Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
tMHs—naa«^i%—w—IMM— GLTWSOCH…
tMHs—naa«^i%—w—IMM— GLTWSOCH CHWI I Fod pwnc y byrddau oyflafareddol o flaen Cyngor Sirol Arfon ddydd Iau ? ¡ Na ddygwyd y ddadl i derfyniad ? Y ceir gweled yn y cyfarfod nesaf pwy I fydd cyfeillion y gweithiwr ? Mai yr Arglwydd Raglaw arweiniodd wrthwynebwyr y byrddau i'r gad? J Y gellir disgwyl araeth ymfflamycliol gan I Mr Farren yn y cyfarfod nesaf ? Ei fod wrthi yn brysur yn porthi Mr Greaves ddydd Iau? Nad oedd fawr angen am hyn ? Y gwyddai pawb y byddai ei gydym- deimlad ef a'r Arglwydd Raglaw ? Fod y llanciau hyny yn cael mwynhad mawr wrth ymgasglu at dy neillduol gyda'r hwyr ? Mai eu ham can yn tyru yno yw cael clywed y gwr yn emu i gadw ei blentyn yn ddiddig ? Fod y geiriau a'r alaw yn hollol, wreiddiol ? Mai dyma'r byrdwn,— Mae pawb yn gwneuthur pobpeth, A Bit-bach yn gwneyd dim ? Yd y fugeiliaeth yn graddol enill tir yn mysg y Methodistiaid Calfinaidd ? Mai prawf o hyny ydyw fod Capel Mawr Dinbych, wedi rhoddi galwad i weinidog dd'od yno i'w bugeilio ? Mai ar y Parch Evan Jofes, Bodffari, y disgynodd yr alwad ? Mai fel hyn yr onglyno Id J. D. J., Llanfairfechan, i Dreth y tylodion Gosod enw'r tylodion-ar y dreth, Dyna dro echryslon; Hyn yw'r gwir, fe renir hon I fagu pendefigion. Am y cynhwrf yn nghyntedd capel D-- nos Sul diweddaf ? Fod yn anmhosibl clywed y pregethwr yn rhoddi yr emyn allan, gan faia.t y sisial a'r chwerthin yn y lie ? Fod gwaith aelod o'r gynull jidfa yn galw sylw cyhosddus at y fath wrtiuiii i'w ganmol a'i edmygu ? < Fed yr amgylchiad hwu yn ein hadgoffa o afreoleidd-dra cyffelyb mewn cyfarfod cenhadol yn yr un lie ychydig amser yn ol ? Fod y ddau amgylchiad yn profi fod y rhai oedd yn creu y fath gynhwrf yn am- ddifaid iawn o barch i le o addoliad ? Fod lie i ofni y bydd yn rhaid cael cenhadwr i ddysgu y paganiaid hyn os na ddiwygiant drwy ryw ffordd arall ? Fod Mr Thomas Wynne wedi colli y lecsiwn unwaith eto ? Nad oes sicrwydd a ddaw ef allan eto ai peidio ? Fod 79 wedi "plumpio" i Mr Issard Davies ? Fod 36 wedi plumpio i Mr W. ^T. Wil- liams ? Fod 28 wedi plumpio i Mr M. T. Morris ? Mai 12 blumpiodd i Mr R. Ll. Jones ? Mai ycBydig ddyddordeb a gymerid yn yr etholiad ? Fod llawer yn edrych ar ymgeisiaeth Mr Wynne fel joke ? Fod cais yn cael ei wneyd ar i Arglwydd Penrhyn fod mor garedig" a chydsynio i lod yn Faer dinas Bangor ? Fod deiseb wedi cael ei thynu allan i'w chyflwyno iddo ? Mai Syr R. Williams-Balkeley fydd maer newydd Beaumaris ? Nad oes sicrwydd eto pwy a etholir yn faer Caernarfon ? Fod mynd garw ar y Genedl yn Mhwll- heli yr wythnos hon ? Fod dyddordeb neillduol yn cael ei gym- eryd yno yn helynt y trwyddedau ? Fod llawer iawn o siarad yn y dref am y ffaith fod yr arweinwyr dirwestol yn hynod drwy eu habsenoldeb o'r llysoedd trwy- ddedu ? Fod dysgwyliad pryderus am eu hateb- iad yn y Genedl nesaf P Fod yr arferiad o ysmygu yn myned ar gynydd yn mhlith merched ieuainc C- f -n ? Fod rhai ohonynt yn arfer ymgynull i fan neillduol i fyned drwy yr oruchwyl- iaeth? Y buasai yn llawer gwell iddynt aros adref i ddysgu trwsio eu dill ad ? Fod amryw ohonynt nas gallant fforddio rhoddi dimai yn y casgliad yn y capel ? Y rhoddant chwe' cheiniog am becyn o cigarettes yn ddirwgnaeh ? Nad yw gallu ysmocio yn un cymwysder i barotoi tamaid o giniaw blasus i'r gwr- os byth y ceir cydmar bywyd? Oni ddiwygiant y cyhoeddir eu henwau ger bron y wiad r" Mai anwiredd ydyw mai Mwrog ydyw y bardd llawryfol newydd ? Fod yn eithaf gwir ei fod wedi cyflwyno rhai darnau o'i waith i'r teulu Brenhinol P Fod yna ymgeisydd cryf arall am yr an- rhydedd? Nad ydyw hwnw yn neb llai na'r bardd athrylithgar, Mr John Trevor William3 ? Mai ein sail dsos ddyweyd hyn yw yr hyn a ymddangosodd yn un o'n cyfoesolion ? Mai prin y mae lie i obeithio y bydd yn fwy llwyddiannus yn awr nag fel ymgeisydd Seneddol dros Fwrdeisdrefi Arfon ? Mai fel a ganlyn y canodd Talhaiarn i wlad si ededigaete ? Henffych well i wlad fy nghaloD" Llwyddiant i ti, Gymru dirion; Bendith i dy feibion dewrion, A dy ferched glan Peraidd yw dy hynod hanes, I wresogi serch fy mynwes Tra b'o 'ngwaed yn llifo'n gynes, Caraf wlad y gan. Anwyl wlad fy nhadau, Caraf dy fyayddau; Creigiau gleision uwch y nant Ymwelant a'r cymylau Dolydd a dyffrynoedd ffrwythlon, Ffrydiau clir a llynau llawnion, Adlewyrcliant flodau tlysioI Yn ei dyfroedd glan. Hiraeth sydd i'm llethu Am anwylion Cymru, Ow! na chawn fy mhwrs yn llawn, A chred a dawn i'w denu Adre'n ol i blith fy nheulu, A chyfeiilion i'm croesawu Yn olynawl gwnawn foliannu Cymru, gwlad y gan. Milmelusach i fy nghalon, Na mwynderau gwlad y Saeson, Cig, a gwin, a da, a digon, Ydyw gwlad y gan Nid oes modd i ngwen lawenu Tra b'o f'enaid yn hiraethu Am fynyddoedd cribog Cymru, A'i dyffrynoedd glan; Nid y 11 awn heolydd, Mwg a thwrf y trefydd, Nid y byd a'i olud drud Sy'n denu bryd y prydydd; Ond afonydd, gwyrddion ddolydd, Swxi yr frvol yn y coedydd, Cyman, glynau, bryniau, bronydd, Cvmru, gwlad y gan: Cartt'r oen y ddafad, Cara, in in ei chariad, Cara'r cybydd bwrs yn llawn, A dyn a dawn ei dyniad: Cara babi fron ei fami, Caraf finau'r wlad wy'n foli- Duw a wyr mor anwyl imi Ydyw Cymru lan.
