ym- i e: > Lch eich w 'deffroi I er: hj farch- disfem gael viae MkAwr-, ai syn taf !-yn bur gref vedl. "Y baSl ofidus amrfcrio fy bay god- io yi peni- y cli fod fy ith aaint o lol o'i yn g a g amser m yredi ei yms iwyiiau, ac •o ct Wt wyf fi i rbiros ei nae yna V ina. ba angel; or ftybiai eK yny, ac -ha y dyfr- Jd; ID; Arnold TJ t olwg w: Hygaid ii ac yr iu s yn fy dc w. 7 meddai d: d, 3af yn >a fodd hallu." J frydfa, j] gwaith T • 1 Oui o r a mold." a ddydd- E iduwies l» -? rr meddai a vyr yn 1 erthwn gofynai i :=) ra, í gan --t,ddwdh hyny," nid yn eisioes -fododd ;h, ac i ;hio yn irina a iawodd i daeth r gym- 1 ar ei ddo yn t+fyryn yn ied on- yr oedd swynol, waith; >hwyso, yr ail- ipeidiau K ymeryd f iwn yr xl oedd an hyd droed •11 dref ac yn ambell mwyth rrth ei Yn 1 hyn, "Yr Ida, ai esau?" old. oddi- Id bob, Ilan o ien a'i 31 bed dferch old a'i Jodyn rtun us b wnw bren a thori ei galon, er ei bod hi yn f ymeryd ami ddangoa trugaredd iddo, ac vn ei gyfarfod yn awr ac eilwaith yn yr rdd iw gysuro am ei banffyddlondeb. Dw hyd yma yn ami gyia hi. Yr wyf fi yn ei we'ed bob dydd yn c-wydrj- o amgylch ei thy, ac yn dysgwyl am dani, Y mae yn ymddangos fel pe y dymunai ei gynefino a'r meddyldirych ei bo j hi yn elddo un ara I Llefai Maripa gytia tbon ysgafn, ond yr cedd gwawdwen ddirmygus yn chwareu areu gwefusau, a phelydr watwarllyd yn fllacbio ya eu Ilygai i. Te*'m-a; Arnold ei glustiau yn t ngcian, tra yr oedd rhyw frychau duon yn dawnsio o flaen ei lygaid. "Pwy a iynegodd byn ol i chxi?" gofynai. Cyfeiriodd Marina at ei llyga:d a'i chlinstiau a gwyia: ei phcn. Ttiflodd Arnold ei arffedog o'r ceilldu, a gafaelodd yn ei het yn frysiog, gan ddy- wedyd, Rba:d i chwi fy e-gusodi fl, os gwelwch yn dda, ond u's gal lat weifcbiodim j n rbagor heddy w. Fe ddeuwch yma eto cyn bo hir, oni ddeuwch P" Rhuthrodd allan o'r ty. Troai Marina ei gwddf fel neidr fechan fel.yr edrychai ar ei ol, crychai ei gwefusau yn fwy nag erioed, a fflachiai o'i llygaid oleuni oer a chreulon. Yn ddisymwth, daeth Arnold yn ol, a I dywedodd, I Buaswn i yn caru gwybod gyd a phwy yr ydwj-f fi yn gyfranog o gariad Lia?" Wedi munyd o betrusder, dywedodd hithau, "A dyngwch chwi na wnewch iddi un niwed ? A gredwch chwi mai ef ydyw'r twylledig, ac y gochelwch ef? Onide ni ddeuaf byth yn ol yma; a byddwch wedi fy ngweled am y tro diweddaf." Yr wyf yn gwneyd llw difrifol," meddai Arnold. Wel, ynte, creadur ieuanc tylawd o'r enw Hubert ydyw, yr hwn syda yn ysgrifenu llyfrau dysgedig, ac yn marw o eisiau bwyd. Niallaibyth gadw gwraig; gan hyny, nidoes ganddo ef un siawns am dani hi, y cieadur druan." Rhuthrodd Arnold allan fel corwynt, ac wedi dod o hyd i Lia gartref, ac wrthi ei hun, gafaeloddjynddi gerfydd ei garddyrnau tyner, a bloeddiodd allan ar golli ei wynt: Lia, yr wyf wedi cael allan bob peth ac wedi darganfod eich holl ragrith! Yr wyf wydi dyfod yma i roddi i chwi ffarwel dragwyddol." (I barhau).
Gan Bwy yr oedd Hawl i'r Gwely.
Gan Bwy yr oedd Hawl i'r Gwely. Un noson daeth barnwr, swyddog mil- wrol, a gweinidog yr efengyl i chwilio am lety i westy lie nad oedd yno ond un gwely yn ihydd; a galwyd ar wr y gwesty i ben- derfynu pa un o'r tri a feddai yr hawl oreu iddo. Yr wyf fi wedi gorwedd am bym- theng mlynedd yn nghaerfa B. meddai y swyddog milwrol. Yr wyf fi wedi eistedd fel barnwr am ugain mlynedd yn B. meddai y bamwr. "Gyda'ch cenad, fon- eddigion, yr wyf fi wedi sefyll am bum mlynedd ar hugain yn y weinidogaeth yn N. medda; y gweinidog. Y mae hyny yn ddigon i benderfynu y ddadl," sylwai y gwestywr. Yr ydych chwi, Mr Cadben, wedi gorwedd am bymtheng mlynedd; yr ydych chwithau, Mr Barnwr, wedi eistedd am ugain mlynedd; ond y mae y gweinidog hybarch ac oedranus wedi sefyll am bum mlynedd ar hugain; ac felly, efe, yn sicr, sydd yn meddu yr hawl oreu i'r gwely."
