Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

FFYNON TAF A'R CYLCH.

News
Cite
Share

FFYNON TAF A'R CYLCH. Cynaliodd eglwysi Glandwr, Bethlehem, Bron- Jlwyn, Groes Wen, a Nantgarw, eu cymanfa gerdd- orol eleni ar ddydd Gwener y Groglith yn nghapel Tabor (M.C), Ffynon Taf, o dan ofal a threfniant eglwys Glandwr. Arweiniwyd y gymanfa lwyddianus hon gyda medi a chymeradwyaeth mawr gan Mr Roderick Williams, Caerdydd, a phrofodd ei hunan, yn ol ei hanes, yn feistr ar ei waith. Dechreuwyd oedfa y plant yn y boreu gan y Parch R. Derfel Roberts, Bronllwyn. Llywyddwyd yn fedrus iawn gan Mr J. M. Phillips, Bethlehem. Anerchwyd y plant yn bwrpasol rhyfeddol gan Mr T. Price, ysgolfeistr, Hawthorn. Holwyd yn yr Holwyddoreg, yn ahsenoldeb Mr Joseph Millward, Bethlehem, oherwydd aliechyd, gan y Parch D Stanley Morgan, Glandwr, a therfynwyd oedfa swynol a boddhaol y plant gan y Parch D. J. Rees, Eglwysnewydd. Arweiniwyd mewn gweddi ar ddechreu yr oedfa brydnawnol gan Mr J. Edwards, Rhigos (myfyriwr yn Mhrifysgol Caerdydd). Cawsom ychydig eiriau gwir werthfawr gan y llywydd, Mr Isaac Thomas, Glandwr, a chanu ardderchog gan y cantorion. Cyfeiriwyd yn ystod yr oedfa gan E. J. Phillips, Gwaelodygarth (ysgrifenydd y gymanfa), at y bylchau amlwg oeddynt wedi cael eu hachosi gan angeu yn y gwahanol eglwysi er y llynedd, a gofyn wyd mewn modd tyner a thoddedig iawn i'r gynull- eidfa a'r cintorion oil i roddi arwydd o'u cydym- deimlad a'u gwerthfawrogiad o'r meirw gwynfyd- edig drwy ganu un o cmynau Pedr Fardd. Profodd oedfa yr hwyr yn an o'r oedfaon cerdd- orol goreu gafwyd er's liawer blwyddyn. Yr oedd cynulleidfa anferth wedi d'od yn nghyd, a'r canu yn rhagorol, a dylanwadau'r Dwyfol Ysbryd yn angerddoli'r oil. Dechreuwyd yr oedfa gan y Parch D. Stanley Morgan, Ffynon Taf, a llywyddwyd gan y Parch C. Tawelfryn Thomas, Groes Wen, yn ddeheuig gyda'i fedr arferol. Cyfeiliwyd yn ystod y dydd gan Miss B. Williams, Bronllwyn Miss B. Phillips, Bethlehem Mr W. D. Phillips, Glitndwr; Miss E. Phillips, Gwaelodygarth a Mrs Morris (Groeswen), Caerdydd. Anerchodd y Parch D. G. Rees, a Mr Isaac Thomas, Nantgarw (y gynulleidfa a'r cerddonon yn danllyd ryfeddol, a sicrhawyd casghadau ardderchog. Diolchodd yr ysgrifenydd i bawb am eu gwasan- aeth a'u caredigrwydd, ac yn arbenig i wragedd Glandwr am wasanaethu mor fedrus wrth y byrddau, a therfynwyd y gymanfa fendithiol hon gan Mr Thomas Treharne, hen arweinydd Bethlehem. Dyma y tro cyntaf i ni allu sicrhau gwasanaeth Mr Roderick Williams i'r cylch, end oddiwrth y ganmoliaeth uchel glywir o bob tu, i'w fedr, ei ddoethineb, a'i feistrolaeth gyda'r gwaith o ddysgu ac arwain y c6rau, sicr yw mai nid dyma y tro olaf iddo ef gael gwahoddiad i arwain cymanfa ganu flynyddol Dyffryn Taf a'r ardaloedd cylchynol.

BRYNTEG A'R CYLCH.

Advertising

CYLCH MERTHYB TYDFIL.

[No title]

CYMER, RHONDDA.

Y CYMER A'R PORTH.I

BRYNTEG A'R CYLCH.