Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

FFYNON TAF A'R CYLCH.

BRYNTEG A'R CYLCH.

Advertising

CYLCH MERTHYB TYDFIL.

[No title]

CYMER, RHONDDA.

News
Cite
Share

CYMER, RHONDDA. Cynaliwyd Cymanfa Gerddorol Gysegredig y Cymer (y 25ain) yn nghapel y Cymer, Llun y Pasg, dan arweiniad Mr Tom Morgan yn y boreu, yr hwn oedd gyfarfod y plant, a'r prydnawn a'r hwyr dan arweiniad Mr Joseph Bowen, Inter. Mus. Bac., arweinydd y Cymer. Cynaliwyd hon gan y Cymer a Threbanog yn unig eleni. Ymuuodd yr Hafod a. chylch Pontypridd, a'r Porth a gymerodd Caer- salem Newydd ati eleni. Y mae anturiaeth y Cymer wedi troi yn llwyddiant perffaith, a chredwn fod hon yn un o'r cymanfaoedd goreu a gafwyd erioed, yn neillduol yn yr ystyr gerddorol ac addol iadol. Yr oedd y defosiynol yn arbenigrwydd neillduol yn hon, ac yn adlewyrchu clod ar yr arweinyddion a'r pwyllgor yn y dewisiad o donau ac anthemau. Cafwyd dwy don, anthem, a phedwar- awd o gyfansoddiad Mr Bowen, yr arweinydd, gan y rhai mewn oed, ac un don gan y plant o'i gyfan- soddiad-I Daeth Iesu i'r ddaear.' Adroddwyd i ddechreu y cyfarfodydd gan W. J. Herbert, Leah Jones, a Iorwerth Morgan. Llywyddwyd y tri chyfarfod gan Mr D. Davies, North-road, Porth, yn y boreu Mr W. Jones, Aber-rhondda, yn y pryd- nawn, yn lie y diweddar Mr John Jones, Britannia; a'r Parch J. T. Davies, gweinidog, yn yr hwyr. Swyddogion y pwylJgor-cadeirycld, Mr D. Davies, North road trysorydd, Mr D. Rees, Glyn-street; ysgrifenydd, Mr D. Lewis Williams, High-street. Cynorthwyid y cantorion gan Gerddorfa y Cymer, dan arweiniad Mr John Williams (Glynog), arwein* ydd cyson y gerddorfa; organyddes, Miss May Lewis; a pherdonyddes, Miss Daisy Jones. Yr oedd cydvveithrediad a brwdfrydedd yn amlwg yn yr holl ymdrafodaeth, ac ymddangosai pawb yn foddhaol iawn ar yr anturiaeth. Nid wyf yn credu yr aiff yr effeithiau yri anghof yn fuan.

Y CYMER A'R PORTH.I

BRYNTEG A'R CYLCH.