RHINW-EDDALT IACIIAOL " QUININE…
RHINW-EDDALT IACIIAOL QUININE BITTERS" GWILYM EVANS. Gan GWILYK Evaub, dyna r g-mr, Mae Bitters pur rhagorol, Y goreu i leddfu poen a chur A fedd yr oes bresenol; Bum flwyddi maith yn wael fy Hun; Yn nychu gan afiechyd. A rhoddaf yma'm teimlad blin Pan dan arteithiau adfyd. Ehywboenau dig a deimlwn' i Bob dydd a nos yn gyson, Ac fel pe bai gofidiau lu Yn gwasgu ar fy nghalon; A mi heb wybod b'le i droi, » Gan drymed oedd fy alaeth, Apn holl obeithion wedi ffoi Am gaffael meddyginiaeth- Mewn papyr newydd ar ryw nawn, Ymenais yn ddamweiniol, Ae ynddo gwelais hanes Ilawn Y Bitters pur rhagorol; Mi brvnais un botelaid fawr, A gwnaethum benderfyniad, Mai draoh. io wnawn nes dod yn gawr, A chaffaelllWvr adferiad. Fy holl obeithiou droea yn ffydd Wrth ddrachtio'r Bitters maethlon, A minau'n gwella o ddydd i ddydd Wrth ddilyn ar y moddion; Gwybydded pawb mai'r Bitters hyn Effeitbiodd fy 'adferiad; Bydd dydd eu prawf yn 'smotyn gwyn Ar ddalen fyw fy nheimlad. Pe gallwn, hongiwn yn y nen Y Bitters a'u holl glodydd, Yn gynffon wrth bob seren wen Dramwya drwy'r wybrenydd; A phlygu'r fellten fflam^jch wnawn Yn eirias dan lyth'renan, Rhoi Quinine Bitters amlwg iawn Ar belmynt y cymylau. Yn udgom mawr y daran gref Yr uchel floeddiwn beunydd, Y Quinine Bitters, nes bai'm Uef I'w chlywed drwy'r holl wledydd; Y Quinine Bitters uchel glod Fo'n hysbys i genhedloedd, A GWILYK Evans byth gaiff fod Yn anwyl gan y bobloedd. Derbyniodd yr ysgrifenydd les mawr drwy ddefnyddio Quinine Bitters, ac nis gall ddyweyd gormod am eu rhinweddau. Thomas GsimTHa. Uanfihangel Ehosycorn, Chwef. lleg, 1890. Quinine Bitters Gwilym Evans yw'r feddygin- iaeth oreu i adfer iechyd, a'i d^ogelu trwy adfer nerth ac egni i'r rhanau nyny fyddant wedi gwanychu trwy afiechyd hirbarhaol. Mynwch weled enw Gwilym Evana ar bob label, stamp, a photel. Gwerthir gan bob fferyllydd mewn poteli 28 9c yr un. Dwbl maint, 4s 6ch. Gtoruchwylwyr yn mhobparth o'r byd. Gellir hefyd ei gael yn ddidraul am y risiau uchod, oddiwrth y percynogion. puinine Bitters Manufacturing Company, Qmited, Llanelly, South Wales.
CALON GOLLEDIG
Ah! syr," meddai dyn cyfoethog wrth barson un tro, byddai yn dda genyf pe gallwn gymeryd fy aurgyda mi!" "Byddai yn sicr o doddi pe y gwnaech hyny," atebai y parson yn ddigyffro. COCOA CADBURY.-DymWr Cocoa. sydd yn feddianol ar adnoddau cnawd-gynyrchiol ac yn trosglwyddo nerth a grymusder arosol. -Health Tua'r fiwyddyn 1846 y daeth cardiau Nadolig i arferiad gyntaf. Dylem bob amser wneyd y goreu a allwn o dan yr amgylchiadau yr ydym wedi ein gosod ynddynt, ac nid breuddwydio yn ofer am bethau mawrion a wnaempe buasent yn wahanol. Ni wna y rhai a gynawnent lawer mewn lie arall gyfiawni ychydig mewn un- rhywle. EDRYCH YN m DDA. Beth oedd yr achos i chwi ada^ eich lie diweddaf P ym- holai meistres ieuanc oedd ar gyflogi morwyn nowydd. I I Wel, yr ydych yn gweled, ma'am," atebai yrhon a geisiai am y lie, yr oedd golwg rhy dda arnaf; a phan yr agor- wn y drws, yr oedd pobl yn fy nghymeryd i yn lie y feistres." Rhoddir rhjddhad oddiwrth beswch mewn deng munyd gan Pulmonio-Wafei-s Dr Locock, a rhodd- aat iachad sicr a buan i gaethdra, darfodedigaeth, anwyd, peswch, bronchitis, a phob math o annwyl- derau yr ^nadl a'r yigyfaint. At anhwylderau y giau a r galon y maent yn ddiguro, tra mewn poenau o dan y crydcymalau a'r nerfau y maent yn gweifhio fel swyn. Nid oes dim arall a rydd nos- waith o gwsg mor esnrwyth ac adfywiol. I gantor- ion a ffiaradwyr cyhoeddus y maent yn anmhria- mdwy at gHrio a chryfhau y llais. Y mae iddynt aas dymnnol.; Mewa blychau Is Ijc, 2s 9c, 4a 6c, ac lis. Gwerthir gan yr holl ffeiyll- wyr. s 0* fy mhlentyn, fy mhlentyn CALON GOLLEDIG [GAN G. MANYILLE FENN.] I. Ydyw, maeyn foreuhyfryd, fy machgen i; ond rhy dda i barhau felly. Don, gor- wedd i lawr. Golwg iawn ar y gaseg, Lid- gate. Ddim ar werth, ydyw hi ? "0, nac ydyw, Syr, mae hi yn cyfateb i'm pwysau yn iawn." Dim o'r fath bfeth, fachgen. Gresyn i lane mawr tal fel tydi ei marobogaetb. Wel, bore da, mae arnaf eisieu dal ysgyfarnog neu ddwy os gallaf, wyt ti'n gwei'd ? "Mae arnaf eisieu gair neu ddait a chwi, Mr Hampton, gan ein bod wrthym ein hun- ain." (pw I pw! yn nghrog y byddo pobpeth, Blount Lidgate, paid meddai y Sais canol oed, gyda llais garw, a gwedd anfoddog ar- nQ, fel y safai wrth y gamfa, gyda gwn dau faril ar gamedd ei fraich, a'r ddau gi yn ei wylio, ac yn dyheu am fyned yn mlaen. Yr oedd y gwr ieuanc tal a golygus, pump ar hugain oed, a gyfarchai, yn edrych yn wgus a sarug, ac yn cnoi ei wefus, fel y gwyrai yn mlaen i ffatio gwddf y