Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
GLYWSOCH CHWI
GLYWSOCH CHWI Fod annealltwriaeth wedi tori allan eto cydrhwng degwm-dalwyr plwyf Llannor ZD a'r ficer ? Fod y Parch John Jones am eu dwyn i ymosfcwng trwy eu gwysio yn Ilys y man ddyledion ? Fod y Parch E. T. Davies, rheithor Pwllheli, wedi dyfod i benderfyniad cyffelyb gyda'r rhai gwrthryfel-ar yn ei blwyf yntau 1 Fod disgwyliad mawr am i'r achosion gael eu gwrandaw yn y lly3 ddydd Mawrth ? Eu bod yn rhy bail ar y thestr i'i Barnwr Beresford- allu eu cyrhaedd y diwrnod hwnw ? Nad yw y barnwr hwn yn deall yr un gair o Gymraeg, er mai Cymry unieithog yw y mwyafrif o'r bobl y mae yn ymwneyd a hwy yn ei lysoedd ? Fod Pwllheli newydd gael ei breintio a dau o ynadou newydd ? Mai un o'r rhai hyny ydyw Y Maer," sef Mr Edward Jones a'r llall, Dr Samuel Griffith 1 Ei bod yn llawn bryd i'r Arglwydd- Raglaw dalu sylw i'r angen sydd am ynadon mewn ardaloedd gwledig yn Lleyn ? Mai anghyfiawnder a'r cyhoedd yn gyffredinol ydyw fod rhaid i drigolion yr ardaloedd hyn deithio chw >ch, ie, deng milldir, cyn y gallant gael ynad i arwyddo gwys neu bapyr o'r fath ? Fod un o ddefaid Mr Jones, Llech- ylched, Mon, wedi dod i gryn enwog- rwydd ? Mai y gwrhydri a wnaeth oedd bwrw dau cen yr wythnos hon 1 Fod yn beth anarferol iawn gweled wyn yn cael eu geni mor gynar, neu ynte feallai mai mor ddiweddar ddylem ddweyd ? Mai gotygfa ddoniol iawn oedd gweled y dyn tal hwnw yn cario. par o glocsiau dros ei ysgwyddau drwy ystrydoedd Caernarfon ddiwrnod ffair y gauaf ? Fod tuedd mewn amryw i'w gymeryd yn ysgafn, ond nad oedd dim yn menu arno? Fod rhy-wun wjdi eu cuddio tra yr ydoedd yn y gerbydres yn myned adref 1 Mai helynt tlin In hi tua gorsaf P- pan y gwelodd eu colli ? Eu bod erbyn hyn wedi cael eu had- feryd yn ddyogel iddo 1 — Am y liane o fardd o gymydogaeth Bethesda wedi myned i "gynyg" ei hunan i foneddiges yn ddiweddar ? Mai dyma ei brofiad ar gan:- Mi es i gynyg dan fy mhwn, Can's gwyddwn lle'r oedd gweddw, Ond er i mi ymbilio'n daer, Fe droes y chwaer yn chwerw. Am hen fardd arall, gafodd ei wrthod. gan foneddiges arall, ac mai dyma brofiad hwnw:— Gwarth yw dy iaith, gwrthod weithian brydydd, 0 briodol amcan: A mawr loes roes Men Ian—trwy r gwawdio, i 9 A dyn a'm helpo-dyna i mi halpan. Am y gofyniad hwnw yn y Gwalia, Pa le y ceir digon o bobl i lenwi capel newydd Wesley aid Giasinfryn ? Mai Eglwyswr, with gwr, oedd y gofynwr? Na raid ond myned yno na wenr hen E,wyswyr weli troi i ofyn am faeth o y spry dol ? JSad oeseisieu dadgysyljtiad yn gan fod y cloohydd Nvzdi rhoidi ei le i fyny ac amryw o'r aelodau wedi myned, ar ddisperod ? Amyperchenog chwareudy hwnw yn Manchester a anfonodd at luaws o wyr enwog am eu barn am p intomimes? Mai atebiad Mr W. S. Caine, A.S., ydoedd fod bywyd yn rhy fyr i dalu sylw i bethau o'r fath ? Nad yw Dr Parker, Archesgob YOIK, Esgob Caerloyw, nac Esgob Manchester erioed wedi gweled pintomime ? Ei fod yn debyg nad oedd yr un o'r urddasolion hyn yn bresenol ya y pan- tomime bythgofiadwy a gynhaliwyd yn y Rhyl rhyw flwyddyn a haner yn ol Fod gofaint yn cymeryd cwrs gorfodol at ofleiriadon yn ddiweddar yn ? Fod yn debyg y troir y byrddau ar y brodyr hyn yn fuan 1 Y bydd raid iddynt ymddangos yn y cwrt bach yn fuan, ond nid fel erlynwyr dn gyfraith newydd y degwn ? Mai dal i gael eu poeni y mae goreu- gwyr pentref Llanfechell gan y bechgyn hyny sydd yn ymdyru at eu gilydd bryd nawn Sabboth ? Fod llawer yn rhyw led obeithio y buasent yn diwygio ar ol gweleJ cyfeiriad atynt yn y Werin 1 Mai dal yn wargaled y maent hyd yn hyn ? Mai yr oruchwyliaeth nesaf a gym- hwysir atynt fydd cyhoeddi eu henwau a'u cyfeiriadau yn llawn yn un o'r rhifynau nasaf ? I Fod rhestr gyflawn wedi cael ei gyru i 0 fewn yn barod ? Y gadewir hi "llan yr wythoos hon yn y gobaith y bydd diwygiad wedi cymeryd lie y Sabboth nesaf ?
DYFODIAD Y GAUAF.
