Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

YR YSGOL sabbathol

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL sabbathol Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, D.D, TREFFYNON. MAL I7eg.—Iesu yn cael Ei fradychu a'i wadu. —loan xviii. 1-27. Y TESTYN E¡;l'tAIDD. Ac fel yr oeddynt yn ^r°s yn Galilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y l)yn a draddodir i ddwylaw dvnion.'— Matt. xvii. 22. Y RHANAU I'W DARLLEN YN DDYDDIOL. LIlln (Mai lleg).—loan xviii. 1 9. Mawrth.—loan xviii. 24-27. Mercher.—1 Oor. x. 11-13. -• lau.-loan xviii. 30 40 Gweller.-Ioan x. 14-18. Sadwrii.-Matt. xxvi. 41-46. Sabbath.—Diar. xxviii. 25-28. RHAGARWEINIOL. YN y benod lion a'r un ddilynol, yr ydym yn Cael hanes oriau olaf yr Iesu. Nid ydyw yn ymddangos fod loan yn bwriadu rhoddi hanes Qianwl o'r holl amgylchiadau. Mae yn debygol tod yr efengylau ereill yn adnabyddus iddo, ao j11 d ydyw ond llanw i fyny yr hanes a ffeithiau ba rai y bu efe ei hun yn llygad-dyst. Dyma y rheswrn nad ydyw yn cofnodi hanes ingoedd Yr lesu yn Gethsemane, ae amgylchiadau ereill, y rhai y cawn eu hanes gan yr efengylwyr crcil!. Dylid cymliaru Matt. xxvi. 30 36 47 -56; Marc xiv. 26, 42 52; Luc xxii. 39 53 ~j9.an xvii. 1-12. Tra yr oedd yr Iesu yn *ym- ^dyddan a'r dysgyblion ac yn gweddio dros- tynt, yr oedd Judas gyda'r archoffeiriad yn cynllunio Ei fradwriaeth. ESBONIADOL. Adnod 1 —' Wedi i'r Iesu ddywedyd y geir *au hyn, Efe a aeth allan, Efe a'i ddysgyblion, r°s afon Cedron, lie yr oedd gardd, i'r lion yr aeth Efe a'i ddysgyblion. Cyf. Diw., Yr afon ^edron Y geiriau hyn. Cyfeirir yn union- Syrchol at y weddi a gofnodir yn y benod flaen- OPOI. [sje a aetli. allan. 0 Jerusalem. Dros afon Ceclron Neaabor Cidron. Ffrwdfeclian ydoedd yn rhedeg yn y ceunant rhwng Jeru- aiem a Mynydd yr Olewydd o da y dwyrain. rf °edd yn sych am. y rhan fwyaf o'r flwyddyn. «. e y oedd gardd. Gethsemane. Nid gardd rwythau a olygir, ond lie amgauedig. l'i- lion yr aeth Efe a'i ddysgyblion. Rhaid fod peth mser rhwng mynediad yr lesu i'r ardd a dy- odiad Judas Yn y cyfwng hwn y bu yr lesu iig yn yr ardd. Tybir fod yr atngylch- aaau a gofnodir yn y Wers wedi cymeryd lie l'hwng un-ar-ddeg a haner nos ddydd lau. v 'Ma<?c* —' A Judas hefyd, yr hwn a'i brad ychodd Ef, a adwaenai y lie oblegid rnynych y cyrchai yt Iesu a'i ddysgyblion yno.' A hefyd. loan yn unig sydd yn nodi y b .*0(* Judas yn adnabod y lie fel un y ef f yr *esu yn aml yn myned iddo. Diau ef ei hun wedi bod yno gyda'r Iesu lawer ft p A'i bradychodd. Ystyr llythyrenol y Yr hwn oedd yn Ei fradychu.' Yr ar y pryd yn cario allan ei gynlluniau, ac Y" gwrteyd def Dydd o'i wybodaeth o arferion iesa er cyrhaedd ei amcan. bvdri-10^ — ^udas San hyny, wedi iddo gael Ph °. swyddogion gan yr archoft'eiriaid a'r ac F1feai,d' a ddaeth yno a lanternau, a lampau, idd aU'' 'Judas gan hyny, wedi a ° £ aeJ y fintai o