""...-....--.--.--_-------...........--'93.…
'93. I [Cyfaddasiad ydyw y Nofel hon o Quatre Vingt 1 Treize," un o weithiau goreu y lienor a'r bardd enwog, VICTOR HUGO. Cyfansoddodd lawer yn ystod ei oes faith a hel- bulus, ond efallai mai dyma'r gwaith sydd yn meddu y dyddordeb mwyaf i ddarlleuwyr Cym- reig, gan ei fod yn cynwys portreadau byw o gymeriadau ein brodyr Llydewig. Mae y plot yn sylfaenedig ar y rhyfel waedlyd a gymerodd le yn y flwyddyn 1793 rhwng y Ffrancod a'r Llydawiaid yn amser blin sefydliad y Werin- iaeth yn Ffrainc.] CRYNODEB. PENNOD I.—Yn Mai, 1793, yr oedd Catrawd y Cap Coch yn nghoedwig Sandraie, yn Llydaw. Pan yn ofni perygl, daethant o hyd i wraig—Michelle Flechard—yn rhoddi sugn i'w baban, a dau blentyn arall yn cysgu yn ei hymyl. blentyn arall yn cysgu yn ei hymyl. PENNOD II.—Llong ryfel-y Claymore—yn hwylio o Jersey, ilanio hen wr ar arfordir Ffrainc. Dirgelwch mawr pwy allasai fod. PENNOD III.—Un o'r gynau mawr yn tori yn rhydd, ac yn gwneyd niwed i'r llong; y gwladwr" (sef un o'r Cadfridogion Brenhinol) yn gorchymyn saethu y dyn oedd yn gyfrifol am y. ddamwain. Llongau rhyfel y Weriniaeth yn dod i'r golwg ar doriad y wawr. PENNOD IV.—Y "Gwladwr" yn dianc mewn cwch yn nghwmni morwr. Y morwr yn hys- bysu mai ete oedd brawd y dyn a saethwyd ar y llong yn bygwth lladd yr hen wr. PENNOD V.- Y morwr yn ymheddychu, a'r ddau yn glanio yn ddyogel. Yr hen wrynanfony morwr drwy y wlad i gymhell y bobl i ryfel yn erbyn y Weriniaeth. PENNOD VI. Wedi iHalmalo fyned o'r golwg, cychwyn- odd yr hen wr hefyd i gyfeiriad arall. Yn sydyn safodd, gan edrych o'i gwmpas. Teyrnasai heddweh ar bob llaw. Ar ben y bryn y safai ar ei ochr yr oedd yn rhyw lwyd oleu, er bod y tywyllwch wedi cael yr oruchafiaeth yn y glyn coediog islaw. Codai'r lloer o'r dwyrain draw, a llwyddai ambell i seren i wneyd ei hun yn amlwg yn y ffurfafen. Teimlai yr henlwr ryw gyd- ymdeimlad rhyfedd rhyngddo a'r olygfa dawel, er mai ei amcan oedd dwyn oddi- am^ylch ryfel gartrefol. Am y foment ymddangosai fel pe buasai pob perygl wedi diflanu, gan ei fod wedi gallu dianc o beryglon y mor. Nid oedd neb yn gwybod beth oedd ei enw; yr oedd-y gelynion wedi colli golwg arno; nid oedd neb ond Halmalo yn deall ei fod wedi glanio, ac ni wyddai yr hurtyn hwnw ychwaith pwy allasai fod. Teimlai ei hun yn ddyogel a'i feddwl yn ysgafn. Yr unig b3th a dorai ryw gymaint ar ddistawrwydd y lie oedd swn yr awel a ddeuai o'r jnor. Yn sydyn neidiodd ar ei draed. Yr oedd rhywbeth wedi tynu ei sylw. Syllai yn graff ar ryw wrthddrych draw yn y pellder. Ar glochdy a safai ar ganol y gwastadedd y gorphwysai ei lygaid. Gwelai fod rhywbeth anarferol yn myned yn mlaen. Methai ddeall yn iawn beth oedd y mater, ond gan mai twr agored ydoedd—fel y rhan fwyaf o glochdai Llydaw—oaf odd allan mai y gloch oedd yn cael ei chanu gyda ffyrnigrwydd mawr. Gan fod y gwynt yn cario oddi- wrtho, nid oedd yn clywed y swn. Edrychodd ar y dde, a gwelai glochdy arall. Ar y chwith drachefn yr oedd amryw dyrau; a gwelodd fod cloch pob un uhonynt yn cael ei chanu. Beth oedd yn bod ? Amlwg ydoedd fod trigolion y wlad yn cael eu galw at eu gilydd i amcanion milwrol. Cenid y gloch ryfel" o ddifrif, a chenid hi yn mhob man oedd yn y golwg. Tarawai yn rhyfedd ar deimlad yr hen wr, weled y clychau yn cael eu canu ac yntau heb glywed yr un tine wrth gwrs, y gwynt oedd yn gyfrifol am hyny. Ond yr oedd mater pwysicach yn pwyso ar ei feddwl. I ba beth y cenid y clychau, ac yn erbyn pwy ? Aethias oer Jrosto pan foddyliodd am hyn. Yn sier nid efe. Ni wyddent ei fod wedi glanio. Anmhosibl oedd i'r swyddogion fod wedi clywed am hyny. Buasent yn sicr o feddwl fod y Claymore wedi suddo, a phob un oedd ar ei bwrdd naill ai wedi ei ladd neu wedi