gaseg wineu hardd a farchogai; ac yr oedd y fath nwydwylltedd digofus yn ei symudiadau, nes peri i'r gaseg gychwyn yn mlaen, oni bai iddo eiffrwyno gyda ffymigrwydd creulon. Hai! paid ag anafu safn y creadur dim- wed, fachgen," meddai ygwr canol oed gyda gwen, "nid ei bai hi ydyw. Wyt ti'n gwel'd, Lidgate, gwn beth sydd arnat eisieu ddweyd-a1 roddaf., fi fy nghaniatad yng- hylch Janet?" Wei, Syr," meddai y gwr ieuanc, yn boethlyd, 'does dim hynod yn hyny." Nao oes, fachgen." "RhwngynaillbetherIMp yr wyf yn werth naw cant yn ylftwydclyn." Ao yr wyt yn ieuanc, yn farchogwr da ar ol yr helgwn, yn fachgen go lew, ac heb fod yn ffermwr gwael iawn." Gan hyny, paham yr ydych yn gwrth- wynebu y peth, syr ?" "Nid ydwyf, fachgen," meddai y siaradwr cyntaf, dan chwerthin. "Rhywun arall sydd. Allaf fi mo'i gorfodi hi i'th gymeryd, allaf ft P" f Wel, na ellwch, ond-" "Well di, Blount Lidgate, rhoddais ganiatad i ti siarad a hi o'r blaen, ac yr wyt yn gwybod y canlyniad." 1, Yd-%vyf,, Syr; ond y mae blwyddyn er hyny, ac y mae heb glywed oddiwrtho eto, ac y mae merched yn newid eu meddwl." Y mae rhai felly, ond paid ti a dibynu ar hyny. Nid un felly ydyw fy Janet i." Ond a gaf fi. siarad a hi eto, syr?" Cei, os myni: ond, weli di, yr wyt wedi clywed, mae'n debyg, fod llong rhywun wedi dod yn ol, onid wyt ?" "Do, ayr, mi glywais. Boreu da, af yn mlaen ar fy union i'r palas." Pobpeth yn iawn, fy machgen i; ac os dywed hi n,, bydd gall, a rho'r peth i fynu fel gwaith ofer. Cystal pysgod yn y ra r ag a ddaliwyd erioed ac, weli di, Lidgate, cynyg dy hun i Beatti,—cymerai hi cli." Chwarddodd y gwr ieuanc, a charlamodd yn mlaen ar hyd y ffordd, tra y Ilamai y own i fynu mewn cyfifro, fel yr oedd Franc Hampton, o'r Palas, yn dechreu dringo'r gamfa, ond arosodd, ac eisteddodd i lawr, ac oemadodd y ddau gi i ddangos eu hanghymeradwyaeth. Byddwch yn llonydd, gwn," meddai, myfi a ddylai gyfartb, nid chwi. Yn mhell y bo'r merched 1 Gresyn na fyddai y ddwy wedi priodi. Nage, nage, bendith arnynt," ychwanegai gan chwerthin. "Nil fyn Janet mo hono, fel y mae gwaethaf. Mae'r galon dros y mor gyda'r bachgen o loHgwr, ond ni fynwn iddi briodi morwr. Ond," meddai yn synfyfyriol, "gwell fyddái genyf iddi gael Eric Lee." "Wel dyna; dewch yn mlaen, wyr, gadewch i ni godi'r y sgyf ai nog yma." Dechreuodd y cwn brancio o'i gwmpas, dan gyfarth yn galonog, fel yr elai dros y gamfa tua'r braenar lie yr oedd y geinach yn eistedd, ac yn agor ei chlustiau i wran- do'r perygl oedd ar ddyfod, ac yn clustfeimo yn ofer, oherwydd yr oedd ei thynged cy- sylltiedig a stwffin a cwrrant jelly wedi ei selio. IL Yr wyt yn gwneyd dy hun yn wirionffol yn ei gylch, Janet," meddai geneth dywell dal^ yn afrywiog. "Pa sawl gwaithyn rhagor yr edrychi dros y ne vyddion am y llongau ?" Wn i ddim, Beattie," ebai'r eneth arall, gyda gwen chwareus haner gellweirus, dy fympwy di ydyw." c I Mymipwy yn wir I" ebai ei chyfnither, gan ymollwng i gadair yn ystafell giBiaw eang y Palas, gan ymafiyd yn ei gwaith pwytho yn frysiog, a gwrid ffromgar ar ei grudd. Gwrthuni o'r mwyaf ydwyf fi yn ei alw. Ni elli yngan gair ond am Eric Lee. Yr wyf yn rhyfeddu na bai genyt ryw gy- maint o falchder ac urddas gwyryfol." Tynodd Jane Hampton ei llaw wen lun- iaidd dros ei grudd esmwyth garuaidd, a chan araf drefnu oudynau rhyda o'i gwallt modrwyog, hi a syllai yn ddwysfyfyrgar ar ei chyfnither. "Gallai rhywun feddwl dy fod wedi gwneyd sxnod priodas." "0 Beatrice 1" meddai yr eneth yn frys- iog. Yn lle bod pethau fel yr oedd fy ewythr yn dweyd, yn ddigon call hefyd, oherwydd nid yw morwyr yn rhai i ym- ddiried ynddynt." "Y mae Eric," meddai yr eneth wrthi ei hun. Hwyrach ei fod wedi ymrwymo i briodi —ac wedi priodi hefyd, am ddim ar a wydd- om ni. Paid ag ynfydu gyda dyn na fedd- yliodd erioed am ddim ond am ychydig o ysmaldod." Cododd gwrid digofus i ruddiau yr eneth, ac yr oedd ar fedr ateb yn ffromgar, pan y clywid swn carnau march yn dynesu, ac ed- rychodd Beatrice Hampton i fyny yn frysiog, a thaflodd ei gwaith o'r neilldu. "Ie, hawdd y gelli wrido," meddai, "dyma Mr Lidgate. Mor ffodus wyt. Pe buaswn inau yn hardd, buasai yn dda genyf." "Rhjg cywilydd, Beatrice," ebai yr eneth yn frysiog. "Nid Mr Lidgate ydyw, ai tybed? 0 Beatrice, efe ydyw. Nid oes arnaf fi eisieu ei weled. Rhedaf i fyny y grisiau. Dywed fy mod yn brysur, da di, a siarad ti ag ef. Yr wyf- fl am fyned allan yn ddistaw ac i'rpersondy." I "Eistedd i lawr yn Honydd," meddai Beatrice. 