Skip to main content
Hide Articles List

24 articles on this Page

GLYWSOCH CHWIi

Radiar,^1^^ LASTS LONGER,

'93. -.

News
Cite
Share

'93. [Oyfaddasiai ydyw y Nofel hon o Quatre Vingt Treize," un o weithiau goreu y lienor a'r bardd enwog, VICTOR HUGO. I Cyfansoddodd lawer yn ystod ei oes faith a hel- bulus, ond efallai mai dyma'r gwaith sydd yn meddu y dyddordeb mwyaf i ddarllenwyr Cym- reig, gan ei fod yn cynwys portreadau byw o gymeriadau ein brodyr Llydewig. Mae y plot yn sylfaenedig ar y rhyfel waedlyd a gymerodd le yn y flwyddyn 1793 rhwng y Ffrancod a'r Llydawiaid yn amser blin sefydliad y Werin- jaetl& yR Fframe.] CRYNODEB. PEmtOD I.—Yn Mai, 1793, yr oedd Catrawd y Cap Coch yn nghoedwig Sandraie, yn Llydaw. Pan yn ofmperygl, daethant o hyd i wraig—Michelle Fie chard—yn rhoddi sugn i'w baban, a dau blentyn arall yn cysgn yn ei hymyl. PENNOD II.—Llong ryfel-y Claytno)-e-yn hwyho o Jersey, ilanio hen wr ar arfordir xirainc. Dirgelwch mawr pwy allasai fod. PENNOD III.-Un o'r gynau mawr yn ton yn rhydd, ac yn gwneyd niwed ir llong y gwladwr (sef un o'r Cadfridogion Brenhmol) yn gorchymyn saethu y dyn oedd yn gyfrifol am y ddamwain. Llongau rhyfel y Wenniaeth yn dod i'r golwg ar doriad y wawr. PENNoD IV.—Y "Gwladwr" yn diane mewn ewch yn nghwmni morwr. Y morwr yn hys- bysu mai efe oedd brawd y dyn a saethwyd ar y llong yn bygwth lladd yr hen wr. PENNOD y'-y morwr yn ymheddychu, a'r ddau yn glanio yn ddyogel. Yr hen wr yn anfon y morwr drwy y wlad i gymhell y bobl i ryfel yn erbyn y Weriniaeth. i PENNOD VI.-Y gwladwr yn cael ei adnabod fel Ardalydd Llandenac, a gwobr yn cael ei chynyg am ei gymeryd i'r ddalfa. PENNOD VII. Perswadlodd y cardotyn Ardalydd Llan- denac i fyned i gysgu gydag ef i'w fwthyn. Wedi iddynt fod yn siarad am helynt y wlad ar y pryd, aethant i gysgu, gan orwedd wrth ochr eu gilydd, y pendefig urddasol a'r cardotyn carpiog. Yn y boreu rhoddodd y cardotyn gyfar- wyddyd i'r Ardalydd am y ffordd ddiogelaf iddo deithio. Ai nid ydych am fy rhoddi i fyny, er enill y wobr ? I Byddai hyny yn ffortiwn dda. i chwi," gofynai Ardalydd Llandenac gyda pheth pryder. "Byddai genyf ddigon i fyw arno pe gwnawn," atebai'r cardotyn; "ond ni'ch rhoddaf i fyny." Paham ?" "Am fy mod wedi derbyn elusen lawer gwaith oddiar eich llaw pan oedd hi yn galed iawn arnaf." "O'r goreu, ynte; fe gofiaf am danoch eto," ebai'r pendefig. Cymerwch ychydig gnau yn eich poced; fe fydd yn dda i chwi wrthynt mae'n debyg," ebai'r cardotyn, ac ar hyny diflanodd o'r golwg. Nid oedd hi eto ond pedwar o'r gloch, ac am hyny teimlai Llandenac ei bod yn eithaf diogel iddo gerdded y ffordd fawr. Daeth yn fuan i'r man y gwelwyd ef y noson flaen- orol gan ei letywr. Yr