Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
GYWSO^CHWI ~"'T
GYWSO^CHWI ~T Fed Dr Herber Evans yn pregetbu yn y Sul °'r bla<* ? Cymreig y Brifatlirofa wedi tyru i wranda arno ? Pod Herber wedi-codi y pwlpud Cym- f,<rrW7rSeisnis~ v riujiCT^ 'lwnw 0 ^jan a hysbysodd iddo ? ^orOQ am 7* ^wyaf a anf onid yat ei afal? rnoadi y fath bris am an hony^t ? Wa^ ^rac^ ei ben na'r un o IddOdderbyn pymtheg sachaid 0 afalau cyu pen y pythefno8 ? Ei fOO wedi rhOOdi Coron am yr T gwedam mfaS™ 8an £ od cao1 Mai yn }j„ mwvaf n^ t y mae uu o r dynion ^nntac%dynbyw? fon v *r farclmad i Gaernar- ddeuai a^oW™/ Wedi 6ofyn iddoa Ei fod ?1^ 0 ^rwynlwch iddi ? fod v tynu S^y11613 hir » dyweyd aaseanXS amaethyddol yn gyfryw fel 0>r £ a^ p °™dio gwastraffu arian ar foethau ddeww7e<ii a7^rytau y priodoldeb iddi aeth a.' x ° ^yre ^y.n i wneyd yr un gwasan- jTTr "ynlwchp F-d galidd,) chwarter o dybaco at ei was- 8.Ilaeth ei hun Yn ei bo(el yn myned acl--ef ffvnil/fyksai gario allan ei athrawiaeth o WiSpgy** ^r°fedigaeth. y cynghorwr sirol hwnw hen Ei fod yn cerdded yr heol yn dalog, a'i IM yi gW)'nt' fel arfer? ^yaiad^S wrth gareS> ac mai y ec"* syrtliio ar ei wyneb i'r llaid ? pan gododdf arddercil0o ar ei gob newydd. 0 *>l»nt yn dilyn ar ei ol fel pe j?0(j *y»ed ar ol y maer i'r eglwys ? fod, ac SyfeilHon wedi d'od i'w gyfar- Cago.],. gofyn iddo ai wedi bod yn ffair8 erm kwnw *;gyflogodd yn Ei f rl ten Je°0 pacio ei bethau i fyned o'i ei fe Qew^ddT* gaUai ^ei tyw-gko euw feisL^v ol cyflogi gyda'i ^sfeheb tmlle ifyn'diddo ? yf hysbys'iaT h d7mi diyfei' rfteddi ddim p y ad yn rhad ae am heb \T ^mwr y mae ei was newyM "Wrddfo v 1 -^y «i gyf^iiad i'r Pel ei (Irwgi Yr Yrarnniwit y idda Pod mTl y ° l r &"»* ? ddiweddaf ar ol gweled. y Genedl wedi ttvnoj • *°d Gwmni y Gettedl fod^m i1iPertilu gwls^eni ? eu 571 sTnu yn fawr eu Wt yn gallu ^erthu mor rad ? y a ^aeth yn ngbylch cy^yr, ond fod y pria yn eithaf ^ilHamf1 ^asnachdy y Mri I i ;rce a mae v,.Aur, Caern rfon, y ifaian -iV Cael? yn° j ar ran ^y^^i myned itai SV1 gaj efe y nigger hefyd ? Eigiou Ma°^p'^ 7 Can°dd 1111 bardd iV ^da,r Hong ei hwyliau Y Traln marchog cefn y lli, haul y borau, Mq » cadarn, cry; r,teithwyr bawb yn llawen, ra r llong yn rhwygo'r don, baner gain ei bwylbren Yn chwyfio uwch ei bron. mor &1r STwyx t yn dawel, Snr>' j63 SwiQ'wl du uwch ben, n dyner wna yr awel, "wenu'n siriol wna y nen; Morio'n hwylus, e y ^ong> ar gefn y lli. Mae ^^yn brydnawn; mae cwmwl du, Xae r gwyt yujlylu, yu oer ei gri, Ac vn chwim drwy'r nef, ei ehanlyn daran gref; Ac at ar ei ffordd yn dod, em^ong yn gwneyd ei nod! ^sgydwa'r llong Fel Uwyn yn awr, Mae'r tonau fel ^ynyddau^mawr! Ofnadwy storm! ^yebryndod yw! Trugaredd dod— I Ili, 0 Dduw ? .Åeth heibio'r a:thvydd ar ei h at, I>aetK y mor a'r gwynt taitfd a U^yddiant mwy i'n UA^fawreddog yn ei waicb.
Y GAUAT.
Y GAUAT. A-deg be bAfe beryglas, ao tin sydd yn peri Uawer n i'a.^ddvn I? dn S^lad, yw y tymhor bw looiai yn alv "t8^ ediych yn mlaen at ei ddy k^eroe&j pryder ac ofn nid bychan i "^ahannl ydynt yn dioddef oddi- tW, V^wFlderau. Gydag ychydig ey^ieryd y feddyginiaeth. briodol °*ol yn 8ei«r osgoi llawer o boenau corph- JtieS^^ydermeddwI. y dail j-n dwyn rhyw I i bob an sydd yn naturiol o sydd. ya Efallai mai y rhai oir tvryzf vZ °ddiwrth Ddiffyg Treuliad a ? tteddyi? ;> a^eo o'r flwyddyn. Cynghor ^^yginiapn, 1 ade? y™8, cymeryd d'weyd Wrth ?IT:^iau- I*1""1 J rhaid i iy«iniaeth Nghymru pa m yw y h CWl ^r6U at y dolur na Pta "dertyijoj-j. tystiolaethau y jiiiloedd a Gwilym Eva oddmrth Quinine Bittecs a th. „ brofioo. diymwad a digonol o ion. 6°roldeby feddyginiaeth fyd-enwog «**frS ? dystiolaetbau befyd i efPeitb- ymoaodiaifaT r"16 fitters mevm g-wrthsefyll Kae y q, • ?°° math o anhwylderau gauafol. 7 *kanau Bitters yn nerthu a chadarnhan ^Tat oWwwuI1^d °'r cyfaneoddiad, y rbai •WsSSsfir-4 7 mwyaf agored i I 'rail dan^0^ eicb twyllo i gymeryd dim ■^ittei» Q-wilv3 Gwerthir Quinine I oteli r.fl 8C -^vans gan bob fferyllydd mewn Prisiaxi uchr^i ^6U anfonir ef am y Percheaocif*: .uoiongyrcliol oddi wrtb t ^°Qit)anT t Bitters Manufacturing '^ated, Llanelli, South Wales.
[No title]
Barry. <e<^r cy°^wyn llaw-weithfa sebon yn e<^$yn^i^^y^ Bute gydag nnfryd- Andrew% Reitbior Priiysgol St
[No title]
'G ^'ttioaic, 'Waf~?^'TH Beswch ac Anwtd gan f,^?pect lio-w Ty •^i0C0Ck-—Mi' Wilcox, 7, Sysbyswvrl fi ■ttttingbaia, a ysgrifena :— cy^ry7rnfh6ddfw gan ^wsmer ei fod wedi 'w^4f. ac ei ystod y pedair blynedd r a<3 wedi eu cymeradwyo i aethdra wy^0<^iddynt erioed ff^elu." ^wyd, (K^gaetb, Bronchitis, Peswch, pea°]) a ynialau, a'r boll anhwylderau ^)cock ^niongyrcbol gan "Wafers v* cind- 2s$T A mewn blychan ^yuWyj. 4b 6c, ac I la, Gwbelwch
MANIOtf.
