Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

I PENNOD I. i__

GWLEIDYDDWYR A'U lIAR-EITHIAU.

News
Cite
Share

GWLEIDYDDWYR A'U lIAR- EITHIAU. SYR WILLIAM: HARCOURT. Bydd Syr William Harcourt;. bobam3er yn amcanu dweyd rhywbeth gwreiddiol, clasurol, a digrif. Dywedir fod ei ffraeth- ebion yn ffrwyth myfyrdod mawr. Yni- ddengys ei fod wedi mabwysiadu gweddi Voltaire, Gwneler fy ngelynion yn gyff-gwawd," gan y bydd bob amser yn gwneyd ei wrthwynebwyr yn destyn chwerthin. Parotoa ei nodiadau rywfodd. Yn y He cyntaf ysgrifenir hwynt yn ddigon bier ar bob math o bapyr. Gwna rhywbeth agosaf i law y tro. Ond pan ar y llwyfan, cyn iddo gael ei alw i siarad, bydd Syr William yn eu hadolygu; ychwanega atynt yn y fan yma, fe groesa allan yn y fan arall, fel y bydd ei nodiadau yn gyfryw nas gall neb ond ef ei hunan ddeall ddim arnynt. MR BALFOUR. Rhaid i Mr Balfour gtel ymarferiad corph- orol pan fydd yn meddwl am yr hyn y bwri^da areithio arno. Fe ddadleua araeth un o'i wrthwynebwyr yr hon y bydd yn bwriadu ei hateb; yna. rhaid fydd iddo t,ned allan i'r awyr agored i ffurfio ei fam am dani. Bydd chwareu golf neu lawn tennis yn gynorthwy mawr iddo. Yn ystod yr etholiad diweddaf, pan oedd yn Manches- ter, y naill noson ar ol y Hall, iateb areithiau Mr Gladstone yn Midlothian, byddai raid iddo ga.el chwareu tennis o unarideg i un o'r gloch bob dydd. Bydd yn chwareu yn dda, ac ar yr un pryd yn gweithio allan ym- resymiadau manwl a dyrys yn ei feddwl. Wedi gorphen chwareu aiff i'w fyfyrgell i ysgrifenu ei nodiadau mewn llawysgrif fechan, ddestlus, a bydd ei nodiadau ganddo pan yn traddodi ei araeth. MR GOSCHES". Ni bydd Mr Goschen byth yn dweyd dim wrth gynnlleidfa na byddo wedi ei ystyried a'i bwyso yn ofalus yn mlaen llaw. Nis gall fyfyrio dim os na fydd pin ysgrifenu yn I ei law. Pan yn darllen llyfr neu araeth un o'i wrthwynebwyr, gofala fod ei bin ysgrif- enu wrth law, a phan darewir ef gan ddrychfeddwl rhaid iddo ei ysgrifenu i lawr ar unwaith onide fe ddianga oddiarno. Bydd yn traddodi ei araeth yn gyflym iawn. Efe yw y siaradwr cyflymaf yn mhlith y gwleid- yddwyr mwyaf blaenllaw. MR CHAMBERLAIN*. Cymer Mr Joseph Chamberlain drafferth fawr i barotoi ei areithiau. Ami iawn y bydd yn ysgrifenu i lawr bob gair o'i araeth -yr hon a gymer bedair neu bump colofn o le yn y papyrau-ac y dysga hi allan. ar dafod leferydd. Tasg galed oedd hon iddo ar y dechreu, cyn iddo ddisgybu «i gof. Y blynyddoedd diweddaf gall yr aelod dros Birmingham gofio pob gair o'i araeth wedi iddo ond ei hysgrifenivi-lawr a'i darllen drwyddi unwaith, ond ni fydd byth JTCL An- turio i'r llwyfan heb nodiadau helaeth wrth ei law.

[No title]

GLYWSOCH CHWI j i

---i '93 !

[No title]

HUNAN-LEIDDIAID. :*,.,.

[No title]

GWAITH DWEH CLWT-YBONT.,

GWENDID. g; t

[No title]

MYN'D 0 BATAGONIA. !

JIAIXG DDIRWESTOL. |

PWLLHELI. !

Advertising

[No title]

Advertising