Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

COFADAIL TOM ELLIsT

YR ARWR TOM ELLIS.

[No title]

News
Cite
Share

Y mae y dadorchuddiad drosodd, a mil- oedd o Gymry gwladgarol wedi talu un deyrn- ged ychwanegol o barch i goffadwriaeth ben- digedig un o feibion goreu y wlad. Golygfa brydferth gweled y miloedd yn dylifo i'r Bala fore Mercher. Daethant yma o bob cwr i'r wlad-nid er mwyn cywreinrwydd diangen- rhaid, nid er mwyn treulio diwrnod yn y Bala, na chwaith er mwyn segurdod oddiwrth lafur a gorchwylion y dydd. Na, daethant yma gyda6 amcan neiilduol, un amcan mawr a theilwng-i dalu teyrnged o barch i Tom Ellis, er wedi gwneyd hyny ar amgylchiadau blaenorol, ar ddydd dadorchuddio ei gofadail Hawdd iawn gwybod y gwahaniaeth ar hyd yn nod tyrfa o bedair neu bum' mil o bobl rhwng cywreinrwydd segur ac amcan neilldu- ol. Felly y profodd yn y Bala ddydd Mer- cher. Dyn mawr yn cael ei anrhydeddu a thyrfa fawr yn cynorthwyo. Y mae cymaint, ond nid gormod, wedi ei ddyweyd er adeg claddu Tom Ellis am ei dalentau, ei ddoniau, ei weithgarwch, ei weithrediadau, a'i boblog rwydd fel nad oes angen ymbelaethu heddyw Digoa yw dyweyd ei fod wedi eij ddyrchafu yn un o brif wyr y deyrnas. O'r ffermdy i'r Senedd, ac o'r Senedd i'r bedd yn ddeugain oed! Mor gynar! Marw yn nghano! ei ddetnyddioldeb, a Chymru yn gwaeddi am dano. Rhy hwyr. Gweithiodd, do, gor- weithiodd, nes pallodd ei nerth. Aberthodd ei fywyd dros ei wlad. Ai gormod codi cof- adail iddo am hyn ? Na, os bu cofadail ryw- dro yn rhywle yn deilwng o gael ei chodi i ddangos parch at un a weithiodd hyd angeu dros iawnderau y genedl a'i cododd, yn sicr y mae y gofadail hon ar brif heol y Bala yn deilwng o Thomas Edward Ellis. Fel y gweithiodd, onide, dros Gymru? Gwelodd Gladstone y dyn yn Thomas Ellis, a rhodd- odd anrhydedd uchel arno. Gwelodd enwog- ion eraill ei allu, ond waeth heb ddyweyd rhagor. Y mae Cymru a Lloegr yn gwybod am dano, ac er fod y gofadail hon yn deil- wng iawn o hono y mae y coffadwriaeth goreu am dano yn nghalonau y bobl y gweithiodd efe drostynt. Yr oedd presenoldeb enwogion cenedlaeth- ol fel Mr. John Morley, Mr. Lloyd George, Mr Ellis J. Griffith, Mr George Kenyon, ac eraill, yn arwydd ragorol nad dyn cyffredin hyd yn nod o Seneddwr ydoedd Tom Ellis. Disgynodd y gorchwyl o ddadorchuddio y gofadail i ran Mr John Morley—gwr enwog, teilwng i gyflawni gorchwyl mor bwysig. Ni fu yn y Bala erioed o'r blaen y fath frwdfryd- edd. Cafodd Mr Morley a Mr Lloyd George dderbyniad na fuasai raid i un aelod o deulu Brenhinol gywilyddio o hono. Y maent wedi arfer bellach a derbyniadau brwdfrydig, ond yr cedd y derbyniad heddyw yn wahanot i bob un o'r cynhesrwydd ddangosir mewn cyf- arfod politicaidd. Gan i'r gwynt, ddydd Mawrth, ddymchwelyd y babell helaeth god- wyd ar gyfer yr amgylchiad, gorfu i'r pwyllgor newid cryn lawer ar eu trefniadau, ond aeth pobpeth drosodd yn hwylus, diolch lawer i ysgrifenydd llafurus a boneddigaidd y pwyll- gor, y Parch. Gwynoro Davies, Abermaw. Gweithiodd yn ddiflino, a chafodd dal da am ei lafurwaith trwy weled y cyfan yn troi allan mor hwylus. Ymgynullodd miloedd o bobl at y gofadail erbyn i o'r gloch, ac wedi i Mr Lloyd George gyflwyno Mr Morley i'r dorf, dadorchuddiwyd y gofadail yn nghanol cym- eradwyaeth uchel. Wrth gyflawni y seremoni, dywedodd Mr Morley,—" Fy nghyfeillion, dymunol fuasai genyf ddynwared Mr Lloyd George, a'ch