MANIOtf. Y mae 150 o dramorwyr yn y fyddin Brydeinig. Enw teuluaidd y Frenkinas yw Este Guelph. Gall cawrfil gario gryn dair tunell o lwyth ar ei gefn. Fe gostia y gwirfoddolwyr tua 800,000p i'r wlad yn llynyddol. Ceir mwy o ddeillion yn yr Hispaen nag yn unrhyw wlad arall. Gwyddelod yw dwy ran o dair o brif swyddogion yr heddgeidwaid yn yr America. Dywed un newyddiadur fod tri o farwn- iaid yn gyru cerbydau ar ystrydoedd Llun- dain. Caiff gwraig yn Norway docyn rheilffordd am haner pris os bydd yn teithio gyda'i gwr. Un ffordd a gymer y Ffrancod i anfarwoli Renan yw galw un o ystrydoedd Paris ar ei enw. v'Dywed un gwyddonydd y bydd y Mor Marw yn un talp o halen yn mhen pum can mlynedd. 13Yn Llundain dadforiwyd 100 tunell o ymenyn a yrwyd o Awstralia. Gadawodd Melbourne ar y laf o Hydref. Cyfansoddodd Mr Gladstone, pan yn ddyn ieuanc, chwareugan, ond ni pherfformiwyd hi erioed. Yn amser Harri'r Wythfed pasiwyd cyf- raith nad oedd yr un person i gadw mwy na dwy fil o ddefaid. Cyn y caiff gwr yn Awstria ganiatad i fyned o'i wlad, rhaid iddo gael cydsyniad ysgrifenedig ei wraig. Cyfrifir fod cenedl yr Iuddewon yn awr yn rhifo o chwech i saith miliwn, ac na fu erioed o'r blaen mor lluosog. Yr oedd gwerth yr haiarn a allforiwyd o Brydain y flwyddyn ddiweddaf yn llai o 4,600,000p na'r flwyddyn flaenorol. Derbynia Golygydd y Times oOOOp y flwyddyn o gyflog; Golygydd y Daily News 4000p; Golygydd y Standard 3000p; Gol- ygydd y Manchester Guardian, 3000p. Dywedodd bamwr Ysgotaidd yn ddi- weddar ei bod wedi costio pum cant o bunau i'r wlad gadw dyn yn ngharchar yr hwn oedd wedi lladrata pum punt. Gwariodd Germani bron yr oil o'r 200,000,000p iawn a gafodd gan Ffrainc, ar ei hamddiffynfeydd. Er y rhyfel hono gwariodd 600,000,000p ar eibyddin yn unig. Yn Quito, yr unig dref sydd yn sefyll ar linell y cyhydedd, mae'r haul yn codi am chwech y boreu ac yn machludo am chwech yr hwyr bob dydd drwy 'r flwyddyn. Bu miliwnydd o'r enw Taliabei farw yn ddiweddar yn Milan. Yneiewyllysgadaw- odd 50,000 ffranc i ysgubwyr yr ystrydoedd ar yr amod eu bod i fyned i'w gynhebrwng yn eu dillad gwaith. Bu'r miliwnydd yn ysgubwr ystrydoedd unwaith.
CERT WYR LERPVVZu-
CERT WYR LERPVVZu- Bygythiai rhai o gertwyr Lerpwl sefyll allan yr wythos hon, am ychwaneg o gyflog. Terfynwyd yr anghydwelediad trwy ranu yr ymrafael.
Y SENEDD.
Y SENEDD. Cyhoeddwyd; proclamasiwn brenhinol nos Lun yn hysbysu y bydd i'r Senedd gael ei hagor ar yr 31ain o Ionawr nesaf.
TWYLLO CYMDEITHAS ADEILADU.
TWYLLO CYMDEITHAS ADEILADU. Bu Thomas Littlefair Haworth am bedair blynedd yn ysgrifenydd cymdeithas adeiladu "Y Goron" yn Sunderland. Am y tair blynedd nesaf bydd yn gwasanaethu ei Mawrhydi yn un o'i charcharau os y caiff fywyd. Cafwyd ef yn euog o dwyllo aelodau y gymdeithas yr oedd yn ysgrifen- ydd iddi. Yr oedd 115 o gyhuddiadau yn ei erbyn, a'r swm a ladrataodd yn 11,000p.
GENETH YN GWEITHIO FEL DYN.
GENETH YN GWEITHIO FEL DYN. Dygwyd achos anghyffr lin gerbron gwarcheidwaid Battle, Sussex, yr wythnos ddiweddaf. Darganfyddwyd fod geneth 19 mlwydd oed yn gweithio mewn dillad dyn ar fferm yn y gymydogaefch. Symudwyd hi i'r tloty, ac addefodd ei bod wedi g\veithio mewn gwahanol ffermydd yn Kent er y Nadolig diweddaf. Hysbysodd meistr y tloty fod dyn wedi cynyg ei phriodi ar ol clywed am ei hanturiaeth. Gorchymynwyd ei chyflenwi a dillad priodol fel y gallai { fyned o'r tloty.
Advertising
¡ "SaFE" CURE At holl YLDSRAU'K ELWLOD A'K AFU, ^yARNEft'S "SAFE" CURS AT WEN DID CYFFREDINOL A BRIGHT DIABASE. MILOEDD O DitiSTIilOiS'lALS yn datgan ei tiuweddau eu filio a geU'r eu haic^wiJio. M ei teuw um yn auwadadwy. Gwerthir g'a bob tf.rYÍ>'ydct a gwerthwr phys gwriiiatki. Dauk>u r Jbamphledya yn bi I rhod oud yagr^fsuu a H. U. Warnkr A' I CvF, Ltd., 88, Ola ke»w-lload, London, E.G
Advertising
IWI 11 n GOFYiNWCH AM HUGHES'S, BLOOD PILLS EDRYCHWCH" YN FANWL AR BOB BOX A byddweh yn SICR na byddweh yn cael eich twyllo, a GWELWCH Fod y fRADE MARK sef (Llun CALON) ar bob Blwch. Y mae un- rhyw Pills a gynygir yn Ddynwarediad a Thwyll, 0 AC NID YDYNT YR IAWN BELENAU, ac ni chynwysant yr un rhinweddau a v HUGHES'S BLOOD PILLS. GGCHELWCH Bersonau anonest y rbai a ymostyngent mor isel nes ymgeisio twyllo trwy werthu Pills diwerth yn lie y rhai liw. Y raae y RHYBUDD hwn yn ddyledus i'r Cyhoedd er ea- hamddiifyniad, er mwyn iddynt sicrhau. y Pills gwirioneddol, ac fel y gallont ochelyd y masnachdai hyny lie y mao- twyll yn cael ei ymarfer. tiOFYNWCU arri HUGHES'S BLOOD PILLS a Llun Calon ar bob blwch. Gwrthod. wch bob peth arall. GWAED d>RWG. O CURVY WAED DRWG. CURVY 1ROEN GLEFYDAU. I^OEN PEN V^ROEN GLEFYDAU. Jt OEN PElfl A FU DDRWG. T~\IFFTG TRATTT. Afu DDRWG JJlEFYG TRAULI ]\T ERV OUSNESS. WYNEGON. ii ERYOUSNESS. \JTWi'NEGON BILIOUSNESS, PLEFYDAU ARENAL ILIOU SNESS. VyLEFYDAU ARENAU (f:1- Y maent ya iachau pm b dd pobpeth arall yn inetliu. Heb oedi danfoner am Box o "Hughes's Bloog Pills" gyda Llun Calon ar y Label. Peidiwch cymeryd dim arall. Ar werth am Is lie, 28 9c, 48 6c. Gyda'r Post am Is 3c, 2s 11c, 4a 9s, oddiwrth y Perchenog, JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH.
