Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

LLAWENYCHA lluosog edmygwyr Watcyn Wyn wrtb glywed am ei fuddugoliueth ardderehog yn Chicago. Enillodd ar bryddest y Goron. Y testyn oedd George Washington.' Yr oedd y wobr yn ddau can' dolaiyi'rGoron yn werth tuaXl5 o'n harian ni. Yr oedd y gystadleuaeth yn agored i'r byd. Dyma wobr fwyaf oes y bardd hyd yn hyn. Enillodd lawer o bryd i bryd, a'r gwobrau uchaf hefyd. Y mae wedi enill Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a llawer gwobr arall ar ei llwyfan. Y mae ganddo nifer o gadeiriau yn addurno ystafell- oedd y Gwynryn-- ei gartref clyd a phryd- fertb. Llongyfarchwn ef yn galonog ar y fuddugoliaeth hon. Dywed ef ei hunan mewn nodyn i'r wasg fod y cvfansoddiad hwn yn 2,500 o linellau, ac wedi ei ranu i ddeu- ddeg cauiad. Cwyua fod y ddeufis o gystudd a gafodd y g-auaf diweddaf wedi profi yn gryn auhiwsder iddo pan yn ysgrifenu. Y mae bywyd Watcyn Wyn yn addurn i'w genedl. ilir y parhao i wasauaethu ei Enwad a'i geoedl yn y cylch pwysig a leinw. YN mysg y rhai a yraddangosasant ger bron y Ddirprwyaeth Amaethyddol i roddi eu tvstiolaethau, ceir enw Mr William Hum- phreys, Abertrin, sir Gaernarfon. Y mae efe yn bur adnabyddus oddiar yr etboliad diweddaf. Bu yn ymgeisydd Undebol y pryd hwnw am y sedd a ddelir gan Mr Bryn Z, Roberts. Fel y dysgwylid, ychvdig oedd nifer y pleidleisiau a roddwyd iddo, a phar- odd hyny iddo chwerwi yn aruthr. Oddiar hyny, y mae wedi bod yn ceisio, drwy y wasg, gyf' if am y gurfa a gafodd, ar bob tir ond yr un cywir. Priodolai ei orcbfygiad yn benaf i scriw y pwlpud a'r sedd fawr,' chwedl yntau. Maddeuid iddo ar y pryd lawer o'r chwerwder a ddangosai yn ei etthyglau, ar y tir fod yn naturiol iddo wneyd y goreu a allai o achos mor dlawd ond y mae braidd yn ormod i Ym- ueillduwyr gonest Eifion ei glywed yn meiddio dyweyd peth mor ddisail ger bron y boneddigion a gyfansoddant y Ddirprwy- aetb, ac felly roddi iddo gyhoeddusrwvdd Gwasg yr holl deyrnas. Ohwerthin am ei ben, wrth gwrs, wnai ei gymydogiou Ym- neillduol a wyddeut well, ac nid oes berygl y dylanwada o gwbl ar feddwl y Ddirprwy- aeth; ond diau y inolir ef gan y Wasg Eglwysig a Thoriaidd am wneyd ilyn, ac yntau yn Ymneillduwr proffesedig. YN mysg y mesurau a aberthwyd ar derfyn y Senedd-dymbor yr oedd y Mesur Ataliol, a basiodd y darlleniad cyntaf gyda'r fath fwyafrif tua'r dechreu. Rboddwyd y tymhor i fyny mor llwyr i Fesur Ymreolaeth fel na cbafwyd cyfle i gario ein mesur ni yn mhellach yn mlaen na'r darlleniad cyntaf. Diau pe y rhoddesid cyfle i'w wthio yn mlaen y cawsai ddigon o fwyafrif i'w gario drwy yr ail a'r trydydd darlleniad yn fuddugoliaeth- us. Ni chlywsom fod llai o Ddadgysylltwyr yn y Ty ar ddiwedd nag ar ddeehreu y Ssnedd-dymhor. Gwnaed twrw mawr, mae'n wir, yn y cyfamser, ond ni ddeallasom ei fod wedi newid argyhoeddiad neb ar y cwestiwn. Erys barn y Ty ar y pwnc yr un ag ydoedd ar ddeehreu y tymhor. Boddlon iawn yw pawb i weled y Mesur Ataliol yn myned, gan fod genym bob siil i gredu y dygir i fewn yn ei le yn y Senedd-dymhor nesaf fesur llawn o Ddadgysylltiad. Purion fyddai i esgobion beidio eamarwain Eghvys- wyr yn Nghymru na Lloegr fod y cwestiwn wedi darfod gyda diddymiad y raesur bychan yna. Pan y gwnaut hyny, gwyddant eu bod yn euog o gamarvvain yn fwriadol, ohIegiJ nis gall fod amhenaeth na raid rhoi rban o'r Senedd-dymhor nesaf i'r mater hwn. *< # PASIODD Pwyllgor Cangen Lool Llun- dain o'r United Kingdom Alliance beuderfyniad cryf yn