Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

MARWOLAETH Y PARCH W. JANSEN…

News
Cite
Share

MARWOLAETH Y PARCH W. JANSEN DAVIES, DAETH y newydd am farwolaeth Mr Jansen Davies fel taranfollt i'r wlad, a chwith iawn gan ei lu cyfeillion ydyw meddwl na chant weled ei wyneb ef yma mwy. Bu farw yn sydyn iawn nos Lun cyn y Nadolig. Arferai ef yn flynyddol ar nos cyn y Nadolig gyd- > synio a gwahoddiad caredig un o'i ddiacon- j iaid i giniawa gyda'r teulu. ac felly y j gwnaeth eleni. Eisteddai wrth y bwrdd yn ymyl ei ferch gan ymddangos fel arferol, ond ar darawiad amrant gwelwyd cyfnewidiad yn ei wedd, a bu farw yn y fan. Yr oedd syd ynrwydd yr amgylchiad yn frawychus. Yr oedd ei iechyd wedi rhoddi ffordd er's dwy neu dair blynedd. Bu am fordaith, gan obeithio cael adferiad drwy byny. Ond ar ol dychwelwyd, er ei fod ar brydiau yn ymddangos dipyn yn well, eto graddol waethyyu yr oedd, a bu yn rhaid iddo ymddeol yn llwyr o'i ofal eglwysig. Ganwyd Mr Davies mewn amaethdy yn mhlwyf Llangyndeyrn, sir Gaerfyrddin, Gorphenbaf 15fed, 1844 ond tra yn ieuanc iawn, aeth i Aberdar. Derbyniwyd ef yn aelod yn Siloa, ac yno yn un o gryn nifer tua'r un amser, y dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu, ac ar derfyn ei dymhor yno yn 1866, urddwyd ef yn Salem, Bow- street, ger Aberystwyth, Gorphenhaf 4ydd a'r 5ed y flwyddyn bono.. Yn ysbaid ei weinidogaeth yn Salem, codwyd capel a sefydlwyd eglwys yn Cwmerfin. Tua dwy flynedd y bu Mr Davies yn y cylch hwn, ond gwnaeth waith mawr yno, ac yr oedd ei boblogrwydd fel pregethwr yn cynyddu yn gyson yn yr ardal, ac yn yr holl wlad. Mawr oedd siomedigaeth cylch ei weinid- ogaeth pan gollwyd ei wasanaeth gwerth- fawr o'r lie. Yn I808, cafodd alwad unfrydol o Salem, Llanymddyfri, a symudodd yno. Yr oedd hwn yn gylch hollol wahanol i faes cyntaf ei lafur, ac o bosibl yn fwy cyfaddas i'w anian a'i chwaeth. Yr oedd erbyn hyn yn dyfod yn fwy adnabyddus fel pregethwr rhagorol yn y ddwy iaitb, ac yn llawn mor bylithr yn y naill a'r llall. Yn Llan- ymddyfri y cafodd wraig—Miss Hughes, yr bon a hanai o un o deuluoedd parchusaf y dref, a'r hon a gladdwyd amryw flynydd- oedd yn ol. Tra yn Llanymddyfri, ymgodai fwy-fwy fel pregethwr, ac amlwg oedd na ellid ei gadw yn hir yno. Er ei fod yn Gymro i'r cam, eto llwyddodd y Saeson i'w ddenu i'r maes hwnw, ac yn Ionawr, 1871, decbreuodd ar ei weinidogaeth yn y Taber- nacl, Casnewydd. Yma drachefu bu yn Uwyddianus iawn. Tynai dyrfaoedd mawr- ion i'w wrando hyd na anent yn y Taber- nacl, ac ychwanegwyd cryn nifer at rifedi yr eglwys. Ar ol bod yn Casnewydd tua saith mlynedd, er mawr siomedigaeth i'r eglwys ar gynulleidfa yn y Tabernacl, cyd- syniodd a galwad a dderbyniasai o Provi- dence-place, Cleckheaton, swydd York, a symudodd yno yn 1878, ac yno y treuliodd y gweddill o'i oes mewn parch a llwyddiant mawr. Nid yn unig yn ei eglwys ei bun yr oedd efe yn gymeradwy, eithr yn holl eglwysi y sir. Diangenrhaid yw manylu ar ei boblogrwydd yn Nghymru, yn enwedig yn yr eglwysi Saesoneg. Gelwid am ei wasanaeth i bregethu yn eu huchel-wyliau yn feunyddiol, ac fel darlithiwr nid oedd odid neb o'i fiaen. Yr oedd yn siaradwr liithrig ac effeithiol, a'i bregethau yn goeth- edig, ac eto yn ddigon syml i'r bobl gyff- redin. Oadwodd y pathos Cymreig, ac nid ymwadodd yn hollol & thonyddiaeth Gym- reig, yr hon i'r4Sais sydd yn dra swynol, pan y gellir ei chael heb fod yn wrthun a chwerthinus, ac yr oedd Mr Jansen Davies yn ei medru yn berffaith. Fel y crybwyll- wyd eisoes, yr oedd yn Gymro trwyadl. Hoffai ei genedl a'i wlad, a mynych y deuai i Gyfarfodydd yr Undeb flynyddoedd yn ol. Gyda Haw, onid efe oedd tad yr Undeb ? Os nad ydym yn camgofio, efe pan yn Llan- ymddyfri a ysgrifenodd gyntaf i'r Wasg i awgrymu y dymundeb o'i gael, ac ar ol byny cymerwyd y mater i fyny gan bersonau ereill, ac yna gan Gyfundeb Maldwyn. Un cyflym iawn oedd Mr Davies-cyflyrn i weled, cyflym i wneyd-cyflym i bob peth. Gallai wneyd gwaith mawr mewn amser byr. Yr oedd yn gyfaill eywir, a chwmni dyddan dros ben. Hoffid ef gan bawb. Daeth ton o hiraeth drosom pan gawsom y newydd am ei farwolaeth, er gwybod ei fod yn wael er's blynyddoedd. Gadawodd nifer o blant yn amddifad o dad a mam ond y mae Un a ofala am danynt, a gwir ddymun- iad ein calon ydyw iddynt hwy ymddiried ynddo a chysegru eu hunain yn llwyr i'w wasanaeth Ef, Cymerodd y gladdedigaeth le yn Nghladdfa Cleckheaton, prydnawn dydd lau. Yr oedd yn bresenol gynrychiolaeth o bob enwad, yn nghydag aelodau o Gyf- rinfa y Seiri Rhyddion. Cynaliwyd gwas- anaeth yn y ty gan y Parch A. Craven, Wyke, yn y capel gan y Parch Thomas Nicholson, ac ar Ian y bedd gan y Parch George Slack, a cbladdwyd ef yn nghanol arwyddion digamsyniol o alar a chariad cynes y canoedd oedd yn bresenol.

MARWOLAETH JANSEN.

Y RHYFEL.

GWLEIDYDDOL.

GWEITHFAOL.

CHINA.

YR YSTORM.

[No title]