filwyr a swyddogion gan yr Cbo^ipiaid a'r Phariseaid,' &c. Byddin. n u fintai. Golygir rhan o'r fintai Rufeinig, o gastell Antonia, a roddid at was- Jer» 1 ^anhedrim, er sicrhau heddwch yn «airf T1 ar ddyddiau y gwyliau. Y swydd- torJ!" ^wyddogion y detnl. Lanternau— Perth ,jamPau- Yr oedd y rhai hyn yn i equipment y milwyr pan ar wasan- Qlae /n y nos- El* t°d y lleuad yn 11 awn, y bua S'°i'alu parotoi eu hunain rhag y sai yr Iesu yn ymdreehu ymguddio. Adnod 4" 'Yr lesu gan hyny, yn gwybod ob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, g c.a .ddywedodd wrthynt. Pwy yr ydych yn ei fix JT A ae^% allan. I'w cyfarfod—i roddi y tnn^ 1 fyny- ydyw lo&a yn cyfeirio at 1 y hi'adycliwyd Ef gan Judas. Yr oedd pob peth yn hysbys iddo, a chyda thawelwch meddwl aeth i gyfarfod a'r rhai a ddaetliant i'w ddal, ac o'i wirfodd rhoddodd Ei Hun i fyny. Pivy yr ydych yn ei qeisio ? Gofynodd hyn, nid am nad oedd yn gwybod, ond er mwyn iddynt yngyhoeddus gyffesu amcan eu dyfod- iad, ac yna i ddangos iddynt Has gallasent byth gyrhaedd eu hamcan oni bai Ei fod Ef Ei Hun o'i wirfodd yn rhoddi Ei Hun i'w llaw. Adnod 5. Hwy a atebasant iddo, lesu o Nazareth. Yr lesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Judas yr hwn a'i bradychodd Ef oedd hefyd yii set'yll gyda hwynt.' Iesu o Nazareth. Wrth yr enw hwn yr adnabyddid Ef gan yr Iuddewon. lVlyfi yw. Y fath fawrfrydigrwydd a gwroldeb a ddengys yr lesu. Nodir y ffaith fod Judas gyda'r milwyr, er mwyn dangos ei fod yntau yn mysg y rhai a syrthiasant wysg eu cefnau Adnod 6.—' Cyn gynted gan hyny ag y dy wedodd Efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.' Y maerliai yn barnu y gellir rhoddi cyfrif natur- iol am hyn-fod edrychiad yr lesu wedi creu arswyd ynddynt; ond diau fod yma fwy nag achosion naturiol. Dylanwad Dwyfol ydoedd, ac y mae yr Iesu yn amlwg ddangos nad oedd ganddynt allu i'w ddal pe mynasai ddianc. Nis gallasent gyflawni amcan eu dyfodiad heb iddo Ef yn wirfoddol roddi Ei Hun i fyny. Adnod 7.—'Am hyny Efe a ofynodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio ? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nazareth.' Yr oedd y rhai a ddaethai i'w ddal wedi eu taro a dychryn. Felly y mae yr Iesu, trwy ofyn yr ail waith, yn eu hadgofio o amcan eu dyfodiad. Iesu o Nazareth. Er fod yr lesu wedi dat- guddio Ei fawredd, yr oedd y gelynion yn gwrthod Ei gydnabod. Ail-adroddasant yr enw oeddynt wedi gael gan y swyddogion. Adnod 8.-1 Yr lesu a atebodd, Mi a ddywed- ais i chwi mai Myfi yw am hyny os Myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhai hyn fyned ymaith.' Y rhai hyn. Ei ddysgyblion. Medd- yliodd am eu dyogelwch hyd yn nod yn awr Ei gyfyng-der. Gadewc/t t'f rhai hyn fyned ymaith. Nid deisyfiad ydyw y geiriau hyn, ond gorchymyn. 