CYFALAF A LLAFUR. Unwaith yn rhagor dymunwn alw sylw at gyaylltiad cyfalai a llafur. Mae y mater hwn o'rpwysigrwydd mwyaf i'r wlad yn gyffredinol. Mae y teimlad cyhoeddus yn ymiachau yn raddol gyda golwg ar y cwrs priodol i derfynu ang- hydwelediarlau. Yr oeddgormodo duedd vn Y gorphenol i edrych^ ar gjfalaf a llafur fel gelynion i'w gilydd, ac nad oedd ond peth naturiol iddynt ymgyndynu y naill yn erbyia y Ilall. Alivyddair y. eorplienol oedd, "Xrechaf treuaed, Swanaf gwaedded." Erbyn hyn edrychir arbe hynasynailla'-rilallinowngoleuni gwahanol, Yr umg ftordd a ystyrid yn ymarferol i derfynu anghydfod oedd sefyll allan ar ran y gweithwyr neu gload allan ar ran y meistri. Yn awr addfeda y farn gyhoeddus o blaid Sarfio byrddau cymodol I neu gyflafareddol i osgoi y drygau hyny Mewn colofn arall gwelir yr hyn a draethai Syr John Gorst mewn cyfarfod ar y mater hwn yn Manchester y dydd o'r blaen. Ei gynllun ef yw fod yr awdurdodau Heol ar y cyntaf i gymeryd y mater mewn llaw, a ffurfio y cyfryw fyrddau. Creda ef y byddai y teimlad cyhoeddus yn ddigon cryf i orfodi y pleidiau i syrthio i mewn i farn y bwrdd, a chario ei benderfyniadau allan. Fel y dywed ef, gellir bod yn dawel y bydd dwy ochr y cwestiwn wedi cael eu rhoddi yn llawn ger bron y bwrdd, ac y bydd y ffeithiau wedi cael eu rhoddi yn deg o flaen y cyhoedd. Tipyn yn gywrain yw ei awgrymiad pa fodd i diin y meistradoedd hyny a wrthodent gyd- ymffiirfio a'u dyfarniad, sef dodi treth arbenig arnynt i gynhal y rhai y gwrth- odent iddynt gael gweithio. Mae arnom ofn na fyddai hyny yn ymarferol o gwbl. Gwell o lawer fyddai rhoddi awdurdod cyfraith y tu ol i ddyfarniadau y cyfryw fwrdd. Nid oes allu llai na Senedd ein gwlad yn abl i blygu ami i feistr ffroen uchel. Gallwn grybwyll hefyd fod prawf ar fwrdd cymodol gwirfoddol ar gael ei wneyd yn Lerpwl. Fel y gwelir oddi- wrth yr adroddiad o'r cyfarfod, ffurfiwyd bwrdd cynwysedig o nifer cyfartal o gyn- rrchiolwyr y ddwy blaid, a Maer y dref 7n gadeirydd iddo. Yn ydyfotol bydd y bwrdd hwn yn barod i ystyried pob achos o anghydwelediad a roddir ger ei fron, a rhoddi adroddiad arno. Pe buasai y cvfryw,-f\vrdd mewn bodolaeth er's blynyddau, mae'n ddiamheu y buasai wedi arbed llawer iawn o galedi a cholled. Arwydd er daioni yw gweled < arwydd i osgoi rhyfeloedd, a dewis cyf- lafareddiad yn ei le.
CYMDEITHAS ATH!{,¡l \VON EMANBARTH Y WYDDFA. Y mae y gymdeithas uchod newydd gv- hoeJdirhesr o'r dysgybl-athrawon a safasant yr arholiad lleol, yn nghyda'r nifer o farciau a enillvvyrd gan bob ymgeisydd. Dengys yr adroddiad mai 805 oedd cyfanswm y marciau gofynol, a saif y goreuon o'r ymgeiswyr yn y gwahanol ddosbarthiadau fel y canlyn:— 1, Morris Davies (Ysgol Glanmoelyn), 385; Emily Whiteside (Penisarwaen), 346. 1st year:—Robert R. Williams (Deiniolen), 566; Edward J. Jones (eto), 522; Thomas O. Jones (Caeathraw), 433. 2nd year:—R. Cecil Roberts (Glanmoelyn), 593; Annie M. Jones (Carnarvon), 548; Elizabeth Rowlands (Deiniolen), 524; Jane Morris (Penisarwaen), 510. 3rd year:—Richard W. Jones (Dinor- wic) 563; A Carick Atkinson (Carnarvon), 511; William Roberts (Deiniolen), 502. 4th year:—Ellen Jones (Deiniolen), 369; Alice Hen wood (Carnarvon), 263. Y mae rbagor- iaeth yn amIwg yn ngwaith disgyblion yr ail flwyddyn.
Y cyfanswm dderbyniwyd gan Gronfa Dydd Sadwrn Ysbyttai Llundain y flwvddvn hon ydoedd 15,000p.
