Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

TfSTEU MR W. J. PARRY.

News
Cite
Share

TfSTEU MR W. J. PARRY. Da iawn genym ddeall fod symudiad ar droed i anrhydeddu Mr W. J. Parry, Y,H., Llys Coetmor, Bethesda, a thysteb genedl- aethol. Gwneir hyn fel cydnabyddiaath iddo am ei wasanaeth yn ysbaid y deg mlynedd ar hugain diweddaf. Nid yw Mr Parry ond dyn canol oed, ac eto y mae wedi bod ar y maes fel dyn cyhoeddus am dros chwarter canrif. Daeth ef i'r golwg yn bur ieuanc -yn eithriadol felly-yr adeg hono. Y mae pethau wedi newid yn fawr yn awr. Dynion ieuainc a welir amlycaf yn awr, a chefnogir hwy yn galonog yn eu gwaith. Ond yr oedd yn dra gwahanol ddeg mlynedd ar hugain yn ol. Pan welid gwr ieuanc yn cymeryd rhan amlwg mewn materion ey- hoeddus—bydol ueu eglwysig-priodolid amcanion iddo heb fod yn rhy anrhyd- eddus, a byddai yn ofynol wrth lawer o wroldeb a dyfalbarhad ynddo yntau cyn byth y gallai ddal beimiadaeth ddeifiol y cyfnod hwnw. Aeth Mr Parry drwy yr oil yn weddol ddianaf. Ymladdodd frwydrau rhyddid yn Metlicsih a t u-C aernarfon yn wyneb anfanteision iMyf twr. Bellach yr ydys yn mwynhau effeithiau y brwydrau hyny, a theg yw cydnabod llafur un o'r rhai ffyddlonaf yn nydd y pethau bychain. Er holl ymroad Mr Pa-rv yn nglyn a maferion cyhoeddus, nid yw wedi gadael i hyny 1 effeithio yn niweidiol ar ei gysylltiad a'r achos crefyddol yn Bethesda. Ceidw ei le yn ffyddlon, a gall gymeryd rhan yn nodedig o briodol mown unrhyw gyfarfod crefyddol. Etholwyd ef yn ddiacon pan oedd yn bur ieuanc, ac y mae yn mawrhau y swydd. Y mae Mr Parry wedi bod yn dra charedig ar hyd ei oes, ac yn neillduol o barod i gyfranu at unrhyw achos teilwng a osodid o'i flaen. Anaml y byddai neb yn apelio yn ofer ato ef, a dysgwyliwn ffrwyth toreithiog mewn canlyniad i hyny yn y dysteb a fwriedir gyflwyno iddo.—Y Tyst.

LLITH 0 BWLLHELI.

[No title]

CHWERTHIN, NES MARW.

----.-------GLYWSOCH CHWI

GWENDID.

[No title]

.'93.I

0 GYMRU I DDEHEUDIR AFFRICA.

[No title]

ARWYDDION YR AltISER-OEDD.

[No title]

----Y FASNACH GOTff M. [

MB STANLEY YN ABERTAWE.

Advertising

-= GWEDDIO BROS FWRDD YSGOL.

[No title]

- IIUNAN-LEIDDIAID.