GLYWSOCH CHWI i Fod Cynghor TrefolCaernarfou wedi gyru pedwar o enwau i'r Arglwydd GangheUydd gyda dymuuiad ar iddo eu gwneyd yn yn- ado,,? y dewis-ddynion ydynt y Mri Ed- ward Hughes, J. R. Pritchard, M. T. Mor- ns> a Dr Griffith? hya?* ^y^clfrydwyr ydyw tri o'r rhai Xai Ceidwadwr a'u cynygiodd, a'r mwy- Toriaidd a'u pasiodd ? E bod wedi profi edifeirwch am eu yn y gorphenol yn gwrthod caniatau fato ?*a^ Bhyddfrydwr myned ar y Mai Llywodraeth Eyddfrydol sydd yn ift^wn swydd ? fill a w*19!0 hyny rywbeth a ^yddt'rydigrwydd y Toriaid y tro hwn ? dyddorol y w darllen y llinellau can- o waith y diweddar fardd Robyn Ddu i'r « Bwthyn Mynyddig ? IlYnyddau ban ysgythrog sydd Yn gaerog dorch o gylch fy llanerch, tIe Mae murmurog ffrydlif rydd, Ac adsain, megis yn ymanerch. Pan gaddia nos y faenol werdd, Atheg lusernau'r nef yn wychion, 'vfordroellog gurwynt ehwyrn wna gerdd Yn nghrombil holltau'r creigiau crychion Er hyn wrth dan o fawn heb sen, Y tylwyth sydd yn ymddyddanu; Fytnam a'i throell,-gwna.'m tad lwy bren, Trä'm chwaer yn gwau, a minau'u canu. 01 dyma grwydryn ar ei daith, Ac angen arno ei achlesu; Rhoi iddo fwyd sy hyfryd waith, Yn nghyda gwely i'w gynhesu. I blentyn gloddest, swrth a gwan, Y drem fawreddog sy ry arw; Ond rhwng y creigiau,—dyna'r fan, Y carai Cymro fyw a marw. Xm yr hen wraig hono o ardal G aeth oddi cartref am ychydig ddyddiau ? Ei bod wedi gadael y forwyn i ofalu am y ty? Pod y feistres yn mhen ychydig ddyddiau "Wedi dychwelyd adref f Ei bod wedi cael allan mai morwyn an- ffyddlon y profodd y lodes ei hunan ? Pod yr holl jams a pickles oedd yn y ty ■*edi cael eu bwyta yn llwyr P Pod tri pwys o ymenyn a gwerth sylltau 0 fara wedi diflanu ? Y bu yr hen wraig am bath amser heb ddeall y dirgelwch ? Y cafwyd esboniad cyflawn arno yn y man ? Mai yr eglurhad oedd fod cefnder lodes wedi bod yn edrych am dani ? Fod y cymydogion yn credu ei fod y creadur mwyaf barus yn yr holl wlad ? Pod cwmni o wirfoddolwyr wedi ei ffurfio yn Ngholwyn ? Fod llawer o fechgyn ieuainc wedi ymuno o,'r railwyr ?" Pod eu hymddangosiad yn un pur hardd ? Mai gresyn er hyny na buasent yn cyf- yngn eu harddangosiadau i ddyddiau gwaith heb fathru y Sabboth yn ddiangenrhaid ? Fod swn y tabwidd a'r cyrn pres boreu Sabboth diweddaf yn groes iawn i deimlad- au y rhan fwyaf o'r trigolion ? Nad oeddynt yn hoffi y miri a'r cynhwrf 81 ddydd yr Arglwydd ? Na fyddai yn golled o gwbl i'r cwmni pe y cymerent fantais ar brydnawn Sadwrn a pheidio tori ar heddwch y gymydogaeth ar y dydd cyntaf o'r wythnos f Y dymunem ar i'r gwirfoddolwyr yn yi ardal hon, ac ardaloedd ereill, dderbyn y cyngor yn garedig ? Y byddai yr awdurdodau milwrolyn llawer tebycach o lwyddo pe y parchent fwy ar deimladau anwylaf cenedl y Cymry ? Pod yna wr gweddw ieuanc heb fod gan' Dailldir o G- wedi syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad a rhyw ferch ieuanc yn yr un lie ? Mai un ffordd a gymerai i dreio enill serch y ferch ydyw canmol yn ei chlyw faint gostiodd ei fackintosh ? Ei fod wedi crybwyll wrth rywun, pan y byddai iddo briodi y cyfryw mai shut up shop fyddai ei henw hi ar y masnachwyr ereillf Mai o'i ochr ef yn unig y mae y cariad yn ffynu ? Pod y ferch ieuanc wedi dweyd os na chaiff lonydd mai yn ei wig ef y bydd hi ? Pod y Cymry yn bur luosog yn Lerpwl ? Yr hysbysir fod cynifer a saith gant o John Jonesiaid ar yr etholrestr yn ? Y dylai disgynyddion Adda Jones fod yn allu cryf yn mywyd cymdeithasol a gwleid- yddol y ddinas hono ? Mai Cymro—Mr Edward Evans-oedd atweinydd y gad yn y frwydr etholiadol a Syiaerodd 1. yno yr wythnos o'r blaen ? Ei fod yn gadfridog dihafal, a bod 1fyddiant y Rhyddfrydwyr i'w briodoli iddo ef gan mwyaf ? Nad oes ond wyth o bob cant o drigolion y deyrnas Gyfunol yn llwyrymwrthodwyr diodydd meddwol ? Mai fel hyn y cana y Parch T. C. Ben- jamin, Pittsburgh, i'r "Llwybrau gerddais Mt 1, ? Yn nghanol Ceredigion fad, .oqae'r bwthyn gwyn a'r swynol wlad Y ce'a fy magu flwyddi'n ol, •Dan wenau'rjnefoedd wen yn nghol i^gltiBiaeth Duw, ac hyd yn awr ^e'r ardal enwog, werdd ei gwawr, ^fewn fy serch, ac ar fy hynt, Mewn cof mae' r "Llwybrau gerddais gynt." 1Ise'r Uu asgellog yn y coed, canu heddyw fel erioed: V™^adar ieuanc ydynt oil, adar gynt i gyd ar goll; y ^e^yg yn yr ardal gu r dynol ar bob tu; zyfnewidiad, yn y gwynt raQ*wya'r Llwybrau gerddais gynt." Y* traed plant eraill sydd yn awr N argraphedig ar y 11a AVT ae r plant gaed yma amser fu Bahobman ond eu cartref cu AMi ^aws y11 y fynwent fud, ? lleill ar wasgar yn y byd, At^y*a dan ei phynt, Want y Llwybrau gerddais gynt." coed °'u cwmpas hwynt i gyd A rV^u a.c teneiddio'n nghyd, l>an k wedi crino'n llwyr ■j? bwyg-y gw]itb o hwyr i hwyr I>^erw wdyrn nid y'nt hwy, yn deilio yma mwy, Holl ^e<idyw i mi y'nt goed y Llwybrau gerddais gynt." Mm* Yw wrth roddi tro Mae r^ddulliau yr hen fro: A difw'Tv?1,0 gynt yn awr yn hen, %S?^ebynlle^n I rnddiau llawer un; I wel'd a u^awn oedd yr hynt Llwybrau gerddais gynt."