DYFODIAD Y GAUAF. Ade"- 'beryglos, ac un sydd yn peri lla-wer n brvdeA lucedd yn ein gwlad, yw y tymhor hwy o'r fintddyn. Mae edrych yn mlaen at ei ddy- fodiad'yn achosi pryder ac ofn nid bychan i laweroedd o'r rhai hyny ydynt yn dioddef oddi- m'th ivahanol anlrwylderau. Gydag ychydig of a!, a thrwy gymeryd y feddy^miaeth. briodol xaewn pryd, gellir osgoi llawer o boenau corph- orol yn gystal a phryder meddwl. Mae adeg cwympiad y dail yn dwyn rhyw gymaint o ddioddef i bob un sydd yn naturiol o gyfansoddiad gwanaidd. Efallai mai y rhai sydd yn dioddef oddiwrth Ddiffyg Treuliad a flinir fwyaf yr adeg hon o'r flwyddyn. Cynghor y meddyg i'r claf yr adeg yma yw cymeryd meddyginiaeth tuag at gryfhau. Prin y rhaid dweyd wrth neb yn Nghymru pa un yw y feddyginiaeth oreu at y dolur hwn, na pha le i'w chael. Mae tystiolaethau y miloedd a d,.Ierby--iasant les oddiwrth Quinine Bitters Gwilym Evans yn brofion diymwad a digonol o werth a rhagoroldeb y feddyginiaeth fyd-enwog ^°Mae lluaws o dystiolaethau hefyd i eSeith- iolrwydd y Quinine Bitters mewn gwrthsefyll ymosodiadati pob math o anhwylderau gauafol. Mae y Quinine Bitters yn nerthu a chadarnhau y rhanau gweiniaid o'r cyfansoddiad, y rhai ydynt oherwydd eu gwendid y mwyaf agored i anwyd a'i ganlyniadau. G-ochelwch gael eich twyllo I gymeryd dim arall dan enw cyffelyb. Gwerthir Quinine B Otters Gwilyni Evans gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Neu anfonir ef am y prisiau uchod yn uniftngyrchol oddd wrth y perchenogion: Quinine Bitters 31anufwturiiip, Comcanv Tjimited, Llanelli, South Wales..
[No title]
YSTOIiCAU ADOLTO GAli AWDWYR CYM- ^EIG. Gwol y Gtnedl Gymreig yr wythnos nesaf. COCJA CA.DBVRY.-Dyma'r Coooa syddyn eddianol ar adnoddaru cnawd-gynyrchiol ac yn I rosglwyddo nerth a grymusder arosol.-Healtll
'93.-,
'93. [CYFADDASIAD 0 QUATRE YINGT TREIZE," UN 0 NOFELAU VICTOR HUGO]. Li PENNOD XI. Treiglodd amryw wytlmosau heibio er pan yr enciliodd Ardalydd Llandenac o Dol i Gastell La Tourge—hen gartref y teulu. Yma yr oedd Gauvain a'i lu yn gwarchae arno. Torwyd ar ddistawrwydd yr hwyrddydd yn mis Awst gan swn udgom a chwythiad ar y twr. Atebwyd ef gan udgorn arall ar y gwastadedd. Safai dyn arfogedig ar ben y twr; odditanodd gorweddai gwersyll milwrol, yr hwn a ymestynai draw yn mhell ar bob ochr i'r amddiffynfa. Yr hyn oedd gan yr udganwr ar ben y twr mewn golwg oedd cael caniatad i anerch swyddogion y fyddin ymosodol. Wedi cael hyny dywedodd: — Chwi, sydd yn gwrando amaf,-Gouge le Bruant y^wyf gelwir fi yn feistr y mil- wyr gleision, gan fy mod wedi lladd cy- nifer o'ch dynion chwi gelwir fi hefyd yn Imanus, gan fy mod yn bwriadu lladd llawer ychwaneg yn y dyfodol nag a wnaethum yn y gotphenol. Torwyd fy mys i ffwrdd a chleddyf yn yr ymladdfa yn Dol; yr ydych wedi tori pen fy nhad, fy mam, a fy chwaer, er nad oedd ond deunaw oed. Dyna pwy ydwyf. Siaradaf yn enw fy arglwydd, Ardalydd Llandenac, Tywysog Llydaw, ac Arglwydd y Saith Goedwig, a'm mheistr. Yn gyntaf, dylech wybod fod fy arglwydd, cyn cau ei hun i fyny yn yr amddiffynfa hon, wedi rhoddi gorchymynion i chwech o'i brif gad- beniaid i gario yn mlaen y rhyfel. Felly ni bydd i chwi fod ar eich mantais drwy enill yr amddiffynfa hon; ac os y bydd i'r ardal- ydd gael ei laid, ni leddir mo Llydaw byth. Dywedaf hyn er eich rhoddi ar eich gwyliad- wriaeth. Mae'r Ardalydd wrth fy ochr: siarad drosto ef yr ydwyf. Chwi, y rhai sydd yn gwarchae amom, byddwcli ddistaw am enyd. Cofiwch nad ydyw y rhyfel yr ydych yn gario yn mlaen yn un gyfiawn. Yr ydym ni yn byw yn ein gwlad ein hun, ac yn cario yr ymladdfa yn mlaen yn anrhydeddus. Yr ydym mor bur a syml a'r glaswellt o dan y gwlith. Y Weriniaeth sydd wedi ymosod amom ac wedi trawsfeddianu ein meusydd. Y mae wedi llosgi ein tai, ac wedi dyfetha ein cnydau; dinystriwyd ein ffermdai hefyd; a bu raid i'n gwragedd a'n plant ddianc yn droednoeth i'r coedwigoedd am nodded. Y chwi svdd odditanodd, gwrandewch arnaf. Yr ydych wedi ein herlid drwy y goedwig ac wedi ein hamgylchu yn y twr hwn. Yr ydych wedi lladd a gwasgaru ein cymdeithion; y mae genyeh gyflegrau, ac y mae byddinoedd ereill wedi ymuno a chwi. Felly y mae yna bedair mil a haner o ddynion yn ymosod ar y twr hwn, tra nad oes yma ond pedwar ar bymtheg yn ei amddiffyn. Y mae genych chwi ymborth a phylor ac ergydion, a llwyddasoch yn barod i chwythu rhan o fur y twr i lawr, yn nghyda darn o'r graig a saif arno. Ac yn awr yr ydych ar fin gwneyd ymosodiad arall amo. Ond y mae genym un peth i'w ddyweyd wrthych. Ddynion sydd yn sefyll wrth droed y twr, gwrandewch amaf Y mae genym yn ein dwylaw dri char- charor,—tri phlentyn Cafodd y plant hyn eu mabwysiadu gan un o'ch catrodau,—eich