Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
r.;..::-...__.---------_..-..-.,-...--....-."-..-'"GLYWSUICH…
r. GLYWSUICH CHWI Fod teimladau brawdgarol iawn yn bodoli rhwng yr Fglwyswyr a'r Methodistiaid yn Llanallgo ? Fod yr Eglwys yn y lie hwnw ar hyn o bryd yn cael ei hadgyweirio ? N ad oedd ganyrEglwyswyr, o ganlyniad, le eyfleus i gynal eu cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf ? Fod y Methodistiaid wedi rhoddi benthyg eu capel i'r perwyl hwnw ? Mai yn y capel y bu yr Eglwyswyr yn cynhal eu cyfarfod ? Fod Mr W. M. Preston, trysorydd canghen lton o Sefydliad y Bywydfadau, yn ceisio perswadio gwahanol gynulleidfaoedd yr Ynys i wneyd casgliad at y sefydliad dyn- garol y deil ef gysylltiad ag ef ? Ei fod yn dymuno cydnabod casgliad o 2p 7s 2c a wnaedynnghapely Methodistiaid ( yn Llangoed, ac un arall o Is 8s 3c a wnaed yr un pryd yn Eglwys Llangwyllog? Fod y aithdyngarolawneir gan ddwy- lar,- v byv.-ydfadau yn deilwngobob cefnog- r. ?v. "• ylid cadw dillad sidan dros y gauaf mewu vipyr gwyn? FOcL y chloride of lime sydd yn y papyr gwyn yn sicr o cffcithio yn niwcidiol ar liw y sidan ? Y dymunem i'r boll fercbed ieuainc ein cymeryd ar ein gair, heb wneyd experiment a ydyw hyny yn wir ai peidio ? Os y mynent wneyd prawf, mai hwy gaiff y golled? Mai fel y canlyn y darllena sign barbwr: Tori gwallt a sh&fio, 4c; eto plant, haner pris ? Mai nid yn ami y gwelir plant a barf ganddynt ? Am yr hen lane hwnw o A- aeth adref ufi nos Sadwrn wedi cael mwy nag oedd weddus iddo o'r goch ? Ei fod yn methulyn glir ag agor y drws, er fod yr agoriad ganddo ? Iddo ddod i'r penderfyniad fod rhywun wedi bod yn lladratta twll y clo ? Ei fod yno yn penaynu uwchben ei golled hyd oni ddaeth rhyw Samaritan o gymydog heibio, ac estyn ymwared iddo trwy agor y drws ? Am y brawd hwnw o S- D- sydd wedi agor masnach eang mewn mwyar duon ? Ei fod am agor cangen o'r fasnach yn D N ? Ei fod eisioes wedi sicrhau nifer o gws- meriaid yno? Ei fod wrth cbwilio am orders yn cario I samples gydag ef ? Fod*y brawd yn bwriadu troi ffrwyth y felldith yn ffynhonell o elw iddo ei hun ? Am gwyn y gwerthwr llaeth. hwnw yn Lerpwl? Ei fod yn dyweyd fod y llaeth oedd ganddo yn bur, a bod y dwfr ym bur hefyd; ond os y cymysgai y ddau y cosbid ef am werthupeth amhur ? Nad ydyw y brawd wedi astudio digon ar fferylliaetb p £ thau cyffredin os nad yw wedi gweled yn mha le y gorwedd y diffyg yn ei ymresymiad ? Fod y penderfyniad isod wedi cael ei basio: Mai 3ydd, 1660. Cytunwyd ac arwydd- wyd yn Nghaernarfon, gan foneddigion y sir hon, ein bod yn cydnabod y byddai yn fwy o fantais i ni a'n bolafiaid i dynu i lawr ac i chwalu Castell Caernarfon, a'n bod yn addaw trosom ein hunain a'n tenant- iaid i gadw ein eyfran o'r treuliadau a ddisgyn ar sir Gaernarlon am wneyd hyny, ond iddo beidio bod dros bum' cant o bunnau"? Mai Maer Caernarfon sydd yn adrodd am y penderfyniad yn ei erthygl ddyddorol ar Freinlen Caernarfon yn y Geninen j ddiweddaf ?" j Fod y Maer yn gallu cyhoeddi yn ddi- betrus nad yw y penderfyniad wedi cael ei gario allan hyd yn hyn ? Y gallai ychwanegu nad oes yr un argoel y cerir ef allan am y rhawg eto ? Y cymer Syr John Puleston ddigon o ofal na chymer hyny le tra y byddo ef byw ? Fod cynygiad difrifol wedi cael ei wneyd yn y Cynghor Trefol, er's llai na haner can' mlynedd, i wyngalchu ei furiau y tu fewn a thu allan ? Fod y cynygydd yn credu y buasai hyny yn sirioli ei ymddangosiad yn fawr ? Mai diangenrhaid yw dweyd na lwydd- wyd i wneyd white elephant o'r hen adeilad ? Mai fel hyn y canodd Morien Mon i "Wraig y Pysgotwr" I Gwraig ffyddlon y pysgotwr Edrycha ddydd 'rol dydd, A baban ar ei gliniau Ar for cynhyrfus sydd Yn taflu draw ei donau Fel rhyw fynyddau mawr, A hithau'n dysgwyl canfod Y bad a'i lwyth bob awr. Mae'r stonn yn cynddeiriogi, A'r nos ddu sydd gerllaw, j A mynwes gwraig pysgotwr Yn awr sy'n 11awn o fraw; t, A ddaw ef adref, tybed ? Mor unig ydyw byd Teuluoedd tlawd pysgotwyr Yn byw eu hun o hyd." Mae'r tegell eto'n canu Mewn 'stafell loew, lan, A'r gath yn bur gartrefol Wrth danllwyth mawr o dAn, A'r baban bach yn cysgu, A'i ruddiau fel y rhos; Ond edrych am bysgodwr Wna'r fam drwy wyll y nos. '4 Ai seren wibiol welaf Trwy y cysgodion draw ? Rhyw 'leuni bach yn dawnsio, Nid yw yn fwy na llaw." Dvnesa at y bwthyn, Bad y pysgotwr yw; A'r"wraig sy'n llawenychu, k5 Ei gwr ga'dd eto'n fyw. Hapusrwydd sy'n teyrnasu 0 fewn y bwthyn 'nawr; Mae'r baban gyda'i "dada" Yn chwerthin ar y llawr: Mae'r fam yn foddlon bellach, A d'wed mai'r hapus wraig Yw gwraig y dewr bysgotwr A rodia donau'r aig.
YN EISIEU.