Radiar,^1^^ LASTS LONGER, ^^ess i T ,1^ Deligtful in its keep much longer clean ■"tt&soij'g "hashed in a foaming lather of d £ li0 ,RY, Hudson's preserves the f laces, muslins and fine V 01 jay and it will not fray cuffs ^r8» Try a packet, you? II never lack W' 0
'93. [Oyfaddasiai ydyw y Nofel hon o Quatre Vingt Treize," un o weithiau goreu y lienor a'r bardd enwog, VICTOR HUGO. I Cyfansoddodd lawer yn ystod ei oes faith a hel- bulus, ond efallai mai dyma'r gwaith sydd yn meddu y dyddordeb mwyaf i ddarllenwyr Cym- reig, gan ei fod yn cynwys portreadau byw o gymeriadau ein brodyr Llydewig. Mae y plot yn sylfaenedig ar y rhyfel waedlyd a gymerodd le yn y flwyddyn 1793 rhwng y Ffrancod a'r Llydawiaid yn amser blin sefydliad y Werin- jaetl& yR Fframe.] CRYNODEB. PEmtOD I.—Yn Mai, 1793, yr oedd Catrawd y Cap Coch yn nghoedwig Sandraie, yn Llydaw. Pan yn ofmperygl, daethant o hyd i wraig—Michelle Fie chard—yn rhoddi sugn i'w baban, a dau blentyn arall yn cysgn yn ei hymyl. PENNOD II.—Llong ryfel-y Claytno)-e-yn hwyho o Jersey, ilanio hen wr ar arfordir xirainc. Dirgelwch mawr pwy allasai fod. PENNOD III.-Un o'r gynau mawr yn ton yn rhydd, ac yn gwneyd niwed ir llong y gwladwr (sef un o'r Cadfridogion Brenhmol) yn gorchymyn saethu y dyn oedd yn gyfrifol am y ddamwain. Llongau rhyfel y Wenniaeth yn dod i'r golwg ar doriad y wawr. PENNoD IV.—Y "Gwladwr" yn diane mewn ewch yn nghwmni morwr. Y morwr yn hys- bysu mai efe oedd brawd y dyn a saethwyd ar y llong yn bygwth lladd yr hen wr. PENNOD y'-y morwr yn ymheddychu, a'r ddau yn glanio yn ddyogel. Yr hen wr yn anfon y morwr drwy y wlad i gymhell y bobl i ryfel yn erbyn y Weriniaeth. i PENNOD VI.-Y gwladwr yn cael ei adnabod fel Ardalydd Llandenac, a gwobr yn cael ei chynyg am ei gymeryd i'r ddalfa. PENNOD VII. Perswadlodd y cardotyn Ardalydd Llan- denac i fyned i gysgu gydag ef i'w fwthyn. Wedi iddynt fod yn siarad am helynt y wlad ar y pryd, aethant i gysgu, gan orwedd wrth ochr eu gilydd, y pendefig urddasol a'r cardotyn carpiog. Yn y boreu rhoddodd y cardotyn gyfar- wyddyd i'r Ardalydd am y ffordd ddiogelaf iddo deithio. Ai nid ydych am fy rhoddi i fyny, er enill y wobr ? I Byddai hyny yn ffortiwn dda. i chwi," gofynai Ardalydd Llandenac gyda pheth pryder. "Byddai genyf ddigon i fyw arno pe gwnawn," atebai'r cardotyn; "ond ni'ch rhoddaf i fyny." Paham ?" "Am fy mod wedi derbyn elusen lawer gwaith oddiar eich llaw pan oedd hi yn galed iawn arnaf." "O'r goreu, ynte; fe gofiaf am danoch eto," ebai'r pendefig. Cymerwch ychydig gnau yn eich poced; fe fydd yn dda i chwi wrthynt mae'n debyg," ebai'r cardotyn, ac ar hyny diflanodd o'r golwg. Nid oedd hi eto ond pedwar o'r gloch, ac am hyny teimlai Llandenac ei bod yn eithaf diogel iddo gerdded y ffordd fawr. Daeth yn fuan i'r man y gwelwyd ef y noson flaen- orol gan ei letywr. Yr oedd yr hysbyslen yn cynyg gwobr am ei ddal i fyny hyd yn hyn. Cofiodd fod yno rywbeth ar ei gwaelod oedd yn rhy fan iddo allu ei ddar- llen y noson gynt, ac aeth ati i edrych beth ydoedd. Odditan enw Prieur Marne yr oedd y tair llinell:— Can gynted ag y ceir sicrwydd boddhaol fod y cyn-Ardalydd Llandenac wedi ei ddal, gellir ei saethu yn y fan. GAXTVAUT, Prif swyddog y Fyddin Ymchwiliadol. Gauvain meddai'r ardalydd wrtho ei hun. Syrthiodd i fyfyrdod dwys, a chraff- odd yn fanylach ar yr enw. "Gauvain!" ebai eilwaith,.a throdd ym- aith. Aeth yn ol, a darllenodd y procla- masiwn drwodd drachefn, ac wedi hyny cychwynodd i'w daith. Pe buasai rhywun yn ymyl, gallasai ei glywed yn sibrwd, Gauvain Nis gallai yn awr weled yffermdy yn mha un yr oedd v milwyr a anfonwyd i chwilio am dano. Cuddiai bryncyn bychan ef o'i olwg, Gorchuddid y bryn a choed, ac i lygad y teithiwr yr oedd heulwen y boreu yn chwareu ar ddail y coed yn olygfa swyn- gyfareddol, a'r tawelwch a deyrnasai ar bob llaw yn falm o'r fath fwyaf dymunol i'w deimladau cythryblus. Yn sydyn wele gyfnewidiad hollol yn cymeryd lie. Rhwygid yr awyr gan floedd- iadau a thwrf ergydion, y rhai a adseinient drwy y nant. Wele gwmwl o fwg yn hof- ran uwchben, a thafodau tan yn ymsaethu i'r entrych, fel pe buasai y ffermdy, os nad yr holl bentref, yn wenfflam. Safai yr ardalydd yn ei unfan, a thynodd y casgliad yn ebrwydd fod ymladd yn myned yn mlaen yr ochr arall i'r bryn. Aeth ei gywrein- rwydd yn drech na'i ddoethineb, a dringodd i ben y bryncyn i gael golwg ar yr hyn elai yn mlaen, er ei fod drwy hyny yn gosod ei hunan mewn perygl. Islaw iddo gorweddai y ffermdy, ac yr oedd tan wedi tori allan ynddo; yn ol a blaen yr oedd dynion yn gwibio, a'r bwledi yn hedeg gan wasgaru dinystr. Beth oedd yn cymeryd lie ? A oedd yno ymladdfa, ai ynte y gatrawd fu yno dros nos a gosbai y sawl a'u Iloatyoddl Aeth yr ysgarmes drosodd, ac arosodd yr Ardalydd ar ben y bryn i fyfyrio ar yr hyn a gymerasai le, gan geisio rhoddi cyfrif am dano. Ar hyn gwelai luaws o'r dynion yn rhuthro oddiwrth y goelcerth at y coed yn nhroed y bryn, a dychymygai glywed rhai o honynt yn dringo i fyny. Ie siwr; yr oeddynt yn prysur ddyfod tuagato. Amlwg ydoedd eu bod yn chwilio am rywun; feallai fod rhyw berson pwysig wedi gallu dianc o'r ffermdy, a'u bod yn benderfynol o'i ddal. Ar hyn clywai lef, yr hon a ail-ad- roddid gan ganoedd o leisiau,— Llandenmc, Ardalydd LUkndermcV Am dano ef yr oeddynt yn chwilio O'i ddeutu, ar bob llaw, y tu ol, a'r tu blaen, yr oedd y coed yn llawn bidogau, cleddyfau, a gynau, a gwelai y faner drilliw yn llaw un o'r dynion. "Llandenac; Llandenac!" oedd y waedd adseiniai drwy y lie. Ychydig o wynebau allai Llandenac eu canfod, ond teimlai yn sicr fod llu yn craffu arno ef. 0 bosibl ei fod yn fare i fil o ddrylliau. Ni chollodd yr Ardalydd ei hunan-fedd- iant. Tynodd ei het oddiar ei ben; trodd ei hymyl i fyny, a phiniodd ysnoden y fren- hiniaeth ami. Rhoddodd hi eilwaith ar ei