YR ANARCHIAID YN PARIS. FFRWYDRIAI) I)YCHRYNLLYD. 1 Pump wedi eu Lladd. Cymerodd anghydwelediad difrifol le rhwng cwmni gwaith mwn y Carmanx, yn Ffrainc, a'r meistradoedd. Tuag un-ar-ddeg foreu Mawrth gwelodd un o'r clercod lestr tebyg i sospan ar lanv-r cyntaf swyddfa y cwmni yn Paris. Galwodd ar heddgeidwad i mewn, yr hwn gydag un o weision y cwmni a'i cludodd i orsaf yr heddgeidwaid. Yna gwnaed archwiliad arno gan ysgrifenydd y prif-gwnstabl, a'r rhingyll, a'r ddau a'i dygodd yno. Yn sydyn ffrwydrodd cynwys- iad y llestr, gan wneyd difrod dychrynllyd, a lladdwyd y pedwar dyn oedd yn yr ystafell. Chwilfriwiwyd ystafelloedd ereill,ac anafwyd amryw o bersonau. Dychrynwyd un hedd- geidwad gymaint fel y syrthiodd i lawr yn farw. Bernir mai dynes a gludodd yr offeryn dinystriol i swyddfa y cwmni. Cymerwyd amryw i fyny am ganmol gwaith y sawl a achosodd y dinystr.
Y nmmmm YN GWEITHIO, Mawr yw y cwyno am y gwastraff a gymer i le yn y fyddin a'r llynges; ac er yr holl arian a werix ar y rhai hyn, digon aneffeith- iol ydynt wedi'r cyfan. Hysbysir yn awr fod y Cyfrin-gynghor wedi penodi pwyllgor eymys- i edrych i mewn i weithredia,dau y Morlys. Credirnadywhynond rhagymadrodd I i waith cyffelyb yn nglyn a'r fyddin.
TRENGHlXLYDlTs IRDMNB YCH. Yn nghyfarfod chwarterol Cynghor Sirol Dinbych, a gynhaliwyd ddydd Llun, dewis- wyd trengholydd dros Ddwyreinbarth sir Ddinbych. Ar y cyntaf penderfynwyd, trwy 41 o bleidleisiau yn erbyn 7, fod yn rhaid i'r sawl a ddewisid fod yn meddu gwybodaeth drylwyr o'r iaith Gymraeg. Ymgeisiai wyth, a chafodd Mr W. Wynn Evans, cyfreithiwr, Gwrecsam, 38 o bleid- leisiau, a'r Dr Edward Davies, PlasDarland, 19. Felly Mr Evans gafodd ei ddewis.
GORYMDAITH YR ARflLWYDf) FAER. Ddydd Mercher cymerodd gorymdaith yr Arglwydd Faer le. Rhywbeth yn debyg ydoedd i un y blynyddoedd blaenorol. Cym- erodd un ddamwain cldifrifol le yn y Strand, drwy i gerbyd a gynwysai nifer o henadur- iaid dori i lawr. Crewyd cynhwrf mawr, a chymerodd lladron fantais arno drwy ysbeilio nifer mawr o'u horiaduron a'u cadwynau. Mathrwyd un foneddiges, a niweidiwyd hi yn ddifrifol.
Syrthiodd bwrdd perthynol i ryw gon- tractor yn Leeds, a thorodd goes plentyn. Dyfarnwyd 15p o iawn i'r plentyn, a lOp i'w dad. -=:J_
.b- CAEL LLETY TRWY DWYLL. I Yn heddlys Gwrecsam, yr wythnos hon, cyhuddwyd Jane Williams, merch i fwnwr yn Nghoedpoeth, o gael bwyd a Ilety mewn amryw dai drwy dwyll. Ystori'r ddiffyn- yddes oedd ei bod yn athrawes mewn ysgol yn yr ardal, a'i bod yn ferch i fasnachwr pwysig yn Lerpwl. Caiff fwyd a llety yn ngharchar ei Mawrhydi am y mis nesaf.
AGORIAD SENEDD BELGIUM. Ar yr achlysur o agoriad y Senedd yn Brussels gwnaed arddangosiad gan y gweith- wyr o blaid estjn yr etholfraiiit 1 idynion yn gyffredinol. Elai y brenhin ei hunan i r Senedd-dy, ac ar y ffordd gwneid gwaedd- iadau yn ei wyneb o blaid estyniad yr ethol- fraint, a thaflwyd pecyn o hysbysleni cochion i'r cerbyd. Parodd hyn i'r ceffylau ddychryn, a chydag anhawsder yr osgowyd damwain i'r brenhin.
CYIIUDDIAD 0 WERT.HU DIOD I DDYNION MEDDW. Yn llys ynadol Conwy, ddydd Llun, cy- huddwyd Margaret Pritchard, Mountain View Hotel, Penmaenmawr, o werthu gwirod i ddau ddyn oedd eisoes dan ddylanwad V ddiod. Tystiodd yr heddgeidwad Rowlands iddo weled dau ddyn yn dod o'r gwesty yn feddw iawn, ac iddo eu danfon adref, ac wedi hyny fyned i'r gwesty i'w hysbysu y byddai iddo godi gwys. Wedi gwrando tystiolaethau pellach, taflwyd yr achos allan.
