Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ROB OCHR I'R HEOL,

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

ROB OCHR I'R HEOL, (1) Marwolaeth y Cyn-Brifweinidog sydd wedi cymylu yr holl deyrnas yr wythnos hon. Pan oedd ei haul yn araf fachlud, dyna pryd y daeth ef i mewn i'w etifedd- iaeth, ac y dechreuodd y pelydr chwareu ar ei lwybr. Yr oedd yn 70 tnlwydd oed yn dodi ei law ar ganllawiau ei orsedd, a byr fu ei dymhor arni. Llwyddodd i godi gwleidyddiaeth i dir uwch na nemor i wr o'i flaen, ac yr oedd mesur o ysbrydolrwydd y proffwyd o'i gylch yn ei holl symudiadau a dywediadau. Pwy na theimlodd ias new- ydd yn cerdded drosto pan safodd Syr Henry ar lawr y Ty, gan daflu ei law megys at Mr Balfour, a dyweyd, Enough of this foolery,' pan gellweiriai'r Toriaid yn mron a phethau oedd yn gysegredig i'r Prif- weinidog. Onid oedd cyffyrddiad Cromwell ganddo? 'I have no ambition to serve,' meddai, pan dorai'r wawr ar fyd Rhydd- frydiaeth and this struggle has destroyed the health of my wife, and my domestic peace but I will not give way until I see Liberalism through the wood, and the cause in the hands of men who have the true .faitlz.' Dyna'r proffwyd yn ddigamsyniol Y mae fel llais Arthur frenin yn nghaneuon Tennyson gwyn fyd y deyrnas a gaiff wr fel hyn wrth ei llyw. Eithr tywyllodd yr aur. Cwympodd y cadarn. 0 d wr # (2) Yr ail ofid i bob gwr a gar les ei wlad oedd ymchweliad Manchester at ei sorod. Brwydr fawr a fu; a chawr o ddyn, er ieu enged yw, y profodd Mr Churchill ei hun. Y mae'nparotoi ei holl areithiau'n ofalus nid oes ganddo y gallu miniog a fedd Mr Lloyd George i gwrdd a gwrthwynebydd ar y pryd; ond yn ei barotoad y mae ei nerth ac nid oes amheuaeth am ei ath- rylith. Y mae ynddo ef fel yn ei dad. Darllena ei areithiau yn ardderchog. Y mae cydbwysedd a nerth digymar ynddynt Gresyn fod ei ornest fawr yn Manchester wedi aflwyddo; eithr gall wneyd daioni iddo ef, a dodi'r Weinyddiaeth ar ei goch- eliad. Yr oedd y ffaith fod dau fesur chwyldroadol ger bron y Ty gan y Wein- yddiaeth, yn ei gwneyd yn beryglus i'r blaid mewn etholiad. Y Mesur Addysg yn dyeithrio'r Eglwyswyr, a'r Mesur Trwydd- edol yn dyeithrio'r darllawyr a'u dilynwyr. Galluoedd cryfion i'w tynu yn ei phen ar yr un pryd yw y rhain. Buasai'n ddigon i ymladd y darllawydd ar y tro. Syndod hefyd gymaint y mae poblpeth sydd yn ym- wneyd a Llafitr o unrhyw fath yn dyweyd ar frwydrau gwleidyddol y cyfnod hwn Unrhyw beth sy'n dal perthynas ag employ- ment, ac yn bwrw ei gysgod ar lwybr yr unemployed, y mae'n eithafol beryglus. Dyna helynt y barmaids yn engraifft yn etholiad Manchester. (3) Wele lyfr y Parch D. Rhagfyr Jones, Treorci, allan o'r diwedd. 0 Swyddfa Owen Brothers, Y Fenni, y daeth, ac y mae wedi ei droi allan yn ddymunol a destlus. 3s 6c yw ei bris mewn llian Teitl y llyfr yw'r Llofft Fach I ac er budd i'r neb a ddichon fod yn byw y tu allan i sir Gaerfyrddin, esbonir yr enw Ysgoldy neu festri'r capel," mewn rhanau gwledig, yw'r Llofft Fach. Llwyddwyd i gael math o ddarlun ar glawr y gyfrol hefyd yn cyfleu'r ystyr. Darlun o 'ysgoldy capel yn y wlad,' sydd yn drwyadl nodwedd- iadol, ac yn peri i ni awyddu unwaith eto am gael dianc i dreflan dawel yn mharthau gwledig sir Gaer i Gwrdd Chwarter, neu Gymanfa'r Sir, neu rywbeth. Cyflwynir y llyfr" hefyd gan Rhagfyr i'w briod, Mrs Jones, ac y mae geiriau'r cyflwyniad yn dyner a dymunol iawn, a'r awdwr yn cyd- nabod yr help a gaed gan ei gymhar wrth