'Dydwyf fl ddim am fyned i lunio esgusodion celwyddog drosot, pan y gwyddoat fod amat eisieu ei weled yn dost." "Nac oes, Beatrice; pa fodd y gelli di siarad fel hyn ? Mi a Agorodd y drws, a daeth i mewn eneth wledig wynebgrwn. Dyma Meistar Liggit, miss. Dywedais eich bod gartref." Yn ebrwydd wedi hyny, a'i het yn ei law, daeth Blount Lidgate i mewn, gan geisio gwisgo gwedd hawddgar ar ei wyneb sarug wrth ysgwyd llaw. Daethym o gwmpas i ystwytho tipyn ar gymalau y gaseg," meddai, "a chyfarfydd- ais a'r yswain ar y fFordd, ac yna gelwais." "0, buasai yn dda genyf pe buasech yma yn gynt, Mr Ladgato," meddai Beatrice, fel y ceisiai liniaru y boen a gawsai drwy wasg- iad ei llaw gan y gwr ieuanc. "Buasai yn d$a genyf finau," meddai'r ymwelydd. "Ie. Yr ycfw' i yn rhwym o fyn'd— rdaid i mi alw yn y Persondy." "Na, na, Bertha," meddai ei chyfnither yn frysiog, paid a myned hebof ft." Janet, fahwylyd," meddai Beatrice yn geryddol, paid a bod mor anfoesgar. Pa beth a feddylia Mr Lidgate ?" Yna, gyda chwarddiad awgrymiadol am- neidiodd ei ffarwel a'r ymwelydd, a gadaw- odd yr ystafell. Yn ystod y mynyd seibiant a ddilynodd hyn, yr oedd cyfnewidiad yn ngwedd Janet, Hampton. Ychydig o fynydau cyn hyny yr oedd yn wridgoch, enethaidd yr olwg ami; yn awr wecli troi yn welw: ond yr oedd rhyw sefydlogrwydd tawel yn ei gwyneb- pryd, ac ymddangosai fel pe wedi myned ddwy neu dair blynedd yn hynach ar un- waith. Bendith ar ben Beattie, meddai Blount Lidgate wrtho ei hun, "am y cyflousdra hwn." Y mae yn myned i siarad a mi yn y modd atgas hwnw eto, meddai Janet wrthi ei hun, gan ymdrechu peidio crynu. Wedi cau'r drws yn drystiog, tynodd yr J ymwelydd anadl hir, a dywedodd gyda llais I cryglyd: "Miss Hampton,—Janet fan-I wylyd-yr wyf newydd gyfarfod a'r yswain —ac—ac—dyna, nid dyn anwadal ydwyf fi. Alla. i ddim rhoi fy meddwl mewn geiriau gweniaethus. Rhaid i mi siarad yn blaen. Y mae wedi rhoi caniatad i mi ofyn i chwi eto. Gwyddoch pa mor amyneddgar y bum. Janet, f'anwylyd, ni ddywedwch Na' wrthyf y tro yma?" Ceisiodd gymeryd ei Raw, ond fe'i tynwyd yn ol yn gyflym. Nid oes genyf ond yr un atebiad a'r tro o'r blaen, Mr Lidgate," ebai Janet, gydag sefydlogrwydd tawel. Y mae yn an- mhosibl." Peidiwch a dyweyd hyny," ebai yntau yn erfyniol. "Rhaid i mi. Y mae yn anmhosibl, ac am unwaith yn rhagor rhaid i mi erfyn amoch beidio siarad a mi ar y pwnc eto." "Paham?" meddai, gydag edrychiad dieithr. Dyna'r cwbl sydd genyf j ddyweyd," ebai- hi, ac nid oes genyf ond gofyn i chwi fel boneddwr i beidio byth byth —" Yna gallaf ddyweyd wrthych," ebai yntau yn ddigofus, "mai yr achos o hyny ydyw eich bod yn ddigon ynfyd i gredu yn y morwr crwydrol truenus hwnw--Exic Lee —yr hwn sydd yn myned o amgylch i wag- siarad 4 phob geneth a ddaw i'w. gwrdd, ac nad ydyw yn gofalu mwy am —" "Mr Lidgate!" ebai Janet, gan gyfodi ar ei thraed, ond heb allu celu yn hollol y digofaint oedd yn llechu yn ei mynwes; "yr ydych yn anghofio eich hunan. Mae fy nhad, meddweh, wedi rhoddi i chwi ganiatad i siarad & mi. Yr wyf yn sier na roddodd i chwi ganiatad i sarhau boneddwr ag y mae ganddo yr ymddiried llwyraf ynddo, nac i ddifrio hwnw wrth ei blentyn." "Naddo," meddai Lidgate yn sarug; "chwi sydd yn iawn, a minau fel [arsdl, mae'n debyg. Ond na hidiweh, cewch weled. Fe dry ef at eich cyfnither Beatrice eto. Dyna, nid dyn ydwyf fi i ddyweyd gair yn chwaneg, dim ond aros. Y mae'n bur galed cymeryd fy mathru fel hyn, a gwybod yr hyn wyf fi yn ei wybod. Ond nid wyf yn myned i'w redeg i lawr wrthych chwi. Gwns hynyooono ei hunyn ddigon buan. Na, na, Janet, peidiwch a tbrw i ffwrdd fel yna—ymae'n ddrwg genyf i mi — O, pobpeth yn iawn ynte/' meddai a llais cryglyd. Gallaf ddarllen each gwynebpryd fel llyfr. Ghwi sydd yn eyfeiborni. Dyhiryn ydyw ef, ac os dengys. ei wyneb yn Hastle- thorpe eto, edryched ati hi." Edrychad ati hi," fwngialai rhwng ei ddanedd drachefn, fel y brasgamai allan o'r ystafell tua'r buarth lie yr oedd ei farch yn aros, yna marchogodd ymaith yn araf trwy'r buat-thgae tua'r fifordd heibio i'r hen eglwys, yn mynwent yr, han- y dodasid mam Janet tua dwy fiynedd yn flaenorol." "Edryched ati hi," ebai Janet, fel'y syllai yn gythruddedig drwy y ffenestr ar ol ei charwr siomedig, gan ynganu ei eiriai diweddaf yn ddiarwybod iddi ei hun. Ond paham y meiddia ef geisio niweidio Eric fel yna, ac yntau mor ffyddlon a rhwydd-galon. Mae'n rhy greulawn. A Beattie hefyd, 0, mae'n galed iawn. O fy mam anwyl, na buasech chwi yma -yn awr!" aeth ei meddwl draw i'r bedd wrth fur gogleddol yr eglwys, bedd a warchodid ganddi fel gardd flodeu. in. Prin yr oedd Blount Lidgate wedi march- th ogaeth haner milldir oddiwrth y palas, gyda'i danedd yn gauedig ac ag aeliau cilwgus yn syn-dremio ar fwng ei gaseg felyrhygyngai