Y FYNWENT.
Y FYNWENT. O! air sydd yn treiddio fel cledd trwy r galon, J Er hyny yn gartref i bawb o blant dynion. Ymdrechu am fywyd ond angeu orchfyg% Ac at rif y meirw bob dydd ychwanega: Yr uchel a'r isel yn gydradtt orweddant, Y tlawd a'r cyfoethog yr unwedd y syPth. iant, Mae'r oil yn terfynu rhwng muriau y beddrod, 'Does gwaith na dychymyg" ymhalladst i'w ganfod. Daeth gwanwyn yn siriol, holl anistn ya deffro, 4 ? 7 ddaear 1 gyd yn adfywio, 1 doiydd, y mynydd, y goedwig a'r Hyeiau, Ddatganant nerth bywyd trwy'r oil o'n terfynau; Ond niwl y glyn tywyll a dafla gysgodion ac anobaith dros gartref y meirwon. t y law dyner cariad, n w jj i0 a ^lodau nes swyno y llygad: Celfyddyd a natur yn ddyfal gydweithient, I gadw o r teimlad anhoffder y fynwent: Marwolaeth er, hyny drwy'r lie iietl teyrnasu, Yn gwneuthur pob mynwes yn brudd wrth ddynesu, Rhai garem yn anwyl sydd yno yn huno, A r galon glwyfedig ni fyn ei chysuro; Pob ymgais ddaearol o'r golwg yn cilio Gan adael yr enaid mewn tristyd i suddo. Ond yn ein cyfyngder uwchben yr olyef». In cymorth daw'r Iesu, ac eglur lefara: Mae hedd yn y syniad, mae nerth yn v I geiriau, 1 Sy'n lleddfu y gofid, yn symud yr ofnau Haul mawr y cyfiawnder sydd draw yn ym- godi, Gan di-oi y tywyUwch yn nefol oleuni. ^Tefe^dd7 Canfyddwn; gwrandawn ei A tiny dyffr^n galar yn fangre llawenydd. welaf mao'r eilwaith jm- A'r meirw o'r beddrod, myn a'u cyfodaf Y rhai a'm canlynant hyd angau yn ffydd- lon, G&nt eto deyrnasu a gwisgo y goron." Er syrthio mewn gwendid qvfodant yn nerthol, Yr unwedd a'u Prynwr, i fyw yn drag- wyddol, Yn lle y gofidiau, y croesau a'r dagrau, :r. Dedwyddwch diderfyn a nef ddigymylau. LIZZIE OWES#
[No title]
r Bu y Parch D. Dudlow, rheithor Marfe- artown farw yn 92 mlwydd oed. Bu yn dal 7 T, °4 ac yn cXwni t:i ddyledswyddau hyd 0 fewn yehydig- yn oJ. teddianolar adnoddau cnawd-gynyrchiol ten trosglwyddo nerth a grymusder arosol. —Health
Advertising
HETIAU isill) Is Ud f IsIId y YR AFl AUR. = Argraphwyd a chyhoeddwyd gan y Desrch- gogxon, Cwmni'r Wa4 WdSXl Gymreig Cy* yn eu swyddfeydd, Bala- clava Road, Caernarfon. I
-."i"',!. ^93.
"i ^93. [CYFADDASIAD 0 QUATRE VINGT TREIZE," UN 0 NOFELAU VICTOR HUGO]. PENNOD X. Yr oedd Llandenac a chwemil o'i ddyn- ion wedi gwersyllu yn y boreu yn Dol. Yr amcan oedd ganddo mewn golwg oedd sefydlu amddiftynfa ar y bryn gerllaw, ac aeth ef a rhai o'i swyddogion i wneyd archwiliad ar y lie. Er hyny, nid oeddynt yn ofni perygl yn fuan, ac felly pan glyw- sant dwrf y cyflegrau pan yn dychwelyd i'r dref gyda'r hwyr dyebrynwyd hwy yn arutbr. Prin y gallai yr hen Ardalydd gredu fod Gauvain wedi gallu cyrhaedd yno, gan y gwyddai ei fod yn bell oddi yno yn y boreu. Fel yr hysbyswyd y dyn o Paris gan y tafarnwr, Gauvain oedd yr hwn a ymosodai ar Dol, ac yr oedd wedi dwyn cyflegrau gydag ef, y rhai a daflodd filwyr afreolaidd Llandenac i'r dyrysweb mwyaf. Nid oeddynt wedi cael eu disgyblu ddigon i wrthsefyll y fath ymosodiad. Gwelai Gauvain nad oedd Llandenae wedi derbyn gwybodaeth fod rliuthr ar gael ei wneyd arno, ac yr oedd buddugoliaeth yn ymddangos fel pe yn ymyl, gan mai ar ei ochr ef yn unig yr oedd cyflegrau ar waith. Ar hyn disgynodd eagyd o wn mawr wrth draed Gauvain. Maent wedi eich gweled, ac yn anelu am danoch," ebai un o'i swyddogion wrtho, "gwell i chwi beidio myned i le mor amlwg." Na, na," atebai yatau, onid y fi sydd i flaenori: mi a gymeraf fy lie priodol." Yn y gwersyll arall cymerai ymddiddan le rhwng y cadfridog yno ae un o'i swyddog- Ion. A ydyw y ffordd i Dinan yn agored f" Ydyw, mi gredaf." Rhaid i ni encilio y ffordd hono oreu gallwn, ynte." Y maent wedi dechreu myned yn barod —wedi dianc am eu bywydau." Dylent fy-ied yn drefnus. Paham na ddefnyddiasoch y gynau mawr yn gynt" Fe gollodd y dynion eu penau, ac nid oedd modd eu cael i wneyd dim. Yr wyf wedi gyru gymaint o'r cludgelfi ag a allwn tua Dinan, a'r merched hefyd. Ond beth a wnawn a'r tri carcbaror ?" 0, y tri plentyn hyny ?" "Ie." Hwy ydyw ein hostages. Rhaid eu cymeryd i La Tourge." Wedi rboddi y gorchymynion hyn aeth yr Ardalydd at y gwrthglawdd, a chymerodd cyfnewidiad amlwg le yn ymddygiad y dynion. Yn awr ymladdent yn llawer mwy byw. Edrychodd allan a gwelai Gauvain. Y fo sydd yma, wedi'r cwbl," meddai, a chymerodd le y milwr oedd yn myned i anelu y gwn, a cheisiodd saethu ei nai deirgwaith, ond yn aflwyddianus bob tro. Y tro di- -weddaf saethodd ei het ymaith. .11 Mi'r yctwyf yn greadurtrwsgl," meddai, "pè buaswn wedi anelu ychydig yn is, wedi colli ei ben y buasai, ac nid ei het." Nid oedd Gauvain, ar y llaw arall/yn llai difrifol. Gwelai fod y sefyllfa yn prysur iWwid. Ar un ochr yr oedd o leiaf bum' mil o wyr, tra nad oedd ganddo ef ond deuddeg cant. Beth ddeuai o'r Gwerinwyr pe gwybyddai y gelyn pa mor wan oeddynt? Pe gwnai dynion Llandenac ruthr arnynt, byddent wedi eu concro ar unwaith. Bu y cadfridog ieuanc yn myfyrio am rai munydau beth oedd eisiau iddo wneyd. Gan ei fod yn enedigol o'r rhan hono o'r wlad yr oedd yn gydnabyddus a thref Dol. Gwyddai y gellid, ond myned trwy ystrydoedd y cefn, osod milwyr y tu ol i'r gelyn. Ond nid oedd y corphlu oedd ganddo yn ddigon lluosog i wneyd dwy adran gref. "Rhoddaf chwi mewn awdurdod yma," ebai Gauvain yn y man wrth ei brif swyddog, Cadwch- y saethu i fyny mor brysur ag y gallwch. Rhidylliwch y gwrthglawdd sydd o'ch blaen. Caawcb y gelyn ar lawn gwaith yn y cyfeiriad yma." Mi wnaf," atebai'r swyddog. "A ydyw yr holl dabyrddwyr yn ddi- anaf ?" cc Y dynt." "Y mae genym naw; cadwch ddau eich hun a rhoddweh saith i mi." Daeth y saith tabyrddyn yn mlaen mewn distawrwydd, a gwaeddodd y cadfridog, Catrawd y Cap Coch i'r blaen." Deuddeg o ddynion, ac un ohonynt yn ringyll, a ddaeth yn mlaen. Gelwais ar yr holl gatrawd," ebai Gauvain. Dyma ni," ebai'r rhingyll. 