Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

TfSTEU MR W. J. PARRY.

LLITH 0 BWLLHELI.

News
Cite
Share

LLITH 0 BWLLHELI. MR GLYGWR,—Fel yr oeddwn i yn son, mi fuo Jack yma yn Fourcrosses dudd Sad- wrn dweutha a g warchod y ddauar fawr beth pe clywsach chi yr hyn oudd o yn adrodd i mi a Sian wed dwad gartra nos Sadwrn. Rouddan ni wrthi yn bytta swpar welwch chi, a dyma finna yn dechra gofun i Jack beth oudd o wedi ei weled a'i glywad ar ei daith. Welis i ddim byd neillduol, ond mi glywis lawar hefud. Yr hyn ouddwn i yn glywad pawb yn siarad am dano oudd, yr I wyl gerddorol Eglwysig yn Mhwllheli," ac am ymddygiad y ca.ntorion galluog oudd yno. Roedd Sion Ifan y saer yn gwaeddi dros y pentra, ac yn codi ei fyrthwul i fynu, ac yn deud pe basa llancia yr Eifl yn agos ato y basa fo yn rhoi "drill" iawn iddynt, i ddysgu pa fodd i ymddwun oddicartref. Ar hynu dyma Mari ei wraig yn dwad i ben y drws, ac yn dechra ei gosod hi ar yr "Hen fam" a'i "hesgobion" a'i chiwradiaid ac yn deud fod y rhai oudd yn pasio yno nos Iau o wyl gerddorol yr eglwys" yn debycach o lawer i rai yn dwad o "ddawnsfa" neu "thiatr" nag o fod yn canu moliant. "A dyma nhw," meddai, rouddan nhw wedi bod yn gweiddi gormod tua Pwllheli, fel yr ouddau nhw ar dan yma, ac fel yr oudd yn rhaid iddun nhw gael tipyn o'r "goch" i dori eu syched" Dyna i chi effaith ofnadwu y canu yn St Petar," 'y nhad, medda Jack. '"la wir," meddwn innau, mi ddaru effeithio yn ofnadwu ar gantorion godra'r Eifl, beth bynnag, ac wrach mai yn debig yr oudd hi j tua Lleyn." I Wel, Mr Glygwr, rouddwn i wedi synu fod yna rai mor ddrwg yn buw tua godra yi Eifl; ond man yn amlwg mai chydig iawr ydoudd effaith y pregetha dylanwadol Ii draddodwud yn "St Peter" i gantorioA galluog yr hen fam." 'Rydw i yi gobeithio na fudd yma ddim cymanfa gam Eglwusig (os yn deilwng o'r enw) yn rhagJr am flynyddoudd lawar; neu y budd y "llithoudd" a'r "pregethau grymus" a roddir bob Sul yn yr "hen eglwus sefyl- ledig" wedi argyhoeddi ei chantorion yn llwyr a'u diwigio, neu eu cadw gartra iiro eu gyddfau ag eli Sy-r: 6; John Heiddyn. Gobeithio y gwneir rhiwbeth, beth bynrag; neu y mae yn rhaid eu halltudio i dyvull gyfandir Affrica.

[No title]

CHWERTHIN, NES MARW.

----.-------GLYWSOCH CHWI

GWENDID.

[No title]

.'93.I

0 GYMRU I DDEHEUDIR AFFRICA.

[No title]

ARWYDDION YR AltISER-OEDD.

[No title]

----Y FASNACH GOTff M. [

MB STANLEY YN ABERTAWE.

Advertising

-= GWEDDIO BROS FWRDD YSGOL.

[No title]

- IIUNAN-LEIDDIAID.