Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
41 articles on this Page
----------------ARWSDDION…
ARWSDDION YR AMSEROEDD [GAN ANDRONICUS]. Y PABYDDIOX YN MYNED I ORESGYN CYMR.TT. Yn y Gynhadledd Babyddol a gynhal- iwyd yn Lerpwl yr wythnos ddiweddaf y mae y Pabyddion wedi penderfynu gwneyd ymosoiliad dewr ar Brotestaniaeth Cymru. Eu hariau rhyfel ydynt iaith y Cymry a cherddoriaeth y Cymry. Yn mysg y siaradwyr yr ydym yn cael amryw o offeir- iaid yn gwisgo enwau Cymreig, ac yn eu plith y Parch J. H. Jones, o Gaernarfon, yr hwn sydd ers blynyddau bellach yn offeiriad yn nghapel Pabyddol y Twthill. Adwaenwn y Ta,d Jones pan yn fachgen byclian buom yn cydcliwareu ag ef, ac yn eistedd ar yr un fainc yn yr ysgol ddyddiol —a Sabbothol hefyd. Yr oedd y pryd hyny yn un o'r bechgyn tirionaf a hynawsaf, o l' ac fel yr wyf yn deall y mae wedi tyxu i fyny yn un o'r dynion mwyaf caredig, ae yn gwneyd llawer o les yn y cylch y mae yn troi ynddo. Arferai ddweyd pan yn hogyn ei fod am fyned i goleg Dr Edwards, ac yn bregethwr Methodus fel ei hen daid Dafydd Cadwaladr; a synwn i ddim pe buasai wedi cael cefnogaeth i hyny mai pregethwr Methodus a fuasai heddyw. Efallai na fuasai yn bregethwr Sassiwn, ond nid oes eisicu pawb i fod yn bregethwr. Sassiwn. Y mae yn siwr i chwi os ydyw y Pabyddion yn mynd i oresgyn Cymru, y maent wedi dewis yr offerynau goreu at gyrhaedd eu ham can, sef ein hiaith a'n cerdd—dau anwylbeth yr hen genodl. CYXIIADLEDD Y YMNEILLDUWYR. Llwydcliant mawr eedd y gynhadledd yn N ghaernarfon, ddydd lau, ac y mae yn sicr o adael ei hargraph ar ei hoi. Dyddiau y cynhadieddau ydyw y rhai hyn. Y frwydr fawr. yn Nghymru yn awr ydyw y frwydr rhwng yr Eglwys Wladol ag Ymneilldu- aeth. Y mae yr hen Fam eisiau i'w phlant ddyfod yn ol o dan ei chronglwyd, ac y mae aT ar y plant eisiau troi yr hen Fam dros y drws. Pthyfol cartrefol ydyw. Ond tybed y beiddiai y gelyn o Rufain gael ei droed i lawr yn ystod y ffnvgwd. Rhaid peidio a chau y llygad ar y ffaith fod Pabyddiaeth ar gynydd yn Nghymru. Eu Pabydd yn aelod am fiynyddoedd o Fwrdd Ysgol Bangor. Y mae y Tad Jones yn aelod o 0 Fwrdd Ysgol Caernarfon Ymneillduol a Phrotestanaidd— ac am wn i nad ydyw cystal aelod a dim un ohonynt. Ond, atolwg, beth fuasai yr hen dadau yn ei ddweyd am hyn ? Beth fuasai Evan Richardson, o Gaernarfon, a John Elias o Fon, yn ei ddweyd ? Yn araf iawn y mae Pabyddiaeth yn enilltir yn Nghymru yn araf hefyd y mae y lefain yn lefeinio y blawd. Y LTATH COCH. Rhifyn dydddorol ydyw rhifyn Hydref o úymrn. Y inae yn cadw i fyny ei gymeriaa, ac yn wir yn cynycidu yn ei ddycldordeb- y darluniau vn dda, a'r ysgrifau yn ysgafn a chwaethus: Y mae yn dda genyf weled Mrs Catherine Davies, o Borthaethwy, yn dyfod allan i amddiffyn cymeriad yr hen fardd ei thaid,— "WILLIAM EDWARD. Yr oedd Cyrnn wedi bod yn lied drwm ar yr hen fardd yn rhifyn Medi, ac yr oedd yr oedd yr wyres yn methu dal. Yr wyf yn hollol gyduno a Mrs Davies mai nid