8 U_- MARWOLAETH DUC MARL- BOROUGH. Boreu Mercher ca-fwyd hyd i'r Due Marlborough yn farw yn ei wely. Y noson flaenorol yr oedd mewn iechyd rhagorol.
GOSTYNGIAD YN NGWERTH TIROEDD. Ugain rolynedd yn ol gwrthodwyd 8,500p am ystad yn Essex. Yr wythnos hon gwerthwyd hi am 3,400p. Dyma brawf arall o'r dirwasgiad amaethyddol.
ETHOLIAD ARLYWYDD YR AMERICA. Ddydd Mawrth cymerodd etholiad ar- lywydd Unci Dalaethau yr America le. Ymgeisydd y Gwerinwyr oedd yr Arlywydd Harrison, tra yr ymladdai Mr Cleveland ar ran y Democratiaid. Mr Cleveland a ethol- wyd. Pleidiai y Gwerinwyr dollau uchel ar y nwyddau a ddadforid i'r wlad, tra y mae y Democratiaid o blaid eu gostwng.
DALIADAU BYCHAIN YN ENILLGAR. Fel canlyniad blwyddyn o lafur y rhai sydd yn dal nian-diroedd (allotments) dan Arglwydd Carrington, yn Spalding, cyfrifir fod yr enillion (ar ol tynu allan yr holl daliadau-megys am hadyd, llafur, &c.), yn 211p ar 33 o erwau. Seihr hy-n ar ymchwil- iad i gyfrifon wyth o'r daliadau. O'r rhai hyn yr enill mwyaf ydoedd 8p 13s 3c ar erw o datws; a'r enill iselaf ydoedd 3p 9s 9c ar erw o haidd. Y mae y llafurwyr sydd yn dal y man diroedd hyn wedi cyflwyno diolchgarwch i Arglwydd Carrington, a mynegasant eu dymuniad i sicrhau ychwaneg o dir ganddo.
DEDDF Y "MARGARINE." Cyhoeddwyd adroddiad yn cynwys cyfrif o'r aelodiu a brofwyd o dan y ddeddf uchod. Dengys y cyfrifon; hyn fod yn Lloegr a Chymru (y siroedd a'r bwrdeisdrefi), 1,273 o euogfarniadau yn ystod y pedair blynedd sydd wedi pasio er pan ddaeth y ddeddf i rym. Yn Ysgotland, nifer yr euogfarniadau ydoedd un a deugain ac yn yr Iwerddon, a gadael Dublin allan, 34. Yn rhanbarth 1 heddgeidwaid Dublin, yr oedd yr euogfarn- ¡ iadau yn ystod y pedair blynedd yn 116. F-:?.
LLONG HYFEL ARALL AR Y CREIGIAU. Aeth un arall o longau rhyfel harddaf ei Mawrhydi, yr Howe, ar y creigiau yn agos i Corunna, ac ofnid unwaith y buasai yn llongddrylliad. Credir yn awr y bydd modd ei chael yn rhydd, ond y bydd y gost o'i had- gywiro yn aruthrol.
MARWOLAETH ROBYN DDU ERYRI. Bu'r bardd adnabyddus Robyn Ddu Eryri farw yn Ludlow foreu Iau. Ganwyd Mr Robert Parry yn Nghaernarfon, Chwefror 7fed, 1804, felly yr oedd yn ei 89 mlwydd pan fu farw. Yr oedd Robyn yn fardd o allu, ac un adeg bu yn teithio Cymru fel darlithiwr. Claddwyd ef yn mynwent Ludford, Ludlow, ddydd Mawrth.
