Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
,-,! MARW0LAETH DR: SAUNDERS.i
MARW0LAETH DR: SAUNDERS. i Y mae genym y gorchwyl prucldaidd yr 11' wythnos hon o gofnodi marwolaeth y pre- gethwr enwog uchod. Fel y gwyddys yr oedd iechyd y Dr Saunders mewn cyflwr pur anfoddhaol er's amryw fisoedd. Am amryw ddyddiau cyn ei farwolaeth yr oedd wedi bod yn gorwedd yn nhy ei fab, y Parch J. M. Saunders, M.A., yn Mhenarth. Efe a hunodd yn dawel yn yr Iesu, am, haner awr wedi dau foreu Mercher, yn mhresenoldeb ei wraig a'i fab. Yr oedd y boneddwr parchedig wedi bod mewn cyflwr anym- wybodol drwy y cwbl o ddydd Mawrth, ac yr oedd yn y cyflwr yna pan fu farw. Rai misoedd yn ol efe a aeth o dan operation ddifrifol; ac ar ol hyny ychydig o obaith a goleddid y deuai yn ol i'w gynefin iechyd. I Gan ei fod yn ddaileuydd galluog ac effro iawn efe a gymerodd fantais ar yr ychydig esmwythad a gafodd ar ol yr operation yna i ysgrifonu llythyrau cryfion mewn dadl rhyngddo a Mr W. E. Helm ar y pwnc o etholiad esgobion—dadl a barodd hyd ych- ydig wythnosau yn ol. Ganwyd y Dr Saunders 61 mlynedd yn ol, yn Nghastell Newydd Emlyn.
---GLYWSOCH CHWI
GLYWSOCH CHWI Fod fire escape Caernarfon o'r diwedd wedi profi o wasanaeth ardderchog ? Mai yct\ydig iawn o brawf a gafwyd o'i ddefnyddioldeb er pan brynwyd ef gan y Gorphoraeth ? Fod flagstaff y Clwb Ceidwadol yn ad- feilio? Nad yw hyny ond arwydd o ddadfeiliad y blaid Doriaidd? I awdurdodau y clyb gyrchu y fire escape yno er gallnogi y gweithwyr i ddoctora yr hen bolyn ? .r • 1 i « n V 1 .1 n 1 m__i» 1 mai oycnau ieaayiioaa y oyngnur xreiux pan yn prynu yr escape mai gwaredu hen bolyn yr hoi gig fuasai ei waith cyntaf ? I Ein bod yn gobeithio na bydd angen ei "wasanaeth am hir amser i achub dim gwerthfawrocach na hen bolion o'r fath Y dymuuem gael gwybod pa faint o arian gafodd y Cynghor Trefol am fenthyca yr escape ? Fod gwanc rhai o fasnachwyr C--n-n gymaint am wneyd arian fel y mynent agor eu siop ar ddydd diolchgarwch, tra yr oedd eu cymydogion wedi cau ? Fod y Celt wrth adolygu y Creninen yn son am Heegliaeth ?" Fod "Hegeliaeth" yn ddigon tywyll, ond fod Heegliaeth" yn dywyllach fyth ? Mai purion peth fyddai i Olygydd y Celt gyhoeddi ysgrif ar y wybodaeth newydd— Heegliaeth ?" Fod lluaws o fechgyn a genethod wedi cymeryd mantait ar y cerbydresi rhad i esgeuluso y moddion crefyddol ddydd diolchgarweh ? Y buasai yn llawer harddach iddynt aros gartref i fyned i'r moddion ? Mai gresyn na buasent yn meddu mwy o barch i grefydd na hyny ? Y byddai heddgeidwaid Llandudno yn arfer cael haner diwrnod o wyl pan elent i Gonwy i gael eu mesur" am ddillad newydd ? Fod y Parch Spinther James wedLclywed am hyny ? Ei fod wedi codi gwynt ar y peth yn nghyfarfod diweddaf Pwyllgor yr Hedd- geidwaid ? Nad yw yn debyg y caiff y bobbies yr haner gwyl hwn byth ragor ? Y bydd raid i'r teiliwr o hyn allan gfyned i Landudno rhag i'r heddgeidwaid golli eu hamser i dd'od ato ef i Gonwy ? Fod Tit-Bits y dydd o'r blaen yn dweyd ychydig o hanes Mr Tom Ellis ? Ei fod, yn mhlith pethau ereill, yn dy- weyd, gyda phob difrifwch, na fu ei dad na'i fam erioed mewn cerbydres ? Fod hyu yn wybodaeth ry ryfedd i ni ? Y dylai y Times ar unwaith yru ei Oheb- ydd Cymreig i edrych i mewn i'r mater tra thywyll ? Am y bechgyn hyny a garlament drwy bentref C-w y noson o'r blaen ? Fod y trigolion wedi dod i'r drysau i holi beth oedd y mater ? Fod y cnafiaid direidus wedi dyweyd mai tan oedd wedi tori allan ? Fod heddgeidwad wedi dod ar eu traws ? Ei fod yntau wedi gofyn iddynt beth oedd y mater ? Mai yr hyn a ddy wedasant wrth hwnw oedd fod ymdrechfa cicio'r bel droed i gymeryd lie, a'u bod hwythau yn rhedeg er cael ym- arferiad ar gyfer hono ? Na ddylent fyned i bentrefydd tawel i greu cynhwrf, a pheri braw i bobl ddiniwed gyda'u "nbs P' Mai fel hyn y canodd W. W. Hughes i'r Deigryn ?" J Llefara'r deigryn gloew, A'i iaith mor swynol yw, Yn gosod nod ei ddelw Mewn arall deimlad byw; Mae'n toddi serch y galon I garu eto'n ol Mae gwrthrych o dosturi 0 gariad yn ei gol. Mor dlws yw iaith y baban Mewn deigryn wrth ei fam, Yn enyn ei serchogrwydd Rhag iddo dderbyn cam; I'w mynwes mae'n cofleidio Ei hanwyl blentyn mwyn, Rhydd gusan ar ei wefus, Y deigryn drodd yn swyn. Os deall iaith yr estron, A'i eiriau rydd mewn cri, Fydd gormod i'n hamgyffred, Daw'i ddeigryn yn ei fri; I siarad iaith ei galon O'i lygaid gyda brys, Fel trydan rhed y teimlad Pan wedi dod o'i lys. Mor hardd oedd deigryn cariad Yr Iesu, Brenin hedd, Yn fywyd yn dod allan Trwy nerthol byrth y bedd Lazarus a ddihunodd, O'i rwymau daeth yn rbydd, Yn adgof o'r derfynol, Anfeidrol wyrth a fydd. Gwir ddeigryn edifeirwch Dry engyl nefoedd lan, I chwareu eu telynau Llawenydd fydd eu can; Wrth weled y pechadur t Yn edifeiriol drist Yn dod at drefn maddeuant Trwy haeddiant lesu Grist. Un deigryn o drugaredd Anfeidrol, ddwyfol lor, Omeddwyd i'r goludog, Mewn tanllyd fflamog for; Adgofiodd ei ddibrisdod 0 roddion pena'r nef, Dyferyn mewn trueni 0 ddwfrnis cafodd ef. Tiffs deigryn y pechadur Annuwiol wrth y Groes, Yn erfyn am faddenaut Trwy haeddiant dwyfol loes L Eiriolaeth dwyfol gariad Yr Iesu yn y nef, Yw sylfaen gwaith yr Ysbryd Fydd i'w santeiddio ef.