ben, a safai yn syth ac mewn llais clir, a dreiddai drwy y coed, dywedai,— Myfi yw yr hwn yr ydych yn chwilio am dano. Myfi yw Ardalydd Llandenac, Is- iarll Fontenay, Tywysog Llydaw, ac un o gadfridbgion y brenhin. Dowch yn mlaen; gorphenwch eich gwaith! Taniwch I tan- iwch I" a chan ddatod ei wasgod datgudd- iodd ei fynwes noeth. Taflodd ei olwg i lawr, gan ddisgwyl gweled dwsinau o ynau yn cael eu hanelu ato. Yn lie hyny plygai dynion ar eu gliniau o'i flaen. Torodd bloedd fawr allan, Byw fo Llandenac! Byw fo Llandenac Hwre i'r cadfridog Lluchid hetiau i fyny, a chwyfid cleddyfau fel arwydd o lawenydd. Torf o wladwyr oedd wedi syrthio i lawr o flaen eu harglwydd. Yr oeddynt wedi eu harfogi a gynau, cleddyfau, pladuriau, pig- ffyrch, a rhywbeth allasent roddi eu dwylaw arnynt. Daeth dyn ieuanc hardd yn mlaen, yr hwn oedd wedi ei wisgo a gwell dillad na'r rhelyw o'r dorf. Syrthiodd ar ei liniau o flaen yr ardalydd, a chyflwynodd ei gleddyf iddo gan ddywedyd,— Yr ydym wedi bod yn chwilio am danoch, ac wedi eich cael. Cymerwch y cleddyf hwn I o'm llaw. Eich eiddo chwi yw y dynion hyn; myfi oedd yn eu harwain, ond yn awr bydd yn fwy o anrhydedd i mi gael eich gwasanaethu fel milwr cyffredin. Derbyn- iwch ein gwasanaeth, a rhoddweh eich gorchymynion i ni." O'r goreu," ebai Llandenac, "codwch ar eich traed. Byw fyddo'r brenhin Codasant i fyny, a gwnaethant i'r nant adseinio gyda'u bloeddiadau, Byw fyddo'r brenhin! Byw fo'n Hardalydd! Hwre i Llandenac!" Trodd y cadfridog at eu harweinydd a gofynodd, Pa faint o ddynion sydd gen- ych?" Saith mil." Sut y gwyddech fy mod i yma Deallasom hyny ar unwaith pan welsom broclamasiwn y Weriniaeth yn cynyg gwobr am eich dal. Codasom fyddin ar unwaith,- nid oedd eisiau ond un wroichionen i gyneu coelcerth. Yfory daw wyth mil arall atom o ran arall o'r wlad. Da iawn," atebai'r Ardalydd, 'fe fydd yn dda i ni wrthynt, mae yn sicr. Nid oes dichon dyweyd beth all ddigwydd yn fuan." (1'1.8 barhau.)
Cyrhaedda cronfa canmlwyddiant Cym- deithas Genhadol y Bedyddwyr yn barod y swm hardd o 98,497p 14s 9c. COCOA CADBU R)C.-Dyma'r Cocoa syddyn feddianol ax adnoddau enawd-gynyrchiol ac yn trosglwyddo nerth a grymusder arosol.-Healik Rhoddir caniatad gan Fwrdd y Lly- wodraeth Leol i warcheidwaid gyflenwi tybaco i ddynion yn y tlotai o hyn allan heb fyned i'r drafferth a ysgrifenu i Lundain i ofyn-a gaent wneyd, fel yn y gorphenol. Mae y Due Fife yn gwerthu eymaint all o'i diroedd. Mae mesur er hyrwyddo sefydliadau pen- trefol wedi ei basio yn y Senedd yn Mel- bourne. Tybir y bydd i'r Arglwydd Brif Farnwr Coleridge ymneillduo ddechreu'r flwyddyn nesaf.
ALLAN 0 WALlxi. Ymweliad a'r ArcMdiacon Farrar. Cynhaliwyd cyfarfod yn Hyde Park o'r rhai sydd allan o waith yn Llundain. Yn ddilynol aeth dirprwyaeth o 33 o bersonau o'r cyfarfod at Deon Bradley a'r Arch- ddiacon Farrar. Dywedodd un ohonynt, O'Keefe, fod y caledi yn nwyreinbarth Llundain yn ddychrynllyd. Nid segurwyr oeddynt, ond dynion gonest awyddus i weithio. Yr oedd llai o waith yn awr yn y dociau, am fod llawer o fasnach y lie wedi ymadael oddiyno ar ol y sefyll allan mawr yn mhlith y docwyr. Yr Archddiacon Farrar Pa un ai eisieu elusen sydd arnoch, ai ynte eisieu gwaith ? Mr O'Keefe Eisieu gwaith. Yr Archddiacon Farrar: Y mae cyd- ymdeimlad pob dyn da yn y wlad gyda chwi. Nid oes neb yn dymuno gweled caledi yn y deyrnas, ac y mae y ewestiwn pa fodd i wneyd i ff wrdd ag ef yn pwy so llawer ar ein meddyliau ddydd a nos. Yr ydym wyneb yn wyneb ag anhawsder mawr: y mae arnoch eisieu cymorth ac y mae arnoch eisieu gwaith. I gynorthwyo y rhai y mae yn galed amynt yn Llundain yn unig rhaid wrth swm aruthrol o arian. Ond hyd yn nod pe y gellid codi hwnw, byddai genym wedyn i gynorthwyo y rhai sydd yn dyoddef y tu allan i Lundain. Dywed Mr Keir Hardie, A.S., wrthym fod cymaint a 1,250, 300 o ddynion allan o waith drwy y deyrnas. Gwr .idd yr holl ddrwg, yn fy marn i, yw cydymgeisiaeth ormodol a phoblogaeth rhy luosog. Feallai y bydd i'r Llywodraeth wneyd yr hyn fyddo yn ei gallu i roddi gwaith i nifer pur dda, a deallaf fod y festris yn gwneyd hyny yn barod. Wrth gwrs, nis gall y Deon a minau wneyd rhyw lawer, ond yn sior gwnawn ein goreu i ddeffro cyd- ymdeimlad ein cyd-ddinasyddion i ymdrechu lleihau rhyw gymaint ar y cyni fodola yn bresenol. Yn ddilynol hysbysodd yr Archddiacon yn nghanol cymeradwyaeth, fod y Deon am roddi swllt yr un i bob un o'r ddirprwyaeth fel ernes o'r hyn a wnai, ac y gwnai yntau (yr Archddiacon) yr un peth.
Y DIRPRWYWR LLA.FUR YN MON. SYR,-Dymunaf gael congl fechan geny ch i alw sylw y gweithwyr yn Mon at ym- weliad Mr Lleufer Thomas a'n sir. Fe gyn- haliwyd cyfarfod lluosog o ffermwyr a gweithwyr yn Llanfechell ddiwrnod y ffair, ac yn hwnw penderfynwyd fod y ffermwyr a'r gweithwyr i gael cyfarfod ar wahan eto. A dyma ddymunwn i hysbysu, sef fod cyf- arfod i'r gweithwyr i gael ei gynhal nos Fawrth nesaf, y 15fed cyfisol, yn Ysgoldy Gareglefn. Dymunir ar i weithwyr Llan- babo a chwr deheuol Llanbadrig ymdrechu bod yn bresenol. Credwn y cawn gyfarfod da. Mr Owen Griffith, Caemawr, fydd y llywydd. Weithwyr dewch yno yn llu.- Yr eiddoch, GWEITHIWR. h1 SYR,—Byddaf ddiolchgar os y caniatewc i mi alw sylw at y cyfarfod a fwriedir gynal yn Elwyn Hall, Llanfechell, nos Fawrth nesaf. Er mwyn bod yn drefnus pasiwyd mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn y neuadd uchod, dan lywyddiaeth Capt Thomas, Bryn- ddu, fod un o bob plwyf i gymeryd y cyfrif- oldeb o alw cyfarfod yn ei blwyf, ac yn mhlith y rhai hyn dymunaf yn daer ar bob gweithiwr fod yn y cyfarfod ar y noson apwyntiedig, gan deimlo na fydd yn bosibl rhoddi llais pawb heb i bob un fod yn bres- enol, am mai cynrychiolydd o'r cyfarfod hwn fydd i gyfarfod Mr D. Lleufer Thomas ar y 18fed cyfisol.—Yr eiddoch, J OIm JONES. Cae Mawr.
