Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
HMF'filiumMIIM-"" MARWOLAETH…
News
Cite
Share
HMF'f ilium MI M MARWOLAETH Y PARCH W. JONES, PENTRETYGWYN. Dydd lau diweddaf, Medi 2lain, ar ol hir gystudd, bu farw yr Hybarch William Jones, Pentretygwyn a CbefnartbeD, gerllaw Llanymddyfri. Bu tymbor ei weinidogaeth y Z5 yn y cyleh yn faith, canys ordeiniwyd ef yno haner can' mlynedd i eleni,o Atbrofa Neuadd- lwyd. Yr oedd bellach yn benafgwr, yn gwasgu at ei bedwar ugain oed, a deallwn iddo roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny yn 1889. Safai yn uchel iawn yn marn yr ardal, a bu ei weinidogaeth yn gryf a ffrwyth- lawa. Dysgwyliwn yr enfyn rhywun banes cyflawn o'r Angladd i'r rbifyn nesaf.
Y NEWYDDIADUR.
News
Cite
Share
Y NEWYDDIADUR. TORODD Ty y Cyffredin i fyny nos Wenev ddiweddaf hyd Tachwedd 2il. Trefn y Llyw- odraeth am y dydd cyntaf wedi ail-gyfarfyddiad y Senedd ydyw Mesur y Llywodraeth Blwyfol i'w ail ddarllen. a Mesur Cyfrifoldeb yJMeistri fel y saif yn ddiwygiedig gan y Pwyllgor Arosol i'w ystyried. DYWEDIR fod y Prifweinidog yn enill mewn iechyd yn ddyddiol, a'i fod mewn ysbryd rhag- orol iawn. Galwodd Arglwydd Rosebery i ymweled agef ynNghastell Blackcraig ddiwedd yr wythnos flaenorol, ar ei daith i Balmoral. Treulia Mr. a Mrs. Gladstone ran fawr o'u hamser yn yr awyr agored. YMA.DAWODD Syr William Harcourt a'r Brif- ddinas am Malwood, a Changhellydd Duciaeth Lancaster a'i briod am y Pyrenees, i gael ychydig seibiant ar ol gwaith caled y Senedd- dymhor sydd newydd ddyfod i ben. MEWN cyfarfod neillduol o Gymdeithasau Rhyddfrydol y Siroedd, a gynaliwyd yn Llun- dain, pasiwyd penderfyniad yn galw am ddilead Ty yr Arglwyddi fel sefydliad sydd yn rhwystr i fuddianau y Wladwriaeth. En wir prif fesurau diwygiadol y ganrif daflwyd allan gan y Ty hwn. Mabwysiadwyd penderfyniad arall yn galw ary Llywodraeth i beidio apelio at y wlad ar gais y Ty uchaf, ond myned rhagddi a'i rhaglen addaw- edig, a rhoddi cyfleusdra pellach i'r Arglwyddi daflu allan fesurau ag y mae y wlad wedi gosod ei bryd ar eu cael yn ddeddfau y tir. Yna, os bydd raid apelio at y wlad, ni ofnir y canlyn- iadau. Trech gwlad nag arglwydd. Y MAE y Prifweinidog wedi ysgrifenu llythyr at ei gefnogwyr, yn cyflwyno iddynt ddiolch- garwch gwresocaf y Llywodraeth am eupresen- oldeb a'u cefnogaeth yn ystod y Senedd-dymhor o lafur digyffelyb. Dywed nas gall ymdrech o'r fath lai na sicrhau cymeradwyaeth y wlad yn gyffredinol. Ceir y blaid Ryddfrydol yn iach ac yn galonog ar gyfer y dyfodol eto. YMDDENGYS mai Mr. Charles Morley, mab y diweddar Mr. Samuel Morley, a brawd fr. Arnold Morley, y Postfeistr Cyffredinol, yw ffafr ddyn y blaid Ryddfrydol yn Mrycheiniog fel ymgeisydd ar gyfer yr etholiad ncsaf. Y mae Mr. W. Fuller Maitland yn ymneilldu ar ol y Senedd bresenol. Bu enw Mr. T. Jones, Llwynpia, ger bron yr etholaeth fel ymgeisydd Hafur, ond ymddengys ei fod wedi ymneillduo o'r frwydr y waith hon. ER nad ydyw yn cynyddu yn fawr, ceir fod y geri marwol yn aros yn ein gwlad. Bu un