eiddo chwi ydynt. Rhoddwn y plant hyn i fyny i chwi ar un amod, a hyny ydyw, ein bod ni i gael myned oddiyma yn ddianaf. Gwrandewch beth a ddigwydd os y gwrth- .odir hyn. Mewn dwy ffordd yn unig y gellwch. ymosod arnom: naill ai drwy y bwlch a wnaed yn barod yn mur y castell ar ochr y goedwig, neu ynte dros y bont yr ochr arall. Mae'r adeilad sydd ar y bont yn dri uchder. Ar y 11 aw isaf iddo yr ydwyf fi fy hunan, Imanus, sydd yn awr yn siarad a chwi, wedi rhoddi yna chwe' baril o tar a deugain baich o eithin; mae y trydydd 11awr yn llawn gwellt. Mae yr ystafell ganol yn llawn llyfrau aphapyrau. Yr wyf wedi rhoddi fuse o dan y dnvs, -un pen wrth y barilau tar, a'r pen arall wrth fy llaw yn y twr. Dodir y tri phlentyn yn yr ystafell ganol, rhwng y tar a'r gwellt, ac os ymosodir amom rhoddir tan yn y fuse, a bydd i'r plant gael eu llosgi. Rhaid i chwi dderbyn neu wrthod ein cynygiad. Os y derbynwch ef, bydd i ni ymadael; os y gwrthodir ef, bydd i'r plant farw. Dyna'r eyfan sydd genyf i'w ddyweyd." Prin yr oedd Imanus yn gorphen llefaru, nag yr atebwyd ef gan lais eras o'r gwer- syU,- Yr ydym yn gwrthod Ac yna torodd llais arall, llai eras ond llawn penderfyniad, allan, Yr ydym yn caniatau pedair awr ar hugain i chwi roddi eich hunain i fyny. Yr awr yma, yfory, os na fyddwch wedi ymostwng, bydd i mi gymeryd y twr drwy drais." Ac yna ychwahegodd y llais eras, Ac ni ddangosir trugaredd i neb." Rhoddwyd atebiad i'r sylw yna gan Ar- dalydd Llandenae ei hun, ar ol craffu ar y siaradwr, Ai tydi, offeiriad, sydd yna ?" "Ie, fradwr, myfi yw," atebai y llais eras, yr hwn oedd eiddo Cimwrda. Erbyn hyn yr oedd wedi gwella yn dda, er fod craith puramlwg ar ei wyneb. Gauvain oedd y sawl a nododd y pedair awr ar hugain rhybudd. Yr oedd ton ei lais, yn gystal a'i holl natur, yn llawer tynerach nag eiddo ei hen athraw Cimwrda. A dyma yr unig ddiffyg a welai ei hen feistr yn nghym- eriad y disgybl-yr. oedd yn rhy drugarog. Fel cadlywydd iri byddai yn ddigon creu- lawn nis gwnai ef ladd gwragedd a phlant diamddiffyn, fel ei gar, Ardalydd Llan- denac; a gwell oedd ganddo estyn ymborth a meddyginiaeth i'r gelynion clwyfedig, yn hytrach na'u lladd, yn ol arfer cadfridogion ereill. Dyna wendid Gauvain, yn ngolwg Cimwrda, ac nid oedd heb ofni y deuai i brofedigaeth ryw ddiwrnod oblegid hyn. Rhedai syniadan rhyfedd trwy feddwl Gauvain, tra yn sefyll o flaen ei hen gartref, yn barod i ymosod arno. Dyma'r fan yr oedd wedi treulio ei faboed, er na welodd y lie er's blynyddau bellach. Er pan ddaethai i wersyllu i'r fan, yr oedd teimladau rhyfedd wedi ei feddiannu, ac er mor galon-galed oedd Cimwrda wrth natur, yr oedd yr adg of- ion a ymrithiai drwy ei feddwl wrth syllu ar yr ystafell yn mha un y bu yn dal Gauvain ar ei lin i ddysgu ei wers iddo yn lliniaru ryw gymaint ar ei deimladau celyd. Ond nid oedd Gauvain, llawer llai Cim- wrda, yn bwriadu i deimladau o'r fath ym- yryd o gwbl a'r hyn a ystyrient yn ddyled- swydd. Na, rhaid oedd ymosod ar y cas- tell, a naill ai ei gymeryd neu ynte ei ddi- nystrio. Bu y ddwy blaid wrthi drwy y nos yn brysur yn gwneuthur parotoadau ar gyfer yr ymdrech oedd i gymeryd lie ar fachlud- iad haul dranoeth. (Fw barhau).
[No title]
CADWEN ATTB AM GEINIOG. Gwel colofn y Nadolig yn ein hysbysebau'r wythnos hon.! Gellir casglu mai y He goreu i fyw i fyned yn hen ydyw y tlotty; gan fod mewn un yn Shoreditch, Lloegr, tua thri chwarter o'r mewnolion dros dri ugain oed, 330 o wragedd, ac 21 o ddynion rhwng pedwar ugain a deg a phedwar ugain, a dwy wraig dros ddeg a pnedwar ugain. Fe wneir achwyniad cyffredinol fod y'rha fwyaf o cocoas yn anrheuliadwy; ogymaint an fod y broffeswriaeth feddygol wedi dangos yg ddiweddar fod yr alkalies a ddefnyddir yn rhy ami gan wneuthurwyr tramor, yn nghy- a'r mater bras, yn ffurflo sylwedd sebond aidd sydd yn hynod o beryglus i iechyd. Gyda golwg ar cocoas a wneir gyda gofal, megis eiddo Mr Cadbury, nid yw y gwrth- f wynebiadau hyn yn bodoli.—* Whitehall j Review. I
SEDD. SYE PRYCE JONES.1