'HUNAN-LEIDDIAID.
HUNAN-LEIDDIAID. Pan gyflawno unrhyw un hunanladdiad trwy roddi terfyn ar ei einioes mewn modd disymwth mawr yeyffromae yn ei achosi yn yr ardal ei y cyflawnir, ond ychydig sydd yn ystyried fod degau o'u hamgylch yn cyflawni hunanladdiad mewn amrywiol ffyrdd yn fwy graddol feallai ond nid yn llai sicr. Yehydig mewn cydmar- iaeth yw rhif y rhai sydd yn ymddwyn fel pe yn awyddus am hirhoedledd, tra y mae y lluaws fel pe yn awyddus i fyrhau emheinioes. Edrychwn o'n cwmpas gwelir llawer yn syrthio i fedd an- amserol trwy oferedd. Eraill a ymdaflanr i an- turiaethau sydd yn troi yn aflwyddianus ac yn He dwyn elw iddgnt yn dvryn colledion, pryder, gofid, ac yn y diwedd tor-calon. Rhai trwy ddilyn pleserau a chyffroadau yn ormodol; eraill trwy lythineb a gwleddoedd ami y rhai vdynt yn amharu y cyllau. Tarddai llawer o hwylderau gieuol (nervous disorders) oddiwrth afur meddyliol, ac awydd gormodol i feddu wybodaeth eang. Mae llawer yn ysbeilio eu tunain o'u cwsg a'u gorphwysdra angenrheidiol i gyrhaedd yr amcan hwn, a thrwy hyn hau hadau afiechyd yn eu cyfansoddiad. Meddyglj-n llysieuol yw y Quinine Bitters hyn, a defnyddir ef yn helaeth yn y wlad hon a gwledydd tramor, gan gleifion yn dioddef oddi wrth lawer math o wendid a chlefydau, ac os oes unrhyw werth i'w roddi ar dystiolaeth ddynol, y mae effeithiolrwydd y meddyglyn hwn wedi ei brofi tu hwnt i bob amheuaeth. Gochelwch gael eich twyllo. Os cynygir rhyw ddarpariaeth arall i unrhyw brynwr dan yr esgus ei fod lawn cystal, a llawer rhatach, hyderir y bydd iddo ei wrthod yn ben- I derfynol. Gall fod yn sicr fod ymgais yn cael e wneyd i'w dwyllo. | Gellir eaeE Qumme Bitters Gwilym Evans gan 1 bob fiteryllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un Edrychwch fod enw Gwilym Evans, ar bob j label, stamp, a photel, gan fod amryw efelychiad- au ohono yn cael eu cynyg i'r cyhoedd. Perchenogion:—Quinine Bitters Manufacturing company, Limited, Llanelli, S. Wales. I
'93. /! - j
'93. [Oyfaddasiad ydyw y Nofel hon o Quatre Viagt Treize," un o weithiau goreu y lienor a'r hardd enwog, enwog, VICTOR HUGO. I Cyfansoddodd lawer yn ystod ei oes faith a hel- bulus, ond efallai mai dyma'r gwaith sydd yn meddu y dyddordcb mwyaf i ddarllenwyr Cym- II reig, gan ei fod yn cynwys portreadau byw o g-yme,ri.&q.dau ein brodyr Llydewig. Mae y plot yn sylfaenedig ar y rhyfel waedlyd a gymerodd le yn y llwyddyn 1793 rhwng y Ffrancod a'r Llydawiaid yn amser blin sefydliad y Werin- iaeth yn x iramc.J CRYNODEB. PENNOD I.-Yn Mai, 1793, yr oedd Catrawd y Cap Coch yn nghoedwig Sandraie, yn Llydaw. Pan vn ofni perygl, daethant; o hyd i wraig—Michelle Flechard—yn rhoddi.sugn i'w baban, a dau blentyn arall yn cysgu yn ei hymyl. PENITOD II.—Llong ryfel-y Clajmore-y n hwylio Jersey, i lanio hen wr ar arfordir Ffrainc. Dirgelwch mawr pwy allasai fod. PENNOD III.—Un o'r gynau mawr yn tori yn rhydd, ac yn "gwneyd nivred i'r llong; y gwladwr (sef un o'r Cadfridogion Brenhinol) yn gorchymyn saethu y dyn oedd yn gyfrifol am y ddamwain. Llongau rhyfel y Wermiaeth yn dod i'r golwg ar doriad y wawr. PENNOD IV. Gwelai y swyddogion yn amlwg fod brwydr booth ar gymeryd lie. Adnabydd- asant y llongau oedd v, odi dyfod ar eu gwarthaf, oblegid bu lliai o honynt yn gwasanaethu^arnynt pan oedd y Frenhin- iaeth ar ei thraed. Felly cawsant allan fod gan y gelyn 310 o gyflegrau ar gyfer y naw oedd ar y Claymore; ond cymerent ychydig gysur yn y ffaith fod ganddynt hwy 170 o ergydion ar gyfer pob gwn. Nid oedd y llong yn gymhwysach i fyned i frwydr nag ydoedd i wynebu tywydd mawr. Er hyny, gwnaethant y parotoadau goreu allasent i gyfarfod a'r gwaethaf. Gan nad oedd gobaith dianc ymaith, bwriasant angorion, gan osod ochr y llong i wynebu y gelyn, a dygasant yr holl ynau mawrion i'r ochr hono. Dygwyd y pylor a'r ergydion allan, a pharotowyd lie ar gyfer y clwyfedigion. Gwnaed yr holl barotoadau mor ddystaw a phe buasent mewn ystafell gwely angeu. Ar y llaw arall, nid oedd dwylaw llongau y gelyn yn segur. Daethant yn mlaen, a ffurfiasant gylch am y Claymore, tra y gor- weddai y creigiau peryglus y tu ol iddi. Safai'r "gwladwr" ar y bwrdd, yn gwylio'r gweithrediadau yn ddigon di- gyffro. Neshaodd y cadben ato ac wedi moesgrymu, dywedodd wrtho,— "Syr, yr ydym wedi gwneyd ein holl barotoadau yr ydym wedi ein sicrhau yn berffaith ddiogel wrth ein bedd. Nid ydym amgen na charcharorion rhwng y llongau rhyfel a'r creigiau. Rhaid i ni naiU ai rhoddi i fynu i'r gelyn, neu ynte foddi ar y draethell. Nid oes i ni ddewisiad arall. Yr unig beth sydd o'n blaenau yw—marw. Gwell genym farw tra yn ymladd, yn hytrach nag mewn llongddrylliad. Gwell genyf fi gael fy saethu na boddi. Ein gwaith ni ydyw marw,—nid