Skip to main content
Hide Articles List

19 articles on this Page

Bhamant Genadol.

HELWYE ANFFODUS.

DYFODIAD Y GAUAF.

Advertising

AT AMAETHWYR MON AC ARFON.

GWERS DDA. -

[No title]

Advertising

Cyfoeth Jay Gould.

Dlangla Gyfyng i LUwyr.

- -GYW80CH CHWI

EHINWEDDAU IACHAOL " QUININE…

[No title]

_.-----.>93.1 -.1

[No title]

----__..,.---SEDD SYR PRYCE-JONES,I

News
Cite
Share

SEDD SYR PRYCE-JONES, I GRÅNDO DDEISEB. I Tystiolaethau Dyddorol. Brydnawn Llun cyrhaeddodd y Barwn Pollock a'r Barnwr Wills i Drefaldwyn. Disgynai eira ar y pryd, ond ymgasglodd lluaws mawr i weled yr olygfa anghyffredin o ddau o farnwyr yr Uchel Lys yn talu ym- weliad a'r dref dawel ar achlysur mor neill- duol a gwrando deiseb i ddiseddu yr aelod Seneddol. Lletya y Barnwyr gyda rheithor y plwyf. Boreu Mawrth agorwyd y llys. Ym- I ddangosai y Mri Fletcher Moulton, Q.C., I Mr Mathews, a Mr Ellis Jones Griffith dros y rhai oedd wedi arwyddo v ddeiseb. sef tri Õ weithwyr, y rhai sydd yn etholwyr yn y I bwrdeisdrefi; Mr Jelf, Q.C., Mr E. Graham, a Mr J. M. Lloyd, dros yr amddiffynydd; MrYates dros yr Erlynydd Cyhoeddus, a Mr Young ar ran tyst neillduol. Wedi i Mr MOULTOV agor yr achos, galwyd ar John Evans, butler yn y Cross Keys, Llanfyllin, i roddi tystiolaeth. Dywedai I iddo ef fyned yn nghwmni dyn o'r enw Evan Morgan ychydig ddyddiau cyn yr etholiad i'r Eagles, yn Llanfyllin. Yr oedd I Mr Thomas Jones, cyfreithiwr, yno, a gofynodd iddynt gymeryd diod. Cawsant lasiad o gwrw bob un, ac yna gofynodd Jones i'r tyst ddal ei law allan, yr hyn a wnaeth. Rhoddodd y cyfreithiwr chwe' cheiniog ynddi. Gofynodd iddo ddal ei law allan eilwaith, a rhoddodd chwe cheiniog arall ynddi, gan ddyweyd y gallai gadw y iddau os oedd ganddo bleidlais. Dywedodd y tyst wrtho nad oedd arno eisieu ei arian, a rhoddodd hwynt ar y bwrdd, ac aeth allan o'r ystafell. Mewn atebiad i Mr JELF, dywedodd y tyst ifod Mr Thomas Jones mewn tipyn o ddiod. Y Barwn POLLOCK A oedd ef yn feddw?—Y Tyst (ar ol oedi ychydig): Wel, yr oeddwn yn meddwl ei fod. Pur araf oedd y tyst hwn yn ateb y gwa- hanol gwestiynau, ac yr oedd ei don yn isel iawn. Dywedodd y Barwn POLLOCK, Pan ddaw dyn i'r Ilys, a siarad mor isel fel nas gellir ei glywed, ni byddaf byth yn coelio gair o'r hyn a ddywed." Mr MATHEWS a eglurodd nas gallai y tyst feddwl ond yn araf iawn pan yn rhoddi ei j dystiolaeth yn Saesneg, gan mai yn Gymraeg yr arferai siarad. 0 Y Barnwr POLLOCK a sylwodd pa mor anmherffaith bynag y dealiai Saesneg y j dylasai siarad yn hyglyw. Mewn atebiad i'r Barnwr WILLS dywedodd y tyst mai yn Gymraeg yr oedd y sgwrs a. Mr Thomas Jones yn cael ei chario yn nilaen. GEORGE EDWARDS, llarurwr, Llanfyllin, a dystiai ei fod yn yr Eagles pan oedd Jones yn talu am ddiod i John Evans. Ar achlysur arall gwelodd Mr Thomas Jones yn y Sun, a chlywodd ef yn dyweyd, Y mae genyf ddigon o arian ac aur," a daliodd ei law allan, yn yr hon yr oedd swm o arian. Cymerodd Evan Priee swllt o honynt, a galwodd am haner galwyn o gwrw, ac yfwyd ef gan y tyst a phump neu chwech arall. Cafwyd chwaneg o gwrw, a chymer- odd amryw ddau swllt neu dri bob un o law Mr Jones. Cymerodd y tyst haner sofren, a thalodd am round o gwrw allan o honi. Fe dalodd pawb a gymerodd arian oddiar Jones am ddiod. Rhoddodd y tyst naw swllt yn ol i Jones. Pan ddaeth Syr Pryce- Jones a'i briod i Lanfyllin, aethant i bleid- geisio