Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

40 articles on this Page

LLITH MERI JOS.

News
Cite
Share

LLITH MERI JOS. Wei, Mistar Golygydd, mifuo mi yn y dre Carnarfon ydw i'n feddwl a mi eis 1 dy Mrs Wiliams, Stryd Teulu clen ry- feddol ydi y teulu hwn, ac mi hwyliwyd cypanad o de i mi. Pan oeddwn ni yn ista i lawr wrth y bwrdd, pwu ddath i mewn ond un o ilaunoriad capaI,-wel, wath i mi heb ddeud pwu gapal. Wrtli gwrs, bu raid iddo ynta gymryd dysgleidan hefyd. Wedi i'r wraig y'n rhoi ni ar ben y ffordd gyda'r bwyd, mi droth y sgwrs am y clybia sydd yn yr Ysgolion Sul. Gwr y ty a Mr Jos oedd yn yr Ysgolion Sul. Gwr y ty a Mr Jos oedd yn i chario hi yn mlaen fwua, ond yr oedd Mrs "Wiliams a mina yn rhoi yn pig i mewn weithia. Mi ddyliwn fod scwl bord y dre wedi bod yn trio rhoi stop ar y clybia yn yr Ysgol Sul. Fuoch chi yn y cyfarfod yn y Gild Hoi hefo'r clybia • ?" ebe Mr Wiliams. "Wei," do; a mi oudd yno deimlad pur gru yn i herbyn nhw. Adeudygwinchi ma nhw wedi agor fy llygad i ar ddryga y clybia yina," eba'r blauior.. Dryga! pa ddryga? Dydw i ddim yn gweld dim drwg ynyn nhw o gwbl," ebe Mr Wiliams, gan boethi tipyn. Wel, wir tach chi yn y eyfarfodydd mi gach glywad petha pnr gvyfion yn i herbun nhw; atebai y blaunor yn bur araf, fel y gwedda i fiaenor neud. 'Dach chi ddim ond meddwl am y draffarth a'r an- hwulusdod gyda hel y clyb yn yr ysgol ar y Sul. y ma nhw yn distyrbio llawar i ddos- barth pan ma nhw yn trio sponio i gora." "Twt, twt," ebe'r gwr, i be ydach chi'n son am ryw hen flcwiach felna. Yn tos na draffath hefo pob gwaith da. Jyst meddyl- iwch am y daioni sy'n cael i neyd i lawar teulu pur galad arnynt, at ddechra y gaua. Ma nhw felly yn gallu hel ceiniog go ddel at i gilidd." Touddwn i ddim yn dallt rhiw lawar ar fusnes y clybia yma cynfc, ond mi gwelis hi ar unwaith rwan, a mi ddeudis,- "Omi wol a i. Mi fydda i yn y Felin yn cadw mochyn. Mi fydda yn spario dipyn o fwyd iddo, yn lie i wastraffu o, ac yna mi ddaw ag arian go ddp. i mi pan gaiff o i werthu. Felu ma pobl y dre, yn lie cadw mochyn yn cadw clyb yn yr Ysgol Sul." Wel ia wir, dyna Mrs Jos wedi i tharo hi ar ei phen rwan," ebe Mr Wiliams. Wei done, Mrs Jos," ebra Mrs Wiliams, yn bur siriol mod i wedi helpu i gwr i. Dowch, stynwch at y bwyd yma; gnewch yn harti fel tasach chi gartra, rwan." Rwy'n gneyd yn bur neis, thanciw," ebra fina. Wel, wir, a deucl y gwir i ch;, ebair blaunor, "fedra ina ddim cau fy llygad fod yna amball i deulu tlawd yn caul lies mawr drwy y clybia yma. Yr oudd auloda y Scwl Bord yn siarad yn bur glyfar y dyla nhw fund a'u harian i'r post. Ond yr yuan ni, sydd wedi troi mwy yn mhlith y dos- barthiadau tlotaf, yn cydymdcimlo mwy a'u trafferthion. Ma rhaid i ni gymyd pobl fel I ma nhw, a cneisio gneud y'n gora iddyn nhw." „ Debyg iawn," ebe Mr Wihams, yr ydach chi 0 blaid y clybia ?" Na, rhoswch chi, funud," ebe r blaunor, << yr ydw i yn erbun rhoi lloga yn y clybia am ddwad i'r ysgol. Mi ddyla'r auloda fod yn ddiolchgar i'r sawl sy'n cymyd ti-affath hefo nhw, heb ddisgwyl arian gynyn nhw hefyd." n. Ia. Ond peth neis iawn yea rhoi tipm o loc iddyn nhw," ebe Mr Wiliams. "Ia, wir," ebai Mrs Wiliams. "Man dda iawn iddyn nhw gaul rhiw dipin." "la, ond drychwch chi gimmt o gam a sgolion tlawd ydi hynu. Dyna ysgol gre cyfoethog; mi all hono roi dau swllt neu '1 ..e..J-- hanar coron o log. Uyn* araii, xeuax ( tono ddim cyrhadd ond ruw naw cemiog ne swllt. Be ydi'r canlyniad ? Wei, mi | aiff y plant, os nad pobol mewn oud, o r ysgol naw ceiniog i'r ysgol hanar coron. Tydi peth fellu ddim yn deg o gwbl, fod yr I ysgol gyfoethog yn prynu plant yr ysgol dlawd. Nid Cristnogaeth ydi peth fellu. A tos dim isio talu i neb am ddwad i'r ysgol i Sul. Be ydach chi'n ddeud, Mrs Jos ?" ■ Wei." ebra fina, yr ydw i yr un feddwl a chi ar hyn o beth. Peth drwg iawn ydi j fod rhai yn caul i hudo i fund o'r naill ysgol j i'r Hall er mwyn caul ychydig fwu o bres. Mi ddylan neud i ffwrdd a'r lloga yma beth j bynag." Wei, dyma chi wedi mund i'm herbun 1 j rwan, Mrs Jos," eba Mr Wiliams. | Wei, tyaw i ddim yn gweld dim bai ar y clybia i hunan y lloga yma ydw i yn weld yn ddrwg ma rhain fel gwenwun o'u cwmpas nhw." I "Dyna hi, Mrs Jos," eba'r blaenor, "A I dyna beth oudd y cyfarfod yn y Gild H61 yn y diwadd yn i feddwl: ac y ma nhw wedi gyru llythyr at yr holl ysgolion i ofyn na nhw gytuno i beidio rhoi llog, fel y bydd I pob ysgol ar yr un tir. Fasach chi ddim yn foddlon i hynu, Mr Wiliams ?" I "Viel am wn i na faswn i," eba hwnw, mi na i y ngora o blaid hyny yn yr ysgol I a°Ar hyn mi drychodd y blaunor ar y cloc, a mi welodd fod yn hen amsar iddo 10 fynd. Mi oedd gyno fo rhuw gomiti ne rhwbath i fund iddo. Dyn call, mi oudd yn haw-dd ¡ gweld, ydi o, ac yn moddu cydymdeimlad I' mawr a phobol ar i gora. A dyma nghyngor i,—Os na chewoh chi gadw mochyn yn y dre, gofalwch y'ch bod chi yn cadw clyb, neu ynta yn myn'd a thipin o arian i'r post,- mi ddaw hyny dest i'r un peth. Ond peidiweh ] er dim a gwneud budr elw o grefudd, trwu roi lloga i broselitio. |