ALMANAC Y GWEITHIWR, 1893. Ychydig wvthnoMM yn ol ynaddangosodd adolygisi ar yr Alminac uchod yn ngholufnau y papyr hwn. Ar wyaeb-ddalen oyataf yr Almanac ceir ei gynwy-iatf, yr hwn sydd fal y undlyn Y Tymhorau, Diffyiciad -n a Nwyliau. Cffarwyddiariur i'r t lythyrdy. CytELrwyddisdan Cyf eithiol. Tafleni Owleidyddol. Beirr>iadaeth Cyat&dlosaeth 1892. Poial anw y lwor.-T Tywyddf Codiad a Machladiad y Lloar. Cyatadl«u»eth*u am 1893. Taflen Ffeiriau Cymrs. Ynghyd a'r Calendar, C frwyddiadau Amaeihyddol, Meddygol, a Th uluaidd, a thoraath « Fauion a gwybodaeth fuddkl i b;swb. Hysbyswyd fod yr Almanac i'w gael yn rhad yn irbob masnachdy sydd yn gwerth* y Quinine Bitters. Os oes rhai o'r cjfryw fas- nachwyr yn Nghyjaru heb gkel typya o'r Almaau-ciau, ac yo dyaauno eu cael i'w rhann yn mblith eu cwsmeriaU, aidoner cais am danyot yn ddioed ar bost c'trà at y Perchen- ogion. Hefyd os oes rhai o'r darl euwyr hb fod mewn eyfl-.ta-idra i'w gael gan y m^snaih- wyr, anfonir copi gyda throad y post i uuri yw gyfcirird ar dd eri-yniad wrapper npu stclmp dimai i dulu y cludiad. Er fod Almanac y Gweithiwr wedi ei gyfaddasu yn benaf at wasanatith Cymry y wlad hon, dc-allwn ei fo < yn dra phoblog^idd yn mhlith Cymry America, ga-v fod ynddo lawer o g/farwyddi dau a gwybodaeth fuddiol i bt.wb yn fhob rhan o'r byd. Mae llawer yn Nghymru yn anfon cop, o hone bob blwyddyn i'w cyfeillion mewn gwi-adycld tramor.
■■■ Gwellhad arall o Afiechyd yr Ysgyfaint, oedd wedi parhau am ddeng mlynedd, gan DB LOCOCK'S PULMONIC W APERS.-Dyma fel yr ysgrifena Mr D. Verrent, Coast Guard, Mount Charley, Donegal: Y maent yr hyn oil y rhoddir allan eu bod. Y mae genyf blentyn oedd yn cwyno (am ddeng mlynedd) oddiwrth yr Ysgyfaint, a hwynthwy yw yr unig bethau a wnaethant les iddo." Ceir rhyddhad uniongyrchol a gwellhad buan oddiwrth Gaethdra, Darfodedigaetb, Bronchitis, Peswch, Anwyd, Crydcymalau, a phob anhwylder gieuol, trwy gymeryd y Wafers, pa rai sydd yn flasus i'w cymeryd. Gwerthir gan yr holl fferyllwyr mewn blychan Is l £ c a 2a 9c.
MR THOMAS LEWIS, A.S., EIDAROGANAFIECHYDSYDYN Blin genym ddeall ddarfod i Mr Thomas Lewis, yr Aelod Anrhydeddus dros Sir Fon, gael ei daro yn wael yn sydyn tra yn anerch Cyfarfod Cynghrair Cenedlaethol Cymru yn Rhyl prydnawn ddydd Iau. Ar ganol ei araeth stopiodd yn sydyn, ceisiodd unwaith neu ddwy fyned yn mlaen, ond methodd, ac mewn llais bloesg ceisiod gan y gynulleidfa i'w esgusodi. Gweixiiwyd arno gan Mr W. J. Parry, Coetmor, a'r Parch Aaron Davies, Pontlottyn; a chludwyd ef mewncadair i'r gwesty agosaf. Gyrwyd yn yfan am Mrs Lewis, yr hon oedd hefyd yn Rhyl, a chafwyd cymorth meddygol yn ddioed. Da -genym ddeall fod y meddyg yn hysbysu fod yr Aelod Anrhydeddus rhyw gymaint yn well yn mhen awr ar ol yr ymosodiad. Teimlai ei holl gyfeillion yn y lie cryn bryder am ei sefyufzi, a diamheu y ca gydymdeimlad y wlad yn gyffredinol.
CYHUDDIAD DIFRIFOL YN ERBYN GWYLWYR CARCHAR. Cynorthwyo Lladron. Gwrandawyd achos rhyfedd iawn yn hedd- lys Manchester, pryd y cyhuddwyd dau warden yn ngharchar Strangeways, o fod a Haw mewn lladrad a gymerodd le ar y 19eg cynfisol, pryd y lladratawyd safe yn cynwys gwerth 50p o emau o fasnachdy. Cymerwyd dau ddyn i fyny, a gyrwyd hwy i garchar Strangeways i aros eu prawf. Cafodd un o'r heddgeidwaid allan fod Bennett, un o wylwyr y carchar, wedi talu ymweliad a thafarndy neilduol gyda llythyr oddiwrth un o'r carcharorion yn cynwys cyfarwyddiadau gyda golwg ar y gemau oedd wedi eu cuddio mewn maes cyfagos. Aeth yr heddgeidwad yno, ac addefodd gwraig y dafarn bobpeth wrtho, ac aeth yntau i chwilio am y gemau. Cafodd hyd iddynt, a rhoddodd hwynt yn ngofal y ddynes. Dranoeth daeth warden arall—Tooney—yno, ac wedi dangos llythyr cafodd y gemau gan y wraig, a rhoddodd hwynt yn ei logellau, a chychwynodd i fyned allan. Rhwystrwyd ef gan ddau heddgeid- wad a ymguddiai gerllaw, pryd yr atebodd, Y mae pobpeth yn iawn, i'r heddgeidwad Bloomfield yr wyf yn myned a hwy." Cy- merwyd Tooney i'r ddalfa, a phan ddygwyd Bloomfield i'w wyneb gwadai hwnw fod unrhyw gysylltiad rhyngddynt. Yr oedd Bennett wedi bod yn warden am naw mlyn- edd, a Tooney am naw mis. Gohiriwyd y prawf.