SEDD. SYE PRYCE JONES.1 Y BARNWYS YN AXGHYTUNO. Taflu y Ddeiseb Allan. Eisteddodd y Barnwr Pollock a'r Barnwr Wills yn Nhrefaldwyn dydd Iau drachefn i wrandaw y ddeiseb yn erbyn Syr Pryce Pryce- Jones, yr aelod Toriaidd dros fwrdeisdrefi Maldwyn. Y tyst cyntaf a alwyd heddyw ydoedd Robert Cooper, yr hwn oedd wedi bod yn ngwasanaeth mab Syr Pryce Pryce-Jones yn y Drefnewydd. Dywedodd ei fod ar restr etholwyr bwrdeisdrefi Maldwyn a'i fod yn y Drefnewydd ar ddiwrnod pleidleisio yn yr etholiad diweddaf. Cyrhaeddodd yno y noswaith flaenorol, a chysgodd yn nhy Syr Pryce gyda'r footman. » Beth amser cyn cychwyn oddicartref derbyniodd postal order am bunt oddiwrth ryw an nas gwyddai pwy. Nid oedd dim ond yr archeb yn y llythyr, ac nid ymgymerodd a holi neb o ba le y daeth. Edward Morgan, gynt ceidwad yr Elms Inn, Drefnewydd, a dystiodd ei fod yn bleidleisiwr yn yr etholiad diweddaf. Ychydig cyn yr etholiad yr oedd ef mewn anhawsderau arianol, ac ysgrifenodd at Syr Pryce Pryce-Jones; ond gan na dderbyn- ioad atebiad aeth i'w dy. Atebodd Syr Pryce y galwai gydag ef yn ddiweddarach. Felly y bu. Yn mhen yr awr daeth Syr Pryce a'i briod i'w dy; a sylwodd y blaenaf iddo nas gallai wneyd dim iddo y pryd hwnw, ond y byddai iddo ei weled mor fuan ag yr ai pobpeth drosodd. Cyn myned allan rhoddodd Syr Pryce sofren yn ei law, gan ddyweyd, Hwdiwch, tretiwch, a gwnewch yr hyn a alloch droswyf." Yn ddilynol, galwodd dyn o'r enw Perry gyda'r tyst, ac A mewn canlyniad i'r hyn a ddywedudd, aeth y tyst allan ac ymunodd a Syr Pryce a'i ganfaswyr; ond yr oil a wnaeth ydoedd curo yn nhai yr etholwyr i ddyweyd fod yr ymgeisydd yn dyfod. Rhyddfrydwr ydoedd y tyst. Cyn gadael yr Elms rhoddodd y sofren i'w wraig, a gwariwyd yr oil ohoni mewn tretio pobl. Dywedodd y tyst yn mhellach ddarfod iddo, ar anogaeth Halli- well (y darllawydd gan yr hwn y prynai ei gwrw), anfon at ei frawd yn y Deheudir i ofyn a fuasai yn pleidleisio dros Syr Pryce Pryce-Jones. Atebodd ei frawd y deuai os y telid iddo arian ei gludiad ac am goll amser. Pan hysbyswyd hyn i Halliwell dywedodd y buasai pobpeth yn iawn. Rhoddodd brawd y tyst ei bleidlais, ac yna dywedodd Halliwell wrth y tyst, "Taiwn iddo 30s, a chaniataf ef i chwi ar y bil cwrw nesaf." Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, wrth setlo gyda Halliwell, tynodd y tyst 30s o'r cyfrif, ac yr oedd ei lyfr yn dangos hyn. Yr oedd y llyfr, fodd bynag, yn awr yn meddiant Halliwell, Croesholwyd y tyst yn galed o barthed i'r personau a dretiwyd ganddo, a gorchymynwyd ef i fyned allan o'r bocs fel canlyniad awgrymiad a rodd- wyd gan y Barnwr Pollock. Edward Stephens, pleidleisydd yn y Drefnewydd, a ddywedodd iddo weled llawer o gwrw.yn cael ei yfed yn y Picton Arms yn mhresenoldeb Halliwell. Pan y dygid y cwrw allan, arferai gwr y ty, Harry Rod- gers, ddweyd, "Dyma ychwaneg o lwgr- wobrwyo." Cafwyd ychwaneg o dystiolaethau gan oddeutu haner dwsin o bersonau yn profi ddarfod iddynt gael diod am ddim yn y Bull Inn ychydig cyn yr etholiad. DYDD GWENER. Y tyst oyntaf a alwyd ar y pedwerydd dydd ydoedd Thomas Jones, ysgrifenydd Clwb Ceidwadol y Drefnewydd, yr hwn a dystiodd fod Mountford a Cooper ar restr yr etholwyr a Halliwell yn mhlith y canfaswyr. Cyn yr etholiad galwodd Syr Pryce a'i oruchwyliwr sylw y pwyllgor etholiadol a'r canfa.swyr at y rhybuddion oeddynt yn ar- graphedig ar y llyfrau canfasio; a chymer- wyd pob gofal i gario hyn allan. Thomas Tudor, y Drefnewydd, a ddywed- odd i George Woosnam ofyn am ei bleidlais i Syr Pryce Pryce-Jcnes, a sylwodd y tyst w'rtho na buasai yn llawer pe yr anfonai remnant iddo. Y pryd hyn yr oedd y tyst wedi pleidleisio eisoes, ond nid oedd Woosnam yn ei gredu. Mewn croesholiad I gan Mr J elf, dywedodd y tyst mai yr hyn a ddisgwyliai gael ydoedd rhywbeth a wnai lodrau a, gwasgod (chwerthin). Rhydd- frydwr cryf ydoedd y tyst. Jane Tudor, gwraig y tyst olaf, a ddy- wedodd mai nid mewn ysmaldod y cafodd y brethyn ei addaw. Richard Lewis, 11ifi wr, y Drefnewydd, a dystiodd i Mr Janes Prybe a'r Cadben Edward Pryce-Jones ymweled a'i dy. Siar- adodd y Cadben am y nifer o ddynion a gaent waith gan ei dad, a dywedodci 'Mewn gwisgoedd, nyni sydd yn cadw haner y dref. Y mae fy nhad wedi ymgeisio dair gwaith. Y tro cyntaf fe fethodd, a'r ail dro aeth i mewn gyda nifer fechan. Os nad aiff i mewn y waith hon y mae am symud ei fusnes o'r Drefnewydd, ac yna Duw a helpo weithwyr y Drefnewydd." Henry Rooke, ysgolfeistr, Clitheroe, a ddywedodd iddo fyned i'r Drefnewydd i bleidleisio. Cyn myned derbyniodd bellebyr oddiwrth Syr Pryce yn diolchiddo am addaw dyfod i bleidleisio, a llythyr oddiwrth Mr Barnett yn hysbysu ei rif ar yr etholrestr. Gwadodd fod dim arall yn y llythyr. Treul- iodd wythnos yn y Drefnewydd, a chyn ym- adael ymwelodd a Syr Pryce. Yna darUenodd y cofrestrydd dystiolaeth Mary Ann Withers, gwraig i geidwad blaen- orol y Buck Inn; yr hon oedd yn rhy wael i fod yn bresenol yn y llys. Hysbysai y dyst- iolaeth hon ddarfod i Syr Pryce a'i briod alw yn nhy'r dyst, ac addawodd ^ady Pryce geisio cael merch y dyat i Ysgol Ashford os y pleidleisiai Withers dros ei gwr. Addaw- odd y dyst ddefnyddio pob dylanwad gyda'i gwr, yr hwn a sylwodd, Gadewch hynyma i mi."