YN EISIEU. Mae uwer o bettau yn <4$ieu y dyddiau hyn, brithir newyddiadunn gltu hysbysiadau yn gofyn am gyfleirwad o'r hyn sydd yn eisieu gux wahanol bersonau ac ardaloedd sydd yn tei3ro eu hanofen. Ond y raao un peth yn eisieu yn fwy na r oil, scf fjvjellhad bean i bawb sydd yn dioddef oddi wrth ai:hwyl<i"rau y cylla, yr afu, y giau, a'r ysgyfaint, a thwymynau a chlefydau sydd yn ymosod ar filoedd o drigolion ein gwlad. Mae cyflemvi'r angen hwn, a rhoddi gwellhad buan i'r dioddefwyr yn beth dichonadwy, ac o fewn cyrhaedd pawb, sef trwy ddefnyddio QrGnine Bitters Gwilym Evans, mewn pryd. Y mae y meddyglyn rhagorol hwn erbyn hyn yn fyd-adnabyddns, a chydnabyddir yn mhob man nad oes dim a all gjstadlu a Quinine Bitters Gwilym Evans, mewn effeithiolrwydd i symud ymaith holl anhwylderau r cylla, yr afu, y giau, a'r frest. Mae ynaml wedi llwyddo i symud yr anhwylderau hyn, pan oedd pob meddyginiaeth arall weii mcthu. Nid yw byth yn siomi. Rhoddwch brawf arno. Gwerthir gan bob fPervllydd mewn poteli 28 9c a 4s So yr un. Os bydd anhawsder i'w gae 1, anfonir ef yn ddidraul drwy y post, am y prisiau hyn gan y perchenog- ion:—Quinine Bitters Manufacturing Company, Limited, Llanelli, South Wales.
J93,
J93, [Cyfaddasiad ydyw y Nofel hon o "Quatre Vingt Treize," un o weithiau goreu y Ilenor a'r bardd • enwog, VICTOR HUGO. Cyfansoddodd lawer yn ystod ei oes faith a hel- bulus, ond efallai mai dyma'r gvvaith sydd yn meddu y dyddordeb mwyaf i ddarllenwyr Cym- reig, gan ei fod yn cynwys portreadau byw o gymari&dau ein brodyr Llydewig. Mae y plot yn sylfaenedig ar y rhyfel waadlyd a gymerodd le yn y flwyddyn 1793 rhwng y Ffrancod a'r Llydawiaid yn amser blin sefydliad y Werin- iaeth yn Ffrainc.] CRYNODEB. CRYNODEB. PENNOD I.—Yn Mai, 1793, yr oedd Catrawd y Cap Coch yn nghoedwig Sandraie, yn Llyda,\r. Pan yn ofniperygl, daethant o hyd i wraig—Michelle Fl&ehard—yn rhoddi sugn i'w baban, a dan blentyn arall yn cysgu yn ei hymyl. PENNOD II.—Llong ryfel-y Clay;no,re-yn hwylío o Jersey, i lanio hen wr ar arfordir Ffrainc. Dirgelwch mawr pwy allasai fod. PENNOD III. Hwyliodd y Claymore o ororan Jersey yn ddyogel. Rhodiai y cadben a'i brif swyddog ol a blaen ar y bwrdd hyd oriau man y boreu, a thestyn eu hymddiddan oedd y gwr rhyfedd oedd ganddynt dan eu gofal. Ond yn ddisymwth torwyd ar eu hymddiddan ac ar ddistawrwydd y nos gai "wrf anarferol oddi tanynt. Cymerasaid wain Ie. Aeth y ddau i edrych beth oodc wedi digwydd. Nis gallent fyned i lawr, gan iod y morwyr yn dylifo i fyny am eu hoedl. Yr oedd un o'r gynau mawr wedi tori yn rhydd Y mruthrai o'r naill ochr'ji'r llall, fel yr ys,-ydwa,i y,llon,i', gan wasgar dinystr ar bob llaw. Yr 'oedd wedi myned ar draws pedwar o ddynion YD: barod, ac wedi malu eu cyrph yn ysgyrion. Ymddangosai y tel- pyn anfertb o fater fel pe wedi ei ysprydoli, gan fwrw ei lid ar bobpeth a ddeuai yn ei ffordd. Yr oedd mor gryf a'r cawrfil, mor chwim a'r lygoden, mor sydyn ei ysgogiad 11 9 a'r fellten, a'i dwrf fel eiddo taran. Er ei fod'yn ddeng mil o bwysi, neidiai fel ewig. Rhuthrai weithiau; ar draws y gynau ereill -ei frodyr, megys-gan wneuthur ugain ohonynt yn ddiwerth; brydr arall elai yn erbyn ystlysau y llong, gan dori ymaith y coed, yn y fath fodd ag y byddai y dwfr yn sicr o ddod i mewn pe codai tonau'r mor ychydig yn uwch. Yr unig un ar fwrdd y llong ag oedd wedi cadw eihunanfeddiantoedd y teithiwr hynod. Aeth yr hen Vir i lawr i ystafell y gynau mawr, a bu yn ceisio sicrhau y gwn gor- phwyllog, ond yr oedd ei holl ymdrechion yn ofer. Chwarddai y gwn, megis, {am ei ben. O'r diwedd daeth y dyn a ofalai yn fwyaf neillduol am y gwn i'r lie. Ei ddiofalwch ef oedd yn gyfrifol am yr holl alanasdra; yn awr ceisiai wneyd iawn am ei ddiffyg, drwy achub y: liong, os oedd yn bosibl. Bu'n ymladd! gyda'r gwn am haner awr, cyn cael goruchafiaeth arno. Pan oedd y talp copr afrosgo ar fin llethu y dyn, tafl- odd y gwladwr" rywbeth o dan yr olwyn- ion, a safodd y gwn am eiliad. Cymerodd y dyn fantais ar hyny, a thaflodd raff o gwmpas yr anghenfil, a daeth amryw