'Does yna ddim ond deuddeg." Nid oes ond deuddeg ohonom wedi ein gadael." O'r goreu," ebai Gauvain. Y rhingyll hwn oedd yr un a welsom yn nghoedwig Sandraie yn mabwysiadu, yn enw'r gatrawd, y tri phlentyn a ddangan- fyddwyd yn gorwedd yno gyda'u mam. Erbyn hyn yr oedd yr holl gatrawd ond y deuddeg hyn wedi cael ei medi i lawr. Safai gwagen gerllaw, a gorchymynodd Gauvain .i'r milwyr wneyd rhaffau gwellt i roddi o amgylch eu gynau, fel na fyddai iddynt wneyd twrf pe y tarawent yn erbyn eu gilydd. Yr ydym yn barod," ebai'r rhingyll. "Filwyr, tynweh eich esgidiau oddiam eich traed," ebai'r cadfridog. Nid oes genym rai," oedd yr atebiad. A chyfrif y saith tabyrddwr, yr oedd yno bedwar ar bymtheg o ddynion, a gwnai Gauvain ei hun yr ugeinfed. Cyfarwydd- odd y cadfridog iddynt gerdded y naill y tu ol i'r Hall, Gauvain yn gyntaf, yn cael ei ddilyn gan y tabyrddwyr. Felly, tra yr oedd y cyflegrau yn ateb eu gilydd, ym- lwybrai yr ugain dyn drwy yr ystrydoedd culion. Fmddangosai y dref iddynt fel pe buasai wedi cael ei gadael yn llwyr. Ym- guddiai y preswylwyr yn selerydd eu tai, gan na feiddiai yr un ohonynt ddangos ei hun gan faint ei ofn a'i ddychryn. Yn mhen yr ugain munyd daeth y fintai fechan i heol gul a agorai i'r brif ystryd, lie yr oedd yr ymladd yn myned yn mlaen, a daethant i olwg y gelyn. Ni chanfyddwyd yr ymosodwyr, gan eu bod yn sefyll yn y tywyllwch. Rhoddodd Gauvain orchymyn mewn ton isel i'r milwyr dynu y rheffynau oddiar eu gynau, ac i'r tabyrddwyr fod yn barod. Distawodd y cyflegrau am eiliad, ac ar hyny gwaeddodd Gauvain mewn llais uchel ac awdurdodol, oedd yn glywadwy uwchlaw twrf yr ymladd:—" Dau gant o ddynion i'r dde, dau gant i'r aswy, a'r gweddill yn y canol!" Curwyd saith o dabyrddau, a thaniwyd deuddeg o lawddrylMau. Rhoddodd Gauvain y waedd axferedig gan y Gwerinwyr,—" Y fidog yn unig; i lawr a nhw." Yr oedd yr effaith yn drydanol. Taflwyd holl fyddin Llandenac i'r benbleth fwyaf ac aethant yn hollol aflywodraethus. Credodd y gwladwr diniwed fod bydd:n arall wedi dod 6'r tu cefn iddynt, a'u b( d hwythau yn awr rhwng dau dan. Yr n pryd Authrodd y gweddill o fyddin Gauv'a a adawodd dan ofal ei swyddog yn mlaen am y gwarcliae, a phan welodd y gelyn hyny rhuthrasant hwythau ymaith am eu bywyd. Nid oedd yn ngallu Ardalydd Uandenae na'i swyddogion i'w rhwystro. Cyn.pen ychydig runydau yr oedd yr am- ddiffynwyr wedi gadael y brif heol i dru- garedd yr ymosodwyr. Bhedai y gwladwyr o'r dref fel dwfr o ogr. Llandenac oedd un o'r rhai olaf i gilio, a gafalodd yn gyntaf wneyd y gynau mawr yn hollol ddiwerth. Cerddai yn dawel, gan sibrwcl wrtho ei hun, "Nid yw y gwladwyr hyp fawr o worth; rhaid i ni gael y Saeson." Cafodd Gauvain fuddugoliaethlwyr. Trodd at weddill Catrawd y Cap Coch, a dywed- odd, Er nad oes ond deuddeg o honoch, yr ydycb cywtal a miL" Gw^rtiifawrogwyd y geiriau hyn gan y rhingyll a'i ddynion, gan eu bod ar y pryd mor dderbyniol ac addurn milwrol. Goleuwyd fflamdorchau, a chwiliwyd y dref yn fanwl. Yr oedd bron bawb allai wneyd hyny wedi dianc oddiyno. Gor- weddai y clwyfedigion a'r meirw blith draphlith ar y brif heol. Ond sylwodd Gauvain ar ddyn a. ymladdai fel teigr mewn un gongl. Gwelodd ef yn defnyddio ei ddryll i saethu amryw weithiau: ac wedi i'w argydion ddarfod defnyddiai eifon i guro ei wrthwynebwyr hyd nes y torodd. Yna cymerodd ei gleddyf mewn un Raw, a llawddryll yn y llall, ac ni feiddiai neb fyned yn agos ato. Yn ebrwydd syrthiodd a'i lwynau ar y pared, wedi ei glwyfo gan ergyd oddidraw, mae'n amlwg ond daliai ei afael yn ei lawddryll a'i gleddyf. Rhoddodd Gauvain ei gleddyf ei hun dan ei fraich, ac aeth ato. "Rhoddwch eich hun i fyny," meddai wrtho. Edrychai y dyn arno yn graff, ond ni ddy- wedodd air. Rhedai ei waed drwy ei ddillad. <' Yr ydych yn garcharor i mi," ebai Gau- vain eilwaith. Ni roddodd y dyn unrhyw atebiad iddo. Beth yw eich enw ? Mab y Tylwyth Teg y gelwir fi," ebai'r dyn. I IWel, yn wir, bachgen dewr ydych," ebe Gauvain, gan estyn ei law iddo. Rhoddodd y dyn ddolef, "Byw fyddo'r Brenin," ac yna casglodd ei holl nerth, a chododd ei freichiau i fyny. Anelodd y llawddryll am galon Gauvain ag un llaw, a cheisiodd ei daraw a'r cleddyf gyda'r llall. Gwnaeth yr ymosodiad gyda sydynrwydd a ffymigrwydd teilwng o'r teigr; ond gwaith- redodd rhyw un arall lawn mor ddiymdroi. Y marchog a gyfarfuasom o'r blaen ydoedd, yr hwn a gyrhaeddodd i'r fan y munyd hwnw, yn hollol ddiarwybod i Gauvain. Gwelodd y gwladwr yn codi ei lawddryll a'r cleddyf, a thaflodd ei hun rhyngddo a'r cad- fridog ieuanc. Pwy allai fod ? (rw barhau.)