CJYFFL.UNB.ODD I CHWABEUWILR.…

[No title]

5 Y" F HER A WD WR GERMANI…

GWNEYD PEL DROED 0 HEDDGEIDWAD.

EI LADD AR Y FFORDD I'R FFAIR.

.DIARHEBIOFTIRCAIDD,

GWEITHWYR MON A'R DDIR.PRWYAETEL…

[No title]

I DARGANFOD AWYREN.

CYFLOG AM DDDI.

DAU EFRYDYDD WEDI BODDI. -....

FFinVYDRI Al) ANGEUOL YN YR…

CYFLAFAN ERCHYLL.

II UNDEB YR ANNIBYNWYR A !…

CYFLAFAN DDYCHRYNLLYD YN Y…

EU CROGI AR GAM.

DfENYDDIAD NEILL.

EGLWYS Y TABERNACL.

YN Y NIWL.

GWRTHDARAWIAD AR Y MERSEY.

GAFR Y GATRAWD GYMREXG

MESUR WITH AWR.

NERTH MILWROL GERMANI.

CARCHARU AR CAN

BUWCII FAR-US.

CYHOEDDWR CYFOETROG.

COST CYFREITHIO.

NEWYDDBETH MEWN TRENGHOLIAD.

tD CYFLAFAN DDYCHRYNLLYD YN…

LLOG A CHYFLOG

---CIG DRWG.

GWAHODDIAD BRATHOG.

Y COIERA ETO.

GYRU YMGEISYDD I GARCHAR.

"LYNjIO" DAU FRAWD.

DIRWY DROM AR OLYGYDD.

CYFRWYSDRA.

[No title]

Advertising