o'r dwylaw yno i'w gynorthwyo. Syr, achubasoch fy mywyd," meddai y dyn wrth y gwladwr," ond ni wnaeth yr hen wr yr un sylw o hono. Enillodd y dyn yr oruchafiaeth ond rhaid addef fod y gwn wedi enill buddugol- iaeth hefyd. Er nad oedd pob gobaith i achub y llong wedi ei roddi i fyny, eto y± oedd y niwed a dderbyniodd yn wir ddif- rifol, a bu'r morwyr drwy y nos, wrth oleuni'r llusernau -er mor beryglus iddynt oedd y goleu—yn ei adgy weirio. Aeth y gwladwr i fyny i'r dec uchaf, a rhoddodd ei bwysau ar yr hwylbren. Gosodwyd nifer o'r mor-filwyr yn ddwy res ger ei iron. Daeth y cadben i fyny, ac o'r tu ol iddo cerddai dyn a golwg luddedig arno, ond eto chwareuai gwen foddhaol ar ei wynebpryd. Y dyn a feistrolodd y gwn mawr ydoedd. Aloes- inodcl y cadben i'r "gwladwr," l,ry ac ebai, —" Gadfiidog, dyma'r dyn." Safai y dyn yn unionsyth, ond cadwai ei olygon ar lawr. Gadfridog,"meddai'r cadben eihvaith, "ag ystyried y gwrhydri a wnaeth y dyn hwn, ai ni *allwn ni, ei uwchafiaid, ddangos rbyw gymaint o'n cymeradwyaeth i'r hyn a wnaeth?' "Tybiaf y dylem wneyd hyny," atebai'r hen wr. A fyddwch gystal a rhoddi eich gorch- ymynion, ynte ?" Y chwi ddylasai eu rhoddi; chwi yw y cadben." Ond chwi yw y cadfridog." Taflodd yr hen wr gipolwg ar y dyn a dywedodd wrtho, Dowch yma." Daeth y dyn yn mlaen, a chymerodd yr hen wr Groe3 St. Louis oddiar fynwes y cadben, a dododd y tlws ar fynwes yr hwn a enillodd yr oruchafiaeth ar y gwn. Hwre," gwaeddai'r morwyr; ond pwyntiodd yr hen wr ei fys at y dyn oedd newydd ei anrhydeddu gymaint, ac ebai— Yn awr gadawer iddynt saethu y dyn hwn!" Trodd y gymeradwyaeth ar unwaith yn syndod, ac yn nghanol dystawrwydd fel eiddo'r bedd. cyfarchodd y dyn fel y can- lyn Y mae un weithred o ddiofalwch wedi peryglu dyogelwch y llong hon. Efallai y collir ni. Mae llong ar fordaith yn debyg i fyddin yn barod i frwydr. Nid yw'r ystorm wedi'n dal. ond nis gall fod yn mhell. Cospir pob trosedd a gyflawnir yn ngwydd y gelyn a marwolaeth. Gwobrwyir gwrhydri, cosbir diofalwch." Wedi eiliad o seibiant, dywedodd wrth y morfilwyr, Gwnewcheich dyledswydd." Plygodd y dyn a wisgai Groes St. Louis ei ben; ymffurfiodd y milwyr yn orymdaith, a chymerodd y dyn ei le rhyngddynt, a blaenorid hwy gan y caplan, yn cario croes. Cerddasant i'r pen blaen, a rhoddwyd y condemniedig i sefyll wrtho ei hun ar fmyl y Ilong. "Taniwch!" meddai'r swyddog wrth y milwyr. Clywyd twrf yr ergydion, gwel- wyd fflachiad y drylliau, a syrthiodd rhyw- beth dros ymyl y llong i'r mor. Ni welwyd byth mo'r dyn feistrolodd y gwn Ar doriad y wawr canfyddwyd fod y llono- yn ngolwg Jersey, gan ei bod wedi myned allan o'i chwrs. Yr oeddynt yn ymyl creig- iau peryglus, a safent allan o'r mor, a'r rhai oedd wedi enill enwogrwydd ar gyfrif y llongddrylliadau mycych oedd wedi cymeryd lie arnynt. Gwrthodai y llong ateb i'w llyw, fel ag yr oedd yn y perygl mwyaf o redeg ar y creigiau. Ac ar ol y dinystr a gymerasai le, yr oedd y llestr yn rhy fregus i ddal yr ystorm a fygythiai dori alien. Gwelai y swyddogion ar unwaith fod eu perygl yn fawr. Ond pwy all ddesgrifio eu teimladau pan welsant yn y dwyrain draw nifer o hwyliau! Fel y cryfhai y goleuni, gwelent yn amlwg fod wyth o longau yn dynesu atynt. Drwy gymhorth lysbienddrych deallasant mai llongau rhyfel y Werin-lywodraeth Ffrengig oeddynt, ° Yr oedd yn gyfyng arnynt o'r ddeutu. Ar un llaw bygythid hwy gyda dinystr ar y creigiau daneddog, ac ar y llaw arall yr oedd nifer mawr o longau eu gelynion yn barod i agor tan amynt. I gyfarfod a'r holl allu oedd i'w cyfarfod, nid oedd ganddynt ar hyn o bryd ond naw o ynau i yniladd A hwynt. Teimlai y swyddogion fod y gwladwr," neu yn hytrach, "y cadfridog," yn sicr o gael ei ddal, ac felly y dyrysid eu holl gyn- lluniau. Ond ymddangosai yr hen wr ei hun yn ddigon hunan-feddianol, ac er fod y cvmylau yn can am dano ni roddodd i fyny obeithio. (I'y; barhauj.
[No title]
COCOA CAD BURY.—Dyma'r Cocoa sydd y feidianol ar acmoddau cnawd-gynyrcbiol ac y trosglwyddo nsrtli a grymnsier aro i,)I. -Heat h
C-OBPSOBAETH CAERNARFON.
