Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Cyioiriad, Gwall.—Yn ein hadroddiad o Gymanfa Ganu Rhanbarth Penybont-ar-Ogwy yn ein rhifyn divv- eddaf gwnaeth y Cysodydd wall. Yr hyn a argraffwyd oedd,' Y buddugol ar y don oreu oedd Mr Lewis Thomas, Cefncribwr,' tra yr hyn a ysgrifenwyd gan ein Gohebydd ydoedd, Y buddugol ar y don oreu oedd Mr Morgan Williams, A C, Nantymoel, a'r ail oreu oedd Mr Lewis Thomas, Cefncribwr, a'r hyn a ysgrifenwyd sydd yn gywir. Drwg genym am y gwall. Mewn llmo.—Y Suffragettes—Abergwauu—Aberdar— Seion, Llandysul—Cymanfa Ganu—Fforddygyfraith — Cyfundeb Deheuol Morganwg-Dosbarth Beiblaidd Undebol Trecynon a'r Cylcb-Cyfarfodydd,
ADDEWID Y LLYWODRAETH I GYFRANU…
News
Cite
Share
ADDEWID Y LLYWODRAETH I GYFRANU AT GYNALIAETH HEN BOBL. ER'S rhai blynyddoedd bellach, y mae y mater uchod wedi cael llawer o sylw yn y wasg ac ar lwyfanau cyhoeddus. Crybwyll- wyd ef lawer gwaith yn y Senedd, a derbyn- iodd o dro i dro gefnogaeth galonog rhai Seneddwyr blaenllaw. With gwrs, defnydd- iai arweinwyr Llafur bob cyfle posibl i ddadleu drosto, a gwnaethant drwy hyny wasanaeth mawr. Er byny, o'r braidd yr ymddangosai i ddosbarth lluosog yn beth ymarferol, a thybient nad oedd yn bosibl iddo ddyfod yn ffaith am flynyddau lawer, o leiaf. Newidiwyd y sefyllfa yna ar bethau pan wnaeth Mr ASQUITH, Canghellydd y Trysorlys y pryd hwnw, ei Fynegiad Blyn- yddol y llynedd. Yn hwnw dywedodd ei fod yn gweled ei ffordd yn glir i droi miliwn a haner o bunau, ar ol y flwyddyn hono, at yr amcan o gychwyn Tal i Hen Bobl (Old Age Pension). Rhoddodd hyny i'r mater safle newydd, ac o hyny allan deuwyd i edrych arno, nid fel peth ymarferpI yn unig, ond fel peth a ddeuai yn ffaith yn fuan. Pan ddaeth yr adeg i gael y Mynegiad Blynyddol eleni, yr hwn a roddwyd gan Mr ASQUITH, er mai Mr LLOYD GEORGE fyw y Canghellydd erbyn hyn, am, mae'n debyg, fod y Mynegiad wedi ei barotoi cyn i'r cyf- newidiad gael ei wneyd, dysgwylid y bliasai y PRIFWEINIDOG yn cario allan ei fwriad i roi cychwyniad effeithiol i'r Tal i Hen Bob!. Cryfhesid y dysgwyliad hefyd gan eiriau 0 eiddo Mr LLOYD GEORGE yn yr etholiad diweddar yn Manchester, pm y dywedodd y buasai y peth yn ffaith cyn pen deuddeg mis. Hhwng pob peth, yr oedd pawb yn barod i dderbyn y newydd fod darpariaeth yn y Gyllideb eleni ar gyfer y gwaith. Oyd- ddysgwyliai pleidwyr a gwrthwynebwyr am dano, ac ni siomwyd hwynt. Erbyn hyn y mae y cam wedi ei gymeryd gan y Wein- yddiaeth, ac nid yw yn debyg y cyfyd unrhyw rwystr. Fel y canlyn y mae y trefniadau a awgrymir :— *1- Bwriedir dechreu talu yn nechreu 1909.. 2. I hawlio tal rhaid bod dros 70 oed. 3. Y tal i beison serigl-gwryw neu fenyw-fydd pum' swlltyr wythnos. 4. Y tal i wr a gwraig yn byw yn nghyd fydd saith a chwech yr wythnos. 