yn mlaen ar hyd y ffordd gul i lawr yn isel drwy hM foucyffiou cyll gauafol yr olwg arnynt, ne y safodd y gaseg yn ddi- symwth. "Beth yrwan!" meddai Lidgate, yn rwgnachlyd, ao yr oedd ar fedr ysparduno yr anifail pan y gwelai yr achos o'r arhosfa sydyn. O. chwi sydd yna. Miss Hampton." Ie," meddai Beatrice yn ddistaw, myfi sydd yma. A ydwyf fi i'ch llongyfarch chwi ? A ydyw Janet wedi ateb yn gadarn- haolF" Edrychodd am yn ffyrnig am ychydig cyn ei hateb yn llidiog —— Gwyddoch o'r goreu nad ydyw." Yna yr oeddynt yu syllu ar eu gilydd am ychydig amser, tra y chwareuai gwln ddir- mygus ar trefusau yr eneth. Wel, am ba beth y chwerddi mof wawd- 11yd ? gofynai'r dyn. "Am eich pen chwi Blount Lidgate," meddai hithau. "Y mae yn edrych mor ddigrif i mi weled dyn mor wrol, nerthol, a phenderfynol a chwi, mor hawdd ei droi heibio. Yr wyf fi yn credu fod arnoch ofn Janet. Pa le mae eich gwroldeb, ddyn ?" "Wni ddim beth ydach chwi'n feddwl," meddai yntau yn surllyd. Gwyddoch, syr. Mr Lidgate, dydych chwi ddim y* deall benywod. A gwybod yr hyn a wn i eisoes, pe bawn i yn ddyn, a ydych chwi yn meddwl y cymerwn i fy mwrw i lawr oherwydd fod geneth na wyr i ei meddwl ei hun yn dweyd Na ? "Welwch chwi," meddai yntau, gyda chwerthiniad garw, "a oes arnoch eisieu i mi gynyg fy hun i chwi ? Os dymunech fy sarhau, Blouht Lidgate, ewch yn eich blaen." Nac oes, nac oes," meddai ef, yn frysiog. Yr wyf wedi cael fy rhoi o'r ffordd mewn modd creulon. Gwyddoch chwi bobpeth yn ei gylch. Y Lee melldigedig yna sydd ar fy ffordd i bob amser. Y mae wedi eich twyllo chwi; ac yn awr y mae yn myned i'w thwyllo hithau." Peidiwch a rhoddi enwau drwg ar bobl," meddai Beatrice, "gwell i chwi wneyd rhywbeth." Beth allaf fi wneyd ? Pw! meddai hithau yn ddirmygus, y dyn mwyaf beiddgar a phenderfynol ydyw anwylddyn merch. A ydych chwi am adael i Eric Lee enill y gamp ? "Welwch chwi," meddai yntau, gan blygu i lawr nes oedd eu penau o'r bron yn cyffwrdd a'u gilydd. Mae'n debyg nad wyf fi yn rhyw graft' iawn, ond yn ddigon craff i weled eich bod chwi yn meddwl rhywbeth; felly, allan ag ef. A ydym ni yn gyfeillion ynte gelynion ? Fel y dymunech chwi," meddai hithau yn ysgafn. "Cyfeillion ynte. O'r goreu; a fynoch chwi i'ch cyfnither briodi Lee ? "Na fynwn!" meddai hithau, gyda'r fath benderfyniad fel ag i ymlid pob amheu- aeth o feddwl Lidgate." Pob peth yn iawn. Beth fyddai oreu i mi wneyd ? Ai tori gwddf Lee ? "A chael eich crogi F meddai Beatrice, yn arwyddocaol. Na, ceisiwch ryw lwybr rhwyddach, a gadewch iddo fyw." Edrychodd Lidgate ami yn graff: ond i osgoi ei edrychiad, dododd hi ei llaw ar fwng yr anifail. gan ei blethu rhwng ei bysedd, tra ar ei chyffyrddiad aeth yr anifail ufudd yn mlaen yn araf, a cherddodd hithau gyda hwynt heibio i'r drofa tua'r coed, lie yr aethant yn mlaen ac yn mlaen gan vm- ddiddan mewn llais isel, gan dybied nad oedd neb yn eu gweled, heb wneyd sylw o'r ergyd o wn a ollyngwyd yn y maes gerllaw. Rhagorol, Don! gweithiaist yn iawn, yr hen gi," meddai yr yswain fel y cymerai yr ysgyfarnog a osodid wrth ei draed i fyny. Un hardd ydyw hon. Y fath gefn sydd ganddi, a chyn dewed a Holo! pwy sydd acw ? Chwibianodd yn ddistaw, fel y gwelai wr ar farch yn dyfod allan o'r coed yn araf, a boneddiges yn cerdded gydag ef gan ymaf- lyd yn y mwng, a'r marchogwr yn gwyro i lawr ac yn yuddangos fel yn ymddiddan a hi yn ddifrifrl. "Dyma nhw felly, onide? Y mae y gwr if uatic wedi cymeryd fy nghyngo". Wel; fel y gwelont yn dda. Oferedd fyddai mi ddweyd gwr yn eu herbyn." IV. Yr oedd y tywydd wedi troi yn amserol oer, oherwydd yr oedd y Nadolig wrth y drws, ond nid oedd yr ystorm wedi dyfod, er gwaethaf yr holl argoelion. Yr oedd Natur fel pe yn talu ei hen ddyledion i'r fiwyddyn drwy estyn ambell ddiwrnod brif hydrefol i roddi llewyrch ar ddyddiau di- weddaf mis olaf y fiwyddyn. Ac i Janet Hampton yr oedd fel gwanwyn gwyrdd» tra y cauai o gwmpas y ty, nes peri i'r yswain awgrymu a dweyd wrtho ei hun y gwyddai ef yr achos paham, tra yr edrychai Beatrice yn oer ac yn ddiflas, a'i gwedd yn arddangos pobpeth ond tymher dda a hynaws. Yr oedd yn amser boreufwyd, a'r yswain yn talu pob sylw dyladwy iddo. Yr oedd Beatrice wrth ben y bwrdd yn gofalu am y bwyd, a Janet fel arferol yn darlleo yn hyglyw ei phigion o newyddion Ueol allan o'r newyddiadur dyddiol, gan ei bod cyn hyny wedi rhedeg drwy'r marchnadoedd ar gais ei thad. Gad i mi lenwi dy gwpan di, Jenny," meddai Beatrice. Yr oedd rhywbeth yn ngwyneb ei chyfnither yn dyweyd wrthi fod yno ryw newydd yn y papyr nad oedd Janet wedi ei ddarllen allan. Aeth y digwyddiad hwnw heibio heb sylw ar y