yn nghwmni Thomas Jones. Mewn atebiad i Mr Jelf dywedai y tyst ei fod yn gwybod y byddai Jones yn hel diod" weithiau, ac yr oedd wedi cael gryn dipyn pan oedd yn yr Eagles. EVAN MORGAN, ffermwr, Pontyscowred, a dystiodd iddo weled Thomas Jones yn rhoddi dau chwe'cheiniog i John Evans. EVAN JONES, Llanfyllin, a dystiai ei fod ef yn y Sun ddeuddydd neu dri cyn yr etholiad, ac iddo weled Thomas Jones yn dangos arian. Dywedai fod ganddo arian ac aur, ond ni welodd y tyst ddim ond arian gwynion a phres ganddo (chwerthin). Dywedodd Thomas Jones am i'r rhai oedd yn yr ystafell helpu eu hunain gyda'r arian. Ar yr un pryd dywedodd mai nid arian lecsiwn oeddynt, ond ei arian ef ei hun. Cymerodd y tyst swllt, a galwodd am haner galwyn o gwrw. Yr oedd y tyst wedi gweled Jones ychydig ddyddiau yn flaenorol yn y Sun. Gwelodd ef hefyd yn canfasio gyda Syr Pryce Jones a'i wraig, a chafodd y tyst ei gyflwyno gan Thomas Jones i'r ym- geisydd a'i briod. Dywedodd Thomas Jones wrth Syr Piyce mai billposter i'r ochr arall oedd y tyst, ac yna gofynodd Syr Pryce iddo wneyd ei oreu drosto ef (chwerthin). Mewn atebiad i Mr Jelf, dywedodd y tyst nad oedd Thomas Jones pan yn y Sun yn feddw, ond ei fod yn drwm mewn diod (chwerthin). Thomas Evan Jones, saer, Llanllyfni, a ddywedodd ei fod wedi cyfarfod Thomas Jones ar y 5ed o Orphenaf. Gwyddai fod Jones yn pleidgeisio dros Syr Pryce, a chafodd ymgom ag ef. Mr Mathews Am beth ? —Am rywbeth yn yr Ysgrythyrau, ond yn ddilynol aeth- om i'r Eagles, lie y cefais lasiad o gwrw gyda Thomas Jones. Gofynodd Jones iddo unwaith a wnai ef bleidleisio dros Syr Pryce, gan ma Cymro ydoedd fel y tyst. Joseph Jones, llifiwr, Llanfyllin, a alwyd yn nesaf, ond pan ddechreuodd Mr Mathews ei holi, ni wnai ddim ond ysgwyd ei ben. Awgrymodd Mr Moulton y priodoldeb o gael eyfleithydd. Y Barnwr Pollock: Byddai hyny yn debyg iawn i dynu yr agerbeiriant oddiwrth y gerbydres a rhoddi mul yn ei lie. Ond fo<M bynnag, os yw hyny yn anghenrheidiol, rhaid i ni gael y mul. Gorchymynwyd i'r tyst sefyll o'r naill-du. David Rogers, llafurwr, Llanfyllin, a dystiodd ei fod yn siarad a chigydd o'r enw George Roberts ddydd yr etholiad, a'i fod wedi cael glasiad o gin ganddo. Yn ddi- weddarach gwelodd ddyn o'r enw John Roberts, gan yr hwn drachefn y cafodd lasiad o gin. Gofynodd George a John Roberts iddo bleidleisio dros Syr Pryce. David Ellis, crydd, Llanfyllin, a dystiodd ei fod yn breaenol pan gafodd Rogers lasiad o gin gan Roberts, a bod y rhoddwr wedi gofyn i Rogers bleidleisio dros Syr Pryce, ac wedi rhoddi y cyfarwyddiadau angen- rheidiol iddo pa fodd i wneyd. Galwyd ar Edward David Jones, ysgrif- enydd Clwb Ceidwadol Llanfyllin, yr hwn a brofodd fod Thomas Jones, George Roberts, a John Roberts yn aelodau o'r clwb, a bod y tri yn aelodau o'r pwyllgor etholiadol. John Owen, Llanidloes, a ddywedodd iddo gyfarfod Abel Goldsworthy, dyn yn ngwas- anaeth Syr Pryce, yn y Boot Inn, Llanidloes, pryd y gofynodd Goldsworthv i'r tyst, Wnewch chwi fotio dros Syr Pryce Jones ? Os bydd i chwi bleidleisio drosto, a gwneyd eich goreu, bydd i mi rod<H pum punt i chwi." Edrychodd y tyst yn toyw ei lygaid, a gofynodd, Pum punt ?" ac atebodd Goldsworthy, "Rhoddaf bunt i chwi heno, a chewch y pedair arall cyn d wmod yr ethol- iad." Atebodd y tyst ef yn ol, gan ddy- wevd, Pe rhoddech ugain punt, ni byddai i mi byth bleidleisio dros