un "pigog cas oedd yr hen fardd—yn enwecTig y blynyddoedd olaf o'i fywyd, panyr oeddwn i yn ei adnabod. Os darfu iddo yfed rhyw dipyn yn ormod o gwrw cartre yn nhafarn yr "Onen"-—dyna oedd arfeiiad crefyddwyr yr oes hono—oni fyddai pregethwyr yn caerpeint o gwrw cyn myned i'r pwlpud a pheint wedi darfod pregethu ? Ac fel y dy- wedodd yr hen Owen Williams, o'r Waen- fawx, byddai y cesig yn sigo o danynt." Yr wyf yn cofio1 yr hen fardd yn dda yn eistedd yn yr "allor," fel y gelwid y set fawr yn y Bala, a chap du am ei ben. Byddai cael eistedd ar lin William Edward yn ei dy yn y Plase yn anrhydedd a chwen- ychai plant y Bala. Ac yn e:ste Id a? lin yr hen bererin y cafodd yr yigrifenydd ddyspi y penill o'i eiddo, Mae munyd o edrych ar Aberth y Groes Yn tawel ddistewi mor tonog fy oes, A llewyrch ei wyneb yn dwyn y fath hedd, Nes diffodd euogrwydd a dychryn y bedd. Y WYDDELAEG. Mae ystadegau yn dangos bod hen iaith y Gwyddel yn marw yn gyflym. Ddeng mlynedd yn ol yr oedd dros driugain mil o'r Gwyddelod na fedrent siarad ond iaith eu tadau. Y flwyddyn ddiweddaf nid oedd deugain mil. Deng mlynedd yn ol yr oedd yn agos i filiwn yn gallu siarad y Wyddel- aig, ond y flwyddyn ddiweddaf nid oedd fawr dros haner miliwn—a'r rhai hyny yn Red amherffaith. Y mae yn amlwg, felly fod hen iaith ein brodyr o'r Ynys Werdd yn prysuro i drangcedigaeth. Byddant wedi colli eu tir a'u hiaith. BETH AM Y GYMEAEG ? Mae'n debyg, er gwaethaf pob ymgais i ladd yr hen iaith, ei bod "mor fyw ag erioed." Nid y Saeson ydyw gelynion y Gymraeg, ond y Cymry eu hunain; ac os J bydd hi byth farw y nhw fydd wedi ei lladd. Gallesid disgwyl i'r Eisteddfod—y sefyd- liad cenedlaethol—fod yn brif ainddiffynydd i iaith Taliesin Ben Beirdd, ond yn ol yr hanes am Eisteddfod y Rhyl Die Shon Dafydd oedd yn teyrnasu. Disgwylir pethau gwell yn Mhont y Pridd. Yno y mae Iwan Jenkyn, ac y mae ef yn Gymro at y earn. Fe welaf fod ymgais ar gael ei wneyd i gael Eisteddfod 1896 (cyhoeddiad pell, onite ?) yn Llandudno. Byddai Eis- teddfod wir Gymreig—dim gair o Saesoneg ynddiyn sicr o dalu. Y mae y Saeson yn clywei digon o gauu Saesoneg yn y trefydd mawr, a byddai yn dda gan yr ym- welwyr a Llandudno glywed ein per alawon prydferth yn iaith gwlad y bryniau, a chan gerddorion Cymreig. Y mai digon o honynt, a byddai mwy pe cai ein cerddorion ieuaingc fwy 0 fagwraeth a chwareu teg. "Oes y byd i'r Iaith Gymraeg." Cafodd swyddog milwrol yn Chatham ei wenwyno i farwolaeth drwy fwyta sardines oedd mewn tyniau. Cynygir 250p am ddillad a gwahanol gelfi a adawa yllofrudd Neill ar ei ol. Bernir fod Cadben Lam! or, yr hwn a hwyliodd o Boston Mehefin 16eg, mewn cwch bychan, 12 troedfedd o hyd. gyda'r bwriad o gcroesi y Werydd, wedi boddi. Bu chwareuwr yn St. Petersburg farw ar y llwyfan pan yn myned drwy ei ran o r perfformiad. Cafwyd hyd i'r Trafnoddydd. Yspaenig yn Jamaica yn gorwedd yn ei wely wedi ei saethu yn farwol. Ni wyddis pwy gyflavn- odd yr erchyllwaith.
