Skip to main content
Hide Articles List

36 articles on this Page

LLITH MEEI JOS.

News
Cite
Share

LLITH MEEI JOS. MISDAR GOLYGUDD,—Ma yma lawar math o honom ni yn y bud, yn tos mewn difrif? Ac mi rydw i wedi myn d i gredu er's talwm bellach mai rhai o'r creadurlald rhyfedda'n fyw ydi'r stusiad heddweh. Mae y J.P,'s- y gret ynped, fel y bydd rhai yn i galw nhw yn broblams rhu anodd o lawar i bobl gyffredin fel fi allu i solfio nhw. Mae eu sentansus yn ami yn bur anghyfartal. Gwelwch ddyn yn cael dwy flynedd o jel am ddal gwningan, tra na chaiff adynfydd wedi curo ei wraig nes bron i lladd hi ddim ond ryw wsnos neu bythefnos. Mae petha fel hyn i'w gwel'd yn y papyra y naill wsnos ar 01 y llall, nes peri i rywun golli i barch at "lysoudd cyfiawnder." Ond yn Nghaer- narfon ddydd Sadwrn, y digwyddodd un o'r achosion sydd yn coroni gweith- %^ediadau y stusiaid yn y cyfeiriad ^T&i. Dyma'r ffeithia yn fyr: Mi ath syrjiant y plismyn i dy tafarn yn Mhen- y-groes, ac yn y gegin mi welodd ddyn meddw, ac o'i flaen yr oudd glas cwrw yn dri chwarter llawn, ac yr oudd y dyn yn addaf mai fo oedd pia y cwrw. Wel, mi alwodd y syrjiant sylw gwr y dafam ato, ac yna mi ath o a'r plisman arall oudd gyda fo I allan. Adag cau dyma'r dyn yn dwad allan, yn feddw fawr medda'r plisman, ac yr oudd yn rhaid i ddyn arall i helpu o fynd adra. Pan ddoth yr achos o flaen y stusiad yr oudd y dyn a'i dystion yn gwadu hyn ond toudd dim iws, yr oudd tystiolaeth y ddau blisman yn rhy gry, ac fellu cafodd Rhobat Jos (nid Robin y ngwr i, cofiwch) iffeinio i bum swllt a'r costa. Mau rhan rhyfedda y stori eto yn ol. Wrth gwrs, mi gafodd dyn y ty tafarn hefyd symans. A chan fod y dyn wedi caul iffeinio am fod yn feddw, mi fasa pawb nad ydi nhw yn gwbod ryw lawar am ffyrdd dyrus stusiad heddwch yn meddwl i fod ynta i gael i ffeinio hefyd. Fel arall, wrth gwrs, y troth petha allan. Mi gafodd gwr y dafarn i ollwng yn rhydd, er fod i gwsmar o wedi caul i ffeinio. Sut yn y bud mawr yma y daeth y stusiaid i'r penderfyniad hwn dwn i ddim, y mau hi yn job rhy anodd i mi allu roddi cyfrif am dano. Profodd fod y dyn yn feddw, ac nid oudd neb yn gwadu nad yn y Stag's Head yr oudd wedi caul diod, ac eto na cydwy- boda y stusiaid ddim goddaf iddyn nhw ddeud dim wrth y tafarnwr. Llawar iawn o gwyno sydd nad ydi y plismyn ddim yn gneyd eu dyledswydd. Ond pa gysur sydd iddun nhw fynd ag achosion yn erbyn tafamwyr o flaen y stus- iaid, os nad oes gobaith iddyn nhw gael i coelio hyd yn nod pan fydd dau ohonynt yn cyd-dystio a'u gilydd? Ma'n ddrwg gin y nghalon dros y syrjiant a'r plisman arall.

CAMGYMERIAD ANGEUOL.

LLADD MILWR CYMREIG

SEDD MR BALFOUR.

GOLYGFADDTCHRYNLLYI) YN Y…

ANGAU YN ERLYN.

GWERTHU LLYGODEN FAWR FEL…

MAE CLOC AR BEN MCR Y TWR.

GWALLGOFDDTN LLOFRUDD-( IOG.

MR LABOUCHERE IT THY'R ARGLWYBDI.

MAKWOLAETH DDYCHRYNLLYD GER…

TAN MEWN TLOTTY.

ATHRODI'R GWEITH VVYR,I

[No title]

DYOGELWCIl Y RHEILFFORDD.

COLLED CYBYDD.

COSTAU'R DEISEBAU.

LLINELL Y GUION.

|TAN YN LLUNDAIN.

CYNGIIAWS RHYFEDD YN BAVARIA.

LLYGAID GLEISION.

ESGOBION OEDRANTJS

DAMWAIN I AWRLAIS ST. PAUL.

Y TAD IGNATIUS WEDI TKOI YN…

DIRGELWCH YN MANCHESTER.

[No title]

CORPHORAETH CAERNARFON.

Y TABERNACL.

ELORGERBYD YN Y FFÓS. II-

GWEITHWYR YN USTUSIAID.

[No title]

Advertising

!"SHON Y JRHWYGrWR " ETO.

--PRAWF COOPER

HANESYN HYNOD

I MARWOLAETH MR E. R ED¡WARDS,…