boddi. Daliai y clychau i ganu, a gwibiai ei lygaid o'r naill i'r llall, a rhedai y syniad yma a'r syniad acw drwy ei feddwl. Ond rhy wfodd, trwy y cwbl, yn lie teimlo ei hun yn ddiogel fel y gwnai y mynudau blaenorol, nis gallai I lai na chredu ei fod yn ymyl perygl. Eto, ceisiodd, berswadio ei hun y gellid rhoddi cyfrif am ganu y clychau heb gysylltif hynyag ef. "Nis gwyr neb fy. mod i yma," meddai wrtho ei hun. Torodd swn ar ei glust, megys swn deilen y yn chwareu yn yr awel. Ni chymerodd sylw o hono ar y cyntaf, ond yn mhen enyd trodd ei wyneb i edrych beth allasai fod ina. Deilen ydoedd, er nad oedd ond deilen bapyr. Hysbyslen ydoedd newydd ei rhoddi i fyny yno, a chan nad oedd wedi sychu cai y gwynt afael dda ynddi, ac yr oedd bron dyfod yn rhydd. Dringodd yr hen wr lethr y llwyni i geisio gwneyd allan beth oedd cynwys yr hysbyslen. Er fod y tywyllwch yn y pantle, yr oedd ychydig oleuni yn chwareu ar ael y bryn, a chan fod y rhan fwyaf o'r hysbyslen mewn llythyren fras, gallodd gyda pheth trafferth ddarllen yr hyn a ganlyn "GWERINIAETH FKRArXC." "Yr ydym ni, Prieur Marne, fel Cyn- rychiolydd Gweithredol y Bobl, wedi rhoddi gorchymyn i'r fyddin yn Cherbourga'r rhan- barthau cylchynol, Fod y cyn-Ardalydd Llandenac ac Is- Iarll Fountenay, yr hwn a eilw ei hun yn Dywysog Llydaw, yn cael ei gyhoeddi yn wrthryfehu, gan ei fod wedi glanio yn ddir- gelaidd ar alfordir Granville; a thrwy hyn y mae yn cael ei roddi y tuallan i amddiffyn- iad y gyfraith. Rhoddir gwobr am ei ddal. Telir y swm o driugain mil o livres i bwy bynag a'i traddoda i ddwylaw swyddogion y Llywodr- aeth. Telir y swm hwn mewn aur. Anfonir catrawd o'r fyddin o Cherbourg ar unwaith i chwilio am, a chymerwyd i fyny y cyn- Ardalydd Llandenac. "Erfynir ar i bob dinesydd o'r Weriniaeth roddi pob cynorthwy yn ei allu i gyrhaedd yr amcan hwn. "Arvvyddwyd yn Neuadd Drefol Gran- ville, yr 2il ddydd o Fehefin, 1793. "PRIEUR MARNE." Dan yr enw ceid ychwaneg o eiriau, ond yr oeddynt mewn llythyrenau rhy fan i'w darllen, gan fod y goleuni yn rhy wan. Tynod l yr hen wr ei het dros ei lygaid, a botymodd ei hugan yn dynach, a daeth i cl lawr y bryn ar frys. Yr oedd mewn perygl os arosai yn yrnyl yr hysbyslen. Pan gyr- haeddodd y gwaelod ura-fodd ei gamrau, gan y tybiai ei fod yn ddiogelach yn awr. Yna safodd yn vmyl twmpath o goed, a throdd ei wasgod y tu blewog allan; wedi hyny cerddodd yn mlaen. Erbyn hyn yr oedd y lleuad yn goleuo iddo. Daeth i fan lie yr oedd y ffordd yn fforchi. Ar y gongl safai hen groes gareg. G-welai rywbeth gwyn ar ei gwaelod; o bosibl mai hysbyslen gyffelyb i'r un y bu yn ei darllen ychydig cyn hyny ydoedd. Aeth yn agos ati er cael boddlonrwydd. Hollo, i b'le ydach chi 'n mynd P" ebe Ilais wrtha. Trodd yr hen wr tuag ato yn sydyn. Safai -dyn can daled ag yntau yn nghysgod ygwrych. Yr oedd ei wallt yn wyri, a'i wisg lawn mor dlodaidd ag eiddo yr hen wr. Bodolai rhyw debygrwydd rhyfedd rhyng- ddynt. 0 Pwysai y dyn ar ffon braff oedd ganddo, ac ail ofynodd, I ble ydach chi'n mynd ?" Dvwedwch in gyntaf yn mhle ydwyf fl., atebai yr hen wr mewn ton dawel ac urddasol. Yr ydach chi yn marwniaeth Tanis. Y fi ydi ei chardotyn, a chitha ydi i harglwydd hi." Y fi •» hi." 0 I. Y fi t j Ie, chi, Ardalydd Llandenac!" Atebodd Ardalydd Llandeuac oblegid dyna fel yr adnabyddwn ef o hyn allan-yn ddifrifol,— Ie, y fi ydyw; rhoddwch fi i fyny." Ni wnaeth y dyn yr un ymgais am enyd i gymeryd gafael yn yr Ardalydd, drwy yr hyn y gallai y cardotyn enill y wobr a gynygid am ei ddal. Torodd y pendefig ar y distawrwydd, ac ebai,— Oni fuont yn canu y gloch ryfel heno ?" "Do." Paham ?" "Am ych bod chi wedi cyrhaedd. Ac y mae yna gatrawd yn y ffermdy acw o filwyr y Weriniaeth yn chwilio am danoch." (I'w barhau.)