[No title]
PESWCH, ANWYD, POENAU YN Y FREST, BtE- DRA. ANADL, A Phoeki. Rhydd Pulmonic Wafers Dr Locock ryddhad uniongyrchol, a gwellhai buan does dim arall sydd yn rhoddi noswaith o gwsg mor llwyr ac adnewvddol. Mewn Crydcymalau ac Anhwylderau Gieuol effeithiant fel swyn. Maent yn anmhrisiadwy i gantorion a siaradwyr cyhoedduB er clirio a chryfhau y llais. Y mae iddyntflasda. Is 1-gcl, 2s 9d, 4s 6d, 1 Is y blwch. Gwerthir hwy gan holl fasnachwvr physig. Rhybudd. Mae gan wir feddyginiaetli Dr Locock yr enw ar stamp y Llywodraeth, a'r Trade Mark DJl. JjOCOCK ar y label..
BENTBYCA ARIAN A'R CANLYNIADAU.
BENTBYCA ARIAN A'R CAN- LYNIADAU. Yn Llys Ynadol Bangor, gwnai Mr Him- berley apel ar ran Thomas Owen Jones, Bethesda, i orfodi John Evan Jones, Btyn- hyfryd, Ffestiniog, i dalu 21p dyledus iddo. Ymddengys i'r diffynydd gael benthyg 141p ly gan yr erlynydd, a chan ei fod yn methu talu bu yngharchar am fis yn herwydd hyny. Er cael yn glir trosglwyddodd dy a gostiodd iddo 250p i'r erlynydd, a thybiai y buasai hyny yn clirio yr holl ddyled.. Ond yn awr erlynid ef am y Hog oedd heb ei dalu. Dywedodd y Barnwr, ar ol edrych ar y wcith- red drosglwyddiadol, fod yn rhaid i'r diffynydd yn ol geiriad hono dalu y Hog oedd wedi rhedeg ond yn hytrach na thra- ddodi y diffynydd i garchar, byddai iddo newid yr archeb a wnaeth yn flaenorol, a gorchymynodd iddo dalu 8s y mis ynlle 16s.
EISIEU BWYD-LLADRATA.I
EISIEU BWYD-LLADRATA. I iTnMrawdlys Meirion cyhuddwyd Fiank Yorrell o ladrata darn 0 faewn yn mis Awst, o dy John Jones, Corris. Cyfaddefodd ei euogrwydd, ac ei-fyniodd ar i'r fainc fod yn dyner wrtho, oblegid bu yn y carchar o'r 12fed o Awst, ac yr oedd dan ofal y meddyg I yr holl amser y bu yno. Y diwrnod y lladratodd v dernyn cig yr oedd bron a newynu. Curod d wrth y drws amryw weithiau. Yr oedd y cig yn hongian ar y bachau, a chan nad oedd neb yn dyfod at y drws temtiwyd ef ar darawiad y foment i gymeryd y cig ymaith, ond pan yr oedd yn tynu y cig oddiar y bachau daliwyd ef gan wraig y ty. Yr oedd yn gofidio yn fawr iddo gyflawni y trosedd. Dedfrydwyd ef j yn ffurfiol i ddiwrnod o garchar gyda llafur caled. Terfynodd hyn waith y llys.
IANFON CLERIGWR I GARCHAR.
I ANFON CLERIGWR I GARCHAR. Dedfrydwyd y Parch Maclaughlin i I fyned i garchar os na bydd cyn pen y mis wedi talu yr hyn sydd ddyledus amo am ham a thafodau.
---------LLONG-RYFEL AR LAWR.
LLONG-RYFEL AR LAWR. Rhedodd y Surprise, un o longau rhyfel ei Mawrhydi, i'r lan yr wythnos hon yn y Gulf of Volo, ar arfordir Groeg. Anfonwyd dwy o longau rhyfel ereill yno i geisio ei chael yn rhydd ac o'r diwedd llwyddwyd. Ni dder- byniodd ond niweidiau ysgafn.
YR ARGLWYDD FAER NEWYDD.
YR ARGLWYDD FAER NEWYDD. Ddydd Mawrth bu yr Arglwydd Gang- hellydd yn cyflwyno i'r Arglwydd Faer etholedig gadarnhad ei Mawrhydi i'w ben- odiad. Wrth wneyd hyn cyfeiriodd at y gwrthwynebiad godwyd iddo ar y tir ei fod yn Babydd, a dywedodd Arglwydd Her- schell fod yn dda ganddo i'r ymgais fyned ya fethiant. Ni ddylai f daliadau crefyddcl dyn fod yn rhwystr iddo lenwi unrhyw swydd yn y Wladwriaeth, a chredai y byddai i'r Henadur Knill gyflawni dyledswyddau ei swydd er ei fod yn Babydd, lawn cystal a'i ragflaenoriaid.