GWEITHWYR YN ERLYN EV î MEISTRADOEDD Anaml y mae hyn yn cymeryd pan ddigwyddo gelhr teimlo yn eS fod ymdrech wedi ei gwneyd 1 gario g tu hwnti oddefgarweh gweithiwr. o weithwyr Meistri Allen a'u uie. adeiladwyr Llundain, i weithio i eu Erlynodd y gweithwyr am Sf y cludiad, aTr amser dreuliwyd gaiiaajrn siwrnai. Y pwynt i'w ^nd^ffp"^table, pa un a anfonwyd y gweitnvkvr ynte a aethant yno o'u gwjfod • iolaethodd un o honynt, --gj mai y trefniant ydoedd fod id P1 amser arian eu cludiad, a'u llety, ac am 5 eu dreulid ar y daith. Wedi cyrhae %w-aith taith, gwrthododd arolygjdci y dalu iddynt arian eu cludiad 16 gan rai o honynt arian i brynu. ac oni bai am garedigrwydd. y „acfj(l0 .bi,fLq9,1 I ef yn llettya gyda hwy, ni .lod yn ol ef ddigon 1 brynu bwyd. W<3 hawlio(jd i Lundain aeth at y meistnaa telerau, j yr hyn oedd ynddyled*^0%oLJ^eil i ond gwrthodasant yn benda & chael 1 asant wrtho am f jmed lie y J dadleu M yr arian os gaJlai. J« pender- M cydrhwngcyfreithwp^y dd^ eithwyr. W tynodd yr ynad o blaid cludiad J gorchymynodd y meisj 1 & hawlid M yn ol a blaen, a r sjIJJia r i ganddynt. •
-111'" [ d&tf3MJII8'IiV-- PUBLIC NOTICE. NOTICE IS HEREBY GIVEN that the whole of the Printing and Publishing business hitherto carried on by n. W. Davies & Co., at Balaclava road, Car- narvon, has now been sold and transferred to the Welsh National Press Co. (Limited). All orders for Printing and Publishing, and other business communications should from this date be addressed to THE MANAGER, Welsh National Press Co. (Limited), Carnarvon. November, 11, 1892. (Signed) D. W. DAVIES & Co. RHYBYDD CYHOEDDUS. RHODDIR RHYBUDD trwy HYN fod yr holl fasnach Argraphu a Chyhoeddi sydd t, wedi ei gario yn mlaen hyd yn hyn gan D. W. Davies a'i Gyf., yn Balaclava Road, Carnarvon, wedi ei werthu a'i drosglwyddo i Gwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig (Cyf). Dylai pob archeb am Argraphu neu Gyhoeddi, neu unrhyw lyth- yrau ynglyn a'r busnes uchod, gael eu cyfeirio ar ol y dyddd- iad hwn i THE MANAGER, Welsh National Press Co., (Limited). Carnarvon. Tachwedd 11, 1892. (Arwyddwyd) D. W. DAYIES A'r GYF.
Ceir prawf pellach tua'r pen tymhor yma o'r caledi yn mysg y ffermwyr yn nifer yr arwerthiadau a gymer le. Mae v naill ar ol y llall yn canfodnas gallant Lei deupeny llinyn yn nghyd,ac mai y peth goreu iddynt yw rhoddi pen ar ffarmio- Fel enghraipht o hyn gwyddom am fferm pa un a drodd yn golled o 50p ^tenant yn 1890; 67p Vn 1891; ac yn 1892 penderfynocl(I yr amaethwr roi y fferm i fyny CYlllddo fyn7d i lys y meth- daliad. „ Mae tir-feddianwyr Gogledd Cymru o'r diwedd wedi d'od i gredn mai y peth n11 ont wneyd yw rhoddi eu ty S trefn ar gyfer y Ddirprwyaeth Frenhinol sy'n debyg o gael ei phenodi i edryohi mewn i gyflwr amaethyddvaeth vn Nghymru. Bu gan eu cymdeithas gyfariod yn Nghaer yr wyttoos ton. J. -UJ\'lrllr- temmeaasaiam Dygwyd y gweithrediadau yn mlaen yn cryfrinachol, wrth gwrs ond hysbysir fod amryw wedi "ymuno o'r newydd." I Anfonodd Cynghrair Rhyddirydol Merched Cymru anerchiad at Mr T. E. I Ellis, A.S., yn ei longyfarch ar ei benod- iad i swydd yn y Weinyddiaeth. Mewn atebiad cydnabydda Mr Ellis y gwasan- I aeth mawr a wnaeth y Cyngrhair yn barod, a dywed ei fod am wneyd ei oreu i sicrhau pleidlais Seneddol i ferched. Cymerodd etholiad Arlywydd yr Unol Dalaethau le ddydd Mawrth. Y Demo- cratiaid a fuont fuddugoliaethus. Ar- goela hyn yn dda i fasnach y wlad hon, ac yn arbenig i fasnach alcan Deheudir Cymru, gan fod y blaid hon yn erbyn codi v trethau tryinion a wneir yn awr ar nwyddau a anfonir i'r Talaethau.