eich bath chwi." Mewn atebiad i Mr Jelf, Jdywedodd y tyst na buasai miloedd o "bunau yn gallu prynu el bieidlais ef. Mr Jelf: Yr oeddwn ar fin dyweyj^_ Aiasai waeth cynyg pum [punt *i Mr! stone ei hun am ei bieidlais mwy vnevd (chwerthin). Yna ceisiodd Mr h„ allan mai cellwairyr oedd Gold^Lg^ ni1 gynyg pum punt am bleidlaisutL pv" hwnw. Yr oed; Pryce teedi cynyg enw ei eneth ef ar ol i'r etholiad fyned heibio, er nad oedd y tyst wedi pleidleisio drosto (chwerthin). Yna gohiriwyd yr ymchwiliad hyd dranoeth. DYDD MERCHER. Ar ymgynulliad y llys heddyw, galwyd ar Thomas Mountford, un o swyddogion y tolldy yn Leith, yr hwn oedd ar restr yr etholwyr fel lletywr yn y Drefnewydd. Addefai ei fod wedi derbyn llythyr oddiwrth Mr A. W. Barrett, yn gofyn iddo dd'od i bleidleisio i'r Drefnewydd. Addefodd hefyd ei fod wedi derbyn tair punt a chweigien gan gyfaill iddo yn y Drefnewydd, sef Mr Her- bert Jones. Yr oedd subpoena wedi ei gweinyddu arno i'w erfodi i dd'od i'r llys i roddi ei dystiolaeth. Bu yn siarad a Mr Herbert Jones, a chyda Mr Pugh, y sgrif en- ydd y Toriaid. 0 0 Herbert Jones, Drefnewydd, a dystiodd nad oedd ef wedi cymeryd rhan o gwbl yn yr etholiad yn mis Gorphenaf. Derbyniodd lythyr oddiwrth Mouxtford cyn i'r etholiad gymeryd lie, yn ei hysbysu ei fod yn cy- meryd ei wyliau yn ystod wythnos yr ethol- iad, ond nas gallai dd'od adref os na fyddai i rywun estyn cymhorth iddo; a therfynai drwy ofyn am fenthyg 3p 10s gan y tyst. Atebodd y llythyr, ac anfonodd yr arian mewn postal order, Galwyd ar Mr a -MFs Morgan, gyda pha rai y lletyai y tyst Mountford yn Leith, i roddi tystiolaeth fod llythyrau ac archebion arianol wedi cael eu derbyn gan Mountford, adeg yr etholiad. Thomas Edwards, Llanidloes, a dystiodd iddo glywed yr ymddiddan rhwng Golds- worthy a John Owen. Daeth y blaenaf allan ar ei ol, gan erfyn ar i'r tyst beidio yngan gair o'r hyn oedd wedi glywed. Yn yr Unicorn, drachefn, gwelold Goldsworthy yn galw am ddiod i'r rhai oedd yn bresenol, ond ni welodd ef yn talu am dano. Tystiodd iddo weled Goldsworthy ac ereill wedi cau eu hunain i mewn mewn parlwr yno, ac fod dyn wedi cael ei rwystro i fyned i fewn atynt. Pan oedd y drws yn gil-agored, gwelai fod papyrau a photel inc ar y bwrdd. Pan ddaethant allan galwodd Goldsworthy am ddiod iddynt oil. Cynygiedd y tyst dalu am "round," a thynodd swllt allan. Dywedodd Goldsworthy wrtho, "Rhoddwch yr arian yn eich poced; mi dalaf fi." Gal- wodd am ddwy "round" arall, ond nid oedd yn talu am danynt, yn unig gwnai amnaid ar y forwyn. Mewn croesholiad, dywedai y tyst ei fod yn credu yn gryf fod Goldssworthy o dclifiif yn ceisio prynu pleidlais John Owen yn y Boot. John Jones, cludydd glo, Llanidloes, a dystiodd iddo weled y Cynghorydd John Williams, yn y Trewythen Inn, ddi wmod yr etholiad. Gofynodd Williams iddo a oedd wedi pleidleisio, ac atebodd y tyst ei fod. "Dros y dyn iawn gobeithic," ebai Wil- liams, "Ie," atebai y tyst, ac yna cafodd ddau swllt ganddo. Yr oedd Mr Williams y noson gynt wedi gofyn iddo bleidleisio dros Syr Pryce Jones, ac wedi rhoddi dau swllt iddo, yr hyn oedd yr oil oedd ganddo ar y pryd, ond addawai ei weled ar ol hyny. Wrth ei groesholi dywedai y tyst fod y Cynghorydd Williams yn ddyn o gryn safle, a bu y tyst yn gweithio gyda'i dad. Gohiriwyd y llys hyd dranoeth.

Gostyngiad Rhenti yn Sir Gaer-…

Baal y Bel Droed. ---.-

Advertising