,EI LADD WRTH GICIO'R BEL.
EI LADD WRTH GICIO'R BEL. Derbyniodd ciciwr pel droed o Darwen niweidiau angeuol mewn ymdrechfa yn erbyn Clwb Newton Heath. Bu farw yn yr ysbytty. Cynhaliwyd trengholiad, a dych- welwyd rheithfarn o farwolaeth ddam- weiniol.
TWNEL HIR.:
TWNEL HIR. Yr wythnos hon gorphenwyd twnel newydd ar linell y Midland, yr hwn, gyda'r eithriad o'r un dan yr Hafren, yw yr hynaf yn Lloegr. Mae yn dair milldir a haner o hyd, ac yn rhedeg o dan dir saethu y Due Rutland, rhwng Sheffield a gogleddbarth sir Derby. Bu dynion yn gweithio arno am bedair blynedd, a daethant unwaith ar draws ffynon o ddwfr a roddai allan 5000 o alwyni y munyd. Defnyddir 30 miliwn o briddfeini i gynal y tir. Agorir y linell newydd yn mhen y flwyddyn, a bydd iddi gostio dros filiwn o bunau, er nad yw ond deuddeng milldir o hyd.
EBLID Y WESLEYAID.
EBLID Y WESLEYAID. Dyoddefa y Wesleyaid yn Vienna erledig- aeth danllyd. Yn 1869 y daeth y pregethwr Wesleyaidd cyntaf i'r ddinas, a sicrhawyd ystafell i addoli ynddi. Daeth yr hedd- geidwaid ar eu gwarthaf, a bu raid iddynt symud i ran arall o'r dref a chawsant eu gyru o'r naill le i'r Hall amryw weithiau. Ar brydiau caniateid iddynt gynal cyfarfod gweddi, bryd arall gwaherddid hyny idd- ynt, a rhwystrwyd hwynt i gynhal Ysgol Sul o gwbl. Yn 1890 ymunodd boneddiges gyfoethog a'r gynulleidfa fechan, a "hi a adeiladodd iddynt synagog," a thy i'r gweinidog. Bu gwedd lewyrehus ar y gen- hadaeth am beth amser; ond yn ddiweddar daeth gorchymyn oddiwrth yr heddgeid- waid yn gwahardd i'r Wesleyaid ymgynull at eu gilydd. Apeliwyd i'r llysoedd gwladol, ond fnid yw y gyfraith wedi ei therfynu eto.
[No title]
Gwnaiff pwys o de Indiaidd 170 cwpanaiu. I yru i ffwrdd ysbrydion drwg y defnyddid clych yn yr eglwysi ar y cyntaf.
ETHOLIAD CIRENCESTER. .-
ETHOLIAD CIRENCESTER. Dywedir y gwneir ymchwiUad manwl i bleidleisiau yr etholiad diweddar yn Ciren- cester Y mae Mr Lawson, yr ymgeisydd Bhyddfrydol. yr hwn a gollodd yr etholiad d-wy fwyafrif o dri yn ei erbyn, yn dal allan yn gryf fod llawer wedi pleidteisio yn enwau rhai oedd wedi marw.
CELU MïGLYS YN HULL.
CELU MïGLYS YN HULL. Yn llys yr ynadon, Hull, cafodd John Riley, James Bushby, a Harry Peel, llong- wyr ar fwrdd yr agerlong Edith, eu dwyn gerbron ar y cyhuddiad o gelu 135 pwys o fyglys ar y llestr yna, ar y 13eg cyfisol. Nid oedd neb o'r morwyr yn foddlon i arddel perchenogaeth o'r myglys; o ganlyn- iad, cymerwyd hwynt oil i fyny, a hwy a ddirwywyd i lOOp a'r costau.
LLOSGI PLEIDLEISIAU.-
LLOSGI PLEIDLEISIAU. Cymerodd digwyddiad hynod iawn le yn nglyn ag etholiad Bwrdd Ysgol Widnes. a Ar derfyn y pleidleisio ddydd Sadwrn, aeth ¡ un o'r swyddogion i selio i fyny y blwch gyda chwyr. Trwy ryw esgeulusdra dis- gynodd tan i'r blwch, achyn y gallwyd tynu y papyrau allan yr oedd un-ar-ddeg ohonynt f \)*edieu llosgi. Parodd^hyn beth dyryswch i'r swyddogion, ac aeth y swyddog dychwel- iadol i fyny; i Lundain i ofyn cyfarwydd- iadau swyddogion y Llywodraeth. Pen- derfjmwyd ymdawelu i adael o'r cyfrif y papyrau a losgwyd. Gwnaed y canlyniadau yn hysbys ddydd Mawrth, pryd y cafwyd mai yr Ymneillduwyr a enillasant fwyaf yn yr etholiad.