—Mewn croesholiad yr oedd y dyst wedi gwadu fod unrhyw aunealltwriseth cydrhyngddi a'i gwr o barthed i'r dystiol- aeth ag oedd i gael ei rhoddi. John Richards, painter, Llanidloes, a ddywedodd ei fod yn yr Unicorn Inn ar un adeg pan y daeth Abel Goldsworthy ar fedrJ sefyll" i un, pan y sylwodd y tyst wrtho ei fod yn un gwael os na" safai" i'r oil oeddynt yno, ac yntau wedi cael arian gan Syr Pryce. Yr oedd Goldsworthy wedi cael ychydig o ddiod ar y pryd, a galwodd y tyst yn ffwl am iddo ei ddadlenu. Cafwyd ychwaneg o dystiolaethau o natur gyffelyb yn nglyn a Llanidloes, pryd y sylwodd y Barnwr Pollock y byddai y llys yno hyd y Nadolig os oeddynt am alw pawb a welsant un dyn yn rhoddi diod i un arall adeg yr etholiad. John Pryce, Trallwm, a dystiodd iddo weled un Thomas Ireland yn stopio tri o ddynion ar yr heol ar ddiwrnod y pleidleisio, gan ofyn iddynt bleidio Syr Pryce Pryce Jones. Gofynodd un ohonynt, o'r enw Humphreys, a oedd diod i'w gael ar y job. Atebodd Ireland, Os y gwnewch addaw pleidleisio dros Syr Pryce, dywedaf i chwi lie y gellwch gael peth." Wedi gwrandaw ychydig dystiolaethau ychwanegol, dygwyd achos y deisebwyr i derfyniad, a gofynodd y llys i Mr Jelf a fwriadai agor achos Syr Pryce Jones yn y boreu. Atobodd Mr Jelf ei fod yn barod i brofi pob un o'r achosion gyda thystiolaeth, ond boreu Sadwrn bwriadai ddadleu nad oedd yr un o'r cyhuddiadau yn galw am atebiad. Gyda chaniatad y Ilys bwriadai gyfyngu ei hun i fatetion neillduol, gan fod costau yr achos yn aruthrolr SJ oJ 111 U DYDD SADWRN. Parhawyd gwrandawiad y ddeiseb er di- seddu Syr Pryce Pryce Jones ddydd Sadwrn. ■ Dadleuai Mr Jelf nad oedd tystiolaethau i gadarnhau ond ychydig os yruno'r cyhudd- iadau. Ar ol ymgynghoriad sylwodd y barnwyr y gallai y tystiolaethau mewn rhai engreipht- iau fod mor wan fel nas gellid eu dwyn o flaen y rheithwyr; ond mewn aches o'r fath hwn gallai dadleuwyr y deisebwyr ddis- gwyl yn rhesymol y gallent gadarnhau y tystiolaethau hyny trwy groeshoeliadau. 0 ganlyniad barnent y dylai yr ochr amddi- ffynol alw tystion, er ar yr un pryd fod rhai eybuldiadau a ddylid gael eu tynu yn ol. Yna tynwyd rhai o'r cyhuddiadau yn ol, a galwyd tystion dros yr ochr amddiffynol. Mr Watkins, goruchwyliwr etholiadol Syr Pryce Pryce-Jones, a dystiodd gyda golwg ar yr hyn a wnaeth er rhybuddio canfaswyr ac ereill yn erbyn eyflawni Uwgrwobrwy- aeth. Gwadodd ei fod yn gwybod dim o gwbl am y postal orders a haerid a gawsant eu hanfon i Mountford a Cooper. Hal wyd Lady Pryce Pryce-Jones o barthed i'r digwyddiad yn nglyn ago Ysgol Ashford. Gwadodd dystiolaeth Withers a'i wraig ddarfod iddi addaw rhoddi y plentyn yn yr ysgol os y pleidleisiai Withers dros ei gwr. Yr un modd gwadodd Syr Pryce hyn ei hunan. Yr oedd wedi addaw dwyn enw geneth Withers gerbron fisoedd cyn yr ethol- iad, ar gyfrif ewyrth iddi a fu yn ei wasan- aeth ef. Ni ofynodd ychwaith i Withers am ei bleidlais, gan y gwyddai ei fod yn Rhydd- frvdwr. Abel Goldsworthy, yr hwn a gyhuddid o gynyg llwgrwobr, a dystiodd nad oedd yr oil ond ysmaldod. Gohiriwyd y gweithrediadau. DYDD MAWRTH. Y tyst cyntaf a alwyd heddyw ydoedd John Williams, masnachydd coed, Llanid- loes, ac aelod o'r Cynghor Trefol. Addefai y byddai yn arfer tretio ei gyfeillion a diod- ydd meddwol. Bu mewn amryw dafarnau yn adeg yr etholiad, a thalodd amryw weithiau, ond gwadai yn y modd mwyaf pendant iddo wneyd hyny gyda'r amcan o ddylanwadu yn annheg ar etholwyr. Mewn atebiad i gwestiwn pellach, dywedii ei fod yn cael ei adnabod yn Llanidloes fel dyn ieuanc ffri, caredig, a gwynebagored, ac fel un iawn am sefyll rounds." Gwadai fod tystiolaeth John Jones, ei fod wedi cael 2s ddwywaith ganddo, yn wirionedd. George Morris, trysorydd y Clwb Ceid- wadol yn Llanidloes, a ddywedodd ei fod yn bleidiwr selog i Syr Pryce, ac nad oedd yn aelod o'r pwyllgor etholiadol. Ar yr 2il o Orphenaf rhoddodd lasiad o gwrw i eth- olwr o'r enw Manuel, ond nid oedd ganddo y bwriad lleiaf i hyny ddylanwadu ar ei bleidlais. Mewn atebiad i Mr Mathews dy- wectodd y tyst, er ei fod yn drysorydd y blaid Geidwadol, ac yn oruchwyliwr cof- restriadol i'r blaid hono, ac iddo fod mewn amryw o dafarnau gydag etholwyr ddiwrnod y polio, eto i gyd ni ddarfu iddo grybwyll am eu pleidleisiau wrthynt. Thomas Jones, Jcyfreithiwr, oedd y tyst nesaf. Dywedai mai efe oedd cadeirydd Clwb Ceidwadol Llanfyllin. Gofynwyd iddo bleidgeisio, ond gwrthododd wneyd, er ei fod wedi bod yn gwneyd hyny yn flaen- orol. Efe hefyd oedd is-gadeirydd pwyllgor y 0 etholiadol Syr Pryce. Yn anffodus, y blyn- yddoedd diweddaf, yr oedd cyrsiau o feddwi wedi d'od drosto, ac ar yr adegau hyny yr oedd yn bur hael gyda'i arian. Wrth dretio pobl, ni bu iddo yn ymwybodol-pan mewn meddiant llawn o'i synwyrau-gynyg dim i neb am eu pleidleisiau. Dechreuodd y cwrs diweddaf o ymyfed ar yr 2il