Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
33 articles on this Page
j YR ARDDANGOSFA PORWROL
j YR ARDDANGOSFA PORWROL Llywyddai Tywysog Cymru ar gyfarfod olaf pwyllgor yr Arddangosfa Forwrol' a gynhaliwyd y llynedd. Dangosai yr adrodd- iad fod yr elw yn 47,000p, y rhai a fudd- soddwyd fel ag i ddwyn i mewn y swm o 1440p yn y flwyddyn. Penodwyd pwyllgor i ranu y swm hwn yn flynyddol i weddwon morwyr.
LLADRON MEWN EGLWYS.
LLADRON MEWN EGLWYS. Daliwyd hen wr o'r enw John Logie, wedi ei ddilladu fel clerigwr, a geneth fechan gydag ef, yn pigo llogellau pobl yn Myn- achlog Westminster. Dygwyd ef o flaen ynad cyflogedig, acanfonwyd ef i garchar am ddwy nynedd gyda Ilafur caled. Rhodd- wyd yr eneth dan cfal ei mam.
" CRONFA PARIS "
CRONFA PARIS Hysbysir fod cytundeb wedi ei wneuthur yn awr i ryddhau yr arian sydd yn Paris, perth- ynol i'r blaid Wyddelig, y rhai sydd wedi bod yn gloedig byth er marwolaeth Mr Parnell. Rhenir 14,000p gan y Mri Dillon, Davitt, a Harrington, i leddfu dioddefiadau y tQnant- iaid sydd wedi cael eu troi o'u ffermydd. Mr Dillon a Mr Davitt sydd i ofalu am y gweddill, yr hwn sydd yn swm llawer mwy.
I" LLOEGR DYWYLLALF."
LLOEGR DYWYLLALF." Gwnaed adroddiad gan y pwyllgor a ym- gymerodd a'r gwaith o wneyd ymchwiliad i'r modd y cerir allan Gynllun Lloegr Dywyllaf," gan yCadfridog Booth. Dywedant fod y gwaith yn cael ei ddwyn yn mlaen yn drefnus, yn gynil, ac yn ofalus, a bod cyfrifon clir yn cael eu eadw. Awgryment y dylai y drefedigaeth dros y mor gael ei chychwyn ar unwaith; fod yr eiddo yn cael ei sicrhau yn enw ymddiriedolwyr annibynol; ac na ddylai y nwyddau a gynyrchir gael eu gwerthu am bris is nag y mae yn deg i weithwyr neu fasnachwyr cyffredin ofyn am danynt. 1
EWYLLYS TENNYSON.
EWYLLYS TENNYSON. Yr wythnos. hon profwyd ewyllys Arglwydd Tennyson. Yr oedd ei werth per- sonol yn 57,206p.
YFED GWI Y CYMUN. !
YFED GWI Y CYMUN. Torodd lladron i mewn i eglwys yn Sheffield boreu Sul. Methasant gael hyd j i'r llestri cymundeb nac arian, ond yfasant dair potelaid o win y cymun, ac aethant a saith potel llawn ymaith.
SIGNALMAN YN MARW YN EI GABAN.
SIGNALMAN YN MARW YN EI GABAN. Aeth signalman o'r enw Skillitoe, ar ol bod yn y capel nos Sul, at ei waith i'w gaban yn Wrenthorpe, ger Wakefield, ar linell y Great Northern. Gadawodd i gerbydres basio ei gabanf; ond yn ddilynol, cafodd y dyn oedd yn y caban agosaf ato nad oedd y dyn yn gwneyd ei waith, a methodd a chael ei sylw. Yna cerddodd yno, a chafodd fod y dyn wedi marw wrth ei waith.
CYFRIFOLDEB RHEILFFYRDD.
CYFRIFOLDEB RHEILFFYRDD. Erlynwyd Cwmni Rheilffordd y Midland gan fwnwr am iawn. Yr oedd gan yr er- lynydd docyn gweithiwr am wythnos rhwng Shepbridge a Grasmere. Un boreu aeth i'r orsaf i fyned gyda cherbydres oedd i gych- wyn am 5.18, ond yn herwydd fod damwain wedi cymeryd He nid aeth hyd wyth o'r gloch. Yn y cyfamser, yr oedd yr erlynydd wedi myned adref, ar ol aros hyd saith. Dyfarn- odd barnwr llys y manddyledion ei fod i gael 6s 8d (cyflogdiwrnod) o iawn. Yr wythnos hon cadarnhawyd hyn gan Lys yr Apeliadau. Y mae 700 o hawliau cyffelyb yn erbyn y cwmni.