L'LIT,t IIERI JOS. MISTAR GOL.Be su ar Gownti Cown- sul sit Gaernarfon, deudwcli ? Dydi o ddim yn iach yn siwr i chi. Eaid i chi ddim ond darllen lianas y cwarfod dweutha i gaul gweld lipiu, heb son am y batl roual ar bwnc y swetio fao yno cyn hynu. Mi I rouddwn i yn meddwl mai cyfaill y gweith- iwr y galwai niwyafrif yr au]oda eu liunain adeg y lecsiwn, ondwfftiddun nliw, iniwai h y ca nh"j liunain yn y Cowiisul, ma arna i ofn i bod yn angliofio pob peth am iawn- dera y gweithiwrs. Dyma gyfloga pool y ffordd fawr y buo nliv/n yn son am danynt yr wsnos dweutlia. rhain yn cael llai o gyflog gin y cownti cownsul nag oeddan nhw yn gaul cin hynll. Faint ddyliach ydi' o ? Dydio ddim ond deunaw s vrllt ar gyfartaledd, a rhaid i clii gofio fod rhai o honyn nhw yn caul dim ond pedwar swllt ar ddeg.. Dydi hyny ddim flit o beth. Sut y medar dyn fyw a chadw gwraig a phlant ar ryw dreiffl felly. Wei, mi oudd y cownsilars yn bur barod i godi y cyfloga pan ddauthon nhw i wybod sut yr oudd petha, ma'n debig? Na choelia fawr; mi oudd yno rai, sydd yn gyfeillion y gweith- wyr mewn gvvirionadd yn barod i roi gini yr wthnos, i'r dynion. Ond mi gododd yr arglwudd raglaw griw yn erbyn hynu, ac mi gafodd rai o'r Rhyddfrydwyr i fynd gydag o. Mi safodd Dr Lloyd Williams, Meistri J. R. Pritchard, W. Jones (Clwtv- bont), T. C. Lewis, T. R. Jones, D. P. Williams, George Brymer, a Robat Gruffydd, Bethel, fel dur o blaid rhoi chwara teg i'r dynion, ond doudd dim iws. Mi ddeuda i chi at bwy ydw i yn synu fwua; at y'n haulod ni yn y Felin yma. Yr ydw i yn methu dallt be:sy wedi dod drosto fo. Mi ddylis i a llawar arall y buasa yn un o'r aeloda goreu i'r gweithiwr; ond dyma fo yn eynyg rhoi y gallu i gyd yn nwylo y t, y syrfeor, ond fod gan ddyn hawl i apelio at y comiti os y caiff o sac. Peth digri ydi i'r meistar roddi yr holl gyfrifol- deb ar y gwas. Ma rhaid i'r dosbarth gweithiol gael gwell auloda nag sydd ar y cownsul rwan. Pam nana nhw redag labor candidets ? Mi ddylan fynd at y gwaith o ddifri, ac nid rhw chwara plant o labor candidet fel fu yn Nghaernarfon, Ddyla neb ddwad allan yn labor candidet os na fydd y gweithiwrs yn galw arno. Does dim disgwyl ynill lecsiwn heb hyny. Ac y mae isio iddyn nhw ddefiro mewn pryd,,ac nid gadal i'r lecsiwn ddod ar i cefna nhw, cyn dewis yr ymgeisydd.
MEDHWYN ANNIWtOIABOL. Yn Heddlys Lerpwl yr wythnos lion cy- huddwyd hen wraig o'r enw Bridget M'Millen o fod yn feddw ac afreolus. Ym- ddengys fod yr hen wraig, yr hon sydd tua 60 mlwydd oed, wedi cael ei chondemnio am feddwdod gymaint a 314 gwaith o'r blaen. Y hi yw y person sydd yn meddu yr "an- rhydedd" o fod wedi ei chondemnio amlaf yn yr holl deyrnas. Anfonwyd hi unwaith yn rhagor i garchar—am fis y tro hwn.
DYN BWYSTFILAIDD. Cymerodd cyflafan erchyll le yn Black- burn foreu Mawrth. Anfonwyd geneth naw oed i ddanfon llo i le pur unig. Ar y ffordd adref ymosodwyd arni gan ddyn dieithr. Gwthiodd gadach poced i'w genau, fel nas gallai waeddi, ac yna cyflawnodd yr ymos- odiad. amI wg fod yr eneth wedi ym- drechu ei goreu i'wrwystro, gan ei bod wedi cael ei phastynu yn greulawn ganddp. Gad- awodd hi yn hollol ddiyinadferth yn y lie, a phan y daeth gwraig heibio iddi yr oedd wedi marw. Nid yw yr anfad-ddyn wedi ei ddal eto.
DARNIO YR EWYLLYS. Yn heddiys Caerfyrddin traddodwyd David Lewis i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o ddinystrio ewyllys ei dad, yr hwn a glaidwyd yr wythnos ddiweddaf. Ar ol i'r augladd fyned drosodd, darfu i Mr Brunnel White, cyfreithiwr, ddarllen yr ewyllys. Pan welodd y diffynydd nad oedd ei dad wedi gadael dim iddo of, cipiodd yr ewyllys o law y twrnai, a malodd hi yn ddarnau man. Rhwystrodd i neb gael gafael yn y darnau, a haerai fod y twrnai wedi eu twyllo. Ar ran y diffynydd haeiid nad oedd ganddo yr un drwgfwriad, gan na enillai ddim pe byddai yno ewyllys.
LLYGODEN FAWB YN YMOSOD AR BLENTYN. Yn gynav un boreu deffrowyd teulu yn Cadoxton gan waith eu haban pum mis oed yn llefain. Aeth ei fam ato, a gwelodd fod ei fraich yn gwaedu. Methasant wybod pa fodd y gwnaed y clwyf, ond gwelent lygoden fawr yn dod allan odditan ddillad y cryd. Cerddai y lygoden oddeutu y llawr, ac yna neidiodd i ben cadair, ac eisteddodd arni, gan edrych o gwmpas yn haIr ddenol. Cyrchwyd ci yno, yr hwn a'i lladdodd. Barnai meddyg fod y llygoden wedi sugno swm helaeth o waed y plentyn. Bn im arall o'r plant yn arfer gwaeddi yn y nos. ac feallai fod yr hen lygoden wedi bod yn ei boeni yntau yr un fath.