o Orphenaf, a pharhaodd hyd ar ol yr etholiad. Y Barnwr Wills a sylwold mai gwarad- wydd o'r mwyaf oedd penodi y fath ddyn. Daeth amryw dafarnwyr o'r Drefnewydd yn mlaen i wadu eu bod wedi tretio. Tystiodd f amryw ereill, a gyhuddid eu bod wedi tretio etholwyr, nad oedd ganddynt y bwriad lleiaf i ddylanwadu ar yr etholwyr hyny, fel ag iddynt roddi eu pleidleisiau i Syr Pryce. Daeth Dr F. F. Jones i'r llys ar orchymyn y barnwyr. Bu yn gweinyddu fel meddyg ar y tyst Thomas Jones. Mewn atebiad i'r Barnwr Wills, dywedodd mai efe a gynyg- iodd Thomas Jones fel is-lywydd pwyllgor yr etholiad. Gwyddai am arferion Jones, ac y byddai weithiau yn tori allan i hel diod. Ond nid oedd hyny yn digwydd yn amI) ftC. ni ddaeth i'w feddwl ef o gwbl y gallai fyned i hel diod adeg yr etholiad, a rhanu ei arian. Gohiriwyd y llys hyd dranoeth. DYDD MAWRTH. Galwyd amryw o swyddogion yn mlaen fel y gellid olrhain y nddyn arianol am bunt a anfonwyd i gyrchu hen gerbydwr Syr Pryce o Ledbury. Ychydig o oleuni a daflwyd ar y mater. Dygodd hyn y tystiolaethau i derfyniad. Anerchwyd y Llys gan Mr J elf ar ran y r ochr amddiffynol. Dywedodd mai tri "dyn gwellt oedd wedi dwyn y ddeiseb yn mlaen, ac fod Mr Hanbury Tracy, yr ymgeisydd gOrOhfygedig, wedi gwrthod gwneyd dim a. hi. Honai ef (Mr Jelf) fod yr etholiad wedi cael ei dwyn yn mlaen yn hollol ddilwgr gan Syr Pryce a'i oruchwyliwr, ac nid oedd y tretio a gymerodd le yn ddim ond cyfeill- garwch personol; ac er ei fod wedi cymeryd lie ar adeg etholiad, nid oedd wedi cario dylanwad ar y pleidleisio. Gyda golwg ar y cyhuddiadau difrifol o dretio a chynyg sylltau a chwe'cheiniogau yn erbyn is- gadeirydd un o'r pwyllgorau, yr oedd hyny wedi cael ei wneyd heb ddrwgfwriad ac o dan ddylanwad diod. Mr Moulton, Q.C., ar ran y deisebwyr, a ddaliai fod prawf eglur wedi ei roddi fod personau ag oeddynt yn oruchwylwyr yn ddiamheuol wedi tretio, ac os byddai i'r amddiffynydd golli ei sedd iddo ef ei hun y byddai y diolch, gan ei fod wedi rhoddi rheolaeth yr etholiad yn nwylaw y diotwyr a'r tretwyr mwyaf yn y cymydogaethau. Ymresymai hefyd nad oedd fod y sawl a gynygiai Iwgrwobrwyon mewn diod ar y pryd yn unrhyw esgus. Cafodd y llys ei ohirio hyd brydnawn dranoeth, pryd y cyhoeddwyd y ddedfryd. Y BARNWYR YN GWAHANIAETHU. f" TAFLU'R DDEISEB ALLAN. Y Barwn Pollock a ddywedodd y gallai dystio wrth Lefarydd Ty y Cyffredin nad oedd llwgrwobrwyaath cyffredinol wedi cymeryd lie yn Mwrdeisdrefi Trefaldwyn, er fod amryw gyhuddiadau o lwgrwobrwyaeth wedi cael eu dwyn yn mlaen. Un o'r prif gyhuddiadau oedd yr un a ddygid yn erbyn Syr Pryce a'i briod o geisio llwgrwobrwyo y tafarnwr Withers, drwy addaw cael ei ferch i Ysgol Ashford. Yn ei farn ef nid oedd y cyhuddiad hwnw wedi cael ei brofi. Yn nesaf yr oedd cyhuddiadau yn cael eu gwneyd yn erbyn personau ag yr ydoedd yr amddiffynydd yn gyfrifol am eu gweithredoeid. Y prif un oedd Thomas Jones, yr hwn a gyhuddid o fod wedi ceisio llwgrwobrwyo tra yr ydoedd yr feddw. Nis gellid ciredu fod y dyn hwn wedi cael ei ddewis oherwydd ei wendid o feddwi a I myned oddiamgylch i dretio. Nid oedd un- rhyw amheuaeth yn nghylch si safle fel gor- uchwyliwr, ond nis gallai neb sredu ei fod yn myned oddiamgylch gyda'r bwriad o lwgrwobrwyo Jneu gymeryd ei brynu yn yr olygfa. a ddesgrifiwyd. Yn achos Gamble, credai fod y tystiolaethau yn rhy wan i brofi fod pydrni etholiadol yn nglyn a hyny. Yr oedd achos Halliwell, y darllawydd, yn ym- ddangos yn fwy dyrus, ond profai y tyst- iolaethau fod darllawyr yn arfer tretio cws- meriaicl mewn tairhydd, ac nad oedd gwaith Halliwell yn ddim ond hyny. Gyda golwg ar dalu costau teithio, credai nad oedd hyny Wedi cael ei brofi. Dywedodd iod peth am- rywiaeth barn rhyngddo ef a'r Barnwr Wills. Y Barnwr Wills a ddatganodd yr un fam a'r Barnwr Pollock am y rhan fvryaf o'r cyhuddiadau o lwgr-wobrvvyaeth a thretio, ond barnai yn wahauel iddo ar acho, Thomas Jones. Nid oedd amheuaeth am ei benodiad fel gomchwyliwr, a dylai y canlyniadau ddisgyn ar y rhai oedd yn gyf- rifol am y fath benodiad annoeth. Yr oedd I Thomas Jones wedi cyflawni yr hyn oe4d yn r K llawn ddigon i ddiseddu Syr Pryce Jones. Nis gallai ef (y Barnwr Wills) gymeryd yr un olwg ar y mater ag a wnai y Bamwr Pollock. Gofidiai fod cynifer o gyhudd- iadau wedi cael eu gwneyd, tra na wnaed ymgais i brofi mwy na'r banner. Yr oedd hyn wedi bod yn achos o anhawsder neill- duol i'r amddiffynydd, ac wedi achosi llawer o gostau afreidiol. Y Barnwr Pollock a ddywedai mai'r can- lyniad oedd fod y ddeiseb i gael ei thaflu allan, ac yr oedd yn rhaid i'r deisebwyr dalu costau yr amddiffynydd, oddigerth yn yr achosion hyny y gwahaniaethai y Bamwr Wills ac yntau arnynt.