LLOFRUDDIAETH OLDHAM.
LLOFRUDDIAETH OLDHAM. Cynhaliwyd trengholiad ar y corph a ddarganfyddwyd mewn ty yn Oldham. Dychwelwyd rheithfam o Lofruddiaeth wirfoddol" yn erbyn y gwr.
CYFRIFON Y CADFRIDOG BO()TH
CYFRIFON Y CADFRIDOG BO()TH Ffurnwyd rpwyllgor i edrych i mewn i gyfrifon f y Cadfridog Booth. Y cadeirydd ydyw Arglwydd Dunlow, a chydag ef y mae Syr Henry James, Mr Sydney Buxton, a Mr Walter Long.
CAWS CANADA.
CAWS CANADA. Y llynedd dygwyd i'r wlad hon o Canada, 90 miliwn o bwysi o gaws. Ystyrir hwn yn llawer gwell na chaws yr Unol Daleithiau; yn gymaint felly, fel yr enfyn F'ewyrth Jonathan lawer o'i gaws ef trwy Canada- er mwyn i ido gael yr enw o "Gaws Canada."
AFFGHANISTAN.
AFFGHANISTAN. Aflonydd yw stad pethau yn parhau yn Affghanistan, ac ymosodir yn barhaus ar filwyr yr Ameer gan y gwrthryfelwyr. Hysbysir fod prif gadfridog y teyrn wedi marw, a'i fod naill wedi cyflawni hunan- laddiad neu ynte wedi cael ei wenwyno.
CEISIO DISEDDU MR BALFOUR
CEISIO DISEDDU MR BALFOUR Mae y ddwy blaid yn brysur yn casglu tystiolaethau ar gyfer y ddeiseb i ddiseddu Mr Balfour yn Manchester. Gwnaeth pleidwyr Mr Balfour gais am gael itanylion gan y Rhyddfrydwyr o barthed rhai cy- huddiadau, yr hyn a roddwyd. Nid oedd y Toriaid yn foddlawn ar yr hyn a gawsant, a gwnaethant apel mewn llys uwch am fan- ylion pellach, ond barnai hwnw eu bod wedi cael llawn ddigon, a thaflwyd yr apel allan. Tun. dechreu Rhagfyr y gwrandewir y ddeiseb ei hun.
ANFON CANON I GARCHAR.
ANFON CANON I GARCHAR. Cyhuddwyd y Canon Brymo, awdwr ad- nabyddus, yn mrawdlys Middlesex, o gyf- lawni ymosodiad anweddus ar eneth ddeg oed yn Twickenham. Cafwyd ef yn euog, ac anfonwyd ef i garchar am ddeunaw mis gyda llafur caled.
IAWN AM GOLLI BYS.
IAWN AM GOLLI BYS. Collodd barbwr o'r enw Bish fys bach ei law dde mewn gwrthdarawiad ar pinell y tram yn Llundain, ac am. hyny dygodd gynghaws yn erbyn y cwmni, a chafodd 60p o iawn.
GORWEITHIO GENETHOD.
GORWEITHIO GENETHOD. Mae cyflwr merched a weithiant yn mhyllau glo Belgium yn druenus i'r eithaf. Gweithir genethod o ddeuddeg i ddeunaw oed o bump o'r gloch y boreu i wyth yn yr hwyr, a'u gwaith ydyw gwthio gwageni ar hyd gwaelod y pwll. Am y llafur caled hwn ni dderbvniant ond o lljc i 1 s 4-21c y dydd. Dywedir fod 3468 o'r genethod hvn yn gweithio yn ngwahanol byllau y wlad.
PWY WYR ADEG PRIODI?
PWY WYR ADEG PRIODI? Cafodd llafurwr ieuanc o Fangor o'r enw Griffith Roberts, ei anfon ddydd Mawrth i garchar am fis am ladrata amryw o fan bethau. Dadleuid o'i blaid fod ganddo wraig a thri o blant, ac fod ei gyflwr pres- enol i'w briodoli i dlodi, priodi yn rhy ifanc, ac yfed.
CLADDU YN JAPAN.