YSMALDOD DRUD. Bu raid i farsiandwr yn Edinburgh dalu dwy fil o bunau am beidio cyflawni ei addewid i briodi morwyn mewn gwesty. Dywedai y diffynydd mai wedi cael gormod o ddiod yr oedd pan wnaeth yr addewid. Ond dygwyd llythyr yn mlaen yn ei chadarnhau. Os ysgrifenais lythyr," meddai'r diffynydd, "ysmaldod oedd y cwbl."
TREFNIADAU GWARTHUS TLOTTY. Y 1 y rhan fwyaf o dlottai Llundain y mae me lyg arosol, ac yn nhlotty Stepney nid oe. -tcldyg o gwbl. Yn y tlotty hwn bu farw y dydd o'r blaen hen wr wyth a thri- ugain mlwydd oed, a fu unwaith yn ben pobydd, ond yn herwydd colli ei olwg, gorfu iddo chwilio am loches yn nhy y tlodion. Cymerwyd yr hen wr yn sal tua phump o'r gloch un boreu; a rhoddwyd iddo ryw gymysgedd gyfferïol gan un o'r swyddogion. Rhoddwyd dogn arall iddo tua saith; a gadawyd iddo ddioddef dirdyniadau ofnadwy hyd yn hwyr yn y prydnawn heb alw meddyg i fewn. Ni ddaeth y meddyg hyd wyth o'r gloch y nos, a bu yr hen wr farw ymhen ychydig fynydau wedi iddo gyrhaedd. Gwnaeth y trengholydd sylwadau llym iawn ynglyn a'r achos hwn.
Y BLAIDD WKTH Y DRWS. Labrwr yn un o'r dociau yn Llundain ydoedd Charles Houghton, yr hwn fu farw yr. wythnos hon. Achos uniongyrchol ei farwolaeth ydoedd y darfodedigaeth, ond fel y sylwai y trengholydd prysurwyd ei ddi- wedd gan angeu. Dywedai ei wraig mai tair wythnos o waith gafodd er y Nadolig diweddaf. Byddai hi yn myned allan i olchi ac i lanhau weithiau; ac yr oedd dau o'i phedwar plentyn yn enill cydrhyngddynt 10s 6c yr wythnos. Allan o hyn yr oedd 5s yn myned i dalu y rhent, ac ar y gweddill yr I oedd yn gorfod cadw teulu o chwech mewn nifer. Yn Nwyreinbarth Llundain y mae y, digwyddiadau hyn yn cymeryd lie yn mhlith I y gweithwyr anffortunus, traynNgorllewin- barth y ddinas y mae bonedd ein gwlad yn gloddesta, yn bwyta cnawd ac yn yfed gwaed y gweithwyr tlodion.
MORWYR MEWN PERYGL. Gerllaw Trwyn Delaware gwelwyd ys- gwner yn gorwedd ar ei hochr, a'r dynion yn hongian ar ei hochr. Er fod y gwynt yn chwythu yn gryf ar y pryd, aeth nifer o ddynion ati mewn wch, a llwyddasant i achub y morwyr oedd mewn perygl. Dy- wedent iddynt fod yn y cyflwr hwnw am ddeng awr.
BUWCH YN DINYSTRIO CER- BYDRES. Safai buwch ar linell rheilffordd yn Texas, pryd y daeth cerbydres nwyddau heibio, gan redeg yn ei herbyn. Y canlyniad fu i'r peiriant a d vy ar bymtheg o'r gwageni gael eu taflu oddiar y rheiliau, a syrthiasant i lawr y dibyn. Lladdwyd y gyrwr, a niweidiwyd tri o ddynion ereill.
I!IŒ- RS PARNELL YN LLYS Y METHDALWYR. Hysbysir fod Mrs Pamell, gweddw di- weddar arweinydd y Gwyddelod, wedi rhoddi rhybudd y bydd iddi fyned i Lys y Meth- dalwyr. Ni wyddys beth achosa hyn.
FFRWYDRIAD BERWEDYDD YN NGWRECSAM. Brydnawn Mawrth, ffrwydrodd berwed- ydd yn nglofa Acton, ger Gwrecsam, drwy yr hyn yr anafwyd un dyn yn beryglus, ac un arall yn ysgafnach. Cododd y berwedydd o'i wely, a hyrddiwyd darnau o hono i bell- der mawr.
MADAME PA.TTI ARJ.LL. Tarawodd i feddwl un dyn mai ffordd iawn iddo wneyd arian fuasai gwned model o Madame Patti, i'w arddangys trwy y wlad pan fydd Patti ei hunanc wedi myn'd." Felly y mae wedi gwneyd model wax, ac wedi dodi ynddo seiniadur, yn yr hwn y bydd amryw o ganeuon y gantores enwog. Dygir y ddelw ar y llwyfan, a bydd iddi ganu yn gymhwys fel y gwna Madame Patti yn y bywyd hwn.