Advertising
— :c. ;j. f" A 1, I oo "The apical^Cocoa of English Manufacture j CHEMICALS USED Absolutely Pure." The A nalyst f (Asin th* su-caUed P«W Forma Cocoas). L •
c.
{I Yo rhoddwj 24,000p I leuaeth bydd i'r I budd ug c. D (div d wyr Salf aeth rod Gamlas. 3,032 yn yr oedd < penderfy cafodd h DIO Anfonv wodraeth gwarchei< iaeth mt wirodydd Mae y gw yn amry Northum G A ganl cynwys !h gweddio gwuaf bri nhwyllo. gweddio n wybod hyr alluog i c gyd." I Ddydd! dawiad y yr aelod Y barnwy Williams, y ddedfryi anghyfreil gan ei fod y byddai i i'r ddeiseb Mr Isaacs Barnwr W ei gostau i SYR Nos Fti A.S., yn bi frydwyr ( alw i yst Mr Rees Ryddfrydi un rheswt ar gwesti dyhoeddoc demnio rt eiddo plai mesur cyi Gladstone Gladstone I yn rhwydd Cymerodd dl ymddygiac pleidlais 0 aelod. Di wyl fod ei y Bawl wn dynu yn o ganiad cro ond gwrthi hyny, medl S yn bodoli, bcth. Yn drwy fwya I CYMDE CYFA Cynhaliv gymdeithaf Holbom R< iaeth Mr Swyddogol, hodeb o hai iad a wna< Nid oed< gwneyd ^dig i dalu y cos rhaioedd Balfour wed Hispaen. Cododd 1 wyddwr, yn hon a bairh wedodd fod ef yn anghy Lleisian: roddodd y n Parhaodd brwd iawn, drwy nodi p byuwyr swy CTFARFOJJ Cynhaliwy un prydnawi yn gyfarfod ydoedd yn bi Official Recei Ni wrand^w blaid neb ara nn pwyllgor bethau a wn 1. Penodi clwbi fyny. wyo: pob uB ac yn byw deyrnas,—un 2 Mae gal orphen yr ad 3 Penderf tystiolaeth tc pethau yn se WRIGHT Yr un draj G. Wri yn Bow stree nglyn a ChyB ar ran y Trys hysbysodd *fo eu gwneyd y oedd Hobbs f Cyfrif Fferi fath fferm mi swm a gafodd huddid Wrigl ei amcanion e gymdeithas Gyf. Wedi i amr gohiriwyd yr Y MAE ari feistr drwg. hyfiawnder « ychydig yn arwg, tm y ddynion yn d CHWAKTBB diod gen mae hwn yn ? a'r Ameri iaid, ydyw 3 byd. CYFABFTDI yrymddid tip" (lyd fawr i w arian!" "Y yr aehos chwaneg!" Bu raid i g 50p o iawn ( neillduol yn Gwnsecl awdwr China
LLITH MERI JOS.
LLITH MERI JOS. Ma'r Dolig wedi dwad rownd unwath ceto, mistar gol. Ma riw hwyl ryfadd hefo'r adag yma. Tydan ni ddim run fath rwsut ag ar adega erill. Fydd Robin a fina ddim run fath, beth bynag. Mi fydd Robin yn mynd yn hogyn yn i ol bob Dolig. Gwelach chi'r olwg fydd ar i wymad o am ddyrnodia tra fydd y cyflath yn para A'r seit fydd arno yn byta'i ginio Dolig! Hogyn fydd o, reit siwr i chi. Mi ddylis i ma Waterlw fasa hi rhyngon ni nos Fawrth. Yr oedd Robin wedi molchi a thanio'i bibell, ac yn ista i lawr i ddisgwl y Genedl. O'r diwadd dyma'r bachgan a hi yma. "Hylo." medda Robin, "ma yma Genedl ddwbwl y tro yma, Meri, a mi gawn ddarn bob un. Clen ryfeddol, yn te ? << la wir, handi iawn," meddwn ina. << Aros di, Meri, rho i mi'r darn lie ma'r storis Dolig, a mi gei ditha'r Hall." Wei, touddwn i ddim am wrthnebu i Robin gaely chance cynta i ddarllan Y GAD- WEN AUR. 0 na, yr ouddwn i'n barod i dalu cimin o barch i ngwr. Ond parch i ngwr ne beidio, mi eis i weld o n hir iawn cin gorffan, a mi aeth fy amynadd ina i ballu. Yr oeddwn i wedi mynd trwy fy rhan i o'r Genedl ers meityn, ac yn disgwyl i Robin ffeirio hefo mi. "Wyt ti ddim jest a gorffan, Robin?" meddwn i wrtho. Chymodd o ddim arno y nghlywad i, yr hen gena pryfoclyd. Mynd ymlaen spel wedyn. Robin, wyt ti ddim yn barod i ffeirio bellach ?" Darllan ymlaer roedd Robin, a'i lygada