5. Ni fydd gan neb hawl i dâl- (1) Os bydd eisoes yn derbyn mwy na deg swllt yr wythnos. (2) Os bydd yn derbyn 4 tal plwyf,' fel y gelwir ef. (3) Os bydd yn dwyn cosb oblegid tros- eddu cyfraith y wlad. (4) Os na fydd yn ddeili:td Prydeinig llawn (British subject). Da iawn genym fod y cychwyniad hwn yn cael ei wneyd. Y mae yn sicr fod llawer o hen bobl fethedig yn gorfod dyoddef yn drwm yn ystod eu blynyddoedd diweddaf. Gwir fod llawer felly oblegid ymyfed a diota, diffyg trefn a darbodaeth yn ystod eu bywyd, &c., ond y mae hefyd lawer felly, er gwneyd pob ymdrech ar hyd eu hoes. Y mae cyf- logau gweithwyr hyd at y blynyddoedd di- weddaf yma, wedi bod mor fychain, fel yr oedd yn anmhosibl i'r mwyafrif ohonynt arbed dim, a magu eu teuluoedd yn weddol o barchus. Yn wir, pery enillion rhai dosb- artliiadau felly o hyd, a hyny, pm y mae treuliau byw wedi myned yn llawer mwy nag yr arferent fod. Awydda rhieni yn mhob sefyllfa i'w plant ymddangos yn barchus, a chael manteision Addysg, a golyga hyny draul fawr. Ai nid yw yn anhawddaeh magu teulu ar gyflog fechan yn awr nag yr ydoedd ddeugain mlynedd yn ol ? Ac eto erys y cyflogau bron yr un fath i rai dosb- arthiadau mewn cymdeithas. Pa fantais a ga pobl felly i ddarparu ar gyfer henaint ? Hawdd iawn i rai sydd wedi byw uwchben eu digon ar hyd y blynyddoedd, i siarad- yn dafodlyfn am ddyledswydd gweithwyr i gynila, a darparu ar gyfer henaint ? Bach a wyddant hwy am fagu teulu ar bunt neu lai yr wythnos. Dyddorol iawn fuasai eu gweled yn cynyg. Na., dywedwn eto, fod yn dda iawn genym fod y Llywod- raeth yn rhoi cychwyniad i'r gwaith da hwn. Dylasai fod wedi cael ei gychwyn er's talm. Dywedodd Mr ASQUITH fod y siarad am y peth wedi ei gychwyn er's deng mlynedd ar hugain. Ydyw, ac oni buasai i amgylchiadau anffodus osod llywodraeth y deyrnas yn Haw Ceidwadwyr am y rhan fwyaf o'r ugain mlynedd diweddaf, diau y rhoddasid cych- wyniad iddo cyn hyn. Y cyfle da cyntaf a gafodd y Rhyddfrydwyr, dyma y peth wedi ei wneyd. Diau fod presenoldeb corff o arweinwyr Llafur hefyd yn y Ty wedi bod yn gymhorth i'w sicrhau mor fuan. Teimla llawer fod yr oedran yn rhy fawr, ac y dylesid cychwyn gyda 65 yn lie 70. Dadleuant fod llawer yn dyoddef yn drwm rhwng 60 a 70. Yn enwedig yn awr, ar ol i Ddeddf yr Ad-daliad (The. Compensation Act) ddyfod i weithrediad, dywedir fod llawer 0 ddynion yn methu cael dim d wneyd ar ol 60. Cydolygwn yn hollol a hyn, a diau y rhaid iddi ddyfod i hyny heb fod yn hir, pa un bynag a ddaw yn awr ai peidio. Ond llawer 0 beth yw cael cych- wyniad, oblegid ar ol cael hyny, nid oes berygl byth yr eir yn ol. Myned yn mlaen fydd fwyaf tebygol. Bydd y draul yn ol y trefniadau crybwylledig tua chwe' miliwn y flwyddyn, ac wrth gwrs, pe gosodid yr oed yn 65, byddai yn llawer mwy na dwbl hyny. Pwy a wyr nad yw wedi ei adael i'n èyd- wladwr gwrol, Mr LLOYD GEORGE, i gy- meryd y cam o' ostwng yr o?d, a chyfeirio llwybr i gael yr arian ychwanegol fydd yn ofynol at hyny 1 Cwyna rhai hefyd fod y tal bwriadedig yn rhy fach, ac yn neillduol fod tynu un ran 0 bedair ohono i ffwrdd pan fydd hen bar yn byw gyda'u gilydd yn greulawn. Y mae gan y Weinyddiaeth ei rhesymau, wrth gwrs, dros wneyd fel y gwna, ac y mae yn hawdd meddwl am danynt; ond a ydynt yn ddigonol, sydd amheus iawn. O'r braidd y gallwn weled fod digon o reswm dros leihad mor fawr, os dylid lleihau 0 gwbl. Dylid cotio fod hen gwpl, pan yn byw yn nghyd, dan yr angenrheidrwydd o gael ty bychan, a thalu am dano, tra y gctll un letya neu fylv gyda phlentyn neu gymydog. Wrth gwrs, nid ydyw y trefniadau wedi cymeryd Ifurf derfynol eto, a hwyrach y gwneir rhyw gyfnewidiad yn y ddau bwynt crybwylledig. O'r hyn lleiaf, ar ei brawf y bydd y trefniant ar y dechreu, a hawdd iawn fydd dwyn cyfnewidiadau i fewn yn nes yn mlaen. Myn rhai na ddylid rhoi i b.1wb yn ddi- wahaniaeth-y diofal a'r annatbodus fel y gofalus a'r cynil-ac ar yr olwg gyntaf, y mae llawer i ddyweyd dros hyny. Ond wedi edrych yn fanylach i fewn i'r mater, buan y deuir i weled y byddai y gwthaniaeth yn un anhawdd iawn ei wneyd, pe yn briodol a dymunol. Yr ydym yn awr yn gorfod cynal yr annarbodus mewn rhyw tfordd neu gilydd. Yn ol ein deddf bresenol, nid oes neb i drengu o angen, ac y mae y rhan fwyaf sydd yn troi eu hwynebau ar y plwyf am gymhorth yn cael yn awr agos gymaint ag a fwriedir iddynt gael dan y drefn newydd. Yn wir, costia pob un o'r rhai sydd yn y tlotai fwy na hyny. Ar y cyfan, nis gallwn weled y buasai unrhyw gynllun arall yn cwrdd a'r angen. Hyn a wneir yn y rhan fwyaf o'r gwledydd Ile y mae tal I hen bobl eisoes yn cael ei roi. Gadawer 1 ni obeithio y tywysir hwynt i deimlo mai ysbryd CIUST sydd yn arwain ein Senedd 1 wneyd hyn, ac y dylanwada hyny yn ffafriol ar eu bywydau. Os felly, bydd yr hyn a wneir yn foddion gras iddynt yn eu henaint. -I-
BUDDUGOLIAETH MR WINSTON CHURCHILL…
News
Cite
Share
BUDDUGOLIAETH MR WINSTON CHURCHILL YN DUNDEE. | LLAWENHAWN yn fawr am fod Mr Churchill wedi cael ei ddychwelyd dros Dundee gyda mwyafrif mor anrhydeddus agos 3,000. Trueni mawr fuasai i'r Llywodraeth gael ergyd arall, a hithau ar hyn 0 bryd y11 nghanol brwydr mor bwysig. Y mae gwneyd ymdreeh onest i achub y wlad rhag myned yn mhellach dan ormes y Fas- nach Feddwol-ymdrech mor onest a gwrol fel ag i sicrhau cefnogaeth holl gynrych- iolwyr Llafur yn y Senedd. Trueni mawr fuasai i'w braich gael ei gwanychu yn Y frwydr mewn un ffordd. Dan amgylchiadau cyffredin, y mae tipyn 0 ymgipris rhwng Plaid Llafur a'r Rhyddfrydwyr yn weddol ddiberygl, ond nid amgylchiadau felly Yw y rhai yr ydym ynddynt ar hyn 0 bryd, ond rhai eithriadol iawn. Teiiulai y Fasí nach Feddwol ychydig wythnosau yn 0 nad oedd ganddi adim i wneyd ond galw ei byddinoedd i'r maes i drechu y Mesur presenol fel y gwnaeth a Mesurau blaenoro ac yr ydym yn nghanol yr ymdreeh i ^roft i'r Fasnach ei bod y tro hwn wedi gvvne/. camgymeriad. Mae'r wlad wedi ei chyffro gwr-bwy-gilydd, ac enwad a phlaid yn cae I eu hanghofio yn y frwydr. Dyna yr anij gylchiadau yn mha rai y mynai rhywrf| wanychu yn mhellach fraich y Llywodraeto* a rhaid i ni ddyweyd nad ydym yrl 6t deall, ac nas gallwn gydymdeimlo a h^yn yn hyn.
[No title]
News
Cite
Share
CENAD HEDD,- Y Misolyn goreu at wasanaeth yr Ysgol Sabbathol. Eglurir y Wers ynddo o fis i fis. Hefyd, ysgrifenir Brthyglau iddo gan brif Lenorion yr Knwad yn gyson. Pris 2g.