-___------------CYNDEITH&S…
CYNDEITH&S Y LIBERTTOR. Cynhaliwyd cyfarfod o gyfranddalwyr y gymdeithas adeiladu hon, ar gais y der- bynydd swyddogol. Dywedai y swyddog fod cyfrifoldeb y gymdeithas yn 3,313,000p. O'r 90,000p a roddid i lawr yn y fantol-len fel cronfa wrth gefn, nid oedd ond 10,000p mewn llaw. Yr oedd yr ariandy a dorodd, y London and General, yn eu dyled o 80,000p. Yr oedd arun cwmni oedd yn cael ei ddirwyn i fyny yn awr dros ddwy filiwn o bunau i'r gymdeithas. Yr oedd 481,950p yn ddyledus oddiar gwmni arall, a gwneid cais yn awr i ddirwyn hwnw hefyd i fyny. Dywedai y derbynydd swyddogol fod y gym- deithas yn y sefyllfa fwyaf cywilyddus y gallai ef feddwl am dano. Bu y cyfarwydd- wyr yn benthyca arian, am ba un y talent 15 a 17 y cant o log, Anogai amryw fod y cyfarwyddwyr i gael eu herlyn. Yn y diwedd, penodwyd pwyllgor i ymgynghori a'r derbynydd swyddogol, i edrych beth fyddai oreu wneyd dan yr amgylchiadau. .Yl
ETHOLIAD CYNGHOR TREFOL CAERNABFON.
ETHOLIAD CYNGHOR TREFOL CAERNABFON. Mewn un ward yn unig y cymerodd ethol- iad le eleni, sef y Ward Fawr. Pleidleis- iwyd fel y canlyn-Mr Issard Davies, 528; Mr M. T. Morris, 430; Mr W. J. Williams, 415; Mr R. Ll. Jones, 365; Mr Thomas Wynne, 125. Etholwyd y pedwar cyntaf, y rhai oeddynt yn hen aelodau. Yn y Ward Fach dychwelwyd Mr J. Davies (Gwyn- eddon) a Mr Richard Thomas yn ddiwrth- wynebiad.
UNDEB Y GWEITHWYK SETTS.
UNDEB Y GWEITHWYK SETTS. Sy.a,-Wecli darllen ysgrif o dan y penawd uchodyny Werin yr wythnos o'r blaen, tueddir fi i anfon gair am sefyllfa y cyfryw undeb yn ardal Llanfairfechan. Dichon y bydd gair neu ddau yn dderbyniol gan luaws o Gymry sydd mewn cysylltiad a'r gelfyddyd mewn gwahanol fanau yn Lloegr, Iwerddon, Ysgotland, a'r Unol Daleithiau. Oddeutu 0 pedwar mis yn ol daeth dirprwyaeth o Lan- aelhaiarn i Benmachno i egluro natur a gwerth yr Undeb. Yr oeddynt hwy yn Llanaelhaiarn wedi cael blynyddoedd o brawf arno yn ei wahanol agweddau. Wedi cael cyfarfod poblogaidd yn Oxford Hall, a'r brodyr yn areithio yn eu hwyliau goreu, ffurfiwyd pwyllgorau,—un yma a'r llall yn Mhenmaenmawr. Ymhen ychydig ddydliau yr oedd yma gyfrinfa wedi ei sefydlu o dan yr enw Seiriol," pa un sydd erbyn heddyw yn rhifo yn agos i gant o aelodau. Ar y cyntaf fel y gellid tybio arddangoswyd tipyn o wrthwynebiad i'r fath beth ag undeb i gael ei ffurfio yn mhlith y cyfryw ddosbarth, a chyhuddid rhai o'r pwyllgor mai eu prif amcan ydoedd "cyhoeddi rhyfel yn erbyn y meistri." Mewn atebiad i haeriadau o'r natur uchod, gallwn sicrhau mai nid gyda'r amcan yna y bu i'r nifer crybwylledig ym- ddiried eu henwau a'u harian i drysorfa yr Undeb. Ond, ar yr un pryd, nid oes am- heuaeth genyf am un foment nad ym- laddent am eu hiawnderau os y bydd yn rhaid iddynt. A phwy a all feio y cyfryw dan yr amgylchiadau hyny ? Fe wel pawb wrth edrych ar gysylltiadau yr Undeb fantais y meistr yn ogystal a'r gweithwyr, gan fod palmantwyr (paviors) mewn cysylltiad a'r Undeb, ac yn ol engreiphtiau diweddar a gawsom gwelwn yn eglur fod eu dylanwad a'u gallu yn fawr iawn. TyVem fod chwar- I elwyr Penmaenmawr heb fod yn Undebwyr, ac i'w setts gael eu hanfon i unrhyw un o drefi Lloegr, buan iawn y byddai y dded- fryd wedi ei chyhoeddi uwch eu penau, a hysbysiadau wedi eu taenu ar led nad oedd yr un o'r cyfryw i gael eu gosod yn eu lleoedd, oherwydd nad Jydyw pobl Pen- maenmawr yn perthyn i'r un Undeb a ni." Felly byddai eu dylanwad mewn rhai lleoedd yn esgor ar ganlyniadau pwysig i'r meistr a'r gweithwyr, a gallent lwyddo i symud ,pwrs masnach o'n gwlad. Ond tra y bydd- o mewn cysylltiad a'u gilydd mae gobaith cryf i gredu y gwirir yr hen ddihareb, "Mewn undeb mae nerth." Gan ddiolch am y gefnogaeth wresog a roddasoch yn eich papyr i undebau gweithfaol,—Yr eiddoch, CHWARELWR.
HUNAN-LEIDDIAID.