yn rhythu ar y papyr fel dyn hanar gwallgo. Naeth o mo'r sylw lleia o nghwestiwn i, hen walch speitlyd. Ymhen spelan dyma fi'n gofyn fiddo wedyn: "Wyt ti ddim yn tynu tia'r diwadd, Robin?" Dim notis yn byd o hona i, y fulan hyll. O'r diwedd mi gollis y nhempar. Roedd y mopran uwd ar y bwrdd, a dyma fi'n i gipio fo yn fy Haw, ac yn i ddal o wrth ben Robin, fel bydd Clwydfardd yn dal y cledda wrth ben barckt y gadair. "Hwdadi, Robin," imeddwn i wrtho, pam najitgbi di nghwestiyna i? Ai fel yna y-tflSe^wr i ymddwyn tuagat i wraig?" Syndod mawr a ddaeth ar Robin. Mi drychodd i fyny yn sydyn a dyryslyd. Diar mi, Meri, be ydi'r matar ? Be ma'r mopran uwd yna yn da gin ti ?" "Wyt ti am ateb y nghwestiwn i P Rydw i wedi ofyn o dair gwaith bellach, a twyt ti ddim yn cymyd y notis lleia o hona i." Diar mi, Meri, pa gwestiwn ? Chlywis i mona ti yn gofyn run." Gofyn ddaru mi oeddat ti'n barod i ffeirio papyra, achos ma arna ina isio cael golwg ar Y GADWEN ÂUR." Meri anwul, tydw i ddim ond gest de- chreu megis. Ma yma'r streuon clenia welist ti erioed; shiort and swit bob un. Ond ma yma waith darllan, Meri bach, am oria eto." Wyddwn i ddim be i neyd. Toedd dim siawns cael golwg ar y papyr y noson hono, a sut byth y medrwn i gysgu heb ddarllan rhai o'r storis beth bynag? Dyma hiln goneyltesion rhwng Robin a fina, a be ddyl- iech chi oedd cynyg yr hen frawd ? Dim llai na bod i ni yru i brynu Cmedl arall! Bobol anwul! fuo rioed y fath beth yn y.ty yma a phiynu dau gopi o'r un papyr. Ond felly buo hi y tro yma. A medda Robin wrth yr hogan oedd yn mynd i nol yr ail Genedl: Oldi di, Jane, dwad di wrth y siopwr y bydd arna ni eisio dwy Genedl yr wsnos nesa eto, achos ma'r GADWEN Aur. yn ym- estyn i hono hefyd." Ie, cofia ddeud, t Jane bach," meddwn ina, a biysia yri d'ol. Rhei bob cam." Ma'n debig y budd raid caul dwy JV erin hefud, Mistar Gol. Brensiach anwul, mi fydd yma hanar Ilond y ty o pyra nwddion. Ond hitiwch befo mi di'on i fiawn yn bur handi i lapio cyflath, ac mi ga'n i clirio i ffwrdd i gyd toe wedi y Calan. Helynt garw fuo hi yma hefud hefo'r wydd. Robin," meddwn i, dos i ddal un o'r gwydda yna. i mi. 'Does dim llawer o ods rhyngyn nhw, ond treia bigo un go fawr, go dew." Mi aeth Robin yn bur ufudd, chwara teg iddo, er nad oedd o'n hidio fawr am y job o redag ar ol y gwydda chwaith. A rhedag gafodd o hefyd, ddyliwn i. Fuo rotsiwn redag ar ol gwydda erioed. Wedi cael nhw i gongol, ac yn mystyn am un ohonun hhw, i ffwrdd a nhw dan i drwun o, ac am y gwynt y bydda i ddwulo fo'n cau. Mi syrthiodd unwaith ar i ben i'r wal wrth dreio gafael mewn gwydd, a mi ddylis i mai gyru am ddoctor fass i henw hi. Ond yr oudd y pen yn o galad, a toedd o fawr gwauth ar ol y colision. O'r diwedd roedd Robin yn meddwl i fod o wedi caul y gwydda i gongol iawn, ac roedd on i gneyd hi'. ara deg am danun nhw, gau dreio cael allan prun o honun nhw oudd y dewa. Ond dyma gi y ty nesa yn neidio yn sydyn i ban y wal, a mi fu'n anodd deud prun ai y gwudda ai Robin oudd wedi dyeferyn fwya. Ond beth bynag i chi mi ddaliodd Robin ati nes dal. A dyma fo toe, yn chwys ac yn faw i gyd droeto, yn dwad am y ty gyda gwydd glyfar o dan ei gesail. Ac mi ellwch fentro credu fod o yn eymud digono ofal rhag ofn iddi