eich gwaith chwi. Cawsoch chwi eich dewis gan y tywysogion i gario yn mlaen y rhyfel ar eu rhan. Os y bydd i chwi farw, fe ddi- flana holl obeithion pleidwyr y Frenhiniaeth. Rhaid i niaros yma i farw er -t wyn ein han- rhydedd; ond rhaid i chwi fyned oddiyma. Rhoddaf gwch at eich gwasanaeth, a dyn i'w rwyfo. Feallai y cyrhaaddwch dir yn ddiogel—nid yw hyny yn anmhosibl. Rhaid eich achub chwi." Gwnaeth yr hen wr arwydd ei fod yn cydweled a'r hyn a draethai £y cadben, ond ni ddywedodd yr un gair. Filwyr a morwyr," gwaeddai'r cadben, a daeth y dynion yn mlaen ato. Mae'r hen wr sydd yn ein plith yn cynrychioli y brenin; rhoddwyd ef yn ein gofal, a rhaid i ni wneyd ein goreu i'w achub. Mae'n rhaid i Goron Ffrainc wrtho, ac efe sydd i arwain y rhyfel ar ei rhan. Cadfridog enwog ydyw, ac yr oeddym i lanio ar dir Ffrainc gydag ef, ond yn awr rhaid iddo ef fyned hebom ni. Os ydym am i'r Frenhiniaeth fyw, rhaid gwaredu y cadfridog!" Rhaid, rhaid," gwaeddai'r dynion. Aeth y cadben yn mlaen: "Rhaid iddo yntau wynebu perygl, drwy geisio myned i'r lan mewn cwch bychan, a'r hyn sydd arnaf eisieu yn awr yw dyn fyddo'n foddlawn myned gydag ef. Dymunwn iddo fod yn frodor o'r rhan yma o'r wlad fel y gallo fod o wasanaeth i'r cadfridog wedi cyrhaedd y lan. Nid yw eto yn rhy oleu i'r cwch fyned oddiwrth y Hong yn ddiarwybod i'r gelyn- ion, ac yn bur fuan bydd i fwg y saethu ei guddio o'u golwg. Gan fod y cwch yn tynu can lleiedj o ddwr, gall fyned yn ddyogel dros ran o'r draethell. A !ydych yn cymer- adwyo y cynllun ? Ydym," atebai'r dynion. Nid oes fynyd i'w golli; pwy aiff Daeth morwr yn mlaen, a dywedodd, Fe af fi." Yn mhen ychydig fynydau aeth cwch bychan oddiwrth y llong. Ynddo eisteddai dau ddyn-yr hen gadfridog, a'r sawl oedd wedi cynyg ei wasanaeth i fyned ag ef i'r lan. Nid oedd wedi goleuo eto, a rhwyfodd y dyn ei oreu tua'r creigiau, yn ol cyfar- wyddyd y cadben, gan nad oedd yn bosibl dianc yr un ffordd arall. Gan fod y gwynt a'r llanw yn eu Ifafr, yr oeddynt gryn bell- der oddiwrth y llong cyn pen ychydig amser. Torwyd ar y distawrwydd gan lais cad- ben y \Claymore yn rhoddi gorchymyn, x1 orwyr ttyddlawn, hoehwch y faner ar yr hwylbren; yr ydym ar fin gweled yr haul yn codi am y tro diweddaf." A chyda hyny dyma ergyd allan, yn cael ei dilyn a bloedd fawr, Byw fo'r Brenin!" Atebwyd hyn oddidraw gan fioedd arall, "Byw fo'r Weriniaeth!" Dilynwyd hyn gan dwrf mawr, fel swn cannoedd o dar- anau. Dyma"r frwydr wedi dechreu Gorchuddid y mor gan fwg a than, a disgynai y bwledi yn gawodydd ar bob llaw. Poerid tan gan y Clayrnere at yr wyth long arall, tra yr arllwysai y rhai hyny drachefn gynwysiad eu cyflegrau ar y long unigol a frwydrai yn eu herbyn. Gallodd y cwch fyned yn ddyogel y tu draw i'r creigiau, ond yr oeddynt hyd yn hyn yn swn y rhyfel. Clywent dwrf y saethu, a gwelent y cymylau mwg uwchben mangre yr ymladdfa, ond yr oeddynt hwy allan o gyraedd yr ergydion. Eu hunig berygl yn awr oedd y mor aflonydd. Tybiai yr hen wr ei fod yn ffodus iawn wedi gallu dianc o ddwylaw ei elynion, ac edrychai yn mlaen yn obeithiol y cyrhaedd- ent y tir yn ddio-el. Tra yr oedd ef yn dawel ei feddwl gollyngodd y morwr y rhwyfau o'i ddwylaw, a sefydlodd ei olygon ar ei gydymaith, a dywedodd wrtho,— IgMyfi yw brawd y dyn ddarfu i chwi saethu Cododd yr hen wr ei ben yn araf, a syllodd yn hamddenol ar y morwr. Dyn cryf yr olwg arno ydoedd, tua deg-ar-hugain oed. Fflaebiai ei lygaid yn wyllt. Yn ei wregys yr oedd dau lawddryll, a dagr, a chroes. Pwy ydych ?" meddai'r hen wr. 'Rwyf newydd ddyweyd wrthych," ebe'r morwr. Beth sydd arnoch eisieu gyda mi ?" Plethodd y dyn ei freichiau, ac meddai, Mae arnaf eisieu eich Uadd." Fel y mynoch," ebe'r hen wr. Cododd y morwr ei lais. Gwnewch eich hun yn barod," gwaeddai. "I beth?" I farw." Paham ?" Yna bu distawrwydd am enyd. Ym- ddangosai fel pe buasai y cwestiwn hwn wedi tafl'u y dyn i benbleth. O'r diwedd, meddai, —"Dywedais wrthych fy mod am eich lladd." A gofynais inau i chwi paham y gwnewch y fath beth ?" ° Fflachiodd digofaint o lygaid y morwr, a dywedodd mewn ton gyffrous, Am eich bod chwi wedi lladd fy mrawd Atebodd yr hen wr ef yn ol gyda'r tawel- wch mwyaf, Fe ddecbreuais Ii drwy achub ei fywyd ef." Mae hyny yn wir achubasoch ei fywyd yn gyntaf, ond wedi hyny gorchymynasoch ei saethu." Nid y fi laddodd eich brawd." Pwy ynte ?" Ei drosedd ef ei hun. Ni ddywedodd y morwr air yn mhellach, ond ymdaenodd gwg dros ei wynebpryd. Beth yw eich enw?" gofynai yr hen wr. Halmalo y gelwir fi ond nid yw o fawr bwys i chwi wybod enw yr hwn sydd yn myn'd i'ch lladd." Ar hyn tynodd Halmalo lawddryll allan gyda'i law dde, a chyda'i law chwith gafael- odd yn y groes oedd ganddo." (I'w barhau.)