farw ddiwedd yr wythnos yn Gravesend. ^eir ychydig o ddyoddefwyr eto ymaa thraw. Pery y typhoid fever yn ddrwg yn y Rhondda a lleoedd ereill. Y MAE y tywydd wedi cyfnewid—yr haf maith wedi dyfod i ben. Disgynodd eira yn Ucheldiroedd Ysgotland yr wythnos ddiweddaf. Y mao tón oei- wedi ymdaenu dros y wlad- Profodd Cynonfaidd ei hun yn teistr ay y gelfyddyd o darllen a siarad yn Nghyfarfod yr Uiideb t ynulleidfaol yn Nghendl, ac wrth arwain yr Eisteddfod Genedlaethol yn Manaor. Clywsom Charles Dickens ei hun yn darllen inioholas ISickloby,' ond ni ragorai (Idim ar y dull y dar- llonai Cynonfardd ef. Mae ei lyfr ar 'Ddarllen a Siarad y Deth goreu a g if odd Cymru erioed ar y p,vac.-Parch E. Herber Evans, D.D., yn y Dysyedydd. Pris 3s, I'w gael gan Joseph Williams, Merthyr.
COLOFN Y GWEITHIWR.
News
Cite
Share
COLOFN Y GWEITHIWR. Y mAE ton fasnachol Deheudir Cymru wedi gwella yn fawr yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Y mae y glofeydd gan amlaf wedi bod mewn llawn waith. Bywyd yn nodweddu yr holl ffordd o'r pwll glo i'r porthladd. Y mae yr anghydwelediad yn Clydach Vale wedi terfynu. Dechreuwyd gweithio y Sadtvrn diweddaf yn y pwll sydd wedi bod yn segur er Mehefin. Nis gellir ei osod mewn cyflawn waith am ychydig wythncsau. Cedwir y safon i fyny mewn enw yn ddau swllt y dunell, ond boddlona y gweith- wyr i'r cwmni gadw yn ol o'u cyflogau ddwy geiniog dan hyny. Ar y seiliau hyn yr adferwyd iechyd. Caiff dros fil o bobl waith yma. DECHRETTIR gweithio mewn adran newydd yn nglofeydd Llwnypia. Cyn pen ychydig fisoedd cyflogir canoedd lawer yno. Ceir fod rhago!- ygon canol y Rhondda felly yn ymddangos yn ddysglaer. PARHATJ yn dywyll y mae y fFurfafen tua Risca ac Abercarn. Nifer lluosog o lowyr heb eu derbyn yn ol ar ol y streic ddiweddar, a'r gweithiau Alcan a Dur yn y cymydogaethau yn segur. Y mae gweithwyr y gangen flaenaf wedi gwrthod ail-gychwyn y gwaith ar ostyng- iad. Teimlir y cyfyngder yn fawr gan lawer. Y MAE y frwydr rhwng pleidwyr y Cynghrair Prydeinig ag eiddo y Llithr-raddfa yn parhau. Cynaliwyd cyfarfod gan y blaenaf yn ddiweddar yn Ysgoldy Ton Ystrad. Anerchwyd y cyfarfod gan Mri. W. Brace, Ben Davies, a Morgan Thomas, cadeirydd cyfarfodyddy Gareg Siglo. Nid ydyw pleidwyr y Llithr-raddfa yn dawel ychwaith. Rhoddir iddynt dderbyniad brwdfrydig bellach yn mhob lie yr ymwelant ag ef, a deallwn eu bod yn golygu cynal cyfar- fodydd trwy yr boll gylch i ddadlu eu hachus, a chryfhau eu hundeb. Nis gall yr ymchwiliad swyddogol nesaf ddangos codiad cymaint ag y byddai dan am- gylchiadau ffafriol oherwydd y streic ddiweddaf. Myn rhai fod hyny yn profi y gall y meistrad- oedd chwareuy Llithr-raddfa fel yr ewyllysiont. Ond ni phrofa ddim o'r fath beth. Y mae yn hollol hysbys bellach fod 70 o bob cant o'r glo godir yn y prif lofeydd wedi ei hen gontractio, ac felly heb fod mewn ffordd i sylweddoli y prisoedd uchel diweddar. Pe gweithid yn llawn ceid 30 y cant o'r glo mewn ffordd i fanteisio ar y prisoedd uchel, a thrwy hyny godi cyfartaledd y pris sydd