ddengid. Roedd o'n falch ofnatsan i fod o wedi llwuddo i ddal yr wydd, ac yn teimlo fel yr oedd Wellington wrth dd'od adra o Waterlw, yn Uawn ysbryd buddug- oliaeth. i Wel, gefist ti wydd, Robin ?" Do, o'r diwadd," meddai yntau, yn chwythu fel bytheuad. A dyma fo'n cyf- lwyno yr wydd i mi yn bur dyner, ond eto yn ofalus. Yr hen ffwl gwirion, ond y clagwydd ydi hwn Wyddost ti mo'r gwahaniaeth, dwad, rhwng gwydd a ehlagwydd ? Welist ti mo'r gyrlan bach yma yn i gynffon o ?" Haws dychmygu da desgrifio Robin pan welodd o i fod o wedi rhoi i droed ynddi mor seriws. Mi wrthododd yn lan fyn'd i ddal gwydd arall. "Tawn i heb damad o wydd byth," medda fo, 'dai ddim i redag ar i hola nhw eto." Gwraig y ty nesa a fina ddaru ddal yr wydd yn y diwadd, a toes gin i ddim ond gybeithio fod gin holl ddarllenwyr y Werin ,in gystal gwydd ag sy gynon ni. A rydw i yn gybeithio hefyd y bydd i bob un o ggrifenwrs y GADWEN Ault yn y Genedl gael gwydd iawn, a digon o blwm pwdin ar i hoi hi, yn nofio mewn mor o fenyn toddi. Os byddan nhw ar ol- am gyflath mi ga'n ddigon ond iddyn nhw alw yma riwdro o hyn i'r Calan, a sglisan o blwm pwdiu yn y fargian. Wrth derfynu, Mistar Gol-t dyma sy gin i i ddeud hei lwe y cawn ni, ac y caiff pawb arall, Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd Dda. j AFIECHYD Y PARCH DR EDWARDS, BALA. Yn ychwanegol at yr hysbysrwydd byr a gyhoeddasom. yn y Genedl am afiechyd y Parch Brifathraw Edwards, Bala, enfyn gohebydd arbenig a ymwelodd a'r gwr parchedig adroddiad yn rhoddi mwy o fan- ylion am natur ei afiechyd. Y mae yn ffaith adnabyddus fod Dr Edwards yn un o'r gweithwyr caletaf yn yr holl wlad. Ni cheir ei fod byth yn breuddwydio am sym- udiad yr wyth awr, oblegid yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf y mae wedi gweithio ar gyfartaledd ddeg neu ddeu- ddeng awr yn y dydd. Y mae yn wir ei fod, o dan argyinhelliad cryf, gymeryd gwyliau yn awr ac yn y man, eto hyd yn nod yn ystod y gwyliau hyny arferai weithio yn galetach na dyn cyffredin negis y prawf yr ymweliad a dalodd a'r -o Dalaethau rai blynyddau yn ol. Coleddai cyfeillionDr Edwards y byddai i'w symudiad i'r Bala arwain i wellhad mawr,yn ansawdd ei iechyd; ond yn anffodus, y mae wedi profi i'r gwrth- wyneb ar hyn o bryd o leiaf, a hyny mewn canlyniad i waith y gwr parchedig yn rhoddi gormod o dreth arno ei hun. Pan alwodd ein gohebydd gydag ef yi wythnos ddi- weddaf yr oedd Dr Edwards yn yr ysbryd goreu, er ar adegau y cwynai oddiwrth ychydig boen yn 0 ei ben, a hiraethai am gyfnewidiad yn yr hin fel ag y gallai fyned allan am ychydig o ymarferiad corphorol. Nos Wener diweddaf, yn fuan wedi iddo orphen traddodi ei ddarlith derfynol am y tymhor, rhoddodd ei gyfansoddiad ffordd, a dilynwyd hyn gan wendid mawr ar y gewynau. Yn naturiol parodd hyn gryn fraw i'r teulu; ond pan gyrhaeddodd Drs Hughes a Williams i'r lie sicrhasant nad oedd dim perygl agos. Bu y claf yn yr un sef- yllfa trwy ddyddiau Sadwm a Sul. Dydd Llun, fodd bynag, sylwyd ei fod wedi gwella llawer, a pharhaodd y cyfnewidiad hwn i fyned yn mlaen y dyddiau dilynol. Adrodd- iad y meddygon yw y bydd rhaid iddo wrth orphwysdra maith a llwyr cyn y bydd yn alluog i ymgymeryd eto a'i ddyledswyddau yn y Coleg.
LLOFRUDDIAETH Y FENNI.