Y DEISEBAU.
Y DEISEBAU. HEXHAM. diseddu'r AELOD tomaedb. Yn yr etholiad cyffredinol dychwelwyd Mr Clayton (C) yn aelod Seneddol dros Hexham gydag 82 o fwyafrif. Rhoddwyd deiseb i'w ddiseddu, a gwrandawyd hi gan y Barnwyr Cave a Vaughan Williams, Nos Fawrth rhoddwyd y ddedfryd ar yr acbos. Barnent fod yr aelod i gael ei ddiseddu oblegid fod arferion llygredig wedi cael eu cyflawni. Condemniai y bamwyr yn ddi- arbed picnics a chyfarfodydd adloniadol politicaidd, a hyderent y#byddai i'r dyfarn- iad ar y ddeiseb hon gario dylanwad iachus ar y modd y dygir etholiadan yn mlaen yn y dyfodol. Byddai i amryw o bersonau a gaed yn euog o arferion llygredig gael eu difreinio rhag pleidleisio. DEHEUBARTH MEATH. Rhoddodd y Pamelliaid ddeiseb yn erbyn dychweliad Mr Patrick Fullam, yr aelod gwrth-Barnellaidd dros ddeheubarth Meath. Bu y prawf yn parhau am ddyddiau lawer. Ddydd Mercher traddodwyd y ddedfryd, yr hon oedd i'r perwyl fod yr aelod yn cael ei ddi-seddu. Condemniai y Bamwr yr offeir- iaid yn ddiarbed am y dylanwad anheg oedd- ynt wedi eu arfer yn yr etholiad. WORCESTER. Cafodd y ddeiseb i ddirymu etholiad yr Anrhydeddus George Allsopp, yr aelod Ceidwadol dros Worchester, ei gwrando ddydd Mawrth o flaen y Barnwr Pollock a'r Barnwr Wills. Y mae y deisebwyr yn cy- huddo goruchwyliwr Mr Allsopp, neu ryw berson yn gweithredu drosto, o lwgr-wob- rwyaeth, tretio, personoli, ac ymarferiadau anghyfreithlon ereill. Tystiodd dau eu bod wedi derbyn 3s 6c am bleidleisio dros Mr Allsopp, tra y dywedodd un arall oi fod wedi cael cynyg 4s am wneyd hyny, ond ei fod wedi gwrthod. Tystiodd Albert Rigley ei fod wedi gweled deuddeg o ddynion yn cael haner coron yr un am eu pleidleisiau. Go- hiriwyd y prawf.
RHINWEDDAU IACHAOL " QUININE…
RHINWEDDAU IACHAOL QUININE BITTERS" GWILYM EVANS. Gan GWILUI Evans, dyna r gwir, Mae Bitters pur rhagorol,' Y goreu i leddfu poen a chur A fedd yr oes bresenol; Bum flwyddi maith yn wael fy Ilun, Yn nychu gan afiechyd. A rhoddaf yma'm taimlad blin .ean dan arteithiau adfyd. Rhyw boenau dig a deimlwn i Bob dydd a nos yn gyson, Ac fel pe bai gofidiau lu Yn gwasgu ar fy nghalon; A mi heb wybod b'le i droi, Gan drymed oedd fy alaeth, A m holl obeithion wedi ffoi Am gaffael meddy giniae th— Mewn papyr newydd ar ryw nawn, Y mefiais yn ddamweiniol, Acynddo gwelais hanes llawn Y Bitters pur rhagorol; Mi brynais un botelaid fawr, A gwnaethum benderfyniad, Mai drachtio wnawn nes dod yn gawr, A chafEael llwyr adferiad. Fy holl obeithion droes yn ffydd Wrth ddrachtio'r Bitters maethlon, A minau'n gwella o ddydd i ddydd Wrth ddilyn ar y moddion; Gwybydded pawb mai'r Bitters hyn Effeithiodd fy adferiad; Bydd dydd eu prawf yn 'smotyn gwyn t Ar ddalen fyw fy nheimlad. Pe gallwn, hongiwn yn y nen Y Bitters a'u holl glodydd, Yn gynffon wrth bob seren wen Dramwya drwy'r wybrenydd; A phlygu'r fellten fflamgocn wnawn Yn eirias dan lyth'renau, Rhoi Quinine Bitters amlwg iawn Ar belmynt y cymylau. Yn udgorn mawr y daran gref Yr uchel floeddiwn beunydd, Y Quinine Bitters, nes bai'm lief I'w chlywed drwy'r holl wledydd Y Quinine Bitters uchel glod Fo'n hysbys i genhedloedd, A GWILYX Evans byth gaiff fod Yn anwyl gan y bobloedd. Derbyniodd yr "vBgrifenydd lea mawr drwy ddefnyddio Quinine Bitters, ac nis gall ddyweyd gormod am eu rhinweddau. ddefnyddio Quinine Bitters, ac nis gall ddyweyd gormod am eu rhinweddau. Thomas Geiffiths. Llanfihangel Rhosycorn, Chwef. lleg, 1890. Quinine Bitters Gwilym Evans yw'r fedclygii- iaeth oreu i adfer iechyd, a'i ddyogelu trwy adfer nerth ac egni i'r rhanau hyny fyddant wedi gwanychu trwy afiechyd hirbarhaol. Mynwch weled enw Gwilym Evans ar bob label, stamp, a photel. Gwerthir gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c yr un. Dwbl maint, 4s 6ch. Q-oruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Gellir hefyd ei gael yn ddidraul am y risiau uchod, oddiwrth y perchenogion:— puinine Bitters Manufacturing Company, Qmited, Llanelly, South Wales.