yn rheoli y cyflogau. Ond oherwydd y streic ddiweddar ceir fod y 30 y cant dros ben yr hen contracts wedi eu colli, a gymaint a ellir wneyd bellach, am bethamser, yw codi digon o lo i gyfateb yr ymofyniadau, Gwelir felly fod y streic wedi milwrio yn erbyn codiadau ac nid o'u plaid. Y mae yn anhraethol bwysig i'r gweithwyr adnabod eu gwir gyfeili- ion, a phwy sydd yn arweinwyr dyogel iddynt. Y MAE y frwydr fawr yn Lloegr yn parhau. Ceir arwyddion tori i fyny mewn rhai manau. Dechreuir gweithio ar yr hen amodau yn groes i benderfyniadan y Cynghrair Prydeinig mewn amryw leoedd. Condemnir y Forest of Dean yn fawr gan eu brodyr yn Lloegr, oherwydd mabwysiadu ohoDynt drefn: y Llith-raddfa i reoli cyflogau y dyfodol. Y mae gwaith y Forest wedi oryfhau breichiau yr arweinwyr Cymreig yn fawr, ac nid ydynt yn fyr o fanteisio ar hyny. Ceir fod y Fforestwyr wedi derbyn gwaeth Llithr-raddfa na'r waelaf fu mewn grym yn Nebeudir Cymru. Ceirfod y meistr- adoedd yn Lloegr wedi gwrthod cyfarfod âg- arweinwyr y gweithwyr ond ar y ddealltwriaeth fod gostyngiad yn y cyflogau i'w ystyried. Nid yw ysgrifenydd y gweithwyr yn barod i drefnu i alw cyfarfod o'r pleidiau ar y fath seiliau. Dyoddefir caledi mawr. Y mae y trysorfeydd wedi sychu i fyny, a chauir y naill waith ar ol y Hall oherwydd prinder glo. Nid oes aflonyddu pellach wedi bod ar yr heddwch, a cheir fod y milwyr yn cael eu symud o rai ardaloedd fu yn gythryblus. Tored y wawr yn fuan. Y MAE Syr George Elliot wedi cyhoeddi cyn- llun i bwrcasu glofeydd y deyrnas i gyd am gan' miliwn o bunau i'r un dwylaw. Cred efe y gwna cynllun felly bontio pob anhawsderau glofaol; ond ymddengys fod y lluaws yn barnu yn wahanoi. Condemnir y cynllun yn bur gyffredinol. Dywedir nad ydyw yn ymarferol, ac yn lie lleihau y drwg, nas gall gorfaeliaeth o'r fath lai nag ychwanegu ato yn ddirfawr. Rhaid byw tipyn eto cyn cael cynllun iawn i symud yr holl anhawsderau. CYMERODD damwain flin le yn nglofa Dol- coath, Camborne. Syrthiodd cwympiadau trymion, a chauwyd wyth o'r gweithwyr i fewn yn y lofa. Nid oes pall wedi bod ar ddewrder ac ymdrech i ddwyn gwaredigaeth iddynt. Clywyd swn rhai ohonynt yn canu mawl yn eu cyfyngder gan y rhai a weithient i'w gwaredu. Ond yn anffodus, nid oes ond un ohonynt wedi ei ddwyn ailan yn ddyogel hyd yn hyn. Ei enw ydyw Richard Davis, Troou. Nid oes fawr gobaith am un o'r lleill. Mae eu canu wedi hen ddystewi. Clywyd un arall, a adnabyddid wrth ei lais, o'r enw Osborne, yn ymddyddan. Dywedir nas medrai symud o dan y cwymp, ac na wyddai ddim am ei gymdeithion. Nid oes rhagor wedi ei glywed oddiwrtho yntau. Am nas gallesid estyn ymwared prydlon iddo, tebygol ydyw ei fod yntau bellach wedi croesi yr afon. CElR fod glofa y Dunraven yn Mlaen- Rhondda wedi sefyll-y ewmni wedi methu, a phum cant o weithwyr heb eu talu. Y mae caledi y lie yn fawr mewn canlyniad. Pobl wedi bod yn segur am amser, ac ar ol dechreu gweithio yn colli eu eyflogau. Dyna wir achos mewn teilyngdod am gymhorth sylweddol. Hyderwn y rhoddir ef yn gyffredinol.