HUNAN-LEIDDIAID. Pan gyflawno unrhyw un hunanladdiad trwy roddi terfyn ar ei einioea mewn modd disymwtn mawr y cyffro mae yn ei achosi yn yr ardal ei cyflawnir, ond ychydig sydd yn ystyried fod degau o'u hamgylch yn cyflawni hunanladdiad mewa amrywiol ffyrdd yn fwy graddol feallai end nid yn llai sicr. Ychydig mewn cydmar- iaeth yw rhif y rhai sydd yn ymddwyn fel pe yn awyddus am hirhoedledd, tra y mae y lluaws fel pe yn awyddus i fyrhau em heinioes. Edrychwn o'n cwmpas gwelir llawer yn ayrthio i fedd an- amserol trwy oferedd. Eraill a ymdaflanr i an- turiaethau sydd yn troi yn aflwyddianus ac yn lie dwyn elw iddgnt yn dwyn colledion, pryder, gofid, ae yn y diwedd tor-calon. Rhai trwy ddilyn pleserau a chyffroadau yn ormodol; eraill trwy lythineb a gwleddoedd ami y rhai ydynt yn amharu. y cyllau. Tarddai llawer o anhwylderau gieuol (nervous disorders) oddiwrth orlafur meddyliol, ac awydd gormodol i feddu ar wybodaeth eang. Mae llawer yn ysbeilio eu hunain o'u cwsg a u gorphwysdra angenrheidiol i gyrhaedd yr amcan hwn, a thrwy hyn hau hadau afiechyd yn eu cyfansoddiad. Meddyglyn llysieuol yw y Quinine Bitters hyn, a defnyddir ef yn helaeth yn y wlad hon a gwledydd tranfor, gan gleifion yn dioddef oddi wrth lawer math o wendid a chlefydau, ac os oes unrhyw werth i'w roddi ar dystiolaeth ddynol, y mae etfeithiolrwydd y meddyglyn hwn wedi ei brofi tu hwnt i bob amheuacth. Gochelwch gael eich twyllo. Os cynygir rhyw ddarpariaeth arall i unrhyw brynwr dan yr esgus ei fod lawn cystal, a llawer rhatach, hyderir y bydd iddo ei wrthod yn ben- derfynol. Gall fod yn sicr fod ymgais yn cael e: wneyd i'w dwyllo. Gellir cael Quinine Bitters Gwilym Evans gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un Edrychwch fod enw Gwilym Evans, ar bot label, stamp, a photel, gan fod amryw efelychiad- au ohono yn cael eu cynyg i'r cyhoedd. Perchenogion:—Quinine Bitters Manufacturing company, Limited, Llanelli, S. Wales.
[No title]
JgCafodd Agnes Jones, genetli 14 mlwydd oed, yn St. Helen's, ei dirwyo i 5p am iddi, yn Prescot, yn Medi diweddaf, a hi yn berson anghofrestredig, werthu gwenwyn i Edward James, yr hwn a laddodd ei hunan.
Advertising
YR AFR AUB, Y J* HAT 4/6 GWERTH 6/- CAERNARFON. WARNER'3 "SAFE" CURE t YY At holl A iNH -.V YLD 117 RAUR ELvVLOD A'R AFU. Y^ARNEH'S "SAFE" CURE AT WENDID CYFFRHDINOr, A BRIGHT' r" DISEASE. MILOEDD 0 DKSTIMONIAL5? yadatgan ei iiuwoddau wedi etl fi!io a gallir eu liarcawiiio. Mao ei hawiiau ya auwa ladwy. Gwer hir gan bob fforyUydd a gwerthwr pbys gwrheth Danion r Jbamphledya yn rhad ond yagrsfsna a* H. H. WARNKR A' 'ta, C F. Ltd., 80, Cluikeaw illoai, LONDON, E.C
TENNYSON A'l WAlTH"j
TENNYSON A'l WAlTH" Dywedir y byddai yn arferiad ganTennyson wedi iddo gyfansoddi rhai o'i weithiau, eu cadw am nifer neillduol o flynyddau heb eu cyhoeddi. Yna elent o dau feirnadaeth lym ganddo, cyn y cai y cyhoedd olwg arnynt.
CREULONDEB AT BLANT.
CREULONDEB AT BLANT. Gwrandawyd cyhuddiad difrifol o greu- londeb yn erbyn tad yn Wareham. Yr oedd mam y plant wedi marw, a chadwodd eu tad y ddau-un yn 10, a'r llall yn 12 oed- heb fwyd am ddeuddydd, a gyrodd hwy allan i gysgu yn y gwlaw. Anfonwyd ef i garchar am chwech wythnos.
Y CHINEAII) FEL GIVY-H.
Y CHINEAII) FEL GIVY-H. Yn America mae galw mawr am y Chin- eaid yn y farchnad briodasol. Gwnant wyr rhagorol yn inarn y merched Gwyddelig, gan eu bod yn alluog i fagu'r baban, golchi a smwddio. Anaml hefyd y bydd Chinead yn curo ei wraig. Wrth gwrs, onide beth ddeuai o hono gyda'i gydyn gwallt hir ?
GWERTH GWILLTFILOD.
GWERTH GWILLTFILOD. Yn ol un o'r awdurdodau uchaf, dyma werth marchnadol gwylltfilod ar hyn o bryd:-Llewod y mor, 150p ycwpl, cawrfilod, 250p i 400p yr un, teigrod, lOOp i 150p yr un; llewod, 100pi250pyrun; llewpar4iaid, 50P;y cwpl; eirth, lOp i 50p; giroffes, 500p yr un; zebras, lOOp i 250p yrun; nadroedct, lp 40p yr un; estrys, lOOp y cwpl. Bhodd- odd awdurdodau y Crystal Palace 450p yn ddiweddar am un gorilla.
GWRAIG SIARADUS.
GWRAIG SIARADUS. Cyflwynwyd boneddwr dysgedig unwaith i foneddiges enwog am ei dawn ymadrodd. Siaradai y wraig yn ddidaw, heb sylwi o gwbl nad oedd y boneddwr yn gwneuthur uurhyw atebiad i'w sylwadau. Dranoeth yr oedd yn canmol y boneddwr fel un difyr ei gwmni, pryd y brawychwyd hi yn ddir- fawr pan ddywedai ei chyfeilles fod y boneddwr yn fud a byddar! Wrth gwrs, eithriad oedd y foneddiges hon: nid yw y rhyw deg a'u cymeryd at eu gilydd yn hoff o siaftd yn barhaus.
I FJIWYDR YN LERPWL.
I FJIWYDR YN LERPWL. Y Rhyddfrydwyr weili enill. Er's haner can mlynedd y Toriaid sydd wedi bod yn llywodraethu yn Nghyngor Trefol Lerpwl. Yn yr etholiad ddydd Mawi-th, yr oedd y Ehyddfrydwyr yn ym- drechu enill yr oruchafiaeth, a buont yn llwyddianus iawn, gan iddynt allu cipio tair o seddau oddiar y Toriaid, tra na enillodd y Toriaid gymaint ag un oddiarnynt hwy. Yn yr hen gynghor yr oedd gan y Rhydd- frydwyr 28 o gynghorwyr, y Rhyddfrydwyr Undebol 1; y Toriaid 19 o gynghorwyr a 16 o henaduriaid. Aiff wyth o'r henaduriaid allan o swydd y mis hwn, ac y mae yn debyg y bydd i'r Ehyddfrydwyr ethol wyth o'u plaid hwy at yr wyth Tori nad yw tymhor eu swyddogaeth ar ben. Bydd y pleidiau yn sefyll fel y canlyn:—Ehyddfryd- wyr, 39; Toriaid, 24; Ehyddfrydwyr Un- debol, 1. Felly, bydd gan y Ehyddfrydwyr fwyafrif clir o 14.