ADDYSG ItfDlJ YN LERPWL. Dydd Gwener diweddaf; ymwelwyd a JMr Acland, Is-lywydd Cynghor Addysg, gan ddirprwyaeth mewn perthynas i'r taliadau yn Ysgolion y Bwrdd yn Lerpwl. Yr oedd y ddirprwyaeth yn gynwysedig o Mr Crosfield, A.S., Mr Thomas Snape, A.S., y Parchn J. H. Atkinson, Stanley Rogers, Mr W. Mafckin, Mr Thomas Keates, a Mr W. Evans. Eglurodd Mr Crossfield neges y ddir- prwyaeth. Yr oedd y Bwrdd Ysgol wedi cyfodi anhawsderau ar iiorda rhieni oedd yn hawlio addysg rydd i'w plant. Ceisiai y Bwrdd Ysgol warthnodi plant y rhieni hyny a hawlient addysg rycld, drwy eu hystyried fel plant tlodion, analluog i dalu, yr hyn oedd yn beth tra anymunol. Dywedai Mr Snape, A.S., ei fod ef yn hollol gydymdeimlo ag amcan y ddirprwy- aeth. Gwyddai y B wrdd en bod i dalu dros rieni oedd yn hawlio addysg rydd yn mhen deuddeng mis wedi i'r Ddeddf gael ei phasio. Ond yn lie gwneyd darpariadau gogyfer a hyny, yr ceddynt yn gwrthod derbyn plant yn yr ysgolion yr arferent fyned, ac yn eu gorfodi ,4i fyned i ysgol arall. Yr oedd 14,000, allan o 20,000 o ys- golion, yn rhodd addysg rydd, a byddai yn ofidus meddwl i ddinas fawr fel Lerpwl, yr hon sydd yn galw ei hunan yn ail ddinas yn yr Ymherodraeth, fod ar ol mewn darparu addysg rydd i'w phlant. Yna daeth y Parch S. Rogers yn mlaen, a deiseb wedi ei llawnodi gan 120 o weithwyr. Teimlai y dynion hyn eu bod yn cael eu hamddifadu gan y Bwrdd Ysgol o ragor- freintiau addysg a ganiateid i rai llai tei- lwng. Oni baifod yr amser mor fyr buasai y ddeiseb hon wedi eu llaw-nodi gan filoedd. Dangosodd y Parch J. H. Atkinson mor anghyfleus oedd amddifadu rhieni o'r rha- gorfreintiau oedd ddyledus iddynt yn ol y Ddeddf, a'u gorfodi i anfon eu plant i ysgol- ion nad oeddynt o'u dewisiad eu hunain. Dangosodd hefyd enwau cannoedd o rieni oedd yn awr yn goriod talu, ond yn ymofyn addysg rydd. Dywedodd Mr Evans fod cyfleusderau y Bwrdd Ysgol yn Lerpwl yn annigonol i gyfarfod ag anghenion y ddinas. Yn Chadwick Mount, mewn seler o dan gapel y cynhelid yr ysgol; yr oedd yr ystafell yn dywell ac yn afiach, a dim lie i'r plant chwareu. Yr oedd yno 119 o ysgolheigion cymysg mewn lie oedd yn ymddangos iddo ef yn fath o fagwrfa i'r crydcymalau. Dywedcdd Mr Matkin fod teimlad cryf yn erbyn y bwrdd ysgol yn mhlith y gwa- hanol ddosparthiadau gweithiol yn y ddinas. Dywedodd Mr Acland fod y Ddirprwyaeth wedi galw ei sylw at amryw bethau pwysig yn ngweinyddiad y Ddeddf Addysg; ond wedi'r cwbl nad oedd yn angenrheidiol anfon Dirprwyaeth o Lerpwl i Lundain mewn achosion o'r fath, oherwydd, yn ol adran 5 o'r ddeddf, yr oedd gan rieni mewn unrhyw ran o'r wlad, os yn cyfarfod a rhwystrau i gael addysg rydd i'w plant, hawl i anfon cwyn oblegid hyny mewn llythyr neu ryw ffordd arall i'r swyddfa, fel y gellid gwneyd ymchwiliad, a gwneyd y diffygion i fynu yn unol a'r ddeddf. Gyda golwg ar yr arfpriad o anfon plant o un ysgol i'r llall, yr odad ef yn eu sicrhau y byddai i'r pwnc hwnw gael edrych i mewn iddo gyda'r gofal mwyaf. Os gwelid unrhyw rsv ystrau yn cael eu taflu ar ffordd addysg rydd, neu bwnc y tal yn yr ysgolion, yr oedd y ddeddf yn darparu ar gyfer hyny, fel nad oedd raid i rieni oedd yn hawlio addysg rydd i'w plant oddef unrhyw anfanteision yn y cyfeiriad hwnw. Wedi i Mr Crosfield ddiolch i Mr Acland am dderbyn y Ddirprwyaeth, ymadawyd.
1SYRDDAU CYFLAFAREDDOL. Barn Syr John Gorst, A.S. Bu Syr John Gorst, Ysgrifenydd y Try- sorlys dan y Weinyddiaeth ddiweddaf, yn traddodi araeth y noson o'r blaen yn y Free Trade Hall, Manchester, ar bynciau llafur. Nid oedd yn credu fod angenrheidrwydd yn bod am ffurfio plaid llafur ar wahan i'r ddwy blaid fawr Seneddol. Credai y cerid amryw o ddiwygiadau o'r pwysigrwydd mwyaf i'r dosbarth gweithiol yn y Senedd-dymhor nesaf. BYRDDAU CYFLAFAREDDOL. J L' Dywedai Syr John mai y petn CyntaI ar raglen y Ceidwadwyr oedd ffarfiad byrddau cymodol a chyflafareddol, er osgoi yr ang- hydwelediadau hyny a barai gymaint o ddyoddef i bobl, a'r rhai nad oeddynt ar y goreu end moddion trwsgl iawn i benderfynu annealltwriaeth. Nid oedd am ddyweyd fod ganddo gynllun perffaith i ddwyn hyny oddi amgylch, ond gallai awgrymu eu bod ar y dechreu i ymddiried yn yr awdurdodau lleol —cynghor trefol neu gynghor sirol-y rhai a etholid gan y bobl, i ddwyn yn nghyd gynrychiolwyr y meistradoedd a'r gweith- wyr, neu ynte dynu allan gynllun cyfaddas i'w rhanbarth drwy ba un y gellid dewis y personau hyny. Ond yr oedd anhawsderau mawrion yn nglyn a'r mater, ac nis gellid ei benderfynu yn foddhaol hyd nes y byddai rhengau y gweithwyr a'r meistradoedd wedi eu trefnu yn llawer gwell nag ydynt ar hyn o bryd. GWAITH Y BWRDD. Pa faint bynag o anhawsderau allai fod yn nglyn a chyfansoddiad y cyfryw fund, nid oedd yn anhawdd penderfynu pa fodd y cerid ei waith yi mlaen. Ni ddymunai neb iddo ymyryd yn y gradd lleiaf a'r un o'r sefydliadau gwirfoddol ardderchog sydd yn nglyn ag amryw alwedigaethau i benderfynu anghydwelediadau ond gallai gyfeirio at y sefyll allan yn mhlith docwyr Llundain er dangos pa beth allai cymhorth o'r tuallan ei wneyd. Beth wneid os na ellid cymodi y ddwy blaid ? Y pryd hwnw gorphwysai y ddyledswydd ar fwrdd cyflaf- areddol,—yr hwn fyddai yn gynwysedig o swyddog penodol a'r un nifer o gynrychiol- wyr y gweithwyr a'r meistri-i ystyried y mater. Byddai iddynt wrando y tystiol- aethau a rhesymau y ddwy ochr, ac wedi hyny roddi eu dyfarniad ar yr achos. A tyddai i rywun dybied na byddai unrhyw effaith i hyny ? A oeddynt yn meddwl na fyddai i'r farn gyhoeddus gefn- ogi y cyfryw ddyfarniad, y daethpwyd iddo gan lys anmhleidiol ? Oni fyddai i'r cyhoedd gondemnio yn ddiarbed y blaid hono—pa un bynag ai y gweithwyr ai ynte y meistri-a wrthodai gydymffurfio a'r dyfarniad, ac a barhai i gario yr ymladdfa yn mlaen ? DYLANWAD Y FASX GYHOEDDUS. Dywedai rhai personau, a hyny yn ddigon eywir, Nis