[No title]
Darganfyddwyd cyrph pymtheg o fabanod yn nhy John Watkin, yn Sydney, Awstralia. Traddodwyd Watkin a'i wraig i sefyll eu prawf ar y cyhuddiad o ddynladdiad. Byddent yn arfer cymeryd babanod i'w magu. Taflwyd 400 o ddynion allan o waith yn nglofa Castle Eden, drwy i afonig dori i mewn yno. Amddifalwyd y trigolion hefyd o'u cyflenwadau o ddwfr oherwydd yr un achos. LINEN LASTS LONGER, Radiant in its whiteness! Deligtful in its j sweetness! And will keep much longer clean j when soaked and washed in a foaming lather of | Hudson's Dby Soap. Hudson's preserves the ] most delicate lawns, laces, muslins and fine | underwear from injury, and it will not fray cuffs f or jag collars. Try a packet, ymC U never la ck if #
Y CH WARELWYR.;
Y CH WARELWYR. YR UNDEB A BYRDDAU CYF- LAFAREDDOL. CRYFHAITR UNDEB. Cyfarfod brwdfrydig yn Neiniolen. Nos Fercher cynhaliwyd y cyfarfod cyn- taf o gyfres o gyfarfodydd fwriedir gynal yn ardaloedd y chwareli er anog y gweithwyr i ymuno ag Undeb y Chwarelwyr. Tua blwyddyn yn ol cynhaliwyd cyfres o gyfar- fodydd cyffelyb, ac y mae yn dda genym ddeall fod lluaws wedi ymuno a'r Undeb mewn canlyniad. Y mae y pwyllgor wedi bod yn gweithio yn ddiwyd er gwneyd i'r cyfarfoaydd hyn fodynllwyddiant, ac ymae yn bleser gweled eu bod wedi eu coroni a llwyddiant helaeth mor bell ag y mae a fyno y cyfarfod cyntaf. Eiddunwn iddynt yr un llwyddiant yn y dyfodol; a gallwn sicr- hau ein darllenwyr, os bydd yn bosibli rai o'r boneddigion ag y maent mewn gohebiaeth a hwynt ddod i'r cyfarfodydd, y bydd i chwarelwyr Llanberis a'r cylchoedd gael gwledd flasus. Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn Ysgoldy y Bwrdd, Deiniolen. Ni welsom yr ysgoldy erioed mor Uawn ag oedd y nos- waith hon, ac yr oedd y cyfarfod yn un o'r rhai mwyaf brwdfrydig y buom ynddo er's peth amser. Yr oedd yn amlwg fod y dorf braidd yn i siomedig, gan eu bod yn disgwyl Mr loan Williams, goruchwyliwr Glowyr Gooledd Cymru, yno i anerch y cyfarfod. Methodd Mr Williams a bod yn bresenol oherwydd fod anghydwelediad wedi codi yn y dosbarth y mae ef yn oruchwyliwr, a'i fod dan angen- rhaid i fyned i geisio d'od a'r meistriaid a'r gweithwyr at eu gilydd. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr W. Elias Williams, Penisa'rwaen, yr hwn a sylwodd mai peth dymunol oedd iddynt unwaith yn rhagor gael cyfarfod a'u gilydd i drafod gwahailol bynciau mewn cysylltiad a llafur. Dyna yw y swn sydd i'w glywed yn mhob- man yn awr-rhyw gynhwrf rhwng cyfalaf a Ilaf ar-rhwn-, meistr a gweithiwr. A dymunai ef argraphu ar eu meddyliau y pwysigrwydd mawr oedd i'r gweithwyr fod yn fyw i'w buddianau, a chofio fod ganddynt yn awr lais mewn rheoli materion gwladol, -i ethol cynrychiolwyr yn mysg eu hunain, os dewisent, i'r Senedd neu i'r cyngor sirol, neu unrhyw fwrdd cyhoeddus arall (cymer- adwyaeth). Er hyny, y mae tir mawr eto i'w enill, ac un o gweatiynau mwyaf pwysig y dyfodol fydd sefydlu byrddau cyflafar- eddol (cymeradwyaeth). Dylai y gweithwyr ofalu am edrych pwy fydd yn pleidleisio, a pha fodd y pleidleisir yn nghyfarfod nesaf Cyngor Sirol Caernarfon, a chono pan ddaw yr etholiad sut y bydd yr aelodau wedi ym- ddwyn. Gwnaeth sylwadau ar dalu cyf- logau yn wythnosol, a symudiad y property qualific,ation yn nglyn a. bwrdd gwarcheid- waid. Wrth sylwi ar hyn dywedodd am amgylchiad a gymerodd le yn ddiweddar yn mhlwyf Llanddeiniolen, pryd y darfu i rywun gael allan nad oedd qualification gweithiwr a gynygiwyd yn ddigon o 6s, yr hyn fu yn foddion i'r gweithiwr hwn gael ei rwystro i fod yn aelod o fwrdd y gwarcheid- waid (" Cywilydd.") Rhoddodd anogaeth daer ar i'r gweithwyr oil ymuno a'r Undeb. Mr Thomas Bees Owen, Glasgoed, a gyn- ygiodd y penderfyniad canlynol:— "Fod y cyfarfod hwn o'r fam ma. y dull hawddaf, tawelaf, a mwyaf llwyddianus i'r chwarelwyr allu sicrhau yr hyn sydd resymol a theg mewn cyflog, amser gweithio, a pharch, ydyw trWy ddyfod yn aelodau o'r Undeb; a'n bod yn penderfynu gwneyd yr hyn a allom er oryfhau yr Undeb, er ein galluogi i gewo y oyf- ryw mor fuan ag y byddo modd." Yr oedd yn ddrwg ganddo feddwl eu bod dan angenrhaid i gynyg penderfyniad o'r fath. Yr oedd yn rhaid addef fod yr Undeb wedi colli tir yn Chwarel Dinorwig i'r hyn fu flynyddau yn ol; ond yr oedd yn hyfryd- wch ganddo ar yr un pryd ganfod adfyw- iad a gweled y rhif yn cynyddu. Olrhein- iodd hanes gweithwyr yn yr oesau a basiodd, —fel yr oeddynt wedi enill tir yn raddol, ac fel yr oedd y meistriaid yn d'od i welad gwerth mewn undeb yn mysg gweithwyr. Wrth fod yn unol yr oeddynt yn enill parch ac ymddiried y cyhoedd. A phwy ddylai gael eu parchu ond y rhai oedd yn mentro eu bywydau, un ai yn mherfedd y ddaear neu yn crogi wrth raffau ar ddanedd y creigiau Gan mai mater cyffredinol oedd ganddynt mewn gclwg, dylent ymuno yn gyffredinol i'w sicrhau (cymeradwyaeth). Mr Thomas D. Williams, Brynteg, wrth gefnogi y penderfyniad uchod, a sylwodd fod pob symudiad mawr a phwysig bob amser yn myn'd yn mlaen yn raddol, ac wrth fyn'd yn raddol a phwyllog byddis yn sicr o gael yr hyn sydd deg a rhesymol- cyflog teg, ac amser gweithio priodol, a pharch gany meistr. Os am enill y tri pheth yna ni ellid gwneyd dim gwell nag ymuno a'r Undeb. Dylai gweithwyr gofio mai nid peth ar gyfer streics yn unig ydyw un- deb, ac nid peth i ymuno ag ef pan y mae ystorm yn d'od. Fe fu amser pan ofynwyd iddynt, Bargen ai Undeb f" Yr oedd yn dda ganddo allu dyweyd iddynt oil yr adeg hono ddyweyd "Undeb." Canlyniad hyny fu iddynt gael eu hiawnderau ond yn mhen amser wedi i bethau dd'od yn well, Uithrodd rhai yn araf, ac aethant, un y ffordd yma, a'r llall y ffordd arall. Canfu y meistriaid hyn, a chymerasant fantais ar y rhwyg, ac aethant i dynu'r cyflogau i lawr, a myn'd a llawer braint arall oddi- arnynt. Da fyddai iddynt gymoryd y fan- tais yn awr, pan y mae tawelwch, ac nid rhuthro pan ddaw'r ystorm. Dylent, o barch i goffadwriaeth ami i hen gyfaill, ymuno a'r Undeb, a hyderai ef welcd llawer o ffrwyth ar y cyfarfodydd hyn. Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol. Mr G. GRIFFITHS, Cefncoed, a gynygiodd yr ail benderfyniad, yr hwn oedd fel y can- lyn Fod y cyfarfod hwn, yn ngwyneb y ffaith fod y meistri wedi gwrthod, mewn iaith gref, ar fwy nag un oynyg, i ddyfod i ddealltwriaeth a ni fel gweithwyr ar safon cyflog, &a., ein bod yn penderfynu arfer pob moddion teg a rheaymol ya ein gallu, ie, gwasgu yn gryf ar ein oynrychiol- wyr Seneddol, ac ereill. i gael gan Senedd ein gwlad sefydlu bwrdd oyflafareddol er pender- fynu achoaiono angkydwelediadau rhwng meistri a gweithwyr. Gofidiai mai y gallu sydd wedi arfer pen- derfynu anhawsderau yn ein gwlad yn rhy ami ydoedd arian: os gallai y meistriaid ddal allan yn hwy na'r gweithwyr trwy fod yn feddianol ar gyfoeth mawr—neu y gweithwyr o'r ochr arall, os byddai gan eu hutidebau gronfa ddigon cref-dyna'r blaid fyddai yn debyg o gario'r dydd. Amcan mawr byrddau cyflafareddol oedd ceisio gwella pethauyny wedd hon, a gadaeli reswm a thegwch gael eu lie priodol pan gyfodai anghydfod. Dylai gweithwyr wrth barotoi ar gyfer y byrddau hyn pan y ffurfir hwynt fod yn ofalus yn rghylch eu ffeithiau rhag iddynt niweidio eu hunain. Rhoddodd engraifft fel yr oedd gweithwyr perthynol i Gwmni Gwaith Alkali yn Widnes wedi rhoddi tystiolaeth gamarweiniol o flaen y ddirprwyaeth ar lafur, ac ir meistriaid ddod a rhai eraill yno i wrthbrofi yr hyn ddywedwyd yn flaehorol. Ond iddynt hwy fod yn unol, ac yn deall eu gilydd, nid hawdd fyddai i neb eu dyrysu, ar ol hyny; anogai y rhai nad oeddynt eisioes wedi gwneyd hyny i ymuno a'r Undeb ar unwaith, ac i gofio mai dyna y ffordd hefyd i gael Bwrdd Cyflafareddol (cymeradwyaeth). Mr Robert Jones, Fool Gron, a eillodd y penderfyniad, yr hwn, meddai, oedd yn I hollol deg a rhesymol, a chredai ef fod y ffaith mai y gweithwyr sydd yn cynyg y byrddau yn myned yn mhellach o'u plaid. Gobeithiai y byddai i'n haelodau Seneddol gymeryd y mater i fyny a deddfu arno. Yr oedd yn dda ganddo weled y cwestiwn m edi dod o flaen Cyngor Sirol Caernarfon, a gobeithiai y byddai cynrychiolwyr y gweith- wyr yn bur i'w haddewidion yn y cyfarfod I nesaf (cymeradwyaeth uchel). Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol. Mr W. Roberts, Maentwrog, a ofidiai nad I oedd Mr John Williams yn bresenol, ond er fod Mr Williams yn absenol yr oedd yr achos yrun, ac yn achos pwysig, a'u perygl mawr oedd peidio ei ystyried yn briodol. Cofiai yn dda adeg sefydliad yr Undeb, a'r helynt fawr oedd yn nglyn ag ef. Helynt fawr wrth ei eni llawer yn dweyd mai marw wnai (chwerthin), a llawer wedi ym- ddwyn ato yn bur anhebyg i'r modd yr ymddygent at blentyn; ond byw y mae eto, a gobeithiai mai byw fyddai (clywch, clywch). Pan yr oedd yn debyg i ystorom, dywedent y byddai yn sicr o farw, cfnd yn ol ei brofiad ef dyna yr adeg gan fyddai yu fwysf blodeuog. Yr oedd pawb am ddod yn Undebwyr yr adeg hono, hyd yn nod y rhai fyddont wedi manteisio ar bob cyfleustra i'w wawdio a'i gondemnio. Yr oedd yn dda ganddo weled y ffermwyr yn deffro ac yn dechreu cynhyrfu a ffurfio un- deb. Yr oeddynt hwy wedi bod dipyn yn ddirmygus o'r Undeb, ond y maent hwythau erbyn hyn wedi dod i wel'd ei werth ac yn gweithio eu goreu i ffurfio un iddynt eu hunain. Llawenychai wrth wel'd yr apel at amaethwyr "da eu byd" i helpll rhai tipyngwahanol eu sefyllfa, ac awgrymai ar fod i'r chwarelwyr fod yr un fath—yr un sydd yn enill eyflog mawr i helpu yr un sydd yn cael ond ychydig i gael codiad, ac nid gadael iddo a bod yn foddion, gan fod ei gyflog ef yn ddigon. Beth wnant pan nas gallai gormes a gorthrwm ymresymu ? Yr oedd yn anmhosibl iddynt hwy wneyd dim ond gwasgu. Beth oedd cadernid y gweithwyr ? Hwy oedd cynrychiolwyr llafur ? Cyfalaf sydd yn edrych ar ol pob- peth yn awr-paham na fuasai felly gyda llafur ? Os aiff gweithiwr i edrych i mewn neu holi am rywbeth yn awr, teflir rhyw air brwnt i'w wyneb-ei fod yn byw mewn ty rhy ddrud neu yn gwisgo yn rhy dda, neu rywbeth cyffelyb. Glywyd erioed son am weithiwr yn beio ei feistr am drafaelio first class?' Ac eto dyna hwy yn beio y gweithwyr yn y fan. Dyma Fwrdd y Gwarcheidwaid yn cael ei reoli gan bobl heb y radd leiaf O. gydymdeimlad a'r tlawd. Dylai gweithwyr gael pob hiwl i fyn'd i mewn i bob peth ag y mae a wnelo masnach ag ef. Peth arall oedd yn warth i Brydain oedd gweithwyr tlodion. Ni ddylai y fath beth fod. Ni ddylai tlodi fod ond yn mysg rhai wedi eu hamddifadu o gyfalaf neu nerth i lafurio. Anogai hwy i uno a'u gilydd, ac nid myned yn llechwraidd at y stiwardiaid. Os ydyiat, yu dweyd geiriau mwyn, t.Øu gwir amcan yn ami yw cael y gweithwyr dan eu traed. Wrth ymuno mae y pethau a ym- ddengys ar y cyntaf yn ffaeleddau yn myned o'r golwg yn yr egwyddor fawr ei hun. Gobeithiai y byddai iddynt oil ymuno a'r Undeb er ei gryfhau, ac ond gwneyd hyny yn ieuanc byddant yn sicr o weled gwerth ynddo ya y diwedd (cymeradwyaeth). Terfynodd y cyfarfod gyda'r diolchiadau arferol. Ymddengys adroddiad o gyfarfod nos Iau yn Llanberis, yn y Genedl nesaf.
Y LLONG NEWYDD "MAGWEN."