LLOFRUDDIAETH Y FENNI. Gwrthododd yr Ysgrifenydd Cartrcfol ymyryd a'r ddedfryd o farwolaeth a basiwyd ar Thomas Edwards am lofruddio Mary Con- nolly yn y Fenni. y dienyddiad le boreu Iau, yn ngharchar Caerlleon ar Wysg. Yr oedd wedi cyfaddef mai efe a lofruddiodd y ddynes, a'r amddiffyiiiad a wnaed iddo oe rid ei fod allan o'i bwyll.
ANGEN GORPHWYSDRA.
ANGEN GORPHWYSDRA. 'Doctor,' meddai boneddiges, 'ymae arnaf eisieu i chwi roddi cyfferiau i mi.' Nid oes angen am hyny, madam,' meddai y meddyg, ar ol teimlo ei pkulse Nid ydych ond yn unig mewn angen am orphwysdra.' Yn awr, doctor, edrychwch ar fy nhafod,' meddai hithau drachefn, 'beth yw y mater arno ?' Y mae ar hwnw eisieu gorphwys- dra hefyd,' attebai y meddyg.
TYNERWCH PRIODASOL
TYNERWCH PRIODASOL Hen foneddiges a breswyliai heb fod yn mhell o Exeter, feallai, oedd un o'r esiam- plau mwyaf gloew o dynerwch priodasol a gynyrchodd y ganrif ddiweddaf. Yr oedd ei gwr wedi bod yn hir yn marw; ond o'r diwedd, pan y daeth parson y plwyf yno un diwrnod, cafodd ei fod wedi marw. Darfu i'r weddw anghysurus-wrth adrodd iddo hanes munydau olaf ei gwr-ddyweyd wrtho fod ei hanwyl wr yn parhau i ruddfan a gruddfan, ac yn methu marw; ond o'r diwedd," meddai, "cofiais fod genyf ddam o dip newyad 11 y dr6r; ac felly cymerais beth o hwnw, a rhwymais ef mor dyn ag y gallwn o gwmpas ei wddf; ac wed'yn, gwasgais ei ffroenau gyda'm bys. a'm bawd; ac ar ol i mi wneyd hyny, aeth y creadur druan ymaith fel oen!"
LLOFRUDDIAETH ALTHORP.
LLOFRUDDIAETH ALTHORP. Ddydd Yawrth: agorwyd brawdlys ar- benig yn Northampton gan y. Barnwr Kennedy, i wrando prawf George Macrae ar y cyhuddiad o lofruddio Annie Pritchard. Cof yw i'r prawf hwn gael ei atal yn y brawdlys arferol oherwydd i un o'r rheith- wyr fyned o'r llys wedi iddo ddechreu, Y tro hwn eto, wedi i'r achos gael ei agor, cymerwyd un o'r rheithwyr yn wael, a bu raid rhyddhau y rheithwyr fel y tro [cynt. Yna eawsant eu hail-dyngu, a]rhoddwyd un arall yn lie yr un gymerwyd yn wael, ac ail-ddech euwyd yr achos. Mr jBhzyard, Q.C., a erlynai. Honai ef mai rhy ychydig o arian oedd gan y carcharor i gadw ei wraig gyfreithlon yn Birmingham a'r drancedig, ac felly ei fod wedi penderfynu lladd yr olaf. Ychydig o dystiolaethau o bwys a roddwyd y diwrnod cyntaf cyntaf. Gwrandawyd yr achos yn mhellach ddydd Ifercher, pryd y rhoddwyd tystiolaeth gan Edward Macrae, brawd y carcharor. Pan aeth y tfyst i'r bocs, torodd allan i wylo, a gofynodd i'r carcharor, Sut yr wyt ti, fy machgen ?; nis gwelaist ti er's pum' wythnos." Holwyd ef yn fanwl yn ngnylch berwedydd copr yn yr hwn yr honil fod y carcharor wedi berwi rhanau o gorph y drancedig. Dywedai y tyet yr arferid golchi ham a bacwn ynddo, ac y gallai mai blew oddiar y rhai hyny oedd y rhai a ddarganfyddwyd ar ochrau y ber- wedydd. Tystiodd Arabella D'Ath fod y carcharor a'r drancedig wedi bod yn byw yn ei thy hi fel gwr a gwraig am chwech wyth- nos. Adnabyddodd nurse a fu yn gweini ar Annie Pritchard y dillad a ddangosid yn y llys fel eiddo y drancedig. Bu Annie Pritchard yn yr eglwys y Sabboth cyn iddi ddiflanu. Gohiriwyd y prawf drachefn.