Y DDIRPRWYAETH FRENHINOL AR…
Y DDIRPRWYAETH FRENHINOL AR LAFUR. [AT OLYGYDD "Y WERIN."] SYR,—A fyddwch mor garedig a chania- tau i mi drwy gyfrwng eich newyddiadur adnabyddus alw sylwpawb a.berthyn iddynt at yr ymchwiliad a gynhelir yn Mon. Bwriada Mr D. Lleufer Thomas, dirprwywr penodedig y Llywodraeth, gynhal llysoedd ymchwiliadol i gwyuion meistri tir, amaeth- wyr, a gweision amaethwyr yn y lleoedd ac ar y dyddiadau canlynol: Llanerchymedd Tach. 16eg Llangefni 19eg Llanfechell 18fed Amlwch 19eg Marian Glas 22ain Yn awr, syr, mi garwn wasgu ar fecictyllau y dosbarthiadau uchod, yn neillduol y ddau olaf, y pwysigrwydd mawr iddynt droi i fyny yn lluoedd i osod eu cwynion amryfal a llu- osog gerbron y llys. Mae gan y tir- feddianwyr amser, moddion a chyfleusderau o'u tu; mae gan yr amaethwyr amser a chyfleusderau o'u tu hwythau; ond am y gweision ffarmwrs, druain, nid oes ganddynt amser, moddion, na chyfleusderau. Bid a fYIlD, gwneled pob dosbarth ymdrech egniol er (gwneyd yr ymchwiliad yn un llwyr ac effeithiol. Nid gorchwyol anhawdd ydyw i'r tir-feddianwyr drefnu mesurau ar iddynt gael eu hiawn gynrychioli yn y llysoedd hyn, gan eu bod yn gymharol ychydig o ran nifer. Gellir dweyd yr un peth i fesur am yr amaethwyr, er eu bod hwy yn llawer Uuosoc- ach na'r dosbarth flaenaf; ond beth a ellir ei ddweyd am y gweision ? Credwn na.d oes nemawr i amaethwr, os oes un yn y rhanbarth yma o Fon, na wna ei oreu er cael ei was neu weision i fyny i'r llys. Weision ffarmwrs, dyma gyfle i chwi na chawsoch erioed o'r blaen mo'i gyffelyb i ddwyn eich cwynion i sylw Senedd ein gwlad. Cymerwch fantais arno. Deuwch yn lluoedd i'r llysoedd, a phenodwch ddynion cymwys a gwybodus o'ch mysg i siarad drosoch. Detfrowch, a chynalier cyfarfodydd yn mhob ardal drwy yr Undeb yn ddioedi. Dylid cael cyfarfodydd yn Amlwch, Rhos- ybol, Llanerchymedd, Llangefni, Llanfechell, Marian Glas, &c., er penodi ar ^siaradwyr yn y gwahanol lysoedd hyn. A gawn ni apelio at Mr Hugh Williams, Cae Dafydd, fel hen gyfaill ac arweinydd gweision ffarm- wrs, i gymeryd yr achos mewn Ilaw ?-Yr eiddoch, &c., CYMRO.
DAL FFOADURIAID O'R FYDDIN…
DAL FFOADURIAID O'R FYDDIN IN MHORTHMADOG. Y mae yr Heddgeidwad Williams, Porth- madog, wedi dal dau ffoadur o'r fyddin, mewn dull pur fedrus. Yr oedd y si wedi myned allan fod dau ddyn, a gawsent genad i gysgu mewn ysgubor, wedi bod yn ddigon iselwael i ladrata amryw ddillad perthynol i weision y fferm. Cyfarfyddodd Williams y dynion yn ci ddillad cyffredin, ar y ffordd, a dechreuodd ymddiddan i hwynt. Dywed- asant eu bod yn chwilio am waith; a sylwodd Williams y gallent gael gwaith yn Ngwaith Asphalte Porthmadog. Cerddodd y tri gyda'u gilydd i Borthmadog; ac wrth weled na fedrai sicrhau y ddau ddyn mewn ym- drechfa yn Mhorthmadog, a chan ddweyd y cymerai eu henwau, efe a'u gwahoddodd i ddyfod i'w swyddfa, lie ygwnaed hwy yn garcharorion, Ymddengys mai enwau y ddau ydyvi Thomas Donahue a Thomas Gray, dau enciliwr o Wersyll Curragh.
UNDER Y GWEITHWYR SETTS.
UNDER Y GWEITHWYR SETTS. Yn ddiweddar ffurfiwyd undeb gafl y dos- barth hwn o weithwyr, ac y mae tair cangen o hono wedi eu sefydlu yn Ngogledd Cymru, sef yn Mhenmaenmawr, Llanfairfechan, a Trevor, Llanaelhaiarn. Cyuier cload allan le yn ngorllewinbarth Ysgrftland, a dyma ddywed cylchgrawn swyddogol yr undeb itr y mater:-Mae rhagolygon y gweithwyr yn y lie hwn-yu ddisgleiriach nag y buont, a theimla y meistradoedd mai hwy eu hunain sydd yn derbyn colled oblegid fod y chwai- elau wedi cael eu hatal. Tybid fod yr ym- gais a wnaed i lethu yr undeb ryw bum' mis yn ol yn gyfryw ag a fuasai yn rhoddi dyrnod marwoliddo. Beth yw y canlyniad? Mae yr Undeb heddyw yn fwy byw ac yn gryfach nag ydoedd pan ddechreuodd y cload allan. Gwers arall a gafwyd trwy y cload allan yw fod genym yn ein plith ddynion all gymeryd lie y meistradoedd hyn. Fel prawf o hyn gallwn grybwyll fod tair o chwarelau yn awr yn cael eu gweithio gan ein haelodau yn nghymydogaeth Airdrid. Yn Condorrat mae ein haelodau wedi ffurfio cwmni cydweithiol, ac yn cario chwarel yn mlaen ar y llinellau hyny. Bwriedir cario yr egwyddor hon yn mhellach, ac y mae pob tebygolrwydd y try y symudiad allan yn llwyddiant.
