Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

MYFYRDOD—PA BETH YDYW?I

News
Cite
Share

MYFYRDOD—PA BETH YDYW? Mae myfyrio i'w wahaniaethu yn ofalus oddi- wrth astudio neu efrydu, er ei fod yn cael ei gymysgu neu ei gamgymeryd am dano yn fynych, a chymerir achlysur oddiwrth hyn i yiflesgusodi rhag ceisio ei gyflawni. Gwaith yr athronydd, y beirniad, a'r duwinydd yw astudio, eithr ymarferiad y Cristion yw myfyrio. Chwilio allan pa beth sydd wirionedd, eyf. oethogi y deall, y mae efrydu; eithr y mae myfyrio yn cymeryd gwirionedd peth yn ganiataol, yn aros ar yr hyn a wyddys, gan fwrw golwg arno i ddyben mwy ymarferol, i ddyfod i'w deimlo, a'i roi mewn gweithrediad. Yn y naill y pen sydd ar waith i chwanegu gwybodaeth; eithr dyben arall sydd i'r Hall, sef chwanegu profiad-rhoddi gafael a gallu cryfach i'r gwirionedd arnom. Nid cyrhaedd gwybodaeth dealltwriaethol yr ydys trwy fyfyrio, ond gwybodaeth brofiadol; nid dod- refnu y meddwl gymaint ag effeithio ar y galon a'i hymgeleddu; cyffroi ac enyn y serchiadau, a'u hysbrydoli; dylanwadu ar y cymeriad a'r ymddygiad er daioni. Nid chwilio i mewn i bethau, a manylu ar yr hyn y gwahaniaethant ynddynt, ond ymaflyd yn yr hyn wyddys yn dda, a'i ddwyn i weithio ar y teimladau nid ymresymu i gael allan y gwirionedd, ond dwyn ein hunain dan ddylanwad y gwirionedd i gael profi ei rinwedd achubol. Nid goleuo y pen trwy gael golygiadau eglurach am y gwirionedd, neu olrhain cysylltiadau yr athrawiaeth fel cyf- undraeth sydd mewn golwg, ond cynyrchu teimlad duwiol a mwynhad ysbrydol, cynyddu y bywyd Dwyfol, cryfhau y galon a gras,' a gwneyd iawn-ddefnydd o'r gwirionedd. Oddiar hyn, mae'n amlwg nad y gair iawn am bregeth- wyr ieuainc yn yr athrofa yw yr un ddefnyddir yn fynych i'w dynodi—myfyrwyr. Yr enw iawn, mae'n ddiau, yw efrydwyr. Deallai y sawl gyfieithodd Todd's Student's Manual' beth ydoedd yn ei gylch, gan ei roddi yn 'Hyff'orddwr yr Efrydydd,' yn well na'r sawl gyfieithodd 'Llawlyfr Angus i'r Beibl,' yr hwn ddefnyddia myfyrio o hyd am efrydu. Y mae yn ddyledswydd orphwysedig ar bawb yn ngwlad Efengyl i astudio Gair Duw—yr hyn a olygir wrth ehwilio yr Ysgrythyrau— dodi y meddwl ar waith i gael allan yr hyn a ddysgant. Mae efrydiaeth hollol ymarfcrol a defosiynol o'r Beibl o angenrheidrwydd yn an. mherffaith,fel y mae efrydiaeth ddealltwriaethol yn unig yn syrthio yn fyr o'i iawn a'i lawn ddefnyddio. Mae y Beibl y fath lyfr fel y gallo y neb a redo ei ddarllen gyda budd; ond gan ei fod mor Ddwyfol, y mae yn wythien mor fawr i ddynion ac i angylion dreiddio i mewn iddo, ac fe ddyry ei drysorau penaf i'r rhai a gloddiant ddyfnaf gydag offer priodol, medrus. Po oreu y deallir y Beibl, mwyaf i gyd fydd o wasan- aeth i grefydd