[No title]
■ Y mae dyn yn dyblu ei ofidiau wrth feddwl am danynt. Os ydych yn chwilio am ganmoliaeth, nid ydych yn ei haeddu. Gwna amser ddys^u yr hwn sydd yn dyweyd nad oes ganddo addysgwr. Y mae yn rhaid i'r hwn na chymer ei reoli gan ddyn gymeryd ei reoli gan wraig. Y mae sirioldeb yn eadw i fyny fath o oleu'r dydd yn y meddwl, ac yn ei lenwi a thawelwch parchaus a chysson. Daeth hen wr duwiol un tro i gyfarfod dau ddyn ieuanc coegaidd, y rhai a ofynas- ant iddo a allai efe ddywedyd wrthynt beth oedd lliw gwallt y dialol. Wedi edrych am enyd arnynt, dywedodd, Dyma beth rhy- fedd, dau ddyn ieuanc wedi gwasanaethu meistr holl ddyddiau eu bywyd, ac ni allant ddyweyd beth ydyw lliw ei wallt." "Felmaabyw fi!" llefai Gwyddel, "yr wyf wedi cysgu un awr ar bymtheg! Mi a aethum i'm gwely am wyth o'r gloch, a chodais am wyth." Y mae pob person yn feddianol ar ddau fath o addysg-un, yr hwn a dderbynia oddiwrth eraill; ac un, llawer mwy pwysig, a rodda iddo ei hun.-Gibbon. I "Mary, Mary, a ydych chwi yn parhau i wisgo gwallt dynes arall ar eich pen ?" "Joseph, Joseph, a ydych chwithau yn parhau yn benderfynol i wisgo croen 116 arall am eich traed ?" ALMANAC Y GWEITHIWB AM 1893.-Bydd yn dda gan ein darllenwyr ddeall y gellir cael copi o'r Almanac rhagorol hwn yn rhad yn mhob siop sydd yn gwerthu Quinine Bitters Gwilym Evans. Os oes rhai o'r cyfryw fasnachwyr heb gael cyflenwad o'r Almanaciau i'w rhanu, anfonir sypyn ohon- ynt gyda throad y Post gan gwmni y Quinine Bitters ar dderbyniad cerdyn yn cynwys cais am danynt. 7768
ETHOLIAD BURNLEY.
ETHOLIAD BURNLEY. Cafodd yr Anrhydeddus Philip Stanhope ei ddewis gan y Rhyddfrydwyr fel ymgeis- ydd am y sedd uchod, yr hon a wagheir gan Mr Spencer Balfour. Mr John Knowles, bar- gyfreithiwr, brodor o Burnley, yw ymgeis- ydd dewisedig y Toriaid. Bygythia Mr Keir Hardie y bydd iddo ef ddwyn yn mlaen ymgeisydd Llafur.
YMADAWIAD MR GLADSTONE-
YMADAWIAD MR GLADSTONE- Boreu Mawrtli ymadawodd Mr Gladstone 0 orsaf Charing Cross, Llundain, am y Cyfandir, lie yr erys hyd gyfarfyddiad y Senedd yn niwedd Ionawr. Daeth torf fawr yn nghyd i'w weled yn cychwyn i'w daith. a chyrhaedd- odd Folkestone yn ddioge). Yno rhoddwyd derbyniad croesiwgar, ac arosodd ytio dros nos.
YSGRIFENYDD YN TWYLLO.
YSGRIFENYDD YN TWYLLO. Yn Heddlys Westminster gyhuddwyd Jamss Gray, ysgrifenydd Cymdeithas Fen- thyciol Cyfeillion Llafur, 0 dwyllo y gym- deithas i'r swm o 2386p. Bu y carcharor yn ysgrifenydd am naw mlynedd, a'r wythnos ddi- weddaf addawodd wrth yr ymddiriedolwyr ei fod wedi eu twyllo. Gohiriwyd ei brawf.
Y CYNGHRAIR RHYDDFRYDOL.
Y CYNGHRAIR RHYDDFRYDOL. Yn Lerpwl y cynhelir eisteddiad nesaf y Cynghrair Rhyddfrydol Cenedlaethol. Y dyddiad yw Ionawr 19 a 20. Gwneir trefn- iadau gan Ryddfrydwyr Lerpwl i roddi der- byniad croesawgar i'r cyrrychiolwyr.
CERBYD TRYDANOL.
CERBYD TRYDANOL. Bu amryw o drigolion Llundain yn rhy- feddu gweled cerbyd yn rhedeg ar hyd yr ystrydoedd yr wythnos ddiweddaf heb yr un ceffyl yn ei dynu. Gyrid ef gan drydan- iaeth, a dywedai ei fod wedi troi allan yn llwyddiant perffaith.
DIENYDDIAD YN MANCEINION.