MARWOLAETH 4 WILL PANT Y MWDA."
MARWOLAETH 4 WILL PANT Y MWDA." Dydd Iau cyn y diweddaf bu William Williams, yr hwn oedd yn dra adnabyddus yn Mon fel Will Pant y Mwda," farw yn Swyddfa'r Heddgeidwaid, Llangcfni, o dan amgylchiadau tra adfydus". Yr oedd ers llawer o flynyddau yn derbyn ei fywoliaeth trwy gardota, a gwariai bob dimai ddeuai i'w feddiant am ddiod feddwol. Os cynygid ymborth iddo byddai y rhan fynychaf yn c'iyn am gael dimai neu geiniog yn ei le; ac mor fuan ag y caffai gyfleusdra elai i'r dafam iw gwario. Nid oedd ganddo un math o gartref, a chysgai mewn adeiladau allan, ac anaml iawn y gwaherddid hyn iddo, gan ei fod yn ddigon diniwed a gonest. Pan oedd y diweddar Barch Richard Owen, Cana, yn ddyn ieuanc, yr oedd diwygiad yn y wlad, a'r adeg hono byddai ef a Will Pant y M wda "yn cael hwyl neillduol yn y cyfarfodydd gweddiau, ond gresyn gweled diwedd yr olaf mor wahanol i ddiwedd y cyntaf. Yr oedd "Will" yn Llangefni d dydd Iau o dan ddylanwad y ddiod yn drwm, ac yna gwel- wyd ef ar ffordd Talwrn wedi gorwedd yn y ffos. Ceisiwyd ei gynorthwyo oddi yno, ond methwyd, a rhoddwyd hysbysrwydd i'r heddgeidwaid yn Llangefni. Pan gyrhaedd- odd yr heddgeidwaid y fan yr oedd yr anymwybodol, a dygwyd ef i Llangefni. Gweinyddwyd arno yn uniongyrchol gan Dr Fraser, ond er pob ymdrech bu farw oddeutu haner nos. Cynhaliwyd treng- holiad ar y corph nos Wener o flaen Mr R. Jones Roberts, trengholydd y Sir, pryd y dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth oddi- wrth ddylanwad y ddiod feddwol,:a bod allan yn yr hin. Claddwyd ef yn mynwent Capel Llangristiolus ddydd Litm. Q-wnaed casgliad cyhoeddusi ddwyn y draul.
RHINWEDDAU IACHAOL "QUININE…
RHINWEDDAU IACHAOL "QUININE BITTERS" GVVILYM EVANS. Gan GWILYM EVANS, dyna'r gwir, Mae Bitters pur rhagorol, Y goreu i leddtu poen a chur A fedd yr oes bresenol; Bum flwyddi maith yn wael fy llun Yn nychu gan afiechyd. A rhoddaf yma'm teimlad blin Pan dan arteithiau adfyd. Rhyw boenau dig a deimlwn i Bob dydd a nos yn gyson, Ac fel pe bai gofidiau lu Yn gwasgu ar fy nghalon A mi heb wybod b'le i droi, Gan drymed oedd fy alaeth, A m holl obeithion wedi ffoi Am gaffael meddyginiaeth- Mewn papyr newydd ar ryw nawn, Ymeflais yn ddamweiniol, Ae ynddo gwelais hanes llawn Y Bitters pur rhagorol; Mi brvnais un botelaid fawr, A gwnaethum benderfyniad, Mai drachtio wnawn nes dod yn gawr, A chaffael llwyr adferiad. Fy holi obeithion droes yn fEydd Wrth ddrachtio'r Bitters maethlon, A minau'n gwella o ddydd i ddydd Wrth ddUyn ar y moddion; Gwybyddcd pawb mai'r Bitters hyn Effeithioda fy adferiad; Bydd dydd eu prawf yn 'smotyn gwyn Ar ddalen fyw fy nheimlad. Pe gallwn, hongiwn yn y nen Y Bitters a'u holl glodydd, Yn gynffon wrth bob seren wen Dramwya drwy'r wybrenydd; A phlygu'r fellten fflamgoch wnawn go Yn eirias dan lyth'renau, Rhoi Quinine Bitters amlwg iawn Ar belmynt y cymylau. Yn udgorn mawr y daran gref Yr uchel floeddiwn beunydd, Y Quinine Bitters, nes bai'm lief I'w chlywed drwy'r holl wledydd Y Quinine Bitters uchel glod Fo'n hysbys i genhedloedd, A GWILYX EVANS byth gaiff fod Yn anwyl gan y bobloedd. Derbyniodd yr ^ysgrifenydd les mawr drwy ddefnyddio Quinine Bitters, ac nis gall ddyweyd gormod am eu rhinweddau. THOMAS GRIFFITHS. Llanfihangel Rhosycorn, Chwef. lleg, 1890. Quinine Bitters Gwilym Evans yw'r feddygin- iaeth oreu i adfer iechyd, a'i ddyogelu trwy adfer nerth ac egni i'r rhanau hyny fyddant wedi gwanychw trwy afiechyd hirbarhaol. Ø" Mynwch weled enw Gwilym Evans ar bob label, stamp, a photel. Gwerthir gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c yr un. Dwbl maint, 4s 6ch. Goruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Gellir hefyd ei gael yn ddidraul am y risiau uchod, oddiwrth y perchenogion:— puinine Bitters Manufacturing Company, Qmited, Llanelly, South Wales.
Y DDIOD ETO.