'Oni wnewch adael iddynt fyned ymaith, yn wysg eich cefnau y byddwch chwi eto.' Y mae yn foddlon gwynebu y perygl Ei Hunan. Yr oedd Ei eiriau hefyd yn awgrymu i'r dysgyblion nas gallasent fod o help iddo Ef mwyach, ac am iddynt ofalu am eu dyogelwch eu hunain. Cymharer pen. x. 12. y Adnod 9 —' Fel y cyftawnirl. y gair a ddywed- asai Efe, O'r rhai a roddaist i Mi, ni chollais I yr un' Mae yr efengylydd yn gweled yn y gofal a gymerai yr lesu am ddyogelwch Ei ddysgyblion gyflawniad o'i eiriau yn pen. xvii. 12, ond yr oedd eu dyogelwch tymhorol yn cyfeirio at eu dyogelwch ysbrydol a'u cadwed- igaeth i fywyd tragywyddol. Adnod 10.—' Simon Pedr gan hyny a chanddo gleddyf, a'i tynodd ef, ac a darawodd was yr archoffeiriad, ac a dorodd ymaith ei glust ddehau ef ac enw y gwas oedd Malchus.' loan yn unig sydd yn enwi Malchus a Phedr. Yr oedd Pedr am brofi ei barodrwydd i beryglu ei fywyd dros ei Arglwydd, fel yr oedd wedi honi (xiii. 37). Pwy oedd Malchus, a pha swydd neillduol a gyilawnai, nis gwyddis ond y mae yn sicr ei fod yn flaenllaw yn y gwaith, ac fell y cyfryw tarawodd Pedr ef. Yroedd yn ddiau yn anelu at ei ben, ond torodd ymaith ei glust Yr oedd yr arwyddion yr oedd yr Iesu wedi eu rhoddi o'i fawredd wedi symbylu gwroldeb yn ysbryd Pedr, ond gweithredai yn fyrbwyll. Adnod 11. Am hyny yr lesu a ddywedodd wrtli Pedr, Doa dy gleddyf yn y wain: y cwpan a roddes y Tad i Mi, onid yfaf ef ? Yn ol Luc, cawn i'r Iesu iachau clust y gwas, a cheryddu Pedr am ddefnyddio ei gleddyf pryd na ddylasai. Nid oedd arno Ef eisieu cleddyf i amddiffyn Ei Hun na'i achos. Y cwpan. Yr hyn oedd y Tad wedi Ei ordeinio iddo i'w ddyoddef wrth wneyd iawn dros bechod a olygir wrth gwpan. Onid yfaf ef ? Oni ddy- oddefaf y cwbl ? Mae yn y geiriau hyn gyfeir- iad amlwg at ing Gethsemane, yr hyn sydd yn profi fod loan yn adnabyddus ohono. Adnod 12.—'Yna y fyddin, a'r milwriad, a swyddogion yr lllddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant Ef.' Cyf. Diw., 'Yna y fintai, a'r prif-gadben, a swyddogion yr ludd- ewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant.' Yna. Oherwydd ymddyglad byrbwyll Pedr, daliasant yr lesu ac a'i rhwymasant rhag iddo ddianc. Caniatodd yntau iddynt wneyd. Adnod 13.—'Ac a'i dygasant Ef at Annas yn gyntaf; canys chwegrwn Caiaphas, yr hwn oedd archoffeiriad y ilwyddyn hono, ydoedd ef.' Yr oedd Annas yn wr o ddylanwad mawr, ac wedi bod yn archoffeiriad ac er ei fod wedi ei ddiswyddo, y mae yn debygol ei fod yn rheoli trwy ei ddylanwad weithrediadau ei fab-yn- nghyfraith. Chwegrwn. Tad-yn-nghyfraith. Adnod 14. A Chaiaphas oedd yr hwn a gynghorasai i'r luddewon, mai bucldiol oedd farw un dyn dros y bobl.' Gwel penod xi. 49, 50. Ei gynghor i'r Sanhedrim ydoedd, mai gwell oedd rhoddi Crist i farwolaeth, nag i'r holl genedl gael ei dinystrio o'i achos Ef. Am hyny, Did oedd efe yn un addas i farnu Crist, yr Hwn a ragfarnasai ac a rag-gondemn- iasai Efe' Mae y cyfeiriad at ddywediad Caiaphas yn cael ei nodi er dangos pa fath gyfia wnder a allesid ddysgwyl oddiwrth un mor anghyliawn. Adnod 24.