Skip to main content
Hide Articles List

20 articles on this Page

.---DYFODIAD Y GAUAF.

GWASGU'R GWEITHWYR.

YR YMCHWILIAD IN MON.

COF DA.

- GLYWSOCft CHWI j

'93.

SEDD MR BALFO U R.

KHIN WEDDAU IACHAOL ' < QUININE…

Advertising

CYNGHUR TREFOL CAER-t NARFON.

News
Cite
Share

CYNGHUR TREFOL CAER- t NARFON. GALW SYLW AT FATER PWYSIG. Galwodd Mr M. T. Morris sylw at y cynydd aruthrol sydd wedi cymeryd lie er's chwarter neu ddau yn ardrethi y meters. Yr oedd y cynydd mewn rhaiamgylchiadau, meddai Mr Morris, o 25 i 200 neu 300 y cant. Yn naturiol yr oedd hyn wedi creu llawer o anfoddlonrwydd yn mhlith y rhai a ddefnyddient nwy, a dylai pwyllgor y nwy gymeryd y mater i ystyriaeth yn ddioed. Yroedd y Maer (y Cynghorydd Bugbird) yn hollol gytuno a Mr Morris y dylai y peth gael sylw. Addefai mai y rheswin am y cynydd ydoedd fod peth dyryswch wedi cymeryd lie. Yn hytraeh na thrafod ychwaneg ar y mater yn y cyngor, doeth- ach fyddai ei drosgiwyddo i ofal y pwyllgor. Cydsyniwyd i gymeryd y cwrs hwn. YSBYTTY Y CLEFYDON HEINTUS.. Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd y Lly- wodraeth Leol yn datgan eu hanallu i roddi cariatad i'r cyngor i fenthyca y SWPl ych- wanegol o 600p tuagat ysbytty y clefydon heintus. Eglurwyd gan yr Henadur Rees mai un rheswm dros wrthodiad y Bwrdd ydoedd nadoeddyntyn foddlawn arleoliad ty y meirw ag oedd yn gysylltiedig a'r ysbytty. Cynyg- iodd fod cynlluniau newyddion yn cael eu parotoi, ac fod cais arall yn cael ei anfon at Fwrdd y Llywodraeth Leol am gais i fenthyca y swm ychwanegol. Wedi i hyn gael ei eilio gan y Cyngorydd Edward H. Owen pasiwyd ef. Gyda golwg ar gymeryd tlodion (pcmpers) i mewn i'r ysbytty, yr oedd y pwyllgor iechydol yn anog y cyngor i dderbyn rhai o'r tufewn i'r dref os y talai y gwarcheidwaid 10s yr wythnos at eu cynhal- iaeth a darparu meddygon, &c. Gyda golwg ar pa un a oedd person yn dlawd ai peidio, barn y pwyllgor ydoedd y dylai hyny gael ei benderfynu gan swyddog cyn i'r cyfryw berson gael ei ollwng i mewn i'r ysbytty. Yr oedd Dr John WilMams yn erbya i'r gwarcheidwaid ddarparu eumeddyg eu hunain. Gwell fuasai ganddo ef i un swyddog weitbredu dros y gwarcheidwaid a'r cyngor. Awgrymodd Dr R. Parry fod i'r mater y cyfeiriodd y siaradwr olaf ato gael ei drosglwyddo i gynhadledd o gyn- rycbiolwyr y ddau fwrdd. Yn ddilynol, mabwysiadwyd cynygiad y pwyllgor, a chytunwyd i drefnu cynhacnedd yn ol awgrymiad Dr Parry. SEFYLLFA ARIANOL Y CYNGOR TREFOL. Yn ol adroddiad a ddygwyd yn mlaen, ymddengys nad yw Mr R. R. Stythe eto wedi gorphen ei waith o fyned trwy gyf rifon y Gorphoraeth. Telir i Mr Stythe a'i glerc y swm o 4p yr wythnos, a disgwylir y bydd mewn sefyllfa i ddwjn adroddiad i me" -1 yn mhen oddeutu wythnos. Gofynodd y Cyngorydd J. R. Pritchard pa beth oedd yn dyfod o'r ymrwymiadau (bonds) a fwr- iedid eu tynu allan am y swm o 3000p oeddynt am ei fenthyca. Atebodd yr tien- adur Rees eu bod eisoes wedi cael benthyg 1600p. Cynygiodd felly fod sel y cyngor yn cael ei gosod ar 16 o ymrwymiadau am lOOp yr un. Eiliwyd