LLANELLI.
News
Cite
Share
LLANELLI. YMWELIAD Y PARCH PICTON JONES. Talodd y cenadwr llwyddianus uchod yraweliad a'n tref ar ran y Gryrndeitbas Genadol, a chafodd dderbyniad calonog. Nos Sidwrn, anerchodd gyfarfod o bobl ieuaine yn nghapel Lloyd street. Bore Sabbath, pregethodd yn Siloa. Yn y prydnawn, anerchodd yr Ysgol Sabbath 1 yn Eglwys Seisonig y Pare; a'r nos pregethodd yny Tabernacl. Nos LUD, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel Als. Llywyddwyd gan y gweinidog. Dechreu wyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch W. Trefor Davies. Cafwyd anerchiad gan Mr W. J. Morris, aelod o eglwys y Tabernacl, a myfytiwr yn Ngholeg Cheshunt, yr h wn sydd wedi ei dderbyn gan y Gymdeithas Genadol i fyned alhn i ryw wlad dramor. Yna traddododd y Parch Picton Jones araeth ar ei waith cenadol yn Fwambo, Canolbarth Affrica, lie y mae wedi bod yn llafurio am 11 mlynedd, gyda graddau helaeth o lwyddiant. Siaradodd yn nerthol a dylanwadol iawn, a mwynhawyd ei ddarlith gan y gynulleidfa luosog a ddaethai yn nghyd o'r gwa- hanol eglwysi. Yna cynygiodd y Parch H. Elfed Lewis ein bod yn croesawu Mr Pictm Jones yn gynes i'n plitb, ac yn datgan ein llawenydd yn wyneb yr amddiffyn dwyfol fu aroo, acyn aymuno ei lwyddiant yn y dyfodol. Eiliwyd gan y Parch D. Wynne Evans, a chefnogwyd gan Dr Davies, a phasiwyd gyda brwdfrydedd. Diweddwyd drwy weddi gan Mr Picton Jone?. Cafodd yr eglwysi foddhad mawr yn ymweliad Mr Jonea. GOHEBYDD.
MERTHYR TYDFIL.
News
Cite
Share
MERTHYR TYDFIL. Y Feibl Gymdeithas—Cynaliwyd cyfarfod blyc- yddol cmgen Merthyr o'r gymdeitbas uchod prydnawn Sul diweddaf. Am 2 o'r glocb, bu y cyfarfod Cymraeg yn nghapel Pontniorlais, o dau lywyddiaeth Mr T. Williams, Y.H., Gwaelod- ygarth. Cafwyd areithiau dyddorol gan y Cad- eirydd y Parch Dr Cyaddylan Jones, y Dirprwy- wr a'r Parchn J. Jones, Bethesda, a W. Francis Jones (M-C.), Bethlehem. Agorwyd a diweddwyd y cyfarfod gan y Parchn J. M. Owen (W), a — Stephens (M C). Yr oedd y cyfarfod hwn yn llawer iawn lluosocaeh nag- y gwelwyd ef er's blynyddau lawer. Am 3 o'r glocb, yn nghapel Saesoneg Market-square, cynaliwyd y cyfarfod Saesoneg o dan lywyddiaeth Mr W. Edwards M.A., H.M.I.S a chafwyd areithiau grytnus gan y Dirprwywr, Dr Jones, Mr W. L. Daniel, a'r Parch C. Angwin (W). Gsnaed casgliadau yn y ddau gyfarfod tuag at y Fam Gymdeithas, ac etholwyd Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn ddyfodol. Yr yd yd yn sicr pe buasai yr eglwysi yn hysbys o'r ffeithiau dyddorol a roddwyd yn y cyfarfodydd am y gwaith anrhydeddus a Chrisfionogol y mae y I gymdeithas yma yn ei wneyd er gwareiddio y byd a'i ddwyn at Iesu, y byddai y gefnogaeth yn llawer iawn inwy ya y dyfodol nag a fu yn w gorpheuol. a