Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

0 FRYN I FRYN.

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. MOR anhawdd oedd genym Syr Henry ollwng ein gafael yn Syr Campbell- Henry. Ei afael yn y Bannerman. wlad a'i gwnaethaiy fath anhebgor. Hyny, yn ddiau, sydd wir am Ryddfrydwyr, a Llafurwyr, a dosbarthiadau cyffelyb, Apeliai ei ddynol- iaeth deg ac agored at y Bendefigaeth a Cheidwadaeth; a hono a'u henillai hwy. Efe ydyw y Prifweinidog cyritaf er's amser y darfu i'w ddynoliaeth dda i lenwi y Senedd ä chyfaredd cariad. Rhoddodd C. B,' swyn gartrefol a theuluol yn y Senedd-dy. Dar- Ilenir am gyfnodau yn hanes ein Senedd pryd y ceid galluoedd ereill yn symud y gwersyll ac yn gwneyd y gwaith. Mewn un cyfnod, ceid urddas Pendefigol yn gwneyd byn; ac yn y cyfnod hwnw y magodd arglwyddiaeth y Ty Uchaf ryw gymaint a rhyw fath o asgwrn cefn. Wed'yn, ceid 4yddiau yr areithwyr a'r areithiau mawrion, a gofelid wrth eu croniclo i ddyweyd eu Jyd; ond o dan deyrnasiad C.B. y prif pethau a welid ac a deimlid ydoedd brawdol- laeth y deyrnas; fod y boblyn -un ac yn agos i'w gilydd er eu gwahaniaethau. Hyn- 0 ynaa sydd yn gwneyd y Weinyddiaeth bresenol yn lied annyoddefol i'r Argivryddi; ond annyoddefol neu beidio, dyna yw ym- daith gwleidiadaeth heddyw; a'r Pendefigwr tywysogaidd Syr Henry Campbell-Banner- joan ddefnyddiodd Rhagluniaeth i ddwyn yn i'r golwg. Mae'n wir y gellid tynu'r casgliad mai y mesurau a ddygir ger bron yn y Senedd sydd yn cyfrif am y fath frawdol- laeth; ac mae'n wir fod yn Nghynghor y j^ywodraeth ddynion o'r un ysbryd a'u "^rweinydd sydd newydd ein gadael. Ar ypn pryd, Syr Henry a ddeuai i'r argyfwng °*nadwy presenol i roi mynegiad i ysbryd yr ac efe a welodd y dynion oeddynt yn awn o'r fath ysbryd. Y prif waith felly a ^ttaeth y Prifweinidog ymadawedig ydoedd ? 0Hl° at eu gilydd y Bendefigaeth a'r Werin- aetb. Cedwid pellder rhyngddynt o'r aen. « Rhyngom ni a chwithau y sicrha- orid ^aSendor mawr' ydoedd; ond dangos C. B.' ei fod ef, er yn bendefig, yn worilawr hefyd a thrwy hyny, fe roddodd Sana pwySig i ddileu rhagfarn y tlawd at y y oethog, ac i dynu allan gydymdeimlad y ,°e^°g at y tlawd. Rhaid fod y gwr a vn cam ^wn wr -^uw» hyny yw, y Wr ag a godai ac a ddefnyddiai Duw i'r gYIXlermd, ac mae'r modd y gwnaeth hyn ar -rn c?friniaeth sanctaidd. Traddododd aetV* aU' y ceir callineb a gwybod- o'r y^arferol, ac adnabyddiaeth o ddyn ac aDtt8erau; ond nid ydym barod i aros gyda dd u ^oddodd y pyrth yn agored i hen Eel ^a-U a de^frydau ° e^do'r bobl a'r ddedHf8 ymdeithio allan i fod yn teirv>i 0 dan nawdd yr orsedd ond Wn mwy na hyn yn o. b.' Nid ar enw ar y mwy hwnw boddlonwn yweyd ei fod yn nghymeriad a pherson- oliaeth Syr Henry. Yr oedd hwnw o'r tu ol i'r areithiau a'i mesurau; ac mae yn ein dal o bob cyfeiriad, ac yn gafael ynom, ac yn myn'd a ni. Araf y tyfai Syr Henry i byn. Mae i rai dynion, fel i ffrwythau, dyfiant cynar. Yr oeddynt yn eu llawn dwf megys heb yn wybod. Ceir ereill o dyfiant diw- eddar. Aeth Syr Henry i'r Senedd yn ?>2 bu farw yn 72. Pa bryd y daeth ei en w i'ch ty chwi ? Lie ceir uchelgais, sef awydd i dd'od i sylwi ae i fod ar y blaen, gyda gallu cyffredin, ceir y tyfiant yn gyflym hefyd. Yr ydym yn d'od i'r casgliad fod C. B.' mor rhydd oddiwrth y myfïiteth uchelgeisiol sydd yn y byd, ag ydoedd o ddiragfarn, a glan ei deimlad a'i amcan. Pan anturiodd un yn 1884 i- ddyweyd y buasai yn Brif- weinidog cyn hir, cyme odd y sylw ef gyda syndod; a dywedodd ei fod yn gobeithio 0'1, buasai tynged o'r fath yn ei aros. Nid ydym yn glir iawn ar le a gwasanaeth gvvyleidd dra yn y bywyd cyhoeddus. Yr ydym ambell dro yn tybio fod gwyleidd-dra wedi cidw yn gudd alluoedd dysglaer, a piiosiblrwydd i dda cyhoeddus enfawr. Nodweddid rhywbeth tebyg i wyleidd-dra yn Syr Henry. 