Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
CYNWYSIAD.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYNWYSIAD. Hysbysiadau 1,2 Nodion 3 Esbon adau Cymreig—Llythyr LInndain 4 Dyn ar ei Dreigl 5 Oddiar yr Eirig ;on Cyfarfod Chwartorol Annibyn- wyr Lleyn ac Eifionydd-Cyfundeb Qorllewinol Morganwg—Abertawe 6 Myfyrdod-Pa beth ydyw ?-ArholiadUndeb Ys- golion Rhanbarth Penybont-ar Ogwy—Llanelwy —Porthaethwy 7 Y Senedd dymbor-Adolw, 8 Y Newyddiadur-Colofn y Gweitbiwr 9 Llysoedd Trwyddedol Gogledd Cymru—Eisteddfod Chicago 10 Nodion o Lanou'r Ogwy 11 Y Wera Ryngwladwriaetbol 12 Geni, Ptiodi, Marw-Cyfaifodydd 13 Hysbysiadau 14,15,16
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.-Capel Seion, Abertawe-Undeb Tonic Solffa- Llanstephan a'r Cyleh-Llansantffraid, JHaldwyn-Llysoedd Trwyddedol Gogledd Cymru-Preswylydd y Gareg- Iorwerth-T. B. Morgan— Marwolaetbau— Cyfarfodydd, &c., &c. DALIER SYLW UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRBIG AM 1894. CYNELIR Cyfarfodydd yr Undeb uchod yn Ngbaerdydd, ar y dyddian Llnr, Mawrtb, Mer- cher a Ian, Gorphenaf 16eg, 17eg, 18fed a'r 19eg, 18934 Droa y Pwyllgor Llecl, J. R. DAVIES, 26, Clive street, Cadeirydd. THOS. HUGHES, 25, Woodville road, ) v THOS. MATHEWS, 19, Llantwit street, I 8°n- d PRIS DWY GEINIOG YN Y MIS. RHIFYN HYDREF. OENAD HEDD DAN OLYGIAETH T PARCH J. BOWEN.JONES, B.A., ABERHONDDU CYNWYSIAD. Diwedli ein Gyrfa Ddaearol, gan Taddeon. Gwroldeb Moesol, gan Mr T. Rees Richal ds, Liverpool. 0 Fan i Fan, gan Vacuus Viator. Athroniaeth Pethau Cyffredin—Rhif xlix.—Bwyd a'i Goginineth-gan y Golygydd. Cofnodion Misol Eisteddfod Pontypridd-Siam- Prifysgol i Gymrn—Newyddion Trist iawn—Eg- wyddor Bur-Tre,(Yaron-Mesur Ymreolaeth-Ty yr Arglwyddi-Deiseban Twyllodrns. Ffydd Abraham. Gwilym Walis, Gwron yr Alban, gan Mr. M. Havard. Congl yr Adroddwr: Y Wyddfa, gan Eos Bradwpn- Tawed y Callaf. Nodiadan Llenyddol. Manion. Y Golofn Farddonol: Y Nos, gan Mr. J. Davies (loan Glan Taf), Login-Croes yr (lesn, gan Pedrog-Y Boreu, gall Mr Bun. Williams, Llansamlet—Gweddi Pererin, gan E Y.W. Chwedl Ysbaenig. Y Wers Sabbathol, gan y Parch J. C. Owen, Bod- ringallt. I'w gael oddiwrth JOSEPH WILLIAMS, Swyddfa'r TYST.
Y S ENE D D-D Y MHO R-ADOLWG.
