Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

COFADAIL TOM ELLIsT

News
Cite
Share

COFADAIL TOM ELLIsT Y DADORCHUDDIAD. HEDDYW bydd y lien sydd yn gorchuddio cerflun Thomas Edward Ellis yn cael ei thynu ymaith, gan ddatguddio i'r miloedd y gwr a wnaeth gymaint dros Gymru. Bydd enw Tom Ellis ar wefusau llawer y dydd hwn, nid yn y Bala yn unig, ond mewn llawer tref a phentref Ile y siaredir Cymraeg, a phwy wyr nad y Gofadail hon ar Brif Heol Athen Cymru fydd yn symbyliad i rhywun neu rywrai eto yn y dyfodol i fod o les i Gymru ? Cymer seremoni y dadorchuddio le am un o'r gloch. Wedi cael araeth gan Mr Lloyd George, A.S., dadorchuddir y gofadail gan y Gwir Anrhydeddus John Morley, A.S. Yn dilyn hyn cyflwynir hi i gadwraeth Cyngor Dinesig y Bala, a derbynir hi gan y Cadeirydd Mr. Evan Jones, U.H. Wedi hyn ymneillduir Victoria Hall, lie y cynhelir cyfarfod cyhoedd- us. Anerchir gan Mr. John Morley,Mr. Lloyd George, Dr. Horton, y Prifathro Roberts, ac amryw Aelodau Seneddol. Y mae y babell wedi ei chodi mewn cae cyfleus yn Ffrydan Road, ar y ffordd i Athrofa Dduwinyddol y Bala. Wrth i'r ymwelydd fyn'd a dychwelyd i'r cae gwel Ysgol Ganolraddol y Genethod, ar un llaw, a Llyfrgell Rydd y Bala, ar y Haw arall-dau sefydliad ag y gweithiodd Tom Ellis yn egniol drostynt. Gydag addysg, yn benaf, yr enwogodd y diweddar Seneddwr ei hunan, ac y mae 61 ei lafur i'w ganfod bell- ach mewn llawer tref yn Nghymru. Y mae Ysgolion Canolraddol Cymru yn gofgolofnau rhagorol i un a aberthodd ei fywyd megis dros iawnderau plentyn y gweithiwr i gael mynediad iddynt.

YR ARWR TOM ELLIS.

[No title]

Advertising