DIENYDDIAD YN MANCEINION. Cafodd Joseph Mellor ei ddienyddio yn ngharchar Strangeways, Manchester, boreu Mawrth. Cafwyd ef yn euog o lofruddio ei wraig yn Oldham, ac wedi hyny gladdu ei chorph yn llawr y ty, yn gyffelyb i Deeming. Bu farw ar unwaith, pan dynwyd y follt odditano.
Y.DDIRPRW YAETH WYDDELIG.
Y.DDIRPRW YAETH WYDDELIG. Ail-ymaflodd y ddirprwyaeth hon yn ei dyledswyddau ddydd Mawrth, dan lywydd- iaeth y Barnwr Mathews ymdriniwyd ag achos texiantiaid ystad Mr Olphert. Dy- wedai yr Esgob O'Donnell nad oedd ddim i'w wneyd ond gorfodi y tirfeddiannwr i werthu tir i'w denantiaid. Credai y buasai Mr Olphert wedi d'od i delerau a hwynt er's talwin oni bai am ei oruchwylion.
ERLYN ARGLWYDD SALISBURY.
ERLYN ARGLWYDD SALIS- BURY. Tai Anghymwys. Yn llys ynadol Marlborough street, Llundain, gwnaed cais am archeb i orfodi i berchenog tai yn nghymydogaeth St. Martin Lane i'w tynu i lawr neu eu hadgyweirio. Y perchenog ydoeedd Arglwydd Salisbury, ac erlynid gan Gynghor Sirol Llundain. Tystiodd Mr Robert Walker, yr arolygydd dros y dosbarth, fod yr oil o'r tai yn beryglus, a gwnaed archeb gan yr ynad fod y tai, 2, Peter's court, St. Martin's lane, a 4, Peter's court, a 109, St. Martin's lane, i gael eu tynu i lawr cyn pen y pedwar diwrnod ar ddeg; a bod 110, St. Martin's lane, i gael ei adgyweirio yn briodol.
FFRWYDRI AD MEWN CAPEL CYMREIG.
FFRWYDRI AD MEWN CAPEL CYMREIG. Cymerodd ffrwydriad dychrynllyd le yn nghapel newydd y Methcdistiaid Seisnig yn y Wyddgrug nos Lun. Yr oedd pwyllgor wedi ei alw am chwarter wedi wyth, a daeth tri neu bedwar yno erbyn hyny. Yn un o'r ystafelloedd bychain yr oedd y cyfarfod i gael ei gynhal, ac aeth ceidwad y capel a hwythau i'rystafell. Tarawyd goleu, ond ar hyny cymerodd ffrwydriad ofnadwy le. Hyrddiwyd un ohonynt i ganol yr ystryd, a thaflwyd un arall ohonynt i lawr. Yr oedd y ddau wedi derbyn niweidiau trymion, drwy i'w gwynebau gael eu llosgi, a difethwyd eu dillad. Niweidiwyd y ceidwad hefyd yn bur dost, a bu y tri yn eu gwelyau am ddiwrnodiau. Bernir mai heb gael ei droi allan yr oedd y nwy nos Sul, ac felly fod swm mawr o nwy wedi ymgasglu yn yr ystafell.
ILLADRATA GWERTH 30,000p.
I LLADRATA GWERTH 30,000p. Torodd lladron i mewn i Leigh Court, palasdy hardd yn ngwlad yr Haf, a lladrata- wyd gemau gwerth 30,000p o ystafell wely gwraig y ty, tra yr oedd y teulu yn ciniawa nos Sul. Ni ddarganfyddwyd y lladrad hyd unarddeg o'r gloch. Ni chafwyd dim o hanes y lladron.
IDIENYDDIO GYDA THRYDAN.
DIENYDDIO GYDA THRYDAN. Cafodd dyn ei ddienyddio gyda thrydan yn ngarchar Sing Sing, New York, ddydd. Llun. Dodwyd ef i eistedd ar gadair bwr-l pasol, ac wedi ei gylymu dygwyd gwifren gyffyrddiad a'i wegil a gyrwyd trydan drwy ei gorph. Bu farw mewn deuddeg eiliad.
CWERYL AR NOS SADWRN.
CWERYL AR NOS SADWRN. Nos Sadwrn ceisiodd dyn o'r enw Robert Tomlinson, yn Manchester, gicio ei wraig, ond wrth wneyd hyny rhoddodd gic i lamp a ddaliai yn ei law gan ei thori. Rhedodd yr olew ar ben plentyn a safai yn ei hymyl, gan ei roddi ar dan. Llosg wyd y bychan i farwolaeth.
HELYNT YR ORIAWR.