GWRTHDAliAYVIAD AR Y RIIEILFFOltDD.
GWRTHDAliAYVIAD AR Y RIIEILFFOltDD. Y GEHBYDRES AR DAN. Deg wedi eu Lladd. Cymerodd gwrthdarawiad dychrynllyd le foreu Mercher yn agos i Thirsk, yn swydd York. Yr oedd cymaint o deithwyr eisieu myned i gerbydres gyflym oedd i adael Edin- burgh am 10.20 nos Fawrth am Lundain, fel y bu gorfod rhedeg dwy gerbydres. Gadawodd yr un gyntaf Edinburgh am 11.5, a chyrhaeddodd Lundain yn ddyogel. Ym- adawodd yr ail am 11.20, ond pan ddaethyn agos i Thirsk gwelodd y gyriedydcl fod yno gerbydres ar yr un rheiliau ychydig bellder o'i flaen, yn myned yn yr un cyfeiriad a'r gerbyd- res deithwyr. Ceisiodd y gyriedydd atal y peiriant, ond yr oedd yn rhy ddiweddar. Rhuthrodd i'r gerbydres oedd o'i blaen, yr hon oedd wedi ei llwytho a haiarn. Ni- weidiwyd y peiriant, a drylliwyd amryw o'r cerbydau ac i ychwanegu at ddychrynfeydd yr olygfa, cymerodd y malurion dan. Gwnai hyn y gwaith o waredu y clwyfedigion yn anhawdd iawn, gan fod y trueiniaid car- charedig bron gwallgofi yn ngwyneb eu perygl. Cafodd deg eu Uadd neu eu llosgi, ac anafwyd gryn ddau-ar-hugain yn ddif- rifol iawn. Heblaw hyn, derbyniodd y rhan fwyaf o'r gweddill niweidiau ysgafnach. Yr oedd cryn gant o deithwyr yn y gerbydres. Cafodd y signalman ei atal hyd nes y gwneir ymchwiliad i'r ddamwain gan y Llywod- raeth.
. GWENDID.
GWENDID. 0 dan y pen hwn gellir rhestra Iluaws o'r anhwylderau y mae y teulu dynol yn ddarostyng- edig iddyut, me- s anliwylieb cyffredinol, llewygon, iselder ysbryd, colliad grym, ditiyg yni, nychdod, a'r cyffelyb. Dyoddefa lhiaws mawr o'r ddyno ryw oddi wrth rai o'r anhwyl- derau hyn, y rhai ydynt mown gwirionedd yn ganlyniad naturiol anmhuredd neu ryw ddiifyg yn eu hadnoddau bywydol. Nid oes dim cyffelyb i Quinine Bitters Gwilym Evans at buro a chyfoethogi y gwaed, a rhoddi yni a bywiog- rwydd adnewyddol i'r cyfansoddiad. Meddyg- iniaeth adgryfhaol yw Quinine Bitters Gwilym Evans, yr hon sydd wedi ei pharotoi yn hollol o gyffyriau llysieuol, as mae yn cynorthwyo a hwylusu gweithrediadau natur, trwy gryfhau y cyfansoddiad, a chynorthwyo y bwyd-dreuliad, a thrwy hyn y maeyn hwylusu y gweithrediadau, yn cryfhau y gewynau ar giau, yn puro a ffrwythloni y gwaed, yn bywiocau yr ysbryd, yn adloni y meddwl a'r tymherau ac yn symud ymaith atalfeydd yn yr ermigau bywydol. Nid oes dim i'w gydmaru a Quinine Bitters Gwilym Evans at gryfhau y cyfansoddiad pan wedi ei wanhau trwy unrhyw achos. Mae y Quinine Bitters yn nerthu a chadarnhau y rhanau gweiniaid o'r cyfansoddiad y rhai ydynt oherwydd eu gwendid y mwyaf agored i anwyd a'i ganlyniadau. Gochelwch gael eich twyllo i gymeryd dim arall dan enw cyffelyb. Gwertliir Quinine Bitters Gwilym Evans gan bob fferyllydd mewn poteli 28 9c a 4s 6c yr un. Neu anfonir cf am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddi wrth y perchenogion: Quinine Bitters Manufacturing Company, Limited, Llanelli, South Wales.
[No title]
Dygir cynghaws am athrod gan amryw yn erbyn y Major Le Caron, y.i nglyn a chyhoeddiad ei adgofion." Fe wneir achwyniad cyffredinol fod y rhai fwyaf o cocoas yn anrheuliadwy; ogymaint an j fod y broffeswriaeth feddygol wedi dangos yj ddiweddar fod yr alkalies a ddefnydclir yn rhy ami gan wneuthurwyr tra mor, yn nghy- a'r mater bras, yn ffurfio sylwedd sebond aidd sydd yn hynod o beryglus i iechyd. Gyda golwg ar cocoas a wneir gyda gofal, megis eiddo Mr Cadbury, nid yw y gwrth- wynebiadau hyn yn bodoli. Whitehall Review.
MANION. I
MANION. I Dechreuodd yr Henadur Knill, Arglwydd Faer Llundain, ei fywyd yn y brifddinas fel gwas i fasnachydd ffrwythau. I Yn mhriodas merch i filiwnydd yn yr America yr oedd y botymau ar ei gwisg yn werth ugain punt yr un. 0 wastraff! Danghoswyd peiriant i odro buchod mewn I arddangosfa amaethyddol yn Llundain yn ddiweddar. Ni bydd Sultan Twrci yn defnyddio cyllell a fforc, rhaid i'w fys a'i fawd wneyd y tro yn eu lie. Talwyd 140,000p am un perl unwaith. Ni chedwir cofnodion o weithrediadau y Cyfrin Gynghor. Bydd tua 1,400 o gerbydresi yn myned trwy Clapham Junction bob dydd. Rhoddwyd hysbysiad yn ddiweddar yn un o bapyrau Llundain, yn cynyg lie i glerc gyda chyflog o 3p yr wythnos. Derbyn- iwyd 2,000 o atebion. Cedwir ugain o ysgrifenyddion cyfrinachol gan y Pab. Darfu i Charles Dickons "greu" mwy o gymeriadau mewn ffiig ch wedlau nag unrhyw 11 awdwr arall. Rhifant 1,425. Treulia un dyn dri mis bob blwyddyn yn ngharchar Holloway, Llundain, am beidio talu y trethi. Peth cyffredin yw darganfod gwerth 150, OOOp o ddiamwnt yn Kimberley mewn wyth- nos. Cafwyd allan fod oes Idclew yn Prwsia yn hwy o bum mlynedd ar gyfartaledd nag eiddo'r Cristion. Suddodd llong Germanaidd ger Grange- mouth, a gwerthwyd hi am geiniog! Yr oedd yn rhaid i'r prynwr ymrwymo i symud y gweddillion ymaith yn llwyr. Llwyddodd gwr yn West Ham i gael ei enw ar yr ethol-restr fel lletywr gyda'i wraig ei hun. Y hi fyddai yn talu y dreth. Gwnaed cosyn o gaws yn Canada yn pwyso 22,000 pwys. Dywedir fod ei ansawdd yn rhagorol.
