Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

35 articles on this Page

LLITH MERI JOS.

News
Cite
Share

LLITH MERI JOS. MR GOL.—Dyma'r diwrnod diolchgarwch wedi mund trosodd leiii eto. Ma'n dda iawn gen i am y diwrnod diolchgarwch fel y mae o yn caul i gadw gyno ni y Cymry. Ma yna rhywbeth clws iawn yn y syniad fod yr holl wlad yn mynd ar i gliniau i geisio diolch i'r Hwn &ydd yn gofalu am danom. Ac ar y diwrnod yma ma'r Eglwyswrs a'r Ymneillduwrs yn gallu cytuno a'u giludd yn o dda, ac yn ang- hofio ryw fan ymrafaelion fydd rhyngddyn nhw weithia. Blwyddyn ddigon sobor ydi hon wedi bod i lawer ffarmwr. Wedi caul crop pur dda o yd, yr oedd y ffarmwrs yn teimlo yn bur gefnog, ond dyma,'r glaw yn dwad i lawr bron yn ddistop yr adeg oudd i gaul o i mewn. Mi glywis Mr Griffith yn deud fod gwerth miloedd o bunau wedi mynd yn ofer yn Ngogledd Cymru o gwbl. Dwn i yn y byd mawr yma beth ddaw o lawar ffarmwr. Yr oudd hi yn ddigon calad arnyn nhw cynt, hefo prisiau pethau nioriselaihentimoruchel. la'n SY11 fod y landlords yma yncaul i goddaigodicymant. t Ma'n nhw rwan yn caul mantais ddyblig, trwy fod y rlient yn dal yr un fath a phan oudd petha yn mynd yn iawn, ac y ma nhw hefyd yn caul llawer mwy am bunt nag oeddan nbw'r amsar hono. Yr unig beth wela i ydi y bydd raid i'r Llywodraetli eu gneyd nhw ostwng eu rhenti, gan na wna ZD nhw hyny i L, unait. Yn yr hen amser mi fuasa hi yn ddrwg iawn ar y gweithiwrs y gaua yma, gan fod y cnaua wedi troi braidd yn fethiant. Mi fuasai pris y blawd yn caul i godi yn af- z;1 resymol, a'r dorth chwech yn costio deg ceiniog ne swilt. Ond ma masnach rydd wedi i gneyd yn bosibl i wledydd erill lie ma gynin nhw fwy na digon o yd i yru peth ohono fo i ni yma. Ac felly ni fydd i bris y bara o drugaredd godi ryw lawar y gaua yma, fel ag y gwnath o yn Rwsia y gaua dwaetha. Mi glywis y mam yn son llawer am yr amsar calad a weloddhi pan ynifanc, ond ma petha wedi newid gryn dipyn erbyn hyn i'r gweithiwr. Ma na well cyflog iddo gaul a gwell bwyd ar i gyfer o. Un garw iawn ydi'r hen Gladstone wedi'r cwbl. Jyst myddyliwch y fath nyth cacwn y mau o wedi dynu yn i ben efo'i araeth yn Cwmllan. Y chydig o'r rhai ath yno y pnawn hwnw oedd yn meddwl wrth gych- wyn y buagan nhw yn clwad arath bwysig i amaethwrs Cymru, ac y buasa y fath siarad a helynt ar i chownt hi. Ma na ryw ddiwc, a rhyw arglwydd, a rhyw gyrnol, a phethau or fath, wedi troi i bwnio fo i goreu, ond toedd o fawr gwath. Ond ) < y sport ora o gwbl ydi gweld yr agent hwnw o Q-aernarfon yna yn trio pitchio i'r Hen Wr. Druan o Mr George Owen, os ydio yn breuddwydio y caiff o'r gora ar yrHen Law. Mau o wedi gneud mistec ofnadwy. Mau Mr Gladstone wedi bod yn fatch i lawer iawn clyfriach dynion nag o. Wel, Mistar Gol,, yn Methesda y mau Jighyhoeddiad i ddydd Sadwrn, ac y mau Robin yma yn deud i fod ynta hefyd am ddwad yno. Mau yno gyfarfod mawr i fod gin y Bhyddfrydwyr, a Tom Ellis, Lloyd George, Thomas Lewis, Alfred Thomas, a Herbert Lewis, yno yn siarad. A welsoch chirioed gymint o aelodau Senedd- ol gyda'u giludd yn rhwla o'r blaun ? Mae yno ddigon i danio pob copa walltog sydd yn sir Gaernarfon a sel dros ei wlad faswn i meddwl. Dydw i ddim yn siwr iawn a ga i fynd i gyfarfod y pnawn ai peidio, ond mi af yno i edrach, ac mau Robin, y gwr yma, yn sicr o gaul mynd trw'r drws, os mai bod yn weithiwr ydi'r cymhwysder angenrheidiol -dyna i chi ymadrodd campus, onite ? Mae Robin yma yn weithiwr ffyrst-clas, ae yn arfer gwneud diwrnod da o waith, ery bydd ei gyflog yn ddigon bychan. Ond i-dclead y gwir i chi yr ydan ni yn medru caul dau ben y llinyn yn nghyd yn bur ddel ar y cyfan, fel ma' r goreu modd.

DYNWAKED DEEMING.

CTNBYCHIOLAETH LLAFUR YN NGHAERNARFON.'

Y GWARCHODLU BRENHINOL. -I

Y CARDIAU LLYTKYRAU j .NEWYDD.

YMLADD YN AFFRICA.

DYNES DDICHELLRlR.

I "ADDYSG HYDD" YN LEBPWL.

---LLOFRUDDIO FEDAIS 0I ENETHOD.

GAHDAS I ARGLWYDD ROSE-j BERY.

RWSIA A THwSci p

,I, LLADRATA PLANT.

PELLEBRU ERTHYGL MR GLADSTONE.

- CYMUNRODDION MAWRION.

LLYNGES YR UNOL DALAETHAU.

[No title]

EI LADD WRTH EI WAITH.

CENADWRI GOSTUS.

PERFGLON BYWYD.

n DAMWAIN GYDA GWN.

RHEILFFORDD DRYDANOL LERPWL.

EISIEU GWERTH EI OES.

CYFLOGAU YN GERMANI.

-----ALLAN 0 W AITII YN NGHAERLUDD,

PLESERDAITH I DUBLIN.

A OEDD Y CIG YN DDRWG?

DIGWYDDIAD RHVFEDD YN NGWALLGOFDY…

GORLWYTHO LLONG. j -i

YR HELYNT YN DAHOMEY.j

CELU TYBACO. |

CREFYDD YN YR UNOL DALEITIIAU.

YR IAITH GYMRAEG YN YR YSGOLION.

DAMWAIN YN BIRKENHEAD

Advertising

CYNBYCHIOLAETH LLAFUR.