CLADDU YN JAPAN. Yn Japan cleddir y marw yn wastad a'i ben tua'r gogledd, a'i draed tua'r de. Ond ni bydd i Japanwr byw un amser gysgu a'i ben tua'r gogledd. Yn ystafell wely pob ty ceir ar y pared ddarlun o gwmpawd, yn dangos y gwahanol begynau, er mwyn i'r neb a fyddo yn cysgu ydddi weled nad yw pen y gwely tua'r gogledd.
YSGARIAD AC AILBRIODAS.
YSGARIAD AC AILBRIODAS. Hysbysir fod priodas ar fin cymeryd lie yn Birmingham rhwng dau a fuont yn briod wyth mlynedd yn ol, ond a ysgarwyd gan y llys gwladol ar gais y wraig. Bu'r wraig wedi hyny yn cadw ty i'w thad, ac ar delerau cyfeillgar a theulu y gwr anffyddlon. n zn Anaml y cyfnodir hanes tebyg i hwn.
HUNAN - LADDIADAU.
HUNAN LADDIADAU. Yn Ewrop yn unig y mae rhif yr hunan- laddiadau (a addefir felly yn gyhoeddus) yn 60 mil yn y flwyddyn tra y mae o leiaf gynifer ddwywaith yn hunan laddiadau, ond heb eu cydnabod felly yn ffurfiol. Cyn- wysa y rhestr ddu hon ddwy fil o fechgyn a genethod. Prif achos yr hunan-laddiadau yw y diodydd meddwol.
DAM WAIN YN NGORSAF CAERNARFON.
DAM WAIN YN NGORSAF CAERNARFON. Boreu Mercher, yr oedd W. John Hughes, Conwy, yr hwn oedd yn ngwasanaeth Cwmni y London and North Western, yn paentio yn ngorsaf Caernarfon. Safai ar ben ysgol, pryd y daeth wagen heibio gan daflu yr ysgol i lawr. Derbyniodd Hughes niweidiau difrifol: ac wedi cyrchu meddyg ato, aed ag ef ar unwaith i ysbytty Bangor. Ofnir na chaiff adferiad.
COLLI CYFLE.
COLLI CYFLE. Darfu i Alexander Graham, cloch-ddyfeis- ydd y Bell Telephone, gynyg haner elw ei freinteb (patent) i Don Cameron am 10 mil o ddoleri; ond gwrthododd Cameron hyny. Erbyn hyn y mae haner yr elw yn werth deng miliwn. Tybiai Cameron nad oedd yn werth dim. Digwyddodd yn gyffelyb gyda'r Westing-house Brake—y brake newydd ar y rheilffyrdd. Cynygiwyd lawer gwaith gymeryd 500 o ddoleri am haner yr elw; ond gwrthodai pawb.
FFORDD RYFEDD 0 "GARU."
FFORDD RYFEDD 0 "GARU." Y mae gan Gaparos, llwyth Indiaidd 3*1 Neheudir America, ffordd wreiddiol iawn o garu. Pan y bydd gwr ieuanc wedi syrthio mewn cariad a merch ieuanc, a allan i hela. Wedi d'od yn ol, teifl yr helfa wrth draed y ferch, ynghyd a digon o danwydd i'w goginio. Os bydd iddi hithau gyneu y tan, a dechreu coginio yr helfa, y mae yn arwydd ei bod yn ei dderbyn: ond os na wna, try ymaith yn siomedig. Eithaf peth a fyddai i'n bechgyn ieuainc ni, cyn penderfynu dim, I sicrhau fod y ferch yn medru coginio 0' gwbl.
Advertising
'o;r- -=:- '=" I I OCW 0 o A- A T CADBURY S COCOA "The lP ical Cocoa of English Manufacture j NO CHEMICALS USED Absolutely Pure." -The Analyst.. J
EIRA YN YSGOTLAND.
EIRA YN YSGOTLAND. Disgynodd cnwd tew o eira yn Ysgotland foreu Llun, ac mewn rhanau o Midlothian yr oedd yn gryn saith modfedd o drweh.
jCOSBI CYFREITHIWR.
COSBI CYFREITHIWR. Gwnaeth yr Arglwydd Brif Farnwr a'r Bamwr Wills archeb yn rhwystro i gyfreith- iwr o'r enw Pullbrook gario yn mlaen ei alwedigaeth oblegid iddo gamymddwyn.
RHODD DEILWNG
RHODD DEILWNG Bu Arglwydd Rosebery yn Whitechapel yr wythnos hon yn agor llyfrgell rydd, yr hon a gostiodd 6454p, ac a gyflwynid yn rhodd i drigolion y rhan isel hon o Lundain gan Mr Passmore Edwards.