GWENDID.
GWENDID. 0 dan y pen hwn gellir rhestru lluaws o'r anhwylderau y mae y teulu dynol yn ddarostyng- edig iddynt, megys anhwyldeb cyffredinol, llewygon, iselder ysbryd, colliadj grym, diflyg yni, nychdod, a'r cyffelyb. Dyoddefa lluaws mawr o'r ddyno'ryw oddi wrth rai o'r anbwyl- derau hyn, y rhai ydynt mewn gwirionedd yn ganlyniad naturiol anmhuredd neu ryw ddiffyg yn eu hadnoddau bywydol. Nid oes clim eyffelyb i Quinine Bitters Gwilym Evans at buro a chyfoethogi y gwaed, a rhoddi yni a bywiog- rwydd adnewyddol i'r cyfansoddiad. Meddyg- iniaeth adgryfhaol yw Quinine Bitters Gwilym Evans, yr hon sydd wedi ei pharotoi yn hollol o gyffyriau llysieuol, ae mae yn cynorthwyo a hwylusu gweithrediadau natur, trwy gryfhau y cyfansoddiad, a chynorthwyo y bwyd-dreuliad, a thrwy hyn y mae yn hwylusu y gweithrediadau, ynTLeryfhau y gewynau ar giau, yn puro a ffrwythloni y gwaed, yn bywiocau yr ysbryd, yn adloni y meddwl a'r tymherau ac yn symud ymiith atalfeydd yn yr ermigau bywydol. Nid oes dim i'w gydmaru & Quinine Bitters Gwilym Evans at gryfhau y cyfansoddiad pan wedi ei wanhau trwy unrhyw achos. Mae y Quinine 13itters yn nertnu a cnadarnhau y rhanau gweiniaid o'r cyfansoddiad y rhai ydynt oherwydd eu gwendid y mwyaf agored i anwyd a'i ganlyniadau. Gochelwch gael eich twyllo i gymeryd dim arall dan enw cyffelyb. Gwerthir Quinine- Bitters Gwilym Evans gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Neu anfonir ef am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddi wrth y perchenogion: Quinine Bitters Manufacturing Company, Limited, Llanelli, South Wales. ;->
[No title]
Yn 1850 dadleuai y Times o blaid dileu y swydd o Fardd Brenhinol; yn 1892 gwawd- ia'r Times y fath syniad. Telir 5,000p y flwyddyn o ardreth gan ddyn o'r enw Mr Williams am dir saethu yn yr Ysgotland. Er hyny nid yw ef na neb arall wedi bod yno yn gollwng yr un ergyd er's pum mlynedd. COCOA CADBURY.—Dyma'r Cocoa sydd y feddianol ar adnoddau cnawd-gynyrchiol ac y trosglwyddo nerth a grymusdsr arosol. -Heath
CYFRIFON CAERNARFON.
CYFRIFON CAERNARFON. B'LE MAE'R ARIAN Y N MYN'D? II. Y DWFR. Pedair blynedd yn ol yr oedd gan Bwyll- gor y Gwaith Dwfr o dan Gorphoraeth Caer- narfon (yn ol cy fri fon gyhoeddwyd am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 25fed, 1889) dros fil o bunau mewn llaw. I gael bod yn gywir yr oedd ganddynt yn nwylaw'r trysorydd 1042p lis 11c. Blwyddyn a- haner yn ol (yn ol y cyfrifon gyhoeddwyd am y flwyddyn yn terfynu Mawrth 2ofed, 1891) yr oeddynt mewn dyled o dros dri chant ar ddeg o bunau. I gael bod yn gywir eto yr oedd yn ddyledus i'r trysorydd y swm o 1352p Is 10c. Felly, o fewn rhyw ddwy flynedd o amser gwariodd y pwyllgor hwn yn agos i ddwy fil a phedwar cant o bunau yn fwy nag a dderbyniwyd gan- ddynt. Naturiol yw gofyn pa le mae'r drwg. Ai derbyn llai, ynte gwario mwy, mae'r pwyll- gor 'rwan na chynt ? Tybiwn y gellir dweyd fod drwg ar y ddwy ochr; mae'r derbyn- iadau yn llai nag a ddylent fod, ac mae'r treuliau yn fwy nag a ddylent fod. Yn anffodus nis gellir, ar hyn o bryd, ddyweyd yn gywir sut mae pethau yn sefyll, gan fod dros flwyddyn a haner er pan gyhoeddwyd cyfrifon y gorphoraeth. Mae cyfrifydd cyhoedlus ar hyn o bryd yn myned drwy'r Ilyfraik-yn benaf, deallwn, mewn canlyniad i'r teimlad godwyd yn y dref gan yr erthyglau gyhoeddwyd ar y I mater yn y North Wales Observer and Ex-; press. Chwerthin aitfben yr Express oeddid pan ddechreuodd dalu sylw i'r cwestiwn, a gwawdiai rhai y syniad fod unrhyw fai 0 gwbl ar y Cyfrifon nac ar yr awdurdodau trefol. 0 ran hyny, ysgrifena un o'r tref- wyr lythyr dienwi'n cyfoesolyn y Cari-taroon; mnd Denbigh Herald am yr wythnos ddi- weddaf, yn rhybuddio'r bobl i beidio tybied fod dim mwy yn y peth na thipyn o swn papyr newydd." Nid oes dim gwaeth, ebe fe, nag" ychydig lacrwydd gyda'r eyfrifon. Ond ychydig "lacrwydd gyda'r eyfrifou sydd wedi bod yn achos yr holl helbul gyda Chymdeithasau Adeiladu, Banciau Cy- hoeddus, a'r cyffelyb; ac mae'r ychydig lacrwydd hyny gyda'r cyfrifon wedi peri i lawer gweithiwr diwyd a chynil i golli holl ffrwyth llafur a chynildeb blynyddau, ac wedi dwyn angen ac eisieu i lawer teulu cysurus. Nid ydym am ddyweyd nae am awgrymu am foment fod neb wedi camddefnyddio arian y cyhoedd yn Nghaernarfon,-ond mae ceisio am- ddiffyn yr aflerwch y mae'r cyfrifon ynddynt drwy ddweyd nad oes yno ddim ond tipyn o lacrwydd, yn sarhad ar synwyr eyffredin y werin. Os oes "llacrwydd" yn cael ei oddef, mae yn gam a'r swyddogion drwy osod profedigaeth yn eu ffordd, ac yn gam a'r trethdalwyr sydd yn gorfod talu am y cyfryw lacrwydd." Ond ymgais gwael ydyw hyn i symud y cyfrifoldeb oddiar ys- gwyddau y Gorphoraeth a'i gosod ar weision y Gorphoraeth. Y Cynghor Trefol sydd yn gyfrifol i'r trethdalwyr, a'r Cynghor Trefol sydd i roddi cyfrif am eu goruchwyliaeth. Os oes bai ar y swyddogion, gwaith a dyled- swydd y Cynghor yw cael hyny allan a galw yr euog i gyfrif. Digon i ni yw.galw sylw y cyhoedd