Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

24 articles on this Page

GLYWSOCH CHWIi

Radiar,^1^^ LASTS LONGER,

'93. -.

[No title]

--.-------..--.......... ALLAN…

* ! Y DIRPRWYWR LLA.FUR YN…

ALMANAC Y GWEITHIWR, 1893.

[No title]

MR THOMAS LEWIS, A.S.,

--------CYHUDDIAD DIFRIFOL…

ADDYSG ItfDlJ YN LERPWL.

News
Cite
Share

ADDYSG ItfDlJ YN LERPWL. Dydd Gwener diweddaf; ymwelwyd a JMr Acland, Is-lywydd Cynghor Addysg, gan ddirprwyaeth mewn perthynas i'r taliadau yn Ysgolion y Bwrdd yn Lerpwl. Yr oedd y ddirprwyaeth yn gynwysedig o Mr Crosfield, A.S., Mr Thomas Snape, A.S., y Parchn J. H. Atkinson, Stanley Rogers, Mr W. Mafckin, Mr Thomas Keates, a Mr W. Evans. Eglurodd Mr Crossfield neges y ddir- prwyaeth. Yr oedd y Bwrdd Ysgol wedi cyfodi anhawsderau ar iiorda rhieni oedd yn hawlio addysg rydd i'w plant. Ceisiai y Bwrdd Ysgol warthnodi plant y rhieni hyny a hawlient addysg rycld, drwy eu hystyried fel plant tlodion, analluog i dalu, yr hyn oedd yn beth tra anymunol. Dywedai Mr Snape, A.S., ei fod ef yn hollol gydymdeimlo ag amcan y ddirprwy- aeth. Gwyddai y B wrdd en bod i dalu dros rieni oedd yn hawlio addysg rydd yn mhen deuddeng mis wedi i'r Ddeddf gael ei phasio. Ond yn lie gwneyd darpariadau gogyfer a hyny, yr ceddynt yn gwrthod derbyn plant yn yr ysgolion yr arferent fyned, ac yn eu gorfodi ,4i fyned i ysgol arall. Yr oedd 14,000, allan o 20,000 o ys- golion, yn rhodd addysg rydd, a byddai yn ofidus meddwl i ddinas fawr fel Lerpwl, yr hon sydd yn galw ei hunan yn ail ddinas yn yr Ymherodraeth, fod ar ol mewn darparu addysg rydd i'w phlant. Yna daeth y Parch S. Rogers yn mlaen, a deiseb wedi ei llawnodi gan 120 o weithwyr. Teimlai y dynion hyn eu bod yn cael eu hamddifadu gan y Bwrdd Ysgol o ragor- freintiau addysg a ganiateid i rai llai tei- lwng. Oni baifod yr amser mor fyr buasai y ddeiseb hon wedi eu llaw-nodi gan filoedd. Dangosodd y Parch J. H. Atkinson mor anghyfleus oedd amddifadu rhieni o'r rha- gorfreintiau oedd ddyledus iddynt yn ol y Ddeddf, a'u gorfodi i anfon eu plant i ysgol- ion nad oeddynt o'u dewisiad eu hunain. Dangosodd hefyd enwau cannoedd o rieni oedd yn awr yn goriod talu, ond yn ymofyn addysg rydd. Dywedodd Mr Evans fod cyfleusderau y Bwrdd Ysgol yn Lerpwl yn annigonol i gyfarfod ag anghenion y ddinas. Yn Chadwick Mount, mewn seler o dan gapel y cynhelid yr ysgol; yr oedd yr ystafell yn dywell ac yn afiach, a dim lie i'r plant chwareu. Yr oedd yno 119 o ysgolheigion cymysg mewn lie oedd yn ymddangos iddo ef yn fath o fagwrfa i'r crydcymalau. Dywedcdd Mr Matkin fod teimlad cryf yn erbyn y bwrdd ysgol yn mhlith y gwa- hanol ddosparthiadau gweithiol yn y ddinas. Dywedodd Mr Acland fod y Ddirprwyaeth wedi galw ei sylw at amryw bethau pwysig yn ngweinyddiad y Ddeddf Addysg; ond wedi'r cwbl nad oedd yn angenrheidiol anfon Dirprwyaeth o Lerpwl i Lundain mewn achosion o'r fath, oherwydd, yn ol adran 5 o'r ddeddf, yr oedd gan rieni mewn unrhyw ran o'r wlad, os yn cyfarfod a rhwystrau i gael addysg rydd i'w plant, hawl i anfon cwyn oblegid hyny mewn llythyr neu ryw ffordd arall i'r swyddfa, fel y gellid gwneyd ymchwiliad, a gwneyd y diffygion i fynu yn unol a'r ddeddf. Gyda golwg ar yr arfpriad o anfon plant o un ysgol i'r llall, yr odad ef yn eu sicrhau y byddai i'r pwnc hwnw gael edrych i mewn iddo gyda'r gofal mwyaf. Os gwelid unrhyw rsv ystrau yn cael eu taflu ar ffordd addysg rydd, neu bwnc y tal yn yr ysgolion, yr oedd y ddeddf yn darparu ar gyfer hyny, fel nad oedd raid i rieni oedd yn hawlio addysg rydd i'w plant oddef unrhyw anfanteision yn y cyfeiriad hwnw. Wedi i Mr Crosfield ddiolch i Mr Acland am dderbyn y Ddirprwyaeth, ymadawyd.

1SYRDDAU CYFLAFAREDDOL.

Advertising

SEFYDLU BWRDD CYMOD YN LERPWL.

[No title]

DIRPRWYAETII Y TENANTIAID…

GWENDID.

TALU AM EI LLETY.

.CATARRH, HAY FEVER, CATARRHAL…

PWU Y TIR.

YN EISIEU.

Advertising

YR INDIAIB CYMREIG. "i

[No title]