Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

ROUND AND ABOUT TOWYN.

LLINELLAU COFFADWRIAETHOL

" HEB LE I RODDI EI BEN I…

News
Cite
Share

HEB LE I RODDI EI BEN I LAWR." Mae gan adar cain y nefoedd, Le i ffoi rhag llidiog lu, Yntau'r asyn yn yr anial Edwyn ei orweddle gu Ond gan Iesu ni bu unwaith, Gartref clyd dros funud awr, Na fe deithiodd daith yr anial, Heb un lie roi ben i lawr. Ond yn dawel fe gyrhaeddodd Dawel hafan Ty ei Dad, Glaniodd yno er tymhestloedd Garw oer yr anial wlad Trwy bob 'storom gwelai'n eglur, Foreu teg-hyfrydawl awr- Y gwaredai'r byd wrthodai Iddo le roi ben i lawr. 'Rol pob 'storom codai olwg, Yn obeithiol tua'r nen, I fwynhau pelydrau dwyfol, Gydymdeimlad nefoedd wen; Llawenhau yr oedd wrth gaufod, Sylweddoli trefn mor fawr, Prvnll sorod a wrthododd Iddo le roi ben i lawr. Pwy all sylweddoli'r cariad, Lanwai fyd a nefol hedd, Planu egin dwyfol fywvd, Yn ngwaelodion isaf bedd; Trefn u ffordd dros fryn Calfaria, A'i waed yn llifo hyd y llawr, Llifo dros ddynoliaeth dd'wedai Na chai le roi ben i lawr. Paid ag ofni enaid esrwan, Teithio'r anial Hawn o frad, Os vw'r llwybr cul yn arw, Dwg ni draw i dy ein Tad Hyd y llwybr cul dilynaf 01 ei draed trwy'r cystudd mawr, I gadarn noddfa'r Gwr fu'n dioddef, Heb nn lie roi ben i lawr. Rhoed ei glod yn ngenau'r daran, I'w ddadseinio o for i for, Gwibied mellt i adrodd hanes Bendigedig- gariad lor; Gwadu'i freini iwl balas nefawl, Am ofidiau gwael y llawr, Achub byd wrtbododd iddo Le i roddi ben i lawr. Bryneglwys. LLAERON.

CYFARFOD CYSTADLEUOL DIRWESTOL…

THE BEVERAGE OF THE PEOPLE.

CORRESPONDENCE.

TOWYN: WHERE IT IS AND WHAT…