at y drwg sydd yn bodoli, ao nid ceisio nodi pwy sy-dd yn bersonol gyfrifol am y drwg hwnw. Dywedasom nad oes cyfrifon wedi cael eu cyhoeddi er's dros flwyddyn a haner. Ar hyn o bryd, fel yr awgrymwyd eisoes, mae cyfrifydd profiadol yn edrych i mewn i'r llyfrau, a deallwn ei fod wedi hysbysu y Cynghor fod y gwaith sydd o'i flaen mor ddyrus fel y cymer iddo wythnosau-er cael cynorthwy ysgrifenydd hefyd—i wneyd ei adroddiad. Profa hyn mai nid peth ysgafn, i'w droi o'r neilldu gyda chwerthin a gwawd, yw'r aflerwch y cwynir o'i herwydd. Ond i ddychwelyd at y dwfr. Gan na chyhoeddwyd cyfrifon er Mawrth 1891, nis gallwn ddweyd sut y saif pethau ar hyn o bryd, ond gallwn gasglu nad ydynt wedi gwella er yr adeg hono. í Derbyniwyd oddiwrth rent a threth y dwfr am y tair blynedd 1889, 1890, 1891, fel a ganlyn:— a ganlyn:— p s. c. 188 9 1435 13 10 1890. 1399 18 Ii 1891 1335 10 3 Gwebr felly fod can punt yn llai wedi cael eu derbyn am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2ofed, 1891, nag am y flwyddyn yn diweddu Mawrth, 1889. Beth sydd yn cyfrif am hyn ? A oedd ped- war cant yn fwy o dai gweigion yn N gfiaer- narfon yn 1891 nag yn 1889 ? Rhoddodd Mr Richard Thomas eglurhad arall ar y dirgelwch yn Nghyfarfod y Cyng- hor Trefol bymthegnos yn ol. Dywedodd fod y rhent dwfr ar dai bychain o dan 8p y flwyddyn pi cyraedd y swm o 482p yn 1890, ond wedi syrthio i 206p yn 1891, ac nad yw eleni ond 277p., Gwnaed y gwahaniaeth dirfawr yma- dros 450p mewn dwy flynedd,—drwy godi ar berchenogion tai bychain 50 y cant yn 1891, a 40 y cant yn 1892, yn llai nag yn 1890. Cwestiwn godai yn naturiol wedi hyny oedd, Pwy oedd perchenogion y tai bychain yn y dref ? Ymddengys oddiwrth lyfrau y treth- gasglydd fod yn agos i bum' cant o'r tai bychain hyn yn eiddo i bump o berchenogion, fel a ganlyn:— Messrs Williams & Co., Old Bank. 100 190 Ditto on account of executors 1 of the late Robt Williams 90 Mr Richard Thomas, as agent for various owners 150 The Vaynol Estate 70 Mr Issard Davies 50 Mr G. R. Rees (personal) 16 Yn nghyfrifon y gwaith dwfr am y tair blynedd dan sylw ceir fod wedi cael eu talu fel "Bank Commission and Interest" fel a ganlyn:— < P s c 1889 24 8 6 1890 66 13 11 1891 80 2 5 Cyfanswm 171 4 10 Felly mewn tair blynedd o amser y mae y swm o 17lp 4s 10c wedi cael ei dalu, ar gyfrif y gwaith dwfr, mewn llogau a chomision i'r banc. Pan ddywedwn nad oes awdurdod gan y Cynghor Trefol i fynd i ddyled y Trysorydd, nac o ganlyniad i dalu llog ar arian benthyciedig heb ganiatad Bwrdd Llywodraeth Leol, gwelir ei bod yn hen bryd galw ar Gorphoraeth Caernarfon i wneyd trefn ar bethau ynglyn a chwestiwn y dwfr.
YN EISIEU.
YN EISIEU. Mae awer o bethau yn cisieu y dyddiau hyn, brithir newyddiaduron gan hysbysiaclau yn gofyn am gyflenwad o'r hyn sydd yn eisieu gan wahanol bersonau ac ardaloedd sydd yn teimlo eu hangen. Ond y mae un peth yn eisieu yn fwy na'r oil, sei gwellhad biian i bawb sydd yn dioddef oddi wrth anhwylderau y cylla, yr afu, y giau, a'r ysgyfaint, a tlivvymynau a chlefydau sydd yn ymosod ar fiJoedd o drigolion ein gwlad. Mae cyflenwi'r angen hwn, a rhoddi gwellhad buan i'r dioddefwyr yn beth dichonadwy, ac a fewn cyrhaedd pawb, set trwy ddefnyadio Quinine Bitters Gwilym Evans, mewn pryd. Y mae y meddyglyn rhagorol hwn erbyn hyn yn fyd-adnabyddus, a chydnabyddir yn mhob man nad oes dim a all gystadlu a Quinine Bitters Gwilym Evans, mewn effeithiolrwydd i symud ymaith holl anhwylderau y cylla, yr afu, y giau, a'rfrest. Mae yn ami wedi llwyddo i symud yr anhwylderau hyn, pan oedd pob meddyginiaeth arall wedi methu. Nid yw byth yn siomi. Rhoddwch brawf arno. Gwerthir gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Os bydd anhawsder i'w gael, anfonir ef yn ddidraul drwy y post, am y prisiau hyn gan y perchenog- ion :—Quinine Bitters Manufacturing Company, Limited, Llanelli, South Wales. ion:-Quinine Bitters Manufacturing Company, Limited, Llanelli, South Wales. yi
MARWOLAETH MR R. A. JONES,…
MARWOLAETH MR R. A. JONES, LERPWL. Drwg genym orfod cofnodi marwolaeth Mr R. A Jones, B.A., bargyfreithiwr, yr hyn a gymerodd le yn ei breswylfod, 92, Har- tington road, Lerpwl, boreu Mercher. Y typhoid fever oedd yr afiechyd y bu farw ohono. Caiff Cymru golled fawr yn ei farwolaeth. Cymerai ddyddordeb dwfn mewn addysg. Efe oedd ysgrifenydd y symudiad i sicrhau coleg i Ogledd Cymru, a gwnaed ef yn aelod o Gynghor Coleg Bangor. Gwnaeth lawer hefyd er hyrwyddo addysg ganol- raddol yn Ngogledd Cymru, a thynodd allan adroddiad llawn ar addysg gelfyddydol. Ysgrifenodd lyfr ar bwnc y tir yn Nghymru, yr hwn a dynodd sylw mawr yn y wlad. Bu ganddo law yn ffurfiad Cynghmir Rhydd- frydol Gogledd Cymru, a bu yn un o'i drysoryddion hyd ei farwolaeth. Pan ddaeth pwnc Ymreolaeth gerbron daliai ef olygiadau Undebol ar y mater, er hyny par- haodd ef yn ffyddlawn i'r Cyngrair, a bu yn cydweithredu gyda'r cynghor, gan y rhoddai fwy o bwys ar gvvestiynau Cymreig nag ar bwnc yr Iwerddon.