pryd; ond o'r foment hono allan yr oedd Beatrice yn gwylio ei chyfleusdra, a chafodd afael ar y newyddiadur,-nid i'w ddarllen, fel y dywedai ei hewythr, ond i guddio ei hwyneb ag ef, oherwydd yr oedd ef wedi dweyd ychydig eiriau ysmala wrthi ynghylch rhywbeth a ddaethai dan ei sylw. "Fe wyddwn i," ebai Beatrice wrthi ei bun, fel y tynid ei sylw at rywbeth yn y papyr. Ond eisteddai yn ddigyffro a darllenai baragraff yn hysbysu am ddychweliad agos- haol yr Isgadben Eric Lee i'w gartref yn y dref gyfagos. Yr oedd yr Heraklei wedi cyrhaedd Plymouth ar ol deunaw mis 0 for- daith, ac yn cael ei thata i ftwrdd, Daeth swn fel swn cana i glustiau yr hon oedd yn darllen, a theimlai ryw ymsyniacl fel pe buasai holl waed ei ehorph yn rhuthro gyda nerth anorchfygol drwy ei chalon. Yna elywodd Isis ei hewythr; ond pa un ai gyda hi, ai gyda chyfnither yr oedd yn siarad nis gwyddai. I, A wyt ti'n clywed, Beattie ? Yn mhell y bo pobpeth, pan gewch chwi y genethod yma afael ar bapyr neu lyfr does dim modd cael genyeh wrando." Yr wyf yn begio eich pardwn,. fy ewythr," ebai Beatrice, gan adael i'r papyr syrthio i lawr. "Pa lea ydyw hyny ? Dyweyd yr oeddwn i fy myn myned i Anticaster, ac mae'n debyg iawn y bydd yn hwyr cyn y dychwelaf. Os digwydd i-ddynioti ieuainc alw yma, wrth gwrs, fe fyddwch oddi cartref; gan hyny, cyn gynted ag yr if i ffwrdd, cloiwch a boHtiwch y drws. Ydych chwi yn clywedr Edrychodd arnynt yn gellweirus a chan daflu yn ol edrychiad serchog ar ei ferch, ymadawodd, ac yna yr oedd y genethod wrthynt eu hunain,—pob un yn ceisio edrych yn anymwybodol a difater, fel yr oedd gwahanol orchwylion cartrefol yn myned heibio yn ddistaw fel breuddwydion dyeithr, i ddangos mor. llwyr y dichon i'r meddwl ymgolli mewn syfrdandod. Tra gwahanol oedd eu bywyd yn awr i'r hyn a fuasai ychydig amser yn ol, pan yr oeddynt fel ch wiorydd yn adrodd eu cyf inach y naill wrth y Hall; ond yr oedd hyny cyn i Eric Lee hwylio y tro diweddaaf ar ei wibfordaith faith. "Pa mor hir y bydd cyn y delo yma?" gofynai Beatrice iddi ei hun, tra yr oedd rhyw deimlad dyeithr o gyffro crvnedig yn myned drosti, ac ar gynydd yn barbaus. "Fy anwylyd pa mor fuany daw, ofe yma?' oedd ymson calon Janet, fel ag yr ymdra- fferthai wrth y ffenestr, i guddio ei Jjhen, oherwydd yr oedd yn ymwybodol o'r g|md cynyddol a deimlaiyn cyfodi yn ei gwdal a'i gruddiau ac yr oedd hithau hefyd yn crynu gan angerddoldeb y teimladau oedd ar .gynydd parbaus er pan ymad iwsai ag Eric Lee. Beth os oedd wedi newid ei fe&dwl. Nid oedd rhyngddynt yr un ymrwymiad, dim byd terfynol a phendant; ac yr oedtlynt wedi ymadael a'u gilydd yn dawel, heb ond y galon yn dyst o'r garwriaeth; ni ddy- wedwyd un gair, aoni seliwyd yr amod hyd yn nod a chusan ychwaith. Pob peth yn ddystaw, a Janet wedi myned yn mlaen yn y tawelwch hwnw yn hyderus y deuai Eric yn ol ryw ddiwrnod i ofyn iddi fod yn wraig iddo. Wedi glanio yn Plymouth I Pa mor fuan y byddai yn aUuog i adael y Hong a dyfod adref ? Ac wedi hyny pa mor hir y cymerai iddo groesi'r ystradau a dyfod drosodd i'r Palas ? Gwanwyn yn wir, yr oedd y Nadolig hwn yn hafi fynwes Janet, tra yr oedd y geiriau a sibrydai wrthi ei hun yn myned yn mlaen yn barhaus gan adseinio yn nyfnderoedd ei chalon—" Pa mor fuan y bydd efe yma (l'w barhau.)
Advertising
GOFYN WCH 'j AM HUGHKS'S BLOOD PILLS < EDRYCHWCH YN FANWL AR BOB BOX A byddwch yn BICR na byddwch yn cael eich twyllo, a GWELWCH Fod y rRADE MAEK sef (Llun < CALON) ar bob Blwch. Y mae un- 'i '^1%% rhyw PiHs a gynygir yn ei lie yn ^Sy jli&tey Ddynwarediad a ( Thwyll • AC NID YDYNT YR IAWN BELENAU, ac ni chynwysant yr un rhinweddau a 1 HUGHES'S BLOOD PILLS. .> GOCHELWCH Bersonau anonest y rhai a ymostyngent mor isel nes ymgeisio twylio trwy werthu Pills di werth yn He y rhai Pur. Y mae y RHYBUDD hwn yn ddyledus i'r Cyhoedd er eu hamddiffyniad, er mwyn iddynt siorhau y Pills gwirioneddol, ac fel y gallont ochelyd y masnachdai hyny lIe y mae twyll yn cael ei ymarfer. GOFYUWCH am HUGHES'S BLOOD PILLS a Llun Calon ar bob blwoh. Gwrthod* wch bob peth arall. GWAED DRWG. QClTRVr WAED DRWG. CURVY CROEN GLEFTDAU. l~SOEN PEN ROEN GLEFYDAU. X OEN PEN* A FU DDRWG. T\IFFYG TRAUL." FU DDRWG JL/UtFYG TRAUL NERVOUSNESb. WYNEGON. ERVOUSNESS. IjTWYNEGON BILIOUSNESS. i^LEFYDAU ARENA!, ILIOUSNESS, I^LEFYDAUARENAU, Y maent yn iachau pan bydd pobpeth arall yu methu. Heb oedi danfoner am Box o "Hughes's Blood Pills" gyda Llun Calon ar y Label. Peidiwch cymeryd dim arall. Ar werth am Is lie, 2s 9c, 48 6c. Gyda'r Post am Is 3c, 28 11c, 4s 9c oddiwrth y Perchenog, JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH.
'93.