CYMDEITHAS Y LIBERATOR. Bu methiant' Cymdeithas y Liberator yn foddion i yru hen foneddiges yn Cullompton ar y plwyf. Dywedai y swyddog elusenol yr arferai fyw yn gysurus ar log yr arian a roddodd yn y Gymdeithas hono, a bod yr hen wraig yn barlysedig. Caniatawyd 3s yn yr wythnos o gymhorth allanol iddi.
MR GEE A'I DDEGWM. Ryw chwech wythnos yn ol gwrandawyd achos yn llys manddyledion Caer, yn yr hwn y gwysiai Mr Thomas Gee, y Parch 5 John Morgan, rheithor Dinbych, a Charles D. Phillips, beili o Ruthyn, am werth ceffylau, ger, a rowler a atafaelwyd yn anghyfreith- lawn. Yr oedd y swm o 3 lp 16s yn ddy- ledus fel degwm oddiar Mr Gee, ac atafael- odd y beili ar wedd, hwch, a dau ful. Honai Mr Gee fod atafaelu ar y wedd yn anghyf- reithlon am ei bod mewn gwaith ar y pryd, a thalodd 45p i gofrestrydd Llys y Man- ddyledion er profi yr achos. Gohiriodd y barnwr ei ddedfryd, a dydd Mawrth rhodd- odd ei ddyfarniad. Gorchymynodd fod yr oil o'r arian oddigerth 7p-gwerth yr hwch a'r ddau ful yn cael eu dychwelwyd i Mr Gee, ac yr oedd i gael ei gostau hefyd. Dywedodd ei anrhydedd ei fod yn cydym- 1 deimlo a'r rheithor yn ei brofedigaeth. a
AHERLONG ME VVN TRYBiNI. Buwyd mewn pryder am ddyogelcj wch yr agerlong draws-Weryddawl City of Belfast, ond yn awr y mae wedi cyrhaedd New York yn ddiogel. Daliwyd hi gan dywvdd mawr, ac yr oedd ei glo wedi darfod bum niwrnod cyn cyrhaedd pen ei thaith, a llosgwyd yr hwylbreni a phob math o goed ereill ellid rhoddi dwylaw ar- nynt er cadw i fyny ddigon o ager i fyned i'r hafan a ddymunent.
ESC,OB Ll,,t-,N-FIIWV Alt EIDI)O YR fS. Bu Es-ob Llanelwy ddydd Gwener diweddaf anerch cyfarfod « Nghroesoswallt ar natur yr eiddo a berthyn i'rEgW Gwadodd yn bendant fod yr Eglwys yn dal diU Rhoddocld ei argl-ydd- eifdo5?rgenodl. Eioddold e, arwydd- iaeth i'r Cvmrv v cyiaeriad o fod. yn DODI laetn ^ymry mae ugeimau onest—yn hj-n, ysywaetn, o'i frodyr Eglwvsig y? ,ceiS2 j fyny datganodd na buasai iddgu- amerthwr eglwysi cysegredig deallent yn pUaddoliad.
PAROTOADAU HILWROL GER- MANL Pan dora rhyfel allan eto rhwng a Ffrainc, bydd gan y wlad_flae ^7 q llai nag wythnos, gymfer s, > Hae cer. ddymon yn barod'ar y terfynau. bydau y rheilffordd i'w cludo yn 1,100,000 o'r Landstrum—neu y wrth law.
PWYSO SIWGR- O flaen y Bamwyr Matthexf a Ga"1^ Bruce, yn Llys Maine y Frenhines, y Llundain, ddydd Iau diweddaf, gwrana wy achos Harris yn erbyn Allwood, yn J* yr oedd yr ynad taledig yn Wolverhamp wedi dirwyo Harris, cynorthwywr ea & nwyddwr, am dwyllo o dan -L-i. Pwysau a'r Mesarau, drwy werthu si g wedi ei bwyso mewn papyr, yr a^.g oedd yn pwyso deg o ddrainiau yn y P yn erbyn y prynwr. Dywedodd y barnwj fod yn rhaid diddymu'r euogfarniaa.^ oedd y prynwr yn gwybod ain y*arij ac ni ddarfu iddo wrthwynebu; a dyw y Barnwr Matthew nas gelhd dal allan i arferiad cyffredinol, yr hon oedd i'r prynwr a'r gwerth wr fel eu gilyad, J weithred o dwyll.
ME KE1R HARDlf W NGHAERDYDD Bu Mr Keir Hardie yn N ghaerdyd yr wythnos o'r blaen yn pleidio ymgeiswyr Llafur yno am seddau ar Gynghor Sl ? dref yn yr etholiad agoshaol. Wrth ei holi yn ddiweddar ar y modd i ddwyn Yr un- fihwn-ar-ddeg erwau tir diwrtaith dan ann iaeth, dywedodd y gwr yma nad oedd e*e wladweinydd, mai cjmhyrfwr yn unig yd- oedd ac ychwanegai nad rhagor o wyr fel y cyfryw sydd yn eisieu yn o'r gwahanol gynghorau, yn ogystal Senedd. ond mai rhagor o aelodau 11^9" ddyhd gael; hyny y w, dynion yn coled syniadau Sosialaidd.