Yr Arslwy
Yr Arslwy<M-ra<ylaw a'r Wesley-1 aid. Gwrthododd Arglwydd raglaw yr Iwerddon dderbyn anerchiad oddiwrth Bwyllgor Llywodraethol Wesleyaid yr Iwerddon ar y tir ei bod yn ymdrin a mat- erion dadleugar. Yr oedd y pwyllgor yn dadgan yn yr anerchiad mai Undebwyr selog oeddynt, a'u bod yn dymuno ar i'r golyg- iadau hyny gael eu cario allan. Penderfyn- asant beidio tynu allan anerchiad arall.
CYNGHRAIR Y FRIAlLLEV.
CYNGHRAIR Y FRIAlLLEV. Ymddengys fod dyddiau picnics, neidio, rhedeg mewn sachau, rhedegfeydd mulod, &c., mewn cysylltiaid a Chynghrair y Fri- allen ar ben. Bellach mae y cyfeillion hyn am droi y bobl i'r ffydd Geidwadol. Dyna raglen y prif arweinwyr ar hyn o bryd.
L L 0 N G D D R Y L li I A…
L L 0 N G D D R Y L li I A D A U MAWRION. Dros Gant o Fywydau wedi Colli. Dywed pellebyr o Hong Kong fod y llong Porpoise wedi cyrhaedd yno dydd Mawrth gyda rhai a achubwyd yn ngholliad y llong Bokhara, yr hon a ymddrylliodd ganol nos, nos Lun, Hydref y lOfed, ar dueddau Sand Island. Collwyd y cwbl oedd ar y bwrdd ond dau o deithwyr, tri o swyddogion y llong, dau Ewropead, a 16 o'r dwylaw brod- orol: i gyd fe drengodd 125 o bersonau. Yr oedd rhai o'r enwau Parry a Lewis yn mysg y dwylaw a achubwyd. Yr oedd y Bokhara yn cynwys ar ei bwrdd 200,000 o ddoleri specie, 1365 bales silk, 400 o dunelli o de o Bombay, 225 o dunelli o lwyth cyffredinol i Gaerludd; a 200 o dunelli o lwyth cyffredinol i Ffrainc. Y mae y Hong Norwegiaidd Agnes, Blue- fields, Nicaruaga, yn adrodd, meddai pellebyr Dalziel, New Orleans, am ymddrylliad, yn mor Caribbean, yr agerlong Stranger, o Ruatan, un o'r Bay Islands, Honduras. Nid achubwyd ond y swyddog cyntaf a morwr allan o'r 19 oedd ar y bwrdd; ac yr oedd 13 o honynt yn deithwyr.
PERSON YN PREGETHU MEWN .CAPEL.
PERSON YN PREGETHU MEWN CAPEL. Mae'n ddiameu fod y penawd uchod yn eich taro a syndod, a'ch bod braidd a myned i gredu wrth ei ddarllen fod y mil blynydd- oedd wrth drws. Prydnawn Sabbath cyn y diweddaf fe alwyd cyfarfod brodyr ar ol yr oedfa yn nghapel y Methodistiaid yn Llan- allgo, a'r peth roddwyd o flaen y brodyr oedd fod y person yn gofyn a gawsai fen- thyg y capelj nos Wener i gadw cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf, ac y byddai person Bodewryd yn traddodi pregeth ar yr achlysur. Fe ganiatawyd iddynt gael y capel. Gwelir felly fod y brodyr Method- istaidd wedi bod yn ddigon rhyddfaydig i ganiatau ei gais, a chynaliwydi y cyfarfod yno. Wel, feallai eich bod yn barod i ofyn, Beth am y wisg wen? Fe roedd hithau yno, ac lr&3edd gweled y wisg, ac yn enwedig eu c clywed yn dyweyd eu bod yn credu yn yr Eglwys Lan Gatholig yn taraw yn rhyfedd mewn capel Methodistaidd. Fel y gallasech ddisgwyl gyda pheth mor newydd, fe gafwyd cynulleidfa pur dda. Hwyrach y byddai yn ddoeth i ni ddyweyd fod yr hwn oedd wedi ei gyhoeddi i bregethu wedi ei luddias i dd'od oherwydd gwaeledd ei blentyn, fel y bu rhaid i Mr Jones, person y plwyf hwn, fyned trwy y gwaith.
