Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

HEBRON, YNYSBOETH.-AR y dyddiauSul a'r Llun diweddaf yn Ebrill, cynaliodd yr egfwys uchod ei chyfarfodydd biynyddol. Y cenadon fu yn gwasanaethu oeddynt y Parchn R. Rees, AUt- Wen, a J. Davies, Cadle. Ni raid i'r brodyr anwyl a da hyn wrth ganmoliaeth; digon yw dyweyd eu bod fel arfer.-H. R. H. BETHANIA, CWMOGWY.—Cynaliwyd cyfar- fod blynyddol yr eglwys uchod Sul a Llun, Ebrill 26ain a'r 27am, pryd y pregethwyd i gynulleidfa- °edd eithriadol luosog gan y Parchn J. Grawys Jones, Aberdar, a Sam Williams, Penrhiwceibr.— Iago. SARON, CLYDACH VALE.Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd biynyddol y Sul a'r Llun diweddaf, pryd y pregethwyd gan y Parchn Ernrys James, Buckley, a Bryn Thomas, Femdale. Mae yr achos yn Saron yn llwyddo yn rhagorol lawn dan weinidogaeth ein parchus weinidog. Credwn y daw yn eglwys gref iawn yn fuan. Boed felly.-D. Jones. BETHANIA, DOWLAIS.-Cynaliwyd cyfar- fodydd biynyddol yr eglwys uchod dydd Sadwrri, Sul, a Llun, Ebrill 25am, 26ain, a'r 27ain. Gwas anaethwyd gan y Parchn D. Stanley Jones, Caer- narfon; W. J. Nicholson, Porthmadog; a Gwylfa Roberts, Llanelli. Cafwyd cynulliadau anferth drwy y cyfarfodydd. Y peth a greodd lawenydd oedd cyhoeddi fod Jubili wedi dyfod i Bethania. Mawr fu yr ymdrech i gael y Jubili, ac i gyhoeddi yn y cwrdd mawr fod digon o arian wedi dyfod i glirio y ddyled. Wele daeth yr ymdrech yn ffaith Casglwyd dros 300P mewn 15 wythnos. SARON, GENDROS. Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol Sul a Llun, Ebrill 2ofed a'r 2iain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn E. Olwern Evans, Bedlinog, a D. M. Davies, Llyfrfa, Abertawe. Cafwyd cyfarfodydd fhagorol iawn. TABERNACL, TREHARRIS. Cynaliwyd gyfarfodydd haner-blynyddol yr eglwys uchod nos Sadwrn, Sul, a nos Lun, Ebrill 25am, 26am, a'r 27ain. Y gwadoddedigion oeddynt y Parchn J. Elias Thomas, Treorci, a D. Eiddig Jones, Clydach. Cawsom gyfarfodydd hyfryd. MAENTWROG.—Cynaliodd Gilgal ac Utica eu gwyl flynyddol eleni eto ar y Pasg, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parchn O. Lloyd Owen, Birken- head S. Robert?, Llanbrynmair; a J. M. Williams, lowyn, Cafwvd gweinidogaeth rymus a chynull- Jadau lluosog. ADDOLDY, GLYN-NEDD. Cynaliodd yr uchod ei chyfarfodydd biynyddol Sul a ^un, Ebrill 26ain a'r 27am, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn E. Aman Jones, B A Merthyr Vale, ? J- Edryd Jones, Cilfynydd. Cafwyd cyfres 0 Dregethau rhagorol.

Family Notices

[No title]

Advertising

PENYGROES, LLANDEBIE.