0 leiaf, nid oedd yn caru arddangosiadau, ohonynt eu hunain, ac er ei fwyn ei hun ond bob amser, pan wel'sai fod dyledswydd yn galw, nid oedd lie nac arddangosiad, na chyffro, yn ormod iddo i fyned trwyddynt, er mwyn cyd- wybod ai gwaith, I rywrai, mae'r bywyd cyhoeddus yn swynol, ac ynddo maent wrth eu bodd. Maent wedi eu geni i deithio, i areithio, i wrthwynebu, a chael eu gwrth- wynebu ond ni cheid hyn yn I C. B.' Lies y bob!, a'i ddyledswydd, a'i codai ef ar ei draed, ac a'i cadwai gyda'i waith. Wrth gymeryd golwg ar y sefyllfa wleidyddol hecldyw, eglur yw fod golygfeydd ysblenydd yn d'od i'r golwg yn y pellder ac mae rhai ohonynt yn yr ymyl. Ni buasai yr un gwr yn y deyrnas yn fwy boddlon i gael y cyfrif- oldeb o arwain y bobl i'r wild newydd hon na Syr Henry; ond ei ran ef ydoedd cael myned i Ben Nebo, a chlywed y geiriau, I'th had di y rhoddaf ef perais i ti ei weled A'th lygaid; ond nid ai di drosodd yno.' Felly, mewn geiriau byrion, dyffiniwn Syr Henry yn ei gymeriad cyhoeddus yn gyfun- iad iach, yn ieuad cymharus o Bendefigaeth a Gbveriniaeth, o gyduniad gwahanol ddos- barthiadau cymdeithas, i sicrhau chwareu teg 1 bawb, ac i wneyd pawb, hyd'y gellid, yn i bawb, ac i wneyd pawb, hyd'y gellid, yn well; ac i wneyd yr oil, heb un rhodres na ffafraeth, ond yn ysbryd cyfiawnder ac ar linellau cyfiawnder. Gyda phob priodoldeb a chywirdeb, gellii- dyweyd mai dyn i ail-fyw yn ei ddilynwyr a'i edmygwyr ydyw 1 0. B.' Ceir rhai a'u dydd oleuaf yn eu personol- iaethau a'u bywydau eu hunain. Y r oedd llawer o hyn yn Gladstone. Yr oedd ganddo ei ddilynwyr, ac yr oedd C. B.' yn un ohonynt ond yr oedd ei fawredd ynddo ei hun, ac nid yn ei Blaid. Yn y wedd hono, yr oedd Gladstone yn Geidwadwr mawr yn ogystal ag yn Rhyddfrydwr; ac yr oedd y ddau hyn yn brwydro a'u gilydd ynddo am y flaenoriaeth ami i dro. Meddai I C. B.' ar y ddawn i roi ei hun, ei ysbryd, ei egwyddor- ion, a'i neges i ereill a medrai roi ei hun nes y teimlid yn fawr wres ei gariad a synem ni fawr nad )Till yn ein lIe wrth ddyweyd i well cariad brawdol fod yn Nghynghof Syr Henry nag sydd yn niacon- iaeth ambell eglwys a hona bethan mwy a rhagorach. Mae '0. B. yn herwydd hyn, o angenrheidrwydd, i fyw yn y blaen. Fe ddywedodd am RwsÜt. 'rhe Duma is dead long live the Duma.' Dywedwn ninau— infie C. B.' wedi i, w hir bo oes'C. B.' Nid yn fynych y ceir cynifer o rai ieuaino yn Nghyfrin-gynghor y wlad ag y geir yn awr. Mae'r aelodau pen if ohonynt, ag ystyriedeu saMe swyddogol, i gyd yn gymharol ieuainc, ac am hyny maent yn ferw o afiaeth ac asbri, ac yn y rhai hyn bob amser ceir edmygiad, ac efelychiad, a ffyddlondeb. Meddylier am Harcourt, a McKenna, a Runciman, ac yn arbenig am Lloyd George a Winston Churchill. Dyma heuliau y dyfodol; maent yn anwyl. yn ogystal ag yn enwog; yn agos yn ogystal ag yn bell; yn syml yn ogystil ag yn alluog. Beth yw, a beth fydd dylauwad Syr Henry ar y rhai hyn, ac wed'yn ar wleidyddiaeth y dyfodol, ac wed'yn ar Deyrnas Dduw yn y byd? Modd by nag, aeth ef i'w fedd, a gadawodd Ryddfrydiaeth ar ol ar orsedd uwch ac yn well nag y gadawyd hi gan Gladstone ei hun, er illai digon diymgeledd ydoedd pan ym- gymerodd a'i chodi ar ei thraed. -M"

ADOLYGIAD Y WASG. I-----.----