Y DDIOD ETO. Yn Mrawdlys Leeds cyhuddwyd mas- nachydd o lofruddio ei eneth bymtheng mlwydd oed, yr hon oedd yn gripil. Yn ol y tystiolaethau aeth y carcharor adref un noswaith yn drwm mewn diod, a thorodd wddf ei eneth druan, ac o'r braidd y gallodd ei rwystro i gyfiawni hunanladdiad. Hyd hyny yr oedd bob amser wedi arfer bod yn hynod garedig wrth yr eneth. Cafwyd ef yn euog, ond gyda'r ychwanegiad ei fod allan o'i synwyrau, oherwydd y ddiod feddwol. Gorchymynodd y Barnwr ei fod i gael ei gadw mewn gwallgofdy tra y gwelai ei Mawrhydi yn dda. Yn Edinburgh, cyhuddwyd David Hare o lofruddio ei wraig ar y lofed o Hydref. YIP"> ddengys fod y ddau wedi bod yn yfela-yn drwm, ac i gweryl dori allan rhyngdAYnt, ac i'r carcharor ladd ei wraig drwy e* churo yn ei phen. Traddodwyd ef bymtheng mlynedd o benyd-wasanaetk*
[No title]
CADWEX AUR AM GEINIOG. Gwel colofn y Nadolig yn ein hysbysebau'r wythnos hon.' Gweithreda celery ar y gyfundrefn gieuawl, ac mewn lluaws o achosion gwna y defn- yddiad o'r bresych hwn wella y gwynegon a'r gwynebwst (neuralgia). Y mae tomatoes yn symbylu yr afu, a gwna spinach a dant-y-llew wedi eu dar- paru yn yr un modd weithredu yn union- gyrchol ar anhwylderau arenol. Gwna wynwyn, garlic, ac olive oil hyr- wyddo y treuliad drwy symbylu gweith- rediad y gwaed, a chynyrcha. gynydd dir- fawr o'r saliva a'r gastric juice. Ystyrir wynwyn amrwd (raw) yn fedd- yginiaeth rhagorol mewn achosion o fethu cysgu, a chreda y Fftanco d fod cael wyn- wyn yn tonic rhagorol mewn achosion o wendid yr or ganau treuliol.
Advertising
"\T7 AR/TBR'3 SAFE CURE VV At holl v' y^NR WYLDERAU'R ELWLOD A K AFU. ^fABNER"S "SAFE" CURE AT WETFTID CYFFREDINOR- A BRIGHT DISEASE. f ILOED[) O DESTIMON1ALS yndatgan i.ll. ei limvoddau wedi eu filio a gellir eu ha-chwiiio. Mae el bawliau yn anwaiadwy. Gwerihir gan bob fferyllydd a gwerthwr pbys gwriaeth. Danfonir bamphledya yn rhad ond yagrifenu at H. U. WARNER A* CYV, Ltd., 86, Claikenwtilload, London E.O GOFYNWCH AM HUGHES'S BLOOD PILLS EDRYCHWCH YN FANWL AR BOB BOX A byddwch yn SICR na byddwcli yn I cael eich twyllo, a GWELWCH Fod y TEADE MARK sef (Llun CALON) ar bob Blwch. Y mae un- kgl I' rhyw Pills a gynygir yn ei lie yn Ddy H wared iad a Thwyll AC NID YDYNT YR IAWN BELENAU, ac ni chynwysaut yr un rhinweddau a HUGHES'S BLOOÐ- PILLS. GOCHELWCH Bersonau anonest y rhai a ymostyngent mor isel nes ymgeisio twyllo trwy werthu Pills diwerth yn lie y rhai Pur. Y mae y RHYBUDD hwn yn ddyledus i'r Cyhoedd er eu hamddiffyniad, er mwyn iddynt sicrhau y Pills gwirioneddol, ac fel y gallont oehelyd y masnachdai hyny lie y mae twyll yn cael ei ymarfer. GOFYNWCH r am HUGHES'S BLOOD PILLS a Una Calon ar bob blwch. Gwrthod. woo bob peth. arall. GWAED -DRWG, CFRRRRW WAED DRWG. OCIMVY 1ROEN GLEFYDAU. T)OEN PEN V^ROEN GLEFYDAU. X OEN PEN! AFU DDRWG. T\IFFYG TRAUL. FU DDRWG JL/IFFYG TRAUL. NERVOUSNESS. WYNEGDN. ERVOUSNESS. VXW YNEGON BILIOUSNESS, /^LEFYDAU ARENAI ILIOUSNESS. V>LEFYDAU ARENAI\ c:g- Y maent yn iachau pan bydd pobpeth arall yn methu. Heb oedi danfoner am Box o "Hughes's Blood Pills" gyda Llun Calon ar y Label. Peidiwcb cymeryd dim arall. Ar werth am Is 1x!c, 2s 9e, 4s 60. Gyda'r Post am Is 3c, 2s lie, 4s 9c oddiwrth y Perchenog, J-ACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH. Y WERIN NADOLIG. V Bwriedir cyhoeddi RHIFYN ARBENIG o'B WERIN SADWFJf CYN Y NADOLIG, TN CYJTWTTS YSTORIAD NADOLIG GAN RAI 0 BftCP AWDWfn YR OES, GYDA DARLUNIAU. Er gwneud lie i'r Ystoriau hyn, bwriedir lunn in TR WYTKNOS HONO GAN RO'I X 32 o Golofa»u, YN LLE 24, fel arfer. Epf^y bydd yn cael ei GWERTHU R UN BRIS, sef y'' DMAI. Gani nas ail-argraphu y Rhifyn un- waith erthir allan, dylai pawb sydd am sicrb* y 1MLIG, PRIS DIMAI, roddi archebion yn ddioed i'r Dosbarthwr neu'r Llyfrwerthwr. COFIWCH Y DYDDIAD,—SADWRN, RHAG FYR 24.
RHAI OFERGOELION POBLOG-AIDD.
RHAI OFERGOELION POBLOG- AIDD. Os crynwch, y mae rhywun yn cerdded dros eich bedd dyfodol. Os bydd eich trwyn yn cosi, dygwydda rhywbeth yn fuan i'ch blino. Os bydd y llygad de yn cosi, mae'n ar- wydd o lwc dda! os y llygad chwith, lwc ddrwg. Pan y bo yd-fran yn cilio o'i nyth, y mae yn arwydd o gwymp y teulu ar eiddo yr hwn y byddo y nyth. Pryf copyn yn disgyn arnoch o'r nenfwd sydd arwydd y cewch gymunrodd yn fuan gan ffrynd. Tybir fod canwyllau a goleuadau ereill yn llosgi yn las neu yn bwl pan y bo bodau an- weledig yn bresenol, yn neillduol os y bydd- ant yn ysbrydion drwg. Pan y deuir a phar o esgidiau tua thref, na ddoder hwynt ar un silff yn uwch na'ch pen os mynwch lwc dda tra yn eu gwisgo, a pheidiwch a'u blacio hwynt cyn i chwi wisgo'r ddwy, neu fe gyfarfyddwch a dam- wain neu farwolaeth sydyn. Argraphwyd a chyhbeddwyd gan y perch- enogion, Cwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig Cyf., yn eu swyddfeydd, Bala- clava Road, Caernarfon. ft