barotoi'r llyfr. (4) Nid ydym yn amheu am eiliad mai hwn yw'r llyfr tebycaf i Sketches' Daniel Owen o ddim ddarilenasom yn y Gymraeg eto. Mae yr amser gawsom gyda'r llyfr yn brin hyd yma, ac anodd ryfeddol yw genym ei ddodi o'n Haw, gan gymaint ei swyn a'i ddengarwch. Penodau ardderchog yw'r haner dwsin blaenaf-dyna'r oil ddarllenwyd genym hyd yma. Mae ystori'r ■ Hen Jew yn anfarwol, ac yn peri i ni feddwl am Ian Maclaren yn barhaus. Ceir tynerwch, a nerth, ac arabedd anghyffredin yn y portreiad o ambell garictor. Ar wahan i ddesgrifiadaeth y llyfr, y mae mewn Cymraeg glan gloew, ac arddull firain ac ystwyth. Iaith y De yw'r oil yn mron, a cheir priod-ddulliau'r De yn hapus iawn. Dychwelwn at y gyfrol eto. (5) Swn cynal Bazaars sydd yn mharthau sir Gaer yn awr. Mae eglwys y Gwynfryn newydd fod drwy'r gwaith yn ystod wyth- nos y Pasg, ac y mae eglwys Sardis, Trim- saran, yn hwylio ati i gynal un yn nechreu Awst nesaf. Rhyfedd fel y daw pobpeth yn ei dro Ambell i dymhor bydd eistedd fodau a chyrddau cystadleuol lon'd y wlad. Dymhor arall ni cheir ond. darlithiau yn mhob cyfeiriad. Bryd arall gelwir am gyngerddau rif y gwlith; ond r, yn awr y mae tro'r nodachfa,' chwedl Cymreigwyr diweddar, yn d'od. Llwydd i'r rhan hon o'r gwaith eto. Y mae gwel'd y cyfeillion yn neillduaeth Trimsaran, o dan arweiniad eu gweinidog ieuanc, Mr Robert Jones, yn trefnu i gael bazaar yn dangos ysbryd anturiaethus a thra dyddorol. (6) Ar y i3ego fis Mai, bydd Dr Campbell Morgan o Eundain yn d'od i lawr i Lan- elli i bregethu yn y prydnawn a darlithio yn yr hwyr, er budd yr achos yn Llan- drindod. Trefnir yr oil gan Mr a Mrs Bernard Rees, a chynelir yr oedfaon yn nghapel y Tabernacl. Testyn ei ddarlith yn yr hwyr fydd, The Cities of Men and the City of God.' Y cadeirydd am y nos fydd Mr Elywelyn Williams, yr aelod Seneddol. Clywsom i'r esboniwr ar- dderchog fod yn traddodi y ddarlith hon yn ddiweddar yn nghapel King's Cross, Llundain, a'i bod yn rhyfeddol o dda. Diau y bydd llawer yn awyddus i'w wrando yn pregethu yn y prydnawn hefyd. Trefnir tocynau i sicrhau mynediad 1 mewn i'r ddau gyfarfod. (7) Mae'r Geninen am fis Ebrill yn llawn, a'r Golygydd wedi llwyddo i berswadio llenorion lawer i'w helpu. Un o Ganoniaid Tyddewi sydd yn agor y rhifyn gyda phle am gael yr Ymneillduwyr yn ol i Eglwys Loegr. Er cystal yr ysgrifena'r Canon Williams, breuddwyd nas sylweddolir byth ar y llinellau hyn yw ei eiddo ef. Mae son am i lit o enwadau gymeryd eu llyncu i mewn i un Eglwys yn ddigrif, heb i hono newid llawer, yn enwedig pan y mae'r enwadau gymaint yn fwy na'r Eglwys sydd yn myn'd i'w cymathu.' Ceir llith gan Ddyfnallt ar Goedwigoedd fel y desgrifir hwy gan George Meredith mae llawer o asbri'r wig yn yr ysgrif. Cenedloedd Ewrop,' gan yr Inspector Roberts, a Threm ar Hanes Cymru,' gan Mr Elywelyn Williams. 'Sosialiaeth Gristionogol,'gan Mr J. Lewis Williams, M.A., B.Sc., a'r 'Ddau Omar,' gan Fachreth. 'Y Ddaear i'r Bobl,' gan Dr Pan Jones. Mae pob un o'r erthyglau hyn wedi golygu llafur, ac ymchwiliad, a myfyrdod i'w hawduron. Ysgrif bur darawiadol yw eiddo Machreth. Y mae yn ffafr yr Athraw Morris Jones yn fawr, ac yn darogan nid yn unig fod Machreth yn edmygydd ohono, ond yn mron a d'od yn ddysgybl iddo. Ceir yn y rhifyn ganeuon lawer ac englynion ar bob math o destynau, gweddillion llenyddol a gohebiaethau gwerthfawr. Rhagorol, yn wir.

|HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.

ADOLYGIAD Y WASG. I-----.----