'93. [CYFADDASIAD 0 <•' QUATRE VINGT TREIZE," UN 0 NOFELAU VICTOR HUGO]. PENNOD XII. Nid oedd Gauvain ychwaith yn hoffi y syniad o adael y tri plentyn i drengu yn y fflamau. Galwoiid un o'r swyddogion ato, a holodd ef yn mha le y gellid cael ysgol ddigon hir i gyrhaedd yr ystafell yr oedd y plant ynddi ar y bont. Ni wyddai hwnw am yr un yn nes nag ugain milldir, a chaf- odd- orchymyn ar unwaith i yru dynion i'w chyrchu, gan roddi arbenigrwydd eu bod i dd'od yn ol erbyn naw noa dranoeth. Medd- yliai y cadfridog fwy am y*plant diniwed nag am ei ddiogelwch ei hun, a mawr oedd ei bryder fel y nesai yr awr. i ddechreu yr ymosodiad, a'r ysgol heb gyrhaedd. 3 G333 i Tuag wyth o'r gloch, hysbyswyd ef fod cwmni o feirchfilwyr yn d'od, a rhywbeth tebyg i ysgol ganddynt ar fen. Llamodd ei galon o lawenydd pan glywodd ,hyn; ond buan y trodd yn dristwch du pan ddeallodd nad oedd yr hyn a gludent yn ddim amgen n a'r guillotine, -yr offeryn gwaedlyd hwnw a pha un y rhoddid drwgweithredwyr i farwolaeth. Gwybu ar unwaith mai Cim- wrda oedd wedi gyru am dano. Fodd bynag, chwalwyd pob ofn o'i feddwl cyn naw o'r gloch, gan i'r ysgol gyrhaedd yn ddiogel. Pan ddaeth amser y cad-oediad i fyny, seiniwyd udgorn yn y gwersyll, a gofynwyd i anL, ddiffynwyr y twr a oeddynt yn barod i roddi i fyny. Atebiad nacaol a gafwyd; felly rhoddodd Gauvain orchymyn i ymosod- iad gael ei wneyd. Ni chariwyd yr ymosodiad allan am enyd: yr oedd y rhingyll a fu yn offeryn i berswadio Catrawd y Cap Coch i fabwysiadu y tri phlentyn amddifad, a'r hwn ddangosodd gymaint o ddewrder yn Dol, am fentro ei 4 fywyd i geisio gwaredu y plant o safn angeu. Cafodd ganiatad y cadlywydd i fyned, dan gysgod y tywyllwch, i geisio dringo y Hechwedd y safai y castell arno, fel y gallai fyned ar y bont i. dori y fuse oedd Imanus wedi ei osod i gysylltu y castell &'r adeilad y dodid y plant ynddo. Ni ddarfu i wylwyr Ardalydd Uandenae wybod fod y rhingyll yn dringo i fyny, gan nad oedd neb ond ef ei hun yn y fan. Felly Hwyddodd y gwron i gyrhaedd ei amcan, a thorwyd y fuse. Yna gosodwyd yr ysgol i fyny, a dygwyd y plant allan yn ddiogel. Mawr oedd gorfoledd yr hen ringyll a'i gymdeithion o gael cofieidio y tri phlentyn unwaith yn rbagor, a 11awer deigryn poeth a ddisgynodd ar eu gwynebau tlysion. Yn awr dechreuwyd yr ymosodiad o ddifrif, yr ikyn y dyheuai, Cimwrda am dano er's meityn. Nid oedd ganddo ef gyd- ymdeimlad o gwbl a'r drafferth a gymerasid i achub y plant, coll amser gwerthfawr oedd ycyfanynei olwg ef. Dangosodd yr hen Ardalydd nad oedd ei allu milwrol wedi cilio er fod pwysau blynyddoedd lawer ar ei. ben. Wrth gwrs, yr oedd yn berffaith eglur mai mater o amser yn unig oedd ei orchfygiad: pa siawns oedd gan bedwar ar bymtheg yn erbyn pedair mil a haner o ddynion ? Er hyny i gyd, ymdrech ofn- adwy fu hi; ymladdai yr Ardalydd a'i ddilynwyr yn ddewr am eu bywyd, ac yr oedd eu safle yn yr amddiffynfa yn eu ffafrio, Nid oedd gan yr ymosodwyr y cysgod lleiaf rhag saethau y gelyn, ac felly collasant luaws o'u milwyr goreu. O'r diwedd, ar ol ymladdfa waedlyd am oriau, lluoedd Gauvain a orfu syrthicdd y twr i'w dwylaw, a chymerwyd yn garebaroriod y rhai a ddiangodd rhag min y cleddyf. Pan oedd yr ymladdfa ar orphen, pwy a ddaeth i'r gwersyll oud Michelle Flechard, mam y plant. Er mor anrhefnus y dywedai ei hystori, gallodd un o'r gwylwyr dde-ill fod yu bos bl mai ei phlant hi oedd y rhai oedd newydd gael eu hachub, megys o'r gyneu dan. Cafodd y wraig dderbyniad siriol, ac arwein- iwyd hi at y plant. Pan welodd hwy bui'r llawenydd a gynyrch- wvd ynddi brofi iddi yn angeuol o'r bron. Gall gorlawenydd yn gystal a gofid ladd. Ar ol ei holl grwydriadau, wele hi bellaeh wedi dod o hyd i'r rhai oedd anwyl yn ei gowg,, w nid cysur bach iddi oedd gweled yr hen ringyll anwyl a fa mor garedig wrthi. Cyfarfyddiad hapus,fu rhyngddynt. Yr oedd y ddau wedi profi yn helaeth 0 chwerwder y byd, a gallent gydymdeimlo yn dda a'u gilydd. Treuliodd yr hen ewyddog flyddlawn- awr ddifyr y noson hono i adrodd wrth y wraig am y moddyr achubwjd y plant. # # Yn mhlitli yr ychydig amddiffynwyr a ddi- angasant heb eu lladd yr oedd Ardalydd L'an- denac ei hunan. Cymerwyd ef i'r ddalfa, a rhoddwyd ef yn ngharchar y dref, a gosodwyd gwyliadwriaeth o fiiwyr i'w gadw yn ddiogel. Bu dadl rhwng Cimwrda a Gauvain yn nghvloh ei dynged. Mynai Cimwrda ei saethu yn y fan, tra yr oedd Gauvain o blaid gohirio hyny hyd foreu dranoeth. Yn y diwedd cyd- syniodd Cimwrda i'r ddedfryd gael ei gohirio hyd yr amser hwnw. Yn yr hwyrddydd aeth Gauvain i dalu ymweliad a'i ewythr yn ei gell. Tra yma llanwyd calon y dyn ieuanc a hen adgofion melus am foreu ei oes, ac ail-enynodd ei gariad at yr hen ardalydd. A chyda'r meddalwch hwnw y dywedai Cimwrda fyddai yn sicr o brofi yn ddinystr iddo, cyuygiodd