gellwch byth wneyd i neb ymostwng i'r cyfryw ddyfarniad; nis gell- wch orfodi y meistri i gyflogi dynion a thalu iddynt fwy o gyflog nag y maent yn fodd- lon roddi; ac nis gellwch orfodi dynion i weithio am lai o arian nag y maent yn barod i'w dderbyn." Y mae hyny yn eithaf gwir; ond gellid dwyn yn mlaen holl rym y farn gyhoeddus i ddylanwadu ar y blaid wrth- nysig. Gellid teimlo yn sicr fod holl ffeithiau yr achos wedi cael eu gosod i lawr yn deg o flaen y cyhoedd, a theg oedd tybio y gellid yn raddol wasgu ar y sawl ddaliai yn gyndyn C nes ei orfodi i blygu. Byddai i'r gweithwyr, os y gwrthodent ymostwng, fforffedio pob hawl ar gefnogaeth a chynorthwy y cyhoedd; ac os na ellid gorfodi y meistradoedd i dalu mwy o gyflog i'r dynion, gellid eu gorfodi i dalu treth arbenig ac i gyfranu symiau o arian tuagat gynhaliaeth y gweithwyr oedd- ynt barod i weithredu yn unol a'r dyfarniad, ond a oeddynt allan o waith oherwydd ereill. Credai Syr John y byddai i sefydliad y fcyfryw fyrddau daflu goleuni mawr ar anghydwelediadau gweithfaol, a gallent weled eu ffordd yn glir yn mhen amser i drefnu moddion i osgoi y fath anghydweled- iadau yn y dyfodol. Ac os gellid dwyn yn mlaen fasnach y wlad heb yr ymrysonau a gymerai le yn awr yn llawer rhy ami, gymaint o galedi a thrueni a arbedid i'r gweithiwr, a chymaint lai o gyfalaf a was- treffid! LLEIHAU ORIATJ LLAFUR. Yr oedd Syr John o'r farn y dylid lleihau oriau llafur i'r nifer lleiaf oedd yn bosibl cyhyd ag y byddai hyny yn unol a buddian- I au ac effeithiolrwydd y genedl. Nid oedd ef ei hunan yn credu y byddai i leihad oriau llafur dueddu i leihau cynyrch y wlad; er i'r dynion weithio nifer llai o oriau, eto byddai eu llafur yn fwy gwerthfawr ac effeithiol yn ystod yr amser hwnw. Ac os y caniateid hamdden iddynt fynychu yr ysgolion cel- fyddydol oedd ar fin cael eu sefydlu trwy y wlad, credai y byddai eu Uafur yn oriau bychain yn llawer iawn mwy gwerthfawr nag yn yr oriau meithion. Ond dylai y Llywodraethfod yn wyliadwrus rhag ymyryd yn lleihad yr oriau os na fyddai y dynion yn berffaith foddlawn i hyny. Yr oedd y mater hwn yn hollol yn nwylaw y bobl eu hunaiu. Os oeddynt yn barnu fod hyny yn briodol i bersonau anghyhoedd gaxio hyny allan, dylent wneyd eu goreu i bwyso ar y Llywodraeth i wneyd hyny yn ngweithfeydd y Llywodraeth ei hunan. Gellid pasio deddf os dymunid rhoddi prawf cyffredinol ar ddiwrnod o wyth awr—yn datgan mai wyth awr yw pob diwrnod gwaith i fod yn mhob cangen o law-weithfeydd, os na fydd dealltwriaeth arbenig yn wahanol i hyny. Wrth gwrs, byddai hyny yn rhoddi hawl i unrhyw weithwyr i weithio diwrnod hwy na hyny os dewisant.
WartNER'3 "SAFjbi" CUKE At holl A NH-,VYLDERAU'it ELWLOD A'R AFU. w ARNE R'S "SAFE" CURE AT WENDID CYFFREDINOI' A BRIGHT' ulSKASE. MILOEDL) i> DKSTIMON1ALS yu datgan jiuweddau wedi eu filio a gauir tu haichwilio. Mae ei hawiiaa yu auwaiadwy. Gwer.hir gun bob fferyl'ydd a gwecLbwr physigwriaech. Danion r abamphledyu yn rhad oud ysgrifenu a. H. H. WARNKR A' Cyf, Ltd., 86, Clarkenw-lload, London, E.C >
SEFYDLU BWRDD CYMOD YN LERPWL. Boreu Mawrth ymgynullodd y cynrychiol- wyr a ddewiswyd gan wahanol alwedig- aethau yn Lerpwl i'r Neuadd Drefol gyda'r amcan o sefydlu bwrdd cymod rhwng cyfalaf a llafur. Y Maer (Mr J. de Bels Adam) a J ddywedodd fod yn llawen ganddo eu bod wedi ei ddewis ef yn gadeirydd. Cynygiodd Mr Paton y penderfyniad can- lvnol Fod bwrdd cymod drwy hyn yn cael ei ffurfio, yr hwn sydd i fod yn gynwysedig o'r Maer (fel llywydd), y cyflogwyr llafur a enwyd mewn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Rotunda, gyda gallu i ychwanegu atynt, a'r un nifer o gynrychiolwyr y gwahanol undebau gweithfaol. Y mae pob pwyllgor hefyd i fod yn gynwysedig o'r un nifer o gynrychiolwyr y meistri a'r gweithwyr." Eiliwyd hyn gan Mr G. Parkin, yr hwn a ddywedodd fod yn .dda ganddo weled y teimlad a rwystrai i rai o'r meistradoedd gytuno i ffurfio bwrdd o'r fath yn y gorphen- ol wedi cael ei symud. Cariwyd y penderfyniad yn unfrydol, a chynygiodd Mr J. Holder fod y cyfarfod yn cael ei ohirio hyd y 25ain cyfisol, fel y gellid penodi pwyllgor gweithiol a thyau allan reolau. Credai fod gyrfa lwyddianus o flaen y b nrrdd, ac y profa o fendith i bob dosbarth yn y dref. Mr Chadwiclc, wrth eilio, a gytunai a'r siaradwyr diweddaf, y byddai y bwrdd o fudd i'r meistradoedd a'r gweithwyr. Pasiwyd y penderfyniad, a diolchwyd i'r Maer am lywyddu.
Prynodd yr Ysprydegwyr hen gape^ perthynol i'r Wesleyaid yn Heighley, ac y maent am ei droi at eu gwasanaeth.
DIRPRWYAETII Y TENANTIAID GWILDDELIG. Gelygfa Gynhyrfns. Eisteddodd y ddirprwyaeth hon am y waith gyntaf boreu Llun, dan lywyddiaeth y Barnwr Mathew. Eglurodd ei arglwydd- iaeth mai eu hamcan oedd edrych i mewn i gyflwr y tenantiaid hyny oedd wedi cael eu troi o'u ffermydd, a cheisio dwyn y ddwy- blaid i gymod. Cyfeiriodd yn arbenig at Arglwydd Clanricarde, a dywedodd y caffai ei arglwyddiaeth gyfleustra unwaith yn rhagor, hyd yn nod ar yr unfed awr ar ddeg, i roddi hysbysrwydd i'r ddirprwyaeth, ond os y gwrthodai byddai y canlyniadau yn porphwys arno ef ei hunan. Yn y prydnawn eisteddodd y ddirprwyaeth eilwaith, pryd yr holwyd Mr John Roche, A.S., ar ran y tenantiaid, mewn perthynas i etifeddiaeth Arglwydd Clanricarde. Dech- reuodd Mr Carson, y cyn-gyfreithiwr cyff- CIY redinol, groesholi y tyst, ond attaliwyd ef gan y Barnwr. Dadleuai Mr Carson y dylasai gael croesholi y tystion, ond ni thyciai ei resymau gyda'r llywydd. Mynai Mr Carson fyned yn mlaen, ond gorchymyn- wyd iddo fyned allan. Dywedodd Mr Kenny, Q.C., yr hwn a ymddangosai ar ran Mr Smith Barry, ei fod yn cydweled a'r hyn a ddywedodd Mr Carson. Y Barnwr Mathew a sylwodd fod Mr Kenny yr un mor ddi- gywilydd. Yna ymneillduodd y ddau far- gyfreithiwr, a sylwodd Mr William O'Brien, Nid mewn llys gorfodol yrydveh x-'wan."