hanerch yn yr iaith sydd, yn ddiamheuol, yn fwy cyfarwydd i lawer na fy iaith i. Yr ydym yma heddyw i ddadorch- uddio cofadail Thomas Edward Ellis, cyd- ymaith i mi, cyfaill i lawer o honoch, dyn yn llawn o ansoddau rhagorol, ac yr ydym yma i ddadorchuddio cofadail sydd wedi ei chodi yn ymyl y cartref roddodd fodolaeth iddo, ac yn agos i'r fan lie y gosodwyd ef i orwedd, i ddangos eich gwerthfawrogiad o'i wasanaeth i'w wlad, ac o'ch teimlad i'w goffadwriaeth." Wedi hyn cyflwynwyd y rhodd i Gynghor Dinesig y Bala, aderbyuiwyd hi gan Mr Evan Jones, Y.H cadeirydd. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neu- add Buddug, ac fel yr ofnwyd yr oedd y neu- add yn llawer rhy fychan. Yma y prif siar- adwr ydoedd Mr John Morley. O y deyrn- ged bendigedig dalwyd ganddo i Tom Ellis. Olrheiniodd ei hanes o GynJas i Rydychen, oddiyno i'r Senedd, ac yr oedd pob gair a ddywedodd yn dod o'i galon. Anhawdd i fuasai cael gwell araeth o barch i goffadwriaeth Mr Ellis. Dywedodd Mr Morley ei fod wedi dadorchuddio dwy gofadail yn flaenorol i hyn,-un o John Bright, yn Rochdale, ac un arall o Gladstone, yn Manchester. Yr oedd y rhai hyn yn ddynion wedi eu han- rhydeddu yn eu hamser, pa rai a ymladdas- ant y frwydr, a gadwasant y ffydd, ac a or- phenasant eu cwrs. Ond yr oedd yspryd yr amgylchiad presenol yn wahanol Torwyd cwrs Mr Ellis yn sydyn, ond er wedi ei dori i lawr ymladdodd yn ddewr. Tarddodd o ddechreuad cartrefol ond teilwng iawn. Un o'r werin ydoedd, ac nidanghofiodd byth mo hyny. Tra yn Rhydychen cafodd, nid y gwybodaeth yn unig, ond gwnaeth lu o gyf- cHy eillion. Aeth drwy ddyddiau cyfy°8 gjjj ryblus yn ddigyfnewid, yn cael el seren Ogleddol dyledswydd gyhoedau mygid ef, ac nid oedd modd peidio Byd anhawdd iawn ydyw y byd Pc)lltlc id- Yrr oedd gw.eidyddiaeth plentynaidd, yddiaeth gwael, a gwie:dyddiaeth hunanol, a heddyw tciuilai awydd je[d- gwleidyddiaeth gwrthun. Nid oedd g yddueth Mr EHis yn un o'r rhai hy1- ^jd orthwyodd i gadw ffrydiau goreu y Ryddfrydcl i redeg yn ystod eu blyoy tywyllaf.. jvlorley Y mae yr olygfa cyn ac wedi 1 ^ViI ar siarad yn annesgrifiadwy. Codai Y betlaul eu traed, bloeddiasent, a chwifient eu alysg. a'r brwdfrydedd mwyaf yn ffynu yn f vDodd Wedi i Mr Morley ddiweddu cytt ?o £ jyo William Evans, Ysw., Birmingham) hardd o Mr Ellis i Mr Morley, a cb^°tb M' odd yntau mewn geiriau pwrpasol. neUadd Lloyd George a Mr Morley allan_o r yn nghanoi banllefau y dori, a cyfarfod dilynol yn yr un lie. ^D20fadaf cyfarfod drachefn ar yr heol gerllaw y j^rj, Anerchid yr amrywiol gyfarfodydd Igc; mood Ellis J, Griffith. Herbert Lewis,|Ub j, Williams, Frank Edwards, S. T. hJ 'J'seO Herbert Roberts, ac amryw Aeloda" eddol eraill. y bo' Y mae y cyfan drosodd yn awr, y wedi dychwelyd, a'r cerflun rhagrMercber ei ddangos i filoedd. Bydd|ddydd yn ddiwrnod a hir gofir gan y rhal ° fyd^ y Bala, ac efallai mai y gofadail y llusern i oleuo rhyw fachgen arall o i ddilyn camrau daionus Tom mV?eWr yw crybwyll, fod cannoedd lawer 0 J/-v0laS^ wedi myned i Gefnddwysarn i weled j Man fechan ei fedd." Diameu 0 y ddeigryn o hiraeth wedi syrthio ar ej bachgen dewr a roddodd ei fywyd jQrf'ar wlad. Y fath deimlad aeth drwy y 0dodd yr heol yn y Bala y prydnawn pa° p Mr Lloyd George fab bychan et0 arwr i'r golwg. Pwy wyr nad efe ryw ddydd a ddaw yn llanw sedd jjyo sedd ei dad yn Senedd Prydain Fawr. fo i fraint. WJ1). Y Bala. E.

Advertising