egwyddorol ac ymarferol; po helaethaf a manylaf ein gwybodaeth ohono, mwyaf i gyd a gawn o les trwyddo. Ni ddylid esgusodi neb yn rhwydd nac yn ysgafn rhag ymroddi ei oreu i hyn ond efallai nas gellir dysgwyl eto i bob un, nas gall pob un sydd yn dduwiol ei wiie 7 d. Nid oes ganddynt yr ham- dden angenrheidiol i wneyd nemawr o hyn, ac nid ydynt wedi cael y ddysgyblaeth angen- rheidiol i'w tori i fewn a'u parotoi iddo ar yr adeg iawn yn moreu eu hoes. Nid oedd addysg elfenol yn eu cyrhaedd, heb son am unrhyw ddysgyblaeth feddyliol amgenach. Mae ambell un i'vv gael nas gall wneyd llawer hyd yn nod o esboniad beirniadol. Gwastraff ar arian fyddai iddynt eu prynu. Ni thai dodi arnynt yn rhy gaeth a chaled i'w ddarllen a'i feistroli, pa mor fuddiol bynag fyddai hyny. Ond y mae myfyrio o fewn cyrhaedd gallu pob un. Gall pob dyn duwiol wneyd hyn, a rhaid ei wneyd i fod yn gadwedig. Mae y gweith- rediad tawel hwn o eiddo y meddwl, meddir, yn ei ffurf uchaf yn perthyn i'r meddwl Asiaidd, ae wedi cael ei impio ar y meddwl Ewropeaidd gan yr Efengyl a'r Ysgrythyrau. Y mae yn briodol i'r Dwyrain fel perarcglau Arabia, neu berlysiau India; eithr y fath yw ei berthynas a chrefydd yr Efengyl fel y mae yn peri i bob Cristion ffurfio yr arferiad a'i meithrin i ryw raddau, ac y mae wedi newid anianawd y meddwl Gorllewinol fel ag i'w ddwyn i ymgy- meryd ag ef,.ac i'r graddau y mae yn gyrhaedd- adwy i bob un, y mae yn disgyn arno, ac yn llwyr ofynol mewn trefn i fyw yn dduwiol. Mae y gair a gyfieithir yn 'fyfyrio yn y Beibl yn arwyddocau yn briodol siarad neu ymddyddan a. ni ein hunain-dyweyd wrthym ein hunain-dal o fiaen ein meddwl. Aralleirir ei ystyr yn rhagorol yn y geiriau, Ymddy- ddenwch a'ch calon.' Saif myfyrio ar dir cano rhwng darllen, a gwrando, ac errydu, ac i'w wahaniaethu oddiwrth y naill a'r llall. Gofyna fwy o ymdrech meddwl na darllen, a llai nag efrydu. Y mae hefyd i'w wahaniaethu oddi- wrth ddarllen -yn dodi y meddwl i aros ar yr 'hyn ddarllenir; ac y mae i'w chwanegu at ddarllen y Beibl neu wrando yr Efengyl mewn trefn i gyfranogi o'r llesad. Ni fydd hyd yn nod yr ymarferiadau hyn yn fuddiol, 0 leiaf, mor fuddiol ag y dylent fod, heb iddynt gael eu dilyn gan fyfyrdod. Gwasanaethant hwy i ddwyn defnyddiau i'r meddwl gael cyfleu arnynt trwy fyfyrdod. Mae llaw fawr gan y cof mewa myfyrio, fel y mae tebygolrwydd gwreiddyn y gair am gof yn y Saesoneg, viemory-memor, myfyr. Er hyny, y mae ynddo fwy na gwaith cof yn unig-y cof sydd yn eyflwyno y defnydd- iau i'r myfyrdod. Trwy fyfyrdod yr ydys yn ienoil y cil' ar ryw feddwl. Gobeithio y eyfrana hyn rywfaint i allu gwahaniaethu rhwng pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt.

ARHOLIAD

LLANELWY.

PORTHAETHWY,

Advertising