oedd yr hysbyslen yn cynyg gwobr am ei ddal i fyny hyd yn hyn. Cofiodd fod yno rywbeth ar ei gwaelod oedd yn rhy fan iddo allu ei ddar- llen y noson gynt, ac aeth ati i edrych beth ydoedd. Odditan enw Prieur Marne yr oedd y tair llinell:— Can gynted ag y ceir sicrwydd boddhaol fod y cyn-Ardalydd Llandenac wedi ei ddal, gellir ei saethu yn y fan. GAXTVAUT, Prif swyddog y Fyddin Ymchwiliadol. Gauvain meddai'r ardalydd wrtho ei hun. Syrthiodd i fyfyrdod dwys, a chraff- odd yn fanylach ar yr enw. "Gauvain!" ebai eilwaith,.a throdd ym- aith. Aeth yn ol, a darllenodd y procla- masiwn drwodd drachefn, ac wedi hyny cychwynodd i'w daith. Pe buasai rhywun yn ymyl, gallasai ei glywed yn sibrwd, Gauvain Nis gallai yn awr weled yffermdy yn mha un yr oedd v milwyr a anfonwyd i chwilio am dano. Cuddiai bryncyn bychan ef o'i olwg, Gorchuddid y bryn a choed, ac i lygad y teithiwr yr oedd heulwen y boreu yn chwareu ar ddail y coed yn olygfa swyn- gyfareddol, a'r tawelwch a deyrnasai ar bob llaw yn falm o'r fath fwyaf dymunol i'w deimladau cythryblus. Yn sydyn wele gyfnewidiad hollol yn cymeryd lie. Rhwygid yr awyr gan floedd- iadau a thwrf ergydion, y rhai a adseinient drwy y nant. Wele gwmwl o fwg yn hof- ran uwchben, a thafodau tan yn ymsaethu i'r entrych, fel pe buasai y ffermdy, os nad yr holl bentref, yn wenfflam. Safai yr ardalydd yn ei unfan, a thynodd y casgliad yn ebrwydd fod ymladd yn myned yn mlaen yr ochr arall i'r bryn. Aeth ei gywrein- rwydd yn drech na'i ddoethineb, a dringodd i ben y bryncyn i gael golwg ar yr hyn elai yn mlaen, er ei fod drwy hyny yn gosod ei hunan mewn perygl. Islaw iddo gorweddai y ffermdy, ac yr oedd tan wedi tori allan ynddo; yn ol a blaen yr oedd dynion yn gwibio, a'r bwledi yn hedeg gan wasgaru dinystr. Beth oedd yn cymeryd lie ? A oedd yno ymladdfa, ai ynte y gatrawd fu yno dros nos a gosbai y sawl a'u Iloatyoddl Aeth yr ysgarmes drosodd, ac arosodd yr Ardalydd ar ben y bryn i fyfyrio ar yr hyn a gymerasai le, gan geisio rhoddi cyfrif am dano. Ar hyn gwelai luaws o'r dynion yn rhuthro oddiwrth y goelcerth at y coed yn nhroed y bryn, a dychymygai glywed rhai o honynt yn dringo i fyny. Ie siwr; yr oeddynt yn prysur ddyfod tuagato. Amlwg ydoedd eu bod yn chwilio am rywun; feallai fod rhyw berson pwysig wedi gallu dianc o'r ffermdy, a'u bod yn benderfynol o'i ddal. Ar hyn clywai lef, yr hon a ail-ad- roddid gan ganoedd o leisiau,— Llandenmc, Ardalydd LUkndermcV Am dano ef yr oeddynt yn chwilio O'i ddeutu, ar bob llaw, y tu ol, a'r tu blaen, yr oedd y coed yn llawn bidogau, cleddyfau, a gynau, a gwelai y faner drilliw yn llaw un o'r dynion. "Llandenac; Llandenac!" oedd y waedd adseiniai drwy y lie. Ychydig o