Y LLONG NEWYDD "MAGWEN." Allan o iard adeiladu y Mri Schlesinger, Davis, a'u Cwmni, Wallesend-on-Tyne, ddydd Sadwrn diweddaf, cafodd y llong hwyliau hardd Magwen ei hyrddio i't dwfr. Y mae y llestr hon wedi ei gwneyd o ddur, ac adeiladwyd hi ar archeb y Mri Edward Richards, Fenchurch street, Llundain. Gwelir prospectus yr adeiladwyr yn e;n ool- ofnau hysbysiadol. Bydd i'r llestr gario tua 2500 o dunelli. ac y mae wedi ei hadeil adu gogyfer k dosbarth 100 Al Lloyd. Y cadben fydd Mr Owen Lewis, Pwllheli, yr hwn hefyd a fu yn arolygu y gwaith o'i hadeiladu. Bydd iddi ar fyrder gychwyn am San Francisco. Cafodd y seremoni ddyddorol o "fedyddio" y llestr newydd ei chyflawni gan Mrs Davis, Newcastle. Mown ciniaw a gymerodd le yn swyddfa'r adeiladwyr ar ol y seremoni, dymunodd Mr Davis, mewn araeth alluog, bob llwyddiant i berchenogion y Magwen, a hyderai y byddent yn alluog i osod ychwaneg o archebion yn fuan yn nwylaw yr adeilad- wyr. Yna cynygiodd iechyd da perchen- ogion y llastr, gan gysylltu a'r llwncdestyn enw Mr Richards, y perehenog arolygol. Mewn atebiad, siaradodd Mr Richards yn uchel am y gwaith da a wnaed ar y Magyocn. Yr oedd pobpeth wedi ei gario allan yn y dull goreu yn bosibl; ac yr oedd Mri Schlesinger, Davis a'i Gwmni, wedi troi llong allan ag oedd wedi, ac nid oedd dim amheuaeth a fyddai, yn gredyd iddynt hwy a'r perchenogion. E fe a obeithiai cyn bo hir y medrai roi ychwaneg o archebion iddynt, ac efe a obeithiai yr ymunai y cwmni ag ef i yfed iechyd yr adeiladwyr ac hefyd un Mrs Davis, yr hon y diolchai iddi am y modd cymeradwyy cyflawnodd y cidefod fodyddiol. Atebodd Mr Davis yn helaeth, a thystiodd yn uchel iawn i gymhwysderau y Cadben Lewis fel dyn a wyddai ei waith, ac efe addefodd eu bod yn ddyledus iddo am lawer o help i berffeithio y llong. Ar ol iddynt yfed iechyd y Cadben Lewis, efe a ddiolch- odd i Mr Davis yn gynes am y parch a dal- wyd iddo, gan sylwi ei fod wedi cael ei fodd- hau yn anghyffredin gyda'r Magwen ac fod pobpeth yn y llong yn dda a sylweddol
GORMES BWRDD YSGOL.
GORMES BWRDD YSGOL. Y mae holl Wimblington megis mewn cyflwr o wrthryfel yn erbyn gwaith y Bwrdd Ysgol lleol yn diswyddo Mr Tunnicliffe, ysgolfeistr, am ddim trosedd mwy na chymeryd rhan yn y frwydr etholiadol ddi- weddar yn adran Caergrawnt. Er mwyn protestio yn erbyn y weithred haerllug a gormesol hon, fe alwyd cyfarfod cyhoeddus. Yr oedd pabell enfawr wedi cael ei chyfodi, a'r cyfarfod ar ddechreu, pan y darfu i ryw ddyhirod maleisus ryddhau'r cortynau a dymchwelyd y babell yn bendramwnwgl. Ond er gwaethaf y trychineb hwn, aethpwyd yn mlaen gyda'r cyfarfod, eithr yn yr awyr agored. Yr oedd y cynulliad yn aruthrol a'r holl weithrediadau yn frwdfrydig, a chariwyd y penderfyniadau gydag unfrydedd, y rhai oeddynt yn datgan, mewn effaith, nid anfoddlonrwydd yn unig, oherwydd ymddygiad y Bwrdd Ysgol, ynghyda pharhad ymddiriedaeth yn yr athraw. diarddeledig, eithr hefyd pender- fyniad i ddefnyddio pob moddion cyfreith- lawn i sicrhau mwyafrif o aelodau yn ethol- iad nesaf y Bwrdd a fynant ail-sefydlu yr athraw yn ei swydd. Tuagat sicrhau hyny, y mae pwyllgor etholiadol grymus wedi ei ffurfio. Yn y eyfamser, y mae Undeb yr Athrawon yn talu i Mr Tunnicliffe ei gyffog yn llawn allan o'r Gronfa Gynaliaethol, ac efo a erys yn y pentref hyd fis Chwefror nesaf. Onid oes yma wers a chefnogaeth i bentrefwyr ae. ardalwyl- cymreig sydd yn dioddef o dan ormes taeog bodach, wedi ym- chwyddo ar eu tipyn llwyddiant yn y byd a'u dyrchafiad i fod yn aelodau Byrddau Ysgol.
[No title]
Fe wneir achwyniad cyffredinol fod y rhai fwyaf o cocoas yn anrheuliadwy; ogymaint an fod y broffeswriaeth feddygol wedi dangos yg ddiweddar fod yr alkalies a ddefnyddir yn rhy ami gan wneuthurwyr tramor, yn nghy- a'r mater bras, yn ffurfio sylwedd sebond aidd sydd yn hynod o beryglus i iechyd. Gyda golwg ar cocoas a wneir gyda gofal, megis efiddo Mr Cadbury, nid yw y gwrth- wynebiadau hyn yn bodoli.- fvhitehall Review. DON'T DIE IN THE HOUSE.—" Rough on Rats clears out Rats Mice, Cockroaches, Water Bugs, Flies, Beetles Moths, Ants, Bed- bugs, Hen Lice, Insects, Potatoe Bugs, Sparrows, Skunks, Weazel, Gophers, Chipmunks, Mole?, Musk Rats, Jack Rabbits, Squirrels. 1id and Is boxes, at Chemists. "Rough on Corns" gives instant relief. 8d at Chemists.
COLLI EfGLUDGELFI.
COLLI EfGLUDGELFI. Pan gyrhaeddodd Mr Alfred Lenni ben ei daith yn Dover, nis gallai gael hyd i'w gludgelfi. Ystyriai y dylai cwmm y rheil- ffordd fod yn gyfrifol am danynt, ac felly erlynodd hwynt yn llys y manddyledion. Gorfodwyd y cwmni i dalu 25p tuagat wneyd colled Lenni i fyny.
GENETH YN GWEITHIO FEL DYN.
Dal yn ddrwg y mae golwg Syr William Harcourt. 0 Gwna Archesgob Caerefrog apel am 12,000p er cynorthwyo ysgolion dyddiol yr Eglwys yn yr archesgobaeth. Cafwyd Mr T. G.,Wilson, un o ustusiaid Cumberland, wedi marw ar gadair yn ei dy. Llyncodd dyn yn Edinburgh lotion oedd ganddo at friw ar ei goes mewn camgymer- iad yn lie whisci, a bu farw. Torodd tan allan mewn masnachdy yn Glasgow, a gwnaed gwerth 40,000p o golled. Ymunodd y Due Westminster a phwyll- gor y gymdeithas i losgi cyrph yn lie eu claddu. Nid rhaid i Davies'3 Cough Mixture wrth ganmoliaeth y mae wedi bod o flaen y cyhoedd er's blynyddau, ac y mae y perelienog drwy draul a llafur di-ildio wedi ei beriieilhio yn y fath fodd fel y maeyncael ei gydnabod fel darganfyddiad gwerthfawr at yr anhwylderau uchod. Y mae miloedd lawer wedi cael iaoliad, ac yn gwneyd eu goreu i'w gymhell i ereill sydd yn dioddef. Ni raid cymeryd ond un dose er proii ei ddylanwad uniongyrchol yn rhvddhau y phlegm, yn clirio y ,,yrc llais, yn cynhesu y frest, gan weithio pob anwyd a chxygni ymaith. Ni raid i neb ofni canlyn- iadau anwyd a phesweh ond gofalu fod potelaid o Davies sC ough Mixture yn y ty, Bydd pob dyn yn feddyg i'w deulu at Loll anhwylderau y gwddf a'r frest, os bydd Davies's Cough Mixture wrth aw. Ar werth gan bob druggist.