—'Ac Annas a'i haiifona-sai Ef yli rhwym at Caiaphas, yr archoffeiriad.' Cyf. Diw., Annas, gan hyny, a'i danfonodd Ef wedi Ei rwymo at Caiaphas, yr archoffeiriad.' Trosglwyddodd Annas Ef i Caiaphas a'r San- hedrim i sefyll prawf ffurfiol. Hwyrach iddo gael Ei ryddhau pan yn cael Ei holi. Adnod 25.—' A. Simon Pedr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymno, Hwythau a ddywedasant wrtho Onid wyt tithau hefyd o'i ddysgyblion Ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nac wyf.' Onid ivyt tithau hefyd o'i ddysgyblion Ef ? Gwadodd Pedr. Ofnodd y gwaethaf, ac aeth yn llwfr. Adnod 26—'Dywedodd un o weision yr archoffeiriad (car i'r hwn y torasai Pedr ei glust), Oni welais i di gydag Efyn yr ardd ?' Dywedodd un o weision, &e. Golygir caeth- was. Nid ydyw yn debygol ei fod yn gwybod mai Pedr a dorasai glust ei berthynas. Adna- byddid Pedr oherwydd ei leferydd, tra yr oedd yn sefyll, acvyn ymdwymo. Adnod 27.—'Yna Pedr a wadodd drachefn; ac yn y man y canodd y ceiliog.' A wadodd (It-actief ti. Yn mhen tuag awr ar ol y gwadiad cyntaf. Ac yn y man y canodd y ceiliog. Can- odd ceiliog (heb y fanod.) 'Agos yn gydam- serol hefyd, edrychodd yr Iesu ar Pexlr, ac yr oedd rhyw fyd o dosturi a thynerwch yn yr edrychiad hwnw, nes y cywilyddiodd y dysgybl anffyddlon hyd wraidd ei enaid, ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw dost.' GWERSI. I. Arwydd sicr fod dyn wedi syrthio i ddyfn- der llygredigaeth ydyw, ei fod yn defnyddio ei wybodaeth grefyddol i ddybenion pechadurus. II. Mor hunanfeddianol ac mor wrol yr oedd yr lesa yn yr amgylchiadau mwyaf cyfyng. Nid oedd hyn yn codi oddiar anwybodaeth na dideimladrwydd, ond ymwybyddiaeth ei fod yn iawn. Nid ydyw yn ceisio dianc. Er yn ym- ddangosiadol, Efe oedd y gorchfygedig, eto, gwyddai Ei fod ar y ffordd i fuddugoliaeth. Gwyddai y buasai yn rhaid i'r Gwirionedd orchfygu yn y pen draw. HI. Y fath ofal y mae yn ddangos am ereill. Mae yn anghotio Ei Han yn Ei ofal am ddyogel- well Ei ddysgyblion. Pan y bydd dynion mewn cyfyngder, teimlant yn gyffredin mai hwy ddy- lai gael yr holl gydymdeimlad. Nid felly yr lesu. Gofalai am ereill yn yr adeg fwyaf cyfyng. IV. Gwelwn ufudd-dod perffaith Crist i ewyllys Ei Dad. Cerydda Pedr. Gwyddai mai Ei Dad oedd wedi rhoddi y cwpan, ac yr oedd hyny yn ddigon i'w gymodi a'r goruchwyl- iaethau chwerwaf. Y. Llwyddodd Judas yn ei amcan, ond wrth lwyddo, dinystriodd ei hun. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Pa fodd y gellir cyfrif am y ffaith fod loan wedi gadael allan rai amgylchiadau nodedig yn hanes oriau olaf y Gwaredwr? 2. I ba ie yr aeth yr le<u a'i ddysgybl- ion wedi gadael Jerusalem ? Pa adeg o'r nos ydoedd? 3. Pa fodd y daeth Judas o hyd i'r Iesu? Pwy oedd gydag ef ? 4. Paham y gofynodd yr lesu iddynt, 'Pwy yr ydych yn Ei geisio ? Beth oedd eu hateb iad ?