[No title]
Nos Sadwrn derbyniodd Mr Thomas Birt- wistle, ysgrifenydd blaenorol y rhan ogleld- ddwyreiniol o swydd Lancaster, yr hwn, ychydig fisoedd yn ol, a benodwyd yn arol- ygydd arbenig o dan Ddeddf Ffatrioedd y flwyddyn cicliwecldaf-dysteb fel cydnabydd- iaeth o'i wasanaeth maith a ffyddlon i grefftwyr ffatrioedd swydd Lancaster. Cyf- Iwynwyd yr anrheg yn Neuadd Tref Accring- ton, yr hon oedd yn llawn o gynrychiolwyr o bob parth o'r wlad. Llywyddai Mr Joshua Barrows, ac efe hefyd a gyfhvynai yr anrheg, yn cynwys anerchiad ysblenydd a drawing- room suite, rhoddion 30,000 0 weithwyr yn y ffatri. Bu 24 farw o'r diphtheria ddydd Mawrth yn Philadelphia, tra y bu 130 farw o'r un afiechyd yno yr wythnos ddiweddaf. Torodd dwfr-bistyll anferth uwchben Texas ddydd Mawrth, gan ymarllwys dros gryn 400,000 o aceri. ,T"o
Advertising
WAKNER'd At holl A NHWYLDERAU'R EL\VLOD A'R AFU. w AP.N,'EP.'S "SAFE" CURiiJ AT WENDID CYFFREDINOL A BRIGHT' DISEASE. "VTILOEDD O DESTIMON1AL3 yn datgan llJL ei liuwaddau wedi eu niio A gellir eu harchwilio. Mae ei haw-tau ya auwadadwy.. Gwerthir gan bob ffaryliydd a gwerthwr pliys.^wriaetb. Danion r abamphledya yn rhad ond ysgrifsnu A9 fl. H. WARNER. A' C v P, Ltd., 86, Clarkenwylload, London, E.O ■ GOFYJVWCH I AM I HUGHES'S t BLOOD PILLS I EDRYCHWCH M YN FANWL AR BOB BOX A I byddwch yn SICii na byddvvch ya H cael eich twyllo, a GWELWCH ■ Fod y TRADE MARK sef (Llun CALON) ar bob Blwch. Y mae un- rhyw Pills a gynygir 0 yn Ddynwarediad I I Tnwyil, AC NID YDYNT YR IAWN BELENAU, ac ni chynwysant yr un rhinweddau a HUGHS'S BLOOD PILLS. GOCHELWCH Bersonau anonest y rhai a ymostyngent mor isel nea ymgeisio twyllo trwy werthu Pills diwerth yn lIe y rhai Par. Y mae y RHYBUDD hwn yn ftdyleclus i'r Cyhoedd er eu hamddiffyniad, er mwyn iddynt sicrhau y Pills gwirioneddol, ac fel y gallont ochelyd y masnachdai hyny lie y mae twyll yn cael ei ymLti-er. GOFYNWCH am HUGHES'S BLOOD PILLS a Llun Calon ar bob bhvch. Gwrthod* well bob peth arall. GWAED DRWG. Q CURVY WAED DRWG. o CURVY /^IROEN GLEFYDAU. TJOEN PEN. V_/ROEN GLEFYDAU. X OEN PEN. AFU DDRWG. J~\IFFYG TRAUL. FU DDRWG. ULFFYG TRAUL. NERVOUSNESS. WYNEGON. ERVOUSNESS. vJT W YNEGON. BILIOUSNESS, /^ILEFYDAU ARENAU. ILIOUSNESS. L_YLEFYDAU ARENAU. Pt Y maent yn iachaa pan Md pobpeth arall yn metiiu. Heb oedi danfoner am Box o "Hughes's Blood Pihs" gyda Llun Calon! ar j Label. Peidiwch cymeryd dim arall. Ar werth am Is ljc, 2s 9c, 4s 6c. Gyda'r Post am Is 3e, 2s lie, 4s 9c, oddiwrth y Perchenog, JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH.
Y GERI MARWOL.
Y GERI MARWOL. Y mae yr adroddiad swyddogol am ddydd Mawrth yn dangos fod yr afiechyd yn lleihau ychydig yn Budapest, lie y mae terfysgoedd wedi cymeryd lie o achos y teimladau drwg yn erbyn y meddygon yn iluosty y geri. Y mae achosion angeuol hefyd yn para yn Hamburg. Ar gyrhaeddiad yr agerlong Biafra i Gravesend o Hamburg, cafwyd allan fod un o'i dwylaw yn dioddef dan y colera. Symudwyd ef i'r ysbytty. Hwn yw yr nnig achos yn Mhrydain ar hyn o bryd.
GYRU'R LLITRYR-GERBYD. --
GYRU'R LLITRYR-GERBYD. Cyhuddwyd F. R. Chaber o yru y llythyr- gerbyd oedd dan ei ofal yn orwyllt, drwy yr hyn yr anafwyd gwraig o'r enw Mrs Whis- bey. Yr amddiffyniad oedd fod yn rhaid gyru yn gyflym er dod i fyny a'r cytundeb a wnaed gyda'r Llythyrdy. Yr oedd Mrs Whisbey yn rhy wael i ddod i'r llys. Taflwyd yr achos allan, er rhoddi cyfleustra i'r wraig ddod a chynghaws yn mlaen am iawn.
SEFYLL ALLAN DRWY GAX-GYMERIAD.
SEFYLL ALLAN DRWY GAX- GYMERIAD. Aeth tua naw cant o wyr y pellebyr ar streic ddechreu yr wythnos yn yr America. Ataliwyd yr holl gerbydresi ar un linell. Cymerodd y sefyll allan le mewn canlyniad i dderbyniad pellebyr oddiwrth eu prif ar- weinydd; ond taflwyd y dynion i benbleth fawr pan ddeallasant fod rhyw un wedi ffugio enw y gwr hwnw. Dychwelodd y rhan fwyaf at eu gwaith pan ^ddeallasant hyn.
Ymfudiad i'r America.
Ymfudiad i'r America. Er y flwyddyn 1820 anfonodcl, Ewrop 15 miliwn o bobl i'r Unol Dalaethau. O'r nifer hwn, anfonodd Prydain Fawr 6 mil- 2 iwn, yr Iwerddon, 3t miliwn; a Germani, 4 miliwn. Er dechreu y ganrif, y mae rhif y rhai sydd yn siarad Saesneg yn y byd wedi cynyddu o 21 miliwn i 125 miliwn. Achoswyd y cynydd mawr hwn yn benaf gan yr ymfudiad i'r America. Dywedir fod cynifer ddwywaith yn siarad Sae sneg ag sydd yn siarad yr un iaith arall.
Arlunydd heb Freichiau.
Arlunydd heb Freichiau. Yn y Sefydliad Brenhinol (Royal Institu- tion), Edinburgh,yn yr Ysgol Arlunio yno,y mae myfyriwr heb freichiau. Ganwyd ef felly; ond y mae wedi dysgu drawio a phaentio a'i draed. Ei enw yw Alexander Alexander; ac y mae wedi pasio yr ail radd yn y Science and Art Department, Llundain; a'r Drydedd Radd mewn outline drawing. Cafodd y Kensington Prize o clair cyfrol am ei ragoriaeth mewn celf. Arddangosid peth o'i waith yn Arddangosfa Edinburg yn 1886. Brodor yw o'r ddinas hono. I:)
[No title]
Yn Southportlceirll440 o fenywod ar gyfer pob 100 o wrywod. Llosgir 300 tunell o lo bob dydd ar fwrdd y rhan fwyaf o agerlongau y Werydd. Fe ddywedir fod 40,000,000 o ddeiliaid ei Mawrhydi yn India na wyddant byth beth yw cael eu digoni o fwyd. Fe wneir achwyniad cyffredinol fod y rhan fwyaf o cocoas yn anrheuliadwy; ogymaint ag fod y broffeswriaeth feddygol wedi dangos yn ddiweddar fod yr alkalies a ddefnyddir yn rhy ami gan wneuthurwyr tramor, yn nghy- a'r mater bras, yn ffurfio sylwedd sebond aidd sydd yn hynod o beryglus i iechyd. Gyda golwg ar cocoas a wneir gyda gofal, megis eiddo Mr Cadbury, nid yw y gwrth- wynebiadau hyn yn bodoli. fl"IiitehalZ Review. < — —- —9 Argraphwyd a chyhoeddwvd dros y Welsh National Press Company, Limited, gan D. W. Davies a'i Gwxani. yn eu swyddfa New Harbour. Caernarfon.