GWENDID. 0 dan y pen hwn gellir rhestru Uuaws o'r anhwylderau y mae y teulu dynol yn ddarostyng- edig iddynt, megys anhwyldeb cyffredinol, llewygon, iselder ysbryd, colliad grym, diffyg yni, nychdod, a'r eyffelyb. Dyoddefa lluaws mawr o'r ddyno ryw oddi wrth rai o'r anhwyl- derau hyn, y rhai ydynt mcfn gwirionedd yn ganlyniad naturiol anmhuredd neu ryw ddiflyg yn eu hadnoddau bywydol. Nid oes dim cyffelyb i Quinine Bitters Gwilym Evans at buro a chyfoethogi y gwaed, a rhoddi yni a bywiog- rwydd adnewyddol i'r cyfansoddiad. Meddyg- iniaeth adgryfhaol yw Quinine Bitters Gwilym Evans, yr hon sydd wedi ei pharotoi yn hollol o gyffyriau llysieuol, as mae yn cynorthwyo a hwylusu gweithrediadau natur, trwy gryfhau y cyfansoddiad, a chynorthwyo y bwyd-dreuliad, a thrwy hyn y mae yn hwylusu y gweithrecliadau, yn cryfhau y gewynau ar giau, yn puro a ffrwythloni y gwaed, yn bywiocau yr ysbryd, yn adloni y meddwl a'r tymherau ac yn symud ymaith atalfeydd yn yr ermigau bywydol. Nid oes dim i'w gydmaru a Quinine Bitters Gwilym Evans at gryfhau y cyfansoddiad pan wedi ei wanhau trwy unrhyw achos. Mae y Quinine Bitters yn nerthu a chadamhau I y rhanau gweiniaid o'r cyfansoddiad y rhai ydynt oherwydd eu gwendid y mwyaf agored i anwyd a'i ganlyniadau. Gochelwch gael eioh twyllo i gymeryd dim arall dan enw cyffelyb. Gwerthir Quinine Bitters Gwilym Evans gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Neu anfonir cf am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddi wrth y perchenogion: Quinine Bitters Manufacturing Company, Limited, Llanelli, South Wales.
TALU AM EI LLETY. Gwnaeth aelod o Gyngor Trefol Ramsgate garedigrwydd ag Iuddewes ieuanc o New I York drwy roddi llety iddi am ychydig I amser. Y ffordd a gymerodd yr Iuddewes i dalu am y caredigrwydd oedd lladrata modrwyau gwerth lop o'r ty. Dywedai y trafnoddwr Ainericanaidd mai wedi dianc i briodi yr oedd y garchares, a body dyn wedi ei gadael. Cafwyd y modrwyau yn ol. Rhwymwyd hi i ymddangos i dderbyn ei I dedfryd pan y gelwid arni.
CATARRH, HAY FEVER, CATARRHAL DEAF- NESS. A NEW HOME TREATMENT. Sufferers are not generally aware that these di^eaaes are contagious, or that they are due to j the preeenco of living parasites in the lining I membrane of the noso and eusta hian tub a. Microscopic research, h,wbver, has proved this to be a fast, and the result is that a j simple r-rnedy has bet-n formulated w hereby j these distressing diseases are rapid:y and « pmrmantntly cured hy a few simple al:()};c:4- dons made at ho e by the ratient once in two weeks. A pamphlet explaining tl>is new treatment is sent on receipt of 2d statnp by A. HUTTON T)IX)N, 43 and 45, East Bloor > Street, T0101 to, Canada.
PWU Y TIR. Dyma un o bynciau mwyaf pwysig y dydd, a chymer i fynv lawer iawn o'r nos, ac ymwthja hyd yn nod i freuddwydion y ffermwyr gwasgedig gan ei wneuthur yn frawychus ac anesmwyth. Dau bwnc llosgedig gwleidyddol sydd genym yn Nghymru ar hyno bryd, sef pwnc yr Eglwys, a phwnc y Tir; pwncdad- sylltiadadad- ,y waddoliad yr Eglwys Estronol a phwnc Dad- gysylltiad a dadwadcloliad y landlordiaid- gorthrwm y degwm a gorthrwm rhentydd afresymol a gormodol, ac y mae yna lawer o berthynas a thebygolrwydd rhwng y ddau; y mae y ddau yn anghyfiawn ac yn weddill- ion trawsarglwyddiaeth ac anghyfiawnder yr hen oesoedd tywyll gynt, i'r rhai y plygodd ein teidiau eu gliniau, ac nid y w eu holafiaid wedi bod lawer yn amgen hyd yn ddiweddar, ond y mae Cymru a'r holl deyrnas wedi di huno bellach, ae yn curo wrth ddrws y Wiadwriaeth. am ddiwygiad, ac ni churant yn hir yn ofer. Y mae swn agor oddi- fewn, ac y mae gwelliant yn nghyf- reithiau y tir yn un o blanciau y llwyfan Ryddfrydol. Yn ddiweddar, ys- grifenodd Mr Arthur Arnold, Cadeirydd y Free Land League," at Mr Gladstone, gan amlygru amcanion a dymuniadauy Cynghrair ar bwnc y tir, y rhaiydynt wir Radicalaidd ac angenrheidiol, a derbyniodd ateb oddiwrth Mr Gladstone, yn yr hwn y dywed ei fod yn cydfyned a llawer o olygiadau y Cynghrair, a gobeithiai y gwnai y Llywodraeth ddeddfu yn yr un cyfeiriad y Sessiwn nesaf. Y mae yr ateb hwn ynlled foddhaus a gobeith- iol, ac y mae yn gweddu i ffermwyr Cymru barhau i gynhyrfu a chynghreirio, fel ag i wybod eu nheges a'i dweyd yn y modd mwyaf penderfynol ac effeithiol, o herwydd "F hwn sydd yn ecisio sydd yn cael" yw hi yn mhob cylch, ac y mae rhaid i'r di- wygiadau tirol, fel di wygiadau ereill, ddyfod oddiwrth y bobl, ac oddiwrth y dosbarth mwyaf dyddoredig yn y drafodaeth hon.- Seren Cymru.
YN EISIEU. Mae awer o bethau yn eisieu y dyddiau hyn, brithir newyddiaduron gan hysbysiadau yn gofyn am gyflelnmd o'r hyn sydd yn eisieu gan wahanol bersonau ac ardaloedd sydd yn teimlo eu hangen. Ond y mae un peth yn eisieu yn fwy na'r oll, sef gwellhad buan i bawb sydd yn dioddef oddi wrth anhwylderau y cylla, yr afu, y giau, a'r ysgyfaint, a thwymynau a chlefydau sydd yn ymosod ar filoedd o drigolion ein gwlad. Mae cy.tnwi'r angen hwn, a rhoddi gwellhad buan i'r dioddefwyr yn beth dichonadwy, ac o fewn cyrhaedd pawb, sef trwy ddefnyddio Quinine Bitters Gwilym Evans, mewn pryd. Y mae y meddyglyn rhagorol hwn erbyn hyn yn fyd-adnabyddus, a chydnabyddir yn mhob man nad oes dim a all gystadlu a Quinine Bitters Gwilym Evans, mewn effeithiolrwydd i symud ymaith holl anhwylderau v cylla, yr afu, y giau, a'r frest. Mae ynaml wedi llw-yddo i symud yr anhwylderau hyn, pan oedd pob meddyginiaeth arall wedi methti. Nid yw byth yn siomi. Rhoddwch brawf arno. Gwerthir gan bob fferyllyd.d mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Os bydd anhawsder i'w gael, anfonir ef yn ddidraul drwy y post, am y prisiau hyn gan y perchenog- ion:—Quinine Bitters Manufacturing' Company, Limited. Llanelli. South Wales.