News
Cite
Share
Y S ENE D D-D Y MHO R- ADOLWG. CYFARFU y Senedd yn niwedd Ionawr, a dydd Gwener diweddaf gohiriwyd y tymhor hyd ddechreu Tachwedd, pan yr ymgymerir â rhai o'r mesurau addawedig. Unol farn y cyhoedd ydyw mai tymhor un mesur ac un dyn ydoedd y diweddaf i raddau pell. Ond nid ydoedd yn hollol felly. Cyflwynwyd amryw fesurau tra phwysig i sylw y Ty, a bu cryn siarad arnynt, er na ddarllenwyd yr un yr ail waitb. Llwyddwyd i gario rhai mesurau cymharol fychain, ond gwir angen- rheidiol, drwy y ddau Dy, a'u sicrhau yn ddeddf yn nghanol holl helyntion y tymhor. Ond Ymreolaeth biau'r tymhor. Y mesur bwnw gafodd y rhan fwyaf o'r amser a'r gwaith; ac er nad yw yn ddeddf, eto yr oedd ei gario drwy y Ty Cyffredin yn llwyddiant arutbrol o dan yr amgylchiadau. Pel y sylwodd un, y mae genym y sicrwydd mwyaf o'i lwyddiant terfynol yn y man-y ffaith ei fod wedi ei gario yn y Ty Cyffredin, a'i daflu allan yn Nhy yr Arglwyddi. Bydd cael Ymreolaeth i'r Iwerddon oddiar y ffordd yn hwylysu deddfwriaeth i ranau ereill y deyrnas yn anarferol. Y mae y Senedd er's yn agos i bymtbeg mlynedd wedi ei pharlysu i waith mawr gan y mater hwn. Safai yr Iwerddon ar Ífordd pob petb. Ar wahan i'r syniad o gyfiawnder y pwnc ynddo ei hun, yr ydym yn dadleu y bydd cael hwn oddiar y ffordd yn fantais fawr i'r boll deyrnas. Ac yn enwedig os Ilwyddir i gael Ty yr Arglwyddi i ryw fath o drefn yn ngtyn ag ef, bydd yr elw tu hwnt i'n dych- ymyg, a phwy a wyr nad felly y bydd. Er mai un mesur mawr a gariwyd yn yr holl dymhor, eto ni bu y Ty Cyffredin erioed yn gweithio yn galetach nag eleni. Y syn- dod ydyw iddo allu dal, ac nid rhyfedd fod iechyd ambell un o'r aelodau yn tori i lawr ar ol y fath lafur caled. Parhaodd yr eis- teddiad yn hvvy nag arferol, ac yr oedd natur y gwaitb, a thymher gyffrous y Ty y fath ag i wneyd y tymhor yn un o'r rhai mwyaf treulfawr i nerth ac iechyd yr aelodau a fu, ond odid, yn holl hanes y Senedd. Nid rhyfedd i'r PRTFWEINIDOG ar derfyn y tym- hor anfon gair i'w holl gefnogwyr i ddiolch iddynt am eu ffyddlondeb a'u dyfalbarhad hyd y diwedd. Hytrach yn eithriadol oedd y genadwri hon, ond yr oedd yr amgylch- iadau yn eithriadol, a dangosodd yr hen wron ei graffder diball, yn gystal a'i natur dda, drwy ddal ar y cyfleusdra yn awr i gydna- bod ei gefnogwyr am eu ffyddlondeb mewn amgylchiadau profedigaethus, ac ar draul fawr. Y mae hanes y tymhor diweddaf yn dangos yn eglur y fantais sydd o gael mwy- afrif cymharol fychan. Y mae yn wir i ddau neu dri fyned ar gyfeiliorn, a gadewir rhyngddynt hwy a'u hetholaethau, ond glynodd y blaid fel y cyfryw yn nodedig o ffyddlon, ac os dim, yr oedd yn myned yn fwy unol o hyd fel yr oedd y tymhor yn nesu i'w derfyn. Pe buasai gan y Wein- yddiaeth ddwbl y mwyafrif yn dechreu ei byd, digon posibl cyn diwedd yr eisteddiad y daethai i lawr i'r haner, ac nid dymunol fuasai hyny. Terfynodd y tymhor yn fudd- ugoliaeth fawr mewn mwy nag un ystyr i'r Weinyddiaeth. Ar ohiriad y Senedd yn gyffredin, bydd y sylwedyddion yn cymeryd adolwg ar y tymhor, gan edrych pwy fydd wedi gosod ei nod yn benaf arno, a phwy sydd wedi dyfod yn mlaen, a phwy aeth yn ol yn ysbaid ei barhad. Nid oes petrusder am eleni. Y mae yr holl feirniaid yn bur unol eu barn am y gwahanol ymgeiswyr, er nad yw yr oil ohonynt yn foddlon i'w barn fyned i'r cy- hoedd. Arwr y tymhor hwn yw y Prif- weinidog. Ei dymhor ef ydoedd yn mhob ystyr. Efe sydd wedi gwneyd yr enw mwyaf iddo ei hun. Hwyrach y dywedir mai diangenrhaid hollol ydoedd hyny ond diangenrhaid neu beidio, dyna y ffaitb. Yn ngwyneb ei oed a