Gauvain ei ryddid i'r hen wr, ag yr oedd ei gariad tuagato wedi myned yn gryfach na'i ffyddlondeb i'w ddyledswydd. Fel y gally darllenydd dybio oddiwrth yr adnabyddiaeth sydd ganddo o gymeriad Tlandenac, ni. chafodd ydyn ieuanc drafferth fawr i'w bersWadio i gymeryd ei ddillad ef am dano, myned allan heibio y milwyr yn y wisg hono. Gan ei bod hi erbyn hyn wedi tywyllu gallodd fyned heibio y gwyl- wyr heb iddynt amheu o gwbl nad eu cad- lywydd, a aethai i mewn ychydig cynt, ydoedd. Pan aeth y gwylwyr a boreufwyd i'r car- charor boreu dranoeth, mawr oedd eu syn- dod pan welsant y Cadfridog Gauvain yma, yn lie yr hen Ardalydd. Cyrchwyd Cimwrda i'r geH, yr hwn a holodd Gauvain yn fanwl yn nghylch y dirgelweh. Adroddodd Gauvain yr hanes fel y bu. Gwnaeth hyny argraph ddofn ar ei hen lmwr athraw, Cimwrda; ond gresynai yn fawr weled ei hen ddisgybl wedi troi allan mor siomedig iddo. Ddeuddydd yn ol tybiai y byddai i Gauvain gael ei ddyrehafu i fod yn brif swyddog holl fyddinoedd y Weriniaeth. Yn awr, wele ei goron wedi syrthio, a dim yn ei aros ond marwOlaeth, Yn ystod y dydd ffurfiwyd Hys milwrol i roddi Gauvain ar ei brawf am ei fradwr- iaeth yn gadael i Ardalydd Llandenac ddianc. Cimwrda oedd y Hywydd, a chynorthwyid ef gan dri o'r swyddogion. Addefai Gauvain ei euogrwydd, ac felly pasiwyd dedfryd o farwolaeth amo. Ar doriad gwawr boreu dranoeth yr oedd y guillotine i dori ei ben i ffwrdd. Mawr oedd galar y milwyr pan glywsant hyny, oblegid ni bu erioed gadfridog mwy poblogaidd gyda'i ddynion na'r condemniedig Gauvain. Gwnaed ami i ymdrech yn ystod y dydd i gael gan Cimwrda newid y ddedfryd a bas- iodd ar Gauvain, ond yn ofer. Ni fuasai waeth ceisio troi yr afon yn ei hoi na cheisio gan y gwr hwn newid ei feddwl. Yr oedd yn benderfynol i gario y ddedfryd allan, deued a ddelai. Felly, boreu dranoeth, ar doriad y wawr arweiniwyd Gauvain allan i'r dienyddle. Yna yr oedd yr offeryn a ddyg- wyd i'r fan drwy orchymyn ICimwrcla wedi caelei godi. Safai Cilmwrda ei hun ar ych- ydig godiad tir gerllaw, a rhoddwyd moes- k j ymgrymiad iddo gan y carcharor pan yn ei basio. Ni chymerodd Cimwrda y sylw Heiaf ohono. Cafodd Gauvain ganiatad i ddweyd ychydig eiriau cyn rhoddi ei ben dan y gyllell. Byw fo'r Weriniaeth meddai, a chan gyfarch Cimwrda, ebai, Byw fyddot byth', Cimwrda Cydnabyddaf na wnaethum yn iawn i adael i Ardalydd Llandenac ddianc'; erfyniaf dy faddeuant. Caria dan y Werin- iaeth yn ei flaen Gorddeitbied-ywladt" Ar hyn rhoddodd Cimwrda arwydd, a rhwymwyd y dyn ieuanc ar yr yiityren, a gollyngwyd y gyllell finiog i lawr ar ei wddf, a syrthiodd ei ben i'r fasged baroto- edig. Ar yr un foment gwelwyd Cimwrda yn codi HawddiyH i fyny, ac yn anelu at ei ben, a gollyngodd yr ergyd allan. Fel hyn bu y ddau a fuont gyfeillion mor fawr, oedd en hamcanion yr un, farw y ddau gyda'u gilydd. Diwedd. Rhyw dair neu bedair blynedd oedd wedi myned heibio er pan gyhoeddwyd ac y Red- aenwyd y ddysgeidiaeth am "Hawliau Dynt" yr hon a wnai bob dyn yn gydradd; a hanes canlyniadau'r ddysgeidiaeth hono ydyw y rhyfel rhwng pleidwyr y Frenhin- laeth a'r Gwerinwyr yn Llydaw, ddesgrifir mor fywiog a galluog gan yr :enwog Victor Hugo yn y nofel uchod. Ond nid yw hon ond unhanesyn allan o ganoedd sydd wedi eu hysgrifenu i ddangos allan yr erchyllderau gyflawnwyd a'r difrod wnawd pan daflodd gwlad gyfan magis ag un fraich iau gorthrymus a gwarthus yr hen frenhinoedd.
'RWYF ETO'N CARU CYMKU.
'RWYF ETO'N CARU CYMKU. Rwyf eto'n caru Cymru, Er nad wyf ar ei thir, Ni feiddia neb ro'i anfri Ar wlad y Cymro pur: A Cymru gyda'r,Cymro I'w deithiau, er yn mhell Paradwys ydyw iddo, 0 hyd yn d'od yn well. Mynyddoedd arbenigol Yw ei mynyddoedd hi, Fel gemau creadigol, I ddangos dwyfol fri: Afonydd bychain, bywiog, Berorant ar eu hynt, A chorneint iach grisialog, Gynghanant yn y gwynt. Ei meib a'i merched hawddgar, Plant awen, can, a llith, Yn ragorolion daear, Tan naws nefolaidd wlith; Defodau'n Uawn adgofion, 0 riniau'r tadau cu, A newydd dda ragorion,' Yn fwy na Chymru Fa. Ei henwog uchel wyliau— Eisteddfod fawr ei bri, A chyrddau y tymhorau, A'r hen Gymanfa gu; Ei phulpud eadarn, grasol, A'i ddoniau fel y mor, Sy'n dal yn ddi-hysbyddol, Trwy Arglwydd Dduw, ein lor. Pe gallwn, ni chai brychyn Anurddo moes fy ngwlad, Na gwall i foddio'r gelyn Sy'n cam ei sarhad; Yn hen mewn pob rhinweddau, Yn burach yn ei gwawr, O! bydded gwlad fy nhadau Hyd dranc yr olaf awr. Boed iti, Gymru dirion, A'th feib, a'th ferched mad, Y cyfoeth o fendithion A'th geidw mewn mwynhad; Tra'r Wyddfa ar ei goreedd, A'r Banau'n fawr eu bri, Uwch, uwch mown pob anrhydedd, Aed Cymru-Cymru gu. PARCH D. P. JoifES, SCRA-YTON, PA. Argraphwyd a chyhoeddwyd gan y perch- enogion, Cwmni'r Wasg Genedlaethel Gymreig Cyf., yn eu swyddfeydd, BaJa- clava Road, Caernarfon,