BWRDD LLEOL CAERGYBI.
BWRDD LLEOL CAERGYBI. GWADDOLIADAU Y DIWEDDAR MR HUGH H. HUGHES.—Dydd Gwener cynhaliwyd cyfarfod arbenig o'r bwrdd lleol i ystyried cynllun y diweddar Attorney General o'r gwaddoliad uchod. Yn absenoldeb y cad- eirydd dewiswyd Mr Richard Hughes i lyw- yddu. Eglurodd Mr Richard Hughes yr hyn ag yr oedd ef wedi wneyd ar ei gyfrif- oldeb ei hun yn nglyn a'r mater, a'r gwrth- wynebiadau oedd wedi dynu allan i gynllun y Twrnai Cyffredinol, ac awgrymiadau er gwella y cynllun a gynygid gan yr ymddir- iedolwyr, ac awgrymai y priodoldeb o anfon deiseb at y Twrnai Cyffredinol presenol. Ar gynygiad Mr W. Riva, lyn cael ei eilio gan Capt Lewis, penderfynwyd yn unfrydol an- fon y cyfryw ddeiseb yn cynwys yr hyn oedd Mr Hughes wedi ei dynu allan. Ar gynygiad Capt Lewis, yn cael ei eilio gan Mr Owen Hughes, pasiwyd yn unfrydol bleidlais o cldiolchgarwch i Mr Hughes am yr hyn oedd wedi wneyd yn y mater.
Y ROBIN GOCH.
Y ROBIN GOCH. Daeth Robin Goch a'i hyfryd gan I gangen lan goedwigol, I byncio'r hen alawon per 0 fawl i'r N tr bendigol: Canmoliaeth yw ei gin i gyd, Ac nid mewn Hid yn grwgnach, Heb boen na chur o dan ei fron- Mae'i galon ef yn holliach. Mae'n syndod iawn i glust y claf Tra'n araf Iwybro'r dolydd, Rhyw lam a rydcl ei galon wan 'R ol bod o dan hir gystudd; Mae nodau clir ei ganig fwyn Yn llawn o swyn nefoledd, Datgana glod y Crewr fry, Gan foli mewn tangnefedd. Mae gwoled deldfau natur hardd Yn dwyn y bardd i'w anian, A pheraidd gydgan cor y wig Sydd fendigedig fawlgan: Ond Robin goch sydd uwcha'i don, Mae'n gyson yn ei sdlo, Ha, daw y gauaf du cyn hir- Gwna Robin bur i gilio. Rhyw ganig fera roddodd ef Er bod ei lef yn dirion Ond beth yw cerdd yr adar man I anthem lan y Cristion; Ar hon y gwrendy engyl lu, Dan syllu yn ei wyneb, A phara wna i'w bythol wau Ar fryniau anfarwoldeb.
YN EISIEU.
YN EISIEU. Mae awer o befchau yn eisieu y dyddiau hyn, brithir newycldialluron gan hysbysiadau yn gofyn am gyflenwad o'r hyn sydd yn eisieu gan wahanol bersonau ac ardaloedd sydd yn teimlo eu hangen. Ond y mae un peth yn eisieu yn fwy na'r oll, sef gwellhad buan i bawb sydd yn dioddef oddi wrth anhwylderau y cylla, yr afu, y giau, a'r ysgyfaint, a thwymvnau a chlefydau sydd yn ymosod ar filoedd o drigolion ein gwlad. Mae cy ,enwi'r angen hwn, a rhoddi gwellhad buan i'r dioddefwyr yn beth dichonadwy, ac o fewn cyrhaedd pawb, sef trwy ddefnyddio Quinino Bitters Gwilym Evans, mewn pryd. Y mae y meddyglyn rhagorol hwn erbyn hyn yn fyd-adnabyddus, a chydnabvddir yn mhob man nad oes dim a all gystadlu a Quinine Bitters .Gwilym Erans, mewn effeithiolrwydd i symud ymaith holl anhwylderau y cylla., yr afu, y giau, a'rfrest. Mae yn ami wedi llwyddo i symud yr anhwylderau hyn, pan oedd pob meddyginiaeth arall wndi methu. Nid yw byth yn siomi. Rhoddwch brawf arno. Gwerthir gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Os bydd anhawsder i'w gael, anfonir ef yn ddidraul drwy y post, am y prisiau hyn gan y perchenog- ion:-Quinine Bitters Manufacturing Company, Limited, Llanelli, South Wales.
[No title]
Epps's COCOA. -GITATEFUL AND COMFOBTINO.— By a thorough knowledge of the natural laws which govern the operations of di gestion and nutri- tion, and by a careful application of the fine pro- perties of well-selected COCOA, Mr Epps has pro- vided our breakfast tables with a delicately flavoured beverage which may save us many heavy doctors' bills. It is by the judicious use of such articles of diet that a constitution may be dually built up until strong enough to resist every tendency to disease. Hundreds of subtle maladies are floating around us ready to attack wherever Micro is a weak point. We may escape many a fatal shaft by keeping ourselves well fortififd with pure blood and a properly nourished frame "-Civil Service Gazette. Made simply with bciling water or milk. Sold only in p nkets by Grocers, labellel-11 JAmEs Epps & Co. Homoeopathic Chemists, London."