holl anhawsderau y sef- yllfa, nid yw ei lwyddiant yn fawr llai na gwyrth. Ymddengys fel yn myned yn ieuengach, tra y mae ereill yn heneiddio yn gyflym mewn mwy nag un ystyr o'i gwmpas. Yr oedd ei adnoddau amrywiol i gyfarfod a boll ystryw gwrtbblaid na bu erioed ei ddianrbydeddusach a mwy diegwyddor-ei dymher dda yn wastadol, a'i areithiau dihafal yn swyno a synu pawb yn ddiwahaniaeth, ac yn peri i'r gelyn yn gystal a'r cyfaill i ddywedyd, 0 frenin bydd fyw bvtb Llwyddodd JOHN MORLEY i feddianu tir newydd yn rhinwedd ei fedrusrwydd mewn swydd sydd wedi bod yn fedd i enwog- rwydd mwy nag un gwladweinydd a dal- iodd HARCOURT ei dir, os nad, yn wir, y llwyddodd i ychwanegu ato drwy ddeheu- rwydd ei arweiniad, ar derfyn y tymbor pan oedd yr hen arwoinydd wedi ymneillduo i'r Ysgotland i gael ychydig seibiant ar ol ei lafur caled. Cychwynodd ASQUITH yn nod- edig o addawol, ond amheua rhai a aeth ei oleuni yn fwy-lwy byd ganol dydd. Y mae mewn swydd gynil; ond nid ei swydd yn gymaint a rbywbeth anmhenodol o'i gylch yn y Ty sydd yn milwrio fwyaf yn erbyn ei lwyddiant. Yn yr Wrtbblaid, a chymeryd i fewn ei dwy adran, BALFOURo ddigon sydd wedi ym- godi fwyaf mewn ffafr gan yi holl Dy. Er iddo, fel arweinydd, gymeryd rhan mewn rhwystro gwaith, a chefnogi cynlluniau gwaradwyddus, eto, bernid mai o dan fath o orfodaeth y gwnaeth hyny, ac nad oedd ei galon yn y gwaith. Bu yn absenol droion pan oedd pethau felly yn myned yn mlaen a diau fod ei natur dda yn eondemnio yr hyn a wnaed. Daetb ei natur dda yn fwy i'r golwg o lawer eleni na phan yn Ysgrif- enydd yr Iwerddon. Yr oedd ei gysylltiad agos a boll felldith Castell Dublin, a'r ang- enrhaid a osodwyd arno i weinyddu Deddf Gorthrech, yn tynu allan ochr greulon ei natur, a thybiodd llawer ei fod yn gwbl am- ddifad o galon. Ymddangosai yn ddyn callous iawn. Ond fel arweinydd yr Wrth- blaid eleni, ymddadblygodd i gyfeiriad arall, a tbeimlwyd gryui boneddigeiddrwydd ei natur. Aeth CHURCHILL druan, i'r dim yn fuan, ac y mae yn amheus a glywir llawer o son am dano eto eleni. Dywedir mai prif golledwr y tymhor yw CHAMBERLAIN. Er pob parodrwydd i gydnabod ei fedrusrwydd dihafal fel dadleuydd yn y Ty, eto, nis gellir ysgoi y casgliad ei fod ar derfyn y tymhor yn is o lawer nag ar ei ddechren. Y mae amrywiol betbau yn cyfrif am hyn. Yn gyntaf ei ymosodiad bustlaidd a chyson ar Mr GLADSTONE. Y mae amrywiaetb barn yn nghylch doethineb Mr GLADSTONE yn ngtyn ag Ymreolaetb, ond nis gellir ymosod ar ddyn o'i oed, ei wasanaeth, a'i allu eithr- iadol ef, ac yn enwedig os gwneir hyny mewn ysbryd dial, heb gyffroi cydwybod y cyhoedd i gondemnio yr euog yn ddidrugaredd. Yn ail, ei ysbryd proffwydoliaethol, yr hwn sydd bob amser mor dwyllodrus. Oni fynegodd lawer gwaith yn bendant iawn na ddaliai y Weinyddiaeth fawr dyddiau cyn myned yn yfflon ? A pban fethodd y bro- ffwydoliaeth hono, anturiodd un arall lawn mor byderus-na ddaliai byth orucbwyliaeth Pwyllgor ar Fesur Ymreolaeth. Nis gall proffwyd a fydd byw yn ddigon hir i sylwedd- oli nad yw ei eiriau yn dyfod i ben lai na myned i lawr gyda chyflymder aruthrol. Yn drydydd, ei fetbiant fel arweinydd. Pa arweinydd medrus a gyhoedda yn mlaen ei gynlluniau i orchfygu ei wrtbwynebydd, fel y gwnaetb Mr CHAMBERLAIN ? Onid yw yn debyg i fel pe byddai lleidr yn anfon at berchenog ty i'w hysbysu pa awr o'r nos, a pha ffenestr a fwriada agor i ddyfod i'w d?
Hysbysiadau.
News
Cite
Share
Hysbysiadau. Heb fod dros dair llinell, Is. y tro; am bob llinel ychivanegol,3c. Ond ymddengys Hysbysiadan am yspaid o amser am brisiau ltawer ts.