HELYNT YR ORIAWR. Yu Llys Ynadol Llangefni, ddydd Llun, gerbron Dr O. E. Owen a Mr G. J. Roberts, cyhuddwyd John Hughes, saer maen. Half Moon, Gaerwen, gan yr Heddgeidwad W. A. Hughes, o ladrata oriawr a chadwen, eiddo Hugh Jones, platelayer, Llanddaniel. Yn ol y tystiolaethau ymddengys fod John Hugbes, ar yr 31ain o Fawrth diweddaf, wedi gollwng yr oriawr tra yn ceisio rhoddi yr oriawr yn ei boced ar ffordd Fangor, a'r mis diweddaf aed a'r oriawr gan fachgen y diffynydd i oriadurwr i'w glanhau. Mr R. A. Griffith, yr hwn a ymddangosai dros y diffynydd, a honai nad oedd unrhyw ddrwg- fwtiad gan y diffynydd, gan na wnaeth yr un ymgais i guddio neu werthu yr oriawr, a'i fod wedi ei rhoddi i fyny ar unwaith pan gafodd hyd i'w pherchenog. Taflwyd yr achos allan.
GOLYGFA RYFEDD MEWN EGLWYS.
GOLYGFA RYFEDD MEWN EGLWYS. Ychydig amser yn ol symudodd y Parch E. Thelwall, ficer Radford, ger Le .mington, addurniadau neillduol oddiar fwrdd y Cymun. Y abboth diweddaf cymerodd golygfa ryfedd le yn yr Eglwys. Cyn dechreu ei bregeth dywedodd fod ganddo rywbeth i'w wneyd yn hysbys. Yr oedd wedi cael goreh- ymyn gan yr Esgob, meddai, i roddi addurn- iadau yn ol ar fwrdd y Cymun. Nid oedd yn tybio fod gan yr Esgob unrhyw gydym- deimlad, ond rhaid fod y gyfraith yn eglur ar y pwynt. Ond a oedd y peth wedi cael ei benderfynu gan y Ilysoedd gwladol ? Yn enw rhyddid deiliaid Eglwys Loegr, dy- munai ef (y ficer) brotestio yn erbyn yr arferiad, ond, heb iddo gydnabod cyfreith- londeb y gorchymyn, dymunai ufuddhau iddo. Yna taflodd y gwr parchedig groes fawr a dwy groes fechan, dau lestr, a phlat casglu. Pan aeth yn ol i'r pwlpud, sylwodd y ficer Yn awr yr ydych wedi cael eich teganau a'ch eilunod yn ol; tybiaf y gallai un fflachiad o fellten eu hysgubo ym- aith, a bron na ddymt:nwn i hyny gymeryd lie." Ar hyn aeth y cor, y rhai oedd wedi bod ar streic am wythnos, i'w lie priodol. Cafodd mab brenhin Abyssinia ei ddir- wyo i 10s a'r costau am feddwi yn Brighton.
LLYNCU ELLYN.
LLYNCU ELLYN. Gwnaed gweithred law-feddygol gelfycf& yn Ysbytty Leeds ddydd Llun, yr wythnos ddiweddaf. Rywfodd neu gilydd, llyngcodd gwraig o'r enw Savage ellyn, yr hwn a aeth i lawr i'w hystumog. Symudwyd hi i'r ysbytty, a llwyddwyd i symud yr ellyn. Bu dan operation am agos i awr, ac y mae yn awr yn gwella yn rhagorol.]
SAETHU WRTH CH WARRU CARDIAU.
SAETHU WRTH CH WARRU CARDIAU. Aeth dau Gymro, Thomas Williams ac Edward Jenkins, i chwareu cardiau yn Miner's Mills, yn yr America. Cyhuddwyd Williams gan Jenkins o'i dwyllo, ac aeth y ddau i ffraeo a'u gilydd. Tynodd Jenkins lawddryll allan, a saethodd ei gyfaill yn ei ysgwydd. Cymerwyd y saethwr i fyny. Gallwyd tynu y fwled allan.
BABAN BYW MEWN ARCH.
BABAN BYW MEWN ARCH. Rhoddodd gwraig yn Cornwall enedig- aeth i'w degfed blentyn, ond bu y fam farw. Dywedodd ytmeddyg nad oedd yn meddwl y buasai i'r plentyn fyw yn hir ychwaith, ac yn bur fuan aeth y teulu ato i gael tystysgrif, gan ddyweyd fod y plentyn hefyd wedi marw. Rhoddwyd y plentyn yn mreichiau y fam yn yr arch, a ohafodd y cauad ei sgriwio i lawr. Pan oedd yr ang- ladd ar fin cychwyn ddydd Sadwrn, dych- rynwyd 3 tad drwy iddo glywed y baban yn llefain. Agorwyd yr arch, a chafwyd fod y bychan yn fyw.