SHOP D I Lf/ADA (J P A R O D, AFlt AUR,= CAERNARFON. TREIWCH Siwtiau Dynion am 21s 9c. Top Cotiaui Ddynion am 15s 11c Top Cotiau duon eto am 21s 110 Mackintoshes am 21s lie. Hetiau am Is lie. iillll 4/C) DIGON 0 AMRYWIAETH AC YN HYNOD RAD. GOEYNWCR I AM ■ HUGHESS I BLOOD PILLS ■ EDRYCHWCH I YN FANWL AR BOB BOX A H byddweh yn SICR na byddweh ya cael eich twyllo, a GWELWCM ■ Fod y TRADE MARK sef (Llun CALON) ar bob Blwch. Y mae un- rhyw Pills a gynygir yn Ddyawarediad a fl Thwyll, ■ AC NID YDYNT YR IAWN ■ BELENAU, ac ni chynwysant yr un rhinweddau a H.U G HE'S I BLOOD I PILLS. I (JOCHELWCH I Bersonau anonest y rhai a ymostyngent mor isel nes ymgeisio twyllo trwy werthu Pills diwerth yn lie y rhai Pur. ■ Y mae y RHYBUDD 1 hwn yn ddyledus i'r Cyhoedd er eu liamddiilyniad, er mwyn iddynt sicrhau ■ y Pills gwirioneddol, ac fel y gallont H ochelyd y masnaehdai hyny lie y mae ■ twyll yn cael ei ymarfer. H GOFYNWCH I "HUGHES'S fl BLOOD PILLS I a Llun Calon ar bob blwch. Gwrthod* II weh bob peth arall. |l Gwaed drwg. c curvy I WAED DRWG. O CURVY I iROEN GLEFYDAU. OOEN PEN. I L/ROEN GLEFYDAU. X OEJST PEN. I a FU DDRWG. |IFFYG TRAUL. I A. FU DDRWG. JLflFFYG TRAUL. NERVOUSNESS. i^WYNEGON, ERVOUSNESS. VTWYNEGON Biliousness. /~ilefydau arenal. ILIOUSNESS. v/LEF YDAU ARENAL aT Y maent yn iachaa pan bdd pobpeth arall yn methu. Heb oedi danfoner am Box o "Hughes's Blood Pills" gyda Llun Calon ar y Label. Peidiwch t cymeryd dim arall. Ar werth am Is lie, 2s 9c, 4s 6c. Gyda'r Post am Is 3c, 2s lie, 4s 9c oddiwrth y Perchenog, JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST,, 1 PENARTH. I < DYLAI Dynion rhw«g 18 a 25 oed sydd yn edrych am waitti ac eisiaa cael vBWYD DA, UlLLAD DA, LLKTT5T DA, a^fchacl arian i wario ymuno a r Fyddin. Gellir cael pamphlcdyn ar Foi leision y Fyddin," yn dditrost mewn unrbyw Lytbyrdy, neu gellir cael pob mmylion trwy ysgrifena at y Kccrar ing Sergeants yn Mangor nea Iaer- an rfon, neu gan unrhyw Sergeant Instructor y Volunteers j ^ADKIEL'S ALMANACK, 1893 j Enormous Circulation. Voice of the Stars,. jB weather forecasts, general predictions. 1 ZADKIEL FORETOLD the. Cholera, the Death of the Duke of Clarence, the Change of; Government, Strikes in America, i-c.-Loadon j Cousins & Co., 6, Helmet Court, Strand, and alL ( Booksellers, price 6d. Post Frae, 5a. 7588. l
YR INDIAIB CYMREIG. "i Hoff gan y cyn Bostfeistr Cyffredinol 9 Thomas L. James ymffrostio yn ei genedl, J Nid yw yn colli eyfle i'w dwyn i sylw yr Americaniaid. Amser yn ol cyhoeddodd, I ysgrif ddyddorol ar Gymry America" yn y Cosmopolitan, yr hon a ail-gyhoeddwyd gydag ychwanegiadau ar bapyr da, gan y Troy Times, perchenog yr hwn yw yr I Anrhydeddus John M. Francis, ac efe hefyd -1 a ymfalchiayn ei waed Cymre,g. James yw llywydd y Lincoln Bank yn New York, y mwyaf ei fasnach yn America, a Francis yw perchenog y papyr dyddiol mwyaf enillfawr yn Nhalaeth New York y tuallan i'r ddinas- ymerodrol. Yn nghanol y twrw am I Columbus a'i ddarganfyddiadau, mae Mr James, trwy gyfrwng y New York Inde- pendent, yn adgoffa i'r Americaniaid fod | Madog ap Owain Gwynedd wedi darganfod America yn y ddeuddegfed ganrif, yn ol barn dynion dysgedig. Mae yn naturiol i mi wneyd hyny," medd Mr James, nid am tJ fy mod yn hanesydd, ond am fy mod yn Gymro, a phob amser yn awyddus i hawlio yr holl anrhydedd dichon- adwy i'm cydgenedl." Peth da fyddai i bob Cymro gymeryd gwers oddiwrth yr awgrymiad hwn o eiddo ein cydwladwr selog. Nid yw yn honi fod ganddo ddim newydd, ond cydnebydd mai ei amcan yw rfj rhoi crynhodeb o'r ffeithiau a'r traddodiadau fel y ceir hwy yn llyfr y Parch Benjamin F. I Bowen, a gyhoeddwyd oddeutu ugain mlynedd yn ol. Nid yw Mr James jn dyweyd fod Bowen yn profi darganfyddiad Aonerica gan Madog, ond fod sailiau da i'r grediniaeth. Bu amser pan yr hwtiwyd y t syniad fod y Norwys wedi bod ar ein gor- orau o leiaf naw cant o fiynyddau yn vI, ond l I y farn gyffredin, erbyn hyn, yw fod hyny yn wir. Feallai y daw yr amser y profir fod yr hen draddodiadau Cymreig yn seiliedig ar ffeithiau. Bydd i ysgrif ddarUenadwy Mr James mewn cyhoeddiad o safon feirniadol yr Independent, dynu sylw o'r newydd at y j pwnc.-Y Drych.
Fe wneir achwyniad cyffredinol fod y rhai fwyaf o cocoas yn anrheuliadwy; ogymaint an j fod y broffeswriaeth feddygol wedi dangos yg ddiweddar fod yr alkalies a ddefnyddir yn rhy ami gan wneuthurwyr tramor, yn nghy- a'r mater bras, yn ffurfio sylwedd sebond aidd sydd yn hynod o beryglus i iechyd. Gyda golwg ar cocoas a wneir gyda gofal, r megis eiddo Mr Cadbury, nid yw y gwrth- V wyne biadau hyn yn bodoli. Whitehall Review. Dywedir fod y Barnwr Hawkins am yja~ ddiswyddo ddiwedd y fiwyddyi". Argraphwyd a chyhoeddwyd gan y perch- C, enogion, Cwmni'r Was- Genedlaethol Gymreig Cyf., yn eu swyddieydd, Bala- clava Road, Caernarfon. "T 1