C-OBPSOBAETH CAERNARFON. B'LE AEIAN YN MYN'D? Cwestiwn o bwys i bob trethdalwr mewn tref a gwlacl yw, "B'le mae'r Arian yn myn!d? Mae'r owestiwn yma ya dod yn un pwysig iawn yn nhrex Caernarfon ar hyn o bryd, am fod sylw'r cyhoedd, a'r Llywodraeth hefyd, wedi cael ei alw at y dull llac ac anghelfydd yn yr hwn yr ym- ddengys fod y cyfrifon yn cael eu cadw, a'r adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r cyhoedd. Gorfodir y Cynghor Trefol gan y gyfraith i gyhoeddi" eu cyfrifon arianol ar derfyn pob blwyddyn..Y dull ddewiswyd gan Gorphoraeth Caernarfon i wneud hyny oedd trwy aograffu llyfryn bychan y naill flwyddyn ar ol y Hall yn cynwys y cyfrifon am. y flwyddyn flaenorol. Nid oes lie i gwyno ar y cynllun yma, yn gymaint ag y gall pob trethdalwr, trwy dalu dwy geiniog, hawlio cael copi o'r cyfrifon yn argraffedig yn y dull uchod, Gall pob un felly weled trosto ei hun sut mae'r arian yn cael eu treulio,—neu o leiaf dylai allu gweled. Ond y drwg yw,—a dyma un peth mawryr ydym yn cwyno o'i herwydd-mae y cyf- rifon yn cael eu cadw mor afler, a'u gosod o flaen y cyhoedd mewn ffurf mor anmher- ffaith, fel nas gall dyn cyffredin wneud nemawr ddim o honynt. Fel enghraifffc o'r esgeulusdra beius ydd wedi cael ei ddioddef yn nglyn a Chyfrifon Corphoraeth Caernarfon, gallwn ddweyd nad yw Cyfrifon Cyffredinol y dref am y flwyddyn osdd yn terfynu mis Mawrth diweddaf, eto wedi cael eu gwneud i fyny. Nid yw Cyfrifon y Nwy, y rhai a gedwir ar wahan, wedi cael eu gwneud i fyny ers yn agos ddwy flynedd. Er's deufis bellach, mae ein cyfoesolyn Seisnig, y North Wales Observer and Express, wedi bod wrthi, wythnos ar ol wythnos, yn gwneyd dadguddiedigaethau o'r drygau I C, sydd yn bodoli ynglyn a chyfrifon y dref. Mae un canlyniad daionus eisoes o'r erthyglau hyny. Yr wythnos ddiweddaf penodwyd Cyfrifydd profiadol o'r tu allan i swyddogion y Gorphoraeth i fynd drjvy'r llyfrau, er eu cael i drefn. Yr oedd hyn wedi cael ei gynyg dro ar ol tro yn y Cynghor Trefol gan rai o'r aelodau oeddent dros ddiwygio a symud ymaith yr hen ddrygau; ond gwrthwynebid hwy yn llwyddianus bob tro hyd nes cymerodd y wasg y cwestiwn i fyny, ac yn awr wele'r ffrwytli. Cydnabyddwyd yn y cyiarfod diweddaf o'r Cynghor fod y cyfrifon yn y fath gyflwr fel na fedrai rhai o'r swydd- ogion wneyd dim trefn ohonynt. Pa un a lwydda Mr Stythe i wneyd hyny ai peidio sydd gwestiwn arall. Pa un bynag a lwydda efe ai peidio, gall o leiaf ddangos pa le mae'r drwg wedi bod yn yr amser a aeth heibio, a gall ddangos pa gwrs i'w fabwysiadu er diogelu pethau rhag syrthio i'r un pwll yn y dyfodol. Ar oliddo orphen ei ymchwiliad, dylai yr aelodau o'r Cynghor ofalu ei fod yn rhoi adroddiad llawn ac annibynol iddynt mewn ysgrifen, a dylent ofalu fod yr adroddiad hwnw yn cael ei argraphu gyda'r cyfrifon am y flwyddyn pan gyhoeddir y rhai hyny. Dylent ofalu hefyd na ddygir unrhyw ddylanwadau i bwyso ar yr archwilydd yn y mater. Gadawer ei ddwylaw yn hollol rydd. Os na wna'r Cynghor hyn, yn lie symud y drwg i ffwrdd ei wneyd yn waeth a wnant, canys bydd i'r dref o angenrheidrwydd gredu fod yna rywbeth n cael ei guddio, a bod rheswm neillduol gan ryw rai dros hyny Gadawer i oleuni dydd, ac awyr iach. beirniadaeth gyhoeddus, bellach chwareu ar holl weithrediadau'r Cynghor. Cofier mai goruchwylwyr dros y cyhoedd yn unig yw aelodau y Cynghor Trefol, ac nad ydynt yn eistedd o gwmpas y bwrdd i gario allan eu mympwyon personol, neu i ofalu am fan- teision iddynt eu hunain, yn gymdeithasol nac yn fasnachol, ond eu bod yno i ofalu am. arian y trethdalwyr ac am fuddianau'r dref. Ar adeg fel yma, pan mae yna berygl fod argyfwng arianol pwysig yn bygwth y dref, mae braidd yn resyn fod yr etholiad blyn- yddol eleni yn debyg o gael myned heibio heb i neb o'r hen aelodau gael eu galw i roi gyfrif am eu goruchwyliaeth. Y rhai sydd yn ymneillduo eleni ydynt:— Yn y Ward Fach: Y Maer (Gwyneddon), Mr Richard Thomas. Yn y Ward Fawr: Mr W. J. Williams, Mr M. T. Morris, Mr R. LI, Jones, 1 Mr Issard Da vies. < I Sicr yw fod y boneddwyr hyn yngwahan- iaethu yn eu barn—neu o leiaf yn u pleidleisiau-ar y ewestiynau sydd yn awr ger bron y dref. Gresyn yw na fynai'r trethdalwyr ganddynt fynegu mewn rhyw ddull y safle y maent yn ddal ar y. ewes- tiynau. Dymunol fyddai cael gwybod gan t5 0 1 bob un o'r chwech:— 1. Beth wnaeth yn yr amser a basiodd— 2. Beth yw ei olygiadau yn awr— 3. Beth yw ei fwriadau am y dyfodol— ar ycwestiynau arianol godir i sylw'r dref y dyddiau rhain. ¡ Beth pe baem yn apelio at y chwe' bon- eddwr uchod, drwy golofnau'r Werin fel yma, i alw cyfarfod eyhotadus o'r treth- dalwyr yn y Guild Hall, ryw noson yr wythnos nesaf, fel y gallont roddi cyfrif ini o'u goruchwyliaeth ? Nes os ydynt-fel mae lie i ofni-yn rhy wylaidd i wneyd hyny, beth pe bai pwyllgor o haner dwsin, tri o Doriaid a thri o Ryddfrydwyr, yn cytuno a'u gilydd i alw y cyfryw gyfarfod ? Mae'r awgrym yn werth ei ystyried. Yn y cyfamser bwriadwn roi yn y Werin rai o'r prif ffeithiau ellir eu casglu oddiwrth gofnodion cyhoeddus y Gorphoraeth, yn nghylch Y Dwfr. Y Nwy. Y Benthyciadau. Y Llogau. Y Gwelliantau Trefol. A chwestiynau cyffelyb o bwys i bawb yn y dref.
[No title]
Yn amser Pitt dirwywyd Sais i 500p am werthu ei newyddiadur i Ffrancwr. Amcangyfrif fod gwerth deng miliwn o bunau o eiddo yn gorwedd yn ngwaelod yr I. Atlantic.