.TAN MAWR YN MHENARTH.
TAN MAWR YN MHENARTH. Torodd tan mawr allan yn Mhenarth brydnawn Mawrth. Dechreuodd yn ystor- dai y Mri Davies a'i Gwmni, gwerthwyr nwyddau i longau. Syrthiodd canwyll oleu- edig oedd yn llaw bachgen i faril yn cynwys paraffin, a buan yr oedd y siop ar dan, ac ymledodd y fflamau i'r ddau fasnachdy agosaf. Llwyr ddinystriwyd y tri mas- nachdy.
GWLEDDA AR OL COLLI. j-
GWLEDDA AR OL COLLI. j- Rhoddodd Undebwyr sir Fflint wledd yn y Wyddgrug, nos Fawrth, i Syr Robert Can- Liffe a Mr P. P. Pennant am eu bod wedi colli yn yr etholiad diweddaf. Siaradai y ddau. yn hynod obeithiol am ddyfodol yr achos yn Nghymru, a dywedodd Mr Kenyon, A.S., nad oedd y sefydliad Eglwysig am farw mor rwydd ag y tybiai rhai pobl.
FFAIR Y BYD.
FFAIR Y BYD. Ofnir y bydd i gyfandrefn rheilffyrdd ,,y America gael ei dyrysu yn lan adeg cynhaliad ffair fawr ybyd yn Chicago y flwyddyn nesaf. Cymerodd sefyll allan le yn mhlith pobl y rheilffyrdd ychydig amser yn ol, ond caw- sant eu gorchfygu. Deallir yn awr y bydd iddynt sefyll allan eto yn ystod y flwyddyn nesaf pan fydd y rheilffyrdd brysuraf.
DAMWAIN ARSWYDES.
DAMWAIN ARSWYDES. Cjanerodd damwain ddychrynllyd le ar reilffordd Philadelphia a Reading. Teithiai cerbydres nwyddau yn mlaen yn bur araf, ac yn nhwnel Mannayunk daliwyd hi gan gerbydres deithwyr gyflym, a chymerodd gwrthdarawiad le. Cymerodd y cerbydau dan, a buont yn llosgi am beth amser. Lladdwyd saith o bersonau, ac anafwyd un- ar-hugain.
Y GEM MAR WOL.
Y GEM MAR WOL. Er nos Fercher y mae saith o achosion newyddion o'r geri wedi' tori allan yn Hamburgh a dau wedi marw. Claddwyd 113 yn y mynwentydd ddydd Mercher, ac y mae yn awr 470 o ddyoddefwyr o dan y geri yn yr ysbytty. Gellir cael rhyw syniad o'r cyfyngder echrydus sydd yn teyrnasu yn awr yn y ddinas oddiwrth y ffaith fod cyfrifiad manwl a wnaed yr wythnos hon yn dangos 1,500 o ddynion allan o waith ac 8,000 o fasnachwyr ag y mae eu busnes wedi cael ei ddinystrio gan y geii. Y mae y tywydd yn rhewllyd.
Y CYNGHAWS YN EUBY CYMDEITHAS…
Y CYNGHAWS YN EUBY CYM- DEITHAS ISWIRIOL NEFYN. Ddydd Mawrth traddododd ei Anrhydedd y Barnwr Syr Horatio Lloyd ei ddedfryd yn y cynghaws a ddygid gan y Cadben Evan Jones, perchenog y Margaret Jones, yn erbyn Cymdeithas Yswiriol Nefyn, am 8p lis 6b. Yr oedd y llong ar ei ffordd o Dublin i Ler- pwl, pan y cyfarfyddodd a thywydd mawr, ac y niweidiwyd hi. Sylwddd y Barnwr fod y logbook mewn cyflwr anfoddhaol. Rhoddodd ei ddedfryd o blaid yr erlynydd, er fod y gymdeithas wedi gwneyd yn briodol amddiffyn yr achos.
CYNRYCHIOLAETH LLAFUR.