wynebau allai Llandenac eu canfod, ond teimlai yn sicr fod llu yn craffu arno ef. 0 bosibl ei fod yn fare i fil o ddrylliau. Ni chollodd yr Ardalydd ei hunan-fedd- iant. Tynodd ei het oddiar ei ben; trodd ei hymyl i fyny, a phiniodd ysnoden y fren- hiniaeth ami. Rhoddodd hi eilwaith ar ei ben, a safai yn syth ac mewn llais clir, a dreiddai drwy y coed, dywedai,— Myfi yw yr hwn yr ydych yn chwilio am dano. Myfi yw Ardalydd Llandenac, Is- iarll Fontenay, Tywysog Llydaw, ac un o gadfridbgion y brenhin. Dowch yn mlaen; gorphenwch eich gwaith! Taniwch I tan- iwch I" a chan ddatod ei wasgod datgudd- iodd ei fynwes noeth. Taflodd ei olwg i lawr, gan ddisgwyl gweled dwsinau o ynau yn cael eu hanelu ato. Yn lie hyny plygai dynion ar eu gliniau o'i flaen. Torodd bloedd fawr allan, Byw fo Llandenac! Byw fo Llandenac Hwre i'r cadfridog Lluchid hetiau i fyny, a chwyfid cleddyfau fel arwydd o lawenydd. Torf o wladwyr oedd wedi syrthio i lawr o flaen eu harglwydd. Yr oeddynt wedi eu harfogi a gynau, cleddyfau, pladuriau, pig- ffyrch, a rhywbeth allasent roddi eu dwylaw arnynt. Daeth dyn ieuanc hardd yn mlaen, yr hwn oedd wedi ei wisgo a gwell dillad na'r rhelyw o'r dorf. Syrthiodd ar ei liniau o flaen yr ardalydd, a chyflwynodd ei gleddyf iddo gan ddywedyd,— Yr ydym wedi bod yn chwilio am danoch, ac wedi eich cael. Cymerwch y cleddyf hwn I o'm llaw. Eich eiddo chwi yw y dynion hyn; myfi oedd yn eu harwain, ond yn awr bydd yn fwy o anrhydedd i mi gael eich gwasanaethu fel milwr cyffredin. Derbyn- iwch ein gwasanaeth, a rhoddweh eich gorchymynion i ni." O'r goreu," ebai Llandenac, "codwch ar eich traed. Byw fyddo'r brenhin Codasant i fyny, a gwnaethant i'r nant adseinio gyda'u bloeddiadau, Byw fyddo'r brenhin! Byw fo'n Hardalydd! Hwre i Llandenac!" Trodd y cadfridog at eu harweinydd a gofynodd, Pa faint o ddynion sydd gen- ych?" Saith mil." Sut y gwyddech fy mod i yma Deallasom hyny ar unwaith pan welsom broclamasiwn y Weriniaeth yn cynyg gwobr am eich dal. Codasom fyddin ar unwaith,- nid oedd eisiau ond un wroichionen i gyneu coelcerth. Yfory daw wyth mil arall atom o ran arall o'r wlad. Da iawn," atebai'r Ardalydd, 'fe fydd yn dda i ni wrthynt, mae yn sicr. Nid oes dichon dyweyd beth all ddigwydd yn fuan." (1'1.8 barhau.)

[No title]

--.-------..--.......... ALLAN…

* ! Y DIRPRWYWR LLA.FUR YN…

ALMANAC Y GWEITHIWR, 1893.

[No title]

MR THOMAS LEWIS, A.S.,

--------CYHUDDIAD DIFRIFOL…

ADDYSG ItfDlJ YN LERPWL.

1SYRDDAU CYFLAFAREDDOL.

Advertising

SEFYDLU BWRDD CYMOD YN LERPWL.

[No title]

DIRPRWYAETII Y TENANTIAID…

GWENDID.

TALU AM EI LLETY.

.CATARRH, HAY FEVER, CATARRHAL…

PWU Y TIR.

YN EISIEU.

Advertising

YR INDIAIB CYMREIG. "i

[No title]