Advertising
WAHNER'S SAFE" CURE At holl A NH W Y.LDERAU'R ELWLOD A'R AFU. "Y^TARNEa'S "SAFE" CURE AT \TF&8DID CYFFREDINOL A BRIGHT' VV DISEASE. MILOEDD 0 DMSTIMONlALSyodatgan ei rinweddau wedi eu filio a gellir eu harchwilio. Mas ei hawliau yn anwadadwy. Gwerthir gan bob fferyllydd a gwerthwr I pbysigwrheth. Danion r ibamphledyn yn rhad ond yegrifenu a. d" H. H. WARNEB, A' "tn., Ltd., 83, Clarkoawelload, London, E.O
0 GDIRU I DDEHEUDIR AFFRICA.
0 GDIRU I DDEHEUDIR AFFRICA. [GAN ME T. P. OWEN, DIWEDDAR 0 BWLLHELI.] II. Yr oedd tua, dau gant o honoya fel teith- wyr ar y llong. Bron na allaf ddweyd ein bod o "bob llwyth, iaith, a chenedl"—yn Saeson, Ysgotiaid, Gwyddelod, Americaniaid, Germaniaid, Dutch, &c; ond nid wyf yn meddwl fod un Cymro heblaw fy hunan ar y bwrdd. Gwnaethum ymchwiliad manwl am un o'm cydwladwyr yn mysg y teithwyr, ac hefyd ymhlith y dwylaw, ond yn aflwydd- ianus. Fel yn mhob eynnulliad o bobl yr oedd yn ein plith rai cymeriadau nodedig. Y mwyaf difyr ydoedd un a elwid genym The Yankee. Yr oedd hwn yn ddyn cryf, iach yr olwg arno, tua deugain oed, ac yn hen deithiwr profedig. Yr oedd wedi bod bron yn mhob parth o'r byd; ac ami stori ddyddorol a gawsom ganddo fel ffrwyth ei brofiad eang o wahanol bobl a gwledydd. Teithwyr rhagorol ydyw yr Amerianiaid- llygadog, dysgedig, yn gwmni dyddan, ond YS" eu gwendid ydyw brolio gormod ar eu gwlad a'u pobl. Yr oeddwn yn ffodus i gael eis- teddle ar amser prydau wrth ociir yr lanci. Yr oedd yn un o'r pleserau mwyaf ei dynu allan i gael scwrs gydag ef. Siaradai yn dda: yr oedd fel "Yr hen wr ardderchog," siaradai ar unrhyw bwnc. Cymeriad hynod arall ydoedd y Cockney." Un difyras ydoedd hwn hefyd, ac un o'r adroddwyr goreu a glywais erioed. Llawer ydoedd y cwibs a deflid oddiwrth y naill at y Hall. Ond nid oedd y Cockney yn ddigon o fatsh VrTankee. Lied arwynebol ydyw arabedd y Cockney, fel rheol, ond mae ynddo barod- rwydd digyffelyb. N odweddiadol ia wn ct wit I y Cockney ydoedd y cwestiwn a ofynodd pan yn dynesu at Madeira-" Are we near Black- friars BricZyc yet ?" "No," meddai'r Ianci, 1 I guess we shall be there when you have got a head stuck on your shoulders, instead of that lump of wood." Ac mor chwim ag amrantiad, meddai y llall, O you are always guessing, and ifyou are not guessing you are always cal- culating, ysu ought to be stuck at a street corner, you xoould make a good penny-slot machinei Pel hyn y byddai y ddau hyn yn barhaus. Yr oeddynt yn anelu saethau trymion at eu gilydd yn ami, ond drwy y cwbl yr oedd y ddau yn llawn o natar dda, ac yn rhoddi llawer iawn o fwyniant i'w gwrandawyr. llawer iawn o fwyniant i'w gwrandawyr. Cymeriad arall ydoedd y Missionary. Sais baddlon, tew, canol oed, ydoedd hwn. Galwyd ef yn Missionary gan y Cockney, gan, meddai, y gwnai brodorion Affrica fyr waith o hono, oherwydd y brasder a 'gaent arno. Yr oedd yr enw yn ffitio yn iawn, a Missionary fu ar ol hyn. Yr oedd amryw o gymeriadau hynod eraill, ond ofnwyf flino y darllenydd. Yr oedd y Saeson yn amlwg gyda'u gamblio a'u betio-yn chwareu cardiau o foreu hyd yr hwyr, ac yn betio ar bob achlysur; yr Ysgotiaid yn ddistaw a darllengar; y Gwyddelod yn fywiog a ffraeth; y Germaniaid yn fyfyrgar a dyspeptic; y Dutch yn hynaws a duwiolfrydig. Mown cwmni cymysg fel a geir ar fwrdd llong, rhyfedd fel mae neillduolion cenedl yn dyfod i'r golwg. Yr oedd hefyd lawer ymysg y cwmni, fol fy hunan, yn ymddangos yn wael eu hieohyd; ac yn gwynebu tua gwlad es- tronol er mwyn cael hinsawdd mwy hafaidd a sefydlog nag a geir yn Mhrydain. Mae golwg well yn barod ar lawer ohonom ar ol y fordaith. Ond ofnaf fod Ilawer un a'i afiechyd wedi cael gafael rhy gryf arno i gael adferiad corphorol mewji unrhyw hin- sawdd. Ac wrth ;ayllu ar ambell i un a golwg salw arno yn gamblio ar hyd yr amser, mae lie i ofni fod afiechycl gwaeth na'r un corphorol wedi meddianu ei ysbryd. Druan o honynt 1, mor fuan, ac mor ddifeddwl, y maent yn rhedeg i dragwyddoldeb Ar fwrdd llong mae yr amser yn dirwyn yn araf. Mae y rhai na allant gymeryd dyddordeb mewn darllen, nac yn mhleserau eu cyd-deithwyr, yn wir druenus ar ol treulio ychydig o ddyddiau ar y mor. Rhaid, er mwyn sicrhau cysur ar fordaith hir, wneyd l'hywbethi "laddamser." Aryr"Hawarden Castle" yr oedd digon o ddarpariaeth er difyru y rhai a geisiant ddifyrwch—Athletic Sports, ymryson rhedeg, neidio, Sack races, Potato races, egg and spoon races, ladies races, threading the needle, Cricket aQuoiling matches, a champau o bob math. Ar ol gadael Madeira yr oedd Orchestra Band yn chwareu ary bwrdd am tua dwy awr bob dechreunos. A phleser y bobi ieuainc ydoedd dawnsio i'r miusig. Ar amryw o nosweithiau cynhelid cyngherddau a Fancy Dress Balls. Mae y Saeson' a'r Americaniaid yn rhagori llawer ar genhedloedd eraill yn eu difyrion. Mae y Ffrancwr yn gwatwar y Sais am gymeryd ei ddifyrion yn rhy ddifrifol; ond meddyliaf fod y Sais yn meddu gwell talent na'r Ffrancwr tualg at ddifyru ei hun. Mae yn ofynol i deithiwr daflu ei hun i raddau i ysbryd ei gyd-deithwyr er mwyn sicrhau rhan o'u dedwyddweh. Mae darllen yn foddion i dreulio llawer o'r amser i bwrpas da; ond "darllen llawer sydd flinder i'r cnawd." Fy nghyngor i deithwyr anmhrof- iadol ydyw iddynt geisio eu goreu i wneyd eu cyd-deithwyr yn siriol a happus drwy ymddiddan a hwynt, a gwneyd eu hunain gartref, ac fe fyddant yn sicr o fwynhau surer o gysur eu hunt in trwy hyn. Gyda golwgary bwydydd a roddid i ni ar y Hong, gallai ddweyd fod cynawnder wedi ei ddar- paru ar ein cyfer, ac hefyd amrywiaeth lied dda. Ond wtft i'r Beef a'r Mutton! Gallasem feddwl mai amcan yr hwn a benodwyd i brynu y nwyddau hyn, ydoedd eu haddas- rwydd i wneyd lledr da tuag at wadnu esgidiau. Yr oeddwn yn meddwl pan ddarllenais lythyr Lord Randolph Churchill yn y Graphic, mai ychydig o Epicariaeth a achosodd iddo feio y goginiaeth fel y gwnaeth. Ond erbyn byn, cyn belled ag y mae y beef a'r mutton yn y cwcstiwn, gallaf yn hawdd iawn gydymdeimlo ag ef. Gyda'r eithriadymayroedd pobpeth ar yr Ha war- den Castle" yn ddymunol iawn. Gresyn na fuasai cwmni "Castle Line" yn per- ffeithio eu cyfundrefn trwy brynu Welsh mutton a good English beef. Nid ar y cook y mae y bai yn gorwedd. Nis gall y cogydd goren wneyd hen beef yn fwytadwy. Cyn terfynu rhaid i mi gydnabod boneddigrwydd a charedigrwydd swyddogion y llong, yn enwedig y Cadben a'r Chief Steward. Mae hapusrwydcl y teithwyr yn dibynu i raddau helaeth ar y swyddogion. Capetown, Awst 31, 1892.