hyn gan Mr Pritchard, a chytunwyd ag ef. PENODIAD PWYLLGORAU Y GORPHORAETH. Gan mai nos Fercher y cynhaliwyd cyfarfod eyita-f y Cynghor newydd, dyma yr adeg i benodi pwyllgorau am y flwyddyn ddyfodol. Yn absenoldeb unrhyw wybodaoth o barthed i'r modd y rhoddodd yr hen aelodau eu presenoldeb, cynygiodd y Cynghorydd J. R. Pritchard fod i'r gwaith o ethol pwyllgorau gael ei ohirio. Gan nad oedd neb newydd wedi ei ethol ar y cyhoedd cynygiodd yr Henadur Rees, ac eiliodd y Cynghorydd Edward H. Owen, fod i'r holl bwyllgorau gael eu hail- ethol. Fel gwelliant cynygiodd y Cyng- horydd Dr Parry, ac eiliodd y Cynghorydd R. Lloyd Jones, fod pob pwyllgor yn cael ei ethol ar wahan; ond pan y daethpwyd i ym- raniad, y cynygiad gwreiddiol a gariwyd. Y rhai a bleidiasant y gwelliant heblaw y cynygydd a'r eilydd oeddynt y Cynghorwyr C, Richard Thomas, Owen Evans, W. J. Wil- liams, ac Edward Hughes. Yna cynygiodd Mr Pritchard welliant arall, sef fod y Cyng- horwyr O. Evans, R. Parry, a Morris, yn cael eu hyohwanegu at y Pwyllgor Arianol. Eiliwyd hyn gan y Cynghorwr Issard Da- vies. Gwrthododd y ddau olaf gymeryd eu henwi, ac yn ddilynol cydsyniwyd fod i Mri O. Evans a J. Davies gael eu hychwanegu.- Ar Bwyllgor y Llyfrgell Rydd cynygiodd y Cynghorydd Pritchard roddi ei le i fyny i'r Parch Evan Jones, yr hwn oedd yn cymeryd llawer o ddyddordeb yn y sefydliad. Dywedodd y Cynghorydd J. Davies mai gresyn fuasai i'r Pwyllgor golli aelod mor ffyddlon a Mr Pritchard. Cytunwyd i ychwanegu y Parch Evan Jones at y Pwyllgor heb yr un cyfnewidiad arall. Pherwydd y gwaith ychwanegol a ddisg) a ar geidwad y Llyfrgell (Mrs Thomas) mewn canlyniad i sefydliad yr adran fenthyciol y mae y Pwyllgor wedi codi y cyflog i 50p y flwyddyn.-Cafodd Mr Richard' Thomas ei ychwanegu at y pwyll- gor arbenig ag sydd yn edrych ar ol swydd- 0 ogion a'u dyledswyddau. CYNYG YNADON NEWYDDION. Yr oedd gan y Cynghorydd Issard Davies gynygiad yndwyncysylltiadag yehwaneg a at ynadon y fwrdeisdref. Gofynodd y Maer (y Cynghorydd Bugbird) pa un ai mewn cyfarfod agored o'r Cyngor ynte yn breifat y byddai goreu dadleu y pwnc. Crybwyllai hyn am mai yn breifat y gwnaed peth cyffelyb amser yn ol. Ar gynygiad y Cynghorydd J. R. Pritchard, yn cael ei eilio gan y Cynghorydd J. P. Gregory, cytunwyd i drafod y mater mewn cyfarfod agored. Yna cyfododd y Cynghorydd Issard Davies, a chynygiodd fod yr enwau a ganlyn yn cael eu hanfon i'r Ar- glwydd Ganghellydd fel rhai cymhwys i weithredu fel ynadon, sef y Cyngorwyr M. T. Morris, J. R. Pritchard, Edward Hughes, a Dr G. R. Griffith. Cafodd y cynygiad ei eilio gan y Cyngorydd Evan H. Owen, a phasiwyd ef. Credwn mai yr Henadur Rees oedd yr unig aelod a ymgadwodd rhag pleidleisio. Rhyddfrydwyr yw y tri cyntaf o'r boneddigion a enwyd, tra mai Tori yw y Hall.

---CAMGYMERIAD XORGI.

CYFLAFAN YNYS MANAW.

M 4RW0LAETH 81U V N AMAE TH…

A FYDD Y GvYYDDELOD YN FFYDDLAWN…

MR SAMUEL SMITH A'R BLAID…

LINEN LASTS LONGER,

Advertising

PWY YW CYFAILL Y GWEITHIWR?

[No title]

CATARRH, HAY FEVER, CATARRHAL…