CYNRYCHIOLAETH LLAFUR. Ymweliad a Chochfarf, Caerdydd. Nid oes yn awr ond tri aelod o Gynghor Trefol Caerdydd yn cael eu hystyried yn gyfeillion i'r dosparth gweithiol. Dydd lau diweddaf, aeth cynrychiolydd y Western Mail ar ymweliad ag un o'r aelodau hyn, Mr Edward Thomas, (yr hwn, gyda llaw, sydd yn un o gyfarwyddwyr y Wasg Genedlaethol Gymreig) a chafodd ganddo ef eglurhad ar yr anhawsderau dan ba rai y dywedir fod yr aelodau gweithiol yn llafurio danynt hyd yn hyn, ynghyda'r angenrheidrwydd am ychwaneg o gynrychiolwyr llafur. Dy- wedodd Mr Thomas, wrth gefnogi corph- oriaethu gweithfeydd cyhoeddus ac egluro yr achos paham na wnaed rhywbeth yn y cyfeiriad hwn o'r blaen, "Hyd yn hyn" meddai, "drwy gytundebau a bargeinio y mae Lv gwaith mwyaf gwerthfawr wedi ei wneyd; gan hyny, y mae'r peth yn amlwg. Nid ydyw ond teg tybio fod y bargeinwyr hyny yn gwneyd elw. Arian y cyhoedd yw yr arian a delir am y gwaith, a'r cyhoedd y mae a fyno'r gwaith, ac y mae gan y cyhoedd hawl deg a chyfiawn i'r elw a wneir gan y bar- geinwyr." "Yr ydych chwi yn ystyried felly y byddai yn fantiis cael cynrychiolaeth hel- a,ethach i lafur "Yn hollol felly y mae triarddeg neu bedwararddeg o bwyllgorau, ac y mae elw llafur yn tarddu allan o bob pwyllgor. Nis gall Mr Jenkins a minau fod yn yr oil o'r cyfarfodydd hyn. Y mae arnom eisieu pump o leiaf yn ychwaneg o gynrychiolwyr llafur ar y Cynghor. Eto, y mae llawer o bwys wedi cael ei roddi ar y ffaith mai masnachwyr ydyw y rhai mwyaf oymhwys i ymdrin a gwaith bwrdeisiol. Er hyny dengys rhestr flynyddol eu presenoldeb yn y- pwyllgorau a chyfarfodydd y Cynghor nad ydyw gofal yr aelodau masnachol am waith y gorphoraeth yn fawr iawn. Fel prawf o hyny (meddai Mr Thomas, gan ddangos y rhestr) canfyddaf, heb grybwyll enwau—yr hyn a fyddai yn feius ynwyf—fod chwech o farsiandwyr ar y Cynghor, wedi presenoli eu hunain 216 o weithiau allan o 833 o gy- farfodydd. O'r ochr arall, y mae chwech o gynrychiolwyr gwerinol wedi rhoddi eu presenoldeb 711 o weithiau allan o 780 o gyfarfodydd. Y mae y ffigyrau hyn yn llefaru yn uchel yn erbyn cynrychiobvyr y llongbarth; ond gellid dweyd llawer mwy am danynt, yn gymaint a'u bod (braidd yn ddieithriad) yn gorfod ymadael yn lied fuan wedi i gyfarfodydd y gorphoraeth a'r pwyllgor ddechreu. Y rhai mwyaf rheolaidd yn nghyfarfodydd y pwyllgor sydd yn caru lies y dref; gan hyny y mae y ddadl dros y marsiandwyr yn syrthio i'r llawr. Ac yn mhellacb, drosodd a throsodd drachefn y gwelsom fesurau a gefnogid gan y dosparth marsiandol yn cael eu pasio yn erbyn yr elfen werinol o'r pwyllgor ar y dechreu, ac wedi hyny yn cael eu gwrthdroi ac ymdrin a hwynt fel yr awgrymai ac y dymunai y cyn- rychiolwyr gwerinol ar y cyntaf. Cymerwn, er engraifft, Fordwyaeth yr Hafren (The Severn Navigation Scheme). Pan ddaeth y ctvestiwn ger bron ar y cyntaf, pleidleisiodd saith o'r aelodau yn erbyn y cynllun gwreiddiol, ond yn mhen deuddeng mis wedi hyny, yr oedd y Cynghor wedi troi yn hollol i'r gwrthmryneb) ac yn ymwrtliod a'r cynllun, a'r farn gyffredin ar y pryd oedd mai diffyg barn oedd yr achos iddynt ymyraeth ar cynllun ar y cyntaf.
Advertising
COCOA CADJ5UKijLtyuia'r Cocoa sydd y feddianol at adnoddau cnawd-gynyrchiol ac y trosglwyddo nerth a grymusder arosol.-Heathn Sonia un Americanwr am wneyd cyfnewid- I iad mawr mewn ymladd ar y mor trwy adeiladu llongau indiarubber.