Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

COLOFN Y BEIRDD.

News
Cite
Share

COLOFN Y BEIRDD. Er serchus gof am MRS. JONES gynt o Penygeulan, Bettws G G. Awen dyner lleda'th edyn, Tyrd yn wylaidd at y bedd, Lie mae Kity Jones yn gorwedd, Yno am enyd gwna dy sedd Ceisia dremio ir gorphenol, Gwel fel' roedd hi yma'n byw, Dyna fywyd rvdd esboniad Ar ddedwyddwch plentyn Duw. Ar y ddaear hi fu'n rhodio, Do, am lawer blwyddyn faith, GwelodO droion ebwei,w'r yrfa, Teimlodd holl flinderau'r daith Ond awelon bryniau Canaan, Iddi roes adfetiad llwyr, Wadi teithio glynoedd tvwyll Daeth goleuni yn yr hwyr. Fe fu ganddi ar y ddaear, Amryw o gyfeiilionHon, Ond daeth adeg rhaid oedd iddynt Droi yn ol yn swn y don Murmur tonau afon angau Oedd yn tori ar ei chlyw, Hithau g'wnebu'r lli yn eon Ar sail addewidion Duw. Yn ei bywyd eanfu Gyfaill Yr hwn drosti ei fy wyd roes, Glynodd wrtho ac mewn 'stormydd, Cafodd noddfa dan ei groes Pan gyrhaeddodd awr marwolaeth Cyfaill ydoedd hwn o hyd, Yn ei gol hi aeth yn dawei I ogoniant arail fyd. Wedi oes o groesi'r anial Gorphwys mae mewn perffaith hedd, Eo] noswylio ca'dd fynediad Helaeth, i drigfanau nef; Y mhlith myrdd o seintiau gwynion, Mhell o gyrhaedd briw na loes Mae hi heddyw dan ei choron Yn dyrchafu gwaed y groes. Llandderfel. GWILYM DERFEL.

Cyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd.

DEAR BREAD.

Advertising