[No title]
Nid rhaid i Davies's Cough Mixture wrth ganmoliaeth y mae wedi bod o flaen y cyhoedd er's blynyddau, ac y mae y perchenog drwy draul a llafur di-ildio wedi ci berffeilhio yn yfath fodd fel y maeyn cacl ei gydnabod fel darganfy Idiad gwerthfawr at yr anhwylderau uchod. Y mae miloedd lawer wedi cael iachad, ac yn g vneyd eu goreu i'w gymhell i ereill sydd yn dioddef Ni raid cymeryd ond un done er profi ei ddyLmwad uniongyrchol yn rhyddhau y phley;n, yn ciirio y llais, yn cynhesu yfrest, gan weithio pob anwyd a chrygni ymaith. Ni raid i neb ofni c mlyn- iadau anwyd a phesweh ond gofalu fod p belaid o Davies's Cough Mixture yn y ty. Bydd pob dyn yn feddyg i'w deulu at holl anhwylderau y gwddf a'r frest, os bydd Davies's Cough Mixture wrth aw. Ar werth gan bob druggist.
Advertising
J.L >t GOFYN WCIi AM 1-1 U Gil S BLOOD PILLS EDRYCHWCH YN FANWL AR BOB BOX A byddweh yn SICR na byddwch yn cael eich twyllo, a GWELWCH Fod y TRADE MARK sef (Llun CALON) ar bob Blwch. Y mae un- rhyw Pills a gynygir yn Ddynwarediad a Thwyll, I 6' I. 11 AC NID YDYNT YR IAWN BELENAU, ac iii chynwysant yr un rhinweddau a HUGHES'S BLOOD PILLS. GOCHELWCH Bersonau anonest y rhai a ymostyngent mor isel nes ymgeisio twyllo trwy werthu Pills diwerth yn lie y rhai Pur. Y mae y RHYBUDD hwn yn ddyledus i'r Cyhoedd er eu hamddiffyuia.d, er mwyn iddynt sicrhau y Pills gwirioneddol, ac fel y gallont ochelyd y masnachdai hyny lie y mae twyll.yn cael ei ymarfer. GOFYNWCH am HUGHES'S BLOOD PILLS a Llun Calon ar bob blwch. Gwrthod. weh bob peth arall. GWAED DEWG. QCUEVF WAED DEWG. K^CUEVY /"1EOEN GLEFYDAU. T)OEN PEN. V^EOEN GLEFYDAU. A OEN PEN. AFU DDEWG. T^IFFYG TEAUL. FU DDEWG. ULFFYA TEAUL. NEEVOUSNESS. R1 WYNEGON, EEYOUSNESS. VJTWYNEGON BILIOUSNESS. /GLEFYDAU AEENAH ILIOUSNESS. <OLEFYDAU AEENAU fcf Y maent ya iitchau pa.n bdd pobpeth arall yn methu. Heb oedi danfoner am Box o "Hughes's Blood Pills" gyda LIun Calon:ar y Label. Peidiwch cymeryd dim arall. Ar werth am Is I-le, 28 9c, 4s 6c. Gyda'r Post am Is 3e, 28 lie, 48 9c oddiwrth y Perchenog, JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH. GAN I CYFANSODDIADATJ CERDDOROL. W. T. SAMUEL. 26, HENRIETTA STEEET, ABEETAWE ANTHEMAU, (at wasanaeth Cymanfaoedd Canu, &o.) 1. Mor hawddgar yw Dy Bebyll," (deuddeg mil wedi eu gwerthu). Solffa 2g, H.N. 4e. 2. "YrArglwydd yw fy mugail" (seithfed fil). Solffa 2c, H. N. 4c. 3. "I will sing of the me, cies of the Lord. (Anthem syml i blant.) Sol-ffa Ie, H.N. 2c. 4. Cydgan i blant, "Storm the Fort of Sin." (Yn agos i ddeugain mil wedi eu gwerthu.) a (Geiriau Cymraeg ar yr un copi). Sol-lfa, lc. 5. Ehan-gan, "Y Deigryn" (y ddau nodiant ar yr un copi). (Y chwechfed fil). 2c. 6. Can i soprano neu denor, Gwlad fy meb- yd." (Yr eilfed fill. 6c. 7. Canig, "Briallen gvntaf y gwanwyn.' (Y seithfed fil). Sol-ffa I le, H.N. 3, LLYFRAU AT WASANAETH YR YSGOL SUL. Ehan laf Salmau yr Ysgol Sul." (Yr wyth- fed fil). (Yny rhan hon mae Cartref Can yw'r nefoedd) Sol-ffa, 3c. 9. Rhan 2il, Salmau yr Ysgol. (Y dry- dedd fil). Sol-ffa 3e, I'w cael, gyda blaendal yn unig, oddiwrth yr awdwr, Curwen House, 26, Henrietta street, Swansea. DWYRAN. GRIFFITH OWEJf, Tailor and Draper, ADDYMUNA hysbysu y cyhoedd fu-d ganddo Stuck o Frethynau o'r patrymati mwyaf uewydd. Gwuair Siwtiau ar fyr rybudd; a sicrheir flit a'r style mwyaf diwed lar, Er mantah i'w yn Arfon, mae wedi ymgymeryd ag agor Masnachdy cyfleas yn 15, HIGH STREET, CARNARVON, By,ld y masiachdy yn agorod bob dydd Mercn-ir a S idwrn. Hefyd, bydd yu Nghwm- ygl) bob Gwenar Cyf if yo iihy Mr Griffith Roberts, Glynjwr T^rtaco; a.; ya Llangefni bob ffair a marc inad. Specialities mewn Witnrproof* i feibion a merched, Yoiweliad buau a rydd foddlon- rwydd. 1 7489 GRAMMAR SCHOOL, MENAI BRIDGE. DUAL SCHOOL BOAEDEES AND DAY SCHOLARS. HEAD-MASTER: REV E. CYNFFIG DAVIES, M.A., F.S.L., Licentiate T. S. College. Ladies' Schoolroom under the charge of MISS THOMPSON. Mostly successful in coaching for Examina- tions—Medical, Piiarma eutical, the Colleges, &c. Music, Theoretical and Instrumental. Pitman's Shorthand For further particulars apply to REV E CYNFFIG DAVIES, M.A., Grammar School, Menai Bridge Argvaphwyd a chyhoerlnlwvd dros y Welsh National Press Company, Limited, gan D. W. Davies a'i Gwmni yn eu swyddfa New Harbour. Caeraarfou.