GWENDID.
GWENDID. 0 dan y pen hwn gellir rhestru lluaws o'r anhwylderau y mae y teulu dynol yn ddarostyng- edig iddyiit, megys anhwyldeb cyffredinol, lle-srygon, iselder ysbryd, colliad; grym, diffyg yni, nychdoct, a'r cyffelyb. Dyoddefa lluaws mawr o'r ddyno ryw oddi wrth rai o'r anhwyl- derau hyn, y rhai ydynt mewn gwirionedd yn ganlyniad naturiol amnhuredd neu ryw ddiffyg yn eu hadnoddau bywydol. Nid oes dimcyffelyb i Quinine Bitters Gwilym Evans at buro a chyfoethogi y gwaed, a rhoddi yni a byvnog. rwydd adnewyddol i'r oyfansoddiad. Meddyg- iniaeth adgryfhaol yw Quinine Bitters Gvrilyra Erans, yr hon sydd wedi ei pharotoi yn hollol o gyffyriau llysieuol, an mae yn cynorthwyo a hwylusu gweithrediadau natur, trwy gryfhau y cyfansoddiad, a chynorthwyo y bwyd-dreuliad, a thrwy hyn y maeyn hwylusu y gweithrediaaau: yn cryfhau y gewynau ar giau, yn puro a ffrwythloni y gwaed, yn bywiocau yr ysbryd, yn adloni y meddwl a'r tymherau ac yn symud ymaith atalfeydd yn yr ennigau bywydol. Nid oe3 dim i'w gydmaru a Quinine Bitters Gwilym Evans at gryfliau y cyfansoddiad pan wedi ei wanhau trwy unrhyw acho3. Mae y Quinine Bitters yn nerthu a chadarnhau y rhanau gweiniaid o'r cyfansoddiad y rhai ydynt oherwydd eu gwendid y mwyaf agored i anwyd a'i ganlyniadau. Gochelwch gael eich twyllo i gymeryd dim arall dan enw cyffelyb. Gwerthir Quinine Bitters Gwilym Evans gan bob fferyllydd mown poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Neu anfonir ef am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddi wrth y perchenogion: Quinine Bitters Manufacturing Company, Limited, Llanelli, South Wales. °
--------------OWEIITH SWYDDAU…
OWEIITH SWYDDAU Y lVEIN- Y DÐIAETiI, Y mae y cyflogau yn nglyn a'r swyddau y bu Mr Gladstone fel Prif Weinidog yn eu rhanu yn ddiweddar yn cyrhaedd y swm enfawr o 190, OOOp yn y flwyddyn. Yn ychwanegol at hyn y mae gan y gwahanol weinidogion agos i wyth gant o benodiadau yn werth tua mil o bunau yn y flwyddyn bob un; a thua mil a haner o swyddau creill yn amrywio o 250p i lOOOp y flwyddyn. Fodd bynag, nid yw y swyddau olaf i gael eu llenwi ond ar farwolaeth neu ymddi- swyddiad y sawl sydd yn eu dal yn bresenol.
IR GLADSTONE FEL-PAFFIWR.
IR GLADSTONE FEL-PAFFIWR. Yn ddiweddar sylwodd boneddwr wrth Mr Gladstone ei fod newydd gyfarfod bon- eddwr a fu yn yr ysgol gydag ef. "Beth oedd ei enw?" go fynai'r Prif Weinidog. 0, mr o Lerpwl," oedd yr atebiad. Soniocld ef am rywbeth rhyfedd a gy- merodd le y pryd hwnw ? Do, syr; dywedodd i chwi ac yntau fod yn cv/ffio un diwrnod, a'ch bod chwi wedi rhoddi cwoir dda iddo." O yr oeddwn yn meddwl y buasai iddo gofio am y gweir hono. A ddywedodd o am ba, beth vr oeddvm yn eivffi,) "Naddo, syr." Yna dywedaf wrthych," meddai Mr Gladstone, gan ymsythu, a golwg bender- fynol arno. Perswadiodd fi i ddwyn mefus o gae neillduol, ac wedi i mi wneyd yr oedd arno fo eisieu y rhai goreu i gyd. Gwrth- odais eu rheddi, ac aethom i ymladd yn nghylch y peth. Y fi gurodd, a chedwais y mefus. Dywedwch hyn wrth eich ffrynd pan welwch ef. Nis gwn a allwn roddi cweir tebyg iddo heddyw, gan nas gwelais ef er's llawer blwyddyn. Gallaf grybwyll mai yn y lie y saif Bold street, Lerpwl, yn awr yr oedd y cae a'r meftts."
Y C AE DOT YN.