ddiweddar, ag sydd wedi tynu cryn sylw. Y mae a fyno a'r safle wleidyddol yn bresenol, ac a'r rbag- olygon yn y Senedd-dymhor uesaf. Teimla swyddogion yr Alliance braidd yn chwerw na buasai Mesur Llywodraeth Leol yn cael lie yn y Senedd-dymhor Hydrefol, neu ynte fod lie amlwg yn cael ei addaw iddo yn Senedd- dymhor 1894. Hawliant mai eu cwestiwn hwynt yw y pwysicaf o'r oil sydd yn rhaglen bresenol y Blaid Ryddfrydig. Dadleuant yn mbellach fod ei egwyddor wedi ei mab- wysiadu a'i chadarnhau gan y Ty amryw weithiau drwy fwyafrifau mawrion. Ar y tir yma, pasiodd y pwyllgor crybwylledig ben- derfyniad yn mynegi, os na roir y He blaenaf i'r cwestiwn yn Senedd-dymhor 1894, y bydd raid i bleidwyr dirwest yn y Ty ystyried y priodoldeb o gymeryd eu llwybr eu hunain argwestiyuau ereiil. Condomniodd Newydd- iadur Rhyddfrydol Dvddiol y Deheudir y penderfyniad mewn iaith gref. Tybiem ar y pryd y buasai yn well iddo beidio dyweyd rhai pethau fel y dywedai hwynt. Erbyn hyn, y mae y Parch Morris Morgan wedi cydio yn y gwaith o amddifiyn y pender- fyniad, a thebyg y ceir dadl go adeiladol cyn y gorphenir. PERY y dyddordeb a deimlir yn eistedd- iadau y Ddirprwyaeth Amaethyddol. Llenwir yr adeiladau lie y cynelir hwynt, a gvvvlir pob brawddeg a ddywedir gan y gwyddfodolion. Tystiolaethayr amaethwyr, agos yn ddieithriad, a'r rhai sydd wedi arfer cydymdeimlo a, hwynt yn mhob cynyg am welliantau hefyd yr un fath, fod mawr angen diwygio y deddfau tirol mewn llawer o bwyntiau, a chymeradwyant yr un petbau a.gos i gyd. O'r ochr arall, ymdrecha y tir- feddianwyr, eu goruchwvlwyr, ac ambell fodyn gwasaidd sydd yn ormodol dan eu dylanwad, ddangos fod pethau fel y maent mewn sefyllfa bur foddbaus. Nis gallwn lai na meddwl fod y dosbarth olaf yn gwneyd pob peth yn eu gallu i ddirymu y dystiolaeth a roddir gan y tirddalwyr a'u cyfeillion. Yn wahanol i dirfeddianwyr y Deheudir, y mae eiddo y Gogledd yn bresenol mewn niferi mawrion o ddydd i ddydd, a llawer ohonynt yn rboddi tystiolaeth o flaen y Ddirprwyaeth. Djallant fod hon yn adeg bwysig iddynt, a gwuant eu goreu i ddangos yn arbenig nad ydynt wedi arfer gwneyd gwabaniaeth rhwng deiliadon oblegid credo wleidyddol na chrefyddol. Ond y mae y ffeithiplu a adrodd- wyd eisoes yn y llys ar y mater yma y fath nas gallant byth eu troi yn ol. RHYFEDD y dalent sydd gan ambell swyddog i wrthwynebu ewyllys y werin. Caed engraiSt eto unwaith o hyn yn ym- ddygiad Ynad Cyflogedig Caerdydd yn y Llys Trwyddedol yr wytbnos ddiweddaf. Yn uihlith oreill a wrthwynebent drwydded i dy newydd mewn rhan o'r dief, yr oedd dirwestwyr Oaerdydd. Gvvnaethant wrth- dystiad cryf, a chyflogasant un i edrych fod eu gwrthdystiad yn cael chwareu teg. Ar eu gwaetbaf hwy ac ereiil, caniatawyd y drwydded, a gosododd yr Ynad ar y dirwest- wyr i dalu deg puct tuag at gostau yr ochr arall! Gwrthdystiwyd yn gryf yn erbyll hyny, ond ni syflai yr Ynad. Beth feddylia. diwygwyr cymdeithasol ein gwlad am beth fel hyn ? Ai nid digon yw i iti dreulio ein hamser a'n heiddo i dreio symud trueui cymdeithas ein pobl, heb hefyd orfod talil costau y rhai a geisiant ei barhau er mwyn elw personol iddynt eu hunain ? Ai nid oea gan beth fel hyn duedd uniongyrchol i ddi- galoni pawb sydd yn treio ymladd o blaid purdeb cymdeithasol yn mhob gwedd arno. Da genym ddeaU fod ymddygiad yr Ynad yma yn debyg o godi ystorm. Dylai wneyd hyny, a dylai pob un y mae egwyddorion sobrwydd yn anwyl iddo gyduno i'w gwueyd yn ystorm mor fawr ag y byddo modd.

Y FORD GRON.