Y LLAW-WEITHFEYDD COTWl* Ofnir y bydd o 50,000 i 60,000 oweithwyr cotwm yn cael eu gorfodi i fyw yn segur yn swydd Lancaster, am yr ymddengys yn ocheladwy mai attaliad ar y gweithfeyau fydd yn cymeryd lie. Eisoes, er ddy^* Sadwrn, y mae deugain mil ohonynt wedJ (peidio gweithio. C.ji.sia y meistriaid fynu gostwng pum punt y cant ar y cyfloga11* Myn y gweithwyr nad oes dim yn ystad y farchnad yn galw am unrhyw ostyngiad 0 r fath. Gweithio llai o oriau ydyw eu epun hwy; a thrwy hyny, Ueihau swm y gwaith ar law. Awgrymodd maerod Manchester a Liverpool fod y pleidiau yn cyflafareddu ar y mater. Prin yx oedd yr awgrym yn dder- byniol gan yr un o'r ddwy ochr.
CANONIAID BANGOR A'U PLEID- LEISIAU. Yn Llys Maine y Frenhines ddydd Gwener, 0 flaen y Prif Farnwr Coleridge a'r BarnjJ1 Wills, apehodd Mr E. H. Lloyd (ar ran Mr Huw Rowland, Bangor), am ystyried anlser i ddyfod ag apel yn mlaen yn erbyn Mr R. H. Pritehard, ysgrifenydd trefol Bango^j Apel ydyw hon yn erbyn gwaith y pleidleisiau yn y llys diweddaf yn gadael i enwau canoniaid Eglwys Gadeiriol BangoC ymddangos ar restr yr etholwyr. Eglur- odd Mr Lloyd fod yr apelydd wedi aros yn hir cyn gwneyd y cais hwn, ond yr achos o hyny ydoedd nas gwyddai i bwy i roddi Y rhybudd gofynol, gan fod y canoniaid eU hunain yn gwrthod myned yn ddiffynwyr a gwneyd dim i amddiffyn eu pleidleisiau. Rhoddodd y llys ganiatad i ddwyn yr 1 mewn, ond rhaid gohirio y gwrandawiad o honi am ddeng niwrnod ar ol i'r rhybuu gael ei roddi; yn y cyfamser byddai y canon- iaid at eu rhyddid i symud er taflu yr "Pel allan.
HELBULON TLODI. I Dewrder Gwraig. drechio Arswydus yw ymdrechion rhai a thlo^* Yr wythnos ddiweddaf o flaen y Treng- holydd Baxter 3m Mile End, Llundain, ymddangosodd gweddw Frederick w,agner, 61 mlwydd oed, ac yn ystod ei thystiolaeth dywedodd fod ei gwr wedi bod allan 0 waith am ddwy flynedd yn herwydd aflecny • Yr oedd wedi gweithio tuag at ei trwy yr adeg yna, trwy wneyd gwasgoua ond yr oedd yn analluog yn ddiwlddar." I enill digon i'w gynal; a symudwyd ef i r ysbytty, He y bu farw ymhen ycliydig I Dywedai mai gwaith echrydus oedd ceisio byw. Yr wyf," meddai, "wediboa anhawsder dybryd yn ami i gael bwyd Nis gallwn fyned trwy y fath dryhmi I hunan lawer yn fwy."
x 4 v •- ■ "lit > HIGHEST HONORS Diplomas, Gold Medals, A t all the Great Special Certificates of Merit, Exhibitions of the World. :;i. M vyn. ;s. l- .j:;l;: .+: i{J=- 1 m kJ J<&. m. JL m. ———B T |-™n 1 SOAP MAKERS I Mr. Jolin L. Milton I Sir Erasmus Wilson Late Presidet:t of the 1 A i I St.JohnsIiosfiiialjorthcSkht.LcndoH. Royal CotkSe of Surgeons, England. |J L I f\ Tvr\/x< T~ From time to time I have The use of a good soap flV |]jU6Cld;l /x UUUlll IIIICII 1 trjc^lveiy many different soaps is certainly calculated to pre- J L and after five-and-t wen ty years serve the skin in health, to fA careful observation in many a* thousands of ca^es, both in maintain us complexion and hospital and private practice, tone, and prevent it falling TT b>I TV/T /k T Ifi" Ci have no hesitation in stating into wrinkles. PEARS' is <i JLJL.ia 1 FV JJXXXv O none have answered so nai^ee^gr^vedon^ memory ¡ Î "U" AND ■ I v HIS ROYAL HIGHNESS THE Prince of Wales. /•ted It XlBtfnf i! ^9 1 i: I ■■ —^ |M[