Y C AE DOT YN. Wrth borth y goludog, yn garpiog a tblawd, Fe safodd cardotyn amddifad Heb gar na chymydog, heb chwaer ac heb frawd, Heb riaint i wrando'i achwyniad. 0 fewn i'r portli eang chwareuai y plant, Plant urddas, heb rith o ofalon; Digon o ymborth i dori eu chwant, A chysur yn llanw pob calon. Eisfeddodd ef yno yn drist iawn ei wedd, A'i galon gan hiraeth ar hollti, Wrth gofio rhai anwyl sy'n awr yn eu bedd, Fu unwaith yn hoff iawn o'i gai-u. Y dagrau o'i lygaid a redant yn lli, Wrth weled y plant yno'n chwarau, Ac yntau heb gyfaill i wrando ei gri Na mam fedrai sychu ei ddagrau. Mae myrdd o adgofion yn llanw ei fron, Wrth edrych yn ol i'r gorphenol, Pan ydoedd ei galon yn ysgafn a lion, Dan ofal ei riaint hawddgarol. Ond heddyw'n amddifad, yn crwydro y byd, Wrth ddrws ar ol drws yn cardota, Heb un man i orphwys-0 gyflwr di-fryd, A'i wely yn nghanol yr eira. Yn nghanol ei ofid gorweddodd i lawr Yn nghanol oer wyntoedd y gauaf, A thranoeth fe'i cafwyd ar doriad y wawr Yn tynu ei anadl olaf. Ei ysbryd ehedodd i'r nefoedd i fyw Uwchlaw holl drafferthion y ddaear: Mae heddyw yn nghwmni ei Geidwad hoff gwiw, Mewn gwlad nad oes ynddi ddim galar. Os cul ydyw llwybrau y ddaear i'r tlawd, A'i phyrth yn gloedig i'w erbyn; Mae llwybrau y nefoeddynrhydd i ti, frawd, A'i phyrth yn agored i'th dderbyn. S. J. RICHARDS. ■■ —
HUNAN-LEIDDIAID.
HUNAN-LEIDDIAID. Pan gyflawno unrhyw un hunanladdiad trwy roddi terfyn ar ei einioes mewn modd disymwth. mawr y eyftro mae yn ei achosi yn yr ardal lie e cyflawnir, ond ychydig sydd yn ystyried fo degau o'n hamgylch yn cyflawni hunanladdiad mewn amrywiol flyrad yn fwy graddol feallai ond nid yn llai sicr. Y chydig mewn eydmar- iaeth yw rhif y rhai sydd yn ymddwyn fel pe yn awyddus am hirhoedledd, tra y mae y lluaws fel pe yn awyddus i fyrhau eu heinioes. Edrychwn on cwmpas gwelir llawer yn syrthio i fedd an- amserol trwy oferedd. Ereill a ymdaflant i an- turiaethau sydA yn troi yn aflwyddianus ac yn He dwyn elw iddynt yn dwyn colledion, pryder, gofid, ac yn y diwedd tor-calon. Rhai trwy ddilyn pleserau a chyffroadau yn ormodol; ereill trwy lythineb a gwleddoedcl ami, y rhai ydynt yn ammharu y oyllau, Tarddai llawer o anhwylderau gieuol (ncrveus disorders) oddiwrth orlafur meddyliol, ac awydd gormodol i feddu ar wybodaeth eang. Mae llawer yn ysbeilio eu hunain o'u cwsg a u gorphwysdra angenrheidiol i gyrhaedd yr amcan hwn, a thrwy hyn hau hadau afiechyd yn eu cyfansoddiad. Meddyglyn llysieuol yw y Quinine Bitters hyn, I a defnyddir ef yn helaeth yn y wlad hon a gwledydd tramor, gan gleifion yn dioddef oddi wrth lawer math o wendid a chlefydau, ac os oes unrhyw werth i'w roddi ar dystiolaeth ddynol, y mae effeithiolrwydd y meddyglyn hwn wedi ei brofi tu hwnt i bob amheuaeth. Gochelwch. gael eich twyllo. 03 cynygh' rhj-vv ddarpariaeth arall i unrhyw brynwr clan yr esgus ei fod lawn cystal, a llawer rhatach, hy-derir y bydd iddo ei wrthod yn ben- derfynol. Gall fod yn sicr fod ymgais yn cael e wneyd i'w dwyllo. Gellir cael Quinine Bitters Gwilym Evans gan bob fferyllydd mewn pobeli 2s 9c a 4s 6e yr un Edrychwch fod enw Gwilym Erans, ar bob label, stamp, a photel, gan fod amryw efelychiad- au ohono yn cael eu cynyg i'r cyhoedd. Perche.nogi()U Bitters Manufacturing company, Limited, Llanelli, S. Wales.
[No title]
Dillad brown fydd gweddwon Rwsia. yn wisgo pan yn galaru arol eu gwyr. Iuddewon yw perchenogion y rhan fwyaf o newyddaduron Germani. Fe wneir achwyniad cyffredinol fod y rhan fwyaf o cocoas yn anrheuliadwy; ogymaint ag 1 9 fod y, roffeswriaetll feddygol wedi dangos yn ddiweddar fod yr alkalies a ddefnyddir yn rhy ami gan wneuthurwyr tramor, yn nghy- a'r mater bras, yn ffurno sylwedd sebond aidd sydd yn hynod o beryglus i iechyd. Gyda golwg ar cocoas a wneir gyda gofal, megis eiddo Mr Cadbury, nid yw y gwrth- wynebiadau hyn yn bodoli.-Whitehall Review. Cyhuddir arolygydd yn ngwasanaeth festii Lambeth o deithio ar y rheilfordd am bum mlynedd o amser heb dalu ei gludiad. Dywedir fod gwrea, goleuni, a thryd- aniaeth yn teithio yn ol yr un cyflymdra, set 190,000 milldir yr eiliad. Er engraifft. pe y digwyddai i un fyned heibio i wifr y pellebr saith gwaith o gwmpas y byd, teithia un ysgydwad o drydaniaeth y seithwaith yna mewn un eiliad. CAETHDEA, PBSWCK, AXWTD, POEN YK T FnzsT. Dyry Pulmonic Wafers Lockock wellhad buan a llwyr, nid oes dim arall a rydtl noswaith o gwsg m rwyadl ac adiywiol. Mewn crydcymalau a gwendid gieuol maent yn ddiguro. I ddad- ganwyr maent yn aninhrisiadwy at glirio a ehryfhau y llais. Nid ydynt yn rhoddi bla.s fel cyffyriau. Gwerthir gan yr holl gytferwy am Is lc a 2s 9c y box. RHYBTJDD.—Y mae enw Dr Locock ar sixmp y Llywodraeth, a trade mark ("Dr .Locovk") ar y label. "y PLESER o FWYTA. AC —Gobhwch les tri brecwast, cinio, a the gyda Hudson's Extract of Soap. Gwna i saim hedeg! Ni bydd byth yn casglu! Nid yw yn gadael arogl. Mae yn gwne yd cyllill, ffyrc, fiwyau, a pha beth bynag olehir gydag ef, yn neillduol o lan a phur, a hrwy hyny y mae y pleser a'r dyogelwch ofwyta to yfei ya Rawer mwy. I
Advertising
-4_ '4_ TJ GOFYN WCH AM HUGHES'S BLOOD PILLS EDRYCHWCH; YN FANWL AR BOB BOX A byddwch yn SICR na byddwch yn cael eich twyllo, a GWELWCH Fod y TRADE MARK sei (Llun CALOX) ar bob Blwch. Y mae un- rhyw Pills a gynygir yn BdyiiTrarediad a Tkwyll, AC NID YDYNT YR IAWN BELENAU, ac ni cliynwysant yr un rhinweddau a i u -1 1 9 HUGHES'S BLOOD PILLS. GOCHELWCH Bersonau anonest y rhai a ymostyngent mor isel nes ymgeisio twyilo tnvy werthu Pills diwertii Jlllb y rhai Pur. Y mae y RHYBUDD hwn yn ^ddyledus i'r Cyhoedd er eu hamddiiiyuiad, er mwyn iddynt sicrhau y Pills gwirioneddol, ac fel y gallont ochelyd y masnachdai hyny lie y mae twyll yn cael ei ymarfer. GOFYNViCH am HUGHES'S BLOOt) PILLS a Llun Calon ar bob blwch. Gwrthod- weh bob peth arall. GWAED U'DRWG. OCURVR WAED DRWG. &CURVY CROEN GLEFYDAU. T>OEN PEN. ROEJST GLEFYDAU. JL OEN PEN. AFU DDRWG. T^IFFYG TRAUL. FU DDRWG.. ULFFYG TRAUL. NERVOUSNESS. WYNEGON. ERYOUSNESS. \JTWYNEGON. BILIOUSNESS. JPLEFYDAU ARENAIT. ILIOUSNESS. GLEFYDAU ARENAU. T maent yn iachau pan bdd pobpeth arall ya methu. Heb oedi danfoner am Box o "Hughes's Blood Pills gyda Llun Calon* ar y Label. Peidiwcb cymeryd dim arall. Ar werth am Is ljc, 2s 9c, 4s 60. Gyda'r Post am Is 3e, 2s lie, 4s 9cf oddiwrth y Perchenog, JACOB HUGHES, MANUFACTURING- CHEMIST, PENARTH. CYFANSODDIADAU CERDDOROL. GAY W: SAMUEL, 26, HENRIETTA STREET, ACELITAW33 ANTHEMAU, (at wasanleth Cymanfaoedd Canu, &e.) 1. Mor hawcjigar yw Dy Bebyll," (deuddeg mil wedi eugwerthu). Solffa 2g, H.N. 4c. 2. "YrArglwydd yw fy mugail" :I(seithfecl fil). Solffa 2c, H. N. 4c. 3. I will sing of the meicies of the Lord.' (Anthem syml i biant.) Sol-ffa Ie, H.N. 2c. 4. Cyclgin i blano, "Storm the Fort bi Sin." (Yn agos i daeugain mil wedi eu gwerthu.) (Geiriau Cymraeg ar yr un copi). Snl-ifa, Ie. 5. Rhan-gan, "Y Deigryn" (y ddau nodiant ar yr un copi). (Y chwechfed fil). 2c. 6. Can i soprano neu denor, "Gwlad fy meb- yd." (Yr eilfed fil). 6c. 7. Canig, Briallen gyntaf y gwanwyn." (Y seithfedfil). Sol-ffa lie, H.N. 3c. LLYFRAU AT WASANAETH YR YSGOL SUL. Rhan laf Salmau yr Ysgol Sul." (Yr wyth- fed fil). (Yny rhan hon mae Cartref Can yw'r nefoedd)." Sol-:ffa, 3e. 9. Rhan 2il, Salmau yr Ysgol. (Y dry- dedd ill). Sc-l-Íb 3c. I'w cael, gyda blaendal yn unig, oddiwrth yr 0. awdwr, Curwen House, 26, Henrietta street, Swansea.
[No title]
THBOAT ISSITATION AND COUGH.—Soreness and dryness tickling and irritation, induaing cough and affecting the voice. For these symptons use Epps' Glycerine Jujubes. In contact with the glands at the moment they are excited by the act of sucking, the Glycerine in these agreeable con- fections becomes actively healing. Sold only in boxes, 7^d, tins, Is lid, labelled "James Epps &Co., Homoeopathic Chemists, London." Dr Moore, in his work on "Nose and Throte Diseases," says; The Glycerine Jujubes prepared by James Epps & Co. are of undoubted service as a curative or palliative agent," while Dr Gordon Holmes, Senior Physician to the Municipal Throat and Ear Infirmary, wrie; After an extended trial I have foyour Glycerine Jujubes of considerable benefit in almost all forms of throat disease*'
CYMDEITHAS ADEILADU Y LIBERATOR.
CYMDEITHAS ADEILADU Y LIBERATOR. Dywed y Press Association fod y pwyllgor penodedig i adgyflivnio materion y gym- deithas hon wedi cyfarfod nos Iau, ac wedi cyhoeddi adroddiad rhagarweiniol i'rcyfran- ddalwyr a'r blaendalwyr. Wedi ymholi a'r derbynydd swyddogol, hysbysa'r pwyllgor ei bod yn anmhosibl parotoi unrhyw gynllun adgyfansoddiadol i osod allan sefyllfa y gymdeithas mewn ffeithiau a ffigyrau ar hyn i o bryd, ac y cymer rai wythnosau eto i'w gyflawni. Dengys yr adroddiad y gwneir pob ymdrech i ffui-fio cynllun ad-drefniadol, yn ol y dymuniad a ddangoswyd yn y cy- farfod a gynhaliwyd yn Winchester House, Medi yr 28ain. i
CYNRYOHIOLAETH MERTHYR.
CYNRYOHIOLAETH MERTHYR. Y sgrifena Mr Pritcliard. Morgan i wadu y si a ledaenwyd gan gyfoesolyn ei fod ef ar fedr ymneillduo o'r Senedd. Dywed y parlia efe, os caniata iddo fywyd, i gynrychioli Merthyr yn y Senedd hyd nes bo'r etholwyr wedi blino arno, neu iddo ef lwyddo i ddiwygio'r deddiau gox-tlirjTiius yn nglyn a mwngloddiau'r deyrnas. Argraphwyd a chyhoeddwyd dros y Welsh National Press Company, Limited, gan D. W. Davies a'i Gwmni yn eu swyddfa New Harbour, Caernarfon.