Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

EYNON A KEIR HARDIE. ----

News
Cite
Share

EYNON A KEIR HARDIE. At Olygydd y Tyst. SYR,—Yn eich rhifyn cyn y diweddaf, cawn Eynon ar ddiwedd ei nodiadau o Babilon Fawr yn ergydio at Keir Hardie, heb fod yn ofalus am wirionedd ei gyhuddiad. Y mae wrth hyn yn dangos dygn anwybodaeth am y pleidiau gwleidyddol hyn; neu ynte yn fwriadol wedi gwyro y gwirionedd. Gwell genym Igredu mai y cyntaf sydd yn cyfrif am y camosodiad- Nid oes neb wedi bod yn fwy ffyddlon i Bwyllgor yr L. R. C na Keir Hardie, fel y dengys y rhan a gymerodd i wrthwynebu talu Victor Greyson am nad oedd wedi ei ddewis yn rheolaidd gan yr L. R. C., ac ni wnaeth Hardie ei ymddang osiad yn Manchester o gwbl o blaid Dan Irving', y Social Democrat, nac un o aelodau Plaid Llafur chwaith. Un ffaith arall sydd yn profi nad oedd a fynai yr I L. P. a dwyn Dan Irving allan yn Manchester ydyw na chafodd Dan Irving ond 276 allan o rhyw 800 o bleid- leiswyr a berthynant i'r ddwy blaid lafur yn North West Manchester dros 500 o ba rai sydd -u__ yn aelodau o'r 1. L. P. Felly gwelir na chafodd Dan Irving ond pleidleisiau y Social Democrats yn yr ymgyrch hon. Ond pe bai Hardie wedi ei alw allan yn unol a'i wroldeb arferol buasai wedi myned yno i'w gynorthwyo, a buasai y nifer o'i bleidwyr wedi eu hychwanegu i fil man lleiaf. Dylai Eynon wneyd ymddiheurad drwy y TYST i Keir Hardie, a chydnabod ei fod wedi ysgrifenu y geiriau angliaredig mewn anwy- bodaeth, a gofalu yn y dyfodol ei fod yn sicr o'i ffeithiau, cyn ei fod yn rhuthro i'r wasg i bardduo cymeriadau. Cwynir yn ami fod y gweithwyr yn tueddu i ymbellhau oddiwrth grefydd. Nid yw hyn yn un syndod pan y mae cynifer o'n gweinidogion yn dal mantais ar bob cyfle yn y wasg ac o'r pwlpud i ergydio at holl ymdrechion y dos- barth hwn i ddyrchafu eu hunain. Yr wyf wedi clywed rhai ohonynt yn datgan llai o ffydd yn addewidion Duw am ddyfodol y ddynoliaeth nag anffyddwyr fel Blatchford a'i gyffelyb. Gobeithiaf am bethau gwell yn y dyfodol agos. Yr eiddoch, cfcc., Dowlais. J@HN DA VIES.

EYNON A KEIR HARDIE ----

Y PARCH DAFYDD WILLIAMS, SEFYDLYDD…

GAIR 0 